Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

22 articles on this Page

YR AELWYD GYMltEIG.

News
Cite
Share

YR AELWYD GYMltEIG. (DAN OLTGIAITH ÄLLTVD.) LLITH WMFFRA LLWYD. MR GOL. Wrth ddarllen eich HERALD clod- wiw wythnos ar ol wythnoa nis gallaf lai nac edmygu egnion trigolion Barri i geisio gosod i lawr ddrygau y fasnach feddwol, ac yr wyf yn credu am danoch chwi eich bed yn un o'r bobl hyn, aydd yn gymaint cymwynaswyr i'w oenedl; oblegid nid oes dadl bellach nad medwddod yw prif ddinystrydd tin gwlad. Yr wyf wedi dyfod i gredu eich bod chwi, pobl Barri, yn ddiwygwyr mawr, a bod eich holl amcanion er gwella'r ddynoliaeth, yn dymhorol ac jsbryiol, yn ganmoladwy iawn. Yr wyf oherwydd hyny ym gofyn am eich cymhorth i aefydlu cymdeithaa arall yn nglyn a'r un ddirwestol a wna lea eyffredinol i ddyaol- ryw a ehymdeithaa, ond yn unig ei dwyn i weithrediad; ae, o ran hyny, fe ellir gwneyd un gymdeithas o'r ddwy—ni fydd un gwrth- darawiad yn eu hamcanion; a charwn enwi y rhan hon o honi yn anti- Tobacco League, oblegid mae ysmocio wedi myned yn ail i natur gyda miloedd o bobl ein gvrlad ac, yn wir, mae eiu pregethwyr a'n diaconiaid, y rhai y diagwylir iddynt fod yn "halen y ddaear," braidd yu cario'r lead yn yr arferiad; ac y mae eisiau dodi i lawr y gwastraff ofnadwy o loagi trugareddau Duw (os trugareddau hefyd). Feallai y dywedir nad oes un pechod mewn smocio. Wel, oa nad oes pechod ynddo, mae gwastraff ofnadwy yn nghlyn ag ef. Gweric miloedd ar filoedd o bunau'n fiynyddol ar yr "hyn nid yw fara." Nid wyf fi yn edrycb un tipyn yn fwy ffafriol ar y blys sydd gan ddynion at y myglys na'r blys sydd ganddynt at y diodydd meddwol, ond ya unig fod y diodydd yn effeithio mwy ar y synwyrau, a'r myglys ar y giau (nerves). Edrycher ar ambell heu ddyn sydd yn fygwr mawr; mae ei gyfantioddiad yn crynu ac yn siglo fel dail yr hydref ac os yw'r diodydd meddwol yn achosi difrod uinwr yn ein gwlad, y mae'r myglys hefyd yn achosi yr UIl peth, ond mewn ffordd mwy anuniongyrchol. Pa faint o ganoedd o fywydau gwertbfawr sydd wedi eu colli mewn damweiniau yn ein pyllan glo oherwydd fod dyniou yn cario matches yn eu llogellau er mwyn tanio eu pibellau ? Onid ydym wedi darllen am lawer tanchwa ddychrynllyd wedi eu haebosi drwy smocio; ac er fod yr awdurdodau yn strict ar y matches, mae blys mor gryf mewn llawer glowr nes herio'r gaffers a'u deddfau, a pheryglu eu bywydau eu hunain a'u cyfeillion. Hwy fynant smoeio. Mae'r bibell a'r matches wedi achosi i.lawer ydlan fyned ar dan a chael ei llosgi yn llwyr, er dinystr i ambell ffermwr. Mae llawer ty wedi myned ar dan hefyd drwy smocio, er feallai yn anuniongyrchol; ac, yn wir, mat- mwy na haner ein tanau wedi digwydd o achos mygu myglys. Onid peth gwrthun ydyw gweled mam yn danfon order gyda'r grocery order am tobacco i ddau neu dri o grots, yn nghyd a'r tad, bob wythnes. O. oes rhaid i'r tad ei gael, cadwer y plant rhagddo tra ar aelwyd en rhieni, ac wrtb hyay acubir wyth o bob deg o honynt rhagddo drwy eu hoes. "Hyffordda blentyn yn mben ei ffordd, a pban heneiddia ai ymedy a hi." Hefyd, mae'r ddau arferiad, neu'r ddau flys, yn gymdeithion agos i'w gilydd, sef yfed a smocio; rhyw second edition o an ydyw'r lIa11- cyfeillion y dafam ydyw'r ddwy nwyd ddrew- Ilyd ac anghymedrel, waskrafflyd hyn a phe bawn I yn ferch ieuanc byddai'n well genyf fil o weithiau gusanu a charu bachgen meddw na dyn a llafoerion myglys yn llifo allan o'i safn; ac o ddau gymeriad anach ac anymunol, credaf fod y meddwyn yn fwy syber; oipd "Och a fi a'r ddau. Yn awr, Mr Gol., yr wyf am ofyn eich barn onest chwi ar bwnc y tobacco. Yr ydym yn ei gwybod ar bwnc yr yfed, ac y mae yn orthodox 80 yr wyf o'r farn eich bod yn wrth-ysmygwr hefyd, oherwydd eich bod yn ddyn call, ac yn ddyn crefyddol hefyd, am a wn I; ac os caf eich help a'eh dylanwad chwi i ffurfio'r gym- deithas hon, ac i chwi ddylanwadu ar eich gweinidog, a'r gweinidog ar y diaconiaid, a'r diaconiaid ar eu cyd-aelodau a'u gwrandawyr, a hyny yn mhob capel yn y dref ac yn y wlad, bydd y sefydliad hwn ar ei draed cyn bydd y ganrif bresenol yn flwydd oed, a chwi gewch fod yn bresident, a bydd hen Wmffra yn ysgrif- enydd, a gofynwn i weinidogion Barri uno a'r pwyllgor; a gwn y gwna William Joaes, y coal trimmer, ddyfod atom ar y bicycle, oblegid mae ef yn ben astudiwr ar ddeddfau iechyd, ac yr wyf yn credu fod digon o ddynion call yn Barri a'r cylchoedd a fyddant yn foddlou i wneyd eu goreu i osod eu traed ar wddf y gelyn difaus a gwaatrafflyd uchod. Bydd miloedd o'ch darllenwyr, yn ddiamheu, yn methn cydweled a mi ar y pwnc hwn, oherwydd fod cynifer o honynt, o bob gradd a sefyllfa, yn dilyn yr arferiad, ao, yn wir, rhai o brif ddynion yr oes; ond fe ddywedir fod rbyw flin gwan ar bob dyn, a man gwan dyn call yw ei flys, a'i flys at tobacco hefyd. Pwy gondemnia fwy ar flys y meddwyu na'r pregethwyr, pan y maent hwythau, at yr un pryd, yn gaethweision i'r bibell a'r mygylys, a'r naill cynddrwg a'r llall, ond yn unig ar y synwyrau ? Peth ofnadwy yw gweled fops o fechgyn yn talu tair neu chwech cheiniog yr un am cigars ac yn eu Ilosgi mswo deg myuud, a Uawer o honynt heb dalu am y dillad y aatant ynddynt ar y pryd! A dyma'r New Woman hefyd. Daw hithau i fewn am ei cigarettes. Bydd rhaid parotoi ar ei chyfer hi yn y dyfudtj, a bydd hon yn slampl ragorol o flim pan yn magu ei baban, a'r cigarette yn mygu i'w lygaid bychain a gweiniad. Ac yn wir, dym-t'i prospects welaf fi o flaen ein coming generation, a pheth rhagorol fyddai i ferched ieuainc Cymru wrthod eu cyfeillaeh i bob dyn ag sydd yn euog o'r hen arferiad afiach, segurllyd, diog, ffiaidd, wastrafflyd, a diddaioni, sef fmocio a chnoi tobacco. Dyma fel y darluniodd "LlewLlwyfo" hwyni, 011 wyf yn cofio'n iawn- Pib hir wen i awtnwr—ac un ddu Gawn i ddant y gweithiwr Pib o ryw hyd, i bob ryw wr, A cigar i segurwr. Gyda dymuno "Blwyddyn Newydd Dd." i bob smociwr, ydwyf, &c., WMFFRA LLWTD.

[No title]

HUGE ELECTRIC LIGHTING MONOPOLY.

SULLY SMELTING WORKS. "

- THE WAR.

SMALL-POX AT BARRY.

BARRY DISTRICT RAINFALL.

Advertising

TABERNACLE CHAPEL, BARRY DOCK

BURGLARY NEAR DIN AS POWIS.

| A TRANSPORT VESSEL AT BARRY.

-._-----------_._----PENARTH…

----------LIFE-BOAT SERVICES…

[No title]

BlRKY DOCK POLICE

BARRY PUBLIC LIBRARY, ---

BARRY DOCK TIDE TABLB FOR…

[No title]

Advertising

BARRY TRADES & LABOUR COUNCIL

IMPORT TRADE OF BARRY.

[No title]