Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

DEON NEWYDD BANGOR.

News
Cite
Share

DEON NEWYDD BANGOR. Fe dderbynir y newydd am benodiad Canon Roberts i Ddeoniaeth Bangor gyda boddhad cyffredinol drwy Gymru ben- baladr. Yr un pryd, bydd yn anhawdd iddynt yn y Deheudir, er y boddhad hwn, beidio teimlo pang o ofid am golli dyn mor rhagorol o'u plith—dyn sydd wedi enill y fath enw iddo'i hun fel gweithiwr Eglwysig caled ac ymroddgar; tra mae yn ddigon posibl y ceir, yn Esgobaeth Bangor ei hun, rai personau yma ac acw yn barod i feirniadu gwaith yr Esgob yn penodi Deon o Esgobaeth arall. Nid ydym yn cofio i ddim mor wrthun a hyn gael ei ddweyd pan aeth Deon Vaughan neu Ddeon Davey i Landaf, pan aeth Esgob presenol Ty Ddewi neu'r Deon Shadrach Pryce i Lanelwy, na phan yr aeth Deon Howell i Dy Ddewi. Y mae digon o gyn-engreifftiau i'w cael dros ymddygiad Esgob Bangor, ond ni raid wrth ragor nag a gofnodasom o'r Esgobaethau Cymreig yn unig. Mewn uurhyw achos, nid yw y cyfryw feirniadaeth yn adlewyrchu dim o gwbl ar Ddeon newydd Bangor. N is gall fod un amheuaeth fod profiad helaeth Canon Roberts, ei alluoedd trefnyddol nodedig, a'i wybodaeth eang am bobpeth Eglwysig, yn nghydag unplyg- rwydd pwrpas a'i ymgysegriad i waith— wedi ei hen nodi ef allan i ddyrchafiad. Anhawdd fuasai dod o hyd i glerigwr wedi enill iddo ei hun barch mwy cyffredinol arweinwyr yr Eglwys ar un Haw, ym-I ddiried ac edmygedd y dosbarth cyffredin ar y llall. Nid anghofia Eglwyswyr Cym-I reig am amser maith i ddyfod anerchiad nodedig yr Archesgob Benson yn Nghyng- res Eglwysig Rhyl, pan y siaradodd am dano'i hun fel yn dyfod oddiwrth risiau Gorsedd Awstin Sant i sicrhau Eglwyswyr Cymreig na chawsent hwy, tan fendith Duw, eu dietifeddu yn dawel a distaw. Un o'r rhanau mwyaf grasusol o anerchiad yr Archesgob oedd hwnw lie y gwrthodai y syniad gwagsaw o fyned i mewn i fanyiion dadleuon pan yr oedd gan Eglwyswyr Cymreig eu Bevan, eu Griffith Roberts, eu John Morgan, a'u Deon Owen." Ac ni fydd i ddarllenwyr o Selborne anghofio i'r awdurdod uchel hwnw ar faterion Eglwysig gael fod ysgrif. eniadau Canon Roberts yn fuddiol ac addysgiadol. Gellir crybwyll wrth fyned heibio fod yr un sylw yn gymhwysadwy i awdwr y Popular Story of the Church in Wales." Os, ar y Haw arall, ydyw ym- ddiried cydweinidogion yn brawf o deilyng- dod, gall Canon Roberts gael ei brofion o dan ei law. Yn ein byr hanes o yrfa gweinidogaethol y Deon newydd, fe geir ei fod yn aelod o Bwyllgor Gweinyddiadol CynhadleadEsgobaethol Llandaf. Pwyllgor ydyw hwn a etholir bob tair blynedd trwy bapyrau pleidleisio a anfonir i ryw chwe' chant o gynrychiolwyr—cler a lleyg. Nid yw yn ormod dweyd fod y ffaith fod enw Canon Roberts bob amser yn ymddangos ar ben rhestr yr aelodau cler etholedig ar unwaith yn arwydd o'r lie uchel a fedd efe yn marn gweithwyr Eglwysig o bob gradd a desgrifiad yn Esgobaeth Llandaf, lie bu'n preswylio ac yn gweithio am dair blynedd ar hugain. Yn fyr, mae ei yrfa yn hanes o hvyddiant didor mewn gwaith da^ a hwnw yn waith wedi ei gyflawni yn ddistaw a diymffrost. Nid oedd efe ond dyn pur ieuanc pan yr olynodd y Parch John Morgan yn mhlwyf poblog Dowlais —tref weithfaol fawr, ac yn ganolfan Ym- neillduaeth: ymgymeriad pwysig iawn iddo ydoedd hwn. Pa fodd bynag, bu i'r Eglwys gynyddu a blodeno dan ei ofal; perchid y clerigwyr gan bob dosbarth, plaid, ac enwad ac am y rheithor ei hun, er yn cael ei ystyried yn Eglwyswr cryf," fe edrychid arno gyda pharch neillduol fel gweithiwr Cristionogol ymroddedig a di- dwylJ. Mae y modd y gorchuddiodd efe Esgobaeth Llandaf gyda rhwydwaith o drefniadau gwerthfawr, yn ystod gwasan- aeth o bedair blynedd ar ddeg fel Canon Missioner, yn cael ei gofnodi yn fyr yn ein hysgrif mewn colofn arall, ond mae llafur o'i eiddo nas gellir ei fesur na'i osod i lav/r, sef y gwasanaeth parhaus a pharod wnaeth efe i'r clerigwyr ages yn mhob plwyf o Esgobaeth Llandaf, a'r hyn i raddau mawr sy'n cyfrif am boblogrwyc^l ei enw. Teimhvn yn sicr y bydd i glerigwyr a lleygwyr Esgobaeth Bangor estyn i'r Deon newydd groesaw cynhss wrth ddod yn ol i'w hen fro enedigol, a hyny yn anterth ei nerth ac mae yn ddiogel genym, fel y deuir i adnabod Canon Roberts yn fwy, mai mwyaf oil y diolcha Eglwyswyr Gogledd Cymru i Esgob Bangor am y penodiad rhagorol hwn.

-----------------Eiangfa Gyfyng…

- -----------------Gwrthymgsisydd…

[No title]

-----_-----I0 Ben y Garnedd

- -----_-------Itreio fawr…