Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Yng nghapel Ebenezer, am 2.30 y pryuhawu, cynhaliwyd Y CYFARFOD DIWINYDDOL o dan lywyddiaeth yr Athro. D. Miall Edwards, M.A., Aberhonddu, yr hwn a wnaeth y syIwadan canlynol ;— A oes angen Cyfarfod Diwinyddol vnglyn a Chvrddau'r Undel) ? Atebaf yn ddibetrus fod. Byddai'n anghyson a syniad addas am gyfar- taledd pethau pe rhoddid lie amlwg 'ar y rhaglen, fel y dylid, i faterion ynglyn a pheirianwaith allanol crefydd, ond dim lie o gwbl i'r cwest- iynau mawrion sy'n dal perthynas ag egwydd- orion sylfaenol ein ffydd. Nid yw o bwys pa mor berffaith y byddom fel Enwad mewn mater- ion o drefn a chynllun, os nad oes gennym amgyff- rediad gweddol glir a chryf o'r gwirionedd y safwn drosto, aiff ein peirianwaith yn ddiben ynddo'i hun, yn lie bod yn foddion i gyrraedd diben. Mae'r meddylrychau ysbrydol sydd yn sylfaen ein bodolaeth fel Enwad yn bwysicach na'n holl drefniadau, nad ydynt ond cyfryngau ar y goreu. Dj-lem wybod beth yw'r trysor gwerthfawr o wirionedd a ymddiriedwyd inni, hyd yn oed pe byddai gennym y trysor hwn mewn llestri pridd. Ofnaf yr edrychir ar y Cyfarfod Diwinyddol ynglyn a'r Undeb fel rhyw atodiacl y gellid ei hepgor yn go rwydd heb i'r Wyl fod yn llawer tlotach. Gellid meddwl mai rhwng bodd ac anfodd y rhoddir lie i'r cyfarfod ar y rhaglen o gwbl. Onid arwydd o hyn yw'r ffaith mai lie cyfyng a gwasgedig iawn a roddir ar y rhaglen d'r cyfarfod hwn, ac y trefnir i'w gynnal ar yr un adeg a chyfarfod mor bwysig a phoblogaidd a'r Cwrdd Cenhadol ? Tybed fod rhannu'r Uncleh yn y modd annaturiol hwn yn seiliedig ar y dyb- "iaeth nad oes un math ar gyfathrach rhwng Diwinyddiaeth a'r Genhadaeth ? fod yr hwn a vmhyfrydo mewn Diwinyddiaeth o angenrheid- rwydd allan o gydymdeimlad a'r Genhadaeth, ac nad oes ar yr hwn sy'n Ilosgi o dan dros y gwaith Cenhadol angen am Ddiwinyddiaetli yn asgwrn 1 cefn i'w frwdfrydedd ? Anturiaf ddywedyd, beth bynnag yw'r angen am ddosraniad llafur, fod eisiau Diwinyddiaeth ar y cenhadwr yn gefn i'w waith Cenhadol, ac eisiau yshryd Cenhadol ar v diwinydd i roi min ac ystyr i'w ddiwinydd- iaeth. Dywedaf ymhellach, nid llai ond mwy o ddiwinyddiaetli sydd eisiau arnom fel Enwad ac fel Undeb. Da fyddai pe gellid sefydlu Darlith Ddiwinyddol ynglyn a'11 Huchel-wyl, tebyg i ddarlith Davies a draddodir yn flynyddol ynglyn a Chymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfm- aidd, ac a gyhoeddir wedyn yn gyfrol sylweddol. A oes neb o'n cyfoethogion yn teimlo digon o set dros Frenhines y Gwyddorau i waddoli dar- lith o'r fath yn ein Henwad ? Mae rhywrai'n barod i ofyn, Pa angen sydd am Ddiwinyddiaeth o gwbl ? A rhaid i ni gyf- addef ein bod yn byw mewn oes a nodweddir gan gryn lawer o ragfarn wrth-ddiwinyddol ? Gwelir y gogwydd gwrth-ddiwinyddol hwn yn syniadaeth athronyddol a gwyddonol yr oes, gyda'r pwyslais a roddir ar wybodaeth o'r byd gweledig o'n cwmpas fel yr unig wybodaeth sy'n fuddiol ac angenrheidiol i ddyn, ac fel yr unig wybodaeth sy'n gyraeddaclwy ganddo. Mae yna haen o amheuaeth ym meddwl yr oes jntiglyn a phosibilrwydd gwybodaeth o unrhyw fyd y tu- hwnt i gyfundrefn y byd naturiol. Onn yn sicr, ni ddylem ni roi i mewn i'r gogwydd hwii fel rhai a gredwn yn ddiysgog yng ngwirioneddol- rwydd y Neithiau sy'n wrthtych ein profiad cref- yddol. Gwir, fel y dywed Paul, na all y dyn anianol eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt. Ond yr hwn sydd ysbrydol, sydd yn barnu pob peth.' Eithr Duw a'u heglurodd i ni trwy Ei Ysbryd canys yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth ïe, dyfnion bethau Duw hefyd.' Ond gwelir yr un duedd wrth-ddiwinyddol i ryw raddau hyd yn oed oddimewn i'r Eglwys ei hun, megis pan ddywedir mai mater o brofiad ac nid mater o wybodaeth yw crefydd, gyda'r awgrym mai o safbwynt teimlad a gwres a hwyl yn unig y mae barnu gwerth ac ynni ein bywýd crefyddol, ac nid o gwbl o safbwynt meddyl- garwch a gwybodaeth ddeallol, fel pe bai'r deall yn rhywbeth estronol hollol i'r profiad crefyddol. Cytunaf yn galonnog iawn mai ein hangen cyntaf ac olaf fel crefyddwyr yw profiad ysbrydol o reality Duw'r Tad fel yr ymddatguddia yn Ei Fab lesu Grist, adnabyddiaetli bersonol o Dduw yng Nghrist fel grym achubol a sancteiddiol, a'r fath adnabyddiaeth ag a fo'n gafael yn haenau dyfnaf ein personoliaeth, ac yn penderfynu holl gwrs ein bywyd ymarferol. Ac eto y mae lie, a lie pwysig, i wybodaeth ac amgyffrediad deallol nid fel elfen estronol ac allanol i'r profiad cref- yddol, ond fel rhywbeth sy'n oblygedig o'i fewn, yn enwedig pan fo wedi cyrraecld ei lawn dyfiant. Mae flydd yn cynnwys elfen ddeallol, er na ddy- wedwn mai honno yw'r bwysicaf; a dwyii yr elfen honno i oleuni ac eglurder yw swyddogaetlx Diwinyddiaeth, fel ag i arbed ein profiad cref- yddol rhag dirywio yn sentiment anelwig a gwag. Nid creadigaeth ddamweiniol neu fympwyol, gan hynny, yw Diwinyddiaeth, y gellir ei hepgor heb wanhau na thlodi'r bywyd ysbrydol, eithr yn hytrach cynnyrch angenrheidiol yr y'mwyh- yddiaeth grefyddol yn ei gwedd ddeallol neu adfyfyriol. Gwir y ceir llawer sant gloyw a Christion addfed na wyr nemor ddim am Ddiw- inyddiaeth; ond credaf y gellir dywedyd am y cyfryw fod nier Diwinyddiaeth yn wasgaredig fel dylanwad holl-dreiddiol trwy eu bywyd a'u cymeriad, er heb grisialu yn eu deall yn y ffurf o wybodaeth neu gredo. Os gall person unigol fyw'n grefyddol ar ychydig iawn o Ddiwinydd- iaeth, prin y gall yr Eglwys fel eyfangorff nac enwad crefyddol cyfan esgeuluso Diwinyddiaeth heb ei golledu ei hun yn fawr. Gwaith Diwin- yddiaeth yw dwyn allan i eglurder a threfn y Jfeithiau a r meddylrychau a ragdybir, mewn ffurf mwy neu lai anelwig, ym mhrofiad cref- yddol hyd yn oed y symlaf a'r lleiaf o'r holl saint, a chysylltu'r profiad hwnnw a ffeithiau gwrthrychol hanes a datguddiad fel ag i'w osod ar sylfaen safadwy. Crefydd lipa ac eiddil yw honno sydd heb Ddiwinyddiaeth yn gefn iddi. Plelityn y nos a'r niwl yelyw, mewn perygl o ddirywio i fod yn ofergoeledd afresymol neu is-resyl-iiol. A rhaid cofio ymhellach fod Diwinyddiaeth yn wyddor gynhyddol. Nid yw byth yn cyrraedd cyflwr gorffenedig, sefydlog a therfynol. Peth j a ffurfir o'r newydd yn ffwrnes profiad, ac a saerniir yng ngweithdy bywyd o oes i oes ydyw. .Gan hynny, nid yw gwaith y diwinydd byth yn dod i ben. Erys y gwirionedd dwyfol fyth yr un; eithr amrvwia'r dehongliad dvnol ohoiio n fawr, yn ol fel yr addfeda'r profiad crefyddol ar y naill law, ac yn ol fel y cynhydda gwybod- aeth a diwylliant cyffrediiiol ar y Haw arall. Rhaid i Ddiwinyddiaeth o hyd ail-ddehongli athrawiaethau'r ffycld mewn termau a fo'n gyson a gwybodaeth oreu'r dydd, a'u mynegi yn nhaf- odiaith yr oes, tra'n aros vnffyddlon i'r vmdclir- iedaeth a drosglwyddwycl iddi o'r gorffennol, a thra'n ofalus i beidio a gwneuthur cyfaddawd annheilwng ag ysbryd yr oes a'i gwerthu ei hun drosodd i'r byd. Er enghraifft, yn ein dyddiau ni, ni all Diwinyddiaeth anwybyddu'r dulf beirn- iadol o astudio hanes a llenyddiaeth y gorffennol, nac ychwaith egwyddor fawr Datblygiad fel y'i pwysleisir hi gan wyddoniaeth ddiweddar. Rhaid iddi fabwysiadu'r cyntaf yn ei hastudiaeth o'r Beibl, a'r ail wrth geisio deall holl ymwneud Duw a'r cread ac a dyn, a hynny heb werthu ei gened- igaeth-fraint, sef y ffydd a rodded unwaith i'r saint.' Ac ni all yr ysgydwad mawr fel yr un a achosir gan y rhyfel Europeaidd presennol lai na'n gorfodi i archwilio seiliau ein ffydd o'r newydd er mwyn gwahaniaethu rhwng y pethau a ysgydwir a'r pethau nid ysgydwir.' Credaf fod rhagolygon Diwinyddiaeth yng Nghymru ar y cyfan yn bur obeithiol, ar wahan i'r rhyfel erchyll presennol 5y'11 siglo cymaint o obeithion i'w sail. Os ceidw'r genedl Gymreig ei chalon mewn cydymdeimlad a phethau ysbrydol, os cedwir hi rhag cancr materolrwydd a dirywiad crefyddol, yna credaf fod dyfodol disglair i Ddiwinyddiaeth Cymru. Ond rhaid inni ymroi ati, os yw Diwinyddiaeth i gymryd lie teilwng ac anrhydeddus ym mywyd a hanes ein cenedl. A yw ein Henwad ni, yr Annibyn- wyr Cymreig, yn barod i roddi cefnogaeth a chyf- raniad i'r gwaith pwysig hwn, cyfartal i'n cryf- der a'n hadnoddau fel Enwad ? (I'w barhau.)

Rhiwmatic ac Anhwylder y Kidney.

Advertising

[No title]