Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
27 articles on this Page
Advertising
i I o III lis!fil f?S* ••yi j iJii Steffi W0& j|J^ |> t4sj===^ j"! j^$iy'' I'f1 }y:i''?$jilI | -ibsC- j^"pj 5. Y ■, ■( ■' t | kF | 1 &^ I ] jJaqj £ h-u>k,„ cl ckamce to a&k pyr a fti&e I -ifl^ (JunJiiork 4mokm^ 0^ £ &tv6 ^U/lfWCL -0&C&C' JJ j t. • J.
Nodion Amaethyddol.
Nodion Amaethyddol. Mae yn ymddaDgos nad ydyw y rhai fa yn ffarfio y Cwmni Mawr Biff yn yr America i gael eu ffordd ea hunain yn gyfangwbl. Mae rhai 0'0 cyd-ddinasyddion wedi dwyn cynghaws yn eu her- bya am fod yn eaog o geisio codi prisiau, ac i sier. hau prisiau neillduol am gludiad gyda'r rheil- ffyrdd. Bydd i anhawsderau gyfodi, mae yo debyg, o berthynas i'r cyhuddiad cyntaf, oher- wydd prinder gwirioneddol gwartheg. Mae Llun- deinwyr yn dechreu anesmwytho oherwydd codiad pris cig, ac yn nghyfarfod diweddaf Llysy Cyngor CyfFredin pasiwyd penderfyniad yn cyfarwyddo Pwyllgor Marchnadoedd Anifeiliaid i geisio cael ymddiddan a Llywydd Bwrdd Amaethyddiaeth er cael rhyddhad oddiwrth y rheolau caethion a wrthodant atgludiad o'r Argentine. Bydd i gan- lyniad y cais yma gael ei wylied gyda dyddordeb mawr, nid yn nnig gan Lundeinwyr, ond gan ffermwyr drwy yr holl wlad. Awyddus iawn ydyw amaethwyr Stockton fod golchi defaid yn cael ei wneyd yn orfodol, ac mewn ufudd-dod i'w cais fe gafodd y Cadben Spencer, o Fwrdd Amaethyddiaeth, ymddiddan a hwy. Y farn awyddogol ar y cwestiwn pwysig hwn ydyw fod trafodaeth golchiad gorfodol yn an- amserol. Gall awdardodau lleol amddiffyn ea hunain gydag 4 Archeb Clwyf Defaid,' ac yBtyrir fod mesurau cryfach ar hyn o bryd yn anmhosibl. Amlygodd ffermwyr Stockton yn bar groew nad oeddynt yn cydsynio Wr farn swyddogol, ac anfon- asant Cadben Spencer yn ol gyda datganiad ad- newyddol na fydd i ddim ond golchiad gorfodol ddinyatrio clwyf y defaid. Bydd i fwyafrif am- aethwyr gytuno a hwy. Mewn rhai parthau o Ddeheubarth Ewrop, ceir cynifer a thri chnwd yn y flwyddyn, ond nid yw hyn yn ddim o'i gymharu a'r hyn wneir gan am- aethwyr Chineaidd, nifer o ba rai gyfodant gy- maint a saith cnwd mewn blwyddyn. Mae y Chinead yn arfer pobpeth fel gwrtaith. Boasai i yn synu at y gwaetraft ynglyn a charthion y tref- ydd mawrion. Dyma yn ddieithriad y moddion a gadwasant tir China mor doreithiog am filoedd o flynyddoedd. Mae hefyd wedi effeithio yn fawr ar iechyd y bobl. Dyrysbwnc y wlad hon ydyw pa fodd i gael ymadael a'r carthion. Mi allwn gymeryd gwers oddiwrth y Chinead. Y mae erthygl o eiddo un Mr Primrose M'Con- nell ar gweatiwn offerynau amaethyddol Americ- anaidd wedi creu cryn siarad yo ddiweddar. Ys- grifa, pa fodd bynag, fel pe nad ydym ni yn y wlad hon yn gwybod dim bron am offerynau Am- ericanaidd, tra mewn gwirionedd nad oea bron yr un fferm na chanfyddir un neu ychwaneg ohonynt. Dywedai un amaethwr y dydd o'r blaen mai y rheswm fod yr offerynau Americanaidd wedi cael y fath afael ar y wlad hon oedd am eu bod yn cael eu hyabysebu mor eang. Yr oeddys bron wedi anghofio yr hen ffirms Cymreig a Seisnig, a hyny am nad oeddynt wedi gwneyd ychydig, os dim, i gadw eu henwau ger bron y cyboedd am- aethyddol. Mae Ilawer o wirionedd yn hyn. Mae y sychder parhaus yn peri cryn anes- mwythder yn y wlad hon, ond y mae y rhagol- ygon yn Ffrainc yn llawer mwy boddhaol ac y mae y gwenith yn addawol iawn yn mhobman yno. Nid gwiaw fe! y ni sydd arnyut hwy eiaieu yn awr, ond tywydd sych. Mae yno ragolygon da am gnydau gwair, a cban nad ydyw yr oerni wedi effeithio ar y winwydden, dylai y ffermwr Ffrengig fod mewn ysbryd rhagorol. Atglodiad blav-d ac nid atiiludiad yd sydd wedi effeithio mor ddifrifol ar barthau gwledig y deyrnas hon, ac wedi bod yn ddinfatr i-felinau gwynt a melinau dwfr y wlad. Heblaw hyn mae wedi ein cynysgaeddu a thorth arfaethlawn, ac fe honir ein bod mewn canlyniad yn fwy eiddil fel cenedl. Beth sydd eisieu ydyw y dorth hen ffaa- iwn, wedi ei gwneyd nid o flawd tramor ond o fla,vd maethlawn cartref. Dechreuodd rhywun, gydag amcan neillduol, waeddi allan nad o-edd modd gwneyd tcrth neu ddwy o wenith Prydeinig yn unig aeth y cri ar led, a chredodd pawb yn- ddo. Y canlyniad fu i flawd tramor ddylifo troa- odd i'r wlad hon, ac i flawd Cymreig a Seisnip gael ei ddifrio. All dim fod yn fwy ffcl Mae y dorth ffasiwn newydd wedi ein niweidio yn mhob cyfeiriad-yn ein pocedau yn ogystal ag yn ein hiechyd. Gan hyny, bydded i ffermwyr a melinwyr falu eu gwenith eu hunain, a chryfhau ar dorth cartref fel y gwnaeth ein cyn-dadau.
Marwolaeth Atonwyson.
Marwolaeth Atonwyson. Rhaid bellach osod y gair diweddar' ar ol enw Mr William Richards (Afonwyson), yr hwn fu farw yn nhy ei ferch yn Wimbledon, Surrey, ar y 18fed cytiaol, yn 69 mlwydd oed. Yr oedd yn adnabyddus drwy Dde aGogledd Cymru. gan iddo gynrychioli y Gymdeithas Amddiffyuo] Eglwysig yn Nghymru am rai blynyddoedd. Heddwch i lwch y cyfaill dyddan.
Hwfa Mon yn Bsryglus CIat.
Hwfa Mon yn Bsryglus CIat. Hysbyair fod yr Archdderwydd Hwfa Mon yn beryglas glaf, a'i fod wedi gorfod galw yn ol ei holl ymrwymiadao. Y mae' hyn yn dra anffodus, gan mai efe oedd wedi ei beuodi i gyorychioli Cymru ar achlysur y Coroniad, yr hyn sydd yn awr yn ymyl. Y mae Mr Williams yn 78 mlwydd oed, ac yr oedd yn bresenol yn y aeremoni gyda Thywysog Cymru yn Mangor a Chaernarfon, yr hya a anmharodd yn fawr ar ei iechyd a'i nerth. Cafted lwyr adferiad buan, a'i arbed ynglyn â'r Eisteddfod, sydd mor agos at ei galon.
Cyflawniad Breuddwyd.
Cyflawniad Breuddwyd. Ysgrifenodd gwraig oedranus yn Croydon at y Frenhines ei bod 4 wedi breuddwydio fwy nag unwaith fod ei Mawrhydi wedi ei anrhegw a chadair, shatd, a Beibl. Anfonodd y Frenhinea nn o'i chapianiaid i weled y wraig ac wedi hyny darfu iddi gario y breuddwyd allan mor bell ag yr oedd a wnelo a'r shawl a'r Beibl. Y perygl ydyw y bydd nifer y breuddwydwyr yn analhau, ac y poenir ei Mawrhjdi ganddynt, gan fod rhai pobl yo barod iawn i fanteisio ar garedigrwydd, a hyny ya ami ar gam.
Eisteddfod Penrhiwgoch, Mai…
Eisteddfod Penrhiwgoch, Mai 5ed, 1902. (Englynion byrfyfyr a ddarllenwyd gan yr ar- weinydd, y Parch D. S. Davies, Saron, Llandebie.) I I'll CADElRYDD-MR. J. MADDOCKS, BEILI GLAS, LLANARTHNEY. Gwr o harddwch, gfir urddas-gwyl heddyw Gwyleiddiol lyw addas Heb ei ail yn ei balas, Gwir abl, glew, gwr Beili Glas. I'R PARCH J. HERBERT, GWEHTXDOG. Gwyn, hudol ei genadaeth-meddyliwr Medd hwyliog syniadaeth O'i air per, ceir mer a maeth Ysgubol ei esgobaeth.. Para'n hir, yn glir fo 'i gloch-ddiladdias Da lwyddiant fo arnoch Hudolus wr y dalioch Mwyn wr gwyn yn Mhenrhiwgoch. s I MR T. EVANS, YR YSGRIFENYDD. Chweg-nwyddwr iach, cu noddydd-yw Evans A difai fel trefnydd Cryf hynod ysgrifenydd, Shape ar sense y slopwr sydd. I MR J. R. LEWIS, A.C., BEIRNIAD Y CANU. Glew wr i ddal y glorian-yw Lewis, A hwyliog fab cynghan Braint i'r glew, O brinter glan Gwrdd arwr y gerdd eirian. Gerddor mwyn, llawn awyn 'nawr sydd—ar y fainc Gwr o farn mor gelfydd; Ar fin y dorf derfyn dydd Clic enwir y clorianydd. Da hwyliau wedi eloch —o'r ymdreoh, A'r medrua ddyn welsach A thyb gadarn y barnoch— Mae'n wr y gerdd yn Mhenrhiwgoch. I MISS RICHARDS, BEIRNlADYDDES Y PRIZE BAGS.' O mwy ei swyn na'r miwsig—im1 ydyw Gem hudol, garedig Pwy ga ferch mor dderch 1 'rwy'n ddig I'r hwn aeth a'r enethig. Lady yw'n mun, blod'yn i mi—a roddodd, Arwyddol ei dlysni Anrheg bardd i fardd fel fi- Par hudol 'rol priodi. 0 urdd ddenol, hardd hanes-sydd iddi, Sa' haeddol feirniades Nawddogol foneddiges, Drwy ei swydd daeth llwydd a lies. Saron, Llandebie. D. S. DAVIES.
Y Trychineb yn St Vincent.
Y Trychineb yn St Vincent. CYNORTHWYO Y RHEIDUS. Rhaglaw St Vincent a enfyn y genadwri a gan- lyn at Swyddfa y Trefedigaethau, Llundain Mae 17eg.-Derbyniwyd tair cenadwri. Pob angen uniongyrchol yn awr wedi eu cyflenwi. Yr wyf wedi rhoddi archeb am goed at dai drwy Llysgenhad ei Fawrhydi yn Washington a Rhag- law Canada, y rhai a gostiant bum' mil o bunau. Byddwch mor garedig a chyfarwyddo y iwyddog- ioa hyny i gydweithredu, a threfnu ar gyfer talu. Mae y cwestiwn o adsefydlu y bobl o dan fy ystyriaetb. Mae un dref nowydd wedi cael ei aetlo. I fyny hyd yn awr yr wyf yn brysur gyda'r gwaith o gwblhau y trefniadau o estyn cynorthwy i'r clwyfedigion a'r dioddefwyr. Yn ol fy amcangyfrif i bydd baner can' mil o bunau yn ddigon i'n galluogi i srynal yr holl ddioddefwyr am chwe' mis, a'u gosod mewn tai mewn lleoedd newydd. Mae dioddefiadau y clwyfedigion oddi- wrth losgiadau yn ddychrynllyd i'r eithaf. Bu triugain farw yn yr yspytty." Y MYNYDD TANLLYD YN AIL FWRW EI GYNWYS ALLAN. Newyddion o St Lucia, dydd Mercher, a fyneg- ant i hysbysrwydd gael ei-dderbyn o St Vincent yn dweyd fod y mynydd tanllyd Sonfriere eto wedi arllwys ei gynwya tanllyd ar noBon y 18fed cyfisol. Cwympai damau mawrion o greigiau, a disgyDodd y cawodydd-lwch, ac o fewn chwe' milldir i Kingstown yr oedd y wlad wedi ei gorchuddio am ddwy droedfedd. Mai y 19eg, drachefn, yr oedd y mynydd yn bwrw ei gynwys, a llifai ffrydiau o lava ar hyd ochr y mynydd, tra y disgynai cawodydd o lweh. Aeth y trigolion o Chateau Belair, oDdyr oedd Kingstown yn or- lawn o ffoedigion. Ofnir fod agen newydd wedi ei ffurfio yn Nyffryn Namagua, sydd yn nes i Kingstown nag i Ddyffryn Sonfriere. Gorchuddir y lIe a mwg. yr hyn oedd yn ymddaugos fel pe yr dyfod o dros fynydd Bonhomme. Bygythir llwyr ddifrodiad rhan fawr o'r ynys gan ffrydiau o lava. Trengodd amryw bersonau yn y gorsafoedd cenhadol. Yn ychwanegol at y ddwy fil o farwol- aethau a nodwyd, y mae amryw o'r rhai a gollwyd nas gellir rhoddi cyfrif am d&nynt.
Diacon Creulawn.
Diacon Creulawn. Yn Llys Heddgeidwadol Bath, dydd Mercher, dirwywyd William Webber, diaccn yn Nghapel Cynulleidfaol Argyle, i 5p a'r gostau am greulon- deb at ei fab, o'r enw Rupert, naw mlwydd oed. Ymddengys i'r bachgen dori gwydr, ac i'r tad ei guro yn greulon gyda chansen pan yr oedd y bach. gen yn ei wely. Darfu i'r cymydogion hysbysu y I peth i'r Gymdeithai er Atal Creulondeb at Blant, yr hon a erlynai. Yr oedd briwiau difrifol ar y ylentyn. Gwyaiwyd hefyd Mrs Webber am gren- londeb at y plentyn. Ei fam-yn-nghyfraith ydyw hi, ac honid iddi hithau ei guro ar yr achlysur yma. Taflwyd allan yr achos yn erbyn Mrs Web. ber am nad oedd yna ddigon o dystiolaeth. Yn mysg y tystion a alwyd droa yr amddiffyniad ydoedd cyn-Faer Bath (Mr Silcock).
Trafodaethau Heddwch.1
Trafodaethau Heddwch. HOLI MR. BALFOUR YN Y SENEDD. Yn Nhy y Cyffredin, dydd Llun, dywedodd Mr Balfour (mewn atebiad i Syr Campbell-Banner- man) pe buasai unrhyw newydd i'w draethu ynglyn a materion yn Ne Affrica, y buasai efe yn ei adrodd yn wirfoddol a diymdroi. Mr Dalziel a ofynodd a allai Mr Balfour wneyd unrhyw ddyfaliad pa bryd y byddai yn debygol o allu gwneyd mynegiad i'r Ty ar y trafodaethau heddwch. Mr Balfour-Nis gallaf wneyd unrhyw rag- fynegiad.
Dyfodiad y Brenin Alfonso…
Dyfodiad y Brenin Alfonso i'w Oed. CYNLWYN I'W LOFRUDDIO. Dydd Sadwrn yr oedd y Brenin Alfonso (Ys- paen) yn cyraedd ei 16eg mlwydd oed, ac yo unol a deddfau y wlad hono yr oedd yn dyfod i fedd- iant o'i Frenhiniaeth yr un diwrnod. Trefnwyd i'r gweithrediadau yuglyn S.'r Coroqiad gymeryd lie yn Madrid, ac yr oedd y ddinaa hono wedi parotoi yn helaeth ar gyfer yr amgylchiad, ac ugeiniau o filoedd o bobl wedi ymdyru iddi o bob rhan o'r wlad. Tra yr oedd yr orymdaith Fren- hinol yn myned drwy yr heolydd, gosododd dyn sypyn yn y cerbyd wrth draed y Brenio, ond, yn bollol ddidaro, rhoddodd y Brenin gic i'r sypyn, a disgynodd ar yr heol. Canfyddwyd ei wyneb yn gwelwi, a deallodd y rhai o'i amgylch fod rhywbeth anarferol wedi digwydd, a chywerwY4 y dyn i'r ddalfa. Cafwyd mai Anarchiad peryglufe ydoedd, ac yn ei feddiant yr oedd amryw dan- belenau, tra y cafwyd lluaws o elfenau ffrwydrol yn meddiant amryw ereill a amheuid. Ar hyn o bryd, mae amr#jw o'r gi^ed hyn yn y ddatfa, ond I y mae yr heddgeidwaid yn gwrthod rhoddi y manylion. Nis geUir eu beio am foi yn wyliad- wrus, gan fod rhai gohebwyr yn cymeryd mantais anheb ar fanylion o'r fath, a thrwy eu cyhoeddi yii galluogi y drwgweithredwyr i ddeall beth nydd yn cael ei wneyd i'w dal, a'u parotoi i ddianc. Pan ddeallodd y rhai oeddynt yn yr heolydd fod ymgais wedi ei wneyd i ladd y Brenin, yr oedd y eyffro yn annesgrifiadwy.
Ymadawiad y Parch. J. Myrddin…
Ymadawiad y Parch. J. Myrddin Thomas a Chaerfyrddin. Chwith gan luaws cyfeillion ac edmygwyr y bardd-bregethwr awengar, a hyawdl uehod fydd cael ar ddeall ei fod ef a'i briod hawddgar wedi gadael y dref hon foreu dydd Mercher diweddaf i Brestatyn, Gogledd Cymru, i dreulio gweddill eu hoes. Ar ol rhoddi i fyny ofal yr eglwysi Anni- bynol yn y Wyddgrug a'r gymydogaeth rai blyn- yddoedd yn of, daeth i'w hen ardal enedigol i breewylio ond yn ddiweddar, oherwydd amryw resymau, daeth arno rhyw awydd angerddol am ail-ddychwelyd i'r Gogledd i ymgartrefu ac nid rhyfedd pan yr ystyrir ei fod wedi treulio y rhan oreu o'i oes-sef eyfnod o 30 mlynedd-fel gwein- idog yn y Gogleddbarth. Fel pregethwr, ystyrir Mr Thomas yn rbeng flaenaf y gweinidogion Cynulleidfaol ac er na chawsom y fraint o'i glywed yn traddodi y genad- wri namyn unwaith neu ddwy, eto yr oedd hyny yn ddigon i gadarnbau y dystiolaeth uchod am dano. Pregethai gyda nerth ac arddeliad, ac am- lwg oedd mai ei amcan ydoedd cyraedd calon y gwrandawyr drwy y deall, megis yr hen gewri gynt. I'r rhai sydd yn caru y Gymraeg, amheuthyn oedd gwrando ar barabliad naturiol a choethder iaith Mr Thomas pan yn y pwlpud, a da fydda-i i lawer pregethwr ieuanc ei efelychu yn hyn o beth. Fel bardd a lienor hefyd, nid gormod fyddai rhestru Mr Thomas yn y rhea flaenaf. Cafodd darllenwyr y JOURNAL flasusfwyd o'r fath oreu mewn can a lien yn yetod yr ychydig flynyddoedd y ba yn trigianu yn Nghaerfyrddin. Prin y deuai rbifyu o'r JOURNAL allan na byddai ynddo rai o gynyrchion Myrddin Thomas. Ymosodai yn llym ar bechodau yr oes, megis meddwdod, anllad- rwydd, anffyddlondeb, a diffyg gwir grefydd, gyda'r amcan o ddeffroi ei gydwladwyr i iawn- synied eu dyledswyddau, ac i sylweddoli gwir am- can bywyd. Er yu ein gadael, y mae wedi addaw ysgrifenu i'r JOURNAL yn awr ac eilwaith o'i drigle newydd yn y Gogledd. Eiddunwn iddo ef a'i briod bob llwyddiant a thangnefedd yn eu cartref newydd, a blynyddau lawer eto i wasanaethu ei Dduw a'i gydwladwyr.
Clywedion o Henllan a'r Cylch.
Clywedion o Henllan a'r Cylch. Clywed mai oddicartref y bu y rhan fwyaf o drigolion 1 lie yn treulio'r Llungwyn. Aeth yr y Eglwyawyr i Gaatellnewydd-Emlyn, y Methodiet- iiud i Twrgwyn, a'r Bedyddwyr i Llandyssul. Clywed fod Cor Merched Penrhyo wedi rhoddi cyfrif da iawn o'u hunain yn Felindre, a bod gwyr y cylch wedi rhoddi pob cefnogaeth iddynt. Clywed fod Undeb y Gwehyddion wedi talu y rhan fwyaf o'u treuliau yn ystod eu harosiad. Gweithred dda iawn, yn esiampl o'r elfen ddyn- garol sydd mor nodweddiadol o'r gweithiwr. Clywed fod gwyr y lie wedi cael gafael ar don newydd, er nad ydyw eto wedi enill poblogrwydd y 'Sospan Fach a'r hen wraig o Cydweli. Clywed mai'r prif ddiffyg ydyw nad oea ynddi ddigon o awn galarus L ateb y geiriaa, pa rai vdynt rbyw haner marwnad i hen geffyl wedi Jhaner boddi yn y pill- Clywed fod ysgrif ddyddorol ar Deulu'r Bron wydd gao Dr Rees, Bronant, wedi ym- ddangos mewn misolyn Cymraeg am Mai. Oyddorol ydyw ei ddarlaniad o 'Capel y Drindod.' Cewch glywed rhagor eto. I LLWYNOG COEDYWAEN.
Advertising
NRN = THE MOST NUTRITIOUS. EPP S'S CRATEFUL-COMFORTINQ. COCOA ■R^A^FAST—SUPPCIL
CLYWEDIGION 0 HENLLAN A'R…
CLYWEDIGION 0 HENLLAN A'R CYLCH. At Olygydd y JOURNAL. SYR,-Blin genyf fy mod yn gorfod eich poeni & chais am ychydig ofod o'r JOURNAL i'r llinellau hyn mewn amddiffyniad i fy hunan yn ngwyneb cyhuddiadau 4 Crychydd o Lan Cwerchyr.' Nis gallaf feddwl beth barodd dramgwydd iddo, os nad ydyw yn dioddef oddiwrth ddwfr ar yr ymenydd, nea o bosibl mai ar y dydd cyntaf o Ebrill y gwelodd oleu dydd, a bod ei achos yn anobeithiol. Ymddengys i mi ei fod am afael yn fy nghorpws a childdanedd cenfigen. Gadawer i ni gael tynu ychydig o'r danedd hyn. (1) Dywed nad oes eisteddfod i fod yn Velin- dre, Penboyr. Ni ddywedais i hyny. Clywed ddarfu i mi eu bod yn meddwl cael un yno. Hawdd y gallaf brofi i rai o wyr y He ddweyd hyny wrthyf. Am y cyfeiriad personol sydd gan- ddo tuag ataf, ni raid ond dweyd Diolch yn dal- pau i chAi, Syr, am dano.' Dyma ddant wedi ei dynu. (2) Mewn perthynas i'r sylwadau beirniadol sydd ganddo ar waith y Talcen Slip, digon yw dweyd eu bod yn blentynaidd. Sonia am wobr gan y Llywodraeth; gallwn feddwl mai y 4 Crychydd ddylasai gael hono am ei orchestwaith beirniadol. (3) Gyda golwg ar ei sylw ar yr ynad, Mr Evans, ac nid Mr Davies, ddylai yr enw fod. Gallem feddwl fod ei drigle bron mor agos i Henllan ag ydyw i Benrhiwllan. Dyna ddant eto yn ddarnau. Carwn i'r I Crychydd' fod mor garedig a chofio tri pheth cyn myned mwy i hela llwynog:—(a) Peidio ceisio cywiro gwallau trwy wneyd gwallau ei hunan. (b) Cofied ddameg y 'brethyn newydd a'r hen frethyn.' (c) Peidio agor gormod o OTorau y cof' a'u llanw a gwynt nerthol, yr hyn sydd yn peri hyd yn nod i'r I Crychydd ddisgyn weithiau yn isel iawn i lan y dw'r.—Yr eiddoch, &c., LLWYNOG COEDYWAEN.
LLANDYSSUL.
LLANDYSSUL. MARWOLAETH.—Dydd Mawrth, y 13eg cyfiaol, bu farw Margaret Rees, gweddw y diweddar James Rees, Plygyrhiw, ar ol ychydig gystudd, wedi cyraedd yr oedran teg o 85 mlwydd. Cy- merodd yr angladd le y dydd Gwener canlycol claddu yn mynwent yr eglwys, pryd y gwasan- aethwyd gan y Parch J. H. Devies, curad.
HOREB, CER LLANDYSSUL.
HOREB, CER LLANDYSSUL. CYMANFA.—Y Llungwyn, cynhaliwyd cylchwyl flynyddol gerddorol a phynciol eglwysi Horeb, Gwernllwyn, Bwlchygroes, Carmel, a Seion yn Bwlchygroes. Holwyr y pwnc oeddynt y Parchn B. Davies, D.D., Trelech, a Dan Evans, Hawen, a gwnaethant eu gwaith i berffaith foddlonrwydd pawb. Pregethasant hefyd yn yr hwyr, ac yn sicr nid aiff y pregethau o'r cof yn fuan. Er fod y tywydd yn oer a gwyntog, eto daeth lluosog- rwydd o bobl ynghyd drwy y dydd. Y mae y diolchiadau mwyaf cynes yn deilwng i'r cyfeillion yn y lie am y darpariaethau helaeth oeddynt wedi eu trefnu ar gyfer angenrheidiau y torfeydd. Gafwyd cymanfa fendigedig yn ngwir ystyr y gair. -Ioan, Machnog.
LLANARTH.
LLANARTH. PILIODAS.-Boreu Llungwyn, yr wythnos ddi- weddaf, clywid trwst ergydion fel magnelau yn ac o ampylch peutref tlws a thawel Llanarth. Y Cadben James MacLaren, Frongoch, oedd yn cael ei uno mewn glan briodas a Miss M. A. Rees, unig fesch oroesedig Mrs Rees, Beechwood, Llanarth. Gwnaeth preswylwyr y pentref bob arwyddion o ddymuniadan da i'r par priodasol. Crogid banerau amryliw, bwaog, dros yr heolydd mewn gwahanol gyfeiriadau. Priodwyd yn Penycae gan Mr J. C. Jones, y cofrestrydd. Wedi byrbryd, ymadawodd y ddeuddyn am y Brifddinas. Wele restr o'r an- rhegion :—Bride to bridegroom, gold studs and links bridegroom to bride, gold watch and chain; Mrs Reea, Beechwood, household linen, &c.; Mr J. Rees, ditto, ladies' travelling trunk Masters Arthur, Mabon, and Percy Rees, cheque Mr and Mrs Lloyd Rees, cheque Capt and Mrs Rees, Poplars, toilet set Miss Emma Rees, ditto, brush and comb Rev Eynon Hughes, Llandilo, cheque; Mr and Mrs Evans, Vyllteg Rock, trinket set; Capt and Mrs Jones, Glanllethi, serviettes and tablecloths Miss L. J. Evans, Vyllteg Rock, pair of stockings Mr and Mrs J. C. Jones, Pant I ville, eider-down quilt; Capt T. Walters, Poplar, silvar teapot; Mr and Mrs H. T. Evans, Neuadd, bronze candlesticks Mr & Mrs Lewis, Pandy, bis- cuit jar Mr & Mrs Evans, Police Station, electro plated fruit dish Mr B. Evans, Cardigan, pair of bronze vases; Mr and Mrs Davies, Albion, Aber- ayron, table cover Mrs Thomas, Blaenwern, afternoon tray cloth Miss S. Jones, Blaenwern, tray cloth Miss M. Evans, Beechwood, nickle- silver spoons Mr and Mrs Kersley, London, table spoons Mr and Mrs Jones, Cilgwyn Hotel, Llandyssul, salad bowl Mr and Mrs Jones, Aberayron, linen table cloth Mr and Mrs Robertson, Aberayron, toilet covers Mr and Mrs Bevan, Alma, soup ladle Miss Thomas, Garth Villa, table centre and d'oyleys Mr and Mrs Thomas, Llanina Arms, cheque Miss Rees, Rose Hill Cottage, table cover Miss Rees, Tycoch, breakfast cruet Mr and Mrs Thomas, Llain, fancy teapot and stand Mrs Howells, South Parade, pair of towels Miss Jenkins, North Parade, toilet cover Mr and Mrs Mears, South End, toilet cover Miss Davies, Parade, nickel-silver jam spoon Mrs Thomas, Barry, table cloths; Miss S. Jones, Gwardyn, breakfast cruet Mr and Mrs Herbert, Penrhiw, tureen and gravy boat; Miss A. Davies, Llwyn- celyn, pair of wine decanters Mrs E. Herbert, Oakford, Bible Mr and Mrs Jones, Synod Inn, two pairs of towels; Mrs H. Lloyd, Bridgend, cheque; Miss Davies, Maeallan-fach, afternoon tray cloth Miss Davies, Tower Hill, carpet brush Mr and Mrs Jones, Gwarllyn, feather pil- low Mrs R Pantisdaufan, tumblers Miss H. Williams, Plas, fancy bellowa Miss E. Thomas, Tanyfron, nightdress case and brush and comb bag Miss Lloyd, Royal Oak, towels Miss H. Davies, Pencae, old-fashioned plate Mr and Mrs Evana, Water-street, table cloths Miss McLaren, Frongoch, pair of feather pillows Miss J Jones, Victoria-place, 'glass jug Miss May Hughes, Morris, silk cushion Mrs N Evans, Llain, muffin dish Miss M Lewis, Oakford, coffee pot Mr Horey, Bristol, cheque Captain and Mrs Thomas, Alma, soup ladle Mrs Lloyd, Rose Green, pair of towels lilr J Davies, Brynawen, tray Mr J. T. Lewis, London, cruet stand Mrs Jones, Carde Hill, flour vase Miss D.tvies, Post Office, sugar tongs Mrs Shaylor, Bryn- heulog, cream jug and basin Mrs Morgans, Penybont, photo frame and jugs; Mrs Davies, Goitre, water bottle Mrs Lewis, Brynouen, Coronation toilet Mrs Evans, Golan, butter dish Miss Jones, Fronwen, breakfast cruet. CWRDD PLWYF.—Nos Lun diweddaf cyfarfu 26 o drethdalwyr plwyf Llanarth, er ystyried beth i wneyd er dathlu Coroniad y Brenin. Penderfynwyd yn unfrydol i ofyu i'r Cyngor Plwyf roddi o Ieiaf bymtheg punt at y treuliau, a bod holl blant y plwyf i gael te ar yr achlysur, rhai yn ysgol Llanarth, ereill yn Mydroilin, a'r lleill yn Penlon. Mr Morgan Evans oedd yn y gadair. Un person yn anig oedd o ran uchaf y plwyf yn bresenol.R..R.
TALGAREC.
TALGAREC. DARLITH.-Cafwyd darlith ddyddorol iawn yma nos Wener diweddaf, yn Ysgoldy y Bwrdd, gan Miss Jacob ar y testyn, 4 Iechyd perffaith y ffordd i'w gael a'i gadw.' Llywyddwyd yn dde- heuig gan y Cynghorydd Thomas, Ffactri-isaf. Nid oedd y cynulliad yn Iluosog, ond cyffrowyd meddwl pob un oedd yn bresenol gan areithydd- iaeth chwaethus a phrofion diymwad fod mynych- brydiau yn esgor ar heintiau poenus a nychlyd. Llawenydd mawr gan bawb oedd gweled Mrs Thomas, Pantcoch Villa, yn bresenol-boneddiges oedranu?, ar fin ei phedwar ugain mlwydd oed, a'i chynheddfau meddyliol i gyd yn fywiog. Mae hi yn by w yn ol ffordd N atur-daa bryd y dydd, dim brecwast hyd haner dydd
Advertising
A* a saie parwaneat, and warranted cure for Ze- zema, Scrofula, Scurvy, Bad Lop. Skin aad Blood Diseases, and Sores of all kÑute W8 MB wiia onefidowe recommend CLARKE'* WOJILD^AMHD MIXCVII FILL lpy CHe»iflt» #v«rywhv«;
. DE WETT.
DE WETT. Ailllwynol1 ei llynIluniau-yw De Wett, Dal hwn nis gall'maglau Wedi gwel'd symudiad gau, Ei gysur yw ei goesau. lOAN MYRDDIN.
DE WETT.
DE WETT. (Buddugol yn St Clears, Pasg, 1902.) Boer bywiog, enwog ini—yw De Wett, Arweinydd doeth heini' Dewr ei fron, rhwydwr o fri, Da redwr llawn direidi. IOAN MYRDDIN.
DE WETT.
DE WETT. De Wett I don't mind betting-in a race He can run like lightning A reynard fond of running, Safe in war as if on wing. lOAN MYRDDIN. 71, Lammaa-street, Carmarthen. j
CAERGADELL.
CAERGADELL. I Gwiw ergydion i Gaergadell—a rwydd Roddaf am ei dichell; Can wnaf yn fy ystafell I'w thwrw a'i hiaith arw a hell. yn mhob pafcth i warth ymwerthu—o'i mewn A wna mil wrth bechu I ryw drobwll neu dwll du Y try gwerin trwy garu Mewn conglau Ueisiau yn 11on-yn ea plith Wna plant anghyfreithlon Nid gwaraidd bobl ond gwirion Goeglyd haid a ga glod hon Yn mhob gwedd camfucbeddu-wna y rhai'n, A rhydd odinebu Hefo rhodres proffesu A byw'n lion mewn baw wna llu Trwy feddwdod hynod hoenus—anfad swn Ynfyd sydd ar wefus Celwyddau cywilyddus—haeddant sen, A didor gynnen bodau drygionus. Trwydded i'r nef yw crefydd—o ran ffurf Gan werin ffol, benrydd Chwareu y nos yn ffosydd ABan serch yn ddiflin sydd Caergadell yn bell mewn baw-llwyd ow sydd Yn Iled 8wrth ymdreiglaw Mae yn bryd iddi mewn braw Ac alaeth amlwg wylaw. Celwydd wrth fodd eu calon—aflonydd Hyf lunia'r trigolion Anfoesol grefyddolion A geir hyd y fangre hon. Trwy anonestrwydd llwyddant—efo'r byd, Enfawr bwrs a lanwant Yn mhen tymmcr fe dorant, Diau i'r dim dan draed ant. Tra gwael yw y trigolion—anwadal, Nwydwyllt, ac anffyddlon Cisiiu eu geiriau gwirion A'u dwfn frad wna'm diofn fron. Dirif haid yn y dref hon—heddyw sydd serch ar ddifyrion Ffol lawer, a drwg arferion Gerwin y lie a'u gyr yn lion. Hefo gwyneb hoew fe ganaf—yn iach Iddi'n wir, a bloeddiaf, Ei gweniaith a oganaf, Gyda nwyd ei gadaw waaf. MYRDDIN.
CHWE' PHENILL I BENTREF BRECHFA.
CHWE' PHENILL I BENTREF BRECHFA. (Buddugol yn Eisteddfod Brechfa, Mawrth 27ain, 1902). Hawddamor bentref tlws a'th wên roesawgar, Gorenwog wyt yn mhlith pentrefi'r ddaear Dy sedd urddasol sydd wrth draed y bryniau Fyddinant uwch dy ben fel cewri'r oesau Paradwys awen wyt, yn llawn peroriaeth, Ar lan y Cothi gethin a'i barddoniaeth, Murmuron Maries fwyn a Phil wrth ddisgyn Sy'n tori ar dy glyw fel tanau telyn. Prydferthwch ar dy fynwes sy'n blodeuo A bysedd cun celfyddyd yn dy arwsio Y newydd bont p law y Cyngor Sirol, Symudodd anhawsderau dy orplleuol A'th benaf addurniadau cysegredig Yw'r deml hardd a'th Eglwys Lan Gatholig, Sy'n dystion o'r Efengyl a'i dylanwad, Ar lwybrau moes, fel b'odau prydferth cariad. Dy brea^ylyddion sydd o amryw ddoniau, A hedd yn plethu coron am eu penau Gwehyddion, cryddion, enwog ddilladyddion, Grymusol of yn tincian yr hen eingion Maelfaoedd heirdd, yn llawn o'r nwyddau goreu A'r Forest Arms a'i enwog gyfleusderau Dy olew-weithfa buddiol i'r gym'dogaeth A'r Eglwys hen adrodda dy henafiaeth. Ymwelwyr hedant yma pan ddaw'r hafddydd, Fel adar y tymhorau dros y glenydd Boneddwyr Llundain tua phentref Brechfa Gyfeiria 'n llu ar adeg y pysgota A'r llythyr-gludydd lion ar chwim olwynion Sy'n brysio gyda'r dydd a'i lwytb newyddion Pryd daw yr agerbeiriant heibio 'th ddrysau, A'r trydan gwyllt i gario brys negesau ? Dy Ysgol Fwrdd—meithrinfa dysg elfenol, Ei deiliaid man fydd dynion y dyfodol Yn llaw ei hathraw mad sy'n Haw dysgeidiaetb Esgynant risiau bri i fryn gwybodaeth Ysgolion Sul mor dlws a gwawr y boreu, Yn ymlid anwybodaeth dros y bryniau, A gwanwyn ieuanc o dan goron rhinwedd Yn taenu drostynt nefol berarogledd. Cenhadon hedd sydd yma yn cyhoeddi I'th glyw bob Sul y Ddwyfol genadwri Moesoldeb, celf, a gwyddor fo ar gynydd, A thyfed ynot egwyddorion crefydd Hoffusaf bentref, boed dy fwyn daweledd Dan gysgod edyn gwynion pur dangnefedd Distawrwydd cysegredig dy fynwentydd Sy'n disgwyl turiad gwawr tragwyddol hafddydd. Nantgaredig. LEWIS JONES.
GWERSI HEN AELWYD FY MAM.
GWERSI HEN AELWYD FY MAM. Mewn pentref bach prydferth dan gesail y graig, Fe safai hardd fwthyn bach dyd, Ac yno y cefais i ddysgu Cymraeg, Sy'n fiwsig yn nghlustiau y byd Ond Eden fy mebyd sy'n anial i gyd, A phrudd ydyw rhodio bob cam, Ond erys yr adgof yn felus o hyd, Am werthfawr gynghorion fy mam. Mae'r byd yn myn'd heibio, yn symud ar ffo, Yn wyllt fel llifeitiant mawr cryf, Ac olwyn fawr a.mser y dyn sy'n rhoi tro, A myned i ffwrdd gyda'r llif Y tadau sy'n myned, a'r plant sydd yn d'od, A chollir cyfeillion dinarn, Ond erys yr adgof mor fyw ag erio'd Am felus gynghorion fy mam. I Dysgawdwyr ymffrostiant yn wychdcr eu dawn Deallant athroniaeth y byd Gwybodaeth sy'n chwyjdo, mae'r ddaear yn llawn o bethau newyddion o hyd Ond mam oedd ddysgedig yn Meibl yr lor, Dealiai athroniaeth pob rhan, A dweyd am ei gariad sy'n chwyddo fel mor Oedd gwersi hen aelwyd fy maoi. Er rhodio pell diroedd ar gefn mawr y byd A nofio ar ysgwydd y don, A mynych i afael yr hwn sydd a'i fryd Ar friwio teimladau fy mron Er gwaethaf cyfrwysdra gelynion yn llu, Ni chefais hyd yma un cam Yn sefyll rhwng pechu a'm bywyd bach i Mae gwersi hen aelwyd fy mam. Go fychain a welais yn amlder eu grym, A chalon y byd leI., ddraig, A'm llestr bach inall bron myned pryd hyn Yn gan dry 11 yn erbyn y graig 1 Bydd ffyddlon hyd angen oleuodd fy myd Hon ydoedd a'm daliodd i'r lan, Mi heriaf alluoedd Gehena i gyd Oa pwysaf ar wersi fy mam. Pe byddai i'r Wyddfa gyrhaeddfawr roi naid Wrth nerthol orchymyn yr lor, A gwelem y bryniau cadamgryf wrth raid Yn neidio i ganol y mpr Pe gwelem hen,greigiau yegytbrogyn sarn, A'r ddaear yn notio mewn fflam Mi ganwo yn wyneb rhyferthwy y farn A'm pwys ar hen wersi fy mam. Gorseinon. T. R. JOHN (IRVONWY).
------Y GOG WRTH FFYNON BRAN.
Y GOG WRTH FFYNON BRAN. Rwy'n hoff o swynion natur, v Pan gly waf gan y gog, r Ei dau nod sydd yn llythyr, O'i ddarlien y ceir Hog Ei gynwys sy'n rhybaddio Mewn swynol, beraidd gan, Hwn barodd i mi wylo Wrth ymyl Ffynon Bran. Wrth eistedd i fyfyrio Gerllaw y ffynon hon, Fy meddwl aeth i grwydro t Yn yagafn ac yn lion I'r llecyn tawel, unig, Lie clywaia gynta' 'rioed, < Y gog yn rhoi ei chanig, I mi yn seithmlwydd oed. Argraffwyd ar fy nghalon Fod miwsig Ffynon Bran, Yn denu'r gog i gano'n .Q Fwy peraidd nag o'r bla'n Y gog a'r ffynon fechan Sy'n hen gyfeillion mwyn, A minau'n faban egwan Yn dotio yn eu swyn. M Ai glesni'r dail sy'n denu'r Aderyn glas ei liw, I fethu peidio canu Wrth wel'd eu harddwch gwiw Y nant sy'n cludo'r ffynon Drwy lawer extron dir, I'w cbartref yn yr eigion Mewn cerbyd arian clir. Y ffynon fach sy'n llifo, Y gog sy'n bedeg fry, 'Rwyf finau'n gorfod teimlo Nad aros yd wyf fi Y gwanwyn a ddaw eto I ddenu'r gog roi can, Ond pwy a fydd yn gwrando Yn ymyl Ffynon Bran ? Cwmhiraeth. D. D.
Advertising
-u. THE NEW HOBBY- j A HOBBY THAT and leads to <* New Profession by which from PAYS —. eatt le earned weakly. ¥ W & WRITE TQ-DAY/orfull jarfculars FREE, kindly mentioning thus Pojer, to T SOTfSt! DEPT. 67 II UflAilini 193 & 195, OXFQfii) STREET. LONDON, W. ESTABLISHED 187a. TRADE DIRECTORY CARMARTHEN AND DISTRICT. It Auctioneers. J. Howell Thomas & Son, St. Mary-street, Carnta then. John Francis, St. Ma*y-street, Carmarthen. Lloyd & Thomas, Quay-street, Carmarthen. Booksellers and Stationers. C. H. Carpenter, Newsagent, King-street, Carmarthen Churn Maker and Cooper. Thomas Jones, Quay-street and Market Place, Carmar- then. Churn aod Dairy Appliances. i Coal Merchant. T. Bland Davies, Coal and Lime Merchant, Bias- street, and 8, Quay-street, Carmarthen. Engravers. C. Rott & Sons, 17, Orange-street. Swansea. Inscrip- tions and Initials engraved, Brass Memorial Tife lets, etc. Family Butchers. J. Lloyd, Family Butcher, Dark Gate, Carmarthen. Fresh Meat Daily. Jones & Co., Wholesale and Retail Butohers, London House, Mansel-street, Carmarthen. Iron Founders. T. Jones & Sonn, Agricultural Implement Manufae turers, Priory Foundry. Maehiaery Depot—Coraar of Avenue, Priory-street, Carmarthen. Hairdressers. Heddon's Ladies' & Gentlemen's Hair-cutting Rooms, Guildhall-square, Carmarthen. Coombings mAe np._ Razors set. Private Room for Ladies and Children. Ironmongers, Mrs. W. Phillips, Wholesale and Retail Furnishiag Ironmonger, 4 and 5 Dark Gate, Carmarthen. Frederick Jones, 16, Guildhall-square, Carmarthen, Wholesale and Retail Ironmonger. Clearing ellb Stock. Business fer disposal. Jewellers. H. Reeves, 54a, Kinsy-street, Carmarthen. Private Room for Wedding Rings. Davies & Sons, 5 Guildhall-square, Carmarthen. Wedding'and Keeper Rings a Speciality. Printers and Publishers. THE JOURNAL Company, Ltd., 1 and 2, St. Mary- street, Carmarthen, Tobacconist. For Tobaccos, Cigars, Cigarettes, Pipes, Walking Sticks, &c., go to Heddoo, Guildhall-square, Carmar- then. Cinderallas, 3s 4d pei box, Wine and Spirit Merchants, W. S. Phillips & Co., King-street, Carmarthen. 3ele Proprietors o "My Own Scotch Whisky. LLANDOVERY. Boot and Shoe Manufacturers. Quality and Price are the Best-Salesmen in the World. See them at Jenkins and Son, Boot Manufacturers Llandovery, and Rhosmaen-street, Llandilo. LAMPETER. Coal and Lfme Merchant. D. Tivy Jones, Railway Station, Lampst "For < Miood It tit* Ufa." 3 'gam ae vt Olarke's I IN Blood I Mixture I J&Jss). THa WORLD-FAMED BLOOS PURIFIER, u warranted to Cleanaa the Blood from all I; impurittM from whatflTer canso ariiiing. For Sorofola, Scurry, Eccoma, Bad Lege. E Moors, Glandular Swellings, Skin and £ Blood Diaeace*, Blackheads, Pimples and 8= Sore. of all kindi, its eftoctlt are marvellous, f IThonaanda of Testimonials of wonderful E have been received from all parts of IF the world. fc The Editor of the FA KILT DOCTOR K «ay» :—" We have seen hoBta of letters I bearing testimony to the truly wonderful | pi onrea eff^jted by Clarke's Blood Mixture. | It lathe Quest Blood Purifier tlsat Science E And Medical Skill have brought to light, and WO can with the utmost oonfldouce recommend it to our subscribers and the s pnblio generally." F AM tais Mixture i> pleasant to the taste E and warranted free from anything injurious te E to the most delicate constitution of either fc HX, from infancy to old age, the Proprietors E aolirit sufferere to give it a trial to teat ita E nha Bold by Chemists everywhere. S A»k for § Clarke's I Blood 1 Mixture Wbeware of wortliiass imil-tiollo- KEAT I NG B N powdhS 4 TINS