Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Llythyr o Bydychain.

News
Cite
Share

Llythyr o Bydychain. Yn 18G9, agorwyd drysau y Prifysgol- ion i'r Ymneillduwyr. Ar ol hyn, yr oedd yr Ymneillduwyr yn cael yr un manteision a'r un breintiau a'r Eglwys- wyr, ac y mae Ymneillduwyr ac Anghyd- ffurfwyr heddyw, yn Rhydychain, yn byw ar haelioni Eglwyswyr. Ac eto, mor anewyllysgar ydynt Pan yma, dro yn ol, ymffrostiai y Prifathraw Edwards, Aberystwyth, mai efe oedd y cyntaf o'r Ymneillduwyr ddaeth i Rydychain. Gresyn oedd gwrando ar frawd yn codi ar ei ol ac yn ei amddifadu yn gyfan- gwbl o'r "anrhydedd" hwnw, Fel y dywedasom, y mae Ymneillduwyr yn hollol ar yr un tir ag Eglwyswyr. Ond meddyliwn fod ganddynt ofn braidd i'w plant gyd-gymdeithasu ag Eglwyswyr, rhag ofn eu gwyro oddiwrth y 44 ffydd ac y maent wedi adeiladu coleg iddynt hwy. eu hunain, ac yn gauedig i'r Eg- lwyswr dienwaededig Mae pob bachgen ymuna a'u coleg hwy yn cael hyn a hyn yn flynyddol. Sport fuasai gweled Deddf Seneddol yn cael ei phasio er agor drws Coleg Ymneillduol Mansfield i bawb, fel y c'ai Eglwyswyr, ac eraill, ran o'r ysbail Ymneillduol am unwaith. Maent hwy wedi.byw, ac wedi tewychu, nid ychydig ir ysbeiliadau Eglwysig. Yn perthyn i'r Coleg mae capel, lie y pregethir bob Sul gan un o gewri y pwlpud. Yn hyn maent yn synhwyrol, a rhaid cyfaddef eu bod yn dwyn eu dynion goreu yma, tra mai eithriad yn y Varsity yw cael pigion yr Eglwys. Y Sul diweddaf, ar ol bod yn gwrando ar y Canon Paget yn y Varsity Church, aethom i wrando y Dr. Dale, yn Mansfield. Cydnabyddir ef fel un o'u pregethwyr goreu. Nis gwn pa sawl gradd mae wedi ddisgyn yn eu golwg ar ol gwrthod addoli delw Hawarden, a sefyll i fyny dros Undeb yr Ymerodraeth. Ond cafodd gynulliad gorlawn, er mai bychan oedd y capel. Yr oedd yno ffenestr ddeheuol liwiedig, peth go newydd, fuaswn yn meddwl, yn hanes Ymneillduaeth, ac hefyd organ. Yr oedd yna stalls," fel mewn Eglwysi Cadeiriol, i'r men of light and leading." Dyma efelychu yr Eglwys eto mewn tri o bethau pwysig. Ychydig flynyddoedd yn ol, ac yn awr mewn llawer man yn Nghymru, gwell fuasai gan lawer Ym- neillduwr farw yn bagan na throedio y fath le. Da genym eu gweled yn derbyn dysg fel y maent yn heneiddio. Pre- gethodd Dr. Dale yn bur dda, er nad mor dda ag y mae son am dano. Yr oedd yn darllen ei bregeth, ac yr oeddym braidd yn synu ei fod mor ddibynol ar ei bapyr, canys can wired ag y dychafai ei ben, can wired a hyny ai yn flute arno. Yr oedd yno ganu da a gwresog, yr hen emyn Eglwysig "Holy, Holy, Holy, Lord God Almighty," yn myn'd gyda bias, ac un arall swynol iawn o waith Esgob Wake- field—y poblogaidd Walsham How. Efallai y cawn ymweled a Mansfield eto. Bu pleidebu caled yn yr Union Debat- ing Society, ddydd Sadwrn diweddaf, ynglyn a dewis swyddogion gogyfer a'r tymor nesaf. Yr oedd tri wedi eu henwi am y llywyddiaeth, sef Mri. C. T. Knaus, Trinity J. L. S. Hatton, Hertford a J. A. V. Magee, Merton. Y blaenaf ethol- wyd gyda mwyafrif aruthrol, sef 158 allan o 365. Mae yr Union wedi bod yn brysur yn ddiweddar yn casglu arian at harddu yr ystafelloedd, a chan mai Mr. Knaus oedd y trysorydd, syrthiodd rhan helaeth o'r llafur arno, a dyna'r achos, yn ddiameu, oedd i'r fath fwyafrif bleidebu drosto, f el, cydnabyddiaeth am ei lafur. Gwelirfod Mr. Magee, mabEsgob Peter- borough, ymhlith y rhai gynygiwyd. Cyfrifir ef y siaradwr goreu gan rai sydd yn yr Union, a dywedodd Mr. John Morley, A.S., pan yma amser yn ol, ar ol gwrando ar Mr. Magee yn siarad, nad oedd amheuaeth nad oedd mantell ei dad wedi disgyn arno. Daw tro Mr. Magee am y gadair cyn hir. Etholwyd Mr. A. E. Ripley, Trinity, yn drysorydd, gyda mwyafrif o 11 ar Mr. W. H. Cozens- Hardy, New College. Ac etholwyd Mr. J. F. Williams, New College, yn ysgrif- enydd, gyda mwyafrif o 22 ar Mr. N. E. A. Cotton, Coleg yr Iesu. Yr oedd Due Cambridge, gyda'r General Sir George Harman, y General Godfrey Clark, a'r Col. Lord Algernon Lennon yn myned trwy ein dinas ddydd Mawrth di- wedddaf, i'r Military College sydd ychydig allan o'r ddinas, i weled rhai o gadfridogion y dyfodol yn myned trwy eu disgyblaeth. Yr oedd nifer mawr o bobl wedi tyru ar hyd High-street, ond nid oedd demonstration. Yr oedd y Due yn dwyn uchel ganmoliaeth i waith y Coleg, ac ymddengys iddo gael ei gwbl foddloni yn y gweithrediadau. Mewn araith a wnaeth ar ol y luncheon, lie yr oedcl tua 400 ynghyd, dywedodd, "that sentiment, in the long run, must govern the world," ac nid ydym yn meddwl ei fod neppell o'i le. Cynhaliwyd yma dri o gyfarfodydd ynglyn a gwahanol gymdeithasau yr Eglwys yr wythnos ddiweddaf, a chawn sylwi ychydig ar bob un o honynt. Un oedd cyfarfod ynglyn a'r English Church y Union, yn y Pusey Lecture Room, Keble; Mr. Wakeman, y llywydd newydd, yn y gadair, yn cael ei gynorthwyo gan Esgob Nassau, y Canon Freeling, Provost Worcester, V. S. S. Cole, M. Ben. Oliel, F. W. Spurling, ac eraill. Llawenhaai y cadeirydd fod ygymdeithas yn parhau i enill tir mor gyflym. Yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf, nid oedd Ilai na 11,000 wedi uno a'r gymdeithas. Yr oedd nifer yr aelodau yn cynwys 30,000 o gymun- wyr, a 24 o esgobion, a chredai fod hyn- yna yn brawf digonol fod y gymdeithas nid yn unig yn boblogaidd, ond hefyd yn ddefnyddiol. Yna aeth ymlaen i gyf- iawnhau bodolaeth yr Union; ac er fod y cyhoedd wedi cyfnewid o wrthwynebiad sarhaus i ysbryd goddefiad, credai na fuasai y Church Union wedi cyflawni ei chenhadaeth heb eu harwain un cam yn mhellach, sef i gydymdeimlad deallgar. Buasai yn dda genym ni pe buasai y gymdeithas hon a'r gymdeithas wrth- wynebol y Church Association yn diddymu eu hunain allan o fodolaeth cyn rhoddi unrhyw gyfeiriad yn mhellach. Ond rhaid cydnabod mai yr ochr ym- osodol ddylai gyntaf encilio, neu nid gwiw disgwyl yr AmddiffYllOI i wneyd. Cyfarfod arall gynhaliwyd ydoedd. cyfarfod y Gymdeithas er Ychwanegu Curadiaid mewn lleoedd gweiniaid a phoblog. Yr oedd y cyfarfod dan lyw- yddiaeth Esgob Reading (Dr. Randall), yn Hall Coleg Hertford, yn cael ei gynorthwyo gan y Dr. Paget, y Dr. Chase, Provost Worcester, Warden Keble, y Canon Freeling, ac eraill. Yr ydym yn deall mai difater mae Rhydychain wedi p bod yn y gorphenol gyda'r gymdeithas hon, ac yn methu cael vsgrifenydd lleol, ond bellach mae'r anhawsder hwnw drosodd, gan eu bod wedi bod yn hapus yn newisiad Mr. R. K. W. Owen, St. John's, a diweddar Lywydd Cvmdeithas Amddiff'ynol yr Eglwys yn Nghymru. Cwynai yr Esgob Randall mai ychydig iawn o gymorth mae Cymdeithasau yr Eglwys yn dderbyn oddiwrth levgwyr, ac yn neiliduol lleygwyr dysgedig." Fel engraipht, dywedodd mai anhawdd iawn oedd cael lleygwyr dysgedig ar y llwyfan i siarad dros Gymdeithas er Lledaeniad yr Efengyl, a chredai ei fod y diwrnod hwnw wedi dyfod i'r ffynon i wella'r clwyf. Siaradodd y Parch. C. P. Winter, ysgrifenydd cyffredinol y gymdeithas, a dywedodd, pan benodwyd ef i'r swydd dair blynecld yn ol, mai nifer y rhoddion gyfiwynid gan y gymdeithas ydoedd 687, ond yn awr yr oeddynt yn agos i 11,000, ac felly danfonid allan yn agos i'r nifer uchod o glerigwyr gan y gymdeithas. Yn ddiameu, teilynga y gymdeithas hon gynorthwy gwresog caredigion yr Eglwys. Cyfarfod arall ydoedd Cenadaethau i Forwyr. Ychydig mae pobl heb erioed weled mor yn feddwl am forwyr, a dyna, yn ddiameu, ydoedd yr achos mai cynull- iad teneu oedd yn Wycliffe Hall, dan lywyddiaeth y Parch. P. J. Chavasse, un o'r dynion mwyaf poblogaidd yn Rliyd- ychain. Un 0 weinidogion y gymdeithas (y Parch. T. Stanley Treanor) ddesgrif- iodd waith y gymdeithas, a dywedodd fod ganddynt 53 o stations yn y Deyrnas Gyfunol a'r Trefedigaethau. Siaradodd yn uchel am y morwyr fel corph o bobl, a'r derbyniad gwresog oedd y cenhadwyr yn dderbyn ymhob man ganddynt. Dy- wedodd eu bod yn hawdd eu harwain, ond fod yn llawn mor hawdd eu harwain i ddrygioni ag i ddaioni, ac ar ol desgrifio y temtasiynau gyfarfyddent a hwynt ymhob cornel o'r byd, a'r peryglon oedd- ynt ynddynt-dwy ran o dair yn marw o farwolaeth sydyn—cymhellodd yn daer am gynorthwy i barhau y gwaith da oedd eisoes yn cael ei gtflawni, gan adgofio ei wranaawyr mai y genhadaeth gyntaf i forwyr oedd ar Lan Llyn Galilea. NORTHMAN. Ffydd ydyw sail pob rhagoriaeth,

NODION SENEDDOL

Nodion o Ddeoniaeth y Rhos.