Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

.-.---------------- -------------_._....-------MEDDYLIAU…

News
Cite
Share

MEDDYLIAU YN NGLYN AG EISTEDDFOD CAERNARFON- Meldwl fod pobi Caernarfon yn deall ar- wyddion yr amserau yn well na phobl Bangor, neu jate Meddwl fod pwyllgor Eisteddfod Caer- narfon wedi bod yn consultio gwell almanac n f nag awdurdoclau Siasiwn Bangor, gan iddynt sicrhau llawer gwell tywydd na hwynt. Meddwi fod heolydd Caernarfon mor brin o chwarelwyr am y tri diwrnod cyntaf ag fydd heolydd Bethesda o'r Blaid Fain ar ddyddiau y wibdaith i Lundain. Meddwl na bu y Pa vilion erioed o'r blaen mor llawn o rianod prydferth a cheinwycb, ac mai priodol fuasai dyweyd am y mwyaf- rif ohonynt— Oil yn eu gynau gvvynion. Ac ar eu newid wedd. Meddwl-a chlywed hyd sicrwydd—fod rhagor nag un fatch wedi eu gwneyd yn 1 ystod yr uchelwyl genedlaethol. feddwl y bydd i'r hysbysiad hwn sym- bylu anil i feinwen i ddyfod yma i'r Eis- teddfod nesaf. Meddwl mai dymunol fuasai i Undeb Corawl Caernarfon ddysgu gwers oddiwrth gorau ereill fuont yn datganu yn yr Eistedd- fod i gyfodi ar eu traed yn fwy cydunol, yn lie eu bod yn codi y naill ar ol y Hall fel defaid yn myned drwy fwlch. Meddwl y dylai y rhai ag y disgyn i'w rhan i siarad yn gyhoeddus yn y Pavilion ofyn am fentbyg lungs Hwfa Mon er mwyn gwneyd eu hunain yn glywadwy i'r rhai hyny nad yw ffawd yn caniatau iddynt eis- tedd yn yr eistaddleoedd pedwar swllt. Meddwl mai lied fflat y trodd y cadeirio a'r coroni allan-yr oedd rhywbeth yn eis- ieu nas gallaf ddyweyd yn iawn beth yd- oSdd. Meddwi fod nifer y siomedigion yn llawer lluosocach na'r boddlonedigion, a bod llawer yn rhagor wedi "cae 1 cam" nag a gafodd gyfiawnder yn yr Eisteddfod. Meddwi fod presenoldeb un ymhonwr ffug-farddol ar y llwyfan adeg y cadeirio a'r coroni yr. ddigon a chodi ysfa yn mlaenau traed gwir fardd i'w droedio i lawr i'w le ei tun." Meddwl nad yw codi yn foreu yn anghy- nefin i Clwydfardd, Gwalchmai, a Hwfa Mon, gan y gwelid hwy yn rhodio fraich- yn-mraich ar hyd beolydd y dref cyn wyth o'r gloch foreuau yr Eisteddfod. Meddwl, gyda phrudd-der, gynifer o enwogion Eisteddfod 1880 oedd, yr wyl bre- sennol, o dan y dywarchen las. Meddwi, ar un o ddyddiau yr Orsedd, y gallasai Clwydfardd a Gwalchmai, yn briodol iawn, adrodd llinellau a adroddwyd gan Dafydd Ddu, ar amgylchiad cyffelyb, ac yn yr un lie,— Daw ereill feirdd awdurol, Yn fuan, fuan ar f'ol." Meddwl nad teilwng o urddas y broffes- wriaeth oedd gweled un o feirniaid y brif gystadleuaeth gorawl yn benthyca copi o'r darnau. Me ldwl ei bod yn resyn nad oedd cor o Arfon yn y gystadleuaeth uchod. Meddwl hefyd mai cywilydd nad aeth yr un wobr gorawl i ben sir gerddgar Caer- narfon. Meddwl na oddefasid yn ngwyliau cerdd- orol mawrion Lloegr yr hyn a gymerodd le ar derfyn yr ail ran o ddatganiad y Creation." Meddwl y dylasid trefnu yn well ar gyfer yr adeg i arddangos a gwobrwyo y chwarel- wyr liwyddiannus yn nghystadleuaeth hollti y Ilechau. Meddwi fod triumphal arch, Chinese lamps, a geifr yr Afr Aur, yn nghydag eiddo y Liver, yn glod i ddyfais y perchenogion. Meddwl y buasai yn fwy nodweddiadol o "Eisteddfod y Wyddfa" (chwedl Gwalch- mai) pe buasai gafr yn blaenori gorymdaith Orseddol yr Arglwydd Faer. Meddwl fod mwy o wirionedd nag a fedd- ylir yn gyffredin-ac felly, wrth gwrs, mae genyi fi feddwl anghyffredin-yn y motto Gcreu Afr Afr Aur," oherwydd fe geid o leiaf gan' mil o eifr cig a gwaed am un afr aur. Meddwl nad aeth yr Afr Aur" erioed drwy y ffenestr, ond ei bod yn credu yr ar wyddair hwnw Stick to your post." Meddwl y dylasai fod mwy o bontydd deiliog yn addurno y dref ar adeg cynaliad yr wyl genedlaethol. Meddwl fod y trigolion, i wneyd y diffyg i fyuv, wedi penderfynu uno i ganu Chwyf- iwn faneri." Meddwl fod llai o feddwi wedi dygwydd yn ystod yr Eisteddfod nag a dybid gy- merasai le, ac mai yr achos ydoedd fod yn rhaid yfed llawer o ddiod fain" cyn cael y bendro. Meddwl fod llawer o wir yn sylw yr hen frawd hwnw ar y Cei ddycidlauyr Eistedd- fod, pan ddywedodd, "Fachgao, 'rodd na extra hands yn y tyfarna na heddiw." Meddwi, os myn beirniad fod yn ddar- llcnwr effcithiol a liwyddiannus ar feirniad- aeth, y rhaid iddo astudio y mesur byr" a chvmeryd pelenau at wella'r llais." Meddwi mai y werin bobl gefnogodd fwyaf ar yr Eisteddfod, a bod pendefig- aeth" yr ardaloedd yn cadw ei harian ar gyfer sports, rhedegfeydd ceffylau, a'u tras y flwyddyn nesaf. Meddwl y gall dyfodiad Arglwydd Faer Llundain i Gaernarfon, a'r croesaw a gaf- odd, ddylanwadu ar ei feddwl i roddi ei gefnogaeth i Eisteddfod Genedlaethol y Brifddinas y flwyddyn nesaf. Meddwi y dichon "Eryr Alun" (Mr Swetenham, A.S.) fod yu ymgeisydd am y gadair farddol nesaf, ac y caiff Bwrdeisdrefi Arfon yr anrhydedd o gael eu cynrychioli yn y Senedd gan fardd cadeiriol. Meddwl mai "pobi o'r wlad" oedd y rh hyny a alwent mace bearers Maer Caernar- fon yn dri archdderwydd. Meddwl fod cenedlgarwch pobi Llundain —bechgyn y Cymmrodorion —yn deilwng o efylchiad Cymry Cymru. Meddwl fod y rhai sydd yn gwneyd gwawd o ddefion yr Orsedd-a phwy a wad na pherthyn iddi foeswersi penigamp ?—ac ar yr un pryd yn ymhoffi darllen hanes gwyliau cenedlaethol y Cyfandir, yn dangos nas gallant werthfawrogi yr hyn sydd yn nodweddu arferion gwahanol genedloedd. Meddwl fod llai o ymgeiswyr am urddau yn Ngorsedd 1886 nag a fu er's talwm. Beth oedd yr achos, tybed ? Meddwl fod Eisteddfod Caernarfon, o dan amgylchiadau lied anffafriol, wedi bod yn llwyddiant perffaith, ac fod y swyddog- ion yn rhyglyddu clod am eu gweithgarwch. DETECTIVE.

NODION 0 FFESTINIOG.

CYNGAWS YSMALA YN NGLYN A…

oYFAILL PROFEDIGr—ITN Y GELLIR…

ADNE^YDDU'R TERFYSGOEDD YN…

MARCHNAD J LL AFUR.

CYFEILLION GWERTHFAWR.

- HYN A'R LLALL.

DARGANFYDDIAD DYDDOROL

::=. RHAGOLYGON AM EISTEDD-IAD…

LLECHAU CHWAREL Y PENRHYN…

Y SENEDD A CHWESTIYNAU CYMREIG.

Advertising

[No title]

GENETH RYFEDD.