Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

YR AELWYD GYMREIG. I

News
Cite
Share

YR AELWYD GYMREIG. LLEW LLWYFO. -CIPDREM AC AWGRYM. [GAN ALLTUD.J Blin genyf orfod cofnodi fod Llew Llwyfo wedi ei daro unwaith yn rhagor gan atiechyd peryglus. Ofna rhai o'i gyfeillion, ohfrwydd ei henaint a'i lesgedd, y bydd i'w afiechyd y tro hwn brofi yn angeuol. Hyderwyf eu bod, yn eu pryder, wedi tynn darlun rhy ddu, ac y caniateir ychwanegiad dyddiau iddo i was- anaethu ei genedl a'i ysgrifbin am dymhor eto. Pan yn yr Eisteddfod Geuedlaethol yn Nghas- newydd yn ddiweddar yr oedd arwyddion nad oedd wedi llwyr golli ei iechyd na'i ysbryd cynefinol. Flynyddoedd lawer yn 013 r oedd Llew Llwyfo yn enw teuluaidd drwy Gymru oil ar gyfrif ei allu rhyfeddol fel lienor a cherddor. Addefir yn bur gyffredinol ei fod wedi ei gynysgaeddu k galluoedd cynhenid cryfach nag sydd wedi disgyn i ran nemawr o'i gydoeswyr fel cyfan- soddwr rhyddiaith a phrydyddiaetli. I'r hen a'r canol oed y mae Llew yn fwyaf adnabyddus, oblegid y mae henaint, afiechyd, ac amgylchiadau gwrthwynebol wedi atal, i fesur, gynyrch ei athrylitb i'r to sydd yn codi. Eto, yn ngwyneb yr holl anhawsderau hyn, dywedir mni efe oedd yn ail yn y gystadle-u- aeth am y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd. Nid oes deg o bob cant yn gwybod mai Lewis William Lewis ydyw enw bedydd Llew Llwyfo. Fel llnaws ar ei ol, mabwysiadodd y gair Llwyfo oherwydd ei gysylltiad a lIe yn dwyn yr enw hwnw. Llew (os nad wyf yn cauasynied) gychwvnodd y Star of Gwent (Casnewydd), Y Gwladgarwr (Aberdar)—wythnosolyn a fu am flynycidau lawer yn pleidio bawliau glowyr Morginwg —a bn hefyd yn flaenllaw gyda chycbwyniad y Genedl Gymreig a'r Gwalia. Fel newyddiad- urwr y mae wedi cael gyrfa lwyddianus, a diamheuol yw na fagodd Cymru well cyf- ieithwr-y mae holl briod-ddulliau y Gymraeg iddo ef megys ABC. Byddai yn beth dyeithr iawn yn Nghymru er's talwm i ganfod rhaglen unrbyw eistedd- fod o nod heb enw'r Llew yn argraffedig arno. Efe ydyw'r eisteddfodwr mwyaf crwn fedd Cymru heddyw. Na ddigied neb am hyn, Credwyf ei bod yn ddyled3wydd arnom fel j cenedl i wneyd dyddiau diweddaf y Llew mor ddyddan a dibryder ag sydd bosibl. Gwn fod ychydig gyfeillion wedi arddangos caredigrwydd mawr ato; ond tybed na allwn, fel cenedl, ei gynorthwyo-nid mewn Uloddelusengar, cofier- drwy gyhoeddi cyfran o gynyrch ei ddychyuiyg dysglaer. Carwn daflu allan awgrym, a gobeithio, 08 tybia y werin ei fod yn haeddu sylw, y mab- wysiedir ef. Dyma fe :—Dyweder fod pwyllgor, cynwysedig o 30 o wirfoddolwyr-a thybiwn hi yn anrhydedd i fod yn un o'r cyf ryw-yu cael ei ffurfio yn ddioed, a pbob un o honyut vn foddlon rboddi un bunt tuag at gael alJan argraffiad newydd o ffughanes buddugol gy- hoeddwyd gan Llew yn 1855 yn Merthyr Tydfil, sef Llewelyn Parri neu y Meddwyn Diwyg- iedig"—gwaith ag y fyddai yu rhwym o gyf- oethogi llyfrgelloedd ein gwlad. Dyweder fod y draul o ddwyn allan y ffughanes yn cyrbaedd 130. Buasai y pwyllgor yn medru talu hyn drwy i bob aelod roddi ei gyfran o ganlyniad, ni chostiai argraffu y llyfr ua geiniog i neb, amgen y pwyllgor. Gadawer i ni amcan- gyfrif nifcr y llyfrau werthid yn 3,000 neu 4,000 —(ac y mae byn yn nifer fach, os gwneir y pwnc yn un cenedlaethol)—am swllt yr un, a gwelir y gellid, inewn dull boneddigaidd, estyn swm mawr o arian iddo mewn tal am ffrwyth ei dalent ei han. Nid oes ond ychydig o'n llyfr- gelloedd heddyw yn cynwys y llyfr, felly y genedl, ac nid y Llew, fuasai yn derbyn y lies penaf. Buasai darlleniad o'r llyfr yn rhwym o argy- hoeddi pob un o echryslonrwydd bywyd y meddwyn a bendithion llwyrymwrthodiad, a dangosa feddwdod fel un o'r melldithion penaf ag sy'n llychwinio dyncliaeth gwympiedig. Nid oes yr un dref na phentref, teulu nac aelod o deulu, nad yw'm gwyhoJ am ffeithiau echryd- us mewn pertbynas i effeithiau meddwdod. Pa sawl mam dyner a gwraig addfwyn a gofalus sydd wedi treulio nosweithiau digwsg wrth sylwi ar lithrigfa raddol ond sicr eu hanwyliaid i gysur y gyfeddach! Dengys yr awdwr y meddwyn, pan o dan ddylanwad y diodydd, yn tybio ei fod yn llawen yn ngwmni ei gyd-yfwyr, a thra yn twylLo ei hun fel yma clywch ef yn canu:— Yn iach i bob gofid a phenyd a phoen, A chroeeaw bob llonfyd a hawddfyd a boen Yn iach i ofalon helbulon y byd, A chroesaw bob rhyddid-hoff ryddid a'i phryd Yn nhymhor ieuenctid ni fynon gael byw Mewn mor o dclifyrweh-ein hiawnder ni yw A mynwn anrhydedd i Bacclius ein Duw. Yna dengys yr awdwr y blinfyd sydd yn dilyn y grechwen megys y dilyna y dydd y nos, a desgrifir y meddwyn yn ngeiriau Robyn Owen fel hyn:- Heddyw am ffrwyth yr heidden—yfory Mor farwaidd â. malwen Casau bwyd, cosi ei ben, Ymwingo mewn 11 wm aegen. Pan yn dyfarnu y wobr i'r Llew—dros ddeu- gain mlynedd yn ol—dy wed Kben Fardd, ar air a chydwybod, fel hyn Teitl y ffugbanes yw "Llewelyn Parri," yr hwn yw enw yr arwr. Cawn olwg arno yu y benod gyntaf yn ei gyflwr dedwydd diwygiedig, ac wrth rodio yn y bureu i arolygu ei dyddyn hyfryd daw hen feddwyn a fuasai yn gydymaith ac yn fagl iddo gynt i'w gyfarfod. Rhedir yr amgylchiad hwn i dipyn o stori fechan pur gyffrous. yr hon a grea y fath ddyddordeb ac a enyn y fath chwilfrydedd yn y darllenydd nes ei hoelio wrth hanes hynt yr arwr o hyny allan. Mae dyddiad dychym- ygol y ffugh an e.s hwn yn flaenorol i ddargan- fyddiad y moddicn dirwestol at sobri ineddwon ac er i fam Llewelyn, a'i chwaer, ac yntau ei hun ddyfalu yn eu meddyliau lawer gwaith nad oedd dim a wnai y tro ond llwyrymataliad i sefydlu diwygiad parhaol, nid oedd dull y byd y pryd hyny yn caniatai i Llewelyn feddwl am y fatb beth od a tnympwyol. Modd bynag, pan y mae ein narwT, wedi ei gurc yn nhrigfa dreigiau, a'i uiyned yn llongddrylliad arno fil o weithiau, yn awr yn min boddi am byth yn mor y gyfeddach, dyrwt Ddirwest, fel rhyw fywyd- fad Rhagluninethal, yn dyfod heibio, ac yntau vn neidio iddo ac yn eyrhaedd glan adferiad, dedwyddwch. fL hawddfyd. Mae yr ysgrilen- ydd yn ffugbanesydd campus: ceidw y dydd- ordeb i fyny yn rhagorol; gweithia allan ei gymeriadau i berffeithrwydd, a deugys y maglau a'r rhwydau, y brad a'r dichellion, y cynllwynion a'r hudoliaethau a amgylchynant ieuenctyd, trwy gymeriadau hollol debygol a naturiol, y rbai y mae pawb yn gynefin a hwynt, end ychydig yn eu drwgdybio ac yn eu "ochelyd. Wrth ei ddarllen nis gall ieuenctyd fai na dychryn wrth weled yr hoenynau a osodir i'w dala, a dysgant yn awyddus a llwyddianus y moddion c hunan-amddiflyniad a ddengys yr awdwr iddynt. Ysgrifena yn gryf a bywiog, gan amlygu coethder a dillynder mewn arddull, iaitt, a chwaeth. Y mae ganddo feddwl heinyf, dyohymyg boyw ac ystwyth ei <rynllun sydd gywrain a chelfyddgar, y cymer- ladam a'r gweithreaiadau yn gyson a thebygol; nid yn fynych y dangosir craffach adnab- yddiaeth o ddynolryw, a'u tueddiadau a'u harferion a difgwyliwn y byddai y traethawd hwn, pe cyhoeddid cf. yn debygo enyn cymaint o eiddigedd dros ryddhad y meddwou ac a enynodd "Uncle Tom dros ryddhad yeaetbion. Pwy na ddymunai gael Ilyfr o'r nodwedd hon yn ei dy, er byfforddiant i'r plant pan yn ieuainc ? AT EIN GOHEBWYR. D.D.-Caiff eich cynyrchion barddonol ym- ddangoa yr wytbnos nesaf, os yn bosibl. I W.W.Dioleb. Bydd y Cyfansoddiad yn sicr o brofi yn fuddiol. "T.J.Mae cynwys eich llith o natur rhy bersonol. -GOL.

| O'R GADAIR GORNEL. I

!THE LIBERAL CANDIDATE I

CHILDREN & PUBLIC HOUSES.

BARRY DOCK POLICE, j

BIDDER-SEEKERS AT BARRY.

BARRY VISITED BY FRENCH ENGINEERS.

DOWN TO THE SEA IN SHIPS.…

-------PULPIT INTERCHANGE…

[No title]

SERIOUS ACCIDENT AT BARRY…

BARRY RAILWAY TRAFFIC RETURNS.

Advertising

OUR WEEKLY DIARY.I