READ ARTICLES (2)
News
ADLUNIO ADDOLIAD. Y Llyfr Gweddi Oyffredin, a Nodiadau y Parch. H. L. James. Welsh Church Press. The Book of Common Prayer (Scotland, Ireland, America), Reports of Convocation. Nos. 501, 504, 510. S P. C K. The Worship of the Church, c. 2 of Appendix (1912). 6d. S.P U.K. Revised Lectionary (1918 19). S.P.C.K A Sunday Morning Service (1919). 1/6. Wells, Gardner. A Sunday Evening Service 10J Mowbray .Five Forms of 3d. Church Army and O.E.M.S. The Parson's Handbook. 7/6, Oxford University Press. t The Art of Public Worship (1919), 4/ Mowbray. The Church in the Furnace (1918), cc. 7, 8, 9. 5/ Macmillan. Principles of Liturgical Reform. Frise. Murray. Atgyweirio neu Adlunio yw gair cysswyn y cyfnod, a galwodd y Genhadaeth Genedlaeth- ol ac Adroddiadau Pwyllgorau'r Archesgobion ein ey!w at ran yr Eglwys yn y gorehwyl mawr. Traetha'r Ail Adroddlad ar Addol iad yr Eglwys, ac ymhlith agweddau amryw- ¡ 101 y pwnc, ceir ymdrafodaeth gryno a chyu-j hwysfawr ar Ddiwygio'r Llyfr Gweddi Gyffredin. Am dair blynedd ar ddeg bu dwy Gymanfa taleifchiau Caergaint a Chaereftog wrthi yn ddyfal yn yrrsgodymu a'r anturiaeth ddyrys, ac yn awr, wele eu llafur nirfaith yn dirwyn i ben. Cawsom lawer o drafod a dadlea ar ddiwygio'r Llyfr Gweddi o bryd- bvvygilydd, a rboes y rhyfel a phrofiad cap laniaid y fyddin symbyliad o'r newydd i'r mudiad. Ond dechreuasai'r ddwy Gymanfa ar eu gwalth wyth mlynedd cyn y rhyf el. Yr oedd eisoes Lyfrau Gweddl diwygiedig gan yr Eglwys yn yr Alban, Iwerddon, ac America, ond ni chyfnewidiwvd nemawr ar ein Llyfr Gweddi ni er y fl. 1662. Canfyddir ysgogiad i ddiwygio gwasanaethau'r cysegr yn rbannau eraill yr Eglwys Gatbollg heblaw yn Lloegr. Tua chwech mlynedd yn ol, daeth allan argraffiad diwygiedlg o'r B, eviarum Romanum -y cyntaf er y fl. 1570. Hysbys hefyd fod oyfieithiad diwygiedig o'r Ysgrythyran Lladin ar waith. Ymddengys nad ydyw egwyddor y semper e adem yn gomedd nac yn lluddias dlwygiadau dymunol, Yr un wedd, eeircyffro yn Eglwysi'r Dwyrain Anghyfnewidiol, ac osgo at ddiwygio eu ffurf-wasanaethau. Nid oes gofyn na gofod i drafod yma y pwnc yn ei holl agweddau amrywiol; ond awgrymwyd uwch ben yr ysgrif y defnyddiau diweddaraf a mwyaf bylaw ymchwilgar. Yn uaig amcanwn y tro hwn roddi cip olwg ar waith y ddwy Gymanfa, a braslun o'r cyfnewidiadau a gymeradwyir ganddynt. Dechreuwn gyda Gweinyddiad y Cymun Bendigaid. Y peth oyntaf i sylwi arno yw Rhuddell yr Addurniadau sydd yn ymwneud idodrefn yr adeilad a gwlsgoedd yr offeiriad, Gwelir hon yn union ar ol y taflenni yn nech- reu y Llyfr Gweddi. Ni ddiddymir y rhudd- ell bresennol sydd yn gosod safon yr ail Flwyddyn o Deyrnasiad Edwart y Chweched, ond caniateir i'r offeiriad wisgo gwenwisg, '■ owcwll a thiped (sef gwisgoedd y Pylgain a'r Gosper) yn gystal a hen wisgoedd traddodiadol yr offeren-alb, chasul, &c. Ond ni ellir cyfnewid yr arferiad presennol heb gydsyniad Cyngor y Plwyf a chaniatad yr Esgob. Talfyrrwyd y Deng Air Deddf yn y gorchymynion hyn II. Na wna it' dy hun ddelw gerfiedig, na Hun dim ar y sydd yn y nefoedd uehod, neu yn y ddaear isod, nac yn y dwfr dan y ddaear. Na ostwng iddynt, ac na addola hwynt. I III. Na chymer Enw'r Arglwydd dy Dduw I yn ofer. I IV. Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Sabbath. Chwe' diwrnod y gweithi, ac y I gwnei dy holl waith eithr y seithfed dydd I yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw. V. Anrhydedda dy dad a'th fam. I IX. Na ddwg gam dystiolaeth. X. Na thrachwanta. I Erys y lleill fel y maent yn awr. Newidir y rhuddell o flaen y Deng Air Deddf* I ddarHen I fel hyn A'r bobl eto ar eu glinlau, ar ol pob un o'r gorchymynion, a archant drugar- edd Duw am droseddu pob dyledswydd ynddynt, ac yn 01 y llythyren, ac yn ol yr ystyr ysbrydol o honyufc." Ond gellir gadael aUan y Deng Air Deddf yn gvfangwbl, ond gofalu eu hadrodd unwaith bob dydd Sul. Yn eu lie, gellir adrodd nam ai Crynhodeb y Gyfraith, neu y Eyrie eleison, megis yn Llyfr Gweddi'r Alban. Gadewir allan y Colectau dros y Brenin, a rhaid troi at y bobl i ddar lien yr Epistol a'r Efengyl. Ni bydd rhaid i bregeth ganlyn megis yn awr. ¡ Trosglwyddir yr AHerchiadau birioa i ddiwedd y gwasanaeth, a rhaid darllen rhyw un o honynt o leiaf dair gwaith yn y flwydd- yn o flaen y Prif Wyliau. Gwneir hyn y» lied gyffredinol heddyw yn ein plwyfi. Darperir ad nod ychwanegol yn yr Offrym- iad, sef Actau xx. 35 Cofiwch eiriau'r Arglwydd leaH," &c. Cydnabyddir yr hen arferiad o roddi ychydig ddwfr glah a phur at y gwin yn y cwpan. Defnyddir Rhagymadrodd Priod y Nadolig I hyd yr Ystwyll, ac hefyd ar Wyl y Canhwyll- au a Gwyl Fair. Defnyddir Rhag. y Pasg hyd dydd Iou y Dyrchafael, a Rhag. y I Dyrchafael hyd y Salgwyn. Darperir Rhag- ymadrodd uewydd i'r Sulgwyn, sef yr un a gaed yn Llyfr Gweddi 1549 Ceir ffurf newydd hefyd ar gyfer Sul y Driudod. Dar- perir ffurflau newyddion ar gyfer wythnos yr Ystwyll, Dydd Iou Cablyd, Gwyl yr Holl Saint, GwyHau Apostolion ac Efengylwyr, Owy1 Ifan, yr Wyl Gysegru a'r Gwedd- newidiad. Ceir ad-drefniad o'r hyn a elwir Canon yr OffereD, sef yn ymarferol y Weddi Gysegru. Yn ol y cynHun hwn, daw y 'Weddi hon yn utaioii ar ol y Sanctus; nl ddywedir yr Amen ar ei diwedd, ond eir ymlaen yn ddiymdroi i ddweyd Gweddi'r Offrwm gan ddechreu fel hyn "Gan hyny, 0 Arglwydd a Nefol Dad, yn ol Ordinhad Dy anwyl Fab, ein Hiachawdwr lesu Grist, yr ydym ni, Dy ufudd weision, yn offrymu ac yn cyflwyno i'th Ddwyfol Fawredd, a'th roddion sanctaidd hyn, y cotia a orchymynodd Dy Fab i ni ei gadw, a ninau yn cofio Ei Ddloddefaint Bendigedig, Ei Atgyfodiad Nerthol, a'i Esgyniad Gogoneddus, gan ddiolch yn ddir- fawr i Ti am y doniau anairif a enillwyd i ni trwyddynt, ao yn cwbl ddeisyfu ar dy dadol ddaioni, yn drugarog dderbyn ein haberth hwnofolianta diolch," &c. Yna y canlyn Gweddi'r Arglwydd a'r weddi Nid ym ni yn rbyfygu," &c., ao yna y daw cymun yr offeiriad a'r bobl. Wrth gymuno'r bob!, gellir dweyd y naill banner neu'r Hall o'r Geiriau Gweinyddu. Yna y daw y Diolch, y Gloria in Excelsis, a'r Fendith, fel yn bresennol. Caniateir cadw yn ol gyfran o'r Sacrament Bendigaid er mwyn cymuno'r claf, fel y gwneir yn awr mewn plwyfi poblog yn ein trefi mawrion. Gwneir amryw gyfnewidiadau yn y Foreol a'r Brynhawnol Weddi. Gellir byrhau yr adran arweiniol, ond rhaid dweyd yr Annwyl Gariadus Frodyr o leiaf ar y Sul cyntaf yn Adfent a'r Sul cyntaf yn y Grawys. Y mae Gwahoddiadau (nen. ateb geiriau) i'w defnyddio o flaen ac ar ol y Venite, Exultemus I Domino ar y tymhorau canlynol: Adfent, Nadolig, Ystwyll a'r Gweddnewidiad, Pasg, Dyrchafael, Sulgwyn, y Drindod, Pured- igaeth a Chyfarchiad Mair, a gwyliau eraill chanddynt Epistol ac Efengyl arbennig. Ar- greffir y Te Deum yn dair adran megis y gwneir eisoes yug Ngwasanaeth Esgyniad y Brenin i'r Orsedd. Caniateir talfyrru'r Pyl- gain pan fyddo'r Cymun yn dilyn yn union ar ei ol. Gellir dibennu y Gosper mewn ffordd new- ydd. Yn ol y drefa bon ceir amryw Eirchion (megis "Gweddïwn dros ") a Gweddïau, ac yn eu plith, un dros y ffydd- loniaid ymadawedig." Yr ydys eisoes yn bur gynefin a. defosiynnau o'r fath trwy gyf- rwng y ffurfiau cenedlaethol a ynaddangos- odd o dro i dro yn ystod y pum' mlynedd rhyfela diweddar. Andhawyd y Gweddiau a'r Diolchiadau Achlysurol, a diwygiwyd amryw o'r rhai presennol. Yn yr adran hon bellach ceir y ddau golect dros y Brenin sydd ar hyn o bryd yn Nhrefn Gweinyddiad y Cymun Bendigaid. Darperir hefyd all wasanaeth hwyr, pan fyddir eisoes wedi dweyd y Gosper (i.e., yn y prynhawn, megis y gwnaed hyd o fewn cof, ac fel y tystia r enw Cymraeg Y Brynhawnol Weddi "). Rhoddir seibiant i'r Litani ar ddydd Nadolig, dydd Pasg a'r Sulgwyn. Dodir yr adran olaf (ar ol y Pader byd Yn rasol ciyw ni 0 Grist ") rhwng cromfachau, i'w defnyddio yn amser rhyfel neu ryw argyfwng arall. Y mae deisyfiadau newyddion i Wyth- nos y Catgoriau, dros luoedd y Brenin, dros bawb sydd yn gwasanaethu dynolryw tnvy lafur diwydiant a dysgeidiaeth, a throB Y Genhadaeth Dramor. Newidir amryw eirv iau a brawddegau yma a thraw, megis Ar- J glwyddi'r Cyngor a'r boll Fonedd." ae "ein duwiolaf a'n grasusaf Frenin yn y Weddi dros Oruchel Lys Parliament. Can- iateir defnyddio'r Cyfieithiad Dlwygiedig yn yr Epistolau a'r Efengylau, ond nid oes » wplo hyn camyn a'r iaith Seisnig. Cefr ptiod ddarnau ychwanegol ar gyfer y dydd Nadolig, dydd Pasg, a phen wythnos y Pasg, a'r Sulgwyn. Ceir Colect ae Epiistol newydd ar Ddydd Calan, a Cholect, Epistol ac Efengyl ar gyfer O-wyl Fair Fadlen, y Gwedd- newidiad, Geni'r Forwyn Fair Fendigaid, Ymweliad Mair, Enw'r Iesu, Gtfyl y MeirW, Dyddiau y Catgoriau, yr Wyl Cysegru, Gtfryl y Cynhauaf, g*yliau Merthyron, Cyffeswyr a Dysgawdwyr. Bychan o barch a ga Credo Sant AthaLl. asius, ar goedd fodd bynnag, ond erys Erthygl VIII. eto i dystio y "dylld yn gwbl ei dder- byn a'i gredu." Yn y llyfr newydd, caniat- eir, ond ni orchymynnir ei adrodd ar un dydd yn y flwyddyn yn unig, sef ar Sul y Drindod, yn y bore neu'r hwyr. Pe deuai'r Pylgain yn union o flaen y Cymun, a'i dalfyrru fel y caniateir, a phe defnyddid yr adran newydd i ddibennu'r Gosper, yna diflatinai'r Credo yn V gyfangwbl o gyd-gynulliad y ffyddloniaid. Asgwrti cefn y Pylgain a'r Gosper yw'r Salmau a'r Llithiau, a cheir ad-drefniad trylwyr o'r rhai hyn. Y mae Salmau priod ar gyfer y Suliau a'r gftyliau, a dosrennir y llithiau yn ol yr wythnosau Eglwyslg, ac nid yn ol y flwyddyn wladol, megis yn awr. Er nad oes awdurdod swyddogol I'r drefn newydd, dilyuir hi mewn amryw blwyfi eisoes, Ond palla gofod i ni ymhelaethu at y daflen newydd yn gystal ag ar y gweddill o'r Llyfr Gweddi. Ond dichon y bydd cymaint a. hyn yn ddigou o saig ddiwygiadol am y tro hwn.
Advertising
YR HAUL. A nfonsr arohebion am J HAUL i MAN AGFR, f" (t r' {, I .AM Fa r ER .1