Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Morfa."

News
Cite
Share

Morfa." ARARTH Y BRENIN. I ba raddau y mae Araeth y Brenin yn waith y Breuin, sydd gwestiwn ar yr hwn ceir amryw farnau. Y farn gyffredin yw, nad oes a fyno'r Brenin a hi ond edrych drwyddi a gorch- ymyn gadael y peth yma allan neu roi'r peth arall fewn, fel y gwelo doetbineb y Brenin fod yn oreu. Golygon y Prif Weinidog a'i gyd- swyddogion yw'r Araeth, a dim arall. Mewn 'Cabinet Council' y cyfansoddir hi, ac nid oes yr un Brenin na Brenhines we ii bod yn bres- enol pan y cyfansoddwyd hi, er William y Trydydd ac Anne. Nis gallai Sior y Cyntaf na Sior yr Ail siarad Saesneg. Cymerent hwy fwy o ddyddordeb yn Hanover o lawer ua Lloegr. A hyd dyddiau Syr Robert Walpole, nid oedd yn anghenraid i'r Brenin ddewis ei twyddogion o'r J blaid y byddai y mwyafrif yn digwydd bod gan- ddynt. Yr oedd prif Weinidogion y Frenhines Anne yn Whigs' ac yn Toris,' ond er dyddiau Walpole fel arall y mae. 10, DOWNING STREET. Dyma drigfan Prif Weinidogion Prydain Fawr er amser Walpole. Yma bu Pitt fyw. Yma bu Gladstone. Yma bu Iarll Grey a Disraeli. Yma bu Mr. Balfour ac Arglwydd Roseberry a Syr Henry Campbell-Bannerman. Dau eithriad sydd—un yw y diweddar Arglwydd Salisbury a'r llall yw Arglwydd Roseberry. Ni fynai y naill na'r llall aros yno. Wn i ddim pa'm. CYNGHOllION DA. If getting lazy, watch James. If faith is getting below par, read Paul. If impatient, sit down quietly and have a talk with Job. If just a little strong-headed, go and see Moses. If getting weak-kneed, take a look at Elijah. I If there is no song in the heart, listen to David. If we are getting sordid, spend a while with Isaiah. If feeling lonely, get the Beloved Disciple to put his arms around us. If we are losing sight of the future, climb up to Revelation, and get a glimpse of the promised land. ETHOLIAD MEIRION. Rhoddwyd ar ddeall i mi yn ddiweddar fod yna lawer iawn iawn o Eglwyswyr wedi pleid- leisio yn yr etholiad ddiweddar dros yr ymgeis- ydd Radicalaidd, Mr. Haydn Jones, yr Aelod Seneddol presenol. Dengys hyn ar unwaith y rhyddid mawr sydd i Eglwyswyr o'i gydmaru &'r caethiwed mae capelwr ynddo. Ni ddygir yr un pwys na scriw ar Eglwyswyr i bleidleisio ond fel y mynont. Mor wahanol i'r gwersyll arall Ond ar wahan i hyn, rhaid i mi gyfaddef pan glywais y peth, a bod y peth yn ffaith, rhaid i mi addef i deimlad o syndod fod Eglwyswyr mor lasdwraidd a diasgwrncefn i'w cael yn Meirion. Y capel yw'r lie goreu i 'jelly-fish' o'u bath. Elent yno. -.ip CONFFIRMASIWN. Yn y Church Times am Mawrth 4, ceir erthygl arweiniol 'The Bishops and Confirmation.' Dyma bigion o'r erthygl, Mewn llawer o blwyfi gwledig, adeg Conffirmio yw'r unig gyfle pan y ca y lleygwyr y siawns o wel'd eu Hesgob.' I Gresyn fod yr Esgobion mor ddifater i gyfeir- iadau y Llyfr Gweddi ynglyn a'r ddefod hon' Rhoddir gorchymyn pendant i dadau-bedydd a mamau-bedydd gan yr Eglwys i gymeryd gofal i ddwyn y plentyn i'w gonffirmio gan yr Esgob cyn gynted ag y medro ddywedyd y Credo, Gweddi'r Arglwydd, a'r Deng Air Deddf yn yr iaith gyftredin, ac yr addysger ym rnhellach yn Nghatecism yr Eglwys a osodwyd allan ar fedr hyny.' 'Er hyny, ac yn ngwyneb gorchymyn pendant yr Eglwys, gwaherddir y tadau-bedydd a.'r mamau-bedydd rhag cariohyny allan oherwydd nad yw'r bachgen neu'r lodes ddigon hen. Mae 0 y rheol Esgobol o gyfyngu yr oed i dair-ar-ddeg neu bedair-ar-ddeg yn groes i synwyr cyffredin. Oherwydd yn yr oed hwnw mae'r bachgen neu lodes wedi myn'd o'r ysgol at eu galwedigaeth, ac yn gadael en cartref a'r Eglwys yn eu colli.' Dywed y Llyfr Gweddi y dylid conffirmio y plentyn yn gynarach, ac y mae profiad yn dweyd IUae ar eu mantais ymhob ystyr mae'r bachgen neu'r lodes a gonffirmiwyd yn ifanc, dyweder, deuddeg oed.' Mae'r Ghwch Times yn galw yn gryf am i'r Llyfr Gweddi gael chwareu teg yn y matpr, beth bynag ddywed yr Esgob. "CENINEN" GWYL DEWI. Dyddorol iawn yn ol pob hanes yw y rhifyn hwn o'r I Geninen.1 Un o'r ysfrifau goreu yw eiddo y Parch. J. C. Morrice, M.A. (gynt Is- Ganon Bangor, ond ar hyn o bryd yn Llandegfan, M6n) ar Ruffydd ab leuan.' Y mae'r Parch. J. Price Evans, rheithor Llandderfel, yn ysgrifenu yn ddifyrtu hwnt ar 'Edward Jones (Bardd y Brenin; o anfarwol goffadwriaeth)." Bardd y Brenin Sior III. ydoedd ef. Swydd o anrbydedd oedd hi y pryd hwnw, dim tal. Bernir iddo orfod troi gwerth tua tri chant o bunau o'i lyfrau yn arian er mwyn cael rhywbeth at fyw. Gwych iawn yw llinellau Gwynedd ar ol yr Hybarch Archddiacon Thomas Williams, Meirionydd. Coffa da am, dano Gwnaeth Gwynedd iefyd englyn pert ar ol y Parch. David Griffith, curad Caernarfon. Da gan lawer oedd gwel'd y sylw a wneir o'r offeiriad dyddan a llengar yma gan amryw o ohebwyr y LLAN. Ysgrifena y Parch. D. Ambrose Jones, M.A., rheithor Manor- deifi. vn ddvseedig a meistrolgar ar Giraldus Cambrensis,' a dyma frawddeg o honi :— Dywed mai pobl y Gogledd oedd buraf eu Cymraeg, ond yr oedd ereill yn tystio mai yn Ngheredigion y clywid yr iaith yn ei phurdeb.' Y Canon Walter Thomas, M.A., yw testyn ysgrif y Parch. T. Smith, o Eglwys Dewi Sant, Paddington. Dyma frawddeg werth ei chodi o'r ysgrif ragorol hon Cyfrifir fod mwy na deg ar hugain o wyr ieuainc wedi derbyn cymorth ganddo, mewn rhyw fodd neu gilydd, ar gyfer y Weinidogaeth.' Eto, Casglodd y gwr da hwn filoedd o bunau tuag at adeiladu ac adgyweirio Eglwysi ac ysgolion.' Da iawn yw llinellau Teifi er cof am Idrisyn, a Phenfro am Glan Menai. Diolch i Carneddog am gofio am Bleddyn, y lienor cywirfarn a'r Eg- lwyswr aiddgar o Llangollen i Isfryn, offeiriad Llanarmon, am ysgrifenu mor hynod o felus am yr anfarwol Tudno. Diolch hefyd i'r Hybarch T. Johns, cyn-reithor Llanrug, am ei ysgrif brudd-felus ar ei hoff briod, y farddones dalentog, 'Eliza Carmarthen' fel y galwai ei hunan. Swynol yw odlig alarus Ap Ceredigion' ar ol Glanffrwd. Godidog yw penillion y prif-fardd Berw. Dyma, medd rhai, em y rhifyn cyfoethog ac amrywiaethol hwn. I I PERSONOL. Yr oedd Collingwood yn un o'r mor wyr dewraf welodd Prydain Fawr Dywed rhai ei fol yn haeddu yr un anrhydedd a Nelson O'r amser pan aeth i'r mor fel midshipman,' yn hogyn unarddeg oed hyd 36, ni welodd ei gartref un- waith. A phan fu farw, yr oedd wedi bod am saith mlynedd heb wel'd ei wraig a'i blant. Dyn o gymeriad gl&n, a dewrder anghyffredin, yn wladgarwr i'r earn. Gwelaf fod cwestiwn poenus y I Dilapidations' yma yn destyn ystyriaeth ddifrifol yr Esgobion yn y Confocasiwn. Gobeithio y d'ont i ryw ben- derfyniad a rydd derfyn ar y gyfundrefn aniodd- hans bresenol. Medde'r areithiwr hyawdl wrth dwr o country bumpins' I Take the figures forty three million, seven hundred and fifty three thousand, eight hundred and sixty two, in 1906, and sub- tract thirty nine million, four hundred thousand, six hundred and eighty seven, in 1907, allowing 1'27 per cent for increase of population. Gentle- men, you can draw your own conclusions.' A medde'r enlightened audience' :Ear, 'Ear.' Dyma advertisement' yn Punch am Ionawr 5, 1910 :—'Energetic Welshman (used to hand- ling large sums of money) wants position as Chancellor. Previous experience. Applicant only giving up present situation through em- ployers going to country. The Hen Roost,' Limehouse, E.' Nid oedd y gri yn erbyn yr Arglwyddi ar hyd yr amser ond sham.' Erbyn heddyw farce' yw, ac yn fuan iawn daw i fod yn 'scandal'—yn warth. Mae nhw'n deyd mai y rheswm fod y Twrciaid yn yfed cymaint o goffi yw am eu bod yn credu fod coffi yn gwneyd muscle.' Dyna 'sponiad ar y ffaith fod pob Twrc yn Mussulman.' Mae son fod Search Expedition ar droed i chwilio am Doctor Cook. Dyna arferiad yr Arctic explorers' yma Medde'r Daily Telegraph :'—'Speaking at an overflow meeting at the Corporation Baths.' Doniol, Gwir a ddywedodd yr ymgeisydd Rhyddfrydol aflwyddianus We will take our defeat like ladies and gentlemen. What we have got to do is to get ready for the next one.' (' Loud cheers'). Pan y rhoddodd Mr. Gladstone yr awen lyw- odraethol i fyny, ac y rhoddodd ffarwel i'w gyf- eillion am y tro olaf, yn 10, Downing Street, dyma oedd ei eiriau God bless you all.' Gweinidog du ei groen yn croesawu un o'r praidd yn ol ar ol bod ar ddisperod. Yn y pwl- pud Ah sutny am rej'iced to see Bruddah Cal- houn White in de chu'ch once mo'. Ah's glad Bruddah Calhoun ha' saw de error of his ways at lawst, fo' dere is mo' joy obah one sinnah dat re- penteth dan obah de ninety an' nine Ond dacw Bruddah Calhoun ar ei draed, ac yn dweyd yn bur hallt Oh de ninety an' nine needn't crow. Ah could tell some things erbout de nine- ty an' nine ef Ah wanted ter.' Y dyn cyfoethoca yn Switzerland.Dr. Gabrlni —newydd farw. Gadawodd dros filiwn o bunau ar ei ol. Ei oed, 95. Gwisgai ddillad shabby' iawn—truenus. Cadwai erddi a pharc ardderchog; a'i hofF waith oedd derbyn tips' ar ol myn'd a hwn a'r llall o amgylch y gerddi—oddiar law rhai c,Y a dybient mai un o'r garddwyr tlawd oedd. Nid oedd yn 'smocio nac yn yfed, nac yn betio, a bostiai ei fod yn byw ar bed war swllt y dydd. Oed Arglwydd Cromer, 69. Medde'r Jndge newydd wrth y 'darky Well, Tom, I see you are in trouble again.' Yes, sah,' medde Tom, the last time jedge you was ma lawyer.' Where is your lawyer this time ?' A,' medde Tomos gwalltgwlan, I I ain't got no lawyer this time I'm going to tell the truth.' 'The Life of John Redmond, M.P. newydd ei gyhoeddi. Bydd Mr. Asquith yn gwneyd cais am dano cyn hir. Beth yw 'arian?' 'Money is a goodly lamp which the Lord God attaches to insignificant people, so as not to lose sight of them in His creation, just as a good housekeeper puts a big label on a little key.' Dyma ddeffiniad arall: Money is a figure which gains in importance as there is a cypher attached to it.' Dyn enwog yn y Clasuron yn cael ei gamgy- meryd am fathematician enwog, ac yn ateb fel hyn :—' Sir, it gives me pleasure to say that never in my life have I possessed a sufficient degree of cunning even to solve a quadratic equation.' Medde Frederick the Great' wrth ei feddyg, How many men, my doctor, have you sent into the other world ?' A medde'r doctor '— Nearly as many as your Majesty, but with infinitely less glory.' Oed Mark Twain, 76. Mae yn dioddef o'r hyn a elwir yn 'tobacco heart.' And yet,' meddai, I never smoked more than one cigar at a time.' Mae hanes I Confocasiwii' yn werth ei astudio. Y cbydig wyr y dyn cyffredin am gyfansoddiad y ddau Dy yma. Tarawiadol dros ben, a grymus, oedd geiriau y Brenin yn ei atebiad i'r ddau Dy. Yn werth 'wheil' ei ddarllen ddwywaith a thair. Medde'r dyn hofF o fagu Rowls :—' Have you read that article on How to Tell a Bad Egg ?' A medde John Digri o'r Dre':—' No but if you have anything important to tell a bad egg, my advice is, break it gently.' Y I teacher' yn rhoi gwers ar hanes Ananias a Sapphira ac yn gofyn i'r plant 'Why is not everybody that tells a lie struck dead f Ar ol hir ddistawrwydd, dacw Twm bach Gotfelfet yn ateb Because there would'nt be nobody left.' Sut ydych chwi yn leicio y rector newydd,' medde diweddar Esgob Llandaf wrth I gemist' o'r lie. Hwnw yn siglo pen, I But you did not like his predecessor either,' medde'r Esgob. Well, no,' medde'r chemist, but I think, my lord, if I could have blended the two together with my pestle and mortar I could have made one perfect Rector out of the compound.' Curad—dipyn yn dwp--yn cael te yn mbalas yr Esgob. Y Ficer yno hefyd a chwmni go lew. Y Curad druan yn dweyd rhywbeth dylach nag arferol. Ar y ffordd adref, dacw'r Ficer yn dweyd wrth y Curad—' Look here, Jones, you are an ass Why cannot you keep quiet, instead of making your asinine remarks ? I am speaking to you now as a brother- Chwerthin mawr. Y Ficer—yn methu dyfalu—am foment—beth oedd achos y dhwerthin. Twp. Lodes fach yn dangos ei chopi book i'w thad- ei chopi book cyntaf. Y tad yn ei chanraol am ei gofal i gad w'r copy' mor lan. Ond dacw un page—a dau 'blot' bach arno. Dacw llaw y lodes fach drostynt, a chin edrych ym myw llygad ei thad, dacw hi yn dweyd— Papa, don't see the blots.' Beth yw Maddeu i ni ein dyled- ion,' ond ymbil y plentyn yn dweyd— Father, do not see the blots.' Esgob ar ei daith. Y trSn yn cyraedd 'steshion.' Yr Esgob yn rhoi ei ben allan ac yn 11 gwel'd hogyn bach a basgedaid o bethau i fwytta. Boy,' medde'r Esgob, how much are the mince- pies f Three pence each, Sir.' Rhoddodd yr Esgob chwech iddo gan ddweyd—' Give me one and have one yourself.' Cymerodd y bachgen y chwech A gyda un llaw estynodd y tair ceiniog o newid. Gyda'r llaw arall yn rhoi'r mincepie yn ei geg—gan ddyweyd—' There was only one left, 11 z;1 guv'nor,' fel y pwffiai y trSn allan. Os cewch eich pigo gan wenyn, rhwbiwch a thipyn o bridd sych, a derfydd y poen, a bydd gostyngiad yn y chwydd. Yn well ganwaith na. tincture of iodine.' Mae yna fath o fwnci yn Java hoff iawn ganddo grancod. Ei ffordd o'u dal yw rho'i ei gynffon yn y pyllau dwr nes y cydia cranc yn dyn wrthi. Yna lladd y cranc a'i fwyta. I yru pob pryfyn o'r ystafell, dali wch fymryn o 'camphor' uwchben goleu canwyll heb adael iddo losgi. Cas ganddynt yr arogl, a ffoant. Meddai Esgob Llundain ;—' There is so much good in the worst of us, and so much bad in the best of us, that it does not become any of us to speak ill of the rest of us.' Paham eryr i gynal y Beib11 Eryr sydd elyn i'r sarff. Eryr sydd gysgod o Sant loan, yr hwn a edrycbodd ar Haul y Gogoniant. Hefyd gwel Ezekiel i. 10. Y ddwy aden-y ddau Destament. Dyma stori am y Deon Swift. Yn cael gwa- hoddiad i ginio. Digon o lestri ar y bwrdd, ond ychydig iawn 0 fwydydd. Gofynwyd iddo ofyn bendith. Dyma ddywedodd :— I Oh Thou, who blessed the loaves and fishes, Look down with pity on these dishes For if they all our bellies fill, 'Twill be an heavenly miracle. Amen.' Dyn yn gorwedd ar ei hyd yn y fainc yn y steshion ac yn gruddfan. John Titotal, a cbot ddu am dano, yn myn'd ato ac yn dweyd,' My friend, did you ever reckon that if you had placed the price of just one drink out at compound interest at the time of the building of Solomon's Temple, you would have to-day at your disposal a sum of Y,2,064,576 ?' No,' medde'r llall, gan godi ar ei benelin :—' No, I had'nt figured that out. But I'm a bit of a lightning-calculator myself, and if you don't go away about 143 yards in 8t seconds, I'll hit you 15 times between your two optics and make you see 59,499 stars. I've just had five teeth pulled out for 35s., and at the present moment I feel two times mad.' Gyrwr y motor' yn lladd iar. Yn myn'd a hi at wraig y ty ac yn datgan ei barodrwydd i dalu am ei gwerth. A medde'r ddynes Ob, I'm so much obliged to you. I've been trying to catch that hen for three days to cook it for dinner, and I never could so much as lay a hand on the pesky thing. Thank you, sir, thank you.' 'Here is twopence,' medde'r hen 'grimpin' clos wrth dramp.' But mind you, I'm not giving it because you deserve it, but because it pleases me.' Thank you, sir,' medde Tired Tim, thank you, but why not make it sixpence, and have a real good time.'?'

Rhai Sylwadau ar "The Case…

Advertising

LLUNDAIN.

Yr Eglwys a'r Tlawd.