Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Y RHYFEL.
Y RHYFEL. Gan Gohebydd Arbenig o Gymru. Y Cvnerair a Dal vn Bersonol Gvfrifol. Un o obeithion mawr ond disail y Caiser er cychwyn y Rhyfel a fu, ac o bosibl eto-yw, y medr efe greu an- nghydfod rhwng y Cyngreiriaid—Pry- dain, Pfrainc a Rwsia. Nid oes neb a wyr yn well nag ef mai "mewn undeb mae nerth," ac y byddai ei siawns ef i orchfygu ei elynion yn llawer mwy nag ydyw pe y llwyddai i'w gwahanu modd y gallai ef eu cyfarfod bob yn un ag un a phob un ar ei ben ei hun. Hyn oedd wrth wraidd y son o bryd i bryd am wneuthur heddwch a'r naill neu'r llall o'r gwledydd Cyngreiriedig ar wahan oddiwrth y lleill. Dywed gweinidog Tramor Rwsia fod Awstria wedi ceisio amodau heddwch gsn Rwsia ar ei phen ei hun, ac iddi hith- au wrthod. Ceisiwyd gwneyd hedd- wch rhwng Germani a Ffrainc-ond gwrthododd yr olaf. Ar ddechreu y Rhyfel cytunodd y tair gwlad a'u gil- vdd na wnai yr un o honvnt heddwch a'r gelyn ond mewn cydymgyngoriad a chvdweithrediad a'u gilydd. Mae Itali yn awr wedi ymuno a'r Cyngrair ac wedi gwneyd cyffelyb gy tun deb a'r tair gwlad. Mae mwy yn hyn nag a ymddengys ar y wyneb. Nid yn unig mae'r Cyngreirwyr yn, ac i. ymladd ySgwydd yn vsgwvdd, ond mae'r naill i gynorthwyo'r Hall yn mhob modd dichona dwv. Dvry Prydain gynorth- i yw ei llynges a'i chyfoeth anferth: dvry Rwsia ei milivnau o wyr arfog: abertha Ffrainc ei threfi a'i nhentrefi. ei dinasoedd gwych a'i gwlad fras. Ond golvga hefyd y bvdd yr heddwch y cytunir arno ar derfyn y rhyfel yn un a fo a fyno a buddianau pob cenedl yn Ewrop. Dyna un rheswm mawr paham yr ymunodd Itali a'r Cyngreir- wyr. p nhaham y dysgwvlir gwledydd eraill eto i wneyd. Atebion i Ofyniadau. Blwydd-dal i Filwyr Clwyfedig.— Yn ddiweddar, rhoddwyd manylion am y blwydd-dal a ganiateir i weddwon ac amddifaid milwyr a gollant eu bywyd yn y rhyfel presenol. Cy- hoedda'r Llywodraeth fanylion am y symiau a delir i forwyr a milwyr a analluogir, drwy glwyfau neu ddrwg a rail a geir yn y Rhyfel, yn hollol neu mewn rhan, i ddylyn eu gwaith. Ca milwr cyffredin a analluogir yn hollol, 25s. yr wythnos. Ca "non-commis- sioned officers" o 27s. i 31s., yn ol eu gradd. Os bydd yr analluogrwycld mewn rhan yn unig, a'r dyn yn medru gweithio rhyw gymaint, ca'r cyfryw dal ag a wna i fyny gyda'r cyflog y tybir y dylai fedru enill y symiau a nodwyd uchod. Caniateir hefyd 2s. 6c. yr wythnos ar gyfer pob plen- tyn a anwyd cyn iddo gael ei analluogi tan y byddo'r plentvn yn 16 mlwydd oed. Glowyr Cymru a Gwyliau'r Sul- gwyn.—Apeliodd y llywodraeth yn daer at lowyr y deyrnas i beidio cf- meryd ond un diwrnod (y Llun) yn unig o wyliau'r Sulgwyn gan fod cy- maint o angen glo. Apeliodd arwein- wyr y dynion eu hunain yr un mor daer atynt. Troi clust fyddar a wnaeth llawer at yr apel. Mewn ped- war pwll glo .perthynol i gwmni'r Cambria, 4,700 o ddynion ddaeth at eu gwaith foreu Mawrth allan o 8,514 a ddysgwylid. Yn nosbarth Tredegar dim ond un gweithiwr o bob tri a ddaeth. Ni weithiwyd o gwbl yn nos- barth y Blaena, lie y mae 2,0,00 o ddynion. Cyfartaledd bycttan ddaeth at eu gwaith yn Nyffryn Aberdar. Rhyw un o bob tri a ddaeth yn rhai o byllau Merthyr a Dowlais. Yn awr pan mae swydd newydd wedi cael et chreu i Mr. Lloyd George, ac y bydd y cyfrifoldeb am gyflenwi pob cyfarpar rhyfel yn gorphwys ar ei ysgwyddau ef, gellir 'bod yn sicr y ceidw efe lygad manwl ar ol pob esgeuslwr o hyn allan. Cost y Rhyfel.-Dengys adroddiad- au swyddogol y llywodraeth fod Pry- dain yn unig wedi gwario yn mis Ebrill eleni ar gyfartaledd 14,000.000 o bob wythnos, neu ar gyfartaledd ddwy filiwn o bunau'r dydd bob dydd o'r mis, ar y rhyfel. Mewn geiriau eraill, costia'r rhyfel yn awr fwy piewn wythnos nag a delir o flwydd- dal i hen bobl mewn blwyddvn. Dyma reswm sy'n apeJio at bob un yn y deyr- nas i wneyd ei oreu i gario'r rhyfel yn mlaen yn egniol er mwyn enill buddu- goliaeth Iwyr a buan. Dvdd Prawf Rwsia. Dydd prawf Rwsia yw, a phan yn ysgrifenu'r Ilinellau hyn nis gellir dweyd gyda sicrwydd ai enill ychydig ai colli llawer a wnaeth neu a wna Germani. Sylwer fy mod yn dweyd enill "ychydig" neu golli "llawer." Amlwg yw eisoes na fedr Germani enill llawer yn Galicia. Geill ladd, a chlwyfo, a charcharu y Rwsiaid wrth yr ugain mil, ac hyd yn nod wrth y can mil, ac eto peidio enill llawer. Hyd yn nod ar draul ailadrodd yr hyn a ddywedais mewn ysgrifau blaenorol, rhaid i mi eto adgoffa'r darllenydd beth oedd amcan mawr Germani yn yr ymosodiad ofnadwy a wnaeth ar hyd mis Mai yn Galicia. Pe y llwyddasai yn yr amcan hwnw buasai wedi enill llawer iawn. Os syrthio yn fyr o gyr- aecld yr amcan hwnw yn llawn a wna, ni waeth mewn ystyr pa faint a enilla o frwydrau lleol yn Galicia, methiant a fydd yr ymdrech, a bydd pob enill llai na'r amcan mawr yn golled iddo. Pan gychwynodd y rhyfelgyrch yn Galicia yn nechreu Mai hyderai trwy Iwyr orchfygu Rwsia y cadwai Itali rhag ymuno a Phrydain. Mae eisoes wedi methu yn yr amcan hwnw. Hy- derai y medrai ddychrvnu Rwmania rhag ymuno a Phrydain i'w erbyn; ymddengys heddyw yn fwy na thebyg mai methu a wna yn hyn eto ac yr ymuna Rwmania a ni cyn diwedd y mis presenol. Mae pob lie i gredu ar hyn o bryd na Iwydda i orchfygu'r Archdduc mor Ilwyr fel ag i analluogi Rwsia i daro ergydion trvmion mar- wol ar fyddin Mackensen pan gilia liono yn ol.
Advertising
Llyfrau a Cherddoriaeth. Cyflawnder Bendith; Pregethau gan 26 o weinidogion y T. C. yn Nghymru (D. Mardy Davies), $1,25. Crefydd a Bywyd (D. Miall Edwards, M. A.), $1.10,. Cofiant Thomas Gee (Gwyn Jones), $1.75. Gweithiau Glaslyn (Carneddog),$1.00. Straeon Chwarel (R. H. Williams), 35c. Rhamant Owen Tudur (Parch. W. Pritchard), 25c. English-Welsh Welsh-English Dictionary (Richards) in one volumne, $1.00. Welsh-English, Spurrels New Edition (Bodvan Anwyl), 85c. Maes Llafur y Cyfundeb 1915. Es- boniad II. Corinthiaid gan y Parch. Hugh Williams, Amlwch, 75c. Llaw- lyfr ar Wyrthiau Crist (E. O. Davies, B. Sc.), 30c. Gwerslyfr Cymraeg neu Eaesneg ar Wyrthiau Crist (E. 0. Davies, B. Sc.) 5c. yr un; 50c. y dwsin. I leisiau meibion, "The Reveille" (Elgar), 25c. a 15c. Y Gariad Goll- wyd (Dr. Vaughan Thomas), 10c. a fic. Daw dydd ar ol nos (W. Davies), 10c. a 5c. The Lord is a man of war (Handel), T. B., 5c. Goleuni yn yr Hwyr (J. Pryce Hughes), S., 35c. Dyffryn Hiraeth (Treharne) C., 35c. 0, 'Rwy'n Cofio" T. (D. Pughe Evans), 35c., 0, Gymru Wen (Protheroe), Bar., 35c. Vulcan Song (G-ounod), B., 40c. Mae y gerddoriaeth uchod yn gystad- leuol yn Eisteddfod Utica, 1916. Tel- erau arbenig i gorau. Y Marchog (Dr. Parry), B., 40c. Y Niagara (Dr. (Parry), 40c. Y mab afradlon (T. Osborne Roberts, T. neu B. 35c. Baner ein Gwlad (Dr. Parry) T. 35c. Songs of Wales, llian,$2.00; amlen. $1.010, H. N.; Folk Songs (Mrs. Herbert Lewis, M. A., yn y ddau nodiant a'r ddwy iaith, 40c. Folk Songs, Sir Fon (Miss Gwyneddon Davies) yn y ddau Nodiant a'r ddwy iaith, 35c. Y Delyn Gymreig yn y ddau Nodiant, 450 o hen benillion, 35c. Pob math o gerddor- iaeth i'w gael yma. Prisiau mwyaf rhesymol. Mail orders promptly attended to. W. GABRWENYDD THOMAS, 2 CLABKE PLACE. UTICA, N. Y.
Family Notices
GENI-PRIODI-MARW Gofynir Tal, yn ol 25 cents am bob ped- air llinell, am gyhoeddi Barddoniaeth yn Ngholofn y Genedigaethau a'r Mar- wolaethau. BU FARW. EVANS.—Mrs. Laura P. Evans, ar y 14eg o fis Mai, 1915, yn nhref Baraboo, Wis., yn 8'6 mlwydd oed. Ni fu ei chystudd ond byr iawn. Tara- wyd hi yn sal am ddau o'r gloch bryd- nawn, a bu farw tua dau boreu dran- oeth. Er ei bod me\vn oedran mawr ni feddyliodd neb fod y diwedd mor agos, am y flangosai gymaint o yni a nerth bywyd. Ganwyd yr ymadaw- edig yn Hendre, Llanlanog, sir Feir- ionydd; a'i rhieni oeddynt Griffith ac Ann (Pritchards) Roberts. Pan yn ferch lied ieuanc, anturiodd dros y mor i'r America gyda theulu Evan Ro- berts, Cefndeuddwr, yn y Hong hwyl- iau "Tempest," yn mis Mai, 1851. Wedi aros am beth amser yn Portage, Wis., aeth i La Crosse. ac yno bu yn gwasanaethu hyd ddydd ei hymuniad mewn glan ,briodas a William R. Evans, yr hyn gymerodd le ar yr ail ddydd yn Medi, 1854. Sefydlasant yn mhlwyf Caledonia ar fferm lie y car- trefodd hyd tua deuddeg mlynedd yn 01, pryd y svmudodd i ddiweddu ei gyrfa ddaearol, i dref Baraboo. Bu ei phriod farw Medi 2, 1893, a bu iddynt saith o blant; tri o ba rai sydd yn galaru ar ol eu hanwyl fam, sef Mrs. Jennie Rowlands, Raraboo; Mrs. John J. Davis, Randolph, Wis.; a Mrs. C. B. Smith, yn St. Mary's, Idaho. I Rhoddwyd ei gweddillion i orphwys yn hen fynwent y Cymry yn Cale- donia. Perthynai Mrs. Evans i enwad parchus y Bedyddwyr, a bu yn ffydd- Ion i'r enwad hyd y diwedd, mor bell ag oedd yn bosibl o dan yr amgylch- iadau, a phan nas gallai fynychu y moddion gyda hwy, byddai yn cyd- addoli gydag unrhyw enwad fel y byddai cyfleusjra. Yr oedd yn dder- bynydd cyson o'r "Drych." a,c yn ei ddarllen gyda manyldra: y Beibl a'r "Drych" oedd prif faes ei hastudiaeth. Heddwch i'w llwch hyd y boreu y caiff
Advertising
UNDERTAKING ][JARVEY rMT-PA&CH- UiNIDEIRlTAKESR, 512 Columbia Street, Utica, N. T. Phone 3'691. ROBERT BATLEY, MILTON D. COE H. 7. Slawson Funeral Co. Paztoni < & 6 Blandina, William* Bide. Open day and night. Flume 17S. T JLNKTON, WHITE & crocxmpo- UNDERT AJECEJRS. Mr. White formerly with H. F. Stair- son; Mr. Crocker formerly of F. A. Cao- &idy Co. 96 Genesee Street. Open day &nd nigfht. Telephone No. 4. F. A, CA3STDY CO. ) UNDERTAKER, 41 GENJDSEII ST., UTICA, N. T. Yn asored ddydd a nos. Teiepiume 1«1. Williams, Undertaker, 1115 WEST ST. Near South St. Utica. N. Y. TELEPHONE 2800 J. iimiimiimNimiiiimimiiiiiiiiiiiiiiiiiiiiii H. D. SHELDON I UNDERTAKER II E "Official Undertaker E E to the E E Cambrian Benevolent; E E Society E E of Chicago"- = i 912 W. Madison St., Chicago | r elepbooe Monroe 393 | SnwK8tmiiMHmmiinitiniiMininiiminit
SLATIffGTON. PA. I
SLATIffGTON. PA. ■Mehefln 17, 1915.—^Sul diweddaf. bu farw yr hen wr Evan Davies, Washington St., yn 79 mlwvdd oed. Yr oedd yn trigianu yn Slatington er's dros 20 mlynedd, wedi symud o Audenried, lie yr oedd yn stable-boss am lawer o flynyddau. Brodor ydoedd o gylchoedd Llangollen, G. C. Cladd- wyd ddydd Mercher diweddaf yn Fair- view Cemetery, a gwasanaethwyd gan y Parchedigion Williams ac Young. Gadawodd i alaru ar ol wraig- a am- ryw blant wedi tyfu i fyny. Yr oedd yn aelod a diacon gyda'r Annibynwyr er's amryw flynyddau, ac yr oedd yn hen gymeriad crefyddol, addfwyn a charedig. Cydymdeimlir a'i anwyl lbriod a'r ferch, Mrs. Lloyd, a'r mab David ag sydd yn orweddog yn eu cartref. Dydd Sul diweddaf, pregethwyd yn addoldy yr Annibynwyr gan y Parch. J. Williams, gweinidog newydd y Wes- leyaid Cymreig yn Bangor, Pa. Mae yn aros ar hyn o bryd Miss Lizzie Jones, Milliner o Blaenau Ffes- tiniog, gyda'i modryb, yr hen chwaer, Mrs. Ellen Jones y store; hefyd cyr- aeddodd y nurse, Miss Roberts, sef merch John Roberts, Cefntrevor, ger Talsarnau, G. C., i breswylfod R. G. Pierce. Ar ei ffordd o ymweliad a'i chwaer yn Canada, yn ol i Gymru y mae. Treuliodd Griffith J. Williams, Bis- bee, Arizona, amryw ddyddiau gyda'i gefnder, Enoch Williams, Chestnut St.; hefyd mae yn hen gydymaith i W. H. Williams, Franklin St., gan i'r ddau dreulio rhyw gyfnod gyda'u gil- ydd yn Awstralia. Mae Idwal Griffiths all briod, llyw- ydd y National Bank, yn cychwyn yr wythnos hon am y Panama Exposition gydag amryw eraill o ddyffryn y Lehigh. Hynod ddifywyd yw y fasnach lechi yr haf presenol; rhai cwmniau ond yn gweithio pum diwrnod yn yr wyth- nos. Trodd y cyngerdd a gynaliwyd gyd- a'r phonograph nos Wener yn addoldy Salem M. C. allan yn llwyddiant.— Gohebydd.
I DAWN. MO.
I DAWN. MO. Dwv Farwolaeth Ddisvmwth. Tarawyd yr ardal ucfcuct a chryn syndod, y dydd Sabboth olaf yn Mai, pryd y bu farw John James, yn ,qn- nysgwyliadwy iawn, o herwydd gwaed- doriad. Nid oedd wedi bod yn iach iawn er's misoedd, ond yr oedd o gwm- pas hyd y diwedd, canys tarawyd ef pan yn rhodio wrth y ty yn yr ardd. Yr oedd Mr. James yn 64 mlwydd oed, ac yn ddyn cymeradwy mewn byd ac eglwys. Cododd deulu mawr o blant: raw yn fyw, ac yr oeddynt i gyd yn yr angladd. Daefh Mr. James yn moreu oes i Dawn gyda'i fam o Wisconsin, ac yma y treuliodd ei oes. Yr oedd yn aelocl gweithgar yn yr eglwys Gynulleidfaol. Claddwyd ef y dydd Gwener canlynol; y Parch. J. G. Evans yn gweinyddu, yn cael ei gynorthwyo 'gan Mr. Thomas Griffiths (leu.) a'r Parch. 'Mr. Arm- strong. Daearwyd y gweddillion yn y fynwent Gymreig. Mae cydymdeim- lad yr ardal gyda'r plant amddifaid. Heddwch i'w Iwch. Yn union wedi marwolaeth John James tarawyd Joshua Williams ag er- gyd o'r parlys. Yr oedd Williams yn b'yw yn groes i'r ffordd, ac effeithiwyd arno vn fawr gan y newydd fod ei gymydog wedi marw. Parhaodd yn a'nymwybodol, ac yn gwaethygu hyd ei farwolaeth, y dydd Mawrth canlynol. Yr oedd Mr. Williams yn driugain ac wyth oed; yn ddyn tawel, cyfeillgar a charedig. Bu yn byw yn Dawn yn agos i haner can mlynedd. Daeth yma o sir Frycheiniog, Deheudir Cvmru. Brawd iddo yw y diacon da, Dafydd P. Williams o'r eglwys Gynulleidfaol. Yr oedd Joshua Williams yn aelod o eg- lwys y Bedyddwyr Saesnig yn Dawn. Claddwyd ef y dydd Mercher canlynol; y Parch. J. G. Evans yn gweinyddu. Mae symudiad sydyn ein cyfeillion yn ein rhybuddio i fod yn barod, canys yn yr awr ni thybiwn y daw Mab y dyn.—Gohebydd.
Advertising
DAVID J JONES Successor To WELOLIAiM W. JONES. BARRiE-QUINCY-WESTERN ;riONuncNTS SHOP—1506 MILLER ST., UTICA, N. Y. Gelwir ar gals unrhyw un i ddangoo cynlluniau a samiplau. Argraffu Destlus Nid yr argraffu rhad yw y goreu bob amser, eithr yr ar- graffu dastlus. Y mae Swydd- fa'r "DRYCH" yn troi allan y math goreu o argraffu am bris- iau rhesymol. Gan fod r Argraffu Cymraeg wedi bod yn rhan helaeth o waith y Swyddfa hon am gyf- nod o haner canrif, gwyddom sut i'w wneyd yn gywir, glan a destlus. Gwahoddwn chwi an- fou eich argraffu yma THOS. J. GRIFFITHS Swyddfa'r "Drycb' Utica, N. v. LIVERPOOL J. H. Lewis & Co. PASSENGER AND RAILROAD AGTS. 21 Water St., Liverpoo Bydd Mr. Lewj., yn cyfarfod Hong yn y Landing Stege, oud cael pi yn mlaen llaw. P-hod da gyalorthw- gyda baggage, ac arbdb. helbul I wyr drwy eu hebrwng i'r ortat, A;c.. &.o Yatorir nwyddau a baggage, ac alMor^ nwyddau, dodrefn, a pharsell o bot math i bob rhan o'r byd. Codir Tocynau pob d<wbvltk (lat, M a Sydd) gyda'r prif linoilau o uairiuyf borthladd. Tocycau Mor a Thocynw, Rhoilffordd i ben y daitlu Pcb cyiaortJ a cbyngor yn rhad. Mae Mr. Lewis yn en-edigat o Btarase Pleatintox mc yn Gymro pw. or ys Letrmrl ea"e 3K mtyiwdd., IIIIIIIIIIIIIIIII II 11111111111111111111,1 In IIIUlII 1111 1IIIIIIIff 11111111111111111111 111111111111 ¡ r II II II I! I EI FLAS A. CHWAETB I'H'R HYN WNA 1 I BAKER'S COCOA = Yn Haeddianol Boblognidd. = = ™ Registered, = u. s. put. OfL ?iiiiiiiiiltiiiiuiiiiiii Bwyd-ddiod hollol bur, hyfryd a = hollol iachusol, wedi ei wneyd gan gymysgiad gwyddorol o fla Cocoa | o radd uehel, o ddull-wneuthuriad 1 peirianol perffaith. | Mynwch yr un didwyll, wedi ei wneyd yn unig gan E Walter Baker & Co. Limited | Established 1780 Dorchester, Mass. = miiuimiiiiiiitiiiiiiiiiiimmiuintiiimimiiiimni'.miiiiiimmiiinrc
Family Notices
godi yn anllygredig. Nid oes yn aros bellach ond rhyw saith neu wyth o'r Cymry a ddaeth drosodd ar yr hwyl- long "Tempest" yn 18 51.-Cyfaill. HOWELL.—Yn ei chartref yn Cam- bria, Wis., Mai 21, 1915, bu farw Mrs. Annie Howell. Ganwyd hi Chwef. 2, 1855. Merch ydoedd i'r diweddar ddiacon adnabyddus, Mr. Robert Ll. Williams a'i briod Mawrth 9, 1887. Priododd a Mr. Griffith Howell, ac wedi treulio ychydig fisoedd yn Minne- apolis, aethant i Spain. So. Dakota, lie y buont hyd farwolaeth disymwth Mr. Howell. Yn Tachwedd, 189G, symud- odd yr ymadawedig gyda'i dwy ferch, Winnibel ac Alma, i'r pentref hwn i fyw, lie y trigianai mewn cartref cy- surus hyd nes y symudwyd hi gan angeu. Yr oedd Mrs. Howell yn wraig clawel a heddychol, ac yn barchus iawn gan bawb a'i hadwaenai—yn fam ofalus a thyner ac yn aelod cref- yddol ffyddlawn. Cafodd amryw brof- edigaethau Ilymion yn ei bywyd ond ymQstyngai vn dawel o danynt oil. Cynaliwyd gwasanaeth ddydd ei hangladd yn addoldy y Capel Mawr, He yr oedd yn aelod. Daeth torf fawr yn nghyd i dalu parch i'w choffadwr- iaeth, a gwasanaethwyd gan weinidog- ion y pentref. Gedv i alaru ar ei hoi ddwy ferch. brawd a dwy chwaer a llawer o berthynasau eraill.—J. 0. P.
Advertising
FARMS FOR SALE. Farms for sale in Central Alberta, near the town of Ponoka. Abundant rainfall and sunshine to make crops sure; the best land and district in the West of Canada. Prices ranging from $8 to $25 per acre. For further particulars, descriptions, and listings, apply to C. W. SEGESTROM, Ponoka, Alta, Canada. LLYFR NEWYDD A RHYFEDD. GAN H. W. EVANS, Plainsville, Pa. Yn profi ciai y gyfundretfn arianol a lloc so" y byd yw Babylon fawr y Dat- guddiad, a chynllun arianol newydd a alluogai y Llywodraeth i enill ei haD dreuliaa, a thalu blwydd-dal i bob Jvef ddyn neu ddynes sydd wedi methu gaJ. oedran. "Arian y Milflwyddiant" ym Saiesneg, papyr, 2&c. yr un; chweok am $1.00. Llian, 50c., tri am $1.00 yn didi draiui. I'w gael oddiwrth yr AwdwT. G. B. G ALIA HOUSE. 609 W. 23rd STREET, NEW YORK CITY. DULVED IVEJAAMIEL Y Ty Cymreig agosaf i'r Can- ard, y Wiiite Star a'r American lines. Gwerthir tocynau i bot parth o'r byd am y Prisiau tool- ai gyda'r gwahanol gwmniau. Yr wyf a phrofiad blynyddau, ae& felly a mantais i eicrhau-y He- oetld goreu. Cytarlyddaf a phawb ond cael gair yn mlaen. Llety glan a dymunol 1 ymwei- wyr. Prielas lixesymoL Eisteddfod Utica, N. Y. A GYNELIR YN YR ARMORY, RUTGER STREET, Rhag. 31, 1915, Ion. 1. 1916 Arweinydd T. P. EDMUNDS, Poultney, Vt. BEIRNIAID: Cerddoriaeth Dr. W. RHYS HERBERT, Minneapolis, Minn Canu Penillion JOHN P. WILLIAMS, Utica. Barddoniaeth a Rhyddiaith.Parch. D. E. RICHARDS, M. D., Scranton, Pa Adroddiadau T. P. EDMUNDS, Poultney, Vt. Celfyddydwaith rw NODI ETO Cyfeilyddes Miss EDITH M. JONES Telynor J. ROOSEVELT JONES RHAGLEN SWYDDOGOL CERDDORIAETH (LEISIOL). 1. Cor Gwrywaidd, 50 i 60 o leisiau, "The Reveille," Edward Elgar. "The Reveille, Edward EIgar $ 5 0 0 0 0 Gwobr $500.0.0 Os na bydd cor oddiallan i'r ddinas yn y gystadleuaeth, Gwobr laf, $300.00; Ail wobr, $100.00 Os na bydd cystadleuaeth gwobr$200 A Chwpan Arian, rhoddedig gan Wicks and Greenman. (Gwel Amodau) 2. Cor Gwrywaidd, 20 i 26 o leisiau, "Y Gariad Gollwyd," Dr. Vaughan Thomas. Gwobr laf,$100.00; ail,$25.00 Os na bydd cystadleuaeth; gwobr "50 00 3. Cor Cymysg, 25 i 30 o leisiau, "Llais y Gwanwyn," J. 1-1. Roberts. Gwobr .1af, $100,00; ail, $25.00 Os na bydd cystadleuaeth, gwobr 50l 00 4. Cor Plant, heb fod dan 25 mewn nifer na thros 16eg oed ddydd yr Eisteddfod, "Brenin y Boreu" (King of the Dawn), D. D. Parry. Gwobr laf 50.00 A$10.00 i bob cor ychwanegol. Os na bydd cystadleuaeth, gwobr. 25 00 5. Unrhyw Gan Actol (Action Song) i biant dan 14eg oed o 12 i 16 mewn nifer. Gwobr$20.00 A $5.00 i bob cor ychwanegol. 6. Chwechawd Gwrywaidd (Sextet) (Tri 1st Bass a Thri 2nd Bass) "The Lord is a Man of War," Handel. Gwobr 95 00 7. Pedwarawd Gwrywaidd. "The Long Day Closes" (Sullivan). Gwobr 16.00 8. Deuawd i Unrhyw Leisiau, "Passage Birds Farewell," Hildach Gwobr 12.00 9. Unawd Soprano, "Goleuni yn yr Hwyr" (Light at Eventide) J. Pryce Hughes. Gwobr <ionn Rhoddedig gan Dr. M. J. Davies. .p .? 10. Unawd Alto, "Dyffryn Hiraeth" (The Valley of Rest), Bryceson Treharne. Gwobr 10.00 Rhoddedig gan Dr. J. D. Jones. 11. Unawd Tenor, "0 'Rwy'n Cofio" (Sweet Memories) D. Pughe Evans. Gwobr 10 00 12. Unawd Baritone, "0 Gymru Wen" (Cambria mv Land) Dan Protheroe. Gwobr $10 00 13. Unawd Bass, "Vulcan's Songs." Bb Minor, Gounod 101 bis' Schirmer. GWOibr" 10 q0 14. Her Unawd. Gwobr (rhoddedig gan yr Everett Piano Co" Boston, Mass.) 25.00 Soprano, "From Mighty Kings." Handel; Tenor, "On Away, s, IFIandel; Tenor, "On Away, Awake Beloved," Coleridge Taylor: Alto, "0 Harp Tmroortal," Gounod: Baritone, "Toreador," Georges Biset from Carmen* Bass, "Erl King," Schubert. 15. Canu Penillion gyda'r Delyn. Mesur. "Merch Megan." Gwobr 5.00 16. Deuawd i Blant dan 16 oed, "Tua'r coed yr awn" (To the woods away), J. H. Roberts. Gwobr 6.00 17. Unawd i rai 0 16 i 20 oed, "The Ro.ses," Frank Lyonq. Gwobr laf,$4.00: ail, $2.00 IS. I Blant o 12 i 1.6 oed, "Clychau Aberdyfi" (Bells of Aberdovev). People's Welsh Songs Book 1, Published by John Leng, London. Gwobr.1af, $3.00; ail, $2.00; drydedd,$1.00 19. I T Blant dan 12 oed, "Who can guess my name." Spaulding. Gwobr laf,$2.00; ail, $1.50; drydedd, $1.00; bedwaredd, 50c. CERDDORIAETH (OFFERYNOL). 1. Seindyrf heb fod dros 35 mewn nifer, "Reminiscences of Wales" Fred Godfrey. Gwobr $1501.00 Os na bydd cystadleuaeth 75 00 2. Unawd ar y Berdoneg, unrhyw oed, 'Hextentanz' (Witches Dance) E. A. McDowell. Op. 17. Gwobr 10 00 3. Unawd ar y Berdoneg i rai dan 14 oed, "Sonatine," Beethoven's Sonatas, Op. 34. Ditson's Edition. d' Sona,tine, D-eethoven's Gwobr laf, $3.00; ail, $2.00; drydedd,$1.00 4. Unawd ar y Cornet, unrhyw oed, "The Men of Harlech," Grand Fantasia, by H. Round, arr. by H. Prendiville. Published by Carl Fisher. Gwobr 10 00 5. Unawd ar y Ce?o, "Cradle Song," Hauser. Gwobr. ?u.-u?u Rhoddedig gan gyfaill. 6. Unawd ar y Crwth, unrhyw oed, "Dances Hongroises," No 1 G. Papine. Gwobr 10.00 7. Unawd ar y Crwth i rai dan 16g oed, "Berceuse," B. Goddard from Jocelyn. Gwobr r nn Rhoddedig gan Wm. B. Knox. o.uu ADRODDIADAU. 1. I ddynion dros 18 oed, "Cyflafan Morfa Rhuddlan." Gwobr $10.00 2. I ferched dros 18 oed, "Y Milwr" (Spinther). Gwo-br 10.00 3. I blant rhwng 12 a 18 oed, "Modryb Modlan." Gwobr. $3 a $2 4: I blant dan 12 oed, "Hen Ladrones." Gwobrau$2;$1.50' -$1' a 50c. 5. For Men, "Immortality of True Patriotism." Prize. 10.00 6. For Women, "The Purest Pearl," Prize 10 00 7. For Children under 18 years of age, "Send them to Bed with a Kiss." 5?-^ ••A-V$2.00 8. Unrhyw Adroddiad. Gwobr 15.00 TRAETHODAU. 1. Traethawd, "Gwareiddaid a Christionogaeth yn ngoleuni y Rhyfel Presenol. Gwobr$20 00 2. Tair ystori fer yn Gymraeg yn desgrifio bywyd Cymreig. Gwobr 15 00 3. Traethawd, (cyfyngedig i ferched) "Dylanwad y Fam ar War- eiddiad." Gwobr 15 00 RHYDDIAITH A BARDDONIAETH. 1. Pryddest, "Y For Frwydr" (yn cyfeirio at y for-frwydr cydrhwng y llyngesodd Prydeinig ac Ellmynaidd yn Mor y Gogledd) Gwobr$20.00 2. Can Goffa i'r diweddar T. Solomon Griffiths (heb fod dros haner cant o linellau). Gwobr 1000 3. Englyn, "Grafft." Gwobr 3 00 4. Cyfieithiad i'r Gymraeg, "Love of Country" (Sir Walter Scott). Gwolbr 3.00 CELFYDDYDWAITH. 1. Plan of a One Family House, including Floor Plans and Four Elevations. Cost complete not to exceed $4,500.00. (Com- petition open to persons under 22 years of age). Prize. 10 00 2. Naipkin Case (Needle Work). Prize. 50O< 3. Princess Crocheted Bag, Aster design. Prize 5.00 Patterns and Designs for Nos. 2 and 3. can be had at Pryor's Art Room, Bank Place. AMODAU. 1. Y Cyfansoddiadau Barddonol a Rhyddieithol i fod yn Haw yr Ysgrif- enydd Gohebol ar neu cyn Rhagfyr 1, 1915. Ni chymer y Beirniaid sylw o'r un cyfansoddiad ond a ddaw trwy law yr Ysgrifenydd. Y Cyfansoddiadau Buddugol i fod yn eiddo y Cymreigyddion oddigerth a nodir yn Amod 2., 2. Enw Beirniaid y Gelfyddydwaith i'w ymddiried i un neu ddau fel pwyllgor ymddiriedol. Y cystadleuwyr i anfon eu gwaith i'r ysgrifenydd cyn neu ar Rhagfyr 10-fed, yntau i'w cyflwyno i'r sawl yr ymddiriedir yn bwyllgor i'w trosglwyddo trosodd i'r beirniaid y rhai a roddant y feirniad- aeth yn bersonol neu trwy law yrgrifenydd ddiwrnod yr Eisteddfod. Dy- chwelir y rhai buddugol. 3. Os bydd uwcblaw tri yn ymgeisio ar yr Adroddiadau a'r Gerddor- iaeth trefnir cystadleuaethau rhagbarotoawl oddigerth yr her-unawd. Caniateir i'r beirniad ddewis pump ar yr her-unawd. 4. Yr ymgeiswyr at eu rhyddid i ddefnyddio y berdoneg neu beidio. 5. Ni wobrwyir (mi bydd teilyngdod. 6. Enwau y rhai a fwriadant gystadlu ar yr Adroddiadau a'r Gerddor- iaeth i fod yn llaw yr Ysgrifenydd Gfcohebol cyn neu ar Rhagfyr 25, 1915. 7. Caniateir i blant fydd ddim dros 16 oed ar ddydd yr Eisteddfod i gystadlu. 8. Bydd yn ofynol i'r un Cor enill y Gwpan Arian ddwy waith. Rhaid i bob cor a'i henilla roddi ysgrifrwym (bond) i'r Ymddiriedolwyr am ei dyogelwch hyd nes yr enillir hi gan yr un cor eilwaith. Y Gerddoriaeth ar werth gan W. Gaerwenydd Thomas, 2 Clarke PL, Utica, N. Y. a R. Morris Williams, Box 256, Utica, N. Y. R. GLASLYN WILLIAMS. Ysgrifenydd Gohebol. 107 UNION AVE., UTICA. CUNARD 1 AL. 1111% F Mewn Bodolaeth er's 49 Mynedd. Yr ISfeilllaid (Screw Steamers). LUSITANIA AND MAURETANIA. U,óOO Tunell. 31.937 Tuneli. Quadruple Screw Turbine Steamers. AQUITANIA, yr agerlong Brydelnlg fwyaf. LACONIA. 18,150 Tunell. CARMANIA, Triple screw turbine, a,1It tunell. CARONIA. twin screw, 11,- tunell. FRANCONIA, 18,143 tunelL CAMpanla, 12.950 tunell. Yn Mhli-tn Agerlongau Mwyaf, Cyflymaf Ardderchocaf y Byd. e, Yn morio DDYDDIAU MERCHIDR SADWRN rhwng New York, Boston Larp-w 1. gan alw yn Queenstown. SALOON ODIDOG AIL GAHAN A STEERAGE DIGURO T DEITHWTB AR BOB AGERLONG. ORDUNA, June 26, 10 A. M. SAXONIA, JULY 3, 10 A. M. Piers 54-56, foot 14th St., North River New York. THE CUNARD S. S. CO., Ltd., 24 State St., New York. AGENTS YN UTICA N. Y.-A. M. Ro? erts, 58 Howard ?- ?cG.rri? Mann Building. POULTNEY.-W. H. R,,wian NENN- YORK MILLS.-Gi-iff $Vfliiama. GRANVILLE.-Rees G. WLifams. ShJAd Avf; WIS.-J. E. Jones, Shepard Ave. SLATINGTON, PA.—Daniet G. Pierce. 1859 FERRIS & CO. GENERAL INSURANCE Removed to New Locitlon I 66 Genesee St. Room 2 Next to Utica Trust & Qeposlt Co, WILLIAM D. FERRIS ARTHUR D. JONEA DENVER, COL. Y CAMBRIAN (Cartref y Cymry) RHAD! CYFLEUSI CYSURU81 ,Telerau Arbenig I Letywyr Sefydlog Dan Arolyglaeth. THOMAS OWEN 1300 Curtis Street, Denver, Celo. A Home For Welsh Travellers In Los Angeles, Cal. 318 South Flower St. 4 Mrs. Lily Davies, Prop. LIVERPOOL THE SHAFTESBURY, MOUNT PLEASANT NEAR STATION. Mt. Pleasant cars from Landing Btatff stop at the door. A first class TemPOP &nee Hotel with electric lights tM modern conveniences amd moderate charges. Welsh spoken. Tel. BhLfte* bury Hotel, Liverpool. ZHOCH mv AHa. 386 Wist St., NEW YORK OFFICE, PALACE HOTEL Aigent Cymretg Hynaf y White Stu, Cunard a'r American lines yn New York. Bydd yn cyfarfod pawb a brynant ou tocynau gydag ef ac yn eu go&od ar 7 agerlongau. Cyfeirier ato fel uchod. HOTEL GWALIA UPPER WOGURN PLACE, LONDON, Wt Centrally situated within five MiUutm walk of Euston Station, ISO Rooms Luxuriously Fsjrnlatwtf. Passenger lift to every floor; all the mod ern improvements; beautiful mar- ble Entrance Hall. Bed, Breakfast, Morning Bath and At tendance, 5a. each person. Telephone No. 3468 Central. Managing Director, John W. Jenkins. Telegraphic Address, "Gwynfa," Lonttai R. D. UONE5 3841 West Adams St. CHICAGO, ILL. Olynydd W. Deudraeth Jones ya agent i'r DRYCH. Agent yr holl gwmniau agerlongawl i ac or Hen Wlad. Goruchwyliwr i werthu TE y BRENIN a'r Brook dale Tea. '9 I deithwyr a brynant docynaj ganddo cyfarfyddir hwynt ya J stations ar eu ffordd i'r Hea Wlad. KENNETH HOTBL FIRST AVE. a CHERRY STS. SEATTLE, WASH. Ystafelloedd glan a chysurus. 1 gwesty Cymreig agosaf a mwyaf cyfleus i'r agerlongau, ac o fewn gwaith ych ydig fynydau o gerdded i orsaf y rheil- ffordd. MORRIS JONES, Perchenog. Eglwys Hebron, Chicago, III. Adams St., congl Francisco Ave. Cenadwr: GWILYM E. JONES, 2942 Wilcox St. Ond anfon ato, cyferfydd ein cenadwr Gymry dyeithr ar eu dyfodiad i'r ddinas neu eu mynediad trwodd. Telephone, Garfield 6195.