Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

®EIRNI.\DAETH AR FEIRNIADAETH.

WATERING- CART.

News
Cite
Share

WATERING- CART. At Olygydd Herald y Rhos. Yn ngholofnau yr Herald ryw wythnos neu ddwy yn ol gwelais, fod cyfarfod cy- hoeddus wedi ei gynal parthed cael barn a thrafodaeth ar y priodoldeb o gael watering cart. Meddyliais y buasai rhyw um neu ryw rai wedi gwneyd sylw o'r hyn gymerodd le yn y cyfarfod cyn hyn. Ond gan nad oes neb wedi gwneyd yr wyf yn; anturio anfon yr ychydig sylwadau hyn i'r Herald Nid yw y rhifyn- a grybwyllwyd uchod wrth law yn bresenol, ond y mae yr argraff toddodd cofnodiad yr Herald yn annile- adwy. Cofier mai cyfarfod i ymdrin mater y Watering Cart ydoedd. Ond yr oedd rhai yn son am Urban Powers, ac hyd yn oed yn tueddu at ddadleu y cwestiwn (Urban Powers) yn y cyfarfod, a bu raid i'r Cadeirydd eu galw i drefn. Yr oedd eraill yn cydnabod y buasai yn well ganddynt hwy oddef y llwch a'r cymylau sydd fel sand slorms tragwyddol, na talu id. ,ythwaneg o dreth. Pe buasai y dosbarth hwn a. Ilygaid yn eu penau, buasent yn safio' mwy na hyny yn eu ties Ond nis gall y dall weled er iddi fod yn oleu uwchben. Dosbarth arall a ddywedent eu bod hwy yn cofio pan nad oedd y dreth ond rhyw 1/9 yn y bunt; ond er pan y mae'r gwahanol Gynghorau wedi dyfod i fodolaeth y mae yn codi yn barhaus. Rhaid yw fod y dosbarth hwn yn meddwl mai thyw factories ydyw y Parish Council, y District Council, a'r Coun- ty i fanufactro trethi, ac fod eu dytodiad i fodolaeth yn cynyrchu trethi uwch. O y fath dywyllwch Aiphtaidd Pa bryd y mae ton o for addysg yn mynd i gyrhaedd y rhai hyn ? Gobeithio os bydd cyfarfod eto y bydd amgenach siarad i hyn beth bynag. Mae'r dull y cafodd y mater ei drafod yn amlygu, anwybodaeth sydd bron yn ani amgyffredadwy. Onid ydynt yn gwybod fod cael Watering Cart i ardal yn gam mawr ar randir gwareiddiad. Yr oedd ar- naf gywilydd gweled y result yn,y papur.- 48 o blaid a 46 yn erbyn Pie mae dych- ymyg a all feddwl fod 46 mor ddall mewn cyfarfod plwyfol yn yr ugeinfed ganrif ? Ond er y cwbl gobeithio yr wyf y bydd i'r Cynghor Plwyfol roddi ystyriaeth fanwl i'r amgylchiad, ac y byddynt yn cl eu doeth- ineb arferol yn gwrando ar y mwyafrif, er nad ydyw ond 2. Yr oedd 48 0 bobl ddoeth yn bresenol beth bynag. UN O'R PONKEY.

[No title]

[No title]

NODION.

BARDDONIAETH.

PONKEY.".!

IIEisteddfod Gadeiriol y Rhos.

Advertising

t .GOHEBIAETH.\