Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Dylai Cadfan a Berw fod ym mlaenllaw yng Ngorsedd 1909, oherwydd hwynthwy oedd arwyr y cylch barddol ar ddiwedd Eisteddfod '87. Gwelwn fod amryw fin wallau wedi llithro i'r rhaglen gyhoeddwyd yr wythnos hon. Dyna un o anfanteision argraffwasg Seisnig. Gorseddogion" y geilw Eifionydd aelod- au parchus yr Orsedd. Gan fod rhai o'r beirdd yn ymwrthod a gwisgoedd yr Urdd dylai rannu y dosbarth hwnnw eto i ddau fath, a'u galw yn Wisgoeddogion" a Gwrth-wisgoeddogion." Mathetes oedd y buddugwr ar y traeth- awd ar "The Geology of Wales" yn Eis- teddfod '55. Yr Hybarch Archddiacon Williams oedd y beirniad, a dywedodd- Only one essay has been received, but that one is one in a thousand, and would in all probability have been successful against a host." A ydyw'r traethawd wedi ei gy- hoeddi ? Yn Chwefror, 1905, y cynhaliwyd yr Eis- teddfod Gymreig ddiweddaf yn Albert Hall. Eisteddfod fawr y cyfeillion yn Falmouth Road oedd honno, pryd yr enillodd Alfa gadair am bryddest goffa i Ben Bowen. Y Gwir Anrhyd. Syr B. Hall, Barwnig, A.S., oedd yn llywyddu Eisteddfod '55, a bu ef a theulu Llanofer yn noddwyr cyson i'r Wyl yn y blynyddoedd hynny. Dyma gyfnod Eisteddfodau y Fenni, a thymor o adfywiad Eisteddfodol sydd a'i ffrwyth yn aros hyd heddyw. Nid Saeson sydd wedi bod yn cynrychioli Ceredigion yn y Senedd bob amser. Yn 1855 Lloyd Davies, Ysw., oedd yn Westminster ar y pryd, a daeth i Eisteddfod fawr Llundain y flwyddyn honno gan draddodi araith hyawdl yn iaith gwlad ei enedigaeth. Nid yw adran celf eleni i fyny a dis- gwyliad y pwyllgor. Feallai fod y cystad- leuwyr gwledig yn hwyrfrydig i ddanfon eu cynyrchion yma oherwydd fod y fath safon uchel ymysg gwyr y celfau yn y ddinas hon. Ond dylid cofio mai nid lie i'r celfyddydwr perffaith yn unig yw Gwyl y Cymry, eithr coleg i ddysgu yr efrydydd ymhob adran. PAN yn dechreu ei yrfa fel cyfreithiwr, yr oedd Mr. Lloyd George yn addoli yn ami ynghapel Calf aria, Ffestiniog. Cymerai raa yn y gwasanaeth hefyd, ac un tro, wedi darllen a rhoddi emyn allan i'w ganu, gofynodd y gweinidog i un o'r diaconiaid fyned i weddi. Ar ddiwedd y gwasanaeth gofynodd un hen chwaer i'r gweinidog, Pwy oedd y llanc ifanc yna ddechreuodd yr odfa." "Twrne ifanc o Griccieth," ebe'r gweinidog. 0, Twrne," meddai hithau, Doedd ryfedd na fedrai o ddim gweddio; Roedd yn rhaid cael yr hen Owen Jones 1 wneud hynny."

Advertising

NODIADAU LLENYDDOL.