Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
I -• ■- f HYSBYSIADAU Oyhoeddir Hysbysiadau yn Ye BRYTHON ritiBKift ar Y TELERAU RHAD CANLYNOL Jivbuddion Cyhoeddus, n,-vi„ii „ Cyfreitliiol, a Seneddol [6c' ? Ume11 y tro" jrwert-kiadau 3c. fj cbVci„f1,nl Yn ol trefniant, yn ymddibyntl »1' eu safle, nifer y troion y cyhooddir hwynt, maintioli, &c. TELERAU NEILLDUOL AM FLAEN-DAL Am Hysbysiadau yn rials 20 gair neu lai, cvsyllti d a Swyddi Unwaith, 6c. now Leoedd, yn Eisiau.. -Yst.'ifelloedd, T.ai, Tir, yn „ Tair gwaith, Is. 0c. Eisiau, ar Osod, neu ar I Worth. f » Chwech „ Is. 6c. 'iasnach, Stoe, l >odrefn, Peirianau, neu fan Am bob 10 gair ych- bethau, ar Werth, neu wanegol, haner y yn cael eu cynyg ar Hury prisoedd ucliod. Ki cbyboeddir Hysbysiadau yn da.l perthynas 1 Bhedegfeydd, ftamblo, Hapchwareuon, Cyffejri ^rikcb-fsddygon (eiihrir Cyfferi Breintiedig da JU gair), Avian Fenthycwyr, "Proffeswyr y jelfyddyd Ddu, neu ryw hyebysiad arall o natur yrthwynobol, ar unrhyw delerau. Cyfleitliir Hysbysiadau Saeeonaeg, os bydd itmlwad am byny, yn rhad. Danfoner pob Gohebiaotbau ao Archebion, mor gynar yn yr wythnos ag y byddo lncxkl yn gyfeiriodlg Y RHBOLYDD, WELSH PRESS OFFICE, IiAMPBTEJfc. »
Advertising
ADVERTISEMENTS Advertisements will be inserted in ye BBYTHQH CYMREIG at the following CHEAP SCALE OF CHARGEf. Parliamentary, Law, and 6d. per line per inter- Public Notices j tion. Sales 3d. do. do. Trade (By arrangement, according to Advertisements 1 Position. number of insertions, (space required, &c. SPECIAL PREPAID RATES For Advertisements re-N 20 words, ferring to Situations, „ One insertion, 6d Wanted, or Vacant Apartments, Houses, or Three. „ lB.Ofl. Land, Wanted to Let, I "for Sale „ Six ls.6d. Businesses, Stock Furni- ture, Mahinery.ior Mis- Every additional 10 cellaneous Articles for words, half the above Sale or Hire. J prices. No Advertisements relating to Racing, Gam. .lotteries, Quack Medicines (except Patent Medicines of good repute), Money Lenders, Astrologers," Fortune Tellers, er others of an objectionable character will ba inserted upon any terms. English Advertisements will be translated, II required, free of charge. All Communications and Orders should be ftd* dressed, as early in the week as possible, to THE MANAGER, WBLSH PRESS OFFICE, LAMPETER.
1891
1891 Neithiwr rhedodd y flwyddyn 1891 ei gyrfa i'r pen, ac hwyrach nad annydddorol fyddai taflu cipolwg ar y prif ddygwydd- iadau gymerasant le ynddi mewn cysylltiad a Gwleidyddiaeth, Masnach, Addysg, a Chrefydd, yn y wlad hon ac mewn gwled- ydd eraill. Yn ystod y Senedd-dymor Prydeinig di- weddaf y pasiwyd yn agos i gant o Fesurau pwysig; ac y maent yn awr wedi dyfod yri Ddeddfau y wlad. Y mae amryw o honynt yn dal perthynas uniongyrchol a'r Ynys Werdd. Rhaid rhoddi rhywbeth yn bar- haus i'r Gwyddel, er mwyn ei gadw yn ddii*dig. Un o'r bendithion diweddaf gyf- "nwyd iddo ydoedd Deddf Pryniant Tir, "fI'II' cwblhau cynllun y Llywodraeth i alluogi ii aethwyr yr Iwerddon i ddyfod yn berch- enogion y ffermydd a ddaliant, drwy daliad blynyddol (am 42 mlynedd) llawer llai, ambell waith, na'r ardreth blaenorol, a hyny heb unrhyw berygl o golled i'r trethdalwr Prydeinig. Eisoes y mae tua 25,000 o am- aethwyr wedi cymeryd mantais ar y ddeddf' -hon a phrynu eu tiroedd. Y fendith fwyaf dderbyniodd tlodion Prydain gan unrhyw Lywodraeth yn yr oes hon ydoedd yr hyn dlerbyniasant oddiwrth y Weinyddiaeth bresenol eleni, sef cael Ysgol Rad i'w plant. V «nae arobell Ryddfrydwr Sydd yn canlyn Mr. Gladstone, mor hyf ac mor haerllug a honi taw i Mr. Gladstone a'i blaid yr ydym i ddiolch am y fraint fawr hon Anhawdd penderfynu pa tin ai penboethni ynte an- wybodaeth sydd wrth wraidd honiad mor ddisail. Gwyr pawb fu yn darllen adrodd- iadau o'r dadleuon a gymerasant le yn Nhy y Cyffredinn ystod yr adeg y pasiwyd Mesur Addysg 1870 ddarfod i Mr. Gladstone bleidleisio yn erbyn gwneud yr ysgolion dyddiol yn rhyddipn a rhad; ac yn 1885 drachefn gwrthododd yn bendant i osod Addysg RydcJ.> ar Raglen ei Weinyddiaeth yn olcais tar Mr. Chamberlain. Nid oes amheuaeth nåp. i Mr. Chamberlain a'r Wein- yddiaeth Undibol bresenol y mae yr holl glod yn ddy|cdus am dynu y baich yma oddiar gefnau tlodion Cymru. Pe byddai i i'r Llywodraeth ymddiswyddo heb wneuth- ur dim yn rhagor na hyn, teilyngant ddiolchgarwch mwyaf diffuant pob gwir ddvngarwr. u gwrthryfel gwaedlyd yn Chili, un o wt -in-lywodraethau America Ddeheuol. M. c ambell i Gymro o'r gred ond cael gwerin-lywodraeth mewn gwlad, y bydd y trigolion o fewn un gradd i'r nefoedd. Nid felly y dywed hanesiaeth. Un or rhyfel- oedd mwyaf echryslawn fu yn y byd erioed ydoedd y gwrthryfel mawr yn yrtJnol Dal- aethau; ac yn yr America Ddeheuol—cyf- andir o werin-lywodraethau—y mae mwy o a Vdlogrwydd a man ryfeloedd nag sydd B arninrhyw barth o'r byd. Yn Chili d l Cadbeosbarth mawr 0 brif ddynion y Wx. -ghiodi mewn gwrthryfel yn erbyn jBalmaceda y llywydd, a chreu chwildroad fdrwy holl derfynau'r tir. Yn ymyl Val- ^paraiso y bu y frwydr olaf; Gorchfygwyd > Balmaceda a'i ganlynwyr; a'r diwedd fu iddo roddi terfyn ar ei hoedl drwy saethu ei hun, Medi 19eg. Gwnaeth y Cadfridog un o'r bobl fawr addolir yn Ffrainc fel yr addolir Gladstone yn Ngi vllarn, yr un peth yn mhen ychydig 0 ddj J.au ar ol hyny (Medi 30ain), ar fedd dynt ?yda pha un y bu yn godinebu. Nid yn ami yr anrhydeddir 11 Cymru iechan dlawd ag ymweliadau Gwleidydd- wyr enwog, ond Hydref y 13eg bu Mr. Chamberlain yn areithio yn nghanol sir Aberteifil" Traddododd anerchiad galluog a hya/wdl iawn i ryw ddeuddeg neu bym- theg cant o epil yr Hen Frythoniaid Cym- reig yn Neuadd yr Organ, Highmead, ger- llaw Llanybyther. Beirniadodd yn llym a didderbyn wyneb weithredoedd y blaid Gladstonaidd. Dangosodd mewn iaith eglnr fel y maent yn awr, pan allan o swyddi, yn addaw pob peth i'r etholwyr, a phrofodd nad yw eu holl addewidion ond gwegi. Eglurodd hefyd yr hyn a wnaethpwyd gan y Weinyddiaeth bresenol, a'r hyn fwriedir wneud ganddynt eto. Awgrymodd y bydd- ai yh ddoeth i bobl y Dywysogaeth i ddeff- ro, a gofyn am rywbeth iddynt eu hunain bellach, yn lie treulio eu holl ddyddiau a tt holl nerth i helpu y Gwyddel o hyd, a hyny yn unig er mwyn cynorthwyo rhyw bobl neillduol i gyrhaedd swyddi ac awdurdod. Gofynai ai nid priodol fyddai pasio Mesur i gynorthwyo ffermwyr Cymru i brynu eu tvddynod, rhywbeth ar yr un Ilinell a'r Mesur a basiwyd i gynorthwyo ffermwyr yr Iwerddon ? Ae ai nid da fyddai pasio Mesur i gynorthwyo pobl oedranus i gael Blwydd-dal ? Cynghorodd ei wrandawyr i fod yn gall, a gofyn am haner torth ar y tro, os na allant gael rhagor, a pheidio ceisio byw ar ryw wag addewidion am Ddadgys- ylltiad yr Eglwys, &c., oddiwrth y Gladston- iaid. Profodd nad oedd yr holl son am Ymreolaeth Wyddelig ond ymdrech o eiddo yr offeiriaid Pabaidd i gael gosod eu traed ar warau y Protestaniaid Gwyddelig; a rhoddodd gernod go drom i rai o Weinidog- ion y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig am y dull oeraidd y darfu iddynt dderbyn y cenhadon Presbyteraidd Gwyddelig fu yn eu hanerch yn Nghymdeithasfa Treforris, ac yn enwedig am iddynt foycotio anerchiad y Parch. Isaac Yance. Nid yn fuan yr ang- hofir araeth Mr. Chamberlain. Nid oes amheuaeth na ddarfu i bechod y diweddar Mr. Parnell a'i farwolaeth ddi- symwth wedi. hyny, daflu y blaid Wyddelig i'r cyfyngder a'r annhrefn mWykf. Eglur yw eu bod fel teithwyr mewn Hong ar y mor yn nghanol y dymestl heb Gadben i'w llywio i unrhyw borthladd. Cyn braidd i'r newydd am ganlyniad y prawf yn y Llys Ysgar gyraedd holl gonglau y deyrnas yr oedd yr aelodau Gwyddelig (ac amryw Seisnig hefyd) yn cyhoeddi ar benau eu tai yn mhob man nad oeddynt hwy yn myned i'w adael, a tfiyngodd y rhan fwyaf, os nad yr oil o honynt, lw o ffyddlondeb iddo. Yn mhen ychydig ddyddiau cyhoedd- odd Mr. Gladstone na fedrai efe wneud dim yn mhellach mewn undeb a Mr. Parnell, a chyn i'r inc lwyr sychu oddiar y papur, wele ddwy ran o dair o'r aelodau Gwyddel- ig yn dechreu melldithio Parnell; a ben- dithio Mr. Gladstone Ymunwyd a hwynt gan yr offeiriaid Pabaidd, pa rai, er ys blyn- yddau, oeddynt yn edrych yn genfigenus ar Mr. Parnell oherwydd fod ei ddylanwad braidd yn gryfach ar y Gwyddel na'r eidd- hwy. Pa fodd bynag, glynodd rhai o gan- lynwyp ffyddlonaf Parnell wrtho drwy y tew a'r teneu, a chyhoeddasant ryfel yn erbyn ei wrthwynebwyr, Yn eu plith yr oedd y ddau Harrington, y ddau Redmond, Nolan, Dr. Kenny, Leamy, O'Kelly, Pierce Mahony, P, O'Brien, Richard Power, John O'Connor, Harrison, &c., ac yn mysg ei wrthwynebwyr ymrestrodd Sexton, T. D. Sullivan, Justin M'Carthy a'i fab, y ddau Healy, T, P. O'Connor, John Dillon, W. O'Brien, &c. Aeth y rhai fu gynt yn gyf- eillion mynwesol yn elynion marwol i'w gilydd Oherwydd anwybodaeth a choel- grefydd y werin Wyddelig nid gwaith an. hawdd i'r offeiriaid Pabaidd ydoedd eu hudo i bleidleio yn mhob etholiad yn erbyn ymgeiswyr Mr. Parnell. Felly fu, Yr oedd ysgrifenydd y llinellau hyn yn c dygwydd bod yn yr Iwerddon yn ystod yr ymdrech gyntaf rhwng y ddwy blaid yn Kilkenny, ac heb fod yn mhell oddiyno. Yn mhob etholfan-yn ddieithriad drwy yr holl ynrychiolaeth,-offeiriaid Pabaidd oedd yn gwasanaethu fel Personation Agents! Pan gofir fod tua haner yr ethol- wyr yn bobl anllyth'renog, neu o leiaf yn cymeryd arnynt fod felly, a bod llygaid yr offeiriaid cyfrwys hyn arnynt pan yn pleid- leisio, nid rhyfedd i ymgeisydd Mr. Parnell golli y frwydr yno, a thrachefn yr un modd yn Sligo yn mis Ebrill, Carlo yn Gorphenaf, a Kilkenny drachefn yn Hydref. Pan fu Parnell farw Hydref 6ed, bu raid ethol ol- ynydd iddo yn Cork. Ymddiswyddodd John Redmond, yr aelod dros barth o Wick- low, a chyfaill mynwesol Parnell, a daeth allan yn ymgeisydd am y sedd wag, ond gorchfygwyd ef yn rhwydd gan yr offeiriaid Pabaidd, a gorfoleddodd agos holl weinidog- ion Anghydffurfiol Cymru pan glywsant y newydd Ar y 29ain o Dachwedd bu farw yn dra disymwth Mr. Richard Power, neu fel y gelwid ef gan ei gyfeillion Dick Power," yr aelod poblogaidd dros Waterford, ac un o gyfeillion ffyddlon mwyaf Parnell, a'r wythnos ddiweddaf bu etholiad yno i ddewis olynydd iddo. Daeth John Red- mond allan eto, a gwrthwynebwyd ef gan yr enwog a'r anwadal Michael Davitt, yr hwn oedd wedi tyngu yn flaenoral Iawer o weith- iaulia wnelai efe byth ar unrhyw delerau ymgeisio am sedd yn Senedd Prydain Yr hyn wnaeth iddo gyfnewid ei feddwl, medd- ai efe, ydoedd iddo dderbyn ergyd ar ei ben gan ddraenen ddu" (neu Tipperary Rifle fel y gelwir y bastwn black thorn mewn rhai parthau o'r Ynys) nes yr oedd y gwaed yn ffrydio allan o'r archoll Ond ystruan o ddyu ydyw Michael Davitt, er holl allu ac ystrywiau yr offeiriaid Pabaidd, am y tro darfu iddo ef a hwythau golli y dydd, ac y mae rhai o'r papurau Gladstonaidd Cymreig mewn gwewyr a phoenau byth er hyny. Pleidleisiodd dros Redmond 1,775, dros Davitt 1,229. Mwyafrif i Redmond 546. Ond ni ddaeth y diwedd eto. Mewn ystyr grefyddol, nid oes genym lawer o le i adolygu. Gofidus genym orfod cydnabod fod amryw achosion digon anym- unol wedi cymeryd lie mewn cysylltiad ag eglwysi Anghydffurfiol a Chydffurfiol Cym- ru. Ymrysonfeydd ac ymbleidio fu mewn addoldai, ac ofnwn y pery yr effaith yn hir mewn llawer cym'dogaeth. Ofnwn hefyd fad "Rhyfel y Degwm" ac awydd am Rifo'r Bobl wedi gwasgu mwy ar feddyl- iau rhai gweinidogion nag awydd i achub pechaduriaid. Sut bynag, rhag ofn ein bod yn troedio tir na pherthyn i newyddiadur i fyned drosto, tynwn y lien yn y fan hon. Er fod masnach-yn enwedig masnach y glo-yn bur fywiog yn Nghymru, rhyw arwyddion marweiddio sydd ar bob peth y dyddiau hyn; y gofynion am bob math o nwyddau yn lleihau, a'r cyflenwad o bob peth yn cynyddu; nes y mae y rhagolygon ar hyn o Bryd yn bur dywyll, digalon, a di- frifol. Blwyddyn oer, wlyb, ac anfanteisiol iawn i'r amaethwr fu 1891. Cwympodd pris yr anifeiliaid, yn enwedig da a moch, ^•os i'r haner yn hyn oeddynt yn 1890. Nid oes amheuaeth, os na ddaw ymwared buan o rywle, na welir amser gwasgedig yn y Dywysogaeth. Collodd lluoedd o fferm- wyr Cymru lawer iawn o'u gwair, ac hefyd lawer irwn o yd oherwydd y gwlawogydd trymion yn ystod yr Hydref diweddaf. Diwedd Mehefin, ataliwyd tri ugain o weith- ok"aaa ^in ^ymreig am fis, a thaflwyd 25,000 o weithwyr allan o waith. Bu ys- tormydd gerwin ar y mor, a chollwyd llu o fywydau, Yn mysg yr enwogion fuont feirw yn 1891, heblaw y rhai a enwyd uchod, gellir nodi P. T. Barnum, y Showman American- aidd. Charles Bradlaugh, A.S. Y Gwir An- rhydeddus W. H. Smith, arweinydd Ty y Cyffredin, a sefydlydd y fasnach fawr syd d yn dwyn ei enw ar y rheilffyrdd. W. H Gladstone, mab hynaf y Gwir Anrhyd. W. E. Gladstone. Madam Blavatsky, arch-offeir- iades y blaid grefyddol newydd a elwir yn Theosophists. Yr O'Gorman Mahon yn 89 oed, yr hynaf ac un o'r hynotaf o'r aelodau Gwyddelig. Dywedir iddo fod yn ymladd llawer gornest pan yn ddyn ieuanc. Mr. David Price o Queen Anne Street, Cavendish Square, Cymro cyfoethog yn Llundain a adawodd filoedd o bunau at wahanol achos- ion elusengar, meddygol, ac addysgol, brod- or o ardal Llanwnen ydoedd, a derbyniodd lluaws o'i berthynasau o'r ardal hono wadd- olion trymion ar- ei ol. Cawsom y pleser o fwynhau awr yn ei gwmni tua blwyddyn yn ol, ac i fyned drwy ei Picture Gallery, yr hon oedd yn un o'r rhai mwyaf ardd,erch- og yn Llundain. Mr. R. D. Pryce, Cyfron- ydd, Arglwydd Rlaw Meirionydd. Y Parch. G. Rogers, yn 92 oed, y gweinidog hynaf yn mysg yr Annibynwyr. Y Gwir Anrhydeddus H. C. Raikes, y Postfeistr Cjff- redinol. Y Tywysog Louis L. Bonaparte, yr ieithydd adnabyddus Idyegodd Gymraeg. Y Cadfrydog Von Moltke, yr hwn nwog'- odd.ei hun fel prif arweinydd y byddinoedd Germanaidd yn erbyn y Ffrancod yn ystod rhyfel mawr 1871. Jules Grevy, diweddar Lywydd Gwerin-lywodraeth Ffrainc, a'r Due o Devonshire, tad Arglwydd Harting- i^n* ^,°^°(^(^ y Methodistiaid Calfinaidd ddau o'u gweinidogion enwocaf, sef y Dr. Thomas, Lerpwl, a D. Charles Davies, ^rawd ein cydwladwr, Mr. R. J. Davies-o'r Cwrtmawr. Bendith ddilyno'r BRYTHON, a Blwyddyn Newydd Dda i'w holl ddarllenwyr.
. NEWYDDION CYFFREDINOL
NEWYDDION CYFFREDINOL Dydd Iau, wythnos i ddoe, claddwyd Syr Love Jones Parry, Barwn,|Madryn. Bu yn cynrychioli Sir Gaernarfon yn y Senedd, a'r Bwrdeisdrefi wedi hyny. Yr oedd yn Gymro aiddgar, ac yn gefnogydd gwresog i bob math o sefydliadau Cymreig. Efe oedd un or ysbïwyrjth allan i edrych ansawdd Patagonia dros y Prif-athraw M. D. Jones, o'r Bala, cyn sefydlu Gwladfa'r Gamwy, tua chwarter-canrif :yn ol. Yr oedd^yn gefnder i'n cydwladwr, y Cadben Jones-Parry, Tyllwyd. Sicrheir yn awr gan y rhai sydd yn gwyb- od pob peth taw Syr John Jones Jenkins fydd yr ymgeisydd Undebol dros Fwrdeis- drefi Caerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol nesaf, ac y bydd yn rhaid i'r Undebwyr i chwilio amfrywun -arall i frwydro yn Aber- tawe. Nos Sadwrn diweddaf brawychwyd torf oedd mewn chwareudy yn Gateshead y i rywun waeddi Tan ac yn yr ymdrech i geisio rhuthro allan llethwyd wyth o blant ac un dyn i farwolaeth. Prydnawn yr un dydd fel yr oedd amryw o'r -Teulu Brenhinol yn saethu gerllaw Osborne, darfu i'r Due o. Connaught, tryd- ydd mab i'n Mawrhydi saethu y Tywysog Christian o Schleswig-Holstein. Aeth un o'r peli i lygad y Tywysog, a bernir ei fod wedi ei anafu am ei oes. Lladdwyd Mr. Mackenzie- Thomas, rheol- ydd y Western Mail yn ngorsaf Caerdydd. prydnawn y 24ain o Ragfyr, drwy iddo syrthio o rail un o'r'cerbydau. Drwg genym glywed fod Mr. Dillwyn, A.S. dros Abertawe yn bur waal ei iechyd y dyddiau hyn. Cafodd: anwyd trwm wrth r deithio i lawr o Lundain.