Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
Llith Betsy Jones.
News
Cite
Share
Llith Betsy Jones. Os ydwyf yn cofio yn iawn, hwylio yr oeddem pan ysgrifenais ddiweddaf ar gyfer myn'd efo meistar i Lundain a'm gair diweddaf wrth Abigail oedd fy mod yn myn'd i gael bonnet newydd o Caxton Hall, Llanbodr, ond erbyn chwilio cawsom nad yw y nwyddau hyn i'w cael yn Caxton Hall. Mewn atebiad i'r llythyr a anfonodd meistar i'r manager, derbyniodd yr hyn a ganlyn :Dear sir,—We duly received your kind order for bonnet. The 1837 Jubilee shape, trimmed with shades of violet, mauve, and heliotrope, with a tinge of wild hyacinth, a grey blue I Bleu d'Orleans.' But we regret to say we do not deal in millinery. But if you should require any printing done—harvest home placards, Advent and Lent lists of services, visiting cards, lithographic headings, &c., &c., we shall be glad to supply you. We also deal in stationery in all its branches. For bonnets, &c., we recommend the Emporium." Yr ydym yn nodi hyn yn y fan hon er mwyn hysbysu Abigail a phawb arall o ran hyny, y gall hi gael pob peth at ei gwasanaeth, ond dillad ac ymborth, yn Caxton Hall, Llanbedr. Hwyrach, y byddai yn well i ni beidio myn'd yn mhellach yn nghyfeiriad y dillad a'r ffasiynau, rhag i mi enyn gwg Eirian- wen,' oblegid mae hi yn awdures enwog ar y pethau hyn. Yn wir,rhyngoch chwi a minau, nis gallaswn lai na gwenu wrth ddarllen llith diweddaf Eirianwen' ynghylch sut i lanhau dillad sidan. Pa faint ohonom ni tybed sydd yn gallu fforddio i gael dillad sidan a'r cyflog mor fechan ag ydyw yn bresenol. Ond dyma fi wedi crwydro oddiwrth y pwnc. Dyma engraifft arall yn dangos gwirion- edd yr hen ddy wediad.JOs dechreuwn ni, y merched, siarad am ddillad a ffasiynau nad oes dim gwybodaeth pa bryd y tynwn ni ben ar y llinyn. Ond yn y • fan hon rhaid i mi gynyg, ac yn absen- oldeb Abigail, eilio, a carried unani- mously, ddiolchgarwch calon i I Senex am ei sylwadau call a thyner am danom ni, y merched, yn ei Nodion yr wytbnos ddiweddaf. By-the-bye, pwy ydyw Senex ?' Hen lane yw ef, tybed ? Os taw e', fydd o ddim yn hen lane yn hir ar ol ei sylwadau rbagorol. Ond ydi o yn drugaredd cael ambell un fel Senex i ddyfod allan i ddangos ein defnyddiol- deb ni, y merched, fel Gwarcheidwaid, &e. WeI, mi roeddwn yn dotio, ynte, pan oedd ef yn dweyd am ein lledneis- rwydd, a'n tynerweh, a'n gofal ni am y tlodion,' &c. Coeliwch ch'i fi, nid yw y dydd ymhell pan fydd yna alwad mawr am danom i fod yn aelodau Seneddol. Hei, Iwc. Yr oeddwn wedi bwriadu rhoddi ych- ydig o hanes fy nhaith i Lundain, &c., ond mae y daith hono yn stale news erbyn hyn, fel nas gallwn ond crybwyll rhai o brif nodweddion y daith, a buaswn wedi gwneyd hyny yn gynt oni b'ai fy mod allan o bapyr, a dyma fi heddyw, fel y gwelwch, yn anfon gair ar y papyr sydd yn cael ei anfon or siop i lapio te, a shwgwr, a sebon, a hyn sydd yn gyfrifol am aflerweh fy llawysgrifen, ond cefais air o Caxton Hall heddyw yn dweyd yr anfonir ef yma ar unwaith. Wel, amoan ein hymweliad a Llundain oedd i gynorthwyo y Cymry i gadw Gwyl Dewi Sant. Yr oedd Arglwydd Esgob Ty Ddewi yn pregethu yn Eg- lwys Gadeiriol St Paul, a Chanon Jones, o Fostyn, yn pregethu yn St Benet's y Sul o'r blaen. Clywsom y ddau. Pre- gethodd yr Esgob yn rhagorol, er per- ffaith foddlonrwydd i'r deuddeg neu bymtheg mil oedd yn ei wrando. Nod- weddid pregeth yr Esgob gan y difrifol- deb hyny ag sydd bob amser i'w ganfod pan y saif yr Esgob Owen rhwng y byw a'r meirw,' yr hyn hefyd sydd yn an- hebgorol i lwyddiant pregeth a phre- gethwr, ac am Canon Jones, clywsom ef yn gwneyd mwy o swn lawer gwaith pan fyddai ganddo lai o sylwedd. Un peth newydd ynghylch Gwyl Dewi Sant yn Llundain' eleni oedd fod ein cyfeill- ion Ymneillduol yn teimlo nad oedd yr wyl yn ddigon cenedlaethol, am ei bod yn cael ei chynal yn Eglwys Gadeiriol St Paul, ac o dan na-wdd yr Eglwys Genedlaethol, perthynol i ba un yr oedd Dewi Sant yn arwr mor enwog. Tyb- ient hwy y byddai yr wyl yn fwy cen- edlaethol trwy iddi gael ei chynal yn Nghapel Dr Parker, a ehael y gwahanol sectau i gymeryd rhan yn y gwasanaeth. A dweyd y lleiaf, mae yna rywbeth yn ymddangos yn paradoxical yn hyn i'n tyb ni. Un o brif nodweddion cymer- iad yr hen Sant Dewi oedd iddo mor llwyddianus wrthwynebu sectyddiaeth, fel y gwnaeth yn nghymanfa fyd-enwog Llanddewi-brefi. Pe yn dathlu gwyl er cof am Oliver Cromwell, buasai yna ryw gymaint o gysondeb yn yr ym- ddygiad hwn. Na, tebycach yw mai cenfigen at lwyddiant Gwyl Dewi yn Llundain oedd achos gwreiddiol y mud- iad hwn ar ran yr Ymneillduwyr. Modd by nag, ni wnaeth eu hymdrech yr un niwaid i'r cynulliad yn St Paul's, oblegid barn pawb oedd fod y gwasanaeth yn St Paul's eleni yn fwy llwyddianus ymhob ystyr nag erioed. Rhaid i ni yn awr adael ein hanes yn Llundain, y gwahanol leoedd yr ymwel- som a. hwynt yn y Brifddinas, y modd y darfu i ni golli meistres yn nghanol y dorf yn St Paul's, a chanoedd o bethau ereill trwy grybwyll yn unig un lie yr ymwelsom agef, sef yr 'Home and Colonial School for Training Teachers.' Saif yr adeilad hwn yn Gray's Inn Road, King's Cross. Hwn yw y coleg pwysicaf a fedd yr Eglwys yn y deyrnas. Ei amcan yw addysgu merched, a'u cymhwyso i fod yn athrawesau mewn ysgolion dyddiol ag sydd yn addysgu plant yn egwyddorion ac erthyglau Eglwys Loegr. Y prif- athraw presenol yw Canon R. D. J. Thomas. Mae gan Canon Thomas goleg arall hefyd o dan ei arolygiaeth, sef Highbury Hill. Teimlem ddyddordeb neillduol yn Canon Thomas oherwydd ei fod yn enedigol o Sir Fflint. Brodor o Bagillt yw, ac y mae yn anrhydedd i'w blwyf genedigol, i'w wlad, ac i'w genedl. Treuliasom amser hapus tra yn mwyn- hau caredigrwydd Canon a Mrs Thomas. Rhaid i ni ddweyd gair am y Cwmni newydd. Da genym ddeall ar awdurdod Proffeswr Camber-Williams fod arwydd- ion na wna yr Haul ddim machlud o ffurfafen yr Eglwys mor fuan ag yr ofnid y gwnai, a bod llewyrch y LLAN yn cynyddu. Mae genym gred ddiysgog y cyfyd Eglwyswyr Cymru o'u difraw- der, ond iddynt gael amser. Caffed amynedd ei pherffaith waith,' a pheidied Delta' ac ereill a bod yn rby frysiog i gondemnio. Cofus genym weled sylw- adau gan Delta er's ychydig yn ol yn beio proctoriaid Esgobaeth Llanelwy am eu difaterwch yn mudiad y cwmni new- ydd. Gwyddom maiawyddfryd Delta' am weled llwyddiant ar yr achos hwn a barodd iddo wneyd y cyfeiriad, ac am y rheswm hyn gwaith rhwydd yw maddeu iddo, pwy bynag yw; ond yr oedd ei syniadau yn gamsyniol, oblegid gwelwn fod ein Proctor o Fflint wedi rhoddi ei ysgwydd dan y baich, a gwyddom, pe angen am gynorthwy pellach oddiwrtho, er cael dwfr digen dwfn i nofio'r eweh, na fyddai Rheithor Fflint ddim yn ol. Yr ydym yn teimlo yn ddiolchgar i Delta' a phawb am geisio symbylu pawb i wneyd eu rhan, a thra y gwna ef ei ran trwy ymosod ar y rhai hyny nad ydynt hyd yn hyn wedi gwneyd dim, mi geisiwn ninau ddweyd gair am y rhai hyny sydd wedi dyfod allan i gynorthwyo Meros. Wrth edrych dros y rhestr, gwel wn fod yna lawer ag sydd yn haeddu canmoliaeth, ac yn eu plith mae Bettws Ammanford-' Bettws maes o'r byd.' Gwyddom yn dda am amgylchiadau y plwyf hwn. Mae y plwyfolion, y rban fwyaf o'u hamser, o dan y ddaear, os nad dan y dw'r,' ac eto mae yma un cyfranddaliwr a chanddo ugain o gyfran- au; a dyna y plwyf cymydogol—Bryn- aman-a chanddo bymtheg. Da iawn. A dyna Caerfyrddin-St Pedr. Da yw gweled y sant hwn yn cadw i fyny un o nodweddion ei gymeriad, sef bod yn flaenllaw ymhob peth. Cockett eto dyna ddechreu rhagorol; more to come,' gobeithio. A chwareu teg i blwyf gwledig Cilgeran. Eglwysnewydd, gwna ymdrech hon i lawer hen eglwys wrido. Golden Grove mae yr enw hwn yn ein gwahodd i ddisgwyl ymdrech euraidd. Gorseinon mae y ffaith fod yno ddeg o gyfranau yn profi fod yn y plwyf hwn rywbeth heblaw alcan (tin) fod yno bres.' Gowerton plwyf tebyg o ran amgylchiadau allanol. Da genym ddeall nad yw hwn wedi ei lyncu gan y Saeson, fod yno rai yn darllen y LLAN. A ydyw Mr Cristopher yn fyw yno yn awr, os ydyw, cofiwch Betsy Jones ato. Deg o Haverfordwest. Na ddigaloned Lord Emlyn ar ol hyn. Y nesaf ar y list yw Llanbedr, gyda 327. Rhaid cyfaddef mai dyma y goreu o ddigon. Go up top,' fel bydd yr Examiners a'r Inspector of Schools yn dweyd weithiau, ond cofiwch chi mae Llanbed yn disgwyl llawer am eu 327, ac mi cant ef hefyd, oblegid oddi yno y bydd yr Haul yn codi cyn hir, ac heblaw hyny mae gan y byd a'r Bettws hawl i ddisgwyl pethau mawrion o Athens Cymru. Yn nesaf at Llanbedr y daw Abergwili; yma, fel y g-wyr pawb, y mae Arglwydd Esgob Owen yn byw, ac nid yn Nhy Ddewi. Y nesaf o ran sefyllfa arianol yn Esgobaeth Ty Ddewi yw Llandovery, cartrefle awdwr I Canwyll y Cymry.' Byddai yn resyn o beth pe na wnaent hwy eu goreu dros yr Haul a'r LLAN. Cymydog agosaf Llandovery (ar y list) yw Llandyfriog, a chredwn yn ol amgylchiadau y ddau blwyf fod Llandyfriog yn llawn mor anrhydeddus a Llandovery. A dyna Llandysiliogogo; very good, a Llan- dyssul eto. Da iawn, plwyf a digon o hyd a lied mae'n wir, ond plwyf hefyd sydd yn teimlo oddiwrth ddylanwad elfenau ag sydd yn wrthwynebol i belydrau yr Haul ac athrawiaethau y LLAN. Very good, Llandyssul; more to come oddiyma hefyd efallai.
Difyrion Gwrthun.
News
Cite
Share
Difyrion Gwrthun. Er gwaethaf yr ymdrechion a wneir i wareiddio pobl, mae yn ffaith alarus fod hen reddfau bwystfilaidd a barbaraidd yn parhau mewn bri. Yn Vienna, Ga., America, yn ddiweddar, daeth llu mawr ynghyd i weled a mwynhau dienyddiad adyn o'r enw Ashbury Mills am lofruddio ei wraig. Pan ar gymeryd lie derbyniwyd brys- lythyr oddiwrth Lywodraethwr y Dalaeth yn gorchymyn gohiriad. Rhag siomi y bobl, aethpwyd i garchar gerllaw a llusgwyd negro allan ohono, gyda'r amcan o'i ddienyddio ef er difyru y dyrfa. Dygwyd y truan yno mewn gwagen, ond gyda'i fod yn cyraedd y fan llwyddodd i ymryddhau o ddwylaw ei geidwaid, neidiodd oV wagen, ac mewn enyd diflanodd o olwg y oedfa. Murmurai y bobl Dyna drueni iddo ddianc, onte 1'
DOLBENMAEN.
News
Cite
Share
DOLBENMAEN. "TROS LLUNDAIN."—Traddodwyd dar- lith ar y testyn uchod yn Ysgoldy y Bwrdd, Garm, Dolbenmaen, nos Sadwrn, Mawrth y 26ain, am saith o'r gloch yn yr hwyr. Eglurwyd y ddarlith trwy gymorth magic lantern anferthol gan Mr Rynan Hall, Tanlan, Criccieth, yr hwn a fu mor garedig a rhoddi ei wasanaeth gwerthfawr yn rhad ac am ddim. Eglurwyd y ddarlith gan y Parch W E Jones, rheithor y plwyf. Elai yr elw at gynorthwyo Mr Griffith Jones, Back London Road. Gwasanaeth- wyd yn y cyfarfod gan seindorf bres Garn yn rhagorol dan arweiniad Mr Robert Jones, Penybryn. Cynorthwywyd wrth y drysau gan y Meistri Edward Nash, Richard Lewis, Hugh Jones, Tycanol, Robert Griffith, London Road, a Humphrey Jones. Cynygiwyd diolchgarwch ar ran y teulu i Mr Rynan Hall am ei wasanaeth, i'r Rheithor am drefnu y cyfarfod, ac i'r seindorf bres gan Mr 0 R Hughes. Bryn- yrefail,ac eiliwyd gan Mr John Owen,Pant. CONFFIRMASIWN.-Dydd Iau, Mawrth 31ain, derbyniodd 23 o y.mgeiswyr o Eg- lwysi Dolbenmaen, Penmorfa a Phenteg yr ordinhad Apostolaidd ac Ysgrythyrol o Gonffirmasiwn yn Eglwys St John, Porth- madog, gan Arglwydd Esgob Abertawe. GWELLHAD. — Fe fu Eglwyswr ieuanc o Garn, Dolbenmaen, yn dioddef oddiwrth afiechyd poenus am fisoedd a'r wythnos cyn y diweddaf aeth dau operation bwysig yn un o chwarelau Nantlle, ac y mae yn dda genym hysbysu ei fod yn gwella mor dda ag y gellid disgwyl. YR EGLWYS NEWYDD.—Llawer sydd yn gofyn pa bryd y dechreuir adeiladu yr Eg- lwys Genhadol newydd yn y Garn 1 Mae y tir eisioes wedi ei addaw, ac y mae erbyn hyn 120p or arian angenrheidiol wedi eu casglu. I Caffecl amynedd ei pherffaith waith,' ac efallai os coronir yr ymdrechion a llwyddiant y gwelir eglwys newydd Dewi Sant wedi ei gosod i fyny cyn y bydd yr haf drosodd.-W.B.,T.
NODIADAU GLANAU RHYTHALLT.
News
Cite
Share
NODIADAU GLANAU RHYTHALLT. LLANDDEINIOLEN. Coitffirmasiivn. -Dyd d Sul diweddaf, aeth nifer lluosog o Eglwys y plwyf, ynghyd a. St Helen's, i Eglwys Crist, Caernarfon, i gae eu conffirmio gan Arglwydd ;Esgob Abertawe, yr hwn oedd yma yn gwasan- aethu yn lie Arglwydd Esgob Bangor. Yr oedd y nifer o'r ddwy-eglwys yn 49. Y mae hyn yn brawf amlwg fod yr hen Eglwys yn llawn gwaith, ac yn myned ar gynydd, trwy ymdrechion y Parch D. O. Davies, rheithor, a'r Parch D. P. Thomas, curad. Gobeithiaf y caf weled y rhai a gonffirmiwyd y Sul di- weddaf i gyd yn cyfranogi o'r Cymun Ben- digaid foreu Sul y Pasg. Rho'wch foreu eich hoes-yr amser goreu—i'r Gwaredwr. Bydded iddyrt barhau yn eiddo iddo Ef bytb. Dan dy arfau, dan dy glwyfau, Cledd y Gair a tharian ffydd Dos dan ymladd heb ddiffygio, Yn dy nerth nes cael y dydd. Yr Wyl Gerddorol.-Y mae y corau yn brysur barotoi gogyfer a gwyl fawr gerdd- orol archddiaconiaeth Bangor, a gynbelir yn yr Eglwys Gadeiriol y mis hwn. Y mae Mr Westlake Morgan yn cyfarfod y gwahanol gorau yn Llandinorwig nos Lun nesaf am 7.30. Gobeithiaf y caiff ei foddhau gan y corau. Y mae ef wedi bod yn Eglwys St Padarn, Llanberis, yr wythnos ddiweddaf, ac wedi cael ei foddloni yn fawr. Yr Ysgol Ganolraddol.—Trwy haelion;"y boneddigion haelfrydig, Mr Assheton Smith, Yaynol, yr hwn a roddodd dair acer o dir a lOOp Lloyd Hughes, Coedhelen, 50p; Mr Barnard, Brynbras Castle, 50p; W. Rath- bone, 50p; Mr Tate, Lerpwl, lOOp ac am- rywjo foneddigion ereill, y mae yr ysgol yn cael ei hadeiladu mewn man canolog rhwng plwyfydd Llanddeiniolen, Llanberis, a Llanrug. Y mae y pwyllgor wedi penodi Mr R. Ll. Jones, archadeiladydd, Caernar- fon, i barotoi planiau o'r ysgol. Ceir rhag- olygon disglaer y byddant yn dechreu yn ddiymdroi.
LLANRUG.
News
Cite
Share
LLANRUG. Etholiad y Bwrdcl Ysqol.-Yr wythnos ddiweddaf, cymerodd yr uchod le. Da oedd genyf fod Eglwyswyr Llanrug wedi rhoddi eu hymgeisydd yn ail ar y rnestr. Heddyw y mae y Parch D. Collwyn Morgan yn ymgeisio am sedd ar y Cyngor Dosbartb. Nid yw yn bosibl cael ei well. Gobeithiaf y bydd y plwyfolion yn ei roddi yn anrhy- deddus ar ben y rhestr.
PENISA'RWAEN.
News
Cite
Share
PENISA'RWAEN. Y Garawys.—Cynhaliwyd gwasanaethau yn ystod y tymor hwn yn yr eglwys uchod, pryd y gwasanaeth wyd gan amryw o offeir- iaid dyeithr, sef y Parchn W. Richard, B. A., Llandinorwig; E. H. Griffith, Caer- ,narfon; D. Collwyn Morgan, Llanrug; ynghyd ag amryw ereill. Gobeithiaf y bydd arddeliad mawr ar y gwaith.-loan Wyn.
NODION C GRICCIETH.
News
Cite
Share
NODION C GRICCIETH. CONFFIRMASIWN.—Yn Eglwys St Deiniol nos Fercher, y 30ain cynflsol, cynhaliodd Esgob Abertawe y ddefod o arddodiad dwy- law i 35 o ymgeiswf r. Yr oedd y cynulliad yn rhifo oddeutu 500, a chafwyd gwasan- aeth effeithiol iawn. Traddododd yr Esgob anerchiad gwir alluog yn y ddwyiaith, ac yr oedd yn amlwg fod y gynulleidfa barchus yn cael mwynhad oddiwrth ei sylwadau. CYMDEITHAS LENYDDOL A DADLEUOL YR EGLWYS.—Yn yr ystafell blwyfol cynhal- iwyd y trydydd o'r cyfarfodydd hyn. Yn absenoldeb Mr W. Morgan, cymerwyd y gadair gan Mr Rainford. Y ddadl y tro hwn oedd, 'Pa un ai cyfoeth ai cymeriad sydd yn cael mwyaf o ddylanwad.' Cymer- wyd ochr cyfoeth gan Mr Morris Williams, Ty'nllan, a chymeriad gan Mr W. Jones, Bryneifion. Siaradwyd yn alluog ar y ddwy ochr gan yr agorwyr, a chymerwyd rhan yn y ddadl gan Mr Richard Jones, masnach- ydd, Vienna House, yr hwn a siaradodd yn hynod o alluog Mr Walter Jones, Mynydd Ednyfed; Mr John W. Jones, oriadurwr, Vienna House; E. E. Owen, Plymouth a chafwyd gair gan amryw foneddigesau ar y ddwy ochr. Wedi pleidleisio, cafwyd fod cymeriad yn uwch o gryn lawer. ETHOLIAD Y CYNGOR DiNESIG.-Cymer- odd yr uchod le ddydd Sadwrn, o ddau hyd wyth o'r gloch. Yr oedd eisieu 15 aelod, ac yr oedd 20 yn ymgynyg, a dewiswyd y rhai canlynol: --T. Burnell (E), 220; Dr Davies (A), 208 R. Thomas (M.C.), 192 W. Watkin (E), 172 J. W. Roberts (M.C.), 169; J. T. Jones (M.C.), 167; Palmer (E), 159 J. W. Bowen (E), 157 Humphrey Humphreys (M.C.), 147 O. T. Williams (M.C.), 131 Evan Jones (M.C.), 128; R. P. Thomas (W), 118; W. G. Evans (E), 115; John Jones (A), 110; Owen Parry (E), 109. Cafodd un hen aelod ei daflu allan, ac yr oedd aelod wedi marw, felly y mae dau aelod newydd i fewn, a'r rhai hyny yn Eglwyswyr trwyadl, sef Mri W. G. Evans, adeiladydd, ac Owen Parry, Refreshment. Cariwyd y gwaith ymlaen yn hollol ddidramgwydd gan Mr Thomas Jones a Mr Tobias, cyfreithwyr ac ysgrifen- wyr y Cyngor.