READ ARTICLES (3)

News
Copy
Undeb Ysgolion Sill yr Eglwys. LLYTHYR AT YR YSGRIFENYDD CYFFREDINOL. BARCHBDIG SYR,—Fel un ag sydd yn oym- eryd dyddordeb mawr yu ngwelthrediadau y Pwyllgor Rhwng-Esgobaethol, ac un sydd yn edmygu eich llafui chwi fel yegrifenydd gwelthgar a doeth, a fyddwch mor garedig a derbyn awgrym parthed ysgrifenwyr Esbon- iadau dros y pwyllgor, uchod, Yr wyf yn cael ar ddeall mai Maes Llafur y flwyddyn ar ol y nesaf yw St. Luc a Hosea. Dyma'r awgrym, sef fod y Parch. Maurice Jonea, D.D., i ysgrifenu Esboniad ar St. Luc, a'r Parch. E. J. Davies, B.A., rhelthor Bangor Telfi, i yBgrifenu Esboniad ar Hosea. Yr oedd nodiadau galluog yr olaf yn y LLAN, ac hefyd el nodiadau yn yr Haul rai blynyddau yn ol, yn profi ei fod wedi gwneyd astudiaeth fanwl o'r Hen Destament, ac hefyd y mae yn feistr ar yr iaith Gymraeg. Ac am y doethor, wel, mae ei waith yn siarad drosto. Hefyd yr wyf yn cael ar ddeall mai y Parch. J. T. Da vies, M.A., Arholydd Esgob- aeth Tyddewi, sydd i ysgrifenu Esboniad ar y rhan o'r Llyfr Gweddi, ao fod y nodiadau i ymddangos yn y LLAN. Carem yn f&wr pe bai y pwyllgor yn cyhoeddi yr Esboniad yn gyfrol. Byddai hyny yn llawer iawn mwy hwylus, ao hefyd am fod prinder Esboniadau yn yr iaith Gymraeg ar y Llyfr Gweddi, yn enwedig ar y rhan hon o'r Llyfr Gweddi— Bedydd. Gobeithio y caiff yr awgrymiadau hyn eich ystyriaeth chwi.—Yr eiddoch, UN SYDD YN DYMUNO POB LLWYDDIANT I'R PWYLLGOR.

News
Copy
Tip Eglwys a'r Piwritan yn nghanol yp Eilfed Ganpif ar Bymtheg. Yn y llwyddyn 1653 bu John Tailor, y Bardd Dwr," ar delthiau drwy Gymru, a oàyhoeddodd eu hanes mewn llyfryn bychan. Yn mhlith pethau eraill deagrifia gyflwr cref- yddol gresynus cyrau Dinbych, Trefaldwyn, Maeayfed-heb wasanaethau, a'r Eglwys- jdi ya nghauad Suliau bwygilydd. Dro yn ol daeth copi o'r llyfr i ddwylaw proffeswr yn ua o'n oolegau eenedlaethol, yr hwn yn ddioed a ysgrifeaodd gyfran o golofn I'r papur new- ydd ar esgeulusdod cywilyddus ac annuwiol yr hen glerigwyr, dderbynient y degwm, yr amser hwnw fel pob amser.' Mor dywyll yw hanes Cymru yn y cyfnod hwnw Ni wyddal y Proffeswr mal un o flynyddoedd gogoulant "lledaeniad yr Efengyl" yn Nghymru gan y II Taenwyr" Ymnellltuol, dan arweiniad Walter Cradog, Vavasor Powell, aSHencyn Jones, ydoedd 1653; fod yr hen fflerigwyr wedi eu hymlid allan o'u plwyfi, a'r gweinidoglon Plwritanaidd wedi oymeryd I eu lie 90'11 degymau, ar goffadwriaeth y rhai y dylasai ein Proffeswr gyhoeidi el anathema, ao nid ar yr hen bersoniaid lechent mewn cuddfeydd rhag y gorthrwm. NIs gallasai dlaj arddaagos yn well mor bygddu y tywyll web ordoal y ganrif hono. Os ydoedd y Proffeswr dan ei ddwylo,' pa beth elllr ddis- gwyi gan y cyffredin ohonom. Eithr aid chwilfrydedd hanesyddol yn unig eilw am oleuni ar y ganrif helyntfawr hon, ya enwedig y cyfnod canol ynddi—cyfnod llanw ac enciliad Piwrifcaniaeth. AnmhosibI yw i Eglwyswyr ac Ymneilltuwyr Cymru dcioo. I ddeall eu gilydd, na rhai Lloegr ycfewaith, nes y del yr eilfed ganrif ar bym- theg yn llawer iawn goleuach. Pan fo cweryi rhwng dau ddyn neu ddau deulu, ofer disgwyl cymmod tra y myn y naill mai oen yw efe ac mai blaidd yw y llall; er bod cleis- iftu a chrelthiau arno. Edrych Ymneilltu- aeth arni ei hun fel oenig ddiniwed gnowyd gan y blaidd Eglwysig ar hyd y canrhifoedd, bra na feddai hi na chorn na childdant, na'r ewyllys i'w defnyddio pe'i meddai. Dywed yr Eglwys, hithau, i ddefaid Ymneilltuaeth drol yn deirw, os nad yn ddywalgwn, yn yr eUled ganrif ar bymtheg yn arbenig,—a'i ohornio a'i darnio hi; a dengys y creithiau sydd yn aros heddyw ar goed a melai ei heglwysydd. Ymresymiad mawr Hume dros anghredu y Gwyrthiau ydoedd, fod yn haws aredu i'r tystion gamgymeryd na chredu i wyrth gymeryd lie. Felly, mor gryf yw cred Ymneilltuaeth yn niniweidrwydd oenaldd ei hynafiaid nid oes dystiolaeth a'i hargyhoedda iddi erioed erlid na chospi. Pan ddel o hyd i ormea grefyddol rhaid mai'r Eglwys ydoedd wrth y gwaith. Ceir engraifffc ddyddorol o'r blaidd yn beio yr oen gyda helyntion y Cryn- wyr cyntefig yn Neheudir Cymru. Ysgrlf- enodd Francis Gawler hanes y driniaeth dderbyniodd ef a'i ganlyuwyr yn Abertawe a Ghaerdydd, oddiar ddwylaw yr Offeiriaid." Am ddim ond siarad a Benjamin Flower yr Offeiriaid" carcharwyd Dorcas Erbery yn Nghaerdydd am fisoedd. Llusgwyd John ap John gan yr Offeiriaid eto, gerfydd gwallt ei ben, o Eglwys Abertawe, a thaflwyd ef i'r carchar, lie y bu am ugain wythnos heb gael prawf a llu o bethau gwaeth hyd yn nod na hynyna wnaed i'r Crynwyr gan yr Offeir- iaid." Wele hwynt yn ysgrifenedig ar dudalenau "Enwogion y Fydd," Dosbarth Cyntaf, tud. 235. Yn anffodus digwydd mai yn y blynyddoedd 1658 a 1659 y bu'r erlid hwn; pan ydoedd Hopcyn Morgan, fieer Abertawe, Theodor Price, ficer Caerdydd, a'i wraig a'i wyth plentyn, wedi eu difeddianu a'u troi allan i gardota eu bara. "Offeiriaid" y galwai y Crynwyr, megis y gwnai VVilliam Erbery a Morgan Llwyd hefiyd, y pregethwr Ymneilltuol osodasid yn lie yr hen glerigwyr. Felly, teulu y "Ddwy fil "-yn llewyrch gogoniant y rhai y mae yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr mor hoff o dorheulo; a Shon Gorff, yntau, mor awyddus i'w cyfrif yn mhlith el hynafiaid-hwynt-hwy oeddynt I II erlidwyr Francis Gawler a'i ganlynwyr yn Abertawe, Caerdydd, a'r eyffiniau,-Walter Cradog, Edmund Ellis, Benjamin Flower, Jenkin Jones, Henry Walters, Marmaduke Matthews, "Stephen Hughes--such a great priest" medd Gawler, ac eraill y mae eu henwau yn disgleirio, ac arogldarth beunydd yn llosgi ger eu bronau yn Valhalla Ym, neilltuaeth. Morwyn un o honynt hwy dywaUtodd y budreddi dros John ap John, ac yntau ar ei liniau. (Record of some persecu- fions, by Frank Gawler, 9-16). Tra bo y fath gamsyniadau yn suro teimlad yr Ym- neilltuwr at yr Eglwys, a'r adgofion am ddy- oddefaint eu hynanaid a'r camgyhuddiadau hyn yn chwerwi teimlad yr Eglwyswr-y gwr wnaeth y cam yn tybied mai efe a'i cafodd,- ofer disgwyl eyd-ddealltwriaeth-y cam mawr cyntaf tuagat undeb crefyddol.—(Y Canon Camber-Williams yn Y Geninen am Gorffenaf).

News
Copy
"Morfa." GBIRIAU Y PttIF WKINIDOG. Geirlau i'w cofio oedd y rhai lefarodd yn y Senedd y dydd o'r blaen. Geiriau trymion yn cynws rhybudd difrifol i'r genedl i syl- weddoli y baioh cyfrifoldeb sydd arni os am ffrwythau Heddwoh. Dyma rai o ffigyrau y Prif Weinidog. Codasom lu o saith miliwn a saith can' mil o ddynion. Gwarlasom naw mil a haner o filiynau o bunau i gario'r rhyfel ymlaen; a'n colliadau droa dair millwn-dim ond chwe' chan' mil llai na'r Ffrancod. Er hyny, nid oedd i unrhyw wlad arall gyfran fel y wlad hon i siorhau buddugoliaeth. Dyma ffaith y dylai y byd a ninau wybod mwy am dano. Dywed Mr. Lloyd George bethau hallt wrthym hefyd. Dywed nad oes i ni ormodo nerth ynghadw i'n eynal rhag suddo dan y baioh a'r clwyfau. Mae yna aflonyddwoh cas drwy'r wlad, yn arwain, nid i lwydd ond aflwydd. Wiw i ni ymddibynu ar yr hyn geir o groen Germani. Nid yw hyny ond megis dyferyn. Rhaid i ni ymddibynu arnom ein hunain. Nid yw Mr. Lloyd George yn gosod gormod pwys ar Gyngrair y CenhedJoedd, ond digon i'n symbylu i roi iddi bob chwareu teg, fel mater o ddyledswydd i ddynolryw. Os bydd iddi ddiogelu ond un cenhedlaeth o ing fel yr hon y down allan o honi, bydd hyny yn rhoi gwerth mawr arni. Na wasgarer rhy fuan yr ysbryd enillodd y rhyfel i ni, a'r unig ysbryd fedr gyfiawni ein dyheadau goreu. Gafaelwn yn ein dyledswyddau fel un gwr, a bydd tangnefedd a dedwyddwoh ar y ddaear. Nerth gaffo Mr. Lloyd George i arwain y genedl a'r byd eto i uchelderau uwch, uwoh, ar hyd llwybrau rhyddid a chyfiawnder. SIWRNB YR R34. Darllenasoch am dani, wrth gwrs, fel nad oes raid manylu. Yr oedd gorchwyl Syr John Aloock yn dda, ond, o'i gydmaru a hon, nid oedd ond megis carlam Dic Turpin i Efrog yn ymyl rhediad y Great. Northern Express-y naill fel y llall yn haeddu pob clod. Roedd slwrne yr R34 dipyn yn hwy na'r disgwyl. Meddylid y gallai gyraedd Amerisa mewn 65 o oriau, y man pella' mewn cant o oriau. Ond oymerodd 108 o orlan, neu bed war diwrnod a haner; ychydig iawn cyflymach na'r Aquitania.' Ond nid yw'r gydmariaeth yn hollol deg. Yn 1838, gadawodd y Sirius Cork Ebrill 1 a ohyrhaeddodd New York Ebrill 22; ac os bydd i longau awyr gwttogi yr amser o groesi rhywbeth tebyg i'r hyn mae y liners' wedi wneyd er dyddiau y Sirius, yna darllenir papyr boreuol Llundain yn New York y noswaith hono. Bydd yr I airship' yn union mor gysurus ac mor ddiogel a'r 'express train.' Yn wir, yr ydym yo byw mewn dyddiau rhyfedd. DYDD SUL. Tuedd yr oes yw gwneyd yn ysgafn o Ddydd Sul, a'i redeg ar linellau Sul y Cyfan- dir. Ei droi yn ddydd o bleser yn gystal & gorffwysdra. Mae'r peth yn amlwg ar bob Haw. Cymerwch y beohgyn ydynt wedi í I treulio amser mawr ar y Cyfandir, nid hawdd eu oae1 i le o addoliad ar y Sul. Pa'm t Dyna'r cwestiwn raid ei ateb, cyn gelllr dadrus y d'rysweh. Mae o bwys i ni fel gwlad. A wiw i neb, nac Esgob nac Arch- ddiacon, na Pherson, na Churad na Blaenor na Phregethwr, feddwl y medr orfodi yr un dyn fyn'd i Eglwys na chapel ar y Sul os na thelmla ar ef galon i fyn'd. Gwlad rydd yw hou, ac y mae'r rhyfel wedi llacio a datod ) llawer carai oedd cyn hyny yn oylymu dyn i weithredu yn groes i'w ddymuniad. 0 hyn allan, "Rhyddid" yw'r arwyddair ar y Sul yn gystal a diwrnod gwaith. A goreu po gyntaf i arweinwyr crefydd agor eu llygaid i hyny, a gweithredu yn ol yr herwydd ar linellau doethineb ymarferol a synwyr cyff- redin. Ynfydrwydd yw cau llygaid, Mae y eyfnewidiad yn nghadwraeth Dydd Sul yn fwy amlwg yn Lloegrnac yn Nghymru, mae'n wir. Ond o dipyn i beth, gwelir Cymru grefyddol, gwlad yr Eglwysi a'r capeli, y Cwrdd Gweddi, y Gymanfa a'r Sasiwn, yn rhedeg i'r un cyfeiriad, ac os na chymer ar- welnwyr crefydd y gofal mwyaf, collant eu gafael a'u dylanwad ar ieuenctid ein gwlad, a thrybini fydd y canlyniad. Myn yr oes fod y Sul wedi ei wneyd iddplt hwy, ac nid hwy i'r Sul, ac nad yw y Pedwerydd Gorchymyn i bob pobl a phob oes, ond i un bobl nelllduol ac ar gyfer un cyfnod, ac mai gormod peth yw eu cadwyno a'u oaethiwo i'r hyn osodwyd lawr ar gyfer yr Iuddewon yn unig. I lawer nid yw Dydd Sul ond y Sabboth Iuddewig mewn arddull a gwisg Grlstionogaidd. Ar y cyntaf, arferai y Crisfcionogion boreuol weithio ar y Sul. Y ddeddf gyntaf yn rheoleiddio v. cadwraeth o'r Sul oedd eiddo Constantine yn y flwyddyn 321, yn gorchymyn gorffwys ar y v, Sul i drigolion trefydd, ond yn canIatau I bobl y wlad ddilyn gwaith amaethyddol fel i ddiogelu ffrwythau'r maes-eyngor hollol groes i'r Pedwerydd Gorchymyn. Mae yna bamphledyn bach newydd ei gyhoeddi ar y mater a elwir "Sunday in the Twentieth Century," gan y Parch. James Fell (T. Wilson and Son, Kendal). Mynwch < afael arno os madrwch. Mae yr ymgodym- iad rhwng dau Orchymyn Crist a deg gorch- ymyn Moses. Mae'r mater yn bwysig, ac yn haeddu sylw difrifol pob dyn ystyriol.