Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
-J' Special Forecast for the Week- I "BRILLIANT SUNSHINE." What can look nicer, more cooling, and g comforting this hot weather than a g Straw Hat ? Why not go and inspect the STRAW HATS sJ of the latest style at Paris House? a You'll be greatly pleased. j J. W. JONES, PARIS HOUSE, RHD3. Unique Furnishing Scheme. Harrop's System of House Furnishing Out of Income" is quite distinctive and gives untold satisfaction to their customers. Arrangements are made to suit each customer's personal convenience. A FREE /ALL and see us. (We pay Railway Fares on orders of £ ro and TRIP TO upwards). You can then not only make a selection from our iur>ucevfri immense stock, but also arrange terms to suit your circumstances in lYIAIVl/n toTER, a private interview with the MANAGER. DISTANCE NO OBJECT. ALL GOODS CARRIAGE PAID. Send at once for Catalogue Q post free. B_9 A l\9 A I J I Great House Furnishers and Baby Car Makers HAKKOr S, Ltd., 89,91,83, Piccadilly, Manchester.
Advertising
FOR SALE. FUNERAL STOCK, Second Hand f Hearses, ^30 20 new patterns Landaus, £ 40 Hansoms, £ 20. Brakes easy terms. Catalogues.—MARSTON'S Bradford Street, Birmingham. .un' n ■ «■ in ■iiimnii. 1. I, 1,11 1. ESTABLISHED 1898. ASSISTANT INSPECTORS OF A OF MINES. Mine Managers' Exams., Scholarships, and Associateship in MINING, &c,f Candidates prepared. Private Lessons hy Post. Geology, Min- ing, Engineering, Electricity and Survey- ing. Certificates awarded. Write for Syllabus. CAMBRIAN MINING SCHOOL, Glanffrwd, Porth, Glam. NOTICE I HEREBY GIVE NOTICE that if it conies to my knowledge that anyone slanders mv name in connection with a certafn pjrse of money, they will be pro- secuted for malicious slander. (Signed) M. A. AUSTIN. School Street, Rhos. VOICE PRODUCTION « MR. POWELL EDWARDS BEGS to announce that he now gives lessons in Voics PRODUCTION and SINGING. Terms moderate.—Apply MARKET STREET, RHOS. GEORGE BURROWS, Teaclier of Pianoforte and Organ Playing, Singing & Theory of Music. r TERMS—MODERATE. LLWYNYCIL, CHIRK, UABON, VISITS RHOS EACH WEEK. IBALL'S AUCTION ROOM 9 Cftest4mr. Street, rexh.a.D1, (Opposite Messrs H & T Tones' ConI, Ware house) SALES BY AUCTION Every MONDAY. Yaluabld Household F&niitars of all descriptions. Large Variety of Bedsteads, Bedding. Every necessity for HOUSEKEEPING Attend these SALES and save at least 30 per cent. A Magnificent Selection of Superior, Furniture is always on hand, and anything may be purchased by Private Treaty. GOODS STORED. oaview each day from 9 a.m. to 7 P-m4 Saturdays 9 p. m. .tt;'
Advertising
-1i11\.1 j SPORTING } COATS "I | We have a large and varied Stock ) of Clothing- for Men in all branches of Sport. Ö Below are a few Special Lines :— I Knitted Goif Jacket 21/6 Motor Overall Coats 7/6 Flannel Jackets 5/6 Motor Cyclist D.B. Dust Coats 7/11 Waterproof Motor Cyclist Suit and Cap to match 21/- Cyclists' Waterproof Capes 5/6 Aquatite Yarn proof Over- coat for Fishing, Shoot- ing, etc., from 30/- Coats 7/11 S Waterproof Motor Cyclist J Suit and Cap to match 21/- Cyclists' Waterproof Capes 5/6 Aquatite Yarn proof Over- coat for Fishing, Shoot- ing, etc., from. 30/- THOMAS & SON 1 1-2 & 43 Hope Street, I WBEZHAM.
! EISTEDDFOD GADEIRIOL Y RHOS.…
Cystadleuaeth unawd ar y Crwth, iaf 'Thomas Davies, Skermersdale, 2il Edward Rogers, Chirk. Prif Draethawd, "Traethawd Bywgraph. fiadoi byr a chryno o Feirdd Ymadawedig ::Sir Ddinbych, gwobr £2 2S, Mr E Roberts, Market street, Rhos, a'r Parch D Myddfai Thomas, Ffaldy'r Bienin, Sir Gaerfyrddin, 'fo gyfartal. Cystadleuaeth Unawd Contralto, Can- -«wyH fy Llygaid wyt ti" (D D Parry), Mrs Josephine Lewis, Capel Cerrig. Cywydd, "Y Glowr," jQi is, Meurig el ,t:Cybi, Brymbo. Englyn, Yr Ystlum," 7/6. Yr oedd 14 .wedi eu hanfon i mewn, a dyfarnwyd Gyda'r "Nos ac Eilir Aled yn gydradd. Wele Eng- LIyn Eilir Aled Heinyf fod, ddadebra'n fyw-ar hin braf, 'Deryn brych cymysgryw, A phen llygoden ydyw Dechreu nos ein dychryw yw. Cystadleuaeth i blant dan 16 oed, c. Mab dY Mynydd (Eifion Wyn), iaf Wm Evans, ifPenycae, 2il Rosanna Hughes Ponkey Cystadleuaeth Unawd i Enethod dan 16 £ >ed, Merch y Melinydd" (Hen Alaw), iaf Mary Davies, Stryt Issa, 2il Gwladys Hoos- on ac E Davies, Coedpoeth, yn gyfartal. Beirn"*adaethau. Pen and Ink Sketch of Cadwgan, Mr G V Price, Wrexham; Shad- Ing from Cast, Mrs Jones, Llanelli; Fret. "work Design, Mr Wilks, Birmingham house, Johnstown. Cafwyd peth eithriadol yn nglyn a Chanu IPeniilion, Miss Bessie Jones, yn canu ac yn .shvvareu'r delyn yr un pryd ANERCHIAD Y LLYWYDD Rhoddwyd derbyniad croesawgar i "Timothy Davies, Ysw, A.S., pin gododd i ,anerch y dorf, ac yn neillduol pan ddech,tu- ,.Odd siarad mewn Cymraeg bur. Dywedodd "afod yn falch ganddo weled eu bod yn cadw istnor ffyddlon at y Gymraeg yn Rhos, a hyny yn ngwyneb y ffaith eu bod yn byw mor .„agos i Glawdd Offa. Ni fedrent ymgymeryd .a. gwaith rhagorach na chadw eu hiaith yn bur. Gobeithiai yr aent yn mlaen nid yn vanig i gadw yr iaith Gymraeg yn fyw, ond -yr ysbryd cenedlaethol Cymreig hefyd. <*Camgymeiiad mawr oedd meddwl na fedrai Cym,,o ddod yn mlaen mewn bywyd os cad- Urai ei iaith Yn groes i hyn fu profiad y •wCymry aeth i Lundain, neu a groesodd y 'vWerydd. Yr oedd bron yr oil o honynt yn -jdd wy.teit.hog, a Chymry yn siarad Cymraeg 4>edd y tri Gweinidog Cymreig perthynol i'r t' £ soton— Mr Herbert Lewis, Syr Saml Evans, A Mr Lloyd George. Yr oedd perygl i'r ysbryd Cymreig golli, ac appeliai atynt i w -LPadw yn fyw trwy nawddogi dau sefydliad Mawr y genedl-yr Eisteddfod a'r Ysgol tSul. Cystadleuaeth Unawd Baritone, Bedd • Clyndwr" (W 0 Jones), Mr H R Hum- phreys, Machynlleth. Beirniadaethau.—Best Notes of Experi- ments in any Science, ataliwyd y wobr. '^Collection of Grasses, Bertha a Harold iJSvans, Glynceiriog. Woodwork Models, taf 11 Nelson," 2il "Tom Brown." Wood- work, best notebook kept by a student, J Br in ley Richards, Grango School. Beirniadaethau.—Embroidered Duchess 'Det. Miss Gwennie Davies, Plas.yn-Rhos. I Embroidered Nightdress Case, u M.D." i or Crotchet Shawl, Mrs Davies, Plas-yn-Rhos. Fancy Tea Cosy, ni atebodd Neb. Embroided Table Centre, Miss Gwen- Davies, Plas-yn-Rhos. Handmade Flannel Shirt, ni atebodd neb. CORAU MEIBION. Cystadleuaeth i Gorau heb fod dan 35 •^ewn nifer, Cydgan y Pererinion (Dr "ftrry), gwobr £ 20. Yr oedd chwgch o $?0rau wedi anfon eu henwau i law a chan- yn y drefn gdnlynol:- J—Rhos (Mr E Emlyn Davies) z-Moelwyn. (Mr C Roberts) 3-Broughton (Mr E Evans) 4-Froncysyllte (Mr J E Morris) 5—Acrefair (Mr John Wright) Machynlleth (Mr T H Williams) v trJIr cystadleuaeth ardderchog traddod- f w* feirniadaeth yn Gymraeg gan Mr D Vans' yr hon oedd fel hvn £ Bass: •A-Sor'ad cyfoethog gan y First aS8» ac yn y teimlad priodol. Second tenors braidd yn deneu. Rhanau corawdol yn y I tri tudalen cyntaf yn effeithiol. Meddianai I yr unawdwr lais da, er fod tuedd ynddo ar y frawddeg gyntaf i fod allan o diwn, a thorodd un gair yr hyn oedd yn feius Er hyny yr oedd yr unawd yn lliwn o deimlad, ac yn wir gellid dweyd yr un peth am bump o'r corau yn y gystadleuaeth. Yr oedd y donyddiaeth yn dda o'r dechreu i'r diwedd, arddull. da datganiad gofalus, wedi ei drwytho gyda'r teimlad priodol. 2—Moelwyn. Corph ardderchog o leis- iau. Yn agor yn wir rhagorol, ac yn y teimlad priodol ar y tudalen iaf. Yn yr 2il dudalen heb fod yn gywir ar y A Filat Meddianai yr unawdwr lais da, ond nid oedd ganddo y teimlad parchedig ddisgwylid ei gael mewn gweddi. Yr oedd gryn lawer o'r cynhyrfus yn eu datganiad, ond ni fedrid ei alw yn ysbryd gweddi. Aethant allan o diwn am dudalenau nes gwneyd y weddi yn aneffeithiol. O'hyn i'r diwedd canent gyda gryn lawer o dan, ond nid oedd y fflam yn cynyrchu gwres. II 3—Broughton. Llei>iau cymedrol, ac heb unoliaeth a chyd-doddiad. Gormod o am- I rywiaeth yn y lleisiau. Ar y tri tudalen I cyntaf yn gyraylog mewn tonyddiaeth. Y weddi yn effeithiol. Trwy ryw amryfusedd I I gadawodd y cor hwn ddau far allan. Tu- dalen 10 yn Hac iawn. Yn fwy effeithiol I hyd tudalen 17 Tudalen 18 ddim cystal, ac o hyn yn mlaen yn tueddu i fforsio gryn lawer. 4-Fron. Lleisiau da, ond nid oeddynt yn cydasio. Datganiad y cor o'r dechreu yn methu mewn disglaerdeb. Cychwyniad rhagorol. 3ydd tudalen yn dda iawn gan y basses. 5ed tudalen tonyddiaeth gymylog. Y weddi yn dioddef oddiwrth donyddiaeth anmhur, er fod yr unawdwr yn canu yn dda. Yr effaith ar y gair "Ysbryd Glan" yn melo-dramatic, yr hyn hefyd oedd yn feius yn yr oil o'r corau heblaw y diweddaf. 0 tudalan gfed i'r diwedd y donyddiaeth heb fod yn bur. s-Acrefair. Lleisiau da, ac yn cyn- yrchu seiniau cartrefol a chynes, er nad oedd yn dangos ryw lawer o orphenedd. Y gyng- hanedd yn berffaith trwy'r darn. Ar tudalen y I sfed y ddau denor yn canu yn dda. Teimlad priodol yn y weddi, a'r unawdwr wedi codi i ysbryd gwir ragorol 6-Machynlleth. Cor bychan, neu ych- ydig mewn nifer. Lleisiau rhagorol. Dyma gor wedi astudio pob brawddeg yn y darn, dim un bar yn myned heibio heb fod sylw manwl wedi ei dalu iddo. Yr oedd y weddi' yn fendigedig, a dymunai ddiolch i'r unawd- ydd (Mr Arthur Davies, Cefn). Ni chafodd gymaint foddion gras eis llawer dydd ag a gafodd yn gwrando ar ei ddatganiad eith- riadol. Bendith ar ei ben a'i galon am y tath ganu. Ni chlywodd erioed ganu mOT, ysbrydoledig Yr oedd canu y cor hwn uwchlaw beirniadaeth; Yr oedd hwn mewn dosbarth ar ei ben ei hun yn y gystadleu- aeth, ac yn un o'r engreiflfdau goreu glywodd erioed mewn canu corau meibion. Yr oedd ynt yn haeddu unrhyw wobr allasent roddi iddynt. li CYFARFOD YR HWYR. Llywyddwyd gan J C Davies, Ysw., M.D U.H., Plas-yn-rhos, ac arweiniwyd gan y Parchn R Williams, a Chas Jones. Agorwyd gyda detholiad gan Seindorf Arian y Rhos. Chwech o Ddarluniau, raf, John Mad- dison, Middlesborough, ail, "Tourist." Telyneg, yr awdwr i ddewis ei destyn ei hun, "Telynor" a "TantUchedydd" yn gyfartal Tri Phenill wyth Ilinell, Gliniau Mam Cainc Calon." Cystadleuaeth Canu gyda'r Delyn, dau yn ymgeisio, sef Mr Jacob Edwards, Rhos, a Mr John Williams, Ponkey, a'r blaenaf gafodd y wobr. Yr oedd hon yn gystad-, leuaeth hynod ddyddorol, a diolchai y beirniad yn fawr i'r Pwyllgor am roddi testyn fel hwn yn eu rhaglen. Rhoddodd Mr W 0 Jones, yn ei feirniadaeth, amryw j gynghorion i efrydwyr y ganeg anhawdd hon o ganu Cymreig. Beirniadaethau-Child's Knitted Vest, iaf, Doris Powell, Rhos, 2il, Susie Jones, Johnstown. Child's Knitted Gloves, iaf, Maud Rogers, Johnstown. Cystadleuaeth Adroddiad i bob oed "Cartref" (allan o awdl Berw). Rhan- wyd y wobr rhwng Miss Bessie Edwards, Ponkey a Mr John Williams, Rhos. Portrait Medallion in Low Relief o'r diweddar Henadur E Hooson, Rhos. Gwobr o ras i Miss Constance Stendall, Caer. CADEIRIO'R BARDD. Yr oedd hwn wedi ei ohirio o gyfarfod I y prydnawn. Cynygid gwobr o ^5 a Cha'dair Dderw am Awdl-Bryddest heb fod dros 400 o linellau, Hen Gartref Meddyliau o Hedd." Yr oedd tri yn ym- geisio-" Peniel," Hirfryd," 11 Y Fron Friw." Darllenwyd y feirniadaeth gan Bethel, yr hwn ddywedodd fod y gystad- leuaeth o safon uchel. Dyfarnodd o blaid y Fron Friw." Pan gyhoeddwyd yr enw a phobpeth yn barod ar gyfer y cad- eirio, yr oedd disgwyliad poenus o bryd- erus ar y gynulleidfa. Gan nad atebai neb i'r enw, gofynwyd a oedd ei gynrych- iolydd yn bresenol, ac yn y fan cododd ein Cynghorwr hynaws, Mr Cadwaladr Mor- gan, Johnstown, ar ei draed. Cafodd ei arwain i'r llwyfan, y Seindorf yn chwareu See the conquering hero comes." Cad eiriwyd ef yn nghanol y rhwysg arferol. Cafwyd allan mai y bardd baddugol oedd y Parch W Alva Richards, Bryn-y-wawr, Trebanos, Sir Gaerfyrddin. Canwyd Can y Cadeirio gan Mr Powell Edwards, am yr hon y bu raid iddo ail-gafiu.
! EISTEDDFOD GADEIRIOL Y RHOS.…
Cystadleuaeth unawd Tenor, "Sym- pathy (St Quentine), Mr Parry Davies, Brynteg, allan o nifer fawr o gystadleu- wyr. Yn ei anerchiad o'r gadair, dywedodd Dr J C Davies, fod cyhuddiad wedi ei, roddi yn fynych yn erbyn y Genedl Gym- reig nad oedd yn wladgarul, 9nd yr oedd yn credu eu bod wedi dangos yn ystod y ddwy neu dair blynedd diweddaf nad oedd hyn yn gywir. Yn y cylch hwn yr oedd gwladgarwch wedi dod yn uchei iawn Gofidiai weled pobl ieuainc Cymru yn dil- yn pobl ieuainc Lloegr yn y lie gorrnodo! roddent i chwareuyddiaelh. Hyderai yn fawr ar eu bod yn penderfynu i dreulio mwy o amser i ddiwylliant meddyliol yn ogystal a dadblygiad corphorol. Ail Draethawd, cyfyngedig i Blwyfi Rhos a Penycae, Deuparth Boned i yw Dysg," Mr John Davies, Lodge, Rhos. Traethawd i Ferched Dyrchafiad Merch yn Nytchafiad Dynoliaeth," Mrs Sydney Griffiths, Llanrug. AIL GORAWL. Corau cymysg heb fod dan 30 mewn nifer Dyddiau'r Haf" (J Price), gwobr £ 20. Tri ddaeth yn mlaen, sef- t-Llanerch (Mr R I Jones) I 2- Parti o'r Rhos (Mr W A Hughes) 3-Cor y Bryniau (Mr H Thomns) Mr W 0 Jones yn rhoddi y feirniadaeth a ddywedodd fod y corcyntaf yn meddu lleisiau da, ond nid oeddynt yn cyd-asio. Cafwyd canu neillduol o swynol gan yr ail barti, ac yn ddiau dyma y cor go-ei-i yn y gystadleuaeth, ond yn anffodus aethant don gyfan allan o diwn. Cafwyd gan y diweddaf, Penycae, ddatganiad glan a gorphenedig. Yr oedd lleisiau da ynddo, a chydbwysedd rhagorol, a llawn deilyng- ent y wobr. Beirniadaeth ar Blaniau ty i weithiwr, Mr George Vernon Price, Gwrecsam. Beirniadaethau—Child's Calico Night- dress, Mrs Samuel Roberts, Hope street, Rhos Bedroom Slippers, Mrs Rowlands, Coedpoeth; D'oyley, Miss Nesta Jones, Hill street, Rhos Canu gyda'r tanau Mr W 0 Jones. Cystadleuaeth Deuawd T a B, "Gwys i'r Gad JJ (R S Hughes), Mri Maldwyn Evans, ac H R Humphreys, Machynlleth. Cyfansoddi dadl, Mr Owen LI Owen, Swyddfa'r Genedl, Caernarfon. Cyfieithiad Esperanto, ni atebodd i'w enw. PRIF GORAWL. Cystadleuaeth i gorau heb fod dan 60 mewn nifer, Worthy is the Lamb (Han- del) a .¡ Tyrd yn ol swynol setch" (Dow- land). Gwobr ;635, a Bathodyn geiliedig i'r Arweinydd. Dau gor yn unig ddaeth i'r gystadleuaeth, sef- I-Coedpoeth (Mr J Plice Hughes) L, 2-Cefn Mawr (Mr G \V Hughes) Yn ei feirniadaeth dywedodd Mr Evans fod y gystadleuaeth prif gorawl yn derfyniad priodol i ddiwrnod rhagoro!. Cawsant gys- tadleuaethau o radd uchel, a phrofodd y ddiweddaf hon yn gydradd ag un o honynt. Roedd yn falch fod pwyllgorau eisteddtodol yn dewis bugeilganau (madrigals) fel prawf- ddarnau yn ogystal a chydganau trymion. Y gerddoriaeth dlysaf wrandawyd ganddynt y diwrnod hwnw oedd canigau a bugeil- ganau, y rhai oeddynt yn well moddion dis- gyblaeth i gorsu na chanu cydganau mawr- ion- Yr eld y fugetlgan ddewiswyd y diwrnod hwi-w vn llawn o gerddoriaeth bleserus ac \(!fy\ i d. Vr ocid ynddi gy- ffyrddiad o'r heii tyd, ac ymdehygai i ffyn- onau mewn anidlwch. Yr oedd y corau fuont yn eu gwrando braidd yn anghyfartal i'w cymharu. Medd- ianai cor Coedpoeth leisiau gweddol, rhai yn wirioneddol dda, ond yr oeddynt yn anffortunus 1 fethu cynyrchu seiniau crwn cyfoethog. Collent yr unwedd i gynyrchu oedd yn cyfrif cymaint. Canent y ddau ddarn mewn tonyddiaeth dda, ond yr oedd amryw 0 fesurau yn colli mewn purdeb cyng- hanedd, i'w briodoli i'r ffaith fod rhii o'r lleisiau heb fod yn cynyrchu yn hapus. Serch hyny, gwnaent i fyny yr hyn gollent mewn go'phenedd yn eu dull cartrefol, yr hwn oedd wedi ei gyff Nrdd ag ychydig arwedd. Nid oedd dim gwallau mawr. Dylai y chwyddnodau sydyn yn y fugeilgan gael talu sylw iddynt. Ni fedrai y ccr wneyd cyfiawnder a'r darn hwn Yr oedd y S 'pranos bron yn ddieithriad alhn o diwn yn y fugeilgan Yn y cydgan wedi yr adran gyntaf cfwyd perfformiad gwych g tnddynt. Ond yr oedd yn awyddus iddynt gofio nad oedd yn d I s ifon uchel pan yn beirniadu eu cor. Collent mewn eglurder bron trwyddo. Teimlai fod y gvvah inol ranau arweiniol yn cael eu cyme: yd i lyny yn rhy galonog, ac voedd tuedd yn v, c(.,r i redeg ynnith. Dcfn- yddiai y tenors yd ormod o lung- power. Eto mewn terfynau neiliduo! yr oedd i'r per- fformiad lawer o bwyntiau d-l. Yr oedd cor y Cefn yn gor o sifon hollol wahanol. Nid oedd y lleisiau yn unigol, efallai, yn well na rhai y cor cyntaf, ond yr oeddynt wedi eu diwyllio i raddfa llawer uwch o beiffeithrwydd. Vr,oedd cord cyntaf y madrigal yn hollol bur, yn fwy felly na pha bae wedi et gyfeilio, a dyma yr hyn oedd yn wirioneddol feius yn nglyn a rhanu heb gyfeiliant Ni ddylai hugeilgan fel hon gael ei chyfeilio gan un offeryn, oherwydd fod hyny yn gyffredin yn dinystrio yr effnith peraidd' Dilynid yn fanwl at nodlu y mynegiant trwyodd, a chelwid cymeriad y darn darn iiiewn golwg. Yr oedd ganddynt ddirnadaeth da iawn o'r dernyn, a thasd oedd iddo rhoddi gair o ganmoliaeth i'r tenoriaid am y gw9ith ardderchog wnaeth- ant. Yn dod at y cydgan, dywedodd y beirnhid nad oedd wedi derbyn y cyfryw argraff ar ei agoriad ag a gafodd ar y fugeil- gan, er fod hwn hefyd ar raddfa uchel. Cymerwyd y rhanau arweiniol a'r tempi i fyny yn rhagorol trwyddo, a gweithient i fyny i climax ardderchog gyda'r mesur priodol o gynesrwydd, ac eto yr oedd yn y cyfan yr hyn sydd angenrheidiol o atalfa mewn perfformiad aruchel Llongyfarchai y cor ar eu perflormiad ardderchog o'r ddau ddarn Nid oedd amheuaeth pa un o'r ddau gor oedd y goreu Gwnaeih Coedpoeth yn dda yn ei ddosbarth ei hun, ond gwnaeth y Cefn yn ardderchog, a Hawn dçigent un- rhyw wobr fedrent roddi iddynt—(cym). BEIRNIAID Beirniadwyd y canu gan Mr David Evan Mus Bac, Caerdyddv a Mr W 0 Jones, Cil- fynydd, y rhai a wnaethant eu rhan yn effeithiol iav/n, Beirniad y farddoniaeth oedd Bethel, Caerdydd. Prif draethawd, Parch Ficer Prichard, Llanfvvrog a'r Parch R J Jones, Rhos Ail draethawd, Parch R Peris Williams, Gwrecsam, a Mr W Parry, Ysgol Acrefair. Traethawd i Ferched, Parch E K Jones, Brymbo, Parch J Howell, Ponkey. Cyfansoddi Dadl, Patch W B Jones, Peny- cae, a'r Parch D Pritchard-Jonec, Penycae. Adraddiadau, Bethel a Peris. Cyfieithu o'r Seisneg i'r Gymraeg, Mr W M Jones, Ysgol- feistr Ponkey, a Mr Fred Williams, Ysgol- feistr Rhos. Cyfieithu i'r Esperanto, Mr Griffith Griffiths, Meirion house, Rhos. Celf, A Taylor, Ysw, H.M I, Penarth. Darlun- iau, Mr Griffith Griffiths. Gwmadwaith, Miss Collins, Gwrecsam, a Mrs Green, Aberderfyn Yn ystod y dydd cenid Penillion gan Mr W 0 Jones, a chwareuid ar y Delyn gan Miss Bessie Jones (Telynores Gwalia). Syrthiodd y gwaith trwm a phwysig o gyf- eilio ar Mr Caradog Roberts, Mus Bac, a Mr Emlyn Davies, A R C.O. ac ni raid dweyd i bawb dderbyn perffaith toddlon- rwydd yn eu gwaith Y SWYDDOGION. Mae llwydaiant yr Eisteddfod yn ddyled. us yn benaf, yn ddiau, i'r Ysgrifenyddion llafurus, Mr Joseph Davies, Brook street, a Mr J T Edwards, Brynhytryd, Ponkey. Gwnaethant eu gwaith yn y modd trylwyraf. Am wythncsau cyn yr Eisteddfod buont yn ddygn weithio i sicrhau corau i'r gwahanol gystadleuon, ac 61 eu hymdrechit-.n hwy welwyd yn y rifer luosog ddaeth yn r.ghyd, Mae'r trefniadau hefyd uwchlaw rdMmol- iaeth,—pob peth yn gweHhio yn y modd mwyaf tawel a didramgwyda Profodd gwaith goruchwylwyr y liivyfan. Mr Dan Roberts, A.C., a Mr Powell Edwards, vn wir effeithiol. Cadeirydd y Pwyllgor Cyff- redinol oedd Mr C Mo?gon, a'r Trysorydd Cyffredinol, .Mr Samuel Jones, King street; y rhai yn rghyda Swydcogion yr Is-Bwylilgo-a, fuont yn ddiwyd yn nglyn a phob peth cedd yn debytiol o drci yn llwydaiant i'r Eisteddfod, Yn ELY. Llawer o ddyfalu sydd parthrtd yr elw fydd yn deilliaw o'r Eisteddfod. Mae nifer yn barnu y dylai fod yn uchel iawn oherwydd y cynull- iadau, rhai yn ddigon ffyddrog i gredu y bydd yn ihedeg i dri ffigiwr. Ofnwn £ud siomodig- • aeth yn sfcor i'r rhai sydd yn codi mor uchel, Yii wir credwn y byddai wedi troi ol dros ben oa o £ 40 i £ 50. Ilhaid cofio na fedr barau yr elw oddiwrtlx y nifor cedd yn bresenol, oherwydd yr oedd gostyngiad mawr wedi ei wneyd yn mlirisian y toc-ynau. Yr oedd gosfcyngiad o 1/i ar docynat blaenscdd yn nnig wrth eu prynu cyn y dydd a dwy geiniog ar y trvdydd seddau. Yr ccdd hyn yn golygu swm mawr 0 aiian, y rhai oedd yn uniongyrch- 0.1 yn tlodi cyllid vr Eisteddfod, ac yn troi yn lanfcais i'r cyhoedd. At y £ 'G0 sydd yn awr yn y banc, p .issibl y gwnA. ye elw eleni wneyd swat I svlv. eddol yn ffafr yr Eisteddfod. YB, ABDDAXGOSKA. Yn nglyn a'r Eisteddfod cynhaliwyd Arddang- osfa o'r cynyrchion celfyddydol yn y Public Hall, jrydnawn Sadwrn a Dydd Liun. Yr oedd y cytiyrehion y tro hwn yn eithriadol lu- osog, ac yn rhagori ar ddim Eistoddfod leol arall yn ddiau yn Nghymru. Profodd yn ilwyddiant mawr, a gellir priodoli hyn i Ys- grifenydd yr adran G-elf, Mr W E Jones, Pon- key, ae yn neillduol i Mrs Dr Davies, Plas-yn- Rhos, yr hon oedd yn ddiflino yn ei hymdrech- ion. "A.>C.¡¡' 'M-