Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Arddangosfa Flodau a Mabolgampau\…

Eisteddfod Gadeiriol Corwen,…

News
Cite
Share

Eisteddfod Gadeiriol Corwen, Gwyl y Banc, 1913. YR ORSEDD. Darllenwyd y weddi gan y Parch. Berwyn Roberts, ac anerchwyd, &c., gan Llifon, Pedrog, Perthog, a Hywel Cernyw. Ni chlywyd Ilais corn gwlad elenl am fod gwyr y seindorf wedi colli'r trên. Cafwyd sain telyn a phenill gan Telynores Maldwyn a Mr. Jacob Edwards (Alaw Maelor). Wedi can yr orsedd, gorymdeithiwyd i'r neuadd newydd ardderchog sydd wedi ei hadeiladu i gynal yr Eisteddfod ynddi. Agorwyd hi yn fturfiol gan Mr. a Mrs. Lloyd, Rbagatt (Llwyd y Berth), ac y mae llawer o glod yn ddyledus i'r bon- eddwr hynaws am ei weithgarwch a'i haelionl tuag at y mudiad a'i gariad at yr Eisteddfod. Y beirniaid oeddyiit-Barddoiiiaeth, Pedrog a Mr. T. H. Parry Williams, M.A., B.Litt, Ph. D.; Ffug-chwedl, Mr. J. M. Edwards, M.A., Holywell Ystyr enwau lleoedd, &c., Syr Edward Anwyl, M.A.; Cyfieithu, Mr. T. H. Parry Williams, M.A., B.Litt., Ph.D.; Ad- roddiadau, Mr. H. Parry Williams, Rhyd-ddu; Mr. Tom Owen, Mr. William Vinton Cerdd- oriaeth, Mr. Tom Price, Merthyr, Mr. D. J. De-Lloyd, B.A., Mus. Bac., Llanelli Celf, Ic., Cerfio ar Dderw-Mr. Griffith Jones; Pencil Sketches and Drawings: Mr. L. J. Roberts, M.A., H.M.I., a Mr. A. Taylor, H.M.I.; Fancy Work, &c., Mrs. R. D. Roberts, Bronygraig Mrs. Wynn, Rug; Mrs. Lloyd John Mrs. Clarke: Mrs. Davies, Bank; Mrs. G. Williams, The Reotory; Mrs. J. P. Hughes; Miss Walker Miss Appleton Miss Roberts, Bronygraig Cyfeilwyr, Mr. Bryan Warhurst, A.R.C.M., L.R.A.M., Mr. W. J. Kington, A.R.C.O., a Mr. W. Bradwen Jones. CYFARFOD Y BOREU. Llywydd, Mr. Lloyd (Llwyd y Berth). Arweinydd, Llifon. Anerchwyd gan Hywel Cernyw, Llifon, a Llwyd y Berth. I agor y gwelthrediadau, canodd Llwyd y Berth fel hyn— "Rwy'n dymuno llwyddlant beunydd I'r pafilion mawr ysplenydd, Tra bo Berwyn ar ei orsedd, Bydded golud a thangnefedd.' Enillwyd 2p. 2e. am gyfansoddi darn i g6r o blant gan Mr. J. D. Evans, Senghenydd, Caerdydd. Chwareu ar y berdoneg 1 rai dan 14, Miss Blodwen Kelley, Coed Poeth. Englyn,' Gweniaith.' Allan o 38, Ceinydd, Llynlleifiad. Pwyntll-waith-l, Master Brinley Hughes 2, W. Peake; 3, Aneurin Jones, Corwen. Ffag-chwedl, yn darlunio bywyd Cymreig yn amser Glyndwr--I, Mr. G. Bedford Ro- berts, Caersws, Mont. Ystyr enwau lleoedd yn nghwmwd Edeyrn- lon, Mr. E. Stanton Roberts, Cynwyd, Cor- wen. Myfyrdraeth, 'Yfory,' Parch. Evan Roberts, Manceinion. Cywydd, Y Ddinas Warchaedig,' Mr. R. Lloyd Jones, Penmachno. Hir a Thoddaid, I Dewl Ffraid,' Delgryn, ond nid atebodd. Cystadleuaeth Corau Plant, heb fod o dan 30 o nifer 7p.; ail, 3p. Cin yr Afonig (D. D. Parry); goreu, Cor Plant Gobaith y Rhos; arweinydd, Mr. Tom Powell; ail, C6r Birkenhead arweinydd, Mr. Tom Lloyd. Unawd Tenor, Cenad y Don' (W. Davies); Mr. Egryn Owen, Llanegryn. All Gorau Meibion, Tan i'r Bryniau' (Tom Price), lOp. Enillwyd gan Gor Llyn- lleifiad, dan arweiniad Mr. D. Roberts. Cyfieithu 'Rabbi Ben Ezra' (Browning); cydradd, Abon, Cefn Mawr, a'r Parch. J. Geufronydd Jones, Towyn. Adroddiad I ral dan 16, 'Y Gwanwyn 'EiWyn'; 1, Gwilym Williams, Garth; 2, W. D. Williams, Glan'rafon, Corwen. Unawd Baritone, I Atiwyl Walia Wen'(R. S. Hughes) 1, Mr. R. Ellis, Pentrevoelas. Cystadleuaeth Glee Parties, In this Hour of Softened Splendour (Pinsuti). 1, Parti Glandyfrdwy, Ffynongroew, dan arweiniad Mr. J. Lloyd. CYFARFOD Y PRYDNAWN, Arweinydd, Llifon, Enillwyd ar yr unawd Tenor, Hear ye, Israel '(Elijah), gan Miss Rees, Rhyl. Arluniaeth, Y Ddraig Goch, yr Afr, a'r Geninen,' Miss Winnie Williams, Talybont, Bangor. Cerfio ar Dderw Mr. R. F. Turner, Towyn, Meirionydd. Tri o Englynion, Y Cwmwl, y Fellten, a'r Gawod 1, Mr. Benjamin Davies, Rbuthyn. Adroddiad Selsnig, ( Wolsey' (Henry VII., Shakespeare); 1, Miss Chalmers, Liverpool. Corau Cymysg. (a) Teilwng yw yr Oen (' Worthy is the Lamb'), (b) I Dyddiau'r Haf' (J. Price, Beulah), 20p.; ail, 10p.; buddugol, cor Llangollen; arweinydd, Mr. J. E. Morris. Ail, Liverpool Co operative Choir; arweinydd, Mr. David Roberts. Adrodd, 'Y Ffoidur' (Cynonfardd); 1, Miss Madge Jones, Llanfair P.G. Can Ddesgrifiadol Gorsaf y Rheilffordd 1, Bryfdir. Pryddest y Gadair, heb fod dros 400 llinell, 'Gobaith.' 6p. a chadair dderw. Enillwyd gan y Parch. J. D. Richards, Trawsfynydd, a chadeiriwyd gyda hwyl. Deuawd Tenor a Bass, ( Pant y Cedyrn' (D. Parry); 1, Mri. F. Owen, Lerpwl, a D. R. Jones, Gwreesam. Unawd Contralto, 'He was despised' (Messiah); cydradd, Mary Vaughan, Oswestry, a Miss Rhoda Jones, Llanynys. Unawd i blant, 'Yr Eos Lais'; Miss Maggie L. Jones, Birkenhead. Prif Gystadleuaeth Corau Meibion, (a) 'Canu 'rwyf dan chwythu'r Crwth' (D. D. Parry); (b) Milwyr y Groes' (Protheroe) 140 a Chwpan Arian; 2, XIO; 1, Cor Ffynongroeyw, dan arweiniad Mr. T. E. Jones 2, Cor Claughton, dan arweiniad Mr. Tom Lloyd. I CYNGERDD. Cynhaliwyd cyngerdd yn yr hwyr, pryd y llywyddwyd gan Dr. John Jones, Dolgellau, uchel sirydd Meirionydd. Rhan I.-Action Song, 'Skye Boat Song,' Rydal Juvenile Action Party, Director Mr. J. V. Evans; can, Softly awakes my heart,' Miss Winifred Lewis; recit'and air, 'Deeper and Deeper Still,' Waft her Angels,' Mr. Ben Davies; can, Waltz Song,' Madam Laura Evans-Williams; can, (a) 'Son of mine,' (b) 'The Rebel,' Mr. Emlyn Davies canu Peniliion gyda'r Delyn, Miss Nancy Richards a Mr. Jacob Edwards can, Hen Gadair Freichiau fy Mam,' Miss Winifred Lewis Hen Alawon, (a) Breudd- wyd y Bardd,' (b) Y Gwcw Fach,' Mr. Ben Davies; deuawd, In Springtime,' Madam Laura Evans-Williams a Miss Winifred Lewis; Alawon Gwerin, (a) Farwel Mari,' (b) Yn Mhontypridd mae'n nghariad,' Mr. Emlyn Davies. Rhan If.-Anerchlad gan y Llywydd; Detholiad ar y Delyn, Miss Nancy Richards (Telynores Maldwyn); deuawd, 'The moon hath raised,' Mr. Ben Davies a Mr. Emlyn Davies Action Song, We'll tell you your fortunes,' The Rydal Action Party; cAn, Little Damozei,' Madam Laura Evans- Williams can, The Sunshine in your eyes,' Mr. Ben Davies; can, 'When you come home,' Miss Winifred Lewis; can, 'The Bugler,' Mr. Emlyn Davies; can, Gwlad y Delyn,' Madam Laura Evans-Williams; ped- warawd, Good-night, Beloved,' Madam Laura Evans-Williams, Miss Winifred Lewis, Mr. Ben Davies, Mr. Emlyn Davies; diweddglo, (a) Hen Wlad fy Nhadau,' (b) God Save the King.'

Nodion o Ddyffryn Clwyd. -

LLANGYSTENYN.

LLANDDEINIOLEN.

PENMAENMAWR.