Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Y DYFODOL -
Y DYFODOL CYFARFODYDD, FFEIRIAU, &c. Ionawr 5ed, Marchnad Fisol Tregaron. „ Heg, Ffair Llanbedr. „ 12fed, Ffair Llanarth. „ 13eg, Bwriedir cynal Ffair yn Ystrad, 14eg, Ffair Llanwenog. o
AT EIN DERBYNWYR A'N DOSBARTHWYR.
AT EIN DERBYNWYR A'N DOSBARTHWYR. Dioleh i chwi un ac oil am bob cynorthwy dderbyn- iasom oddiwrthych 1 gychwyn ye BRYTHON CYMBEIG ar ei yrfa, Os dygwydd iddo fod yu hwy ar ei daith na'r amser arferol, neu na'r amser ddylai fod, gadawer i ni gael Post Card, gyda chyfeiriad llawn y derbyn- ydd wedi ei ysgrifenu yn eglur. Ar ol ei ddarllen, bydded i'n cyfeillion roddi amlen ddimai am dano a'i ddanfon rhag ei flaen at ryw gyfaill neu gyfeilles arall. Bydd yn dderbyniol iawn gan Frythoniaid yr Hen Wlad sydd yn gorfod byw yn rhai o drefydd mawr Lloegr, neu mewn parthau eraill o'r byd. Gwasanaetha yn ami fel Llythyr o gartref a phob newydd ynddo i'r mab neu'r ferch sydd yn byw yn mhell oddiwrth eu rhieni a'u cyfeillion cyntefig Y mae genym eisoes rai derbynwyr yn mhob parth o Geredigion, ac hefyd mewn rhanau helaeth o Benfro a Chaerfyrddin. Rhagor yn eisiau eto. Gweler y telerau ar y wyneb-ddalen.
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. Teimlwn yn hynod ddiolchgar i bawb o honoch am y basgedjidiau llwythog o newyddion dderbyniasom oddiwrthych yr wythnos hon; ond bu agos i chwi ein llethu a hanes cyrddau y Nadolig. Wel, unwaith inewn blwyddyn y mae y Nadolig yn dyfod oddiam- gylch. Dymunwn arnoch oil i ysgrifenu yn fyr a chryno.
ANERCHIAD
ANERCHIAD Dichon y dylai Ye BRYTHON CYMREIG roddi gair o eglurhad, neu ymddiheurad, am wneud ei ymddangosiad yn y byd. Nid oes dadl, feddyliwn, yn meddwl un- rhyw ddyu sydd yn byw yn un o gonglau neillduedig siroedd Gorllewinol Cymru, nad oedd gwir angen am ryw gyfrwng bychan rhad i gludo newyddion o'r byd i'r trig- fanau hyn, ac yn arbenigol Newyddion Lleol a Marchnadol. Yn ymwybodol o'r teimlad hwn er's blynyddau, ac ar gais amryw gyfeillion, penderfynodd y GOLYG- YDD i wneud cynyg teg i gychwyn newydd- iadur bychan o'r fath, ac wele y rhifyn cyntaf gerbron ei ddarllenwyr. Fel rheol, y mae braidd holl bapurau Cymru yn ceisio amddiflyn rhyw blaid wleidyddol. Fel y gwyr pawb sydd yn ei adwaen, Undebwr Rhyddfrydig yw y-GOLYGYDD, ond caifE Ye BRYTHCN CYMREIG ei lywio ar egwydd- orion perffaith rydd ac annibynol. Cludo newyddion i'w. ddarllenwyr fydd ei brif genadaeth, ac nid pleidio credo wleidyddol neillduol. Ymrwymwn, neu o leiaf ym- drechwn, i gadw hyn bob amser mewn golwg. CaifE ein colofnau eu hagor i bawb fyddo yn dewis dadleu unrhyw bwnc gwleidyddol, addysgol, cyhoeddus, neu gym- deithasol,ond i 'rysgrifenydclion wneud hyny yn fyr a boneddigaidd, ac hefyd i roddi eu henwau priodol wrth eu hysgrifau os bydd- ant yn trin personau neillduol. Dichon y eaniateir i'r GOLYGYDD i ddywedyd tipyn o'i feddwl ei hun weithiau, ac y gwna y Gladstoniaid gydymddwyn a'r hyn a ystyr- iant ei wendidau. Ychydig bobl sydd yn gwybod gymaint o waith, a chymaint o dreuliau sydd yn gysylltiedig a chychwyn papur newydd bychan fel ye BRYTHON CYMRBIG. Buom wrthi yn ddiwyd iawn, hwyr a boreu, am fisoedd, yu ceisio gwneud trefniadau angenrheidiol; ac nid ydyw ein papur agos a bod yr hyn ddymunem, ac os cawn fywyd ac iechyd, yr hyn fynwn iddo fod. Buasai yn hawdd i ni ei lenwi a phob math o Hysbysiadau yn dal perthynas a ChyfEeri Crach-feddygon, Hap-chwareuon, Arian-fenthycwyr, Adroddwyr tesni, Proff- eswyr y Gelfyddyd Ddu," &c., a chawsem dal da am eu cyhoeddi, ond yr ydym wedi penderfynu-sefyll neu syrthio-i beidio gwneud dim a'r cyfryw, ac yr ydym wedi gwrthod wmbredd o honynt. Gadawn bethau o'r fath i bapurau sydd yn cymeryd arnynt gynrychioli syniadau crefyddol Cymru ac eraill sydd yn ewyllysio gwneud arian,—mewn ffordd onest os medrant,—neu ynte mewn rhyw ffordd arall. Ein pwnc ni fydd troi allan newyddiadur da i fod o ryw wasanaeth i Frythoniaid Gorllewinol y Dywysogaeth, ac nid ydym yn bwriadu ar- bed na thraul na thrafferth er cwblhau ein cynllun. Efallai y syna rhai pan y dywedwn wrthynt ein bod yn barod wedi gwario tua phum' cant o bunau mewn cysylltiad a'r gwaith; ac yr ydym yn barod i wario llawer iawn yn ycbwaneg eto er ei berff eithio. Dymunwn ar ein darllenwyr i beidio beirn- iadu rhyw lawer ar y rhifyn presenol. Cofier taw baban gwan newydd-anedig ydyw. Hyderwn y gwna dyfu yn gryf. Gorfu i ni ei droi allan dan anfanteision, a chyn bod yn haner parod i wneud hyny. Nid yw y peir- ianau wedi eu gosod yn eu lleoedd priodol eto, ae yr ydym yn fyr o ddwylaw. Daw pethau yn well yn y man, ac os cawn gefnog- aeth ein darllenwyr, ymdrechwn helaethu ein papur cyn bo hir; er fod genym gymaint o newyddion yn hwn a llawer papur ceiniog. Yr ydym wedi gwneud cytundeb a'r Central News, yn nghyd a chwmniau eraill i ddanfon i ni unrhyw newydd pwysig gyda'r pellebyr (telegraph) i'r funud y byddwn yn dechreu argraffu. Trefnasom hefyd i gael pris yr ymenyn yn marchnad fawr Cork, yn syth gyda'r pellebyr bob dydd Gwener. Taer erfynwn am bob cynorthwy i ledaenu cylch- rediad Ye BRYTHON CYMREIG, a thrwy hyny, ei wneud yn fwy gwasanaethgar i'n cyd- genedl. ).
[No title]
o Paham yr ydych yn galw eich Papur yn Ye BRYTHON CYMREIG ?" gofynai cyfaill i ni y dydd o'r blaen wrth edrych ar yr hysbysleu ar parwydydd yn cyboeddi dydd ymddangosiad ein papyr. Pahan yr Ye yn fwy nag Y; a phaham Ye BRYTHON CYMREIG yn fwy na Y BRYTH- ON, yn syml
[No title]
» Wel, rhoddwn yr un ateb i'n darllenwyr ao, a Z:3 roddasom i'n holiedydd. Sicrhawydd ni ar aw- durood Cymro dysgedig sydd yn llenwi y swydd o Brif Athraw un o Golegau Cymru, mai yr un ydoeddy fanodd gyntefig yn Gyr?raeg a Saesnegr; sef Y neu Ye. Llygrwydi hi gan y Sais i the, ond y mae pob Sais sydd a rhywbeth yn eibenglog heblaw English yn gwybod taw yr un peth ydyw YE a THE, ac wrth reswm, y mae pob Cymro yn medru darllen Ye yn gystal ag Y, ac felly gwna Ye y tro i'r ddau.
[No title]
+ Y mae dau reswm dros i ni alw ein papur yn ye BRYTHON CYMREIG, yn hytrach na yn ye neu Y BRYTHON. Ymddengys ddarfod i wr o'r enw Robert Isaac Jones, neu fel y gelwir ef gan y Ilenorion-.Alitud Eifion, o Dremadog, o-yhoeddi newyddiadur bychan yn dwyn yr enw Y BRYTHON tua 30ain mlynedd yn ol, ac y mae yr enw yn parhau yn hawlfraint (colYTight) iddo ef, ac fel y deallaeom, nid yw yn foddlawn ymadael a'i hawlfraint ar unrhyw deleran rhes- ymol.
[No title]
Rheswm arall dros ei alw yn Y'BRYTHON CYMREIG yw am nad y Cymry ydyw yr unig Frythoniaid sydd yn y byd. Pan ymwasgarodd y Celtiaid dros barthau Gorllewinol Europe ym- sefydlasant mewn gwahanol wledydd. Galw yd un gan gen o honynt Y Gwyddyl a changen arall yn Brythaniaid. Allan o iaith y Gwyddel Cyn- tefig y tarddod y Wyddelaeg, y Gaelaeg (iaith yr Ysgotiaid), a'r Manawaeg, (iaith trigolion Ynys Manaw). Yr un modd allan o'r hen Frythonaeg y tardd y Gymraeg, y Gernywaeg (iaith trigolion Cornwall), a'r Llydawaeg (iaith pobl Llydaw yn Ffrainc). Gwelir felly fod Brythoniaid Cymreig, Brythoniaid Cernywig, a Brythaniaid Llydawig i'w cael ar y ddaear, ac y mae llawer iawn o debygolrwydd yn eu tafodieithodd. Cyhoeddir papur yn awr yn Cornwall yn dwynyr enw The IVest Briton." Wrth reswm gwasanaethu y Brythoniaid Cymraeg fydd gwaith Y c BRYTHON CYMREIG. Siaredir y Llydawaeg yn awryn Llydaw gan y bobl a elwir yn Nghymru yn "French Britoons" neu "Bretons." Mae ynddi lawer o eiriau cyff- redin megyrs pen," llaw," troed," trwyn," &c., bron yr un fath yn union ag ydynt yn y Gymraeg. Fel iaith lafaredig, bu y Gernywaeg farw, ond y mae Iluaws o bobl fwyaf dysgedig Cornwall yn deall llawer o honi etto.
[No title]
Dywedir fod y Gernywaeg yn cael ei siarad yn gyffredin yn Cornwall mor ddiweddar ag amser teyrnasiad y Frenhines Elizabeth, ac yn 1678 y darfyddwvd ei defnyddio fel iaith yr add- oliad cyhoeddus. Bu yn dihoeni yn nghorllewin- barth Cornwall hyd ddechreu y 18fed ganrif. Dywedir taw Dolly Pentreath, (Pentraeth) o Mousehole, yr hon fu farw yn 1877 oed y diweddaf fu yn ei defnyddio fel iaith lafaredig, er y gwneir llawer o ddefnydd o eiriau a brawddegau Cern- ywaidd hyd y dydd heddyw.
[No title]
—♦—; Wele engraifft o'r Gerny waeg a' Llydawaeg, yn eu purdeb cyntefig, t (i i J, i fJ] 1aJ o Weddi'r Arglwydd." (Matt. 6, 9-11). Cernywaeg Agan Tas, nef us yn nef, byd- hen uchellys dhe hanow. dens dhe wlascor, dhe vodh re bo gwreys yn nor cepar hag yn net. Ro dhynny hvdhew agan pub dydh bara. Llydawaeg :— Hon Tad pebini a xo en env, da hano bezet santelaet, deued da rouantelez; da ioul bezet groet var an douar evel en env ro deomp bep deiz hon bara pemdeziek.
[No title]
Ac yr ydych yn myned i gyhoeddi papur newydd Undebol yn Llanbedr? gofynai un o flaenoriaid y Methodistiaid ac aelod o Fwrdd Ysgol a Chynghor Tref'ol Aberystwyth, i Olygydd Ye BRYTHON CYMREIG y dydd o'r blaen. "Yr ydym yn myned i gyhoeddi papur newydd yn Llanbedr," oedd yr ateb. Ie, wir! Hau gwen- wyn ar hyd y wlad!" oedd svlw nosaf y eyfaill.
[No title]
lihyiedd iawn fel y daeth y broffwydoliaeth gyhoeddwyd gan y blaenor o Aberystwyth i ben. Yr Hysbysiad cyntaf dderbyniasom ydoedd eiddo y Meistri Sanford a'i Feibion o Sandy, a welir ar y wyneb-ddalen hon yn nghylch y Gwenwyn Ihagorol sydd ganddynt i ladd llygod mawr," neu lygod Ffrengig." Lladd "llygod mawr" ydyw amcan y Meistri Sanford, ac ymddengys eu bod yn eyflawni eu gwaith yn rhagorol; a lladd llygod inawr sydd yn blino y Brythoniaid Cymreig ar hyd y Cynghorau Sirol a'r Byrddau Ys-gol, ac yn difa nerth y cyfryw, ydyw ac a fydd un o brif amcanion Ye BRYTHON CYMREIG. Yr ydym yn cyhoeddi rh leI yn eu herbyn, er mai gwyr heddychlawn ydym!
Family Notices
PRIODASAU Davies-Williams-Rhagfyr 25ain, 18fl, yn swyddfa y'Cofrestrydd, Aberteifi, Mr. Rees Davies, gof, Llandyssul, a Miss Margaret Williams, Trewyddel, Penfro. James-Evans-yn yr un lie, yr un dydd, Mr James Evans, glowr, Ferndale, a Miss Rachel Evans, 3, Pendre, Aberteifl. Davies-Morgans-ynyr un lie, yr un dydd, Mr David Davief, fEermwr, Pennanty, Nevern, a Miss Martha Morgans, Tyrbach, Meline, Penfro. Evans-James-Rhagfyr 26ain, 1891, yn swyddfa y cofrestrydd, Aberteifi, Mr James Evans, Grange Town, Tredegar, a Mrs Hannah James, Llwyncelyn, Manordifi. Rees—Jones—Rhagfyr 26ain, yn nghapel yr Annibynwyr Barry, gan y Parch. J. H. Stowell, Mr Evan James, Rees, 54, Hannah street, Porth, a Miss Phobe Ellen Jones, Avlton road, Barry Dock. I-Iowells-Jones-Rhagf -vr 23ain, yn Blaen- plwyf gan y Parch W. Ll. Davies, yn mhresenoldeb y Cofrestrydd, y Parch W. Jones, Mr. W. Howells, Ystrad, Rhon- dda, a Miss Mary Ann Jones, Pontllanio, Llanychaiarn. Jones—Davies— Rhagfyr 24ain, yn Shiloh Aberystwyth, gan y Parch L. Williams, yn mhresenoldeb y Cofrestrydd, y Parch W. Jones, Mr Daniel Jones, Ynyshir, a Miss Ellen Davies, Paris House, Aberystwyth. Lewis-Lewis-Rhag. 25ain, yn Swyddfa'r Cofrestrydd, Aberystwyth, Mr John Lewis, Clydach Vale, Morganwg, a Mifs Catherine Lewis, Salem, Penrhyncoch. Morgans—Pugh—Rhag 25ain, yn yr un lie, Mr John Morgan, Bridgend Inn Trefechan a Miss Anng Jane Pugh, Market Tavern, Aberystwyth. Thomas—Williams—Rhag. 29ain yn Hope Chapei, Merthyr' gan y Parch W. Jones, Tre- harris, Mr D. R. Thomas, 4 Thomas street, Treharris, a Miss Elizabeth Williams, ail ferch Mr D. Williams, saddler, Trefechan, Aberystwyth. Macpherson Davies—Rhagfyr 30ain, yn yn Eglwys St. Michael, AberystwythJ gan y Perch. D. L. Davies, Mr. James Mac- pherson, to Miss Anne Jane Pugh, Market Tavern, Aberystwth. Owen—Morgan—Rhag. 30ain,yn Llanddewi- brefi, Mr. T, E. Owen, Permanent Way Inspector, Aberystwyth, a Miss J. Morgans Pontllanio. MARWOLAETHAU ->+- „ 20fed. Elizabeth Thomas, gweddw, AtEhoffrunt, Panbrn „ 22ain, David Griffiths, Pantfeillion- en, Penbryn. „ 22ain, Richard Pryse, Tygwyn, Clar- ach, yn 87 mlwydd oed. „ 25ain, Catherine, merch Richard Davies, Llwyngronwy. Bow Street, yn 5 mis „ 25ain, Thomas Evans, Edge Hill, Llangoedmore, yn sydyn iawn, yn 62 oed. „ 26ain, Enoch, mab Elizabeth Thomas, Glebe Inu, Lanfihangel-geneu'r- Glyn, yn 23 eed. „ 26ain, John Thomas, Hafodfach, Llechryd Road, Llangoedmore, yn 87 oed. Yr oedd yr yr ymadawedig yn adnabyddus iawn fel Adeiladydd a Chynllunydd medrus. „ 27ain, Henry Stephens, retired In- land Revenue oiffcer,Stanley House, Aber- teifi. Efe ydoedd tad-yn-nghyfraith Mr. Davies, maer y dref. „ 27ain, Sarah Morris, Penybryn Inn, Bridell, gweddw y diweddar W. Morris, Cabinet Maker, yn 80 oed.
Marwolaeth y Due o Devonshire.
Marwolaeth y Due o Devonshire. Drwg genym orfod cofnOdi marwolaeth y Due o Devonshire, tad Arglwydd Harting- ton, yn 83 mlwydd oed; yr hyn gymerodd le nos Lun, Rhagfyr 21ain, yn Holker Hall, Westmoreland; un o'r palasdai oedd yn ei feddiant. Ganwyd William Cavendish K.G., F.R.S., &c., yn 1808. Mab ydoedd i William Cavendish, Ysw. o Louisa, merch Arglwydd Lismore, a chefnder i'r 6fed Due o Devon- shire. Daeth i'r etifeddiaeth yn 1858. Priod- odd Blanche, merch Arglwydd Carlisle yn. 1829. Derbyniodd ei addysg yn Eton a Trinity College, Caergrawnt; a thra yn y • Brif-Athrofa, enwogodd ei hun fel ysgolhaig. Daeth allan yn un o'r rhai blaenaf yn y dos- barth blaenaf, sef yn 2nd Wrangler. Y 1st. Wrangier y flwyddyn hono oedd yr Esgob Philpott; yr hwn hefyd sydd yn glaf iawn y dyddiau hyn. Yn yr arholiad am Smith's I y Prize, gorchfygwyd Philpott gan Cavendish. Bu y ddau yn gyfeillion mynwesol wedi, hyn. Y DIWEDDAR DUC 0 DEVONSHIRE. Yr oedd y Due yn ddyn o gynheddfau llawer uwch na'r cyffredin, er na wnaeth ond un araeth fawr yn y Senedd, sef yn Nhy yr Arglwyddi, o'blaid Mesur Dadsefydliad yr Eglwys Wyddelig. Bu yn aelod o Dy y Cyff- redin dros Brif Ysgol Caergrawnt, 1829—31, dros Malton yn 1831, a Gogledd-barth Derby yn 1831-34, Bu iddo bedwar o blant,—tri mab, ac un ferch. Llofruddiwyd ei fab Frederick yn nghyflafan erchyll "P" ix Park, Dublin, yn Mai 1882, a bu.. ilb Edward y llynedd. Gwyliwyd ef twl a thyner yn ei ddyddiau olaf gan ei anig ferch, yr ArgIwyddes Egerton, a'i unig fab, yr Ardalydd Hartington, yr hwn, yn mhen ychydig wythnosau, a elwir i gymeryd ei sedd yn Nhy yr Arglwyddi. Y diweddar Dduc ydoeyd un o'r ychydig sydd yn awr yn weddill o'r rhai a feddent sedd yn Nhy y C-, ffredin cyn pasioMesur y Diwygiadyn1832. Bu teulu Cavendish o wasanaeth mawr i achos rhyddid yn y wlad hon er dyddiau y Brenin William (Tywysog Orange). Ðwynt- hwy fu a'r llaw flaenaf yn nygiad drosodd i'r wlad hon y Tywysog hwnw, er gwrthwynebu y Pabydd penboeth oedd yma yn freniu, sef Iago II. Da genym fod Arglwydd Harting- ton, sef y Due o Devonshire presenol, yr un mor wrthwynebol i'r Pabyddion gaeL y llaw uchaf yn yr Ynys Werdd.
. NEWYDDION CYFFREDINOL
POISON for KILLING RATS. -Thousands have been killed by using SANFORD'S POISON. Hundreds of Farmers that have used it say it is the best Poison known, as they find a lot of Rats dead by using it. Post free, Is. 2d., 2s., 3s. box, of SANFORD and SON, Sandy, Beds. Send stamps and try it. Sold by Chemists. Also MICE POISON for dressing corn stacks.