Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

- HIRAETH AM FY ANWYL CHWAER,

CI BETH YDYW YR YSGOL SABBOTHOL…

Bvs Pwvntiedig.

News
Cite
Share

Bvs Pwvntiedig. Y mae gweld dynesyn actio myneg-bost ac yn cyfarwyddo pobl ar eu ffordd yn olygfa pur ryfedd. Eto, dyna, mewn ffordd ffigyrol, y mae Mrs R. Ziegler, 2, With hall St., Wigan, yn wney4 yn ddyddiol. Darfu i Bile Beans Chas. Forde ei hadfer i iechyd pan oedd wedi bod mewn cyflwr dychrynllyd am bum' mlynedd, ac y mae yn dangos ffordd i ddianc i bawb sydd yn dioddef fel y gwnaeth hi. Dywedodd wrth ohebydd y Wigan Exam- iner"—" Parhaodd fy afiechyd am fwy na phum' mlynedd, ac yn y cyflwr yr oeddwn ynddo, teimlwn nad oedd bywyd yn werth byw. Bum am ddyddiau yn ofni bwyta dim, oblegid yn fuan wed'yn ymosodid arnaf gan anrheuliad a'r beil. Yr oedd yr ymdrech lleiaf yn peri prinder anadl, ac yn fy ngadaei am beth amser mor wan a phlentyn. Dych- rynid fi hefyd gan guriad y galon, fel yr of- nwn symud. Cafwn boenau yn fy nghefn a'm hochr. oherwydd anhwylder y giau a'r galon. Weithiau ychwanegwyd at fy nhrei- alon gan gur yn y pen, ac yr oedd bolrwymedd yn ychwanegu wed'yn at fy nhrafferthion. Cefaisgynghorion meddygol a meddyginiaeth ar lawer achlysur, ond heb ddim effaith dda, gan fy mod mewn diwrnod neu ddau mor ddrwg ag erioed. O'r diwedd, pan oeddwn yn ngwaelod anobaith, darllenais yn rhywle am yr adferiad o achos tebyg i un fy hunan gan Bile Beans Chas, Forde, a meddyliais, hwyrach, y bu- asent yn gwneyd lIes i mi, a dechreuais gym- eryd cwrs. Yr wyf yn awr yn wir falch fy mod wedi gwneyd, oherwydd gwnaeth ych- ydig flychau gyfnewidiad trwyadl ynof. Dif- lanodd y poen yn y cefn a'r pen, a dychwel- odd fy archwaeth. Cysgwn yn well yn yr hwyr, a phan godwn yn y boreu teimlwn yn barod i gyflawni fy nyledswyddau. Yr oedd yr ychwanegiad yn fy nghryfder yn weledig iawn. Vr oedd yn ryddhad or mwyaf i mi i beidio cael y gur wrth y galon. Y maent yn awr wedi fy llwyr adferu, a theimlaf yn well mewn iechyd nag er's blynyddau. Gallaf yn gydwybodol argymhel! Bile Beans i ddiodd- efwyr." Gellir cael Bile Beans gan unrhyw fferyllydd am swllt a cheiniog a dimai a dau a naw y blwch, ond rhybuddir chwi yn erbyn twyllwyr.

. Masnachwyr Cerrigvdruidion.…

Advertising