Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

'Claddedigaeth y Parch D.…

News
Cite
Share

'Claddedigaeth y Parch D. Rhagfyr Jones, Treorci. Cerddodd y Parch D. Rhagfyr Jones, Treorci, ,-iffordd y boen yn araf a thrwm, ac ar doriad gwawr Gwener y Groglith teimlodd y rhai oedd yn gwylio ei syniudiadau diweddaf ei fod bellach ar adael poen y byd hwnnw oedd wedi adael o ran ymwybyddiaeth oriau lawer cyn hynny. Ond prydnawn Sadwrn, rhwng cofio'r groes a'r adgyfodiad, y cododd ei ysbryd ar ei edyn yn rhydd o'i gaethiwed blin. Pedair blynedd ar bymtheg yn ol, ar Wener y Groglith, gwelwyd gennym ym Methania sefydliacl Mr Jones yn weinidog arnom ac O! cyd-darawiad hynod fod ei ymddatodiad fel gweinidog yn digwydd bron yn ystod yr nn orian yn adeg yr wyl eleni. Temtir ni i ganu Clych Atgof ond rhaid ymatal, am mai nid hynny yw ein hamcan ar hyn o biyd.f^Cael gair brysiog i fewn i golofnau y 'TYST am gladdedigaeth y gwr mawr hwn yn Israel yw ein diben yn awr. O'i hynawsedd a'i cjiaredigrwydd amynedd- gar i Mr Jones a'r teuln yn ei gystudd blin, ni fu eglwys Bethania yn ol o gyflwyno ei chyd- ymdeimlad llawn yn awr y brofedigaeth lem. Cymrodd swyddogion gweithgar yr eglwys at gyfarwyddo, a dwyn baich y trefniadau mewn cariad. Aualluogwyd Mr Phillips, yr ysgrifen- nydd, i fod o'r defnydd allai ac a garai ei ysbryd fod oherwydd afiechyd a'i caethiwodd i'w ystafell, ond cafodd gynhorthwy sylweddol yn y brawd liyddlon a pharod, a mawr ei ddiddor- deb a'i ofal am Mr Jones, sef Mr E. S. Morgan. Rhoddwyd gofal yr angladd dydd Ian i'r Parch J. J. Williams, Treforris. Cais gwely cystudd yr ymaclawedig oedd iddo wneud hynny o orchwyl, ac fe'i gwnaetlx yn ddoeth a grasol. Cafwyd gwasanaeth byr yn y ty, pryd y dar- llenwyd cyfran o'r Gair gan y Parch T. 15. Jones, Efailisaf, a gweddiwyd yn doddedig ac anmvyl iawn gan y Parch T. Jones (W). Ferndale. Dyg- wyd yr arch allan o'r ty ar ysgwyddati nifer o offeiriaid yr eglwys i'w gosod ar yr elor a chyn cyehwyn tua'r capel, canwyd yr emyn Yn nes, fy Nuw, i Ti,' &c. ac ar y ffordd tuag 3-110, Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw.' Cynhaliwyd yr holl wasanaeth cyhoeddus yn y capel, gydag eithrio cann'r emyn, Fe welir Seion fel y wawr,' ac oitryimi gweddi fer a gafaelgar gan y Parch T. Hughes, Cathays, Caerdydd, ar lan y bedd. A'r holl gvnulleidfa ar ei thraed, cariwyd yr arch a gosodwyd hi i lawr yn esmwyth o fewn cylch yr allor a theimlwyd, tra chwareuwyd y Dead March mor effeithiol gan Mr Thomas, yr organydd, fod yna weddillion un yn gorwedd yn yr arch fu unwaith a'i lais mor glir a'i dafod mor ddifloesgni dros wirionedd, a'r pulpud gwag heddyw yn edrych i lawr arno, yr hwn fu un- waith yn orsedd iddo ond eto llefarai gyda hyawdledd mudandod wrth bawb. Ar ol i bawb eistedd, canwyd drachefn yn fuddugoliaethus yr emyn, Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw.' Dar- llenodd y Parch J. D. Jones, Brynteg, y rhan fwyaf bwrpasol o'r Salmau i ennyn ymddiried- aeth lwyr ar y Goruchaf yn y teuln galarus a'r eglwys hiraethus, a gweddiwyd yn afaelgar gan y Parch S. Bowen, Ramah, Treorci. Ar ol y rhan ddechreuol, canwyd emyn gyfansoddwyd gan Mr S. Nicholas ar don gyfansoddwyd iddynt gan yr ymadawedig. Bu'r emyn a'r don, a'i henw Tynybedw,' yn fuddugol yng Nghymanfa Ganu y cylch. A chyda Haw, mwynhad oedd gwybod mai'r Parch D. Rhagfyr Jones yw y buddugwr eleni eto yn yr un Gymanfa, ar y don a'r emyn. Cael gwybod hyn roddodd wen foddhaus ar ei wyneb yn ei boenau arteithiol. Cafodd ei wobr yn ei galon, a posthumous reward fydd son am hyn ar Fai 3ydd. Yna trefnwyd yn ddeheuig i nifer o frodyr siarad fel cynrychiolwyr gwahanol gylchoedd. Am fod yr amser yn brin, rhoddodd Mr Williams glurhad na fyddai yr eglwys 3-11 datgau ei gwerthfawrogiad, ei cholled a'i chydymdeimlad mewn cynifer o eiriau, na nifer o gyfeillion eraill ddisgwylid iddynt ddweyd en teimladau. Dywedodd Mr Williams air byr iawn a chyn- hwysfawr am Mr Jones, ond yn foneddigaidd rhoddodd le i eraill. Y cyntaf alwyd oedd Dr W. Morris, Noddfa, Treorci. Mynegodd ei deimlad a'i werthfawrogiad o'i gymydog. Gwnai hynny fel gweinidog, cyd-ddinesydd, cydweith- iwr ac edmygydd mawr o Mr Rhagfyr Jones. 'Roedd iddo wahanfodaeth naturiol ac ano.chel- adwy un o ddynoldeb eithriadol, argyhoeddiad cryf, gonest fel pregethwr, a neb yn debyg iddo am symio a dadansoddi cymeriad. Pe yn gosod cymeriad Mr Jones mewn un gair, hwn fyddai- cryfder. Gwelodd y Parch W. Lewis (M.C), Cwmparc, yuddo ddyn Duw wedi ei berffeithio i bob gweithred dda—cerddor, darlithiwr, preg- ethwr, lienor, &c. a cholled nid bychan iydd ei ymadawiad i aelwyd, eglwys a chymdeithas. Siaradodd y Parch J. Williams, Hafod, air byr ar ran Cyfarfod Chwarterol Dwyrain Morgannwg. Crybwyllodd am atgofion byw ohono pan ar y Cefn, gan bwysleisio fod Mr Rhagfyr Jones yn fwy o bregethwr 11a phwyllgorwr, ac na freudd- wydiodd erioed am anfarwoldeb ,i\v enw drwy eilio cynygiad. Mae Bethania yn fam i nifer o blant sydd heddyw ar wasgar yn llafurio mewn uieysydd eraill, ac ar ran y rhai hy-nny dywedodd y Parch H. T. Jacob, Abergwaun, air pwrpasol, gan gyfeirio yn docldedig iawn at funudau olaf Mr Jones. Ac ar ran pawb ymhob man, cafwyd gair byw a bachog gan y Parch G. Penar Griffiths, Pentre Estyll. 'Anawdd gwybod,' meddai Penar, pa un ai trwy weithio ai dioddef y tarawodd ein brawd, Mr Rhagfyr Jones, y marc. Galwodd Duw arno i wneud y ddau. Bod yn arlunvvyr yw ein hoff ymgais lli, ond mae Duw yn gwneud canvas ohonom rai prydiau trwy wneud i ni ddioddef i amh-gu Ei ras. Yr oedd Mr Jones yn llenor, cerddor, pregethwr, dtoddefydd. Bu i'r Aifft ac yn ol,' ond aeth i daith yn awr i Ganaan, a dim yn ol. Gorffennwyd y gwasan- aeth tyner a theimladwy hwn trwy gyflwyno'r oil i Dduw y diddanwch gan y Parch E. Richards, Tonypandy. Cychwynwyd tua'r gladdfa gyhoeddus, ac ar y ffordd canodd y cor yn swynol ac effeithiol y geiriau 'Ar lanfslorddonen ddofn ar y don Moab.' Ymhlith y galarwyr ydoedd Mrs Rhagfyr Jones ei ullig a'i annwyl ferch, Miss Eunice Jones y Parch D. S. Dakin, Halifax, a Mr Tom Dakin, Bala (brodyr-yng-nghyfraith) Mrs Jones, Caernarfon (modryb) Mri Hugh Da vies, Pentre, a D. D. Jones, Swyddfa'r TYSX, Merthyr (dan ewvthr). Heblaw a nodwyc1 yn barod. daeth llu o frodyr annwyl yn y weinidogaeth ynghyd i ddangos eu cydyindeiinlad, sef y Parchn J. Gwrhyd Dewis, Tonyrefail J. Walters, Gosen, Clydach Vale T. Bryn Thomas, Ferndale J. Oldfield Davies, B.A., Ton Ystrad; Rowland Hughes, B.D., Tylorstown T. Davies, Cwmparc E. D. Hvans, Seion, Pontypridd D. M. Davies, y Llyfrfa, Abertawe T. D. Rees, Salem, Aberdar E. C. Davies, Ynyshir John Hughes, Pontycymer D. G. Evans, Gelli Isaac (W), Treorci J. C. Jones, Tynewvdd J. Phillips, Mountain Ash R. Williams, B.A., Cilfynydd; J. Jenkins, Nel- son Ben Davies, Maesteg E. Davies, Aber- cynffig T. G. Jenkyn, Dlwynypia W. Harries (B), Treorci; T. E- Thomas, Iylantrisant J. D. Jones, Bodringallt James Evans, B.A., Caer- dydd W. A. Jenkins, Blaenrhondda H. E. Rogers, B.A., Penybont R. T. Gregory, Nant- ymoel J. Hope Evans, Maerdy T. Hughes, Briton Ferry W. Evans (B), Blaenycwm T. Lewis, Treherbert; J. Williams, Abergwynfi; J. Williams, Aberllechan; S. Jones (B), Tre- heiijert R. Jones, Berriew W. T. Gruff ydd, B.A., Hermon, Treorci D. G. Evans, Penygraig J. Rhedynog Evans, Rhydri Gwynllefin Thomas Cwmparc —- Davies (U), Blaenrhondda a T. P. Edwards, dewis-weinidog Horeb, Treorci. Myfyrwyr-Mri D. Ernest Richards, a Llewelyn Jones, Caerfyrddin T. Morris, Caerdydd a Davies, Ysgol Pontypridd. Gwelwyd eraill, sef Mri J. Griffiths, Castle Eden, Caerdydd Dewi Vychan, Caerdydd; J. Irfon Griffiths, N. & P. Bank, Pontypridd; D. Jones a James, N. &. P Bank, Pentre, Ystrad D. Williams, Bethania, Cwiitogwy W. Thomas, Tynewydd T. Jones, C.S., H. Howells, E. J. Treasure, W. J. Thomas, W. Winter, M. H. Morgan, Roderick Morgan, J. D. Edwards, E. T. Michael, J. E. Thomas, T. Thomas (Ocean Offices), James (Victoria House), Jonathan Jones, Inspector D. Jones, T. Skym, J. Evans, T. Jacob, S. Nicholas, E. Brunt a J. Evans-yr oil o Dreorci J. Gower a T. Thomas, Treherbert T. P. Morgan, Y.H., Cwmparc 1. Isaac a J. Evans, Bodringallt J. Davies, Cymer, Porth; Thomas, Foundry, Ton R. James, a W Abraham, A.S., Pentre D. Evans ac R.Davies, Porth; a H. P. I-Tuiilphreys (Corris), Clydach Vale. Daeth llythyrau a brys-negeseuau o gydym- deimlad i law oddiwrth gyfeillion i'r teulu ..a'r eglwys-65 oddiwrth weinidogion, 2 oddiwrth Aelodau Seneddol, a 40 eraill yn cynrychioli ffrindiau mynwesol o'r ddau ryw-a 13 o ben- derfyniadau oddiwrth eglwysi, cymanfaoedd canu, &c. Gwnaed paratoadau helaeth gan yr eglwys ar gyfer dieithriaid yn y festri er mWYll diwallu angen corff cyn ac wedi y gladdedigaeth. Bellach, mae y parchus weinidog, y cydweith- iwr difell, a'r cyfaill lioff wedi mynd i fyw uwch- law poen ei gorff yn y priddellau oer yn y fyuwent dan gysgodion y deml, ac yn awgrym- iadol iawn o'i fywyd ar ei hyd. Bydd yn anodd i neb o devduoedd galar eglwys Bethania eto yn y dyfodol fynd heibio iddo heb ei fod, o'i fedd yn yiiiyl y llwybr, fel angel yr ardd a'r bedd gynt, yn cyfarch pob un ddaw a'i anwylyd i'r fangre oer, a thywallt cysur ei hoff 61113-11 yn ei boen iddynt wrth fynd heibio— Dim ond imi dawel orffwys, Goleu geir ar bethau cudd Melys fydd trallodion hirnos Pan geir arnynt oleu'r dydd.' Diddaned Ysbryd y Nef y weddw alarus, fu mor ffyddlon i'w phriod yn ei gystudd blin, a hithau yn gystuddiol ei hun, ac Eunice annwyl yn ei dagrau, amddifadwyd o dad mor hoff a thyner ohoni, a'r perthynasau oil. Bydded i'r eglwys barhau mewn gweithgarwch eto, a'r profiad newydd a thanllyd o golli bugail trwy farwolaeth fod yn fendith ddwyfol iddi ac yn ogoniant i'r Pen Bugail mawr. Nid yw i ni drallodi oblegid y golled y111a, ond ymgysuro am fod ein hannwyl Rhagfyr Yn rhannu 'nawr yn y iief--ei frwd fryd A'i frodyr sy adref, 'Rhyn guddir yn y goddef, A'i egwan gri, sy'n gan gref.' Efailisaf. T. E. JONES.

Treffynnon.

[No title]