Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Nodion o Fanceinion.
Nodion o Fanceinion. GAN CYFRIN. Mewn Llafur mae Elw. Cynhaliodd y Wesleaid yn Gore Street Sale of Work nos Wener a'r Sadwrn. Cad- eiriwyd nos Wener gan Mr. David Rees, ac agorwyd y gweithrediadau gan T. Roberts, Ysw., Whalley Range—Cymro o Lanfyllin sydd er's llawer o flynyddoedd yn y dref hon, a thrwy gysylltiad priodasol cartrefa yn grefyddol gyda'r Saeaon. ond ni phalla mewn haelioni a chymwynasgarwch i'w genedl, er hynny. Cymerwyd y gadair prydnawn Sadwrn gan Miss M. C. Ellis, M.A., Moas Side, ac agorwyd y gwerthiant gan y Parch. Boaz Jones, Dinbych." Er mai sale ar raddfa fechan oedd hon, gosodwyd 980 yn n6d, a mawr oedd y brwdfrydedd a'r ymdrech a ddanghoswyd i'w gyrraedd. Darparwyd am fisoedd yr amrywiol nwydd- au, a gwaith hengall oedd gwneud cymaint o bethau bychain, oherwydd mae mynd bob amser ar y rheiny. Hyfrydwch oedd gweled llawer o'r cynhulliad yn myned a phecyn bach o rywbeth adref gyda hwy,-yn debyg i'r gwenyn ar ol bod yn y cae blodau yn cludo eu beichiau m61 i'w haneddau eu hunain. Aeth y cyfeillion yn Gore Street dro yn ol i £50 o gostau i lanhau a phaentio yr addoldy, a thrwy y Sale of Work ceisid dileu y swm a thalu ychydig o'r arian benthyg ar y capel. Ychydig yw y ddyled, ac ymdrech neu ddwy gyffelyb eto a ddryllia hualau y ddyled yn llwyr. Y Ddeilen a'r Gan. Yn ysgoldy Seisnig Tuer Street, y Sadwrn diweddaf, bu Eglwyswyr Dewi Sant yn cynnal eu gwyl flynyddol. Daeth oddeutu cant ynghyd i fwynhau t6 yn y prydnawn, a phrofodd yr Eglwyswyr nad yw te parti yn eu mysg hwy yn colli tir. Mae dylanwad y Parch. H. R. Hughes yn cyrraedd y tu allan i'w gorlan ei hun. Yn yr hwyr, dan lywyddiaeth Mr. Hughes, cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol o ganu ac adrodd, ac ymhlith y cantorion yr oedd Miss Rhoda Jones a Mr. Fred Roberts a Leonard Jones, gyda Mr. Gwilym R. Jones yn cyfeilio. Chwareuwyd ar y diwedd y ddrama fechan, A Runaway Match," a meiatrolwyd y darn yn dda. Ychwanegodd presenoldeb y Parch. Canon Davies (Dyfrig) at urddas y gweithrediadau, ac efe oedd yn pregethu yn yr eglwys y Saboth. Y Morwynion." Ddydd Llun nesaf bydd y Compensation Act newydd yn dod i rym ar Ddeddf-lyfrau y Llywodraeth. Bu llawer o ddadleu wrth geiaio dadrys y ddeddf flaenorol; ond ym- ddengys fod mwy o ddyrysni fyth yn gym- hlethedig yn y newydd. Mae bron bawb sydd yn gweithio am lai na E250 yn y flwydd- yn o gyflog yn cael hawl i geiaio iawn mewn achos o ddamwain tra yng ngwasanaeth eu meistriaid. Un o'r dosbarthiadau a ddeuant dan nawdd y ddeddf yw y morwyn- ion, ac y mae'r mwyafrif ohonynt yn ein trefi yn rhai o'r wlad. Dihysbyddir llawer ardal yng Nghymru o oreuon eu merched i gyflenwi angen bonedd gwahanol genhedloedd am wasanaethyddion. Cwynir yn fynnych fod yn anodd cael digon o ferched i wasanaeth ty, a darogenir y bydd cyn hir y fath brinder yn y wlad hon ag sydd yn awr yn Canada ac Awstralia, lie y mae boneddigesau uchelwaed yn gorfod gwneud gwaith cyffredin y tý a'r teulu. Y misoedd diweddaf daeth nifer o ferched ieuainc o Norway i fod yn forwynion palasau y Rossendale Valley hyd i Burnley. Y ffaith yno ydyw fod pob geneth yn myned yn syth o'r ysgol i weithio yn y melinau. Beth fydd effaith y ddeddf newydd ar y morwynion a'u meistresi mae'n anodd gwybod diau y bydd gofalon y feistres yn fwy am eu gwasanaethyddion, a gobeithio y caiff y forwyn fwy o awdurdod ei pherson- oliaeth ei hun mewn achosion y mae perygl yn gysylltiedig ag ef. Ewyllysia llawer o Saeson am y morwynion Cymreig ond gorfodir ami un i ddioddef oherwydd ei sêl am fynychu moddion gras gresyn na ehangid eu rhyddid. Mae 16 y cant ar gyf- artaledd o forwynion yn aelodau yn eglwysi gwahanol enwadau Cymreig y dref hon a Salford, a chyfrifir hwy yn ddosbarth cre- fyddol a rhinweddol, yn gyffelyb i forwyn Naaman y Syriaid yn dyrchafu ei chenedl, ac anrhydeddu ei gwlad a Duw ymhlith estroniaid.
PULPUDAU MANCHESTER.
PULPUDAU MANCHESTER. SABOTH, MEHEFIN 30, 1907. Y Methodistiaid Calfinaidd. Moss SIDE—10-30 a 6-30, D. D. Williams PENDLETON—10-30, J. S,Roberts,Bolton,6,T.HU ghes HBYWOOD ST—10-30 a 6, E. Wyn Roberts HIGHER ARDWIOK-IO-30, T Hughes, btockport, 6, J. S. Koberts Y Wesleyaid. DEWI SANT—10-30, T. 0 Jones, 6, W. M. Jones CoLLYHURST—10-30, J. M. Hughes, 6, T. O. Jones SION—10-30, W. G. Jones, 6, J. M, Hughes BEUXiAH—10-30, Cyf. Gweddio. b, W. G. Jones CALFARIA-IO-30 a 6, Cyf. Ysgol EOOLES-2-0, J. M. Hughes, 6-30, T. P. LEEDS—11 a 6-30, BRADFORD—11 a 6-30 Y Bedyddwyr. UP. MEDLOCK ST-10-30 a 6, J.H.Hughes LONGSIGHT—10-30A 6, ROBINS LANE, SUTTON-IO-30 a 5-30, Yr Anibynwyr. BOOTH ST-10-30, W. W. Jones, 6-15, M. Llewelyn CHORLTON RD—10-30 a 6, R. Roberts T SALFORD—10-30, M. Llewelyn, 6, W. W. Jones QUEEN'S RD-10-30 a 6, G. Evans FAILSWORTH—10-30 a 6, EOCLES—10-30 a 6, Yr Eglwys Sefydledig DEWI SANT—11 a 6-30, H. R. Hughes --o Derbynniodd y Parch Richard Jones, eglwys Seisnig M.C. City Road, Caer, yr alwad i fugeilio eglwys M.C. I.landinam, He y mae Mr. D. Davies, A.S., yn aelod, a'r hon a fugeilid gynt gan y diweddar Barch. D. Lloyd Jones, M.A. Y mae Mr. W. J. Lewis, athro gwyddono I yn Ysgol Grefftig, Winsford, sir Gaer, wedi ei ddewis yn ddarlithiwr gwyddonol yng Ngholeg Bangor. Daethai i Winsford 0 Gaerdydd.
Eisteddfod Bwlchgwyn.
Eisteddfod Bwlchgwyn. Beirniadaeth y Gadair. (Diwedd). w y Doyi.-Dyma ymgeiaydd arall a na ei ffordd yn urddasol i blith goreuoti y systadleuaeth. Mae ei gerdd yn awenyddol w.yddi, a'i grefft fydryddol agos yn bopeth fy ei ddymuno. Mae syniadau barddon- h] ,j°n ymagor ar bob tudalen, fel r au gardd yn y gwanwyn. Y darn wyaf anfoddhaol yw yr un a esyd yng genau Simeon. Ni theimlir fod v bardd sMnog hwn wedi llwyddo cystal a rhai o'i e.yfiyni.geiswyr i roddi mynegiant i syniadau n Simeon, a rhaid cyfrif ar y pwynt hwnnw "cwn cerdd ar y testyn gosodedig. Eto, ar y cyran, mae cerdd Ewyn y Don yn rhftg- oi lawn, a rhaid wrth ragoriaeth pur uehel i Iyned heibio iddo i'r Gadair. Pen y Mynydd. —Pry eldest o bedwar caniad ^yteisgar a dihysbyddol ei chynlJun yw hon, xT:/n cynnwys darnau nodedig o farddonol. oes yn y gy3tadleuaeth fardd mor gryf ?re^vyll. Y mae weithiau yn eithafol, o 11ld yw byth yn gyffrodin. Y mae ar- fjr* y un meddwl, a hwnnw yn feddwl Wdgar-farddonol, yn nodweddu yr holl edaifch- Gellid yn hawdd ddyfynn cwpl- fa*!?1 cyn'lwys^Awr a tharawgar, a darnau o pi j Oniaoth disglaer, o'r cyfansoddiad hwn. prawf o awenvddiaoth grof y bardd, ni ( 0nd dyfynnu ei linellau agoriadol — Soff Simeon Swyn dy enw Ddeffry flodau ar fy Hwybrau Mae dy fri yn crynnu'n fhvsig lIeddvw ar yr aur-delvnau. Mae fy nhelyn fechan innau Ar y ddaear yn gwallgofi Oan gyfaredd nef-anedig, Pari fo'th enw'n cerddod drosti. pi gT lr yrna lawer o feddyliau dyfnion ac aw- «ryiniadan cyrhaoddbell. Yr bvn y gallasai dd wella fuasai drwy wneud ei ar- at f ^v* y syini a gloew. Tuedda weithiau fed arn^eiri°S- ac hefyd Yn rhy gyff- ^aw rhywbeth yn anurddaaol mown (( yr olaf o'r cwpled :— Ond daeth dydd cyfarfod yn y Nefoedd T Fawr "esu Wodi taro uffern ddu i lawr H S?hiydd y Dydd.— Y mae yntau wedi cyn- jw |° yn feddvlgar. a gwcithiodd allan ei fivf n yn ^eg, ac y rnao gyfansoddiad yn a,nwaitli bardd. Nid yw ei ran gyntaf, wir, oystal a'r gweddill. Tuedda i ^id °'' a ther.v yf un tant yn rhy fynnych. 0(.i, yw lawn mor gyfoethog mewn iaith ac -^w Ppn V Mynydd Nid yw bob yn ddigon gofalus am briodoldeb, gft ^Pan yn son am dnrfu blagur." Ceir oil amb6ll linell ddiyni: ond nid yw hyn brychau cymharol ddibwys ar gyfan- tjp rhagorol. Yrnsonol yw dull y gerdd, j llwyddodd y bardd hwn i'n harwain yn naturioi i feddylfyd a phrofiad Uri°l Simeon, gan gyrchu yn deg at y n<5d °yflwyniad. Ceir yma ddatblygiad gobaith am Fesia oedd yn meddwl hoi]e°n, a llewyrch yr awen ddiledryw ar yr fe{. 8Wrs. Nid yw y farddoniaeth o nodwedd a tl i ar a nerthol, on(l yn hytraeh yn dyner s,(, ?8- Y mae yn holiol briodol i'r testyn, aRo 6 -^rM y^ro i gyffredinolwrydd fel y gwna ep^8 yp 611 hyd yn oed o'r goreuon sydd jm ei Yl- Gwolir yrrm feddwl sanctaidd a hviltgar, and pryderus, yn symnd drwy y lilxvl ,I ()ttel a.r no, i gyfeiriad y wawr, o'r diwedd yn terf el ddymuniad, a gadewir Simeon ar y fyn ^fdi canu'n inch i'r ddaear, pdi mynd tu hwn t i'r lien,— ^yda choron ddwyfol-lachar A rl Yn disgleirio ar ei bon,- P ddelw Crist ym mhalas aur y Nef, yfion beltach Hy'n oi freiehiau Ef chwareu'i delyn fyw anfarwoldeb Duw o I. y "^0lir oddiwrth y nodiadau arnynt fod yn "0 gystadleuaeth amryw gyfansoddiadau a tlina'u banner o deilyngdod er vn ineddu ar ffaeleddau o bwvs. e«lVi^U:larJlen. y goreuon droion, yr wyf ^°d eiddo Pen 7 Mynydd a Salmydd y '°<i J* l>laen i'w holl gydymgeiswyr, er fhjrla->JUyn V Don, Cardotyn, Hiraethog, a r Wairr ar en sodlau. O ran newydd- y A113.. hNddgarwch barddonol, nid yw Fen i fw Ynydd yn ol i neb, ac ond iddo ymroddi Ote(j 0 symledd a choethter mewn arddull, Vde y bardd hwn ymgyrraedd yn Vu^v1^118 at unrhyw anrhydedd mewn fel gystadleuaeth farddonol. Ond hefy J'ryddegt awenyddol a choeth, fac aJ" y testyn, yr wyf yn barnu yn ddi- Ofey a,, inai eiddo Salmydd y Dydd yw yr a 1 ^°d yn gwir deilyngu y gadair a'r j'1 Eisteddfod Bwlchgwyn. Cadeirier ydd y Dydd. Ar air a chydwvbod, PEDROG. be Englyn, Cneuen." ^nnw ynniw-yd 13 0 gnau yr Awen, yn Wly». riiai coeg," ac ereill gyda clinew- it ° feddwl da ac addfed. y 5?wallau cynghaneddol amlwg yn eiddo ■8 » H*10' :—Magog, Emor, ac Ymgais (2). cynglianedd deg o'r llinell, Gei o fj y o waith Ymgais (2). 1\ hltn ?nri^ am Gnoi y Gneuen.—Ynfydrwydd IV i diangen yw ysgrifennu ffug- yr.1\r". Englyn cynghaneddol, ond heb h on cryno ei fynegiant. Qro ltrno nydd -I.-lAd debyg i'r olaf y sylwyd 5 Oild ei drydedd linell yn well o Istwor :— Qw ^ern enrog y brigog bren.' paladr. ^ga^" ^CWr r Oneuen.—Gair gwael yw a, V? dyga allan." allan fuasai orexi. 'Does fawr o ?paryr englyn hwn. Tomoa.- Englyn digrif iawn yw n> a gwael yw cynghaneddiad y (1).—Gwan iawn yw dwy gyng- ^illt,, j 8g rnewn un englyn, ac ni cheir dim y ddwy linell arall. i e)šlynion GviW y Gelli, l-lafod y Cvlm j, n Maespica, a Mihangel, 5*n 1 teiN a ph°b tin yn wobrwyadwy. o y rh^1-^0^' llawer o fyfyr uwch- fjfeu toa' "yn, yr wyf o'r farn rnai yr englyn ^nr/A/6^11 °yflawnder a medc yw eiddo °br. hwn sydd yn gwir deilyngu y PEDROG.
-------__-Gwlad yr Haf.
Gwlad yr Haf. [Gan GERAINT] LLA WER gwaith y clywais yr enw yma pan oeddwn yn hogyn ym Mon. Nid oes gennyf ddim amcan chwaith ymha gysylltiad y sonid am dano yr adeg honno. Sut bynnag am hynny, meddyliwn mai lie braf iawn, a lie hyfryd dros ben, oedd Gwlad yr Haf," a byddwn yn rhyw hanner breuddwydio y byddai'n hinon haf tesog o hyd ynddi yn wir, felly'n union yr oedd pan oeddwn i yno bymtheng mlynedd yn ol ond eleni cefais brawf ei bod hi (hyd yn oed yng Ngwlad yr Haf) weithiau yn bwrw gwlaw, ie, gwlaw bras iawn hefyd. Hwyrach, wedi'r cyfan, mai nid Gwlad yr Haf" mohoni. Gelwir hi weithiau yn Wlad yr Hafren," a gelwir y mdr (Bristol Channel) yn For Hafren." Ar y naill ochr i'r culfor, neu'r afon Hafren (Severn) y mae deheubarth Cymru, ac ar yr ochr arall y mae Gwlad yr Haf, ac oddiar lannau hon gellir gweled prif ddinas Cymru (sef Caer Dydd, nid Lerpwl) a chaeau gleision gwlad Morgannwg. Yn yr hen hen oesoedd yr oedd cysylltiad agos iawn rhwng Silwria (Deheudir Cymru) a Gwlad yr Haf rhwng Caerlleon ar Wyag ag Ynys Afalon. Dyma'r lie y claddwyd Arthur Fawr, onide ? Dywed traddodiad i'w gorff gael ei ddwyn ar hyd y m6r o Gernyw i Ynys Afalon. Pythefnos neu ragor yn ol yr oedd yr Ynys ar Werth. ac erbyn hyn y mae rhyw wr wedi ei phrynnu am 930,000, gyda'r amcan, meddir, o'i throsglwyddo i'r awdurdodau eglwysig pan fo ganddynt ddigon o arian i dalu am dani. Sut, medd rhywun, y mae cyfrif am ynys yng nghanol y tir ? Wel, yn yr amser gynt yr oedd y dyffryn ffrwythlon-sydd yn rhedeg rhwng Cheddar a Bridgewater rhwng Bryniau Mendip i'r gogledd a Bryniau Polden i'r de, ac yn cyrraedd o'r m6r hyd Glastonbury-o dan ddwr—llynoedd mawrion (meres neu moors). Eitha enw ar y lie yn yr hen oesoedd fuasai Ynys Las," ac enw priodol iawn arni heddyw fuasai Bryn Glas," eithr Ynys Afalon (neu Afallon) y galwyd hi gan yr hen Frythoniaid a Glastonbury Tor y geilw y Saeson hi heddyw. Y mae ystyr yr enw Brythonig yn amlwg pan gofier mai terfyniad lliosog ydyw "on." Apple yw afal hyd y dydd hwn yn y Gymraeg felly ynys yr afalau yw'r ystyr (cymharer badd, baddon llythyr, llythyr- on; cysur, cysuron, &c.). Y mae'r gym- dogaeth hyd heddyw'n enwog am ei hafalau. Geilw Tennyson y lie yn Avilion yn ei Morte d'Arthur—" The island-valley of Avilion. Y mae amryw draddodiadau rhyfedd am yr ynys. Un ohonynt ydyw fod Joseph o Arimathea gydag un-cydymaith-ar-ddeg wedi dyfod drwy Gal a thros y m6r hyd Ynys Afalon, ac (ar ol iddo wneud llawer o wyrth- iau) iddynt adeiladu capel bychan o wiail, a dywedir hefyd fod Padrig Sant yn fuan wedyn wedi dychwelyd, yn hen wr penwyn, o'r Iwerddon i'w fan geni, sef Ynys Afalon, ac iddo adeiladu Abaty i Joseph a'i gymdeith- ion i fyw ynddo, a chapel coed yn lle'r un gwiail, a dyna ddechreuad mynachlog enwog Ynys AfaIon., Ymhen tua saith canrif wedyn, yn ol Brut y Tywysogion Y danfones Alan, brenin Llydaw, ei fab Ifor ac Ynyr ei nai a dwy lynges gadarn i Ynys Prydain, a rhyfel a fu rhyng- ddynt a'r Saeson, a gorfod ychydig arnynt, yna y cymerth Ifor arnaw Benaduriaeth y Bryttaniaid. A gwedi hynny y daeth -y Saeson yn ei erbyn ef a Ilu cadarn, a chad ar faes a fu rhyngddynt lie y gorfu Ifor a'r Bryttaniaid wedi ymladd creulawn, ac ynnill Gwlad Cerniw a Gwlad yr Haf a Dyfneint yn gwbl. Ac yna y gwnaeth Ifor y Brodordy mawr ynys y Fallen er diolch i Dduw am ei gyfnerth yn erbyn y Saeson." Y mae olion y Brythoniaid a'r Rhufeiniaid yng Ngwlad yr Haf yn lliosog iawn. Byddai 'n anodd i ddyn sefyll ar ben bryn go uchel yn y sir, ac edrych o'i amgylch heb iddo ganfod un neu chwaneg o'r hen ddinasoedd (neu noddfeydd) Brythonig. Er i'r Rhufeiniaid eu meddiannu a'u gwella'n ddirfawr, eto yr oeddynt wedi eu sefydlu ymhell cyn eu ^hamser hwy. Y mae un tra dyddorol o'r enw Worlebury ar gopa clogwyn wrth ymyl tref Weston-Super-Mare. ;Lle digon tebyg i Landudno yw'r dref hon, ac y mae yn dyn- fa llawer y ymwelwyr, yn enwedig o Fryste a Chaer Dydd. Rhed agerlong fechan ddwywaith yn y dydd rhwng Weston a Chaer Dydd yn yr haf, a chymer dri cliwarter awr i groesi'r afon. Y mae'n amlwg oddiwrth hen gofnodion na ddarfu'r Sacsoniaid ddim gyrru'r holl Gymry allan o Wlad yr Haf a Dyfnaint (Devon) mwy nag o Gernyw. Gwnaed cyfreithiau yn amser Ina, brenin Wessex, a mab i Gymraes, ar gyfer Cymry oedd ddeil- iaid iddo, a thua'r un amser ysgrifennodd Aldhelm, Esgob Sherborne, lythyr at frenin Cernyw ynghylch gwasanaeth y Pasc yn yr eglwysi, ac yn y llythyr hwnnw cwynainad oedd rhyw deimlad da iawn rhwng y ddau bobl (yn Wessex, mae'n debyg). Ni wnai y Cymry addoli yn yr un eglwys a'r Sacsoniaid, ac ni fwytaent gyd a hwynt, &c., eithr y mae'r esgob yn canmol gwybodaeth y Cymry am athrawiaethau Cristionogol, ond ofnai eu bod yn fyr o ysbryd cariad. -0 Y mae glofa Brynmally, ger Gwrecsam, wedi!ei brynnu gan Mri. Dutton, Massey, a'u Cyf. Lerpwl, eiddo y rhai hefyd ydyw'r lofa arall gyfagos, Ffosygo.
Advertising
Moses: O'R CAWELL A'R MOR COCH, Drama Gymraeg at wasanaeth Gobeithluoedd, &c. Gan PEDR HIR. Cyhoeddedig gan HUGH EVANS, Swyddfa'r 11 Brython," Lerpwl. 0 Pris, 3c. 0 IF YOU WANT SEASONED OaK, Mahogany, Birch, Black Walnut. Ash. White Wood, Pitchpine, Yellow Pine, Doors or Mouldings WRITE LEWIS ROBERTS, 19 STANLEY ROAD, LIVERPOOL. CYMRU AM BYTH. On the road to Chester ride a "CORONET" CYCLE. 1907 Machines, all the latest Models that skill, ingenuity, and development can devise, FROM S5 5s. Cycle Repairing, Enamelling, Plating my special- ity. I quote a low Price, I do my own work, and I guarantee it. Cycle Accessories of every des- cription in stock. Note address, Down the steps, QUINN'S CYCLE DEPOT, 452 Scotland Road, LIVERPOOL (Opposite Rotunda Theatre). Tel. No. 18Y Bootle. J. BLACK, Late ISAAC BLACK, Cabinet MaKer and Upholsterer, BEDDING MANUFACTURER, And General House Furnisher, 66 & 68 STANLEY ROAD, BOOTLE. Carpets and Floor Coverings a Speciality. Undeb Ysgolion M.C. CARDIAL SAFONAU, RHAGBAROTOAWL HYD SAFON Y 9fed, I'w rhoddi yn nivylaw y plant, yn dangos iddynt y Maes Llafur, Darllen a Dysgu Allan amy flwyddyn. Pris (assorted) 3/6 y Cant. I'w cael gan HUGH EVANS, 444 Stanley Road, Liverpool. Maes Llafur Undeb Ysgolion^M.C. I rai dros 21 oed Llawlyfrar Efengyl Matt, 1-15 gan y Parch.W. Williams, Hirwaen. Pris, 1/3 I rai dan 21 oed—Gwerslyfr ar Efengyl Matt., 1-15. gan y Parch. W. Williams, Rhostryfan. Pris, 2c. Ar werth gan HUGH EVANS, Llyfrwerthwr, 444 Stanley Road, ESTABLISHED 1876. WILLIAMS & HUGHES, LADIES' & GENTS' TAILORS, 21 BrunswicK Road, Tel. 0778 Royal. LIVERPOOL. ■ftss. OWENS & CO., Office ø Shop Fitters, DECORATING, PLUMBING, GASFITTING, &c And all kinds of Jobbing, 24 Hart St., London Road, LIVERPOOL. | —— P. Neil Campbell, 84 DURNING RD. (Yn agos i Goleg Hyfforddiadol Edge Hill), #' LIVERPOOL. JP TYNNU DANNEDD YN -1 DDIBOEN. G A'u Ilenwi ag Aur, Arian ac yn y blaen. wjr Rhoddir Cyfarwyddyd a phritum yn rhad. # Orlau: 9 y bore hyd 8 yr h wyr. Gweinyddes a FoneddigesoH. Pellaeinyr 445 Royal. Y DULL AMBrtlCANAJDD 0 ? Goroni a Phontio Dannedd. Jones' Hotel (Established over 100 years). Suffolk St., Pall Mall, London, (Adjoining Trafalgar Square.) Successors to Mr. Roberts, Thanet Place. Telegraphic Addr ss—' Pleasant,' London. Proprietor-H. R. JONES. Gwalia Home & Registry for Welsh Servants, HOPE PLACE, LIVERPOOL. Dan arolygiaeth pwyllgor o gynrychiolwy Cymreig. Lletty cysurus i forwynion yn ceisio lleoedd.—Ymofyaer a. Miss DAVIES, Lady Superintendent. CERDDOROL, 6c. The Cambrian School of Music, Liverpool Principal: MR. John Henry Roberts Mus. Bac. (Can tab.), A.R.A.M., F.T.S.C. (London). ASSISTED BY QJU A L I FIE D a PROFESSORS a £ s :The Branches taught include— Pianoforte, Organ, Violin and all Orchestral Instruments. Theory of Music, Harmony, Counterpoint, Fugue, Composition. "a Jsr Solo Singing O Voice Production. Students Specially Prepared for; Local Examinations. POSTAL LESSONS In Harmony, Counterpoint, Fugue, Composition, Accoustics, in all Tonic Sol-Fa College Subjects. MUSICAL COMPOSITIONS REVISED AND CORRECTED. Full Particulars from- J. H; ROBERTS, 149GROVE ST., L-POOL. Mr. HARRY EVANS (Fellow of the Royal College of Organists) Conductor of the Liverpool Welsh Choral Union Teacher of Singing ALSO ORGAN PIANOFORTE (ADVANCED). Students prepared for Degrees and Diplomas ADDRESS': 26 Princes Avenue, LIVERPOOL THE LATEST SUCCESS. ROBERTS' WATCH METRONOME A combined Watch and Metronome. All tempos seen at a giance. No adjustment re- quired. Nothing to get out of order. Every musician, whether Student, Singer, Teacher, Organist or Conductor, should possess one. TESTIMONIALS- A great acquisition to musicians." "Simple,' useful, and portable." "Most ingenious and handy.' Very good idea, thebestl have seen." "Most useful on account of its simplicity and portability." A most valuable little thing, quite unique, ex- cellent." PRICE 15/- [postage extra] To be had from the inventor and patentee Dr. R. D. GLYN ROBERTS. 59 Crawford Avenue, Liverpool. TO CYMRIC MUSICAL SOCIETIES. GEORGE BYROM, 14 Brooks Alley, Old Post Office PI. (1 Minute from Central Station). LIVERPOOL Practical Violin Maker. Restoration of Old Instruments a Speciality. Dealer in old and new Violins. Finest Italian & other Strings, Bows, Cases, Fittings, etc,, in stock. Orders by post sent return post OS OES GENNYCH Swllt Da acAnwyd Drwg Gellwch gael ymadael a'r ddau drwy brynnu potel o Prysor-Jones' LUNG BALSAM, Y Feddyginiaeth at ANWYD, PESWCH, CRYGNI, DOLUR GWDDF, &c. Os cymerir dogn gydag ychydig o ddwfr cynnes cyn myned i orffwys, fe gynhesa y frest a sicrheir NOSON DDA. Parotoedig yn unig gan D. PRYSOR-JONES (Olynydd i S. K. Drew), Fferyllydd, 291 Park Road, LIVERPOOL.