Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

29 articles on this Page

- Y Diweddar Brifathraw Michael…

News
Cite
Share

Y Diweddar Brifathraw Michael Jones. YR ANGLADD YN LLANUWCHLLYN. Cymerodd angladd y diweddar Brifatliraw Michael D. Jones o Goeg Annibynol y Bala, Ie ddydd Iau diweddaf, a thynodd yr achlysur nifer fawr i'r Bala o brif aelodau y Corph Annibynol yn Ngogledd Cymru, yn nghyda chanoedd o aeloda.u cyffredin yr enwadi yn gvstal a nifer dda yn cyn- rychioli y cyrph Ymneillduol eraill o bob rhan o'r Gogledd. Dechreuwyd y gweithrediadau gyda gwaisanaeth byr wrth ddrws preswylfod yr ymad- awedig, lie yr oedd wedii ym.gasglu gaoioedd lawer o gyfeillion y diweddar brifathmw, ei hen ddis- gyblion, a'i edmygwyr. Yn mhlith y presenolion yr oedd y Prifathraw Thomas Charlies Edwards, Proffeswyr Hugh Williams, Ellis Edwards, H. E. Griffith, J. O. Jones, T. EL Jones, a'r Parch J. T. Allen Jones, cofrestrydd, yn nghyda nifer fawr o fyfyrwyr, yn cynrychioli Coleg Duwinyddol y Bala y Prifathraw Dr. Lewis- Probert, y Proffes- wyr T. Rhys a J. M. Davies, Mr W. J. Williams (trysorydd), Parch D. Reeg (ysgrifenydd), yn nghyda phedwar o efrydwyr, yn cynrychioli Coleg Annibynol Bala-Bangor; Mr Thomas Ellis, A.S., yn cynrychioli y Blaid Rvddfrydor Gymreig Mr L. D. Jones (Bangor), yn cynrychioli Cymdeithas Defnyddio yr Iaith Gymraeg; Mr W. Morris (Glamllyn), Parch W. Hughes (ficer Llanuwch- llyn), Hwfa Mon (yr Archdderwydd), Dr. Pan Jones, Parch Keinion Thomas, Parch J. C. Evans (Patagonia), Mr J. R. Jones (cyfreithiwr, Bala), Mr J. T. Jones (North and South Wales Bank, Bala), ac eraill. Yr oedd yn yr orymda.ith ang- laddol dros ugain o gerbydau. Yn fuan ar ol deudd-eg o'r gloch dechreuodd y Parch E. T. Davies (Llandrillo) y gwasanaeth ymadawol, a chymerwyd rhan ynddo gan y Parch Griffith Parry (Aberystwyth). Wed: hyny cynhaliwyd gjwasan- aeth YB y capel, pryd y llywyddwyd gan y Parch. E. T.'DiV ies. Yina traddodwyd anerchiadau byi- ion gan wahanol wyr lien a lleyg, ac yn eu plith Mr T. E. Ellis, A.S. Yn yr hwyr traddodwyd r:igethau angladdol gan I-Ida Mon yn Llandder- 1\,1" 2C yn y Bala gan y Parch D. Rees, 'Capel Mawr, RRASLINELLIAD O'l FYWYD. Ir ydym yn dyfynu a ganlyn allan o gyfoesol- yn:—. Yn y Weirglodd Wen, plwyf Llanuwchllyn, y ganwyd Michael Jones ar yr 2il o Fawith, 1822. Ma.b oedd i'r Parch Michael Jones, sefydlydd yr ysgol ddadblygodd yn Goleg Annibynol y Bala yn 1840. Yn ysgol .ei dad y derbyniodd ei addysg gyntaf. Pan yn 14 ced ceisiwyd gwneud difled- ydd o hone trwy ei anfon yn brentis i Gwrecsam. Buan y gwelodd fod y gwaith yn anghydnaws a'i anian, a chyn pen dwy flynedd dychwelodd i'r ysgol. Pan oddeutu 16 oed dechreuodd bregethu ac°aetb i Goleg Caerfyrddin. Bu vno bedair Mynedd dan addysg Dr. Lloyd a Dr. Davies, Pant Teg. 0 Gaerfyrddin aeth i Goleg Highbury, ac •efrydodd yno dan Dr. Henderson, Proffeswr J. Goodwin, a. Dr. W. Smith. Ar ol gorphen ei gwrs aeth drosodd i'r America, ac yn 1848 fe'i hor- deiniwyd yn Cincinnati. Cuisiwyd ei hudo i gar- trefu gyda'i genedl yn y wlad hono, eithr yn ofer. Dychwdodd i Gymru, ac aeth yn fugail eglwys Bwlch N ewydd fel olynydd y diweddar Dr. John Thomas, Lerpwl. Pum' mlyn- edd fu ei arhosiad yno. Yn 1854 bu farw ei dad, ac etholwyd ef i'w olynu fel prifathraw y coleg yn y Bala- Yr un adeg cymer- odd ofii bugeiliol eglwysi'r Bala, Bethel, Soar, a Thalybont, Gormod gOTchwyl oedd iddo axolygu. y coleg a'r pedair eglwys hyn. Gan hyny rhodd- odd ddwy eglwys i fyny, eithr gofalodd am y ddwy gIwys arall hyd yn gymhaxol ddiweddar. Yn fuan ar ol ymsefydlu fel prifa.thraw daeth i gryn amlygnvydd fel cened laetholwr Cymreig ac fel byrwyddwr gwladfa i'r Oymry yn Mhatagonia. Cadain a chwerw oedd y gwrthwynebiad i'w gyn- llun o sefydlu trefedigaeth i'w gydwladwyr, eithr meddai benderfyniacl di-ildio ac ysbryd anhyblyg. Yn fuan gwelodd ei freuddwyd yn ffaith. Ar yr 28ain- o Orphenaf. 1865, elaniodd y fintai gyntaf o Ymfudwyr-a. rifail 153—wrth yr afon Ohu- 'but. C'al.ed fu brwydr bywyd i'r fintai yn y fro bell bono. Am flynyddau wed'yn hyrwyddo ei antur wladfaol fu ymdreeh benaf y Prifat.hraw. Yn raddol daeth llwydd, a dechreuodd y d:ffaeth- weh flcdeuo trwy lafur yr ymfudwyr. Yn 1875 -cymerodd y rhWYJ: anffodus Ie yn yr enwad Anni- bynol. Un o'r gwyr blaenaf yn vr helynt oedd Michael Jones. Y canlyniad fu ihanu'r coleg yn ddau—y naill adran dan ofal y gwr a golfueir a'r Hall dain ofal y Prifathraw Thomas Lewis. úhwerw iawn fu'r ysgarmes rhwng y pleidiau, ac yn hanea yr enwad yn ystod y ganrif hon nid oes gyfnod mor wrthnaws a hwn. Yn 1832 gweiniwyd y cleddau, a liinjarodd y teimladaiu gelynol i gryn Taddau. Yn nghwmni'r Parch D. Rees, Capel Mawr, aeth r Piifatbraw ar ymweliad a Pbata- gonia.' Caifodd g.oesaw brwd, a chyflwynwyd iddo dysteb gan y gwladfawyr am ei ymdrechion o'u plaid. Yn 1889 cyfanwyd y rhwyg yn yr en- wad, ac unwyd y ddau goleg, yr hwn yn ddilynol a sefydlwyd yn Man.ior. Ar ol hyn diffygiodd nertb y Prifathraw, ac oddeutu tair blyi.cdd yn 01 cyfyngwyd ef i neillduedd cystudd yn ei bies- wyl, Bed Iwan, Bala. Nid gwr cyffredin oedd y Prifathraw. Meddai nodweddion arbenig, a chymeriad na cheir bob dydd ei gyffelyb. Gallesid'tybio oddiwrth y rhan a gymerodd mewn trafodaethau enwadol mai gwr chwerw ei ysbryd a miniog ei eiriau ydoedd, ond cydnabyddai y rhai a'i hadwaenai oreu fod amryw nodweddicn swynol ynddo. Yr oedd yn athraw da, ac yn enill parch ac edmygedd yr efrydwyr ar gyfrif ei garedigrwydd yn ogystal a'i fedr i hy- fforddi. Fel pregthwr nid oedd yn hyawdl nac ■effeithiot iawn er hyny, goleuodd lawer ar gyn- ulleidfaoedd yr enwad, ac yr oedd ei ddifrifwch a'i onestrwydd yn peri ei fod yn dra chymeradwy. Yroedd yn genedlaetholivr cyn i'r gair ddod yn gytfre-din, ac nid yw'n anheilwng o gaeil ei gyfrif yn^un o brophwydi y Dcffroad yn ei agwedd wleid- JflaOi. Mewn gwisg, gwedd} a buchedd, bu'n Gymro twymngaloon a chadarn, ac a chas cyflawn yr. edrychai ar bob rhith o fursendod Seisnig a Die Shon Dafyddiaeth, Pan dueddid i godi pob- peth Seisnig yn utnig am eu bod yn Seisnig, ac i warthrnddo pobpeth Cymreig am eu bod yn Gym- reig, codai ei lef yn uchel a nerthol o blaid ei iaith, eii wiad, a'i genedl, gan gymhell ei thradd- odiadau fel rhai teilwng o'u coledd a'u hanrhyd- eddu. Enwodd ei anedd yn Bod Iwan, a'i blant .YI1 Llwyd, M'ibangel, Myfanwy, a Mair; ymwisg- jii mewn brethyn caxtref Cymreig gyda'r clos pen- glin hen flasiwn; a pha ddifEygion bynag oedd ynddo—a phwy svdd hebddynt ( yr oedd ei gar- iad a'i genodlaetholdeb Cymieig trwyadl yn cudd- ia lluaws o'i feiau. 1V .,1 Er us, chyfoethogodd nem.awr ar lenyddiaeth Cymru trwv gvfrolau, yr oedd yn ysgrifenydd mynycb i'r cyfnodolion a'r newyddiaduron. Yr oedd grym a graen ar ei ysgrifau yr oedd ei wst- wareg yn ddeifiol, a medrai duchanu ffoledd TLCS peri i bawb ystyriol ei flieiddio. Gwych oedd ei Gymxaeg, ac fe'i hysgrifenai yn ei phriodi ddull ei bun, ae anaml, os byth, yr arferai air Saesneg-- yn hytrach cieai air newydd os na fedrai ei gyfystyr vn ein hen iaith ni. ji Diau mai prif wajth ei fywyd oedd sefydlu r Wladfa Gymreig yn Mhatagonia. Ei amcan oedd sefydlu trefedigaeth, De gallai Cymry ymfudo a chadw eu nodweddion Cymieig. Ni wyddai neb yn well nag ef am y gorm.es a lethai amaethwyr Cymru as am sefyllfa adfydius y llafurwyr a r do^- barth gweithiol dan feistri tir a gwaith Toriaidd acer cael lie i'r cyfryw ymfudo yr egniodd gy- maint dros y WMfa. Gwariodd filoedd o bunau, a chyflwynodd holl hamdden ei fywyd i hyrwyddo y cynllun, ac V mae siefyllfa addawol y Wladfa iheddiyw-r na fu'n llwyddiant digymysg—i'w briodoli i raddau helaeth i'w ymroddiad cf: Qhwarddwvd a pbentyrwyd llawer o wawd ar cj ben oblegid ei uchelgais yn y cyfeinad hwn, ond cafodd fyw i weledi ei wadwyr jn fud a r .cynllun yn cael ei gario allan gyda graddau o ffyniant. Fel athraw medrus, Rhvddfrvdwr cadarn, oen- oolaetholwT pybyr, Cymro trwyadl, a hyrwyddwr buddi ei boM, yn ngfhyda'i wasa/naeth i w emyad, Parch Michael D. Jones goffa hir r. pharchus. Bywyd cyflawn o waith fu ei fywy( ef, a dilys fod Cymxu yn ei farwolaeth wedi colli cymwynaswr da a chymeriad dyddorol.

[No title]

---..------------Y Diweddar…

| Manion ao Amrywion.

! Nodion Amaethyddol, &c.

[No title]

AMLWCH.

BEAUMARIS.

BODEDERN.

.BRYNDU. MON.

CAERGYBI.

CEMAES.j

LLANDDANIEL.

LLANDDYFNAN.

LLANFACHRAETH.

LLANFAELOG.

LLANFAIR M.E.

I,LLANFAIR P.G.

LLANFAIRYN GHORNWY.

LLANGADW AIADR (Bodorgan).

LLANGEFNI.

LLANRHYDDLAD.

LLANWENLLWYFO.

PORTHAETHWY.

[No title]

[No title]

GWEDDI AM ADFERIAD MEIRLA.DOG…

ILlys Manddyledicn Llangefni.

ABERFFRAW.