Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
tic, I gciuion 12r rvett.
tic, gciuion 12r rvett. VICTORIA, Yn Mosworth platnvyd mesen, Wnelai biif freuhinoi bu--> A mesen oedd o'n macs ni, 0 iawn ddar ein hen dderi. Felly, o Gymru mac'&: Rhin eu hanw/1 freuhinwaec1, A gerdd i sirioli'n gaio Wyneb wrid Banon Brydaiu 0 Gymro teg, mae'r gwaed da Yn naturiaeth Victoria EBEN FARDD.
Y BEDDROD BRENHINOL.
Y BEDDROD BRENHINOL. Mae y beddrod lie y rhoddwyd rhan farwol y Frenhines i orphwys yn un gorwych iawn. Adeilad hardd ac urddasol ydyw ar y tir bren- hinol yn Frogmore, ^er Windsor. Adeiiadwyd ef i dderbyn gweddillion marwol anwyl briod ei Mawrhydi, yr hwn fu farw Rhagfyr 14eg, 1861. Ni arbedodd y Frenhines Victoria draul i'w adeiladu a'i addurno, a dywedir i'r beddrod gostio iddi dros 20o,ooop pa SAm a dalodd o'i phoced ei hun. Mae yr adeilad ar ffurf croes Roegaidd ac mae tua 70 troedledd o hyd ar un lied. 0 dan y llawr mae vaults mawrion a dis- iddynt trwy risiau Yn un o'r vaults hyn mae y gareg sylfaen ac arni yr argraff hon G iJdwyd careg sylfaen yr adeilad hwn, a adeiladwyd gan y Frenhines Victoiia, er coffadwriaeth am ei phriod mawr a da, Mawrth ISfed, 1862. 1 Gwyn eu byd y rhai a huna nt yn yr Arglwydd. Mae grisiau marmor yn arwain i borth hardd yr adeilad, ac mae y muriau oddifewn wedi eu goreuio a llun engyl ya eagyn- y naill uwch y lIall-hyd y nen, ac mae ei nenfwd wedi ei arliwio i ymddangos fel yr awyr deneu las—yn dryfrith gan ser ac engyl euraidd. Mae y nenfwd tua 70 troedfedd o uchder a saif y beddfaen mawr o farmor du u dano—yn y canol." 0 bob tu i'r beddfaen hwn saif engyl, a'u hesgyll mawr o bres yn daenedig drosto Ar ochr dde i glawr y beddfaen mae delw o'r Tywysog Albert mewn marmor gwyn yn ei wisg fllwrol a'i urddau Neillduwyd yr ochr chwith i dderbyn gweddillion y Frenhines Victoria Wrth ben y porth sydd yn arwain i'r adeiiaii ceir yr ysgrif ganlynel mewn LlaJin Ei weddw alarus y Frenhines, a orchymyn- odd fod i'r oil sydd farwol o'r Tywysog Albert gael eu rhoddi yn y beddrod hwn. 1862, Ffarwel, fy anwylyd I Yma yn y diwedd y bydd im orphwys gyda tlii a gyda thi gyfodi eto yn Nghrist.
IORWEIRTH C0R0N0G.
IORWEIRTH C0R0N0G. Gan gyfrif o'r goresgyniad Normanaidd mae chwech lorwerth cyn yr un presenol wedi bod yn teyrnasu ar y wlad hon Bu tri lorwerth yn teyrnasu dros Loegr o flaen lorwerth y cyntaf; sel, lorwerth yr Hynaf, mab Alfred o 902 i 924. Y nesaf ydoedd lorwerth y Meithyr, llengcyn mab E(ilar yr hwn ar 01 teyrnasiad 0 dair biynedd a ladclwyd yn Ngh.;$t<«!l Corfe yn 978 Yna daw J lorwerth y Cynes.dd, saiit {West- minister a mab Ethehed y-. Anmarhod ac Emma, merch Rhisiart y Piofu. Due y Nor- maniad, trwy yr hwn y g wnaeth William y Concwerwr un o'i hawluu i oiscdsi Lloegr ar ol ei iarwolaeth yn 1066. lorwerth 1 (1272 —1307) ydoedd fab i liarri y III. Ete a ülehfygodd y T wiy \712^2 ac a gy^sylStou'd ein gwlad a ai dd^lanwad0edd y" WaWr a nertho1 ei allu lorwerth yr II. (1307-1327), mab Torwerth y I., ond gwr tra gwahanol i'w dad—Dyn diog a digymenad ydoedd. Fe'i llofruddiwyd yn Nghastell Berkeley, ac ni fu fawr o alar ar'ei ol. lor. y III. (1327—I377),fmab yr uchod ydoedd filwr dewr 0 gynieriad pur lan, ond ni feddai dalent ei daid fel Ilywiawdwr.-Bu llawer o ryfela dianghenraid 0 dan ei deyrnasiad ef- ond o'r diwedd gwrthododd y Senedd arian iddo gael cyflenwadau heb iddo et yn gyntaf ganiatau eu gofynion hwy-fal hyn y sefydlwyd un 0 brif egwyddorion y Cyfansoddiad Pryd- einig, sef cywiro camwri cyn trethu. lorwerth IV. (1461-1483).mab Rhisiart Due York—Ceisiodd hwn ddadblygu gallu y Goron ar draul iselhau hawliau y Senedcl-acheisiodd godi.arian heblawtrwy drethiant cyfreithlon—a dechreuodd weu rhwyd a fu yn fagl dinystriol i'w olafiad Siarl y I. yr hwn a gollodd ei ben. lorwerth V. (1843). Byr haues, sydd i hwn megis ei hoedl-Llofruddiwyd ef pan yn blentyn yn Nhwr Llundain-Dyna'r oil a wyr hanes am dano lorwerth VI. (1547-1553), mab Harri yr Wythfed. Derbyniodd y goron o dan ewyllys ei dad—Aeth y wlad trwy gyfnewidiad mawr o dan deyrnasiad hwn yn gytndeitliasol a chrefyddol ond erys enw lorwerth VI. yn benaf ynglyn a'i Lyfrau Gweddi a'r nifer mawr o ysgolion a sefydlwyd.
TALYWERN.
TALYWERN. C\MDEITHAS LENYDEOL.—Cynhaliwyd cyf- arfod y gymdeithas uchod nos Sadwrn di- weddaf. Dechreuwyd y cyfarfod gan Mr. Edward Humphreys, yna cafwyd adroddiad gan Mr. Timothy Thomas, wedi hyny, darlicn- odd y Parch. W. H. Jones, bapyr ar Wersi y. Ysgolion Sul am Chwefror,' yna cafwvd can gan Miss A. E. Jones. Terfymvyd y cylaiiou sail Mr, John Qwso -~W> H. J, i
AM BOBL A PHETHAU.
AM BOBL A PHETHAU. Hysbysir ar awdurdod y bydd i'r Brenhin agor y Senedd yn bersonol ar Chwefror 14eg. Un o'r gweithredoedd olaf wnaeth y Frenhines oedd anfon 5p. i deulu tlawd yn Ynys Gwyth, Cynhelir cynhadledd bwysig o feddygon yn Llundain yn mis Gorphenaf nesaf. Cyn- hadledd Tuberculosis' y gelwir hi. Ymysg y gwvr enwog a ddisgwylir y mae y Proff- eswr Dr. Koch, y gwyddonydd, o Berlin. Y mae yn debyg mai y baban a fedydd- iwyd gyntaf yn yr Ugeinfed Ganrif ydoedd yr uu y gweiuyddwyd yr ordinhad hono arno mewn capel perthynol i'r Trefnyddion Cyn- tefig yn Liverpool, bum' munyd wedi deuddeg o'r gloch olaf yr hen ganrif. Yn neohreu y ganrif costiai llythyr o Llundain i Aberystwyth naw ceiniog. Yn flaenorol i hyny, yn yr oesau rhamantus, colomenod oedd y postmyn, fel yn Rhian- gerdd Dyfed. Anfonid adar eraill, fel y byddai yn gyfleus. Yn Mrawdlys Norfolk, ddydd Mawrth, y tvaddododd yr Arglwydd Brif Farnwr Al- verstane ei ddedfryd marwolaeth gyntaf. Bachgen dwy flwydd ar bymthegoed ydoedd ar brawf. Teimlai y Barnwr yn hynod gynhyrfulI wrth draddodi y ddedfryd. Yn dra sydyn, dydd Mawrth, bn farw y Pareh. H. R. Haweis, ficer eglwys Iago Sant, Marylebcne, Llundain. Dydd Sul diweddaf, pregethodJ dair gwaith ar yr aoh- lysur o farwolaeth y Frenhines. Yr oedd yn lienor gwych swyn a symledd oeddynt nodwedd ei ysgrifau. Cynrychiolir y Dywysogaeth yn dda yn mherchenogaeth newydd y Daily News, Llundain, gan Mr. Lloyd-George, A.S., a Mr. William Evans, Birmingham, yr hwn sydd frodor 0 Dolgellau, ac enw yr hwn fu o flaen etholwyr Meirion a Chaerlleon, yn yr Etholiad Cyffredinol diweddaf. Profwyd ewyllys Proffeswr Alfred W. Hughes, King's College, Llundain, a fu farw Tachwedd 3ydd, yn 38 mlwydd oed, gan ei weddw Mrs. Mary A. A. Hughes, i'r hon y eymunroddir ei holl eiddo oddieithr ei 'holl teaching appliance,' y rhai a adaw- odd i GoLeg y Brifysgol, Caerdydd. Gwerth ei ystad ydoedd 7,832p. Gofidus gan bawb glywed fod rhai o of- rydwyr Colog Aberystwyth wedi anghofio eu huiiain i'r fath raddau nes creu stwr a ohanu caneuon ffol tra yr oedd Maer Aber- ystwyth yn cyhoeddi proclamasiwn dyfodiad Edward i'r Frenhiniaeth. Yr oedd y cyfryw yn fwy gwrthun oherwydd y diystyrwch deflid ar y Brenhin, yr hwn yw Canghellydd Prif- ysgol Cymru. Mewn rhai parthau o wlad Canaan rhydd gwareiddiad y Gorllewin gamrau breision iawn. Nid yn unig y mae Jerusalem, er enghraifft, wedi cael y march tan,' ond y goleuni trydanol, hefyd. Y mae yno ddau lythyrdy, y naill i'r Almaeniaid, a4r llall i'r Ffrancod. Gwneir ffordd gerbydau—well na phrif ffordd brenin yn yr hen amseroedd -i Nablous- Sichem y Beibl, lie y mae ffynon Jacob. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol cyfran- ddalwyr Reilffordd y Trallwm a Llanfair, j dydd lau. Ymddengys y rhagolygon am ei gwneuthuriad yn obeithiol. Cafwyd addewid oddiwrth y Llywodraeth am rodd o 14,500p. At yr addowidion wnaed gan gyrph cy- hoeddus a phersonau unigol, cyfrifir fod tua 6,000p. yn fyr i wneyd i fyny y cyfalaf angenrheidiol i'w chwblhad. Apelir eto am y swm uchod, a diau y llwyddir i'w cael.
Y CERDBOR A'R FRENHINES.
Y CERDBOR A'R FRENHINES. Gohebydd o Berlin a ysgrifena Cyfarfu Gohebydd a M. Paderewski, y perdonegydd byd-enwog, yr hwn a ddatganodd ei ofid o herwydd marwolaeth y Frenhmqu. Yn ystod ei ymweliad a Lloegr yn mis "Mehefin diweddaf, bu yn bohwareu o flaen y Fren- hines yn Nghastell Windsor, ac nid anghofia byth, ebai yr argraff a wnaed gan y ddeall- twriaetli a'r daioni, a'r dyddordeb a'r gwy- bodaeth o gerddoriaeth a ddangosodd y ddynes odidog hon ar yr achlysur. Holodd ei Mawrhydi am ryw ddernyn o gerddoriaeth a chwareuai o flaen ei Mawrhydi wyth itilynedd yn flaenorol, a chofiai hyd yn nod y dainau lleiaf, Nil gallaf ei anghofio
ANNIBYNIAETH YN DINAS MAWDDWY.
ANNIBYNIAETH YN DINAS MAWDDWY. GAN TEGWYN. X.. Bu yma hefyd Gymanfa lewyrchus iawn yn nghyfnod y benod hon. Cynhaliwyd hi Mehefin 9fed a'r lOfed, 1836. Pregethwyd ddwy noson cyn y Gymanfa "yn Bethlehem a Bethseida. Gweinyddwyd trwy y Gymanfa gan y Parchn. J. Griffiths, Rhydywernen; H. Pugh, Llandrillo; M. Jones, Llanuwch- llyn J, Lewis, Llanfairmuallt; J. Parry, Di-efnewydd E. Davies, Jerusalem; C. Jones, Dollgellal1; D. Price, Penbontfawr; J. Davies, Llitnftir; E. Griffiths, Llanegryn; 0. Owens, Bwlchnewydd J. Brecse, Caer- fyrddin; D. Morgan, Maohynlleth; J. Richards, Pentbontfawr; W. Willams, Wern M. Ellis, Talybont; D. navies, Aberteifi; E Davies, Drefnewydd; H. Hughes, Feol; D. Davies, Llanerfyl; J. Roberts, Llanbrynmair ac E. Evans, Abermawr. Canmola yr hen bobi lawer ar y Gymanfa hon. Yr ydym wedi gweled yr achos yn ychanegu nerth o ddydd i ddydd. DioJchwn ninau am y daioni hyn, ac edmygwn set a brwdfrydedd duwiol yr hen dadau a ym- drechasant yn nghanol iywylhvch, dan anfan- teision lluosog eu hoes. Yr Arglwydda wnaeth bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen Mr. Edward Williams. Yr ydym yn y benod flaenorol wedi gadael yr eglwysi heb weini iog ganddynt, buont felly am dair biynedd arferodd yr eglwysi y tro yma gryn lawer o bwyll. A diamheu i lawer o efrydwyr chwenych y cylch fel maes eu gwein- idogaeth. Ond yn y flwyddyn 1848, rho.Uwyd galwad i un fu yn addurn i'r pwlpud Annibynnol yn ein gwlad, yn mherson y diwedder Edward Williams 0 Flaenafon, Mynwy. Y Parch. E. Rowlands, Pontypool, a'i dygodd gyntaf i sylw eglwysi y cylch. Urddwyd ef Ebrill 29ain, 184&. Pregethwyd ar Natur Eglwys gan Mr. J. Williams, Aberhosan holwyd y gofyniadau arferol i'r gweinidog gan Mr. H. Morgans, Sammah offrymwyd yr urdd-weddi gan Mr. C. Tones, Dolgellau; pregethodd Mr. E. Griffiths, Blaenafon.i'r gweinidog; R. Thomas, Lerpwl i'r eglwys Gweinyddwyd hefyd gan Mri. J. Davies, Brynbiga E Roberts, Foel; J. Roberts, Llanbrynmair; R. Ellis, Brithdir W. Roberts, Penbontfawr; R. Edwards, Rhydymain; G. Evans, Pennal Gwel' Cofiant E. Williams,' tudal. 36. Dywed yr hanesydd fod y cyfarfod yn un tra adeiladol. Ni bydd i ni fod yn helaeth yn ein nodiad ar y diweddar Mr. Williams, gan fod cofiant manwl iddo wedi ymddangos yn ddiweddar. Ganwyd ef yn Blaenafon, Sir Fynwy, Rhagfyr 29am. 1818. Hanodd o hen gyff parchus, yn enwedig teulu ei fam. Ymunodd a'r egIwys Annibynol, Blaenafon, Medi 27fed, 1840. Cynyddodd yn raddol trwy ddyfalwch fel aelod, fel y daeth yr eglwys i deimlo fod ynddo gym- hwysder at y weinidogaeth, a chefnogwyd ef i ddechreu pregethu. Pregethodd ei bregeth gyntaf Medi 3ydd, 1843. Ni chaiodd yntau fel llawer yr oes hono fanteision addysg foreuol, canys eawn ef wedi ei osod yn y pwll glo cyn bod yn ddeg oed. Credai ein tadau mewn gwaith yn fwy nag mewn dysg. Modd bynag cawn Mr. Williams yn penderfynu cymhwyso ei hun yn fwy cyflawn at waith y weinidogaeth, drwy fyned i'r ysgol yn Hanover, yr hon a gedwid gan y Parch. Ll. Powell. Yr oedd cryn glod i'r ysgol hon, y pryd hwnw, fel un fauteisiol iawn i bregethwyr ieuainc. Daeth i'r Dinas fel y gwelsom yn 1848. Ac yma y bu farw yr 8fed o Ebrill, 1880. Bu llafur cyhoeddus Mr. Williams yn fawr ac amrywiol yn Nghyf- arfodydd Cymdeithas Gweinidogion Dyffryn Dyfi, Cyfarfod Chwarterol Sir Feirionydd, fel cynrychiolydd Gymdeithas Genhadol Llundain, ac fel Ysgrifenydd Coleg y Bala. Edmygid a chanmolid et yn fawr yn ei holl lafur. Y mae yn hysbys hefyd, iddo fod yn dra diwyd gyda'r wasg; ysgrifenodd gryn lawer yn ei oes, yn benaf i'r cylchgronau. Bu yn un o Olygyddion yr Anntbynwr, wedi ei uniad a'r Dysgedydd. Gwelir rhestr anrhydeddus o'i lafur llenyddol yn ei Gofiant, tudal. 73-:8. Y mae un ysgrif yn ein meddiant na chotleir gair am dani yn ei Gofiant rhagorol Y mae yn cynwys cystal darluniad o hono ef 0 ran mater ac arddull a dim a ysgrifenodd. Darllenwyd hi yn nghyf- arfod Undeb yr Annibynwyr Cymreig, Awst, 1876. Gwel yr Adtoddiad am y flwyddyn hono. Yr oedd y testyn yn ei daraw i'r dim,—' Rhanau Arweiniol yr Addoliad Cyhoeddus.' Cynwysa rhyw 12 tudalen o'r Adroddiad. Nid oes braidd eisiau dywedyd wrth y darll- enydd am ffyddlondeb a dyfalwch y gwasan- aeth a wnaeth yn yr ardaloedd hyn. Bu llwyddiant amlwg. ar ei lafur yn y Dinas a'r cylch ar hyd ei weinidogaeth. Cawn brawf o hyn yn ei Gofiant, tudal. 44. Gwnawn ddefnydd o'r ystadegau. Yn y flwyddyn 1852, cawn fod yn y Dinas wedi eu derbyn, 31—61 heblaw gwrthgilwyr wedi eu dychwelyd, feallai fod 15 o'r olaf.
ABERMAW.
ABERMAW. YR ETHOLIADAU DYFODOL.—BU Mr. John Evans, y Cyngborwr Sirol dros y dref, yn egluro yn nghyfarfod y trethdalwyr y gwasanaeth wnaed dros y trethdalwyr yn y Cyngor, yr hyn a roddodd foddlonrwydd iddynt. Mae'n debyg y bydd yn parhau yn aelod o'r Cyngor Sirol ac 0 Fwrdd y Gwarcheidwaid. Efe yw cadeirydd presenol y Cyngor Dosbarth Gwledig. Deallwn fod Mr. Ellis P. Jones yn ymgeisydd am sedd Dssbartb Gwledig Llanaber, a waaed yn wag trwy fafW91eth Pr, Çh¡uJet Williams.
LLVTHYR 0 DDEHEUBARTH AFFRICA.
LLVTHYR 0 DDEHEUBARTH AFFRICA. (ODDIWRTH MR. EVAN LEWIS JONES, GYNT Q TY'RCAPEI,, CORRIS). Bulawayo Station, Bulawayo, Matabeleland, Rhagfyr 2ofed, 1900. Anwyl Frawd a Chwaer,—Dyma fi unwaith eto wedi cyraedd yn ddiogel i wlad y gwybed a'r trychfilod, ar ol cael amser gweddol hapus a chymeryd pob peth i ystyriaeth Mae yn debyg eich bod yn disgwyl cael ych- ydig o hanes fy nhaith. Yr wyf yn credu i mi ddweyd yn llythyr fy nhad mai o Matoppos Siding yr oeddwn yn myn'd i gychwyn. Wedi cael fy military pass, daethum i lawr i fy ystafell gyda'r goods train boreu wed'yn (Tachwedd 15fed) Y mae yn ddigon hawdd neidio i lawr oddiarno gan ei fod yn myned mor araf. Darfu i'r gyriedydd saethu guinea- fowl, ac wrth gwrs yr oedd yn rhaid stofio y tren i'w chael. Dranoeth, aethum ar y trolley i Matoppos, ac erbyn 5 p.m. yr oeddwn ar fy ffordd tua Cape Town. Yn Plumtree y cefais fy swper y noson hono, ac yn fuan ar ol i'r tren gychwyn aethum i'r gwely, a chysgais hyd y boreu. Wedi teithio ymhellach, daethom i Pitsani, lIe y cychwynodd Dr. Jameson ei ruthr i'r Transvaal. Oddeutu milldir i'r gorllewin o'r line y mae bryn bychan a elwir Jameson's Kopje, ac wrth droed hwn yr oedd y gwersyll, cyn iddynt dderbyn y gorch- ymyn a arweiniodd lawer o honynt i fedd an- amserol. Yr oeddym yn Mafeking yn gynar boreu Sul. Cefais fy siomi yn fawr wrth edrych ar y dref, yr oeddwn yn disgwyl gweled mwy o 61 y gwarchae. Yr unig beth amlwg iawn ydyw y rhesi beddau y tu mewn ac allan i'r Cemetery. 0 aragylch y dref y mae y forts a'r trenches i'w gweled yn amlwg. Y mae Mafeking ar wastadedd heb na bryn na mynydd yn agos. Gorwedda y rhan Ewropeaidd o'r dref ar yr ochr ddwyreinol i'r line, a'r dref frodorol ar yr orllewinol, ac yn rhedeg trwy y canol y mae yr afon Molopo. Wedi cyraedd Vryburg, bu raid i ni aros yma dros nos, gan fod y Boriaid wedi bod yn ceisio chwythu pont fechan y noson cynt yn Brussels Siding, 13 milldir i'r de o Vryburg, ond ni lwyddasant gan i'r Armoured Train dd'od ar eu gwarthaf, ac wed'yn fe gafwyd yr un hen ystori drosodd drachefn, sef- 4 The Boers cleared.' Cyrhaeddasom Fourteen Streams, ac yma gwelais beth a barodd ddydd- ordeb i mi. Bu brwydr yn y fan hyn, a gwnaeth y gynau Prydeinig gryn dipyn 8 hafog, yn enwedig ar y Station. Nid oedd ond darnau o'r muriau yn sefyll. Mewn ysgrifea fras yr oedd degau o enwau bechgyn yn perthyn i'r Welsh Fusiliers wedi eu tori gyda chyllyll yn y calch gwyn, ac yr oeddynt oil bron yn vowau hollol Gymreig. Daethom i Kimberley, a buem yno dair awr. Y mae y forts a'r trenches i'w ¡:-wel'd yn amlwg oddeutu y dref. Nid wyf yn credu i Col. Kekewich gael y clod dyladwy am ei hamddiffyn, ac y mae pobl y lie wedi teiml. gryn dipyn. Priodolant hyny i Mr. Rhodes. Cyn gynted ag i ni adael Beaconsfield o'r tu ol, yr oeddym yn llygaid ac yn glustiau i gyd, er gweled rhai o'r meusydd brwydrau mwyaf gwaedlyd a ymladdwyd yn South Affrica, ac hefyd gael clywed y milwyr oedd yn cyd-deitho a ni yn adrodd pa fodd y bu. Magersfontein, Kraspan, Belmont, a Modder River, dyna nhw i chwi yn rhes. Tawelwch hollol sydd yn teyrn- asu yn Mage; sfontein heddyw, er fod olion y frwydr i'w gweled yn amlwg; Cyrhaeddasom Majesfontein, ac yma cawsom y swper olaf cyn cyraedd Cape Town. Dyma y pentref prydferthaf, fe ddywedir, yn holl South Affrica, ac y mae y cwbl yn eiddo un dyn-Mr. Logan. Yma y bu y diweddar Tom Ellis, Cynlas, yn aros pan yma am ei iechyd. Aethum i'r gwely, gan ddisgwyl bod yn rhywle heb fod ymhell o Cape Town pan.ddeffrown, ac ni'm siomwyd. Ar y 2iain, yr oeddwn yn sefyll ar yr orsaf. Y peth cyntaf wnaethum oedd ymofyn am fy mrawd David, a llwyddais yn fuan. Yr oedd y teulu yn edrych yn dda. Gallwn feddwl ei bod yn bur ddifrifol yn y dref, os yw yr hyn a welais yn brawf o hyny. Y mae yno filoedd lawer yn cerdded yr ystrydoedd ac hell ddim byd i'w wneyd. (I barhau).
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. MARWOLAETH. Dydd Llun, wedi byr gystudd, bu farw Mrs. Lewis, priod Mr. Rhys Lewis, Grocer, o'r dref hon. Chwaer ydoedd yr ymadawedig i'r dadganwr adnabyddus Mr. Maldwyn Humphreys. Gadawodd ar ei hol briod a phedwar o blant, a'r rhai y mae cyd- ymdeimlad cyffredinol, yn eu dwfn alar a'u colled am briod a mam ofalus a thyner. GWASANAETH COFFADWRIAETHOL.- Dydd Sadwrn, cynhaliodd Eglwysi Rhyddion y dref hon gyfarfod Coffadwriaethol i'n diweddar Frenhines, yn Nghapel Maengwyn. Llywydd- wyd y gweithrediadau gan y Parch. Josiah Jones, gan yr hwn y cafwyd anerchiad ar amcan y cyfarfod, &c. Canwyd amryw donau cyfaddas i'r amgylchiad, a chwareuwyd y' Dead March,' ar yr organ. Hefyd cafwyd anerchiadau, yn amlygu gwerthfawrogiad o fywyd a chymeriad rhagorol y Fienhines, gan y Parchn. D. H. Hughes, D. Darley Davies, W S. Jones, a diweddwyd gan y Parch. E. Wnion Evans. Yr oedd cynulliad da ynghyd Cynhaliwyd gwasanaeth coffa hefyd yn yr Eglwys Blwyfol, pryd y gweinyddwyd gan y rheifhor, Canon Twr,
TWM O'R NANT 'R PERSON..
TWM O'R NANT 'R PERSON.. Un diwrnod, pan oedd Twm o'r Nant yo ,tychwelyd oddiwrth ei waith o dori ceryg beddau o'r Eglwys Wen, ger Dinbych, daeth y person i'w gyfarfod ar y ffordd, a gelynodd iddo: Thomas, a wnew6h chwi ddweyd eich barn am y gwahanol enwadau yma sydd yn codi yn awr ?' Nid oes genyf fi farn yn y byd yn eu cylch hwy,' ebai Thomas. 4 O, oes,'ebai y person, I nid yw g*r fe y chwi heb eich barn.' 4 Wei ebai Thomas, yn dra hunan-feddianol, 4 mae y Wesleyaid yma yn eu hel hwy i gyd i'r gorlan; a'r Bedyddwyr yn eu golchi, a'r Calfiniaid yn ethol y rhai goreu 0 honynt, a chwithau, bid siwr, ya cneifio y cwbl.
I CORON VICTORIA.
CORON VICTORIA. Ni wisgodd y Frenhines Victoria byth drachefn me'r goron a ddodwyd ar phen ddydd ei choroniad. Ar wihan i rubi anmhris- iadwy lorwerth y Tywysog Du, ar -rnaen saphir uchelbris a bwrcaswyd gan y Brenin Sior y Pedwerydd, ystyrjr nad yw y goron Brydeinig yn werth mwy na 112,760P Yn 1858, mynodd ei diweddar Fawrhydi gael gwneyd coron ys- gafnach iddi ar gyfer seremoniau y wladwriaeth. Perlau yr hen goron, ac felly eiddb. y wlaawr- iaeth, oedd yn ei gwneyd i fyny gan mwykf. Yn y flwyddyn 1862, hi a fynodd gael gwneyd coron drachefn, ond ar ei thraul ei hun. ac i'w gwisgo ar achlysur neillduol, ondhebiodjn hollol gyhoeddus Yn hon y mae 3,196 0 feini gwerthfawr. A'i heiddo personol hi ydoedd,.
CORRIS.
CORRIS. CYNGERDD CYSTADLEUOL.—Dymunwn alw sylw ein darllenwyr at gyngerdd cystadleuol' a gynhelir gan y Bedyddwyr nos Lun nesaf, yn yr Ysgoldy Cenedlaethol. Rhoddir etir gwobr, sef ip.; 12S. 6c.; a 12s 6c am ddadganu;un- awdau. Deallwn fod nifer y cystadleuwyr yn lluosog iawn, a bod rhagolygon am gyngerdd campus. Y FEIBL GYMDEITHAS —Bydd y Parchn J. R. Ellis, Corwen, yn ddirprwywr. dros y Feibl Gymdeithas, yn y fro hon eleni. Cynbalia gyfarfod yn kbyeillefeni. Inbs ,Wénè,r., a tCo'rris nos Iau. Dyma ymweliad cyntaf 'Mj.IJis ^r ardaloedd hyn, a gobeithiwn y cailt gynulliad teilwng o'r Gymdeithas ac o hopo yntau. Y FEIBL GYMDEITHAS.Cynhaliwydpwy%or y Feibl Gymdeithas, nos Wener, yn Festri Shiloh. Gwnaed y trefniadau at y cyfarfodydd blynyddol a gynhelir yma ac yn Aberllefeni yr wythnos hon. Y dirprwywr ydyw y Parch. John R. Ellis, Corwen, yr hwn fu yn genhadwr yn India am ddeng mlynedd. Byddyn anerch cyfarfod yn Rehoboth, nos-Iau, ac yn Aber- llefenni, nOI Wener. Penderfynoddypwyllgor gyflwyno anrheg o Feibl i Mr Lewis Jones, ar derfyn gwasanaeth o 2iain mlynedd fel ys- grifenydd. Cymer hyn le y flwyddyn nesaf. CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL SHILOH.- Cynhaliwyd cyfarfod o'r Gymdeithas uchod, nos Wener, dan lywyddiaeth y Parch. E. B. Roberts Cafwyd dadl Pa un ai y Pwlpud, neu y Wasg a fedd y dylanwad cryfaf ar y genedl Gymreig.' 'Y Pwlpud,' Mr. John Edwards; Y Wasg,' Mr. Henry Harries. Siaradwyd gan amryw o'r aelodau, a phan roddwyd y ddau i bleidlais fe gatodd y Pwlpud wyth o fwyafrif. Cafwyd cyfarfod da iawn. EIN DIWEDDAR FRENHINES —Cynhaliwyd cyfarfod coffadwriaethol; am ein diweddar Fawrhydi, prydnawn Sadwrn diweddaf, yn nghapel Rehoboth, yr hwn a drefnwyd gan Gyngrair yr Eglwysi Rhyddion. Yr oedd cynulliad da ynghyd. Llywyddwydd gan y Parch. J. Roberts. Arweiniwyd yn y moddton dechreuol gan y Parch. Afonwy Williams, ac ar ol ychydig sylwadau gan y cadeirydd, tradd- odwyd anerchiadau gan Mr, H. R. Williams (Llwydrudd), Parchn. Benyyn Roberts, a y Rhys Davies, a Mr. M. Thomas,, fferyllydd. Cynygiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r teulu Brenhinol yn ngwyneb eu colled, yn gystal a datgan ein gwerthfawrogiad o fywyd gwerthfawr y Frenhines, gan Mr. H. Davies, U.H., cefn- ogwyd gan Mr. D G, Davies, Esgairgeilioi, a phasiwyd trwy i bawb godi ar eu,traed Cafwyd cyfarfod da,:yr holl anerchiadau yn deimladwy, a chymwys i'r achlysur, yn gosod allan y rhin. weddau uchel a berthynai i'r Frenhines m^wn gwahanol gyfeiriadau. Canwyd amryw donau yn ystod y cyfarfod, a gwasanaethai Mr. John Lewis fel cyfeilydd.
PENNAL.
PENNAL. MARWOLAETH.—Yr wythnos ddiweddaf, ar ol byr gystud bu farw Mr. David Davies, asiedydd, yn 82 mlwydd oed. Treuliodd ran helaeth o foreu ei oes yn Manceinion; ond symudodd yma i fyw oddeutu deugain mlynedd yn ol. Yr oedd yn aelod dichlynaidd gyda'r M.C. Claddwyd ef dydd Iau, yn nghladdfa y lie. Gweinyddwyd gan y Parchn. O. E, Williams, T. F. Roberts, Machynlleth,, a'r ficer.
DOLGELLAU.",'
DOLGELLAU. CYFARFOD MlSOL.Dyddiau Llun, Mawrth, a Mercher, cynhaliwyd Cyfarfod Misol Gor- llewin Meirionydd yny dref uchod. Yr oedd cynrychiolaeth gyffredinol o'r holl eglwysi yn bresenol, a chaed cynhadleddau hwylus. Pregethwyd yu y gwahanol gapolan gan y Parchn. R. H. Watkins, Bryncrug; O. E. Williams, Pennal; R. R. Williams, Towyn T. R. Jones, Talsarnau; D. Jones, Garegddu; S, Owen, Taivygrisiauj T. Uoyd, fingedi, » J, MrpwU