Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Y BLAID GEIDWADOL A'R MWNWYR.

News
Cite
Share

Y BLAID GEIDWADOL A'R MWNWYR. Mewn pob ardal fwnawl y mae vmdrech- iadau mwyaf egniol beunydd yn cael eu gwneyd i greu rhagfarn yn meddyliau y mwn- gloddwyr yn erbyn y blaid Geidwadol a'i harweinwyr. Gyda'r golwg yma y mae y Ceidwadwyr yn cael eu camddarlunio yn barhaus fel yn elynol i fuddiant a lies y gweitbiwr, a gwneir pob yiugais i ddangos fod eu gweithrediadau yn yr amser aeth heibio, a'u gwleidyddiaeth yn y dyfodol, yn cael eu ddylanwadu gan ystyriaethau dosparthol. Y mae y dyb hon yn hollol groes i'r ffeithiau, o herwydd y mae yn agored i brawf egluraf fod ein seneddwyr Ceidwadol, lieb hawlio un rhagorfraint iddynt eu hunain neu an- wybyddu gwaith ereill, bob amser wedi dangos y dyddordeb mwyaf yn, a chydym- deimlad a'r mwnwyr, ac wedi cymmeryd rhan weithredol ac urddasol mewn pob sym- mudiad tuag at leihau peryglon eu galwedig- aeth, ac i wellhau eu sefyllfa. DEDDFWRIAETH BRYDLON. Gan daflu brasolwg dros banes deddfwriaetb yng nghylch mwn-weithiau o fewn yr hanner can mlynedd ddiweddaf, gwelir geirwiredd ein gosodiad. Diwygiad mawr cyntaf y ganrif oedd yn ddyledus i'r diweddar Arglwydd Shaftesbury, pan fel Arglwydd Ashley yr oedd yn aelod Ceidwadol dros swydd Dorset. Drwy ei ymdrechiadau ef penodwyd dirprwy- aeth freiniol yn 1840, yr hoa a ddygodd i'r golwgy gyfundrefn echryslon odanbaun yr oedd meibion a merched chwech mlwydd oed yn cael eu hanfon i'r gweithfaau, gan eu rhoi ar waith i lusgo corfan, ac i gario basceidiau o 16. Byddent yn ami yn gorfod gweithio yn y tywyllwch felly am ddeuddeg awr y dydd. Yn 1842, o dan Weinyddiaeth Geidwadol Syr Robert Peel, pasiwyd deddf, yr hon a roddodd lwyr attalfa i fenywaid weithio o dan y ddaiar, ac i feibion o dan ddeg. Yr unig wrthwynebiad i'r mesur hwn a ddeilliodd oddi arlaw aelodau a alweilt eu hunain yn Rhydd- frydwyr. Yr oedd Ty'r Arglwyddi y pryd hwnw, fel y mae yn awr, yn gorph Ceidwadol cryf, ac yn neillduol y fainc esgobawl, ac yn boetii o blaid y mesur GWEITHRED 1850. Yn 1849, cymmerwyd y camrau ymarferol cyntaf i sefydlu y gyfundrefn o ymchwiliad, yr hon sydd wedi gwneyd cymmaint tuag at leihau damweiniau rhwystradwy. Arwein- iwyd y ffordd gan Dy'r Arglwyddi drwy benodi pwyllgor, ar ba un yr oedd enwau pendefigion Ceidwadol, fel Due Northumber- land a Buccleuch yn nodedig. Cymmerasant hwy dystiolaeth awdurdodau uwchaf y dydd, megys Dr. Clanny, Mr Struve, a Mr (yn awr Syr George) Elliott, ac fel ffrwyth eu bym- chwiliadau, pasiwyd Deddf Gweithfeydd 1850 gan Weinyddiaeth Arglwydd John Russell. Y weithred hon, er yn burammher- ffaith, oedd y gyntaf i roddi gallu i'r Swyddfa Gartrefol i benodi ymchwilwyr, ac i orfodi perchenogion i anfon rhybudd i'r Ysgrifenydd Cartrefol yng nghylch damweiniau, a darparu ymchwiliad gan y llywodraeth i'w hachosion. Gwrthwynebwyd hi yn benaf gan yr aelodau Rhyddfrydol, a gwnaeth Arglwydd Brougham, y cynt (Janghellwr Rhyddfrydol, wrthdystio yn ei herbyn fel yn afreidiol a niweidiol. Pum mlynedd yn ddiweddarach, gosodwyd rheolau cyffredinol i lawr i drefnu gwyntylliad, i sicrhau shaffcydd, avwyddion, &c. Amlygu galluoedd yr ymchwilwyr, a rhoddi hawl i'r gweithwyr i wrthod gweithio mewn gwaith y sicrheid ei fod yn beryglus. DIROELIADAU PELLACH. Yn 1860, trefnwyd rhagor o foddion diog- eliad drwy sicrhau gwyntylliad digonol, cloi y lampau, amgau y shafl'tydd, a chaniatau penodiad pwys attalwyr. Yn y flwyddyn hon gwnawd ymgais gan Arglwydd John Manners (yn awr y Due o Rutland), y pryd hwnw yn aelod Ceidwadol dros swydd Leicester, i wa- hardd rhoddi meibion o dan ddeuddeg oed ar waith, ond yn benaf o herwydd gwrthwyneb- iad y Rhyddfrydwyr, gohiriwyd y diwygiad hwn. Cafwyd diogeliad, beth bynag, fod i'r plant rhwng deg a deuddeg oed i fynycliu yr ysgol am o leiaf ddau ddiwrnod yn yr wythnos GWEITIIIAU METELAIDD. Cafodd dirprwyaeth freiniol ar weithfeydd ei phenodi yn 1864, ar ba un yr oedd aelodau Ceidwadol nodedig yn eistedd. Drwy en cynghor hwy gwaharddwyd arfer ysgol- ion i disgyn i lawr i'r gwaith gwnawd trefniadau caeth i reoli ffrwydriad, a gwa- harddwyd rhoddi meibion o dan bedair ar ddeg oed ar waith o dan y ddaiar. PWYLLGOR 1886-7. Gan fyned ym mlaen hyd 1886-7, cawn i bwyllgor pwysig o Dy y Cylfredin gael ei benodi, ym mha un y cyfranogodd Arglwydd Salisbury (y pryd hwnw Arglwydd Cranborne), Mr F. S. Powell, Syr G. Greenall, ac aelodau Ceidwadol ereill. Gwnaethant eu hadroddiad yn erbyn cyflogi meibion o dan ddeuddeg oed i weitbio o dan y ddaiar, a chynnygasant gyfyngu oriau gweithio i rai o dan un-ar- bymtheg oed; a rbwymo eu presennoldeb mewn ysgol. Awgrymasant hefyd fesurau er llwyr attal y gyfundrefn gyfnewidiadol (Truck System), ychwanegu nifer yr ym- chwilwyr, a darparu coedogiad rhydd (free timbering), um ba un yr oedd y mwnwyr gynt yn gorfod talu. Oni bai y Weithred Ddiwyg- ~~iadol 1867, a'r cyffro mewn perthynas i'r Eglwys Wyddelig yn 1865, byddai i Weinydd- iaeth Geidwadol Mr Disraeli gario deddf yn cynnwys y diwygiadau hyn. DEDDF RHEOLIAD GWEITHIAU IwN, 1872. Ar ol ei gohirio am ystod tair blynedd, er ffafr mesurau llai eu pwys, bu Gweinyddiaeth •» Mr Gladstone yn 1872 yn alluog i gario gweithred i effeithioli rhai o gymhelliadau y pwyllgor, ac wrth wneyd hyny, cawsant gyn- northwy galluog aelodau Ceidwadol, cynghor- ion ammhrisiadwy, a chydymdeimlad cynhespa raiar ranbuddiant yboblogaeth fwnawl wnaeth Mr Bruce (Arglwydd Aberdar) gyfaddef yn frwdfrydig. I'r aelodau Ceidwadol hyn yr oeddid yn ddyledus am ddarparu archwiliad dyddiol, gweinyddiad gwastadol wrth y shafft, arholiad y rbeoleiddwyr, a rhoddi cyfrifoldeb coedogiad ar y perchenogion. Ceisiasant gario cynnygiad i oddef perthynasau mwnwr a ddygwyddai gael ei ladd yn ddamweiniol i gael eu cynnrychioJi ar y trengholiad. Cyn- northwywyd y cynnygiad rhesymol a chyfiawn hwn gan Mr (yn awr Arglwydd) Cross a Syr Michael Hicks-Beach, ond fe'u gorchfygwyd. Pleidleisiodd Mr Gladstone yn ei erbyn. DEDDF Y CYFLOGWYR A'R GWEITHWYR, 1875. Yn 1875, fe gariodd y Weinyddiaeth, j Geidwadol weithred y cyflogwyr a'r gweithwyr. i drwy ba un (adran 10) y mae y mwnwyr a'u meistriaid yn cael eu gwneyd yn gydradd o flaen y gyfraith mewn pob peth sydd yn cyffwrdd a chytundebau am lafur, ac y mae tor cyfammod yn ei wneyd yn drosedd yn erbyn y gyfraith wladol, yn lie bod yn drosedd yn erbyn cyfraith drwgweithvedwyr. DIKPRWYAKTII FREINIOL, 1879. Yn 1879, penododd Gweinyddiaeth Ar- glwydd Beaconsfield ddirprwyaeth freiniol, ar ba un yr eisteddodd y dynion celfyddydol uwcbaf y dydd, a chyda hwynt yr oedd y Ceidwadwyr adnabyddus fel Arglwydd Crawford, Syr George Elliott, Syr W. T. Lewis, a Mr Lindsay Wood. Parhaodd eu hymchwiliadau dros yn agos i saith mlynedd, ac y mae eu hadroddiad yn cyfansoddi sail y Weithred 1887, yr un ddiweddaf yn gystal a'r un fwyaf pwysig o'r ell. DEDDF 1886. Yn y cyfamser, cyflwynodd Syr R. Cross fesur yn 1886 i alluogi mwnwyr i benodi eu pwys-attalwyr (check-weighers) eu hunain, ac i ganiatau perthynasau mwnwyr trancedig i gael eu cynnrychioli mewn trengholiadau. Gwrthwynebwyd ac attaliwyd ef gan Mr Broadhurst, swyddog yng ngweinyddiaeth Mr Gladstone, ond cariwyd ef drwy ymdrechion di-ildio Syr Richard Cross, a chynnorthwy n'ter mawr o aelodau Ceidwadol. GWEITHRED RHEOLAEH GWEITHIAU MWN 1887. Un o'r testynau.cyntaf agymmerwyd mewn Haw gan Weinyddiaeth Arglwydd Salisbury yn 1887 oedd Mesur rheolaeth gweithiau mwn, i ddwyn ailan olygiadau y ddirprwyaeth freiniol. Cyflwynwyd ef gan Mr Matthews yn nyddiau blaenaf y senedd; ond nid cyn mis Awst y bu y llywodraeth yn alluog i'w basio a'i wneyd yn gyfraith. Yr oeddynt wedi arfer pob ymdrech i symbylu y mesur ym mlaen hyd y nod at aberthu mesurau pwysig ereill, ond ni chefnogwyd eu hymdrechionganyGladstoniaid, rhai o honynt a ymagweddasant mewn modd nid ym mhell o rwystr agored. Y gwelliantau penaf a effeithiwyd drwy y mesur hwn ydynt fel y canlyn :— Cyflogi bechgyn o dan ddeuddeg yn cael ei wahardd yn llwyr. Tal am gyflog yn cael ei reoli yn ol pwysau y mwn. Peri archwiliad a phrawf hanner blynyddol i gael ei wneyd o'r pwysau a'r mesurau. Gwaith y pwyswyr attaliol (check-weighers) i'w gyflawnu yn annibynol ar berchenogion y mwn. Rhagofal ychwanegol i'w gymmeryd tuag at wyntylliad y gweithfeydd. Darpar rhagor oddiogeliad mewn perthynas i'r lampau. Gwneir gwell rheolau ar gyfer ffrwydriad. Y mae darparu coed priodol yn agos i'r gwaith yn cael ei wneyd yn orfodol. Y mae gwasanaeth peirianwyr profedig wrth y shafftiau i gael ei wneyd yn rhwyme- digaeth. Gwasanaeth dynion profedig yn unig a oddefir ar wyneb y gweithfeydd. Ca galluoedd yr archwilwyr breiniol eu heangu yn fawr. Darluniwyd y Weithred hon gan Mr Burt, A.S., fel "y mesur mwyaf o'i ansawdd ag erioed a gariwyd drwy senedd Prydain;" ac er nad oedd yn ei ystyried yn llawn berffaith, credai y gwnaethai lawer i am- ddiffyn bywyd a chymmalau, i ysgafnhau poenau, a lleihau yn fawr y coll bywydau dirfawr ac ofnadwy sydd yn dygwydd mewn cyssylltiad a'r diwydrwydd mwnawl" (yn Edinburgh, Hydref lleg, 1887). Y mae y geiriau hyn yn gymhwys yn desgrifio yr amcanion y mae Gweinyddiaeth Arglwydd Salisbury yn anelu attynt, a thrwy hvyddo i gario y ddeddf i weithrediad, nid oeddynt ond yn dwyn oddi amgylch wlad- weiniaeth draddodiadol y blaid Geidwadol, sef mai iechyd y bobl ddylai fod ystyriaeth flaenaf y Prifweinidog."

PEN BRYN.

[No title]

DARKEST WALES.

ADOLYGIAD Y W AS.

LLITHIAU "MINAH."

FELINDRE A'R CYLCHOEDD.

PENNILLION COFFADWRIAETHOL…

[No title]

[No title]