Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
petition$ln>en.
petition$ln>en. Y BRENIN IORWERTH VII. O cadw'n Brenin ni, Dan goron parch a bri, Ti Frenin Nef; Ar Orsedd Prydain Fawr, Addurn gorseddau'r Ibwr, Dau lewyrch nefol wawr, O cadw ef, Yn Dariau iddo bydd, Nes diffodd haul ei ddydd Yn ngwawl y Nef; O cadw, Ddwyfol Dad, Ein Brenin rhag pob brad, Hon ydyw gweddi'n gwlad 0 cadw ef. BERW.
DYFERION DIRWESTOL.
DYFERION DIRWESTOL. Y SEN ED I) A'R FASNACH. Y peth sohraf am dano ydyw fod 30 o aelodau 4y y Cyffredin yn fragwyr a distyllwyr. a lluaws ifiawr eraill yn meddu'r fath fuddiant arianol Yl1 y Fasnach ag a'n gwnant yn slynion i bob tnesur o ddiwygiad dirwestol. Ni fu nerthoedd y Kasnach Feddwol, tufewn a thuailan i'r ^enedd, yn fwy unol a threfnus nag ydynt neddyw—y mae pob adran 0 honi wedi ym- Kynghreirio, fa thrwy gyfalaf a'i ddylanwadau afiach wedi gweu rhwyd am y wlad yn ddiar- wyboct iddi ei hun Rhagwelid hyn gan y fcwylwyr dirwestol -ond er gwaeddi o honynt, Rorchymynwyd i'r seindyrf chwareu, ac i'r tabwrdd mawr Gwladgarwch' ac Imperialism gael ei guro, a churo y mae hyd heddyw ond fod y swn yn lleihau peth, y wlad yn 5. ?i a swn arall, annifyrach, yn dechreu l!!«gyn ar ei chlyboedd. Y GYMDEITHASAU DIRWESTOL. lieb gyfalaf, fel pleidwyr y Fasnach, nac mor \{ydd o lawer i ymgynhreirie, maent eto yn o^Heyd eu heithaf, pob un yn ol ei goleuni, i #0r llygaid y wlad i'w phrif berygl. Un peth oarodd bryder dwys iddynt ar hyd y llynedd ydoedd, beth i'w wneyd alr hyn a elwid yn 'Adran yr lawn yn Adroddiad Arglwydd Peel Y mae'r United Kingdom Alliance, ar ol hir ymdrafod, ac yn erbyn barn bendant ei llywydd craff Syr Wilfrid Lawson.Swedi penderfnu arddel yr egwyddor newydd tra y deil Urdd y Teml. wyr Da yn ddisyfl at yr hen safle, gan weled perygl andwyol yn nghydnabyddiad yr eg. wyddor o gwbl, er i'r iawn gael ei ddarpar gan y tafarnwyr eu hunain—ie, y tro cyntaf, ebe'r Temlwyr Da, ondgan bwy wed'yn, tybed ? Ie, gan bwy wed'yn ?
LLAW-DDEWINIAETH.
LLAW-DDEWINIAETH. *Yn Llys yr Ynadon, Manceinion, ddydd r^Wrth, cyhuddwyd y Proffeswr Whitehead o Ylrlarfer llaw-ddewiniaeth. Y tyst cyntaf a ddywedodd i'r amddiffynydd archwilio ei Haw frYda chwyddwydr bychan. Dywedodd y dew. lowr wrtill y byddai iddi gael cyfeillion yn fuan, y byddai ei thad fyw hyd nes bod yn bedwar ugain rolwydd oed. Ond dywedodd hi fod ei thad wedi marw pan oedd yn ddeng mlwydd a thriugain oed. Dywedai Whitehead wrthi y derbyniai gynygiad i briodi pan fyddai yn un jttlwydd ar ddeg ar hugain oed. y byddai iddi briodi cyn i'r flwyddyn fyned allan, ac y cawsai o blant. Tyst arall, gwraig weddw, a dyst- Jolaethodd i'r cyhuddieJig ddweyd wrthi y deuai i feddiant o arian pan y byddai yn bum' mlwydd a deugain oed, ac y priodai pan rhwng 55 a 56 mlwydd. Dywedodd Whitehead ddarfo iddo, yn ystod saith mis, draddodi S4 o edarlithiau yn egluro ei athrawiaeth, a thrwy hyn honai nad oedd wedi twyllo deiliaid ei i'r coitau! bynag' dirwi'wyd ef » 2os.
PEEL A BYRON.
PEEL A BYRON. Yr oedd Syr Robert Peel ac Arglwydd Byron yn ddau fachgenyn yn y brifysgol yr un amser, ond fod Bryon dipyn yn lai na Peel. Un diwrnod ) r oedd Peel yn cael ei guru yn dost gan fachger.yn ymladdgar. Safai Byron gerllaw yno yn edrych, nes oedd ei gal on yn friw a'i lygaid yn 11a wn dag L, u, ond y: oedd yn rhy fychan iallu gwrthsetyll y curwr. Ondaeth ytnlaen ato, a gofynodd Pa saw! ergyd ydych Y"i iiiyiied ilw roi eto ?' 4 Beth yw hyny i ti, y rascal bach ebai y curwr. Ydi, os gwelwch yn dda,' ebai Byron, I achos yr wyf fi am gymeryd eu haner.'
RHACOLYGON TYWYlL tSWVDMNIAETH-
RHACOLYGON TYWYlL tSWVDMNIAETH- Nid yn ami y mae gwyddoniaeth yn arfer edtych ar yr ochr dywyll i bethau, ond pan y cYnler hyny le gallwri fod yn sicr fod yr am. «»y'ehiad, neu y rheswm o h.¡'ny, yn cyfreithloni Y golygiad a gymer. Gwelir ar ddechreu y 94nrif newydd yma fod ertiiyglau a Ilythyrau wedi eu cyhoeddi, y rliai sydd i gyd yn ymosod ar Brydain oherwydd ei bod mor ddifater Ynghylch y cwestiwn o addysg gelfyddydol a Jflasnachol. Nid yw Syr Henry Roscoe yn arfer a chwynfan uwchben daofeiliad cened- laethol yn ei lythyr yn y Times mae yn gwneyd "yny o ddifrif. Disgwylir yn fawr y bydd i'r tfcnedl wrando ar eieiriau a'u cymeryd, ynghyd eiddo yr Athraw Perry, at ei calouau. ^ywed Syr Henry os na bydd i ni osod ein ty veliedlaetliol mewn trefn, a gwella ein hunain ^ewn gwladweiniad a'n diwydion, 'gall ein Plant a'n hwyron weled Prydain yn syrthio i la\Vr i fod yo ddim ond Gallu yn y trydydd Kradd oblegid ar addysg, seiliau diwydion a "jasnach, y mae mawredd ein gwlad yn dibynu jyma eiiiau gweith myfyrio uwch ei peuau, °blegid maent wedi eu datgan gan un sydd yn ^rfer ystyried yr hyn a fynega ac mae llu 0 yyt enwo^ eraill yn cydweJed ag ef yn hollo] Ilr., mater. it
-,j..-AM BOBL A PHETHAU.
j.. AM BOBL A PHETHAU. Nifer marwolaethau y milwyr Prydeinig yn y rhyfel i ddiwedd y mis diweddaf, ydoedd 13,258. Yr holl golledion yn 54,724. Hysbysir fod y Dywysoges Saxe-Coburg wedi penderfynu, yn ngwyneb marwolaeth y Frenhines, i beidio cadw ty yn y wlad hon. Gweddw ydyw hi i Due Edinburgh. Gwrthododd Arglwydd Rosebery gydsynio i fod yn llywydd Clwb Rhyddfrydol Bristol, ar y tir ei fod wedi tori ei gysylltiad a phob plaid wleidyddol, Daifu i Gymry Llundain anrhegu Syr John Puleston fel cydnabyddiaeth o'i lafur yu sefydlu y gwasanaeth Cymreig ynEglwys Paul Sant ar noson Gwyl Dewi. Y mae y trefniadau gyda golwg ar briodas y Due Westminster a Miss Shelagh Corn- wallis West yn awr wedi eu cwblhau. Cymer yr aragylchiad le ddydd Sadwrn yr 16eg cyfisol. Cafodd y Proffeswr Lloyd Snape, D.Sc., Ph.D., yr hwn fu yn Broffeswr Fferylliaetli yn Ngholeg Aberystwyth am y deuddeg mlynedd diweddaf, ei apwyntio yn Arolyg- ydd Addysg Sir Luncastei. Yn nheyrnasiad Harri YIII, y deehi eu- wyd galw y Brenin wrth y teitl Eieh J\lawrhydi.' Cyn hyny gelwid y Brenhin Ei U chelder Brenhinol' fel y gelwir Ty- wysog Cymru. Ofna Arglwydd Curson i newyn avail dori allan yn India eleni, er y bydd ar raddfa llaroer llai. Dernir y costia y newyn eleni filiwn o bunau, yn erbyn yr amoangyfrif cyntaf o bum' miliwn o bunau am y newyn diweddaf. Bwriedir codi trysorfa at anfon 50 i 60 o gynrychiolwyr Llafur i'r Senedd, a disgwylir swllt y llaw y flwyddyn oddiwrth weithwyr yr Undebau Llafur tuag at yr amean. Cymerir pleidlais ar y mater gan aelodau Cyngrair Mwnwyr Deheudir Cymru. Fel y canlyn yr englynodd Tafolog wedi clywed am lwyddiant Golygydd y Farddon- iaeth yn Ffestiniog:— Mawr awenfardd Meirionfa,-ali Udgorn Yng nghadgyrch beirdd Gwalia, Yn fardd-deyrn am friedd da, Drechodd yr awdwyr ucha. Addawa Mr. Austin Chamberlain, ysgrif- enydd y Trysorlys, 4,000p. eto y flwyddyn hon at dreuliau Prifysgol Cymru, ond dis- gwylia y bydd derbyniadau y brifysgol yn y blynyddau dyfodol yn ei galluogi i gario ymlaen ei gwaith ar lai o gynorthwy oddi- wrth y Llywodraeth. Yr oedd gan y ddiweddar Frenhines Vic- toria naw o blant, ond ni bu ond chwech o honynt fyw ar ei hoi hi. Bu naw o wyron ac wyresau, hefyd, farw, gan adael un ar ddeg ar hugain, a dau ar bymtheg ar hugain o orwyrion a gorwyresau. Y mae un o'r rhai diweddaf, y Dywysoges Fedora, wedi priodi. Yr oedd disgynyddion oedd gan y Frenhines yn fyw pan y bu hi farw yn rhifo pedwar ar ddeg a thriugain. Bydd yn eemwythyd i'r lhai oedd mor awyddus am i'r teitl 0 Dywysog Cymru gael ei roddi av etifedd y Goron, y Duo York, ddeall y oaniateir y teitl iddo yn y man. Bydd yu cael ei alw felly ar ol ei ddychwel- iad 0 Awstralia. Daliodd y Brenin Edward VII, y teitl mor hir fel y bernir yn addas i yepaid o amser basio cyn adnewyddu y teitl ar ei fab hynaf. Gohebydd Reuter a ysgrifena o Efrog Newydd i hysbysu fod gweithiau dur Mr. Carnegie wedi eu gwerthu i Mr. J. Morgan a'i gwmni. Nid ydyw amodau y pryniant wedi eu gwneyd yn hysbys. Yr oedd Mr. Carnegie yn dal cyfranau o yn agos i 54 y cant allau o'r can' miliwn a thriugain. Ym- ddengys mai yr amcan mwyaf mewn golwg ydyw sicrhau mwy o lwyddiant i fasnach y dur yn yr Unol Dalaethau. Un o'r pethau mwyaf gwaradwyddus yroes yw ymlygriad papyrau crefyddol Lloegr yn eu gwaith yn pleidio y rhyf el an-Nghristion- ogol yn Ne Afirica. Nid oeddym yn disgwyl yn amgen oddiwrth y papyrau Eg- lwysig, ond wele yr oil o'r rhai gYmneillduol bron yr un mor waedwyllt. Ystumiant i'r amseroedd er mwyn sicrhau cylchrediad. Mae'rhai o honynt yn awr yn llimaru tipin ar eu hysgrifau bygylog am fod y wlad yn troi at heddweh.
YMWELIAD SIMS REEVES A BEDDCELERT.
YMWELIAD SIMS REEVES A BEDDCELERT. GAN GWILYM EIWRI. Yn yr amser gynt cyn i chwaeth a synwyr gael eu chwalu i'r pedwar gwynt, yr oedd hen ardal dawel, brydferth a swynol Beddgelert yn atdynfa i'r prif ddarlunwyr, athrylith, henafiaethwyr, awenyddion, lien- orion, ^cerddorion, ac i holl gyfoethogion a mawrion Prydain Fawr. Yr oedd Gwesty yr Afr (Royal Goat Hotel), gyda'r yr oreu yn Nghymru yn y dyddiau hyny. Yr oedd perchenog Gwesty yr Afr yn perchenogi yr Erw Fair, ac yn rhentu Plas Colwyn a'r Ty Ucha, gyda'r amcan o'u hail osod i deulu- oedd neillduol, y rhai fyddai ganddynt weision a morwynion, ceffylau a cherbydau. Cymerwyd yr Erw Fair gan y cantwr mawr Sims Reeves a'i deulu lluosog yn haf 1863. Yr oedd J r Erw Fair yn bias hynod gyfleus i deulu o'r fath gydag ystftbl dda, ty cer- bydau a gardd fawr brydferth. Yr oedd Ty Gwyn y ty nesaf i'r Erw Fair, adyma ddywed Dafydd, Ty Gwyn, wrthyf yn ei lythyr ar y pwne Yr oedd Sims Reeves yn gymydog i fy mam, yn byw yn y (hws nesaf, a chymydog diflas ofn&dwy ydoedd hefyd. Byddai ef neu ei wraig yn ein ty ni beunydd yn benthyca l'hywbeth neu gilydd, a byth yn son am dalu adref. Yr oedd ar y brawd lawer canwyll ddimai a llawer potiad o de i fy mam—yr hen walch drwg.' Yr oedd Sims Reeves yn cymeryd dydd- ordeb neillduol yn y golygfeydd arddunol. yn ac oddiamgylch y pentref. Nid oeddym ni yn gweled dim neillduol ynddynt, mwy nag oedd yntau yn ei ganu, ond yr oedd prydferthweh y cymoedd a gogoniant yn ei ganu. Bum yu ei gwmni luaws o weithiau, ac yn arweinydd iddo amryw adegau, ac yr oedd yn gydymaith dyddan. Byddai byth a hefyd yn treio ei lais, la, la, la, lw, yn enwedig tra ar ein teithiau unigol. Cymerais ef a'i deulu i grombil mwn Bryn Felin, a buorn yn cystadlu a'n lleisiau yno. Credaf i mi fod yn fuddugol bob tro, ond ni fynai ef. Cymerais ef i ben Bryn Du, uwch gagendor Pass Aberglaslyn. Dyma yr olygfa brydferthaf a welodd yn ei fywyd. Yno y clywais ef yn rhoddi allan ei lais fel efe ei hun, a'i lais ei hun am y tro cyntaf. Fy ffwlio gefais cyn hyny. Ei amcan ar ben Bryn Du oedd cael allan a chlywed echo creigiau Cymiu, a chyffelybu y cyfryw a chreigiau Switzerland. Gwnaeth i minau roddi allan fyllaif3-tra,la, la, lei, di, &c. Yr wyf yn credu fod creigiau Cymru yn deall llais y Oymro yn well na hyd yn nod llais Sims Reeves, gan i'r hen lwynog ddweyd i mi ei guro yn y fan hono, er mai o'r braidd yr oeddwn yn ei gredu. Cefais hefyd y fraint o fod yn ei gwmni ef a'i deulu i dalu ymweliad a brenhines yr Ei-yri, sef y Wyddfa fawr, Yr oedd yn ddiwrnol hyfryd a chlir. Cofiaf yn dda am y ffrwgwd parth dowis arweinydd i gymeryd gofal y fintai a'r merlynod, ond Robin Dick ddewiswyd, gan fod Robin yn fwy o Sais, ac yn heiuif ar ei draed fel shiontyn y gwair. Yr oedd ganddo lais digyffelyb, a llon'd ei gorfi o ysgyfaint. Yr oedd genym w'yth o ferlynod, pob un a'i ferlyn, ond y guide. Ymaith a ni. Oafwyd hwyf iawn tra yn croesi Bwlch Main—i'r rhai sydd yn gyfar- wydd ag esgyn i ben y Wyddfa o ochr Beddgelert cofiant am y lie. Ni fynai Sims Reeves ei groesi; efe oedd y llwfryn gwanaf (fel mae y cantorion yma i gyd ar dywydd mawr). Corfu i Robin Dick roddi mwgwd dros ei lygaid a'i arwain dros y Uecyn minau yn canu tra la, la, lei di. ac yn hamddenol farchogaeth fy merlyn. Wedi cyraedd pen y mynydd mynais gan Robin Dick dreio ei lais er deifro echo caru- aidd Egau. Gwnaeth, a chlywyd yr echo yn y pellder. Ceisiodd Sims wneyd ond i ddim pwrpas. Edrychodd ar geg Robin Diok, ac i fewn iddi, ac meddai, Y mae hwn yn ogof ynddo ei hun, ac ynddo ef y mae yr IchQ. Gwna. hwn ddigon 0 fiwgler i holl fyddin Prydain Fawr. Aethom yn fintai i lawr i Lanberis, a chan fod Sims Reeves wedi cael ei swyno mor 11 wyr gan adseiniau y mynyddoedd, cymer- ais ef a Robin Dick i sefyll uwchbeu Ologwyn Coch. Nid oes yn yr holl fyd well llecyn i glywed echo nag oddiar y Clogwyn Coch. Pan roddir y llais allan clywir echo yn eich ymyl, ac atebir ef gan glogwyn y Gigfran, ac oddiyno gan glogwyn Cwm Du, nes cynyrchu Haleliwia Chorus yn y lie. Yr oedd Mr. Reeves dros ei ben mewn myfyrdodau. Ysgrifenodd ryw bethau ar bapyr ar y pryd. I lawr a ni oddiyno i'r Victoria Hotel, Llanbeiis, lie yr oedd lluaw8 yn ei ad well. Aeth y si fel tan gwyllt trwy yr holl ardal, a cliyn i'r trigolion ddelfro yr oeddym mewn cerbyd ya carlamu heibio Ty'n Llan, Pen Pass, Pen Gwrhyd, tnvy Nant Gwynaut, yu ol i'r Bodd, Gwnaed ymgaig lawer gwaith arno i ganu mewn cyngherddau tra y bu yn aros yn y Bedd., ond gwrthod wnaethbob cynyg. eithr cyn ymadael rhoddodd wahoddiad i'r holl ardal wyr i gydwledda er dathlu pen blwydd ei fab. Gosodwyd byrddau yn rhesi ar faes Buarth Gwyn, a ohyfranegodd canoedd ar de a bara brith. Yr oedd Sims Reeves a'i holl dylwyth a'u holl egni yn gwasanaethu y byrddau. Wedi hyny aed ati i chware campau, rhedeg rasus, neidio, dringo, &c., ac yn yr hwyr caed tan gwyllt. Doctor Coch, Portmadoc, oedd cadben y seremonies, ac nid oedd ei well yn y wlad. Ar y diwedd canodd Sims Reeves oddiar blatform 'God Save the Qneen,' nes deffro holl ddefaid a geifr holl gymoedd Eryri, ac fel y dywedodd Dafydd Ty Gwyn 'Heb betruso iddo glywed God Save the Queen yn cael ei chanu unwaith yn ei fywyd, ac er fod yn agos i ddeuarain mlynedd er hyny, y mae y swn yn ei glustiau hyd y dydd hwn. Yr oedd ei ganu yn oruwchnaturiol, a hen graig y Llan yn ei ddilyn gyda llaia bron mor glir ag yntau. Yr oedd yn rhaid iddi hi gael bod rhyw un nodyn ar ol iddo ef.' Cafodd Gwilym a'i chwaer Ann, a Dafydd, wahoddiad i dalu ymweliad ag ef a'i deulu yn ei gartref yn Llundain. Atebwyd i'r alwad. Oafwyd pob croesaw dichonadwy yn ei fwthyn hardd. Dyna yr olwg olaf a gefais ar Sims Reeves, ac y mae yntau erbyn hyn wedi croesi'r terfyn.
ANNIBYNIAETH
ANNIBYNIAETH YN DINAS MAWDDWY. GAN TEGWYN. XI. Dyfynwn eto o'r Conant er pron mor llwyddianus fu y achos yn nghyfnod ei wein- idogaeth. "Yr ydym yn gweled,oddiwi-th y oofnodioD, ddarfod iddo gael yr Hyfrydwch o dderbyn, drwy gyfamod neu adferiad, yn ystod ei weinidogaeth gynifer a 415 o ber- sonau i gymundeb yr eglwysi; yn gwneyd y cyfaitaledd o 14 a throsodd, am bob blwyddyn y bu yn gweinidogaethu. Y blynyddoedd mwyaf aflwyddianus fu ar yr achos yn y cyfnod hwn oedd 1853, 1864, 18$1, ac ni dderbyni wyd cymaint ag un yn 1862. Cawn mai y blynyddoedd mwyaf llwyddianus, a gadael allan y bynyddoedd a roddasom eisoes, oedd y rhai canlynol:— 1858. pryd y derbyniwyd yn ycylch 2iobersonau. 1859 (blwyddyn y Diwygiad) 60 „ 1865 ac 1866 21 p 0 1876 26 „ 1877 .25 Yn y cyfnod yma y bu yr Ysgol Sabbothol fwyaf llwyddianus Ymddengys fod yma gynydd cyson a pharhaol drwy'r blynyddau. Mae hyn yn beth mawr mewn cylch fel y Dinas. Mewn lleoedd gwledig fel y cylch yma, y mae symud- iadau yn fawr. Ped arosasai yr holl bersonau a fagwyd ac a dderbyniwyd yn y gymydogaeth, buasai yr achosion yn y cylch yn Uawer mwy blodeuog nag ydynt yn bresenol. Undeb Ysgolion. Yn y flwyddyn 1854 y cychwynwyd Undeb Ysgolion yn y cylch, yr hwn sydd yn para yn allu mawr eto gyda'r achos. Y prif symudydd yn nghychwyniad yr Undeb oedd Richard H. Rowlands, Tygwyn. Dyn call, doniol, a thra medrus oedd. Efe oedd ysgrifenydd cyntaf yr Undeb. Bu am flynyddau -lawer gyda'r achos yn y Dinas a bu yn ddefnyddiol iawn yn ei dydd. Bu yn cadw ysgol ddyddiol droion yn yr ardal. Magodd amryw blant, y rhai a ddaeth yn enwog mewn cerddoriaeth Un oedd John H. Rowlands, Dinas Efe a benodwyd ar ol ei dad yn ysgrifenydd Undeb Ysgolion. Gwnaeth y gwr hwn wasanaeth gwerthfawr i gerddoriaeth yn y cylch. Nid anghofiwn y llafur aeth drwyddo gyda chyngerddau yr amser y codwyd addoldy presenol y Dinas. Brawd iddo hefyd oedd James H. Rowlands (Asaph Glan Dyfi). Daeth:i enwogrwydd cenedl- aethol fel cerddor, yr oedd yn gyfansoddwr gwych, yn lleisiwr da, arweinydd medrus, a beirniad cymeradwy a gonest; yr oedd hefyd yn lienor galluog, a Christion gloew. Bu farw yn 65ain oed yn Hydref 7fed, 1890. Ar ol John H. Rowlands, cymerodd y Cadeir-fardd, John Jones, Llwynygrug, y swydd o ysgrifen- ydd yr Undeb am 15 mlynedd. Ar ei 01 ef, cyflawnwyd y swydd gan R. Evans, siop, ac ar ei ol yntau, ei frawd E. Evans. Plentya yr Undeb hwn, yw yr wyl a gynhelir y Groglith yn flynyddol. Fel hyn, y mae y gwaith mawr yn myned rhagddo. Rhyw bryd tua'r flwyddyn 1859, meddyliwyd am gael capel newydd yn y Dinas, oherwyad fod yr hen gapel yn bur adfeiliedig, a'r eglwys wedi cynyddu yn fawr. Heblaw fod yr hen gapel yu aflerw yr olwg, yr oedd hefyd wedi ei adeiladu ar lethr dra pheryglus i'r hen a'r methedig. Nid oedd yr hen Ymneillduwyr yn rhyw ofalus iawn pa le y codent eu capelau. Peth mawr oedd.ei gael yn rhywle yn yr oes hono. Modd bynag cafwyd tir yn y man mwyaf cyfleus yn y Dinas, gan Syr Edmund Buckley; :ac o hyn hyd y flwyddyn 1868, yro- roddwyd gydag egni a dyfalwch i gasglu ato; fel erbyn dydd ei agoriad yn hat 1868, yr oeddynt wedi llwyr dalu an dano. Yc oedd y draul, heb gyfrif yr cludiad, yn i,042p. 16s. 8c. Dyma or-orchestwaith yn wir. Gwelwn faint fedr pobl gyffredin wneyd, ond iddynt feddwl o ddifrif ar y peth. Yn fuan ar ol hyn, sef yn y flwyddyn 1873, ymgymerwyd ag adeiladu ty i'r gweinidog i fyw, cafodd y frawdoliaeth le cyfieus iawn yn vmyl y capel i adeiladu arno gan y diacon ffyddlon, Morris Evans, Siop. Costiodd y ty hwo 367p. Mae vn dy hardd, cyfleus, a galwyd ei enw yn dra phriodol, Bugeilfod Yn y flwyddyn i899,glanhawyd a phaentiwyd ycapel, fel y mae yn edrych yn hardd. Costiodd hyn eto oddeutu 6op. Dengys y pethau hyn fod yr achos yn myned rhagddo yn llwyddianus. Bu yma, yn y cyfnod hwn eto, Gymanfa ragorol. Cynhaliwyd hi yn Mehefin 16eg a'r 17eg, 1875, pryd yr oedd yma gynulliad lluosog o weinidogion a diaconiaid y sir, a thyrfa o bobl na welWyd, mae yn debyg erioed, un mor fawr yn y Dinas. Cadeirydd am y flwyddyn hono oedd yr hynaws a'r Ilafurus, y Parch. D. Griffiths, Dolellau.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. DARLITH. Nos Fawrth, traddododd Dr. Williams ddarlith alluog a'r Iechyd,' i ael- odau yr Ambulance. Yr oedd nifer dda wedi dod ynghyd, a mwynhawyd y ddarlith yn fawr. FFAIR. Cynhaliwyd ffair Chwefror dydd Mercher. Yr oedd nifer fawr o ffermwyr a phrynwyr, &c., yn bresenol. Yr oedd galwad gweddol am wartheg, er mai braidd yn isel oedd y prisiau yn nechreu y ffair, ond ceid prisiau da at y diwedd. YN Dr)IOGEL.-Betil amser yn ol, lledaen. ystori fod y Private Harries, mab diweddar orsaf-feistr y dref hon, wedi cael ei glwyfo yn y rhyfel. Da genym ddeall fod llythyr wedi d'od oddiwrtho i'w rieni yn hysbysu, er ei fod wedi bod mewn amryw frwydrau nad yw wedi derbyn unihyw niwed.
ABERMA W.
ABERMA W. Parhaodd yr Eglwysi Rhyddion i gynal eyf. arfodydd diwygiadol yr wythnos ddiweddaf, ao yr oedd y cynulliadau mor lluosog a'r wythnos gyntaf; ac mae'r cyfarfodydd yn profi yn fen. dithiol iawn. YR ODYDDION.—Dydd Mawrth, cynhaliodd Cyfrinfa Odyddion Mawddach ei gwledd flyn- yddol. Yr oedd y darpariadau wedi cael ei gwneyd yn Ngwesty y Marine. Yn dilyn y wledd cafwyd cyfarfod amrywiaethol dyddorol, yr hwn a lywyddid gan Mr. Jones, y Banc. Mae y Gymdeithas hon, a sefydlwyd yn 1892, mewn sefyllfa ragorol, ac yn parhau i fyned ar gynydd mewn rhif a chyfoeth.
COMMINS OOOH
COMMINS OOOH Cynhaliwyd yn Ysgol y Bwrdd nos Iau y 7ted cyfisol Swper Faweddog o De a Choffee dan nawdd boneddigesau yr ardal, pa un a drodd allan yn llwyddiant mewn poblogrwydd a hwyl anarferol. Cafwyd gwledd heb ei hail o bob danteithion. Wedi clirio y byrddau cafwyd math o Conversazione a chyngerdd 0 dan ar- weinyddfeeth fedrus Mr. D. J. Owen, Tafol- wern, Cymerwyd rhan gan Mr. D. B. Evans, Perdonyddwr, Cemmes, Miss Nellie Lewis, Gwastadgoed, Miss Rosa Davies, Bryntirion, H. Williams, Machynlleth, J Williams, Eos Maldwyn, a'r cerddor ieuanc, Joe Howells, Commins Coch, a chan Hen Wr a Hen Wraig o Aberdare (ni chawsom euhenwau), yngwerthu eurafalau yr elw o'r gwerthiant at draul yr Eisteddfod ddyfodol. Yn ystod y cyfarfod cafwyd dadl ddyddorol a neillduol o amserol gan blant yr ysgol o waith Mrs. W. E. Davies, Ysgol y Bwrdd. Cymerwyd hefyd ran flaenllaw a derbyniol gan Gramfihone Mr. T. Owen, Blue Bell, Machynlleth, dan ofal Mr. Pugh, Mr. Jones a Mr. Evans, arhoddasant eu gwas- anaeth am ddim. Bydd swm da o elw oddi- wrth y cyfarfod tuag at dreuliau yr Eisteddfod Gadeiriol yr hyn sydd yn galondid mawr i'r Pwyllgor, Ragleni pa un sydd yn barod. Ter- fynwyd y cyfarfod trwy i Mr. Joe Howells ddad- ganu 'Hen Wlad fy Nhadau.-Ap CyfeiliQg.
CORRIS UCHAF.
CORRIS UCHAF. Cynhelir Cyngerdd gan gantorion a phartion diwylliedig nos Wener nesaf, yn Ysgoldy Ty.Iny. berth, fel y gwelir ar y murleni. Yr elw at gynorthwyo tlodion yn yr ardal. Disgwylir cynulliad 11a wn
ABERGYNOLWYN.
ABERGYNOLWYN. BWRDD YSGOL.—Yn yr ysgoldy nos Wener. Mr. G. Evans yn y gadair. Datganwyd teimlad o golled yn ngwyneb marwolaeth ein- diweddar rasusaf Frenhines, a chydymdeimlad a'r teulu Brenhinol yn eu galar.Hysbyswyd derbyniad 4Ip. o'r dreth.—Caniatawyd cais y Band am wasanaeth yr ysgol ar un noswaith o bob wythnos, nr arnodau neillduol.-Caniata- wyd cais am feuLliyg yr ysgol i gynal cyfarfod gyda'r magic lantern.- Pasiwyd rhestr o lyfrau a nwyddau angenrheidiol at wasanaeth yr ysgol am yr haner blwyddyn nesaf.—Yr oedd yr adroddiad am y presenoldeb am y mis yn cyraedd o 89 i 90 y cant.—Derbyniwyd rhybudd y bydd archwiliad cyfrifon y Bwrdd i'w gynal yn Dolgellau, Chwefror 13eg.-Pen. odwyd Mr. W. Jones i ymweled a'r ysgol am y chwarter presenol.
TALYWERN.
TALYWERN. CYMDEITHAS LENYDDOL.—Nos Sadwrn di. weddaf, yn nghyfarfod y gymdeithas uchod, cafwyd dadl ddyddorol ar, Pa un ai lies ai niwed sydd yn ddeiUiaw oddiwrth ddarllen nofelau.' Darllenwyd papyrau llafurtawr: a galluog ar y ddwy ochr i'r cwestiwn gan Mri. John Williams ac R. Hughes. Cymerwyd rhan yn y ddadl gan Mri. John Tibbot, John Owen, a T. Wilson. Wedi rhanu y ty, cafwyd fod y mwyafrif o'r farn y call lies ddeilliaw eddiwrth ddarllen rhyw ddoozarth 9 aoftlau,