Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Nodion o Fanceinion.

News
Cite
Share

Nodion o Fanceinion. GAN CYFRIN. Mewn Llafur mae Elw. Cynhaliodd y Wesleaid yn Gore Street Sale of Work nos Wener a'r Sadwrn. Cad- eiriwyd nos Wener gan Mr. David Rees, ac agorwyd y gweithrediadau gan T. Roberts, Ysw., Whalley Range—Cymro o Lanfyllin sydd er's llawer o flynyddoedd yn y dref hon, a thrwy gysylltiad priodasol cartrefa yn grefyddol gyda'r Saeaon. ond ni phalla mewn haelioni a chymwynasgarwch i'w genedl, er hynny. Cymerwyd y gadair prydnawn Sadwrn gan Miss M. C. Ellis, M.A., Moas Side, ac agorwyd y gwerthiant gan y Parch. Boaz Jones, Dinbych." Er mai sale ar raddfa fechan oedd hon, gosodwyd 980 yn n6d, a mawr oedd y brwdfrydedd a'r ymdrech a ddanghoswyd i'w gyrraedd. Darparwyd am fisoedd yr amrywiol nwydd- au, a gwaith hengall oedd gwneud cymaint o bethau bychain, oherwydd mae mynd bob amser ar y rheiny. Hyfrydwch oedd gweled llawer o'r cynhulliad yn myned a phecyn bach o rywbeth adref gyda hwy,-yn debyg i'r gwenyn ar ol bod yn y cae blodau yn cludo eu beichiau m61 i'w haneddau eu hunain. Aeth y cyfeillion yn Gore Street dro yn ol i £50 o gostau i lanhau a phaentio yr addoldy, a thrwy y Sale of Work ceisid dileu y swm a thalu ychydig o'r arian benthyg ar y capel. Ychydig yw y ddyled, ac ymdrech neu ddwy gyffelyb eto a ddryllia hualau y ddyled yn llwyr. Y Ddeilen a'r Gan. Yn ysgoldy Seisnig Tuer Street, y Sadwrn diweddaf, bu Eglwyswyr Dewi Sant yn cynnal eu gwyl flynyddol. Daeth oddeutu cant ynghyd i fwynhau t6 yn y prydnawn, a phrofodd yr Eglwyswyr nad yw te parti yn eu mysg hwy yn colli tir. Mae dylanwad y Parch. H. R. Hughes yn cyrraedd y tu allan i'w gorlan ei hun. Yn yr hwyr, dan lywyddiaeth Mr. Hughes, cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol o ganu ac adrodd, ac ymhlith y cantorion yr oedd Miss Rhoda Jones a Mr. Fred Roberts a Leonard Jones, gyda Mr. Gwilym R. Jones yn cyfeilio. Chwareuwyd ar y diwedd y ddrama fechan, A Runaway Match," a meiatrolwyd y darn yn dda. Ychwanegodd presenoldeb y Parch. Canon Davies (Dyfrig) at urddas y gweithrediadau, ac efe oedd yn pregethu yn yr eglwys y Saboth. Y Morwynion." Ddydd Llun nesaf bydd y Compensation Act newydd yn dod i rym ar Ddeddf-lyfrau y Llywodraeth. Bu llawer o ddadleu wrth geiaio dadrys y ddeddf flaenorol; ond ym- ddengys fod mwy o ddyrysni fyth yn gym- hlethedig yn y newydd. Mae bron bawb sydd yn gweithio am lai na E250 yn y flwydd- yn o gyflog yn cael hawl i geiaio iawn mewn achos o ddamwain tra yng ngwasanaeth eu meistriaid. Un o'r dosbarthiadau a ddeuant dan nawdd y ddeddf yw y morwyn- ion, ac y mae'r mwyafrif ohonynt yn ein trefi yn rhai o'r wlad. Dihysbyddir llawer ardal yng Nghymru o oreuon eu merched i gyflenwi angen bonedd gwahanol genhedloedd am wasanaethyddion. Cwynir yn fynnych fod yn anodd cael digon o ferched i wasanaeth ty, a darogenir y bydd cyn hir y fath brinder yn y wlad hon ag sydd yn awr yn Canada ac Awstralia, lie y mae boneddigesau uchelwaed yn gorfod gwneud gwaith cyffredin y tý a'r teulu. Y misoedd diweddaf daeth nifer o ferched ieuainc o Norway i fod yn forwynion palasau y Rossendale Valley hyd i Burnley. Y ffaith yno ydyw fod pob geneth yn myned yn syth o'r ysgol i weithio yn y melinau. Beth fydd effaith y ddeddf newydd ar y morwynion a'u meistresi mae'n anodd gwybod diau y bydd gofalon y feistres yn fwy am eu gwasanaethyddion, a gobeithio y caiff y forwyn fwy o awdurdod ei pherson- oliaeth ei hun mewn achosion y mae perygl yn gysylltiedig ag ef. Ewyllysia llawer o Saeson am y morwynion Cymreig ond gorfodir ami un i ddioddef oherwydd ei sêl am fynychu moddion gras gresyn na ehangid eu rhyddid. Mae 16 y cant ar gyf- artaledd o forwynion yn aelodau yn eglwysi gwahanol enwadau Cymreig y dref hon a Salford, a chyfrifir hwy yn ddosbarth cre- fyddol a rhinweddol, yn gyffelyb i forwyn Naaman y Syriaid yn dyrchafu ei chenedl, ac anrhydeddu ei gwlad a Duw ymhlith estroniaid.

PULPUDAU MANCHESTER.

Eisteddfod Bwlchgwyn.

-------__-Gwlad yr Haf.

Advertising