Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

Bhamant Genadol.

HELWYE ANFFODUS.

DYFODIAD Y GAUAF.

Advertising

AT AMAETHWYR MON AC ARFON.

News
Cite
Share

AT AMAETHWYR MON AC ARFON. [AT OLYGYDD Y "WERIN."] MR GOL.A fyddwch cbwi mor garedig a chaniatau gofod fechan o'r Werin i alw sylw fy nghydamaethwyr at y dirwasgiad presenol yn nglyn ag amaethyddiaeth. Y mae llawer o gynghorion da gan hwn a'r llall yn cael eu rhoddi i ni, a theimlwn yn dra diolchgar i chwithau, Mr Gol., am y lie helaeth ac amlwg y mae ein hachos yn ei gael yn eich newyddiaduron, y Werin, y Genedl, a'r Express. Eto, nid wyf wedi gweled neb ohononi ri fel amaethwyr yn cymeryd sylw cyhoeddus o'r boneddigion hyn sydd wedi ac yn parhau i weithio trosom— dylanwad pa rai sydd gymaint, yn nghyda'r llwyddiant mawr ac amlwg sydd yn cyd- I fyned^a'.u hymdrechion. Da genyf fod Mr Samuel Hughes, Bodednyfed, yn cymeryd ein hachos i fyny mor aiddgar yn Mon. Mae cael boneddwr o safle a dylanwad Mr Hughes yn gael mawr; mae ei safle fel cadeirydd Cynghor Mon, yn nghyd a'i allu I a'i ymroddiad diflino, yn sicrhau i ni amser gwell. Dyma foneddwr arall ag y* dylem fel amaethwyr ymorfoleddu ynddo fel un wedi cymeryd ein hachos mewn Haw, ac ni chymerodd ef achos neb erioed ¡ mewn llaw na byddai yn achos gwell yn dyfod o'i ddwy law. Cyfeiriaf at Mr W. J. Parry, Y.H., Coetmor Hall, Bethesda. Mae yntau yn bresenol yn gadeirydd Cynghor Sirol sir Gaernarfon. Sicr genyf fod amaethwyr Mon ac Arfon, fel fy hunan, wedi darllen cynygiad ac araeth Mr Parry o'r gadair,—ie, o'r GADAIR cofier,—yn y Cynghor diweddaf. Fu erioed y ffasiwn beth. Dylid cofio yn y lie cyntaf am ansawdd Cynghor Arfon, pwy sydd yn ei wneyd i fynu. Onid tirfeddian- wyr a'u goruchwylwyr, &c.P Acyr oodd y cyfryw yn gwrandaw Mr Parry yn traddodi ei anerchiad. Ni ddaeth i glustiau boneddigion Arfon erioed y fath beth. Ac mor wir a bod Mr Parry wedi cymeryd ein hachos mewn llaw, y dwg efe farn i fuddugoliaeth. Mae y ehwarter canrif diweddaf yn hanes Mr Parry yn gyfnod o ymladd dros y gweithwyr, ac yn neillduol y chwarelwyr, ac y mae wedi bod yn hynod o lwyddianus; ac ni fu ei lwyddiant a'r gwelliant a ddygodd i'r chwarelwyr a'r I gweithwyr heb fod yr amaethwyr yn well amo hefyd, gan mor uniongyrchol y dibyna amaethwyr Mon ac Arfon ar y chwarelwyr. Yn bresenol, da genyf weled y chwarelwyr ar ol chwartereanrif o lafur diflino, a gonest, a diorphwys, yn benderfynol o gyd- nabod Mr Parry mewn tysteb deilwng. Da genyf fod y cyfryw yn rhydd i bawb o garedigion a chyfeillion Mr Parry i gael bwrw eu rhoddion i'r drysorfa ac yn ben- difaddeu, peidiwn ni fel amaethwyr a gadael i'r cyfle fyned heibio, heb ini ggfl rhoddi pe dim ond swllt i'r drysorfa. Yn bersonol yr ydwyf wedi rhoi, ac mae genyf lyfr casglu er rhoddi cyfle i errfill fel y deuaf ar eu traws—Yr eiddocb> &c., AMWR o FoN.

GWERS DDA. -

[No title]

Advertising

Cyfoeth Jay Gould.

Dlangla Gyfyng i LUwyr.

- -GYW80CH CHWI

EHINWEDDAU IACHAOL " QUININE…

[No title]

_.-----.>93.1 -.1

[No title]

----__..,.---SEDD SYR PRYCE-JONES,I

Gostyngiad Rhenti yn Sir Gaer-…

Baal y Bel Droed. ---.-

Advertising