Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

ESGOB LICHFIELD A DYNION MEWN…

News
Cite
Share

ESGOB LICHFIELD A DYNION MEWN URDDAU DIACONIAID. YR ydym yn argraffu rhydd gyfieithiad o gylchlythyr a anfonwyd gan Esgob Lichfield gyd a'r gwyr ieuainc a urddwyd ganddo yn ddiaconiaid y mis diweddaf at offeiriaid y plwyfydd lie y gelwid am wasanaeth y cyfryw ddiaconiaid. Darllenasom y llythyr ar y cyntaf gyd a gradd o syndod. Yr oedd ei gynwysiad yn ymddangos yn newydd, a'r rheolau a osodid i lawr yn gaethiwus a phen-arglwyddiaethol (aTbitrary). Ond wedi darlleniad pwyllog o'r cylchlythyr credwn ein bod yn alluog i'wfeirniadu mewn ysbryd teg, a chyd a gradd o gymeradwyaeth. Rhoddir mewn llythyrenau Italaidd y rhan- au ag y dymunwn alw sylw neillduol atynt. Cymhella yr Esgob ar i'r offeiriaid yn galw am wasanaeth diaconiaid wneuthur yr oil a allant i'w cefnogi yn eu hastudiaeth yn gystal a'r rhan ymarferol o'u gwaith. Dyled- swydd ydyw hon a fawr esgeulusir, ond a haedda sylw neillduol. Gallai yn ami fod camddealltwriaeth o'r ddeutu. Digon naturiol yw i'r diacon ieuanc yn newydd spon allan o'i goleg, a'i arholiadau llwydd- ianus, dybio ei hun yn fwy gwybodus nac ami offeiriad a'i lawryf ysgolheigaidd wedi hir wywo, neu gael eu hanghofio, i'r hwn ei hanfonir yn gynorthwydd. Ary llaw arall, disgwylia yr offeiriaid gael yn y coleg efryd- ydd dibrofiad a diymarferiad weinidog cynefin a phob rhan o'i waith. Felly yn lie dyfod i gymdeithasiad agos, a pherthynas mab a thad yn y ffydd, ceidw y naill a'r llall bellder oerllyd moesgarwch boneddigaidd oddiwrth eu gilydd. Y mae llawer rhy ych- .ydig o olew tyner a sanctaidd cydymdeimlad ysbrydol yn dyferu rhwng cysylltiadau perthynas diacon ac offeiriad buddianol mewn ami blwyf. Byddai ymarferiad o fwy o ryddid ysbrydol a mwy o dderbyn a rhoddi cynghorion cariad yn sicr o effeithio yn dda- ionus o'r ddeutu. Hysbysa Esgob Lichfield nad ydyw yr offeiriad a dderbyniont wasanaeth diaconiaid i ystyried y cyfryw wedi eu trwyddedu yn ffurfiol i bregethu." Geilw yr Esgob sylw yma at gylch comisiwn gweinidogaethol diacon. Dyma eiriad y comisiwn Eglwysig rheolaidd :—" Cymer di awdurdod i ddar- llain yr Efengyl o fewn Eglwys Dduw, ac i bregethu yr unrhyw, os caniateir i ti hyny gan yr Esgob ei hun (ffurf urddo diacon- iaid). Gwelir yn amlwg yma y cyfyngir awdurdod diaconiaid i bregethu gan ewyllys yr Esgob ei hun," ac nid offeiriad y plwyf lie y byddo y diacon yn gweinyddu ei swydd. Y mae yn eglur ddigon felly mai trwy rym arferiad ac esgeulusdra dysgyblaeth Esgob- aethol y mwynha diacon bron yr un rhyddid mewn pregethu a'r offeiriad urddedig. Pan y gorchymyna Esgob Lichfield i'r diaconiaid ochel pregethu mwy nac un bregeth o'u p o 0 cyfansoddiaid eu hunain bob mis, ac y myn iddynt ddefnyddio pregethau argraffedig o lyfrau a enwir ganddo bob Sul arall ag y gelwir arnynti bregethu yn Eglwys y plwyf, y mae yn myned yngyflawn rhwng y diacon a'i offeiriad ^plwyf, ac yn ymyryd yn dra chaethiwus a doethineb y diacon ei hun. Y mae yr iau yn sicr yn gaeth i'r dyn o allu, ac yn boenus i'r oil, ond nid yw tu allan i gylch awdurdod briodol yr Esgob, ac nid oes un angen iddi barhau mwy nac ychydig o fisoedd. Yn ol a ddarllenwn yn newydd- iaduron y Saeson gelwid am ddisgyblaeth o'r fath uchod. Yn Nghymru y mae yr aw- durdodau wedi hen ddeffro i'r angen hwn, a threfnu i raddau lied dda ar ei gyfer. Yn Ngholeg Dewi Sant gwneir darllain, ysgrif- enu, a siarad yn Gymraeg, yn rhan hanfodol o astudiaeth pob ymgeisydd am urddau Eg- lwysig o ddechreu i ddiwedd ei efrydiaeth. Y canlyniad erbyn hyn ydyw fod galluoedd traddodi yr offeiriaid Cymreig wedi dirfawr gynyddu yn nghylch yr haner a chwarter canrif diweddaf, ac y mae yn dal i gynyddu. Yn hyn y mae manteision Coleg Dewi Sant yn mawr ragori ar golegau duwinyddol Seis- nig yn eu perthynas a'r weinidogaeth yn Nghymru; ac yn wir rhagora ar y Prifysgol- ion Caergrawnt a Rhydychain yn y ddar- pariaeth hon. Y mae yr offeiriaid Cymreig ar gyfartaledd yn well pregethwyr na'r offeiriaid Seisnig, ac yn dodi llawer mwy o sylwedd yn eu pregethau yn gystal a nerth yn eu traddodi. Bid siwr, y mae llawer mwy o ser disglaer yn crogi yn wybren eang yr Eglwys liosog yn Lloegr nac a geir yn nghongl fechan Eglwys Cymru; ond y mae yma lai o gyffredinedd dinod. Wrth derfynu ein sylwadau ar gylch-lythyr Esgob Lichfield dymunem ar i'w gy- hoeddiad fod yn ysparduniad pellach i ymbaratoad addas at bob rhan o waith Eglwys Dduw. Gwaith mawr yw dysgu meddwl yn eglur a llefaru yn groew, llithrig, n ZDY ac effeithiol, a rhaid wrth ymarferiad boreu ac addysg fanwl i hyn. Dylid ar bob cyfrif rhoddi mwy o gymhorth, yn enwedig i efrydwyr yn Rhydychain a Chaergrawnt, i'r gwaith yma; ond esgeulusir ef yn druenus yn y ddwy brif ysgol. Bellach caiff llythyr yr Esobg siarad drosto ei hun:— PALAS, LICHFIELD. Fy Anwyl Syr. Y mae eich curad weithian wedi ei urddo, ac a allan gyd a'n ibendith i'w ddyledswyddau yn eich plwyf. Hyderaf y bydd i chwi, o ddechreuad ei weinidogaeth gyda chwi, yn garedig drefnu moddion iddo gael amser penodol bob dydd at waith ei astud- iaeth, fel y gallo ddarparu erbyn ei arholiad ar gyfer urddau offeiriadol. Cymer rhan gyntaf yr arholiad hwn le chwe' mis i'r amser yma. Gobeithiaf yn mhellach y gwnewch yr oil a ellwch i'w gefnogi yn y gwaith hwn, nid gyda'r unig amcan o gyrhaeddyd urddau offeiriad yn ei amser priodol, ond hefyd er mwyn ei les parhaus, a'i ddefnyddioldeb uwch yn ngweinidogaeth Eglwys Grist. Dymunwn talw eich sylw at reolau ag y crybwyll- ais am danynt yn y Gynhadledd Esgobaethol ddiweddar mewn perthynas i safle diaconiaid fel ■pregethwyr. Gellwch weled y telerau hyny yn Nhrysorfa yr Esgobaeth" am fis Gorphenaf. Yr ydych am y presenol i ystyried eich curad heb ei drwyddedu yn ffafriol i bregethu. Nid wyf yn cyfyngu dim ar ei ryddid i draddodi anerchiadau mewn capelydd cenhadol neu ysgolion, neu unrhyw le oddieithr eglwys wedi ei chysegru. Ond mewn perthynas a'r olaf, pa bryd bynag y gelwir arno i bregethu o'i mewn, bydded cystal a darllain pregeth o'r naill neu'r llall o'r cyfrolau a enwir yn y rhestr a ddodir o'r tu mewn i'r llythyr. Gellir, os bytld tangen, dalfyru neu symleiddio unrhyw ymad- roddion, a ddichon fod yn fuddiol; ond oddigerth hyny y mae y pregethau i'w traddodi gan eich curad fel Homiliau o awdurdodiad Esgob ei Esgobaeth. Gofynir ar i'ch curad, hyd oni awdurdodir ef trwy drwydded i bregethu, ar un Sul bob mis draddodi prcgeth ysgrifenedig o'i gyfansoddiad ei hun yn Eg- lwys y plwyf, ac anfon y cyfryw bregeth i mi dranoeth i edrych drosti. Ymddibyna ar ansawdd ei bregethau a'i draddodiad pa mor fuan y symudirly cyfyngiadau hyn oddi arno. Yn y cyfamser byddai i droseddiad o'r rheol hon oedi yn fwy neu lai ei dderbyniad i urddau offeiriadol. Ydwyf, garedig Syr, Yr eiddoch yn ffyddlon, W. D. LICHFIELD.

ABERCRAVE, YSTRADGYNLAIS.

CAERFYRDDIN.

Family Notices

-----__-------BYWOLIAETH LLANBEDR…

PONTFAEN (COWBRIDGE).

[No title]

YR HELYNTION AIPHTAIDD.

Y RHYFEL RHWNG FFRAINC A CHINA.…

GWRTHRYFEL YN NEHEUDIR AFFRICA.

YMDDISWYDDIAD CANON EVANS…

CYFFRO OFNADWY YN BIRMINGHAM.

OPINION OF MR. THOMAS HAILING,…

[No title]

ARGLWYDD ABERDAR A PRINCIPAL…