Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
12 wr-gcb., A WELSH WEEKLY ESTABLISHED 1851. Issued Every Thursday Morning'. THOMAS J. GRIFFITHS. Proprietor. UTICA. N. Y. IMPORTANT TO ADVERTISERS.-The attention of business men in general is called to Y DRYCH as a superior adver- tising medium, being read by thousands who cannot be reached by any other pub- lication. It has a large circulation, with subscribers in every State and Territory of the Union, in Great Britain and the British Dependencies. It is the recognized National Organ of the Welsh People.
ATHRONIAETH Y MEDDWL. j
ATHRONIAETH Y MEDDWL. Beth Ydyw Athroniaeth? Gan T. J. Peters, Wind Gap, Pa. Penod 1. Athroniaeth ydyw y gair a ddefn- yddir yn yr iaith Gymraeg am y gair Philosophy, a ddefnyddir neu a arferir mewn ieithoedd eraill. Mae yr ol- ddawd 'oniaeth' yn golygu y wybod- aeth yn nghylch natur, ansawdd, nod- weddion, teithi, elfenau neu gelfyddyd, fyddo yn nglyn a'r gwreiddair a gymesurir ganddo. Barddoniaeth ydyw y wybodaeth a draethir yn ysgrifen- edig neu lefaredig yn nghylch agwedd- ion ac anhebgorion gwahanol Barddas. Chwedloniaeth ydyw y wybodaeth ym- chwiliadol a beirniadol yn nglyn a chwedlau hen a diweddar. Llyfron- iaeth sydd air a ddefnyddir am wy- bodaeth sydd yn nglyn a hanesiaeth llyfrau, &c., &c. Athroniaeth yn ei ystyr gyfyng ydyw y wybodaeth sydd yn nglyn ag egwyddorion athrawiaeth- Efu. Efallai y buasai Cymreigio y gair Philosophia yn well na'i gyfieithu yn Athroniaeth, er mwyn cyflwyno ei ys- tyr wreiddiol i'r deall, fel y gwfieir gan ddysgawdwyr o genedloedd ac ieithoedd eraill. Gair cyfansawdd ydyw o'r iaith Roeg,o'r geiriau Phileo- (caru) a Sophia (doethineb neu wy- bodaeth). Pa fath wybodaeth? Y wy- bodaeth sydd yn ymchwilio i'r cysyllt- iad fodola o angenrheidrwydd rhwng achos ac effaith, ac yn boddloni y du- edd gynenid sydd yn y meddwl dynol, sef cariad at unoliaeth, neu gysondeb rhwng pethau perthynasol a'u gilydd, unoliaeth perthynas sydd rhwng achos ac effaith. Fel hyn yr ydym yn canfod ffaith, cyfyd ynom awydd cael gwybod pah am y bodola fel hyn mwy na rhyw fel arall, yna ymchwilir oddiwrth yr effaith at yr achos er ceisio eglurhad. Er engraifft, mae y 'llech-chwarel- wyr gyda'u gorchwylion dyddiol, can- fyddant fod careg yn hollti, dyna yr effaith. Oddiar hyn cyfyd cwestiwn, paham y mae careg yn hollti? Wedi mabwysiadu y moddau priodol i wneyd yr ymchwiliad drwy arbrawfiadau, deuir o hyd i'r achos, canfyddir ei fod yn gyfuniad o wahanol bethau yn cyd- gyfarfod er cynyrchu hollt. Mae natur neu ansawdd y gareg yn un peth. Y mae yn gyfanspddedig o linodau gron- ynol, er nas gellir eu canfod a'r llygad noeth, eto gellir gwneyd arbrawf drwy ddadansoddiad fferyllol a brofa hyny i sicrwydd, ac egluro eu ffurf gynenid a'r modd y'u ffurfiwyd. Ond daw ffaith arall i'r golwg yn y fan yma, sef na bydd i gareg byth hollti o honi ei ihun; mae yn rhaid cael rhyw allu (force) o'r tu allan iddi cyn y gellir cynyrchu hollt. Dichon i'r gallu hwnw fod yn ddylanwad gwahanol ar y gareg, megys gwres, oerni, sychder, pwysau, neu allu celfyddydol, &c., dyna y gallu arall, a phan y ceir cyfuniad o'r pethau yna yn cydgyfarfod, cynyrohir hollt. Dyna olrheiniad oddiwrth yr effaith at yr achos (mae amrywiol ddulliau gwahanol i resymu, fel y ceir sylwi pan ddeuir at y pwnc), a dyna paham y mae careg yn hollti. A hyn ydyw athroniaeth y pwnc. Credwyf fod yr eglurhad yna yn ddigon i ddangos beth ydyw Athroniaeth, sef y berthynas a fodola rhwng achos ac effaith. Yn awr, cyflwyna pwnc arall ei hun i'n sylw, sef pa un ai'r moddau drwy ba rai y deuir o hyd i'r berthynas a fodola rhwng achos ac effaith, ynte y berthynas ei hun ydyw Athroniaeth? I hyn rhafd ateb, mai angenrheid- rwydd athroniaeth ydyw y moddau, ond er cydnabod hyny, y berthynas ei hun ydyw athroniaeth; drwy y modd- au y dangosir, ac yr eglurir y berthyn- as. t Adnabyddir y moddau wrth wa- hanol enwau, i ddangos gwahanol gyfundrefnau ymchwiliadol Athron- iaeth, megys Damcaniaeth a Gwyddon- iaeth neu Wyddor. Gyda'r gyntaf, nis gellir tynu casgliadau pendant oddi- wrth gvnseiliau rhesymiadol, yn unol a'r gyfundrefn, eto nid ydynt yn wrth- wynebol i brawfion sicr. Y rhai hyn ydynt, tebygolrwydd, dadblygiad, a chyfatebiaeth, &c. Gyda'r ail, gellir darganfod gwirioneddau sicr, a phrawfion boddhaol. Gwyddorau ydyw Seryddiaeth, trefn y cysawd heulog, chwyrn symudiadau y ser a'r planedau, eu pellder oddiwrth eu gilydd, cyflymder a dull eu hysgog- iadau a'u hamrywiol ddylanwadau ar ein daear ni. Daeareg, ddengys an- soddau neillduol y creigiau, a'u dos- barthu i'w gwahanol gyfnodau, eu trefn a'u ffurfiad. Llysieuaeth sydd yn dangos gwahanol rywiau llysiau, a'r modd i'w cynyrchu a'u diwyllio, adnabod y dail a deall dirgelwch eu rhinweddau. Fferylliaeth a dreiddia i mewn i'r elfenau sydd yn hanfodol i sylweddau anianyddol defnydd (matter), eu gwahanu a'u dosbarthu i'w cynenid gyflwr o fodolaeth. Medd- yleg, neu athroniaeth y meddwl, sydd yn trafod gwahanol agweddau y medd- wl dynol yn unig. Meddyleg ydyw y gair a ddefnyddir yn yr iaith Gymraeg am y geiriau Psychology a Meta- physics. Ystyr y cyntaf. ydyw trafod- aeth ar yr enaid, gwyddor y meddwl a'i gyneddfau Groeg, psyche, yr-enald a logos, traethawd. Mae ystyr wa- hanol i'r gair Metaphysics, yn gymaint a'i fod yn cymeryd i mewn y wyddor am y cyrff naturiol yn gyntaf, a gwyddor y meddwl yn ail. Deillia o'r iaith Roeg Meta (uwch, neu ar ol) a physica (anian). Ymdrinia a deddfau meddyliol neu weithredol y meddwl yn eu perthynas a chyrff materol, am- ser, lie, symudiad neu ysgogiad, a llawer mwy o bethau a ragdybir yn holl ynichwiliadau gwyddor a dam- caniaeth. Mae meddyleg yn ystyried nid yn unig ymddangosiadau (phenomena) meddyliol, ond hefyd eu cyflyrau; trefn eu dadMygiad, a'r amgylchiadau drwy ba rai mae y dadblygiad yn cael ei dylanwadu. Wrth ystyried y cyflyrau hyn, y ffaith bwysig gyntaf gyfarfydd- wn ydyw y berthynas gyfriniol sydd rhwng y meddwl a'r corff; mae cydna- byddiaeth o'r ffaith yma a'i phwysig- rwydd wedi arwain lluaws o feddyleg- wyr diweddar i efrydu meddyleg oddi- wrth, anianeg a bywydeg. Tra mae y berthynas fodola rhwng gweithrediad- au y meddwl, a chwrsrediad anianeg yn y corff yn agos, rhaid cofio nas gellir cyfnewid cwrsrediad y corff i weithrediadau meddyliol, a pha mor agos bynag y gall y berthynas fod rhwng meddwl a chorff fod gwrth- glawdd o anhawsdra rhyngddynt nas gellir tori trwyddo, na dringo drosto, a dros y fynedfa o'r naill i'r Hall wedi ei gloi rhag pob efrydydd, a'r unig allwedd all ei drladgloi ydyw Meddyleg neu Athroniaeth y Meddwl. (I'w Barhau).
IY CYPLYS-AIR DUW-DDYN.
I Y CYPLYS-AIR DUW-DDYN. A Syniadau D. P. Price. I Gan Wr o Gymru. I II. Ceir arddangosiad yn yr hyn oedd. yn mhenod 1 o ddull trylwyr a thrwy- adl Mr. Morris yn trin ei fater, a chawn yr un dyfalwch ar bob tudalen drwy y llyfr. Ymddengys mai diffyg neu gam- gymeriad mawr a dinystriol Mr. P. ydyw dal gormod ar y gair dyn, yn 'exclusive' felly; gwelir hyn yn ei waith yn dal mai dyn ydyw y cyfryng- wr rhwng Duw a dynion, am fod yr Apostol yn dygwydd—pe dygwydd hefyd-ddweyd y dyn Crist Iesu am dano; pryd y buasai haner chwarter mynyd o ystyriaeth feddylgar yn ddi- gon i argyhoeddi un fod y gwaith a'r swydd a briodolir i'r Dyn Crist Iesu fel Cyfryngwr ac Eiriolwr dros ddyn at Dduw, yn gyfryw ag sydd yn gofyn hollwybodaeth, a hollbresenoldeb di- derfyn, yn nghyd a hawliau a haedd- edigaethau dwyfol. Awgryma Mr. P. y buasai yn credu y ffaith o Dduwdod yn y dyn, pe bu- asai yr enw yn y Beibl; eithr nis gall fod hyn ond ffordd amgylchog o wrth- ddadleu y peth, pan yn gwybod nad oedd y gair ddim yn y Beibl. A phan y mae mor benderfynol, ac mor wrth- wynebol i'r enw Duw-ddyn, a'i syl- weddiad, gan alw y peth yn gabledd dwbl, pa fodd y dywed y buasai yn credu ynddo, ac yn ei dderbyn, pe buasai yn yr Ysgrythyrau? Nis gall fod hyn eto namyn twyll ymresymiad tan ei ddwylaw. Beth sydd mewn enw? Os ydyw y peth ei hun yn y Beibl, os ydyw yn ffaith, pa fodd y mae absenoldeb yr enw Duw-ddyn. yn di- fodi y peth? Y mae y Proffeswr Morris yn profi yn anwrthwynebol- Posibilrwydd a Rhesymold-eb yr Ym- gnawdoliaeth, ac yn profi yn mhell- ach fod yr ymgnawdoliad yn ffaith. Terfyna ei benod ar y tri phwynt yma, yn y geiriau a. ganlyn: "Dengys yr ystyriaethau blaenorol bosibilrwydd a rhesymoldeb Ymgnawd- oliad. Wrth gwrs, cwestiwn arall yw, A yw yr Ymgnawdoliad yn ffaith? Ond os oedd ein byd wedi myned i sefyllfa mor druenus fel nas gallasai dim llai nag ymgnawdoliad Person dwyfol ei feddygiaethu; os yw ym- chwiliad i gyfansoddiad y natur ddwy- fol a'i natur ddynol yn profi fod y peth yn bosibl ac yn debygol; ac os oes ar gael ddesgrifiad hanesyddol o Ber- son nas gellir esbonio Ei gymeriad a'i fywyd ar unrhyw dybiaeth arall, onid yw y casgliad yn anocheladwy, fod yr Ymgnawdoliad yn ffaith wirioneddol?" Danoda Mr. P. ei fod wedi dwyn nifer o Ysgrythyrau, y naill i bron dyndod y dyn Crist Iesu, a'r gyfres arall ei Dduwdod; ac i neb o ddarllen- wyr y "Drych" ei gwrthwynebu. A braidd na thybiem, yn ddystaw bachi ei fod yn lied ymorchestu ynddo ei hun, ar eu dystawrwydd, gan gymeryd hyn fel yn cydnabod ei ochr ef yn y mater. Ond nid yn y fan yma y mae yr anhawsder. Y mae darllenwyr y "Drych" yn credu yn y naill gyfres a'r llall mor ddiysgog-os nad yn fwy sefydlog na Mr. P. ei hunan. A phe estynai Mr. P. y ddwy golofn fel ag i gynwys pob adnod a brawddeg per- thynasol hyd ddiwedd Llyfr y Dat- guddiad, credent yr oil yn ddiwarafun, heb ameuaeth ynddynt ddim. Eithr telmlant mai nid yn y fan yma y mae'r anhawsder: nid yma y mae pwynt y ddadl; ac nid yma y mae y 'crux.' Y cwestiwn ydyw am uniad y ddwy gyf- res. Y mae pob Cristion uniongred trwy y byd, yn unol a'r Beibl, i'r Mab o anfeidrol gariad at bechadur, ymos- twng, 'dibrisio' ei Hun, i gymeryd ein natur, ac i uno a'r ddynoliaeth yn Methlehem Judah—"Am hyny hefyd y peth santaidd a aner o honot ti, a elwir yn Fab Duw;" y Duw-ddyn Yrwan, os yw Mr. P. yn gwrthod yr hyn sydd wedi bod yn gred yr Eglwys er's yn agos i ddwy fil o flynyddau, gorphwys arno ef egluro ei ddyluniad, ac nid pwyso ar y darllenydd y peth hyn ag arall, pryd nad ydyw yn pry- deru nac yn petruso, nac yn ofni dim am ei gred, ond gorfoledda ynddo fel ei unig obaith am ei lachawdwriaeth. Gofynir: "Pa fodd y cymodwch y dyfyniad a ganlyn am yr Ymwaghad a'ch gwaith yn dal cyn diwedd y para- graph mai dyn ydoedd y dyn-Crist Iesu? "Beth oedd ynddo i'w ddibrisio a gwaghau ei hun o hono? Ai nid er mwyn cymeryd agwedd dynoliaeth? Ie, agwedd dynoliaeth yn y radd iselaf sef agwedd gwas." Pa fodd y cyson- wch chwi yr annghydweddiad gyda. cfrymodi hefyd a'r haeriad dylynol fod dal y cyfryw undeb yn gabledd ar y Duwdod a'r dyndod? Ac onid ydych eich hunan yn y geiriau blaenorol, "Nid Duw-ddyn oed,d y pryd hwnw, canys nid oedd dynoliaeth mewn bod eto; ond," &c., yn cydnabod y Duw- ddyn yn yr 'ond'—ond dacw adeg wedi dod, &c. Darnodwoh neu geiriwch yr ymwag- had yn annhraethadwy gryfach na'n esbonwyr yn gyffredin, a'n dysgawd- I wyr penaf megys Dr. L. Edwards a Dr. Cynddylan Jones. Pa fodd y cysonwch yr ymadrodd, "dwyn profion o'i ddyn- dod ac o'i Dduwdod;" ac eto yn dal nad oedd ond dyn, 'y dyn Crist Iesu?' Beth oedd pwrpas casglu a threfnu y ddwy gyfres a'l gadael fel y maent ar wahan? Pa wasanaeth ydynt i fod felly? A oes dim uno i fod arnynt-ddwy- fol a'r dynol ? Onid ydych yn cydnabod hyn yn y modd mwyaf penderfynol yn eich es- boniad ar yr ymwaghad? Pa bryd a pa fodd ynte yr enciliodd y Duwdod? Onid "Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd?"
[No title]
Adroddir o Copenhagen fod y Kaiser wedi dadgan ei fwriad i edrych catrawd oedd wedi enwogi ei hunan yn Verdun. Archodd i'r gatrawd gael ei galw yn nghyd gerllaw ei ben-cadlys. Fodd bynag, y diwrnod dan sylw, cy- merodd y gatrawd dan sylw ran mewn brwydrau eraill, a thepeuwyd Ilawer ar ei rhengau. Daeth y gweddill i'r man nenodedig i'r Kaiser gael eu gwel- ed. Nid oedd ond 30 o honynt, a golwg resynus arnynt. Pan welodd y Kaiser yr olygfa, wylodd fel plentyn. CHARLES EYAXS HUGHES.
NID YW POB CERDD ORIAETH YN…
NID YW POB CERDD ORIAETH YN I GYSEGREDIG. Gan John B. Lodwick, Youngstown, O. Haeriad disail a thwyllodrus ydyw dywedyd fod cerddoriaeth i gyd yn gysegredig. Pe buasai pob cerddor- iaeth yn gerddoriaeth gysegredig, ni fuasai angen am y gair cysegredig. Wrth olrhain y frawddeg cerddoriaeth gysegred/g, gwelwn ei bod yn egluro ei hun, mai cerddoriaeth berthynol i'r cysegr yw. Eto sylwer ar y gair cys- egriad (consecrate), yr hwn sydd yn golygu bendithio, offrymu, aberthu. (Gwel Exodus 28: 3; eto, 29:22; Josuah 6: 19). Cysegr gerddoriaeth yn cael ei gysegru i'r Arglwydd yw cerdd- oriaeth gysegredig. Felly, y mae cerddoriaeth gysegredig yn gysegredig ar ddau gyfrif. Yn gyntaf, ar gyfrif ei berthynas a'r cys- egr; yn ail, ar gyfrif ei gysegriad i waith y cysegr. Y mae dweyd fod pob cerddoriaeth yn gysegredig yn tynu y gwir werth oddiwrth gerddoriaeth gysegredig drwy ei dosbarthu gyda cherddoriaeth iselwael ac annghysegr- edig y byd. Un o hen driciau gwrth- ryfelwyr moesol y byd yw tynu pob peth moesol a da i lawr, nes ei gael yn gydwastad a'r Ilawr. Mae yn lion genyf nodi fod eto yn fyw filoedd o bobl Dduw ar y ddaear ag sydd fel y Salmydd yn canu "Santeiddrwydd a weddai i'th dy Di, o Arglwydd Dduw y lluoedd;" ac y maent, nid yn unig yn cysegru eu caniadau, ond y maent yn cysegru eu hunain yn hollol i'r Ar- glwydd, a daw cawodydd o anfoddlon- rwydd oddiwrthynt yn erbyn y gwrth- ryfelwyr moesol hyn nad oes ganddynt barch i gysegr-bethau y Duw Goruch- af. Y mae llawer Cymro Cristionogol y foment hon a'i fynwes ar dan wrth ad- goflo rhai o'r emynau a'r tonau a ddysgodd efe foreu ei oes yn y capel, ac ar yr aelwyd gartref. Pa Gymro nad yw yn cael bias a mwynhad rhy- feddol wrth ganu "Marchog Iesu yn Ilwyddianus, Gwisg dy gleddyf ar dy glun, Nis gall daear dy wrthsefyll Chwaith nac uffern fawr ei hun; Mae dy enw mor ardderchog Pob ryw elyn gilia draw, Mae rhyw arswyd,drwy'r gre'digaeth Pan y byddost Ti gerllaw." Eto, wrth ganu emyn y diwygiad di- weddaf yn Nghymru: "Dyma gariad fel y moroedd, Tosturiaethau fel y lli, T'wysog bywyd pur yn marw, Marw'i brynu'n bywyd ni; Pwy all beldio cofio'm dano, Pwy all beidio canu'i glod, Dyma gariad nad a'n anngho Tra fo'r nefoedd wen yn bod." Ac onid oes miloedd o gewri Seion yn canu yr emyn weddi rhagorol hon, ac yn derbyn y fendith a geisiant yn yr emyn: O! santeiddia f'enaid, Arglwydd, Yn mhob nwyd ac yn mhob dawn; Rho egwyddor bur y Nefoedd Yn fy ysbryd llesg yn llawn; N'ad fi grwydro Draw nac yma o fy lie. Ac y mae miloedd o'r tadau a'r mamau yn canu yr emyn rhagorol "Llais hyfryd rhad ras," nes y byddo eu calonau ar dan wrth roddi mawl i'r Goruchaf Dduw. Llais hyfryd rhad ras sy'n gwaeddi diangfa Yn nghlwyfau Mab Duw, bechadur, mae noddfa; I olchi aflendid a phechod yn hollol, Fe redodd ei waed yn ffrydiau iach- usol: Haleluwia i'r Oen bwrcasodd ein pardwn, 'Nol croesi'r Iorddonen drachefn ni a'i molwn, &c. O! fel mae y cynulleidfaoedd yn cael hwyl wrth ganu yr emyn uchod y darfu i'r cerddor ymadawedig D. Em- lyn Evans anfarwoli ei enw yn y don ragorol a ysgrifenodd ar yr emyn. Tonau ac emynau rhagorol wedi eu ieuo yn gydmarus ydyw y rhai uchod, ac nid rhyfedd fod y cynulleidfaoedd Cymreig yn cael hwyl a rhwvddineb wrth eu canu. Dengys y cyntaf yr lesu fel Penrhyfelwr, ac yn goncwerwr ar ei holl elynion. Dengys yr ail gar- iad anfeid-rol ein Tad Santaidd at ei blant. Ac y mae y trydydd yn rhoddi i ni erfyniadau taerion y gwir Gristion sydd yn hiraethu am santeiddrwydd, ac am gael bod yn gyflawn o egwydd- orion pur y nefoedd. Pa ddyn ysbrydol fedr ddarllen neu ganu yr emyn canlynol heb iddo gael meddu yr un profiad, "Llais hyfryd rhad ras." Yn yr emyn a'r don hon y mae plant yr Arglwydd yn llawen floeddio eu moliant mwyaf brwdfrydig, ac y mae y llanw mawr gerllaw pan genir yr emyn hwn. Ni bydd diwedd ar ddiolch am yr lachawdwriaeth rad, ac nid rhyfedd ein bod yn dyblu y byrdwn "Haleliwia i'r Oen, Bwrcasodd ein pardwn." Sylwer ar hanes Dafydd, per ganied- yrld Israel, pan oeddent yn dwyn yr aHor yn ol o Baale Judah i ddinas Dafydd, gwel Samuel, y 6ed benod, "A chasglodd Dafydd yr holl etholedig- ion yn Israel, sef chwe mil ar hugain. Dafydd hefyd, a holl dy Israel oedd yn chwareu ger bron yr Arglwydd a phob offer o goed ffynidwydd, sef a thelynau ac a nablau, ac a thympanau ac ag udgorn "A Dafydd a ddawnsiodd a'i holl egni ger bron yr Arglwydd, a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag ephod lian. Felly Dafydd a holl dy Israel ddygasant i fyny Arch yr Arglwydd trwy floddest a sain udgorn." Gan fod Dafydd a holl Israel yn llawenhau ar ddyfodiad yr Arch adref i ddinas Dafydd, onid yw yn naturiol i blant Seion yn ein dyddiau ni orlawenhau a dyblu'r gan, a bloeddio "Diolch Iddo, Byth am gofio llwch y llawr," pan gofiwn am Ei lachawdwriaeth fawr. "Gwaith hyfryd iawn a melus yw Molianu'th enw Di o Dduw, Son am dy gariad foreu glas. A'r nos am wirioneddau'th ras." Y mae yn amlwg i'r darllenydd craff- us, yn neillduol os yw efe yn ddyn ysbrydol, fod yr emynau hyn yn gys- egredig i waith yr Arglwydd.
SATAN YN Y MEDDWL HEBREAIDD.
SATAN YN Y MEDDWL HEBREAIDD. Gan Plas Gwyn. Yn fy llith o'r blaen, fy amcan oedd profi un gwirionedd pwysig a'i wasgu ar feddyliau fy narllenwyr, sef fod yn y Beibl draddodiadau a gydnabyddir fel gwirioneddau o barch i anwybod- aeth dynion. Cydnebydd y Beibl hwy dros amser, yna pan ddaw dyn yn ddi- gon dadblygedig i dderbyn ac am- gyffred gwirionedd uwch, dianrhyd- eddir yr hen, a chymellir y gwirion- edd uwch a newydd ar y byd. Cam- gymeriad penaf yr oesau fu credu fod y Beibl yn addysgu yr un gwirionedd o'i ddeohreu i'w ddiwedd. Hyn yw camgymeriad rhai o fy nysgyblion. Yn fy ysgrif ddiweddaf, dangosais gymaint o son am dduwiau sydd yn yr Hen Destament, ac eto nid oes ond un Duw; y duwiau eraill y bu cymaint bri arnynt drwy yr oesau yn ddim ond dychymygion.. Ond, ebe'r dyn, paham yr addysgai y Beibl drwy yr oesau, neu pa ham y cydnabyddai fod duwiau pan nad oeddynt? Am yr ymddygai Duw at ddyn drwy yr oesau, fel yr ymddyga tad neu athraw at blentyn. Rhaid oedd cydnabod cyflwr annadblygedig dyn, a'i dynu allan yn I raddol. Mae hen draddodiadau yn byw ar ol i ddynion eu hannghredu, eto fe'u cenir yn ddifeddwl, fel y can cynulleidfaoedd Cymreig fel pe bae duwiau heddyw: Pa dduw yn mhlith y duwiau Sydd debyg i'n Duw ni; MaeAn hoffl maddeu beiau Mae'n hoffi gwrando cri;- ac nis gwyddom am ddim a genir mor hwylus yn ein plith a Pa Dduw sy'n maddeu fel tydi Yn rhad ein holl bechodau ni? Ai tybed fod Cymry heddyw yn credu yr hyn a ganant? Ai tybed fod un neu fwy o fy nysgyblion yn credu fod yn rhaid credu mewn duwiau cyn y gellir credu yn iawn yn yr Unig Dduw? A yw yn ofynol credu fod llawer er credu mai ond Un Duw sydd? Dywed un awdwr galluog na thai- odd y Seison nemawr sylw i'r pwnc o Satan erioed ragor na chymeryd y golygiad cyffredin am dano; mae yr un yw a diafol y Testament Newydd a'r oesau tywyllion. Nis gwyddom am ddim yn y Gymraeg gwerth ei ddarllen ar Satan; ni wnaeth yr un duwinydd Cymreig gymaint ag efrydu Satan fel y'i ceir yn hanes yr Hen Destament. Ma-epersonoliaeth Satan a'i berthynas a theyrnas Duw iddynt hwy yn syml a dianhawsder, ac ystyriant ymyriad a'u golygiad yn rhyfyg. Nid oes dim beirniadol mewn dim a ddarllenasom erioed mewn llyfr Cymraeg. Ein ham- can yn yr ysgrif hon yw gosod ger bron y darllenydd olygiad yr Hen Destament, ac ni fwriadwn dynu dim oddiwrtho nac ychwanegu dim ato. Y mae llawer o bethau yn y Beibl na feddyliodd ein duwinyddion ddim am danynt erioed; ac y mae llawer yn ein, duwinyddiaeth Gristionogol na ddylai fod ynddi. Ni chafwyd yr athraw- iaethau o feddyliau Duw, eithr o fedd- yliau a dychymygion dynion o feddyl- iau Duw. Nid Satan yr Hebrewr yw Diafol yi byd Cristionogol. Y mae y ddau o haniad gwahanol. Cynyrch y meddwl Hebreaidd oedd Satan; o'r meddwl pa- ganaidd Babylonaidd y deilliodd y diafol. Ni sonir am y diafol yn yr Hen Destament; ac ni sonir am Satan ond ychydig droiau. Nid yw yn yr Hen Destament yn debyg i ddiafol y Cris- tion. Yn yr Hen ymddengys Satan ryw bedair neu bump o weithiau. Mae yr Hen Destament yn ddoeth iawn yn hyn. Nid yw yn beio Satan am ddrwg, fel y mae y Cristionogion yn beio y diafol am bob peth. Camgymeriad fu i ddyn wrthod ysgwyddo y cyfrifoldeb. Yr ydwyf yn hoffi yr Hen Destament am hyn, fel amryw ragoriaethau eraill. Y sylw cyntaf wyf am wneyd a fydd yn dramgwyddus i'r hen goel yw nad Satan barodd i Adda ac Efa bechu. Geilw yr Hen Destament yr achos yn sarff, a'r oil a ddywed am dani yw mai hi oedd gyfrwysach na noil fwyst- filod y maes, a phan yn ei chosbi am ei drwg, ni enwa Satan, eithr dywed "Ar dy dor y cerddi." Nid yw geiriau o'r fath yn gyfatebol i fod o urddas Satan. Xid oes gair o fewn yr Hen Destament a ddywed mai Satan oedd y sarff. Dy- wed un beirniad hyddysg yn holl ath- roniaeth y hyd Hebreaidd ac Iuddewig ddim yn amgen am yr hanes rhyfedd nad dameg neu chwedl oedd. Cyf- addefai yr Iuddewon eu hanallu i wneyd dim o'r hanes. Nodwedd y sarff fel y dyfynwyd eisoes oedd ei "chyfrwysdra," ac y mae ei henw yn awgrymu hyny; tra mae nodwedd fawr Satan yw "gwrthwyn- ebiad," a dyna ystyr ei enw. Gellid ei gyfieithu i'r Cymro yn "Wrthwyneb- ydd," ac nid yw yn ymddangos mor ddrwg. Mae Satan yr.Hen Destament yn rhagori ar y diafol a'r sarff yn ei gymeriad a'i enw. Mewn un lie, os ydym yn cofio yn iawn, ca angel da, yn gwneyd tro da, yr enw Satan, yr hyn a olyga "wrthwynebydd." Dywed Paul iddo wrthwynebu Pedr yn ei wyneb, oblegid yr oedd i'w feio. Dyna wnai yr angel, sef gwrthwynebu, actio fel Satan! Yn Cyntaf Cronicl 21:1, dywedir "A Satan a safodd i fyny yn erbyn Israel, ac a anogodd Dafydd i gyfrif Israel." Yn Ail Samuel, 24:1, cawn "digllonedd" Duw yn cymeryd lie Satan, neu Duw ei hun yn chwareu rhan gwrthwynebydd. Mae hyn wedi dyrysu llawer ar y duwinyddion nes peri iddynt gynllunio llawer. dull a modd o esbonio yr ymadroddion: ond anhawdd i ni osgoi y casgliad nad yw Satan ond gwrthwynebydd, ac y gallai fod yr Arglwydd yn llenwi y safle ar brydiau, fel y ceir yr angel, y pyfeir- iwyd ato, yn defnyddio yr enw. Hanes dvddorol iawn yw yr un yn Llyfr Job, lie y ceir Satan yn dyfod ger bron yr Arglwydd, mewn rhyw gynad- ledd o feibion Duw. Nid oes yn yr hanes yr arliw gwanaf o'i fod allan o le neu o drefn oblegid cyferchir ef gan yr Arglwydd fel pe yn oruchwyliwr pwysig newydd fod ar daith ar hyd y deyrnas; fel Taft pan oedd Roosevelt yn Arlywydd, neu Cyrnal House, a an- fonir gan Wilson i Ewrop i chwilio i fewn i argoelion heddwch. Ni amlyga yr Arglwydd y cas lleiaf ato, yr hyn sydd yn syn. "0 ba le yr wyt ti yn dyfod?" go- fynai yr Arglwydd iddo. "0 dramwyo ar hyd y ddaear, ac o ymrodio ynddi," ebe yntau, "Pa sut y cest ti bethau a bodau?" ychwanegai yr Arglwydd. "Digon anniben a drwg," ebe Satan. "Sylwaist ti ar fy ngwas Job?" Yr oedd yr Arglwydd a rhyw gymaint o ffydd mewn pobl, tra yr oedd Satan yn eangach ei brofiad o deithio y byd, yr hyn sydd yn addysg werthfawr. Ameuai Satan onestrwydd Job, ac ebe efe. "Cyffwrdd di a'i esgyrn ef ac a'i gnawd" (fel pe dywedid heddyw el boced a'i eiddo), "ac efe a'th felldithia o flaen dy wyneb." Gwelir Satan yn ei gymeriad o wrth- wynebydd, ac wele yr Arglwydd yn rhoi y gwaith iddo o brofi Job. Ceir yr Arglwydd a Satan yn cydsynio a chydweithredu i brofi pa un sy'n iawn yn nglyn a Job. Gallai yr Arglwydd chwareu y ddwy ran o ran tangnefus- rwydd yr hanes. Ni cheryddir Satan o gwbl, ac ni amlygir annghymerad- wyaeth o'i bresenoldeb na'i ymddyg- iad ychwaith. Cawn hanes eto yn Zech. 3:1 am Josua, yr archoffeiriad yn sefyll ger bron angel yr Arglwydd, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw irw wrthwynebu, a'r oil a glywir yma yw "Cerydded yr Arglwydd dydi, Satan." Ni ddywedir iddo ei geryddu, fwy nag o flaen y gynadledd gynt. Y pethau hyn a bar- asant i John Calfin edrych ar y diafol fel gwas yr Arglwydd, yn gwneyd dim ond a orchymynir iddo, i'r hwn y rhoddid rhyw gymaint o drwydded a dim mwy, fel nad oedd ac yw i'w feio gan mai goruchwyliwr yr Arglwydd yw. Yr Arglwydd oedd y cyfan i'r meddwl Hebreaidd; Efe greai y da a'r drwg; ac fel y dywedai un, yn gryno "There was no space left for the devil," oddigerth fel gwas neu oruch- wyliwr. Ebe un arall, "Satan was not diabolical." Y mae yn werth sylw nad oes son o fewn holl hanes yr Hen Destament am neb yn cael ei feddianu gan gythraul, ac y mae hyny yn hynod pan feddyl- iwn fel y mae cythreuliaid yn pyngu yn y Newydd. Yr engraifft debycaf gawn yn yr Hen yw yr hanes am y