Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. [GAN ALAWYDD]. Cor Moelwyn. Ar ol taith hynod lwyddiannus ar draws yr Unol Daleithau y mae cor y Moelwyn yn dychwelyd yr wythnos hon. Buont yn ardaloedd y chwareli ac ym mhrif drefi y Taleithau lie mae'r Cymry yn lliosog, a chawsant dderbyniad croesawgar iawn. Ar rai o'u teithiau bu troion difyr, a bydd gan yr aelodau lawer o hanes i'w adrodd ar ol dychwelyd i ardal Ffestiniog unwaith eto. Pan ar ymweliad a Dodgeville, Wis., aeth yn anfPawd ar y delynores a Miss Mary King Sarah drwy iddynt golli y tren. Y canlyniad fu i'r cyngerdd orfod myned ymlaen heb na thelyn na soprano Mae mudiad ar droed i sicrhau gwasanaeth y cor yn Llundain eto wedi iddo gael yehydig seibiant haeddiannol ym Meirion am rai wythnosau. Miss Agnes Parry. Cofus gan ein darllenwyr am Miss Agnes Parry, fu'n efrydu yn y R.A.M., a bydd yn llawen gan ei chyfeillion glywed am ei llwyddiant yn yr America. Dyma ddywed ,gohebydd y Drych am dani Deil Miss Parry i ddringo o ris i ris ar hyd grisiau cerddoriaeth a chan fel y mae yn cael ei chydnabod y dyddiau hyn gan gerddorion ,goreu y wlad yn un o'r cantoresau goreu ar y llwyfan, ac mae yn cysegru ei holl amser a'i nerth a'i thalentau i wasanaethu Duw y nefoedd a'i eglwys ar y ddaear. Ymwrth- ododd a gogoniant a mawredd y byd, canys cafodd lawer o gymellion taer i uno a gwa- hanol gymdeitbasau operayddol, ond dewis- odd hi gysegru ei doniau at wasanaeth y cysegr am lai o gyflog. Ar ei dychweliad o Lundain yng nghymdeithas ei brawd, Proff. Parry, gwnaeth y ddau eu cartref yn New- castle, Pa., fel cynt, gyda'u chwaer a'u brawd ynghyfraith. Ond ni ddarfu iddi ddych- welyd i fod yn segur a diwaith; 0 na, fe ddarfu iddi yng nghymdeithas ei brawd agor swyddfa gerddorol er mwyn rhoddi ,gwersi mewn chwareu y piano a pherffeithio y llais ac y maent wedi llwyddo yn rhyfedd iawn yn cael digon o waith a digon o ddisgyblion. Rhyw chwe mis yn ol gwa- hoddwyd Miss Parry i ddinas brydferth Franklin, a chyflogwyd hi yn arweinyddes canu yn un o eglwysi mwyaf parchus a phoblogaidd y dref, sef y First Methodist, lie y mae canu da a chantorion o nod yn cyd- ganu a hi. Mae Miss Parry yn llanw ei lie yn fendigedig, ac mewn parch mawr gan yr eglwys a'r dref. Mae papurau Franklin yn rhoddi canmoliaeth ryfedd ac uchel i waith y cor ac i Miss Parry fel arweinyddes." JEin Peneerddes. Er wedi ymneilltuo o'r llwyfan fel can- tores, deil Mrs. Mary Davies ei safle fel ein pencerddes ymhob ystyr. Hi sydd wedi rhoddi adfywiad i'r mudiad o gael yCaneuon Gwerin eto i fri, ac mae ei darlithoedd ar y rhain wedi rhoddi boddhad i lu o efrydwyr y gan. Ac nid yn unig yn y cylch hwn y mae yn enwogi ei hun, eithr daw allan yr haf eleni fel un o brif feirniaid Eisteddfod Llangeitho, Ceredigion. Yn ol rhaglen yr wyl honno, hi sydd i lywyddu y gweithred- ladau yn ogystal a chyd-feirniadu ar yr adran gerddorol. Rhagorol, yn wir, a diau y mwynheir ei gwasanaeth gan blant gwlad y Cardis." 'Cyngerdd Queen's Hall. Mae'r Gymdeithas Gorawl Gymreig Llun- dain wedi cychwyn ei gyrfa gydag anrhyd- .edd. Nos Fawrth ddiweddaf bu'r cor a adnabyddir fel Cor Merlin Morgan," yn rhoddi ei gyngerdd cyhoeddus cyntaf ar ol sefydlu yn Gymdeithas Gorawl yn ein plith. Ac ni raid iddo gywilyddio am y cyngerdd cyntaf, canys cafwyd canu rhagorol o'r dechreu i'r diwedd. Rhifa'r cor ar hyn o bryd yn agos i ddau gant o leiswyr profedig, a phan ystyriwn eu anhawsterau-canys y maent oil wrth eu gwahanol alwedigaethau yn y dydd-yr oeddent wedi ymarfer y gwahanol ddarnau yn dra chanmoladwy. Yr oedd y byd Cymreig yn Llundain wedi cael manylion Ilawn am y cyngerdd a'r amcan, a hyderwn weled y neuadd yn orlawn, ond yn hyn fe'n siomwyd. Ar yr un pryd y mae yn galondid i ni ddeall fod y mudiad wedi troi allan yn llwyddiannus yn yr ystyr ariannol. Y ddau ddarn berfformiwyd ganddynt oeddent Caractacus," o waith Elgar, a The Pied Piper of Hamelin," gan Hubert Parry. Cynorthwyid y cor gan gerddorfa ragorol, ac yr oedd y gwahanol unawdau yn cael eu cymeryd gan Madame Laura Evans-Williams, Mri. Cynlais Gibbs, Thorpe Bates, a David Evans Y cyfeilwyr oeddent Miss Sallie Jenkins, Mr. Idris Lewis, a Mr. David Richards. MR. MERLIN MORGAN. Mr. Merlin Morgan. Un o fechgyn ardal Aberdare yw Merlin Morgan, ond y mae wedi ymsefydlu yn Llundain ers blynyddau lawer, ac wedi dringo i reng flaenaf yr organwyr ac arwein- wyr corawl. Efe yw un o'r rhai sy'n paratoi corawdau i chwareudy enwog Daly's, a chyfrifir ef yn un o'r rhai mwyaf llwydd- iannus. Ar wahan i'w fedr fel cerddor, y mae yn ffefryn gan bawb o aelodau y cor, a dyna yn ddiau sy'n cyfrif am ei boblog- rwydd a'i lwyddiant ymysg y cantorion Cymreig. Wedi cychwyn ar y fath Gym- deithas gerddorol ymhlith ein cenedl yn y ddinas hon, hyderaf y caiff gefnogaeth unol ei bobl i wneud y mudiad yn llwyddiant perffaith. Nid gwaith dibryder yw sefydlu a gofalu am gor mewn unrhyw fan, ac yn sier y mae'r anhawsterau yn Llundain yn llawer mwy nag yn mSn drefi y Deheudir. Ar ol yr anturiaeth bresennol, diau y ceir perfformiad arall gan y cor yn yr Hydref, fel ag i gadw'r dyddordeb yn fwy, a dwyn y Gymdeithas i'r bri a haedda yn y byd cerddorol.

[No title]

TY'R GLEBER.