Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

NODION 0 DENVER. COLO.I

News
Cite
Share

NODION 0 DENVER. COLO. Gan Lewis B-rycheiniog. Gorchwyl pleserus sydd genym yr wythnos hon yn cofnodi priodas Mr. Robert H. Edwards a Miss Catherine Ruth Williams, yr hon a gymerodd le brydnawn dydd Mercher, yr 16eg cyfisol, yn anedd Mr. a Mrs. Hugh R. Hughes, sef chwaer a brawd-yn-nghyf- raith y briodferch. 0 herwydd sefyll- fa barchus y par ieuanc a chylch eang ac adnabyddus eu perthynasau, yr oedd yr amgylchiad hapus wedi tynu cryn lawer o sylw, ac yr oedd y paro- toadau gyferbyn a'r wledd, a'r addurn- iadau ysblenydd mewn cysylltiad a'r ymdaith briodasol yn enill edmygedd arbenig tua haner cant o wyddfodol- ion; amryw o ba rai oeddynt yn cy- meryd rhan yn y defodau: megys Mr. Hugh R. Hughes yn cyflwyno y briod- ferch i'r priodfab; Miss Mary Wil-' liams a Miss Mary Elizabeth Hughes yn gwasanaethu fel Ilaw-forwynion i'r briodferch, tra yr oedd Mr. Charles Goodheart a David Lloyd Hughes yn gwasanaethu y priodfab. Yn absenoldeb y Parch. H. P. Mor- gan, y Parch. Dr. Geo. B. Vosborg oedd yn gweinyddu y ddefod o 'sicrhau y cwlwm priodapl tra yr oedd tanau mGlus y delyn gyda phriodoldeb mewn gwledd Gymreig yn blaenori chwareu- aeth yr ymdaith briodasol Lohengrin. Ar ol y seremoni a swper i'r cwmpeini llawen, ymadawodd y par ieuanc ded- wydd gyda llongyfarchiadau cynes eu lluaws cyfeillion i dreulio eu mis mel ar lanau y Tawelfor, yn San Fran- cisco a phrif leoedd erajll yn Cali- fornia. Dysgwylir hwynt yn ol tua'r cyntaf o Fedi i gymeryd meddiant o'u cartref newydd spon a barotowyd iddynt ar 509 Ogden St. Mr. Robert H. Edwards sydd yn un o fasnachwyr Hwyddianus ein dinas, yr hwn drwy ymdrech a diwydrwydd sydd wedi enill iddo ei hun gymeriad da yn mhlith ei gydnabyddion. Heblaw hyny mae yn ddatganwr gwych, ac yn cael ei ystyried yn nghyd a Mr. Llew- elyn Jones yn y rhes flaenaf yn y dref. Brodor ydyw o ardal Dolgellau, Meir- ionydd, yr hyn sydd esboniad ar ei fedrusrwydd cerddorol. Miss Cather- ine Ruth Williams yn awr Mrs. Ed- wards, sydd ferch i Mrs. David Wil- liams, gynt o Dry Creek, Emnoria, Kans., a chwaer i Mrs. Hugh R. Hughes, Denver; a Miss Mary Wil- liams, Long Beach, California. Gwelwn fod pwyllgor cymdeithas v Cymrodorion wedi cyhoeddi Eistedd- fod i'w chynal vn Denver ddvdd Llun. Medi I). sef Labor Dav. Mae y rhag- len yn barod ac yn llaw yr ysgrifen- yd-d, sef E. S. Harper, 22-3 West 13th Avenue. Mae rhes o destvnau buddiol vn gystadleuol i Gymry Colorado yn unig, ac aelodau o Ysgol Ful v Cymry vn Denver. Gan fod lluaws o'n cvd- genedl yn ymweled a Denver bob Labor Day, bvdd yn gyfleusdra iddynt fwynhau eu buna in yn mhlith ein beirdd a'n llenorion a'n cerddorion, a bydd croesaw iddvnt vmdrechu am v gwobrwvon ond iddynt anfon at vr ysgrifenydd am v programs. Dvmuhir srael cefnoaraeth v Cvmrv o bob man vn v dalaeth. a Ihvdd yr elw at gvm- deithas ddvnrarol v Cymrodorion. Bydd hysbysiad pellach yn y "Drvch."

VENEI>00TA. OHIO.I

Advertising

I INFORMATION WANTED.

Advertising

NODION 0 SEATTLE. WASH. !

tfOPION 0 pyrT Ar^lPKIA. PA,…

XOTIW 0 ^^FESDA. ARFON, I

GAm 0 NEW CAMBRIA. MO. I

CYMANFA MINNESOTA.

Advertising