Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
Y DYFODOL -+0+- Mawrth 26ain, Arwerthfa yn Shop Talsarn, pob math o ddefnydcliat Dillad, &c. Cyfle ragorol am fargen dda. Mr J. D. Jenkins, Arwerthwr. Mawrth 29ain—Darlith ar Patagonia yn Ysgoldy y Bwrdd, Caio, am 7, gan y Bonwr Jonathan Davies, o'r Wladfa. Cadeir- ydd, y Cadfridog Syr James, Hills- 'Johnes, K.C.B., V.C., Dolaucothi. Mawrth 30 a 31, Cyfarfod Misol y Methodistiaid Deheubarth Ceredigion, yn Aberarth. Mater—1 loan ii. 12 — 14. Mawrth Blain, Arwerthfa Goedyn Henfryn, Llan- geler. Mr. Thomas Jones, Arwerthwr. Ebrill laf, Arwerthfa Goed yn Pantdefaid Farm, Llandyssul, Larwydd, Derw, Ynn, Syca- morwydd, a Choed Tun. Mr. Thomas Jones, Arwerthwr. Ebrill laf—Arwerthfa Chwarel Coedeiddig, ger Llanbedr, yn y. Ram, am 2 o'r gloch. Arwerthwr, Mr J. D. Jenkins. Ebrill 5ed a'r Ged—Cyfarfod Misol Methodistiaid Penfro yn Penffordd. Mater-Malachi iii. 16. Ebrill ""fed a'r 8fed—Cyfarfod Misol Methodistiaid Gogledd Ceredigion—Blaenplwyf, i ddechren am 10 o'r gloch. Mater- 2 Cor. xiii. 5. Ebrill 16eg, Arwerthiant Frarm Rydd-ddaliadol- NI Moelfryn-mawr, Llanbadarn-Trefeglwys, yn y Castle Hotel, Llanbedr. Mr. J. Jones, Arwerthwr. Ebrill 27ain, Ffair Da a Moch yn Farmers, Caio. CARDIGANSHIRE. VALUABLE FREEHOLD FARM, in the Parish of Llanbadarn-Trefeglwys, for Sale. MR. J. JONES has been instructed to sell by Public Auction, at the CASTLE HOTEL, LAM- PETER, on Saturday, rhe 16th of April, 1892 at 2 p m (Subject to such Conditions as shall be then and there produced) ALL THAT VERY DESIRABLE FREEHOLD Messuage, Farm & Lands, called "MOELFRYN-MAWR," Situate in the Parish of Llanbadarn-Trefeglwys, in the County of Cardigan, containing by admeasurement 146a. 3r. 2p., or there-abouts, now in the occu- pation of David Thomas. The Farm contains Excellent Meadow, Pasture, and Arable Land. Further particulars may be obtiained of the AncTlONKHH, at Tivyside Hall, Maesycrugiau, R.S.O., or to MESSKS. D. LLOYD & SON, SOLICITORS, LAMPETER. LLANARTH, CARDIGANSHIRE. mo BE SOLD BY PRIVATE CONTRACT, -L that exceedingly desirable Freehold Farm GWARFFYNON, containing 13 acres 2 roods, or thereabouts, of excellent land. Apply, to MR. JOSEPH M. THOMAS, SOLICITOR, PONTYPRIDD. POISON for KILLING RATS.—Thousands J- have been killed by using SANFORD'S POISON. Hundreds of Farmers that have used it say it is the best Poison known, as they find a lot of Rats dead by using it. Post free. Is. 2d., 2s., 3s. box, of SANFORD and SON, Sandy. Beds. Send stamps and try it. Sold by Chemists. Also MICE POISON for dressing corn stacks. SMALL FARM of 10 to 30 acres of land WANTED to BUY or on long LEASE in the neigh- bourhood of Lampeter. Apply :—J. Robinson, Esq,, care of Manager, Welsh Press," Lampeter. A GENT WANTED jn this Distnct by a well known Firm of London Mill Furnishers to sell their specialities, consisting of Mill Stores, Waterproof Waggon and Rick Cloths, Belting and other Goods. Address—Furnishers, c/o Bemrose& Sons, Old Bailey, London. -00_ LOST in January last at Lampeter, Lemon and White Setter Bitch. The finder will be re- warded by applying at Waunfawr, Llanddewi-brefi. T OST, a month ago, a Black and Tan SETTER, Reward is offerecl.-E. Davies, Cefnmaes. Mydroilyn, Talsarn, South Wales. (1WAIR AR WERTH—Unrhyw bwysau ar y rail mewn unrhyw fttation rhwng Pencader a Thregaron.—Am y prisiau ymofyner a C. EVANR, Mark Lane Stores, Lampeter. T AMPETER.—TY A GARDD yn ddi-ardreth 11 iwra gwraig, ar amodau neillduol. Am y manylion anfoner i Swyddfa Y" BRYTHON. POLLWYD, tua'r 7fed o Fawrth GAST DDEFAID C ddu, ambell flewyn llwyddcoch, ac ysmotyn gwyn ar ei thalcen a dan ei gwddf, yn attebi'r enw SCOT." Gwobrwyir y sawl rydd hysbysrwydd am dani i JOHN DAVIES, Rhiwonen, Ystrad, Talsarn R.S.O. dani i JOHN DAVIES, Rhiwonen, Ystrad, Talsarn R.S.O.
AT EIN DERBYNWYR A'N DOSBARTHWYR.
AT EIN DERBYNWYR A'N DOSBARTHWYR. Diolch i chwi un ac oil am bob cynorthwy dderbyn- iasom oddiwrthych i gychwyn ye BRYTHON CYM REIG ar ei yrfa, Os dygwydd iddo fod yu hwy ar ei daith na'r amser arferol, neu na'r amser ddylai fod, gadawer i ni gael Post Card, gyda chyfeiriad llawn y derbyn- ydd wedi ei ysgrifenu yn eglur. Ar ol ei ddarllen, bydded i'n cyfeillion roddi amlen ddimai am dano a'i ddanfon rhag ei flaen at ryw gyf aill neu gyfeilles arall. Bydd yn dderbyniol iawn gan Frythoniaid yr Hen Wlad sydd yn gorfod byw yn rhai o drefydd mawr Lloegr, neu mewn parthau eraill o'r byd. Gwasanaetha yn ami fel Llythyr o gartref a phob newydd ynddo i'r mab neu'r ferch sydd yn byw yn mhell oddiwrth eu rhieni a'u cyfeillion cyntefig Y mae genym eisoes rai derbynwyr yn mhob parth o Geredigion, ac hefyd mewn rhanau helaeth o Benfro a Chaerfyrddin. Rhagor yn eisiau eto. Danfonir ye BRYTIION (am flaen-dal) yn rhad gyda'r post ar y telerau canlynol :— Un copi Is. am 3 mis 2s. am 6 mis Daueto(i'r un cyfeiriad) Is, 6c. 3s. Tri eto 2s. 0c. 4s. „ Telerau arferol i Ddosbarthwyr.
AT EIN DARLLENWYR.
AT EIN DARLLENWYR. Peidier anfon arian mewn llythyrau. Derbyn- iasom lythyr y dydd o'r blaen a Dau Swllt ynddo, a gorfu i ni dalu Wyth Ceiniog am dano. Mae gan awdurdodau y Post reolau a threfniadau, ac un o'r cyfryw ydyw gwrthod cludo arian bathol (coin) mewn llythyrau. Mae Stamps i'w cael yn awr gan bob Ilythyr gludwr ac yr ydym yn ber- ffaith foddlawn derbyn gwerth ychydig sylltau o'r cyfryw yn lie tal. Danfoner rhai Dimai. Gan ein bod yn argraffu DYDD IAU, methasom a chael lie i amryw Ysgrifau a Newydd- ion Lleol. Yn ein nesaf bydd genym nodiadau ar Fesur Tir Mr T. E. Ellis, ac ymddygiad Mr Glad- stone tuag ato; Y Glowyr; Cynghor Sirol Caer- fyrddin, &c.
:ÑIESUl Y FFERMYDD BYCIIAIN
ÑIESUl Y FFERMYDD BYCIIAIN NID oes amheuaeth nad yw y Mesur ddyg- wyd ger bron y Senedd gan Mr. CHAPLIN ychydig ddyddiau yn ol, yn llawer mwy pwysig i filoedd o drigolion rhanau gwledig Cymru na dim ddygwyd ger bron Ty y Cyffredin er ys blynyddau. Gwyr ein holl ddarllenwyr i'r Weinyddiaeth bresenol basio Mesurau i gynorthwyo y Gwyddyl i brynu eu ffermydd ar delerau hynod resymol. Yn yr Iwerddon yn awr, os bydd rhyw dir-feddianwr yn dewis gwerthu un neu ragor o'i ffermydd (ac y mae y rhan fwyaf o honynt yn barod iawn i wneud hyny yno ac yma), ac os bydd y deiliad yn teimlo awydd prynu, nid oes eisiau iddynt wneud dim ond apelio at y Llywodraeth am ddanfon Prisiwr i benderfynu gwerth y lie, ac yna rhoddir benthyg yr lioll arian gan y Llywodraeth am log (intercut) llawer iawn is nag a ofynir gan unrhyw arian-fenthycwr. Teimlai llawer iawn yn Ngheredigion, Penfro, a Chaerfyrddin fod eisiau rhyw- beth cyffelyb yn Nghymru. Gwyddom am ffermwyr yn y siroedd hyn ddarfu brynu eu lleoedd yn ystod yr ugain mlynedd di- weddaf am brisiau uchel iawn, ac nid yn unig hyny, ond darfu iddynt hefyd fenthyca arian y pryniant, neu o leiaf, lawer iawn o honynt gan bersonau cyfoetliog ar hyd y wlad, i'r rhai y telir 4, 4, a 5 punt 2 y cant o log el Peth arall sydd yn gwneud y Mesur yma yn un pwysig yw y ffaith fod lluaws mawr o bobl yn Nghymru a hoffent gael" lie i gadw buwch," am bris rhesymol. Nid oes amheuaeth na fu y dosbarth yma vn lluosog iawn ar un adeg, ond drwg genym weled arwyddion mewn rhai cymydog- aethau eu bod yn lleihau. Rhyw awydd ymdyru tua Gweithfaoedd Morganwg a Mynwy, a myned i fyw i drefydd mawrion Lloegr, sydd ar lawer iawn o'r llafurwyr a'u plant. Credant fod pawb yn cael "arian mawr" yno, ac nad oes eisiau iddynt hwythau ond symud yno na ddeuant yn gyfoethogion yn y man. Druain tlodion Yr ydym newydd ddychwelyd o Lundain, a gwelsom yr wythnos hon, fel lawer gwaitli o'r blaen, dorfeydd o bobl yn y Brif-ddinas, na wyddent pa le i gael tamaid o fara i dori eu newyn, na pha le i gael tair ceiniog i dalu am le orwedd dros y nos. Tlodi ni wyr y bobl sydd 11 ar y plwyf yn Nghymru ddim am dlodi trueiniaid y trefi mawrion ac eto parhau i ymfudo yno mae pobl y rhanau gwledig, nes mae Ceredigion, er engraifft, wedi colli un o bob deg o'i thrigolion yn ystod y deg mlynedd di- weddaf Yn ddiau, y mae mawr angen am ryw gynllun i geisio denu y bobl yn ol eto, onide cyn pen haner can' mlynedd bydd amryw o ranau gwledig Cymru wedi eu di- boblogi, a'r ddaear wedi myned yn borfa adar." Rhywfath o arbrawf (experiment) ydyw y Mesur hwn, ac eto, meddai Mr. CHAPLIN, os bydd yn arbrawf llwyddianus, gellir yn hawdd ei eangu. Darpara y Mesur fod y Llywodraeth yn rhoddi benthyg arian i'r Cynghorau Sirol i brynu tir, a hawl i weithio y Mesur. Nid ydynt i gael hawl i orfodi yr un tirfeddianwr i werthu, na'r un deiliad i brynu tir, ond lie byddo parodrwydd o'r ddau tu i wneud hyny, dar- para y Mesur fodd i'w cynorthwyo. Nid yw y daliadau, neu y ffermydd," i fod dan un erw neu gyfair, nac uwchiaw 50 o gyfeiriau, ac nid ydynt i fod dros £ 50 o rent. Darpara y Mesur hefyd fod prynwyr bychain i dalu un ran o bedair, a bod y rhan arall i gael ei ddyogelu mewn rhent parhaol am 50 mlynedd. Wrth reswm, os dewisir, gellir talu ar unwaith, neu mewn Ilai o amser na 50 mlynedd. Er mwyn ym- drechu atal yr ymfudiad mawr o'r ardal- oedd amaethyddol i'r trefi mawrion, dar- para y Llywodraeth ffermydd bychain dan ddeg cyfair, a hyderir y gwna hyny lawer o les er cadw y bobl yn y wlad. Er mai ychydig iawn ddywedir gan y Gladstoniaid yn erbyn y Mesur yma, hawdd canfod fod y ffaith ei fod yn cael derbyniad cynhes gan y ffermwyr yn rhoddi poen nid bychan i lu o honynt. Nid oedd wiw iddynt ddangos Ilawer o wrthwynebiad cyhoeddus i'r Mesur yn y Ty-, ond ar yr un pryd, dangoswyd yn ddigon eglur pan ddygodd Mr. CHAPLIN y Mesur gerbron, mai ychydig iawn ydoedd cydymdeimlad honedig y Gladstoniaid a'r ffermwyr. Hawdd iddynt geisio perswadio yr etholwyr taw hwynthwy ydynt wir gyfeillion y bobl, ond pur anhawdd ydyw iddynt brofi haer- iadau o'r fath, yn enwedig os edrychwn arnynt yn ngoleuni y derbyniad oeraidd roddasant r Fesur rhagorol Mr. CHAPLIN. Credwn fod y wlad yn dechreu darganfod nad Gweinyddiaeth yr Addewidion" ydyw y Weinyddiaeth Undebol bresenol, eithr Gweinyddiaeth lwyddodd i gario allan i foddlonrwydd yroll a addawyd ganddi. Er pan etholwyd hi gyntaf, y mae rhyfeloedd a son amryfeloedd wedi peidio mae heddwch, trefn, a llwyddiant mawr wedi eu hadferyd i'r Iwerddon Addysg Rad wedi ei roddi i dlodion Cymru hawl i'r bobl i ethol cyn- rycliiolwyr i'r Cynghorau Sirol i drin eu materion ac yn ben ar y cwbl y mae sefyllfa y Gyllideb (Budget) yn gyfryw na bu ei gyffelyb er ys blynyddau lawer. Bydded i'r etholwyr gofio hyn pan ddaw dydd y prawf, canys y mae yr hyn a wnaed yn y gorphenol gan y Weinyddiaeth Undebol, yn sicr o fod yn ernes y bydd iddi wneud mwy o waith yn y dyfodol. Gwnaecl pob etholwr sydd yn gwybod y pethau hyn ymdrech i ddysgu ei gymydog anwybodus, sydd, hwyrach, yn cael ei ddallu gan y Gladstoniaid, sef Plaid yr Addewidion."
. Achos Cyfreithiol Lleol.
Achos Cyfreithiol Lleol. GORNALL YN ERBYN JAMES. Profwyd yr achos hwn yn Mrawdlys yr Amwythig heddyw (dydd Mercher, y 23ain eyfisol), o flaen rheithwyr neillduol ac yr ydym newydd dderbyn telegram oddiyno yn hysbysu canlyniad y prawf. Yr acliwynydd oedd Mr Phillip Gornall, pCf/inter, o Aberystwyth, a'r amddiffynydd oedd Mr John James, arwerthwr. Mae -enw Mr James yn ddigon adnabyddus fel Cynghorydd Sirol, a Chadeirydd y Cyd- bwyllgor Heddgeidwadol. Hawliai yr achwynydd iawn (damages) gan y diffyn- ydd am iddo wneud ymosodiad arno yn Gorphenaf diweddaf. Ymddengys oddi- wrth dystiolaeth Mr. Gornrll, yr hwn a ddywedodd ei fod yn yn 82 mlwydd oed, ddarfod iddo gyfarfod a Mr James yn Terrace Road, Aberystwyth, am 6.30 yn y boreu, ac wrth iddo ofyn am setlo rhyw gyfrif bychan oedd ganddo yn ei erbyn ddarfod i Mr James ei daro nes y darfu iddo gwympo ar gam o geryg, ac iddo dori ei asenau. Ymddangosodd Mr Underbill Q.C., a Mr Ram, yn cael eu cyfarwyddo gan y Mn Smith, Owen, a Davies, cyfreithwyr o Aberystwyth a Llanbedr, dros Mr Gornall a Mr Jelf, Q.C., a Mr Alfred Young, yn cael eu cyfarwyddo gan Mr J. J. James, dros y diirynydd^ Dygwyd rheithfarn i mewn dros Mr Gornall, a gorchymynwyd i Mr James dalu iddo £ 30 o iawn, a'r holl gostau.
llnllBIIITTII— Marwolaeth…
llnllBIIITTII— Marwolaeth Mrs. Dr. Evans, Ceinewydd. Gyda phrudd-der a galar y dymunwn gofnodi marwolaeth Mrs Evans, anwvl briod Mr T. Evans, M.D., Park House Ceinewydd, yr hyn a gymerodd le pryd- nawn dydd Mawrth diweddaf, yr 22ain cyfisol. Genedigol o Fachynlleth oedd Mrs Evans, ac yr oedd yn adnabvddus mewn cylchoedd eang fel dynes liynod garedig a chrefyddol, a theimlir colled fawr ar ei hoi, yn enwedig yn eglwys y Tabernacl, lie yr oedd yn aelod gweithgar a chyson iawn. Bu yn glaf am fisoedd,-yn nychu yn y darfod- edigaeth-ond daliodcl ei ffydd ei hysbryd, a bu farw yn berffaith dawel a siriol. Yr oedd ei merch hynaf yn yr Ysgol yn Dolgellau, ond pan welwyd fod ei mam ar fin ftarwelio a'r byd, pellebrwyd i'w chyrchu adref a chafodd .weled ei mam yn a?-W' cydymdeimlir yn fawr a Dr Evans a Miss Evans yn eu galar a'u gofid dwys, ac a rbaban bychan blwydd oed sydd ynan- ymwybodol o farwolaeth ei fam. Cymer yr angladd le am 2 o'r gloch dydd Sadwrn nesaf. Cleddir yn mynwent Llanllwchaiarn.
Tystebu Cymro yn Llundain.
Tystebu Cymro yn Llundain. Dydd Mawrth diweddaf (yr 22ain cyfisol) aeth dirprwyaeth o'r Dywysogaeth, yn cyn- rychioli lluaws o bobl o Ogledd a Deheudir Cymru, i fyny i Lundain i gyflwyno Tysteb i Mr. Jeremy, o Lincoln's Inn, bargyfreith- iwr enwog, yr hwn a etholwyd yn ddiwedd- ar yn Drysorydd i Gymdeithas Anrhvdedd- us Lincoln's Inn am y flwyddyn 1892—3, un o'r swyddi mwyaf urddasol y medr bar- gyfreithiwr gael ei ethol iddi. Fel y syl- wasom mewn rhifyn diweddar o'r BRYTHON, y mae Mr. Jeremy yn dal cysylltiad agos a Llanbedr Pont Stephan. Yma y ganwyd ef. ac yma y treuliodd ddyddiau boreu oes Mae yn parhau i deimlo cariad at ei fro enedigol ac yn ymweled a hi mor ami a°" y caniata ei ddyledswyddau lluosog 1 phwysig iddo wneud. Y mae hefyd yn Ynad Heddwch dros Geredigion. Yr oedd yn mryd amryw o'i gyfeillion er ys tro i wneud rhyw fath o dysteb iddo fel amlyg- iad o'u serch tuag ato, a'u diolchgarwch iddo am ei wasanaeth gwerthfawr mewn cysylltiad ag Addysg yn Nghymru, yn neill- duol mewn cysylltiad a Choleg Presbyter- aidd Caerfyrddin, Coleg Aimibvnol y Bala, ac Ysgol Uwchraddol y Merched (Dr. Wil- liams) Dolgellau, &e. Eleni penderfynwyd cario allan y bwriad, a gwnaed y Dysteb mewn ffurf o Anerchiad Arlewyrchedig, hynod o hardd ac addurnol, wedi ei hymyl- gylchu yn orwych yn ngliyda dysgl arian bwysfawr ardderchog, ar yr hon yr oedd y geiriau canlynol yn gerfiedig :— PRESENTED TO WALTER D. JEREMY, ESQ., M.A., J.P., Bencher of Gray's Inn, Treasurer of the Presbyterian Fund, and Dr. Williams's Trust, by numerous subscribers in North and South Wales, as a token of their admiration, for his professional ability and personal worth, and in grateful recognition of many valuable public services unostentatiously rendered to education and to the Free Churches of his native Country, in connection with Carmarthen Presbyterian College, Bala Independent College, and Dr. Williams's Schools. 1892.
NEWYDDION MARCHNADOL
NEWYDDION MARCHNADOL -0.- YD.—Gostwng ychydig. YMENYN. Gostwng. Cork heddyw (dydd Iau), Firsts 120, Seconds 108, Thirds 96 swllt yr 112 pwys.