Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
TOWYN.
TOWYN. Er's pan y mae y LLAN wedi ei helaethu, ni welsom banes am y Ue hwn a'r cyffiniau yn ei golofnaa. Mae yn hysbys i Gymru, Lloegr, a Lianrwst fod yr ymdrochle hwn yn dyfod i fwy o n d yn barhaus. Mae hyny i'w briodoli i raddau mawr i sefyllfa ac ansawdd anianyddol y lie, ac i gynorthwy Uawforwyn gwareiddiad- y rheilffordd. Yn dymhorol, mae yn myned ar gynydd cyflym. Mae cyfandrefn o sanitation drwyadl yn cael ei chario allan yn bresenol. Cyflenwir y dref a dwfr pur hefyd o'r ffrwd ris- ialaidd yn ochr y mynydd, dwy filldir o'r dref. Mae peth o'r dwfr hwn wedi ei ddadansoddi, a dywedir am dano fod bron yn anmhosibl cael dwfr mwy pur. Pan orphenir y earthffosydd, bydd y sewage yn cael ei ymarllwys i'r mor ymhell o'r dref, ac mewn man na wna unrhyw niwed i'r traeth. Y traeth goreu yn y byd, medd trigolion y lie, yw hwn. Mae yr hen Gomin hefyd, cyrchfa gwledigwyr Trefaldwyn ac Edeyrnion yn yr haf, ymysg y pethau a fu. Mae esplanade ysblenydd yu cael ei wneyd yn y fan hon, lie unwaith y chwareuid I dau a thri,' a chusan yn y cylch gan y dowcars.' Gelwir y rhai hyn yn 4 ddowcars o'r gair dowcio-ar- feriad wrth ymdrochi—dowcio i lawr ac i fyny yn y dwfr. Yr oedd y mor yn gwneyd gwaith byr o'r tir hwn, ond yn awr cedwir ef yn ol gan fur cadarn. Bydd hefyd fynedfo yn y mur i Ian y mor, a ffordd ar draws yr esplanade ddeg troedfedd ar hugain o led, a llwybr hefyd i bed- estriaid. Ceir golygfa ddiguro o'r fan hon, mor Aberteifi yn ymledu i'r gorllewin,a'r mynyddoedd i'r Dwyrain. Mae gweithrediadau adeiladol h3fyd yn cael eu cario ymlaen yma. Mae chwareufan newydd at fudd yr athletes a'r rhai ieuaine hefyd yn cael ei pharotoi. Yn ystod misoedd y gauaf, cynhaliodd y gymdeithas ddadleuol ei chyfarfodydd yn wythnosol yn y Ddarllenfa. Yn Eglwysig hefyd, nid ydyw y lie ychwaith yn cysgu. Cynhaliwyd cyfarfod- ydd hanesyddol yn y Festri yn wythnosol yn ystod y gauaf—mudiad a roddwyd ar droed gan ein parehus Ficer, a gwnaeth les a budd i'r aelodau. Y cynllun ddefnyddiwyd oedd darllen penod o Lyfr Hanesiaeth Eglwysig (" Lane's Illustrated Notes on Enlish Church History "), ac yna holi yn fanwl i'r hyn a ddarllenwyd. Mae gwir angen am ddosbarthiadau o'r fath yn Nghymru i addysgu yr oes sydd yn cyfodi, ac i'w gwreiddio yn drwyadl yn hanes yr Eglwys, ei hathrawiaethau, a'i gweithrediadau, a thrwy hyny ymlid i ffwrdd y camddarluniadau a'r dall- bleidiaeth sydd yn ffynu mewn perthynas i egwyddorion Eglwysig. Bu Arglwydd Esgob yr Esgobaeth yn cynal Conffirmasiwn yn Eglwys Cadvan Sant, ychydig yn ol. Dyma y tro olaf i'n Hesgob da a duwiol weinyddu yr ordinhad hono yn yr ardal hon cyn ei ymddiswyddiad. Daeth nifer dda ynghyd o Aberdyfi, Abergynolwyn, &c., a chafwyd gwas- anaeth dwys a difrifol. CYLCHWYL LENYDDOL EGLWYSIG ESTIMANER —Cynhelir hon eleni (Llungwyn) yn Aberdyfi. Cyfarfyddodd y pwyllgor gweithredol yn Festri eglwys Towyn, ddydd Sadwrn diweddaf, i wneuthur y parotoadau angenrheidiol at yr wyl. Mae corau o Lanpgryn, Towyn, Corris, ao Aberdyfi yn ymgystadlu ar yr anthem. Cyn- helir y cyfarfodydd mewn pabell, fel o'r blaen. Y Parch. T. Edwards (Gwynedd), fydd yr ar- weinydd. Drwg iawn genym glywed fod y llenor-offeiriad adnabyddus yn cwyno ei iechyd, ond ein gweddi oil ydyw y caiff ad- adferiad buan.-A.
ESGOBAETH LLANDAF.
ESGOBAETH LLANDAF. Cynhaliodd Arglwydd Esgob Llandaf wasan- aethau Conffirmasiwn fel y canlyn yr wythnos evntaf vn Mai o«/ «/ Dynion. Merched. Cyfan. Mai 1. Nolton, Penybont 12 48 60 Newton Nottage 20 42 62 Mai 2. Magor 20 40 60 n Chepstow 17 29 46 St. Ayvan's. 16 7 23 Mai 5, agorodd ei arglwyddiaeth eglwys haiarn newydd hardd yn Aberearn, yr hon a gostiodd fil o bunau, ac a adeiladwyd ar draul Mr. White- house, manager y gweithfeydd yn y Ue. Yn ystod y gwasanaeth, conflirmiodd yr TSggob 46, sef 13 o ddynion, a 33 o ferched, yn gwneyd cyf- answm o 297 mewn tri diwrnod.
LLANELWY.
LLANELWY. CYFARFOD BLYNYDDOL CYMDEITHAS AMDDI- FFYNOL YR EGLWYS -Y mae genym gangen gref iawn o'r gymdeithas uchod yn y ddinas fechan hon er s rhai blynyddoedd, ac y mae yn cryfhau mewn nifer a dylanwad yn flynyddol. Y Milwriad Hore yw y llywydd, a llywydd rhagorol ydyw bef yd-digon o fyn'd ynddo, fel pe bai yn ymosod ar ryw fyddin neu gilydd o ddifrif calon. Cafwyd te parti ardderchog yn yr ysgoldy ddiwedd Ebrill yn yr ysgoldy, a dar- lith, yn cael ei hegluro a Magic Lantern, gan Mr. Mason. Da iawn, Mr. Mason dymunem eich gweled eto yn fuan. Llywyddai y Milwriad, ac yr oedd yr Esgob a'r Deon yn bresenol, Yr oedd yr ysgoL y ear g yn orlawn, a phawb yn gwrando yn astud. Cyn terfynu, cafwyd ychydig eiriau gan yr Esgob a'r Deon. Terfynwyd drwy dalu diolchgarwch i'r darlithydd, y llywydd, a'r bon- eddigesau fu yn gweinyddu wrth y byrddau. Bu y boneddigesau yn hynod weithgar gyda'r gym- deithas a chyda'r te. Rhifa aelodau y gym- deithas hon yn awr bedwar cant. Un diwyd ydyw'r Colonel, Un dengar iawn a siriol, A'r Church Defence ymlaen ar frys Yn rymus a rhagorol. GUILD Y PI,ANT.-Er's blynyddoedd bellach y mae y ficeriaid yn cadw Guild y Plant, ac y mae yn boblogaidd iawn gyda'r rhai ieuaine. Erbyn heddyw mae y nifer oddeutu 180, ac ym- gyfarfyddant un noson bob wythnos i ganu a darllen dan arweiniad y Parchn. T. Lloyd, H. Jonr s, ac < r ill. Ar y cyntaf o Fai, mwynhaodd yr ae. odau wledd o de a bara brith, a Magic Lantern yn 3 r hwyr. Y mae y Guild hon yn cymeryd i mewn hefyd y pwnc o ddirwest, tebyg i'r Band of Hope. Yn wir, y mae digon o'i eis- iau gyda ni, er yr holl ddiwydrwydd a'r llafur a arddangosir yma er llesoli pawb. Rhwydd hynt i'r ficeriaid barhau eu gwaith da. YR YSGOLION SUL.—Pu» lwyddianus yw y rhai hyn mewn nifer a gweithgarwch. Cynhelir Ysgol Sul Gymraeg yn yr hen Eglwys, a'r Ysgol Sul Saesneg yn yr Ysgoldy Geuedlaethol. Rhifa aelodau y ddwy ysgol oddeutu 250. Yr ydym yn clywed y bydd genym Flower Sunday' ryw bryd yn Mehefin, yr hyn fydd yn beth newydd. Yr ydym ni yn Llanelwy yn dra ffortunus am flodiiu, ond beth a welir ar y Flower Sunday yn ein dinas ? PRIODASAU. Ebrill 36, John Jones, Painter, a Frances Crowther, y ddau o Lanelwy.-Ebrill 26, Griffith Williams, Penmachno, a Lucy How- ard. Y mae G.W. yn hanu o deulu yr enwog Esgob Morgan, a daeth i ddinas gadeiriol ei hen gyn-dad i'w uno mewn glan briodas.—Mai 1, Edward Jones ac Elizabeth Evans, y ddau o Lanelwy. MALWOLAETH.-Mai 1, Robert Jones, mab Richard Jones, Fronlas, Llanelwy, yn 29 mlwydd oed.
PONTYCYMER, GARW VALLEY.
PONTYCYMER, GARW VALLEY. Ymwelwyd 4'r He hwn o'r 12fed hyd yr 21ain o Ebrill gan y Parchn. Canon Roberts, B.A., Llandaf, a J. Pugh Griffiths, B.A., curad Aber- dar, i'r diben o gynal cenhadaeth er budd y Saeson. Trefn y gwasanaethau dyddiol oedd fel y canlyn, oddigerth y Sadwrn olaf o'u haroisad, pryd yr oedd gwasanaeth neillduol i'r gweithwyr am 5 o'r gloch y prydnawn :—Am 8.30 y boreu, gweinyddiad o'r Cymun Bendig- aid 11, gwasanaeth byr, hyfforddiant, a deisyfiant 12.20, gwasanaeth i'r plant; 3, gwasanaeth i'r gwragedd 7.30, gwasanaeth a phregeth. Bu eu hymdrechion difrifol yn foddion i argyhooddi llawer i ystyried eu ffyrdd ac i wneyd penderfyniad i adnewyddu eu buchedd, a gobeithio y ceir gweled eto ragor o ffrwyth eu llafur. Duw o'i ras a gyfnertho y sawl a argyhoeddwyd i ddal yn ddiysgog a ffydd. lawn wrth eu penderfyniadau. Er mynych y gwasanaethau, ac er mor anghyfleus rhai o'r adegau i gyfarfod, eto llwyddwyd i sicrhau ym- gynulliadau da ymhob cyfarfod, a diameu genym na siomwyd y ddau foneddwr yn eu disgwyliadau. Un ffaith foddhaol iawn ynglyn a'r cyfarfodydd hyn oedd gweled cynifer yn y gwasanaethau boreuol (8.30) yn cyfranogi o'r Cymun Bendigaid. Ar y Sadwrn olaf am 6 o'r gloch yn y prydnawn, cynhaliwyd cyfarfod penodol i'r gweithwyr, i'r perwyl o bleidio ac ymledaenu egwyddorion dirwest. Siradwyd yn dda gan Mr. O. H. Jones, yr hwn, ar gais ein Rheithor gweithgar, a fu mor garedig a gwneyd aberth i fod yn bresenol. Da genym ddeall fod cangen o'r C.E.T.S. ar gael ei sefydlu yma yn ddioed, a bod argoelion hynod o obeithiol y bydd yn Uwyddiant.
- LLANFAIB D.C. (RHUTHYN.)
LLANFAIB D.C. (RHUTHYN.) LLWYDDIANT EFRYDYDD.—Bydd yn dda gan gyfeillion Mr. James Jones, Eyarth, glywed ei fod, yn ddiweddar, wedi enill ysyoloriaeth o £80 y flwyddyn. am bedair blynedd, yn Ngholeg yr lesu, Rhydychain. Bu Mr. James Jones am flyuyddau yn Ysgol Genedlaethol Llanfair o dan Mr. Thomas, yr ysgolfeistr, ac oddiyno aeth i Ysgol Rammade-ol Rhuthyn. Y mae dyfodol disglaer o'i flaen, ac eiddunwn iddo bob rhwydd- ineb a llwyddiant.
RHUTHYN.
RHUTHYN. BANER I FYDDIN YR IACHAWDWRIAETH.— Nos Fawrth, yr 28ain cynfisol, yn nghapel Pen- dref (Annibynwyr), rhoddwyd baner i'r cadben, o'r headquarters, fel cydnabyddiaeth am ei gwasanaeth. MABWOLAETB.-Ar ol hir nychdod, cludwyd gweddillion marwol Mr. John Lloyd, gynt hedd- geidwad am lawer o flynyddau yn y dref hon, i Lanferres, ddydd Sadwrn, y 26ain cynfisol. Yr oedd yn aelod gyda'r Wesleyaid, ac yn cael ei barchu yn fawr. Heddwch i'w hvch. YR ELUSENDAI.—Gadawyd y tai uchod gan y Deon Goodman, i Eglwyswyr nad oeddynt yn derbyn cymorth plwyfol. Y mae yno le i ddeg o bobl, ac o'r deg y mae saith yn Ymneillduwyr, a thri yn Eglwyswyr. Dengys hyn yn ddigon eglur nad yw'r Eglwys mor orthrymus ag y myn yr Ymneillduwyr politicaidd i'r wlad gredu. Pa le y mae eu caredigrwydd a'u haelioni hwy tuag at yr Eglwys ? Pwy wnaifE ateb y gofyniad hwn ?
LLANELIDAN.
LLANELIDAN. AIL AGORIAD YR EGLWYS.—Yr oedd dydd Sul, y 4ydd cyfisol, yn ddiwrnod yr oedd plwyf olion Llanelidan, ac eraill, yn edrych ymlaen ato gyda gorfoledd mawr. Ar ol myned dan ad- gyweiriad trwyadl, ail agorwyd yr eglwys uchod ar y diwrnod a enwyd eisoes. Yn y boreu, am 11, pregethodd Arglwydd Esgob Llanelwy yn Saesneg, i gynulleidfa astud a lliosog ac yn y prydnawn am 3, pregethodd yn Gymraeg, i dyrfa fawr. Am 6, pregethodd y Tra Pharchedig Ddeon Llanelwy yn Gymraeg. Yr oedd yr hen eglwysJn orlawn o wrandawyr, ac yr oedd pawb yn ymddangos mewn hwyl i foli. Gwnaeth A y cor ei ran yn ardderchog. Y mae Mr. Pritchard wedi gweitliio yn galed yn ei blwyf, mewn amser ac allan o amser, a'r Nefoedd a gorona ei ymdrechion a llwyddiant mawr.
RHYL.
RHYL. Sul pwysig yn ngolwg plwyfolion Rhyl ydyw y Sut nesaf, pan y bydd i Arglwydd Esgob Llan- elwy ymweled a ni i'r dyben o osod y Parch. Ganon Howell Evans, yn meddiant o'r fywoliaeth uchod. A throddodir pregeth gan yr Esgob. Diameu genym y bydd i ganoedd wneyd defnydd o'r cyfleusdra i fod yn naesenol er mwynhau y gwasanaeth pwysig ac ardderchog. Deallwn y bydd i'r Canon Howell Evans ddarllen a datgan ei grediniaeth yn y Deugain Erthygl Namyn Un, &c., yn y gwasanaeth hwyrol. Eiddunw J bob llwyddiant i'n Ficer newydd ar ei ddyfodiad i'n plith. Y CURAD NEWYDD.—Dylaaem nodi yn flaen- orol i hyn, fod y Parch. Green, wedi dechreu ar ei waith yn ein plith, er na chawsom yn bersonol y fraint o wrando arno yn preg- ethu. Dywedir ei fod yn weithiwr ac yn bregethwr rhagorol. Gobeithio yr ydym y cawn y fraint o wrando arno yn pregetha yn yr hen iaith Gymraeg, a hyny yn fuan. Gwenau y Net fyddo arno. BWRDD Y DIRPRWYWYR TREFOL.—Gan fod y cadeirydd presenol yn ymddiswyddo, wrth gwrs, rhaid cael un i ymaflyd yn awenau llyw- odraethol ein tref, yn ei le. Y mae dau ym- geisydd am y gadair. sef y Parch. J. Rowland Thomas, a Mr. William Williams, builder. Digon ydyw datgan fod clorian public opinion y dref yn Hawn gwaith yn clorianu cyfaddas- rwydd y ddau foneddwr uchod i'r awydd.-A b Trebor.
HENDYGWYN AR DAf.
HENDYGWYN AR DAf. CTNGERDD Y MADAWOL YSGOLFBISTR Y DWitDD.-Nos Fawrth, y 29ain cynfisol, cynhal- iwyd cyngerdd Ilwyddianus yn ysgoldy Hen- llan, pryd y daeth lliaw8 mawr o bobl o bob enwad ynghyd i ddangos eu cydymdeimlad A Mr. Emprall ar ei ymadawiad a Chymru am Canada. Ar gynygiad y Parch. D. E. Williams, gweinidog y lie, ac eiliad Mr. J. Scourfield, Blaenwernddu, cymerodd y Dr. R. H. Thomas, o'r Parko, y gadair. Canwyd yn rhagorol gan y cadeirydd a'i chwaer (Miss 'Georgie' Thomas Miss Hughes, Derwen Miss Rees, Llanboidy Mr. J. H. Davies, Arberth Mr. Ivor Davies, Clynderwen, a'r Parch. Mr. John (B.), o Sir Benfro. Gwnaeth y cadeirydd ei ran yn gan moladwy mae yn wir boblogaidd yn yr ardal. Gwnaeth y lleill hefyd ou goreu glas i'n hadloni. Cyfeiliwyd gan y Misses 'lhomas, Hughes, a I Phillips. Medr J. H. Davies gadw llonaid if o bobl i chwerthin yn iachus drwy ei ddynwared- iad a'i anttes poblogaidd. Deallwn fod Mr. Ivor Davies yn golygu myned i'r Royal Academy. Rhwydd hynt i'r dadganwr serchog i ddringo i fyny. Cynygiwyd diolchgarwch i'r cadeirydd parehus a'r cantorion gan y Parch. T. Davies, Llangan, ac eiliwyd yn wresog gan y Parch. D. E. Williams, Henllan, LU.NGAN.-Nos Sul, am 6 o'r gloch, talwyd yr ymweliad addawedig gan ysgolion Llanddewi Felfre, Llanfallteg, a Henllan Amgoed. Undon- wyd y gwasanaeth gan y Porch. J. E. Jones, o'r Commercial, a chwareuwyd yr harmonium gan ein teilwng yagrifenydd mygedol o Lanfallteg. Arholwyd y plant yn fyr yn Saesneg, a'r ysgol- heigion mewn oed yn Gymraeg gan y Ficer, a phrethwyd yn hyawdl a difrifol gan y l'arch. J. E. Jones oddiar y geiriau, 11 Hyfforddia blentyn ymhen ei ffordd," &c. Canwyd anthem ynghyd ag amryw emynau gyda bias a hwyl neillduol, ac nid yn fuan yr anghofiwn ein gwyl leol fechan yn eglwy. Llangan. Awgrymwn y byddai ym- weliadau o'r fath ar y Suliau yn gaffaeliad nid byehan i'n Heglwys yn ein Dboniaeth Wladol. Pwy wnaift gychwyn yn nesaf i yru yn y cyfeir- iad hwn ? Beth am ddeadell dda y Ficer Rees, Llanboidy, ac eraill na raid eu henwi ? Catecism Palmer, eyfUithiedig i'r Gymraeg gan Cowyn,' oedd yr hyn yr holwyd y plant ynddo, a Hanes Solomon oedd y wers a barotowyd ar gyf er y bobl mewn oed. Ati eto ynte, fel y byddom yn barod i'r gwyliau yn St. Clears, gyferbyn Meidrym. Y mae yn wir ofidus genym am afiechyd y brawd cynes o'r Rest. Ymdrechwngytlawni ei waith yn Henllan am ychydig Suliau, gan obeithio y dychwela yn gryf i gymeryd awenau y cerbyd i'w ddwylaw ei hun eto. Dylem gyn- orthwyo a dwyn beichiau ein gilydd mewn adfyd. Yr oeddem yn gysijrns iawn yma ddoe, gan fod Elly' a 4 Gwnwr o'n hamgylch, ac yn cy- meryd rhan bwysig yn y gwasanaethau a'r wyl yn yr hwyr. Da hynod genym fod y 1).G." o Langwnwr yn gweinyddu gartref ddoe.
Siars Archddiacon Llanelwy.
Siars Archddiacon Llanelwy. Anerchodd yr Hybarch Watkin H. Williams, Archddiacon Llanelwy, y wardeniaid plwyfol yn Rhuthyn, Llanelwy, a Llanrwst. Yn Rhuthyn a Llanrwst, traddododd ei anerchiad 18 Gymrfceg. Yr oedd hyn yn beth newydd, a mawr gymeradwyid yr Archddiacon am wneyd y cyfnewidiad. Ar ol talu teyrnged o barch diffuant i'w rag- fiaenyddion, Wickham, Morgan, a Smart, dy- wedodd:— Pwnc y Degwm. Nid wyf yn amcanu eich anerch heddyw ar y pynciau sydd yn awr yn achosi cymaint o gyn- wrf. Gyda golwg ar Bwnc y Degwm, ni wnaf ond dweyd fod Mesur yn bresenol o flaen y Senedd, ac er nad yw yn nodedig o ffafriol i ni fel oifeiriaid, eto, gan ei fod yn darparu na fydd yn angenrheidiol mwyach i Berson y plwyf atafaelu eiddo amaethwyr a wrthodant dalu y degwm, yr ydym yn barod i'w dderbyn yn ddi- olchgar, heb gyfrif yn rhy fanwl pa faint a gollwn. Credaf fod pawb o honom yn hiraethu am y cariad a fodolai gynt rhwng pob offeiriad a'i blwyfolion, oblegid heb hwn, nid oes obaith y derbynier oddiwrthym yr impiedig Air, yr hwn a "ddichon achub eneidiau." A chyda golwg ar y rhai fuont yn achos y cynhwrf a'r anghariad yma, ein dyledswydd yw gweddio drostynt, ar i Dduw agor eu llygaid i weled y drygioni a bod yn drugarog wrthynt. Yn ngeiriau difrifol ac efengylaidd y Litani, dywedwn, 11 Deilyngu o honot faddeu i'n gelynion, erlynwyr, ac enllibwyr, a throi eu calonau ac am danom ein hunain, os ydym wedi troseddu—a phwy sydd heb ei fai, yn enwedig mewn adeg o ymryson ?—maddeued Duw i ni, a rhodded ras i ni i weled ein bai, ac i wneyd iawn hyd eithaf ein gallu. Urddas Swydd Warden Eglwysig. Ond gwell genyf gyfeirio eich meddwl at ddyledswyddau a gofynion swydd henafol, barchus, ac anrhydeddus Warden Plwyfol. Y mae y Wardeniaeth Eglwysig yn swydd an- rhydeddus, oblegid rhan o wasanaeth Brenin y Brenhinoedd ydyw. Y mae pob cysylltiad a Thy Dduw yn anrhydeddus a phwysig, ac y mae hyd yn nod y swydd leiaf yn ychwanegu urddas a mawredd at y safle gymdeithasol uchaf. Dangosir fel y dylem edrych ar swydd Warden Eglwysig, mewn hen Golect, lie y dywedir, "fod yr hwn a wasanaetha Dduw, yn frenin." A chofiwch mai dyma y swydd uchaf yn yr Eg- lwys y gall lleygwr ymgyraedd ati. C6f genyf, pan yn fachgen, weled mewn Eg- lwys yn Llundain enwau y wardeniaid wedi eu paentio mewn llythyrenau aur ar dalcen yr oriel. Yn eu plith yr oedd dynion o'r safteoedd uchaf a'r urddas mwyaf yn y wlad, ac nis gallwn lai meddwl, ar y pryd, fod raid i'r swydd fod yn un bwysig, cyn y buasai dynion o'r fath yn ym- gymeryd a hi. Henafiaeth y Swydd. Ymdrechais lawer i olrhain y swydd i'w dechreuad, ond y mae mor henafol fel nad yw hanesyddiaeth yn cofnodi ei sefydliad. Cry- bwyllir am swyddogion yn gofalu am eiddo'r Eglwys mor foreu a'r bedwaredd ganrif a chawn yr Esgobion, yn foreu iawn, yn galw cynadleddwyr (Sidesmen) i'w pwyllgorau. Sut bynag am hyny, yn amser y Diwygiad, cawn fod y Wardeniaid yn swyddogion o bwys. Dywedai. yr Esgob Latimer, mewn pregeth o'i eiddo yn 1533, fod ganddynt allu neillduol er daioni, os arferent ef. Cyffelybai hwynt i lywodraeth- wyr y Synagogau, yn amser ein Harglwydd. Ac, yn wir, o'r amser hwnw, tuedd a bwriad pob deddf Seneddol ydoedd ychwanegu at awdurdod y Wardeniaid, a Uiosogi eu dyled- i. awyddau. Ac mewn amseroedd diweddar iawn y lleihawyd dim arnynt. Yn nheyrnasiad y Frenhines Elizabeth, gwnaed deddf, yr hon sydd eto heb ei diddymu, yn rhoddi ar y Wardeniaid y ddyledswydd o weled fod Deddfau y Tlodion yn cael eu gweinyddu yn deg. Yr oeddynt i brentisio'r bobl ieuainc, i chwilio am waith i'r segur, i gynal yr hen a'r methedig, ac mown hen blwyfydd, neu'r plwyfydd henaf, y maent eto, yn rhinwedd eu swydd fel warden- iaid, yn oruchwylwyr (overseers). Ond dyledswyddau penaf y swyddogion hyn, gynt ac yn awr, ydoedd gofalu am yr Eglwys, y fynwent, a'r eiddo Eglwysig, a gosod i lawr an- nuwioldeb ac anfoesoldeb ymhlith eu cyd- blwyfolion. Dyledswyddau y Warden. Dyledswydd gyntaf y Wardeniaid ydyw gofalu am yr eglwys, gofalu fod yr adeilad mewn cyflwr priodol i gynal gwasanaeth dwyfol ynddo. Ac yn y fan hon, dymunem alw eich sylw at y. pwysigrwydd o adgyweirio yn brydlon unrhyw niwed a wneir gan wynt neu wlaw i'r adeilad. Mynwch weled fod y lie yn sych a'r awyr yn iachus, a chofiwch lanhau cafnau t6'r adeilad (landers), yn neillduol felly mewn tref, -y mae esgeuluso hyn yn. peri colledion mawrion, ac anhawdd, fel y gwyddoch, ydyw casglu arian yn y dyddiau hyn, pan y mae cynifer wrth yr un gwaith. I chwi y perthyn penodi eisteddleoedd i'r plwyfolion yn yr eglwys, a chofiwch fod gan bob preswylydd- hawl i eisteddle yn eglyys y plwyf. Y mae'n wir y gall yr Esgob ymyryd, os ewyllysia, ond chwychwi sydd i osod y plwyfolion yn y seddau y gweloch yn oreu. Mewn eglwysi a adeiladwyd dan Ddeddf Seneddol neillduol, gellir codi tal am eisteddle- oedd, ond yn yr eglwysi henaf, nid oes un hawl i wneyd hyn. Y mae hefyd rai eisteddleoedd, yn perthyn ar dir cyfreithiol, i hen drigfanau, ond fel rheol, yr ydych yn rhydd i benodi'r seddau fel y mynoch. Wrth gwrs, nid oes gan! neb tuallan i'r plwyf hawl i eisteddle yn eich heglwys, ond y mae cariad brawdol yn gofyn i chwi eu derbyn yn wresog a chroesawus. Er hyny, ymae y Canonau Eglwysig yn mawr anghym- eradwyo y rbai a esgeulusant eu cyd-gynull- I iad" yn eglwys eu plwyf er mwyn mynychu addoldai dieithr. Y mae'n ddyledswydd arnoch, hefyd, wneyd eich goreu i gael eich cyd-blwyfolion fod yn gyson yn yr Eglwys. Gynt, gallasai'r warden- iaid ddirwyo y rhai a absenolent eu hunain, yn ddiachos, ac er nad yw y Ddeddf mewn grym heddyw, erys y ddyledswydd yr un. Yr ydych yn gyfrifol am weled fod pob offeir- iad a weinyddo yn eich eglwysi, wedi ei ordeinio i'r swydd, a'i drwyddedu a'i gymeradwyo gan eich Esgob. Dylech ofyn am weled llythyrau tvstiolaeth i'r perwyl hyn gan bob un. Rhodd- asai hyn foddlonrwydd i bawb, ac ni fuasai yn anmharch ar neb. Chwychwi hefyd sydd i gasglu ar adeg y Cymun Sanctaidd, ac mewn undeb S'ch gwein- idog, i benderfynu pa fodd i wario, neu i ranu yr arian. Gall yr Esgob, yn hyn eto, ymyryd os bydd galw am hyny. Y mae genych awdurdod hefyd i hysbysu i'r Esgob am unrhyw gyfnewidiadau anghyfreith- Ion a wneir yn ngwasanaeth yr Eglwys. Nid hawl i rwystro dim, na, neb, ond yn unig i hysbysu i'r Esgob. Arnoch chwi y mae'r cyfrifoldeb am weled fod y gynulleidfa yn ymddwyn yn ddefosiynol a pharchedig, yn yr Eglwys, ac yn y fynwent- yn neillduol ar adeg y gwasanaeth Dwyfol. Nid oes neb ond addolwyr i fod yno, canys Ty Dduw ydyw yr Eglwys, a dylid parchu y fynwent fel tir cysegredig rhag clwyfo teimladau y rhai sydd a chanddynt anwyliaid yn gorphwys yno. Cladda Dieitlmaid. Cyferfydd y wardeniaid ag anhawsder weith- iau ynglyn a rhoddi caniatad i gladdu un a fu farw tuallan i derfynau eu plwyf. Teimlad cyntaf y warden, yn ddiau, ydyw, cydffurfio a chais y perthynasau ond cofiwch fod genych 11 YC ddyledswydd tuag at eich cyd-blwyfolion hefyd. Yn wir, dywcd cyfreithiwr dysgedig y gellir rhybuddio, os nad cosbi, y wardeniaid am roddi caniatad o'r lath heb reswm cryf a digonol. Dylent gofio eu bod yn dal ymddiriedaeth bwysig, ac mai claddfa i'r plwyfoliou, ac nid i ddi-eithriaid, yw y fynwent. Taflwyd plwyfi cyn hyn i dreuliau trymion oherwydd anghof- rwydd y swyddogion yn hyn o beth. Rhaid cael caniatad Person y plwyf cyn rhoddi lie i gladdu neb felly a chredaf fod gan y plwyfol- ion hefyd hawl foesol, os nad cyfreithiol, i wrthdystio os gwelant yr ymddiriedaeth yn cael ei gwastraffu. Gofynwyd i mi yn ddiweddar i bwy y dylesid talu am gladdu un o'r tuallan i'r plwyf. Pen- derfynais mai i'r Warden, ac nid i'r Person, gan mai ar iawnderau y plwyfolion yr oedd y claddu yn troseddu. Dodrefn a Choflyfrau yr Eglwvs. Yr ydych, hefyd, yn oruchwylwyr ar yr eiddo Eglwysig, ac os esgeuluswch ofalu am bethau a berthynant i'r Eglwys, gall eich olynwyr yn y swydd eich cosbi trwy gyfraith. Gwelir, weithiau, mewn anedd-dai, eiddo fu unwaith yn rhan o adeilad neu ddodrefn yr Eglwys, a chynygir ar werth lestri fuont gynt ar allor Eglwys y plwyf. Gofalwch, pan yn adgyweirio eglwys, na fo'r hen yn cael ei anmharchu trwy ormod zel am y newydd. Nis gall y gweinidog na'r wardeniaid werthu, na rhoddi dim, yn ol eu hewyllys eu hunain. Rhaid cael cydsyniad y plwyfolion, a chaniatad yr Esgob yn gyntaf. Os mynir llestri newyddion, rhodder yr hen rai yn nghist yr eglwys. Feallai y bydd yr hyn a dro- wyd o'r neiildu mewn un oes, yn werthfawr mewn oes arall. Dylai y wardeniaid, o bryd i bryd, wneyd cyfrif manwl o bob eiddo fyddo dan eu gofal, a rhoddi ysgrifen, yn cynwys y cwbl, yn y gist, yn ol arfer y dyddiau gynt. Dyledswydd arbenig arall o'ch eiddo ydyw, gofalu fod coflyfrau (registers) y plwyf yn cael eu cadw yn ofalus a diogel. Prin y gallaf wasgu ar eich meddwl yn ormodol, bwysigrwydd y ddyledswydd hon. Cynwysa'r coflyfrau hyn hanes teuluoedd y plwyfi; profant achau a pherthynas pobl i'w gilydd gwelir eu pwysig- rwydd yn yr ymchwiliadau beunyddiol a wneir ynddynt. Yn ami, y mae tir a meddianau wedi dychwelyd i'w gwir berchenogion drwy gymorth y coflyfrau hyn yn unig. Gresyn na fuasid yn fwy gofalus yn y gorphenol gyda'r hen gof- lyfrau plwyfol. Eleni, cafwyd un o honynt, a fu ar goll am driugain mlynedd, ar werth yn Llundain, ymhlith llyfrau eraill. Yr oedd un dyn wedi bod yn edrych am dano am hir amser, ond yn of er. Pan fyddo bywoliaeth yn wag, y mae'n arferol i chwi anfon at yr EsgotTa chael ganddo hawl gyfreithiol i dderbyn a thalu arian dros yr offeiriad newydd, nes y byddo wedi ei gyflawn drwyddedu, a'i sefydlu yn y fywoliaeth. Gall yr Esgob benodi eraill i wneyd hyn, os myn, Ond os digwydd i'ch rhan, rhaid i chwi gadw cyfrif man wI o'r hyn a dderbyniwch, a chael gan yr Esgob i gymeradwyo penodiad offeiriad am dymor ac ar ol ci dalu, yna drosglwyddo y gweddill, os bydd felly, i'r sawl a benodir i ofal parhaus y plwyf. Penderfyna'r Esgob, os gofynir iddo, gyflog yr offeiriad a weinyddo yn yr argyfwng. Bydd wch ofalus iawn yn eich dewisiad. Yn wir, yr wyf yn gobeithio y daw adeg pan y neillduir un neu ychwaneg yn yr esgobaeth, i'r pwrpas o lanw'r bylehvu hyn. Byddai o fawr hwylusdod i laweroedd.
Moesoldeb a Chytneriad y Plwyfolion.
Moesoldeb a Chytneriad y Plwyfolion. Ac nid yn unig yr ydych i ofalu am yr eg- lwys, y fynwent, ac eiddo Eglwysig arall, ond hefyd am foesoldeb a chymeriad eich cyd- blwyfolion. Gynt, gallech gosbi am feddwdod, godineb, tyngu a rhegi, ac esgeuluso y gwasan- aeth dwyfol ac os nad yw eich awdurdod gyf- reithiol yn parhau, erys eich gwaith, a dylech ei gyflawni. Felly, os bydd tafarndy afreolus, tai drwg, neu cyffelyb yn eich plwyf, chwi ydyw y swyddogion priodol i osod y ddeddf mewn gweithrediad. Gwir nas gellir gwneyd pobl yn foesol drwy ddeddf seneddol, ond eto y mae deddf tucefn i farn y cyhoedd yn nerth mawr. Arnoch chwi, gan hyny, y mae y gwaith hwn yn gorphwys, ac y mae eich penodiad i swydd War- den Eglwysig yn brawf o'ch cymeriad, ac o ym- ddiriedaeth eich eyd-blwyfolion ynoch, ac y mae hyn yn galw yn uchel arnoch i fod i fyny a gof- ynion eich 8wydd. Galwaf eich sylw yma at Gymdeithas Gyf- eillgarol Merched,' yr hon sydd wedi llwyddo yn hynod yn y cyfeiriadau y soniais am danynt. Hyderaf y daw amser pan y bydd dylanwad y gymdeithas hon mor gryf fel na welir yn ein plith mwyach un fam ieuanc ddibriod yn magu plentyn anwyl y byddo arni gywilydd ei arddel. Cynorthwywch, hyd y galloch, amcanion y gym- deithas hon yn eich gwahanol blwyfi. Cynghor weh bob merch ieuanc i ymuno i'r gangen yn eich plwyf, a meithrinwch ymhlith y bobl ieu- ainc deimlad o'u cyfrifoldeb i amddiffyn, yn fon- eddigaidd a gwrol, gymeriad a chysur pob merch ieuanc yn eu hardal. Terfynaf yn ngeiriau y Deon Prideaux, pan yn cyflwyno ei lyfr i Wardeniaid yn gyffredinol, drwy gynghori ar i chwi ymdrechu, drwy ras Duw, lanw eich swydd bwysig yn gydwybodol, drwy gynal yr adeilad, drwy ofalu fod y gynull- eidfa yn ymddwyn yn ddefosiynol tra yn y gwasanaeth, a thrwy rwystro, hyd y galloch, an- nuwioldeb ac anfoesoldeb yn eich plwyfi, er gogoniant i Dduw a lies eich cyd-blwyfolion. Byddwch yn fuan yn ardystio y gwnewch hyn hyd y galloch, a bydd eich gair a'ch llawysgrif yn nh,t Dduw mor bwysig i chwi a'r llw a arferid yn yr hen amser. Gwasanaeth i Dduw yw eich gwasanaeth chwi. Gofyna Duw yn ol llaw am gyfrif o bob goruch- wyliaeth. Ow ymdrechwch fod yn ffyddlon, megis i Dduw, ac nid i ddynion, disgyna ei fen- dithion sicr arnoch yn lielaeth. Fe gofia Duw am danoch er daioni. fel y cofiodd am Nehemiah —Warden TO Dduw, adgyweirydd y Demi yn Jerusalem gynt. Bendithir chwi gan y gwan fyddoch yn gynorthwyo, a phan glywo clust chwi, hi a'ch gwrandawa, a phan y gwelo llygad chwi, efe a dystiolaetha gyda chwi. Bendith yr hwn fyddo ar ddarfod am dano a ddaw arnoch chwi, a gwnewch i galon y wraig weddw lawen- ychu, am i chwi fod yn llygaid i'r dall, 'yn dad i'r tlawd, ac am i chwi chwilio allan y gwyn na wyddech.' Daw eich gofal am yr Eglwys a'r pethau a berthyn iddi a'r fendith hefyd. Bydd y teimlad y dylech fod yn yr Eglwys mor gyson a'r offeir- iad, ac na ddylecli chwi yn anad neb fod yn ab- senol— oblegid pa fodd y ceryddwch eraill, os yn euog eich hunain ?-a bydd y ffaith eich bod dan rwymau i fod yno, yn fautais i'ch bywyd cref- yddol eich hun. Daw yn rhwymyn i'cli cadw yn nes at Dduw, a bydd eich trafferth a'ch aberth i fod yno yn foddlonrwydd, gan y byddwch yn ymwybodol nad ydych yn offrymu i Dduw offrwm rhad.' Fel Warden, ac amddiffynydd yr Eglwys, byddwch yn meithrin zel ei dJ, yn ystyried rhagfuriau Sion, yn rhifo ei thyrau, yn teimlo eich ysbryd yn ymddyrchafu atDduw wrth gyd- uno fig eraill o'ch cwmpas mewn gweddi a mawl, ac yn enwedig pan yn cyd-benlinio gyda'ch cymydogion wrth y Bwrdd Sanctaidd i dderbyn i'ch calonau y gras a geir yn yr Ordinhad Ddwyfol hon. Gan eich anog yn gynes, frodyr, i gyflawni yn gydwybodol eich dyledswyddau y flwyddyn hon ynglyn a'r eglwyjs, y fynwent, a'r arferiad o foddiou gras, ynghyd A cliyflwr moesol eich plwyf, yr wyf yn eich cyflwyno i ras Duw.
Esgob Newydd Bangor.
Esgob Newydd Bangor. PENODIAD Y PARCH. D. LEWIS LLOYD, M.A., ABERHONDDU. Da genym hysbysu ein darllenwyr fod ei Mawrhydi y Frenhines wedi penodi y Parch. D. Lewis Lloyd, M.A., prif-athraw Coleg Crist, Aberhonddu, yn Esgob Ban- gor, fel olynydd i'r Dr. Campbell, yr hwn a ymddiswyddodd. Mab yw y Parch. D. Lewis Lloyd i Mr. John Lloyd, Penywern, Llanarth, Sir Aberteifi, a ganwyd ef yn y flwyddyn 1844. Yn moreu ei oes, derbyniodd ei addysg drwy private tuition ac yn Ysgol Ramadegol Llanbedr, dan y diweddar Barch. W. Edmunds. Yn y flwyddyn 1862, aeth i Goleg yr lesu, Rhydychain, fel ysgolhaig clasurol, a graddiodd yn second class classics yn 1866, ac yr oedd yn flaenorol wedi graddio yn y second class moderations. Y flwyddyn ganlynol, nrddwyd ef yn ddiacon gan Esgob Ban- gor, a'i guradiaeth gyntaf ydoedd Dol- gellau, lie yr ydoedd hefyd yn brif- athraw yr Ysgol Ramadegol yn y lie. Yn Nolgellau y dechreuodd y gwaith addysg- awl sydd wedi gwneyd ei enw mor adnabyddus yn y Dywysogaeth yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf. Pan ddech- reuodd yno, nid oedd gan Mr. Lloyd ond dau fachgen yn yr ysgol ond cyn pen nemawr amser, daeth yr ysgol i fri neill- duol, er fod anhawsderau difrifol ar y ffordd, yn enwedig bychander y gwadd- oliad, a diffyg adeilad priodol. Yn 1873, penodwyd Mr. Lloyd yn benaeth Ysgol y Friars, Bangor, yr hon oedd yn gauedig er's blynyddoedd. Yr oedd ei lwyddiant yn Mangor yn rhyfeddol, gan iddo ymhen ychydig amser lwyddo i gael 200 o ddyn- ion ieuainc yn ei ysgol, ac yr ydym yn deall i bob un o aelodau y sixth form, un flwyddyn, lwyddo i enill ysgoloriaethau agored yn y prif-ysgolion. Wedi llafurio yn galed yn Mangor am bum' mlynedd, penodwyd Mr. Lloyd yn benaeth Coleg Crist, Aberhonddu, lie y mae yn awr. Mor fuan ag yr aeth yno, canfyddodd fod yr adeiladau yn annigonol i gario y gwaith ymlaen yn briodol, ac ymgymer- odd a'r gwaith o ychwanegu yn ddirfawr at y Coleg, a diau nad oes y fath adeiladau addysgawl mor ardderchog i'w cael yn Nghymru. Nid oes dadl nad yw Mr. Lloyd wedi gwneyd mwy ar ran yr Eglwys ac addysg yn Nghymru nag unrhyw berson arall yn ystod y ganrif bresenol. Llwyddodd tuag 80 o'r ysgolheigion i enill ysgolor- iaethau oddiar ei gychwyniad yn Nol- gellau, llawer o ba rai ydynt yn offeiriaid yn yr Eglwys, a rhai o honynt, megis ficeriaid Bangor a Thrallwm, yn llanw safleoedd uchel. Mae eraill wedi ym- gymeryd ag addysgu, ac yn awr yn cyf- lawni gwaith da fel prif-athrawon yn Llanymddyfri, Bala, Caerfyrddin, Bot- twnog, ac mewn lluaws o fanau yn Lloegr. Mewn cylchoedd addysgawl, cyfrifir Mr. Lloyd yn Arnold Cymru, ac y mae yn deilwng o'r anrhydedd. Diau mai dir- gelwch ei lwyddiant fel prif-athraw ydoedd ei hoffder o ieuenctyd, a'r gallu anarferol a fedda o ddeall yr hil ddynol. Ni fu Coleg Crist, Aberhonddu, erioed mor llewyrchus ag y mae yn awr. Mae ei ysgolheigion presenol, ynghyd a'r can- oedd fuont dan ei ddisgyblaeth mewn blynyddoedd blaenorol, yn ei anwylo. Yn Nolgellau, derbyniodd Mr. Lloyd hyfforddiant rhagorol lel offeiriad plwyfol dan Ddeon presenol Bangor, yr hwn ydoedd reithor y plwyf ar y pryd, ac y mae yn foddhaol iawn genym hysbysu fod Mr. Lloyd yn bregethwr hyawdl yn y ddwy iaith, a bydd yn sicr o foddhau pawb. Yn y Cyngres a gynaliwyd yn Nghaer- dydd, y flwyddyn ddiweddaf, gwefreidd- iodd Mr. Lloyd ei wrandawyr pan y traddododd anerchiad ar Addysg Ganol- raddol, gan ei fod yn awdurdod ar y pwnc, ac yn hysbys yn ei holl fanylion. Oddiar pan aeth Mr. Lloyd i Aber- honddu, mae wedi cymeryd dyddordeb neillduol ymhob peth a thuedd ynddo i wella y dref a'r gymydogaeth, ac y mae yn gysylltiedig a phob cymdeithas ddai- onus yn y lie, naill ai fel cadeirydd, is- gadeirydd, neu aelod o'r pwyllgor. Bydd ei ymadawiad o Aberhonddu yn golled anadferadwy. Mewn cysylltiad a'r Eis- teddfod a gynaliwyd yn y dref, y flwydd- yn ddiweddaf, eyflawnodd waith an- mhrisiadwy er sicrhau ei llwyddiant, a thalwyd diolchgarwch cynes iddo ar y pryd. Yn ei blwyf genedigol, Llanarth, mae Mr. Lloyd yn dal y swydd o is-gadeirydd y Bwrdd Ysgol. Bu hefyd, yn aelod o'r Bwrdd Ysgol cyntaf a sefydlwyd yn Nghymru, a deallwn mai efe oedd y person cyntaf i roddi mewn grym adran- au gorfodol y Ddeddf Addysg. Mae Mr. Lloyd wedi ei fendithio a chyfansoddiad cryf, yn hynod fywiog, ac yn alluog i gyflawni llawer iawn o waith. Fel dangoseg o'i benderfyniad i gyflawni ei ddyledswyddau yn iawn a dyladwy, crybwyllwn un engraifft. Yn hytrach na bod yn absenol o gyfarfod pwysig o'r Bwrdd Ysgol, teithiodd 130 o filldiroedd mewn un diwrnod mewn cerbyd. Cy-, chwynodd o Aberhonddu am dri o'r gloch yn y boreu, a dychwelodd yno yn ystod yr un dydd. Gellir llongyfarch y Frenhines oher- wydd y penodiad, gan fod yr Esgob newydd yn ieuanc, bywiog, a gweithgar, ac yn feddianol ar gymwysderau dihafal fel pregethwr, ysgolhaig, a cherddor. Medda lais soniarus a chlir, ac y mae yn j llefarwr croew. Mae yn Eglwyswr cadarn, ac nid oes amheuaeth na fydd iddo gyflawni gwaith ei swydd aruchel er boddlonrwydd cyffredinol. Ein gohebydd o Aberhonddu a ys- grifena fel y canlyn :— Mawr oedd y llawenydd yma ddydd Gwener diweddaf pan ddaeth y newydd fod y Parch. D. Lewis Lloyd, M.A., prif-athraw Coleg Crist, wedi ei benodi i lenwi y swydd bwysig o fod yn Esgob Bangor, tra ar yr un pryd yr oedd pawb yn galaru wrth feddwl y byddent yn ei golli on mysg. Nid oes un symudiad o bwys wedi cy- meryd lie yn y dref nad oedd yn rhaid cael ei gymorth ef i'w gario allan, ac mewn perthynas a'r Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yma y llynedd, yr oedd ef o hyd yn gymorth an- mhrisiadwy i ddwyn pob peth ymlaen. Fel athraw, gallwn .ddweyd ei fod yn deilwng o'r clod uwchaf. Y mae sefyllfa Coleg Crist yn bresenol, o'i gymharu a'r hyn ydoedd pan ddaeth yma, yn llefaru drosto ei hun. Y mae Mr. Lloyd yn bregethwr hyawdl yn y ddwy iaith, y mae ganddo lais melus, treiddgar, a'i ddull yn traddodi yr Efengyl yn sier o. ddenu sylw ac ystyriaeth y gwrandawyr. Yr ydym yn eich llongyfarch yn Esgobaeth Bangor ar ddewisiad y Parch. D. Lewis Lloyd i fod yn ben bugail arnoch. Cewch yn eich Esgob newydd Gymro twymngalon o waed coch cyfa', llenor o'r radd uchaf, pregethwr hyawdl, ac yn un ag sydd yn sicr o brofi ei hun, dan fendith Duw, yn deilwng o'r swydd Esgobaethol. Bydd colli Mr. Lloyd o'n plith yn golled anadferadwy. Gobeithio y gwnawn ei anrhegu a thysteb deilwng o honom, er dangos ein mawr barch tuag ato, cyn ei ym- adawiad o'n plith. Deallwn fod Mr. Lloyd wedi derbyn canoedd o bellebron a llythyrau llon- gyfarchiadol ar ei benodiad o bob rhan o'r wlad.
[No title]
Cawn fod y moch Roumanaidd yn ymborthi yn finteioedd bwytant laewellt, ac ant adref gyda'r nos o honynt eu hunain, a hyny yn y dynaer oreu i'w twlciau neu eu hystablau. Yn awr ac eilwaith rhedant ar ol dyn ac os medr- ant ei oddiweddyd, tarawant yr anffodus i lavif a bwytant ef. Y mae y Cardinal Richard, Archesgob Paris, wedi trosglwyddo i offeiriaid ei esgobaeth ben- derfyniad o eiddo y Pab, yr hwn sydd yn gwahardd i'r Pabyddion arferyd corff-losgiad neu i ymuno ag unrhyw gymdeithas er hyr. wyddo corff-losgiad. Gan hyny, fe wrthodir claddedigaetl1 eglwysig i bersonau a hawliant gael eu llosgi ar ol marw. Mew n papyr a ddarllenwyd o flaen y Gym- deithas Ystadegol Frenhinol, mynegodd y Dr. Ogle fod y raddeg briodasol uwchafyn Bedford- shire, a'r iselaf yn Herefordshire. Cafodd hyn ei egluro partlied y sir flaenaf, drwy y ffaith y gall y menywod yn Bedfordshire, drwy wellt- blethiant, gyfranu at enillion teuluol, ac oblegid hyny priodant yn gynaraoh, ac fel rheol, & gwyr ieuainc. Y mae y noddleoedd nosol yn nodwedd ar- benigol perthynol i'r bywyd Parisaidd. Cafodd pedwar ugain a deg o filoedd eu derbyn iddynt yn nghorff y flwyddyn ddiweddaf. Ery flwydd- yn 1878 rhifai y Iletywyr 564,000. Nid oedd ond 935 o'r cyfryw yn Saeson. Fodd bynag, rhifai y Germaid 27,000, y Belgiaid 21,000, ▼ Swiesiaid 9,000, a'r Italiaid 6,000. -i
DINBYCH A'R CYLCHOEDD.
bychan i'r athrawes lafurus, Miss Bees. Yr oedd yn bresenol, y Parch. J. Morgan, ac aelod- au eraill y cyfeisteddfod, ynghyd a nifer o foneddigesau y dref, &c. Heblaw cyflwyno y gwobrau gwerthfawr, pa rai a gynwysent tvriting de8ks, work-boxes, a basgedau, aed trwy raglen ddyddorol o ganeuon, adroddiadau, a darlleniadau. TREFN.ANT.-Nos Iau, cynhaliodd aelodau Cyngrair y Friallen, adran Trefnant, eu cyfar- fod blynyddol yn ysgoldy y plwyf. Cymerwyd y gadair gan yr Anrhydeddus K. W. Williams Wynne, y Cynghorwr Llywodraethol, yr hwn a amlygodd ddymuniad i ymddiswyddo, ac a gyn- ygiodd y Colonel Mainwaring i gymeryd ei le, ac etholwyd ef yn unfrydol. Y prif siaradwyr oeddynt Mr. 0. Slaney Wynne, a Mr. B. Bryan. Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." Yr wyf yn bwriadu, yr wythnos nesaf, os w a Duw a'i myn, ymweled âg amryw blwyfi yn y dyffryn hwn, a chewch wybod yn onest a chywir pa beth fyddaf wedi ei weled a'i glywed.