Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

iWrpubau.

GYNGHOR PLWYF RHOS.

RHOS.

PONKEY.

News
Cite
Share

PONKEY. Y Llun diweddaf, yn nghanol pob ar- wyddion o ofid, rhoddwyd gweddillion Mr John Davies, North road Ponkey, yr hwn fu farw y dydd Gwener blaenorol, yn ei 34 mlwydd o'i oedran, i orwedd yn Mynwent Mynydd Seion, Ponkey. Daeth tyrfa fawr yn nghyd, yn mhlith y rhai yr oedd ei gyfeillioo ieuainc o Eglwys Mynydd Seion, o ba un yr oedd yn aelod ffyddlon a disglaer, wedi ymgasglu yn gryno i dalu y gymwynas olaf i un a berchid mor fawr ganddynt. Dangosid y cydymdeim- lad dyfnaf trwy'r ardal gyda'i dad a'i unig chwaer yn eu gaiar mawr. Gweinyddwyd ar yr amgylchiad gan y Parchn J Howell, W Williams ac R Roberts, MARWOLAETH.—Prydnawn lau bu farw Mr Thomas Jones (Meudwy) Fennant road, Ponkey. Yr oedd wedi rhoddi i fyny ei alwedigaeth fel glowr ers rhai blynyddau oherwydd llesgedd a nychdod. Cafodd ers peth amser yn 01 ergyd o'r parlys, a bu yn graddol lesghau hyd y diwedd. Yr oedd yn adnabyddus i gylch eang yn yr ardal. Yn ystod ei oes talodd gryn sylw i farddoniaeth Gymreig, ac ystyrid fod ganddo feistrolaeth 1 hvyr ar y cynghaneddion. Cymer ei angladd le prydnawn yfory (Sadwrn) yn Mynwent Mynydd Seion, Pankey. <

Iii AT EIN GOHEBWYR.

[No title]

! EISTEDDFOD GADEIRIOL Y RHOS.…