Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
TY'R GLEBER.
TY'R GLEBER. [GAN AELOD Y MAESDREFI.] Wythnos y datguddiadau fu hon. Un -diwrnod wele Syr Robert Anderson yn cyhoeddi i'r byd mai efe oedd awdwr y llythyrau ymddangosasant yn y Times rhyw ugain mlynedd yn ol dan y penawd Par- nellism and Crime," a'r dydd wedyn dacw Mr. W. O'Brien yn cyhoeddi hanes ymgom gyfrinachol gafodd a Mr. Lloyd George. Parodd y cyntaf gyffro nid bychan yn y rhengoedd Ceidwadol, a theimlai arweinwyr y blaid fod yr addefiad wedi gwneud llawer iawn o ddrwg iddynt; ond daeth gwen foddhaus dros eu gwynebau pan gymerodd y wasg at ddynoethi cytundebau y Canghellor a'r Blaid Wyddelig ynglyn a'r Gyllideb Dyna'r hanes ynglyn a phob mudiad o ^iddo'r Weinyddiaeth hon. Heddyw yn llawenhau, a phopeth yn edrych yn ffafriol i'r blaid yfory yr haulwen wedi cilio, a llu o anhawsterau yn codi ar y ffordd gan beri pryder i'r arweinwyr nes gyrru'r wlad i drefnu'r cadau gogyfer ag etholiad arall! Ond ynglyn a datganiad Syr Robert Anderson J'haid i mi gyhoeddi ar unwaith na chaed erioed o'r tuallan i Rwsia y fath esiampl o fradwriaeth gan swyddogion y Llywodraeth. Un o swyddogion eel y blaid Geidwadol oedd Syr Robert pan gyhoeddodd ei ymfflamychiadau. Cofus gan y darllennydd i Mr. Parnell ddwyn cynghaws yn erbvn y Times ar y pryd er mwyn clirio ei gymeriad, a llwyddodd i brofi fod rhai o'r llythyrau gyhoeddwyd ynglyn a'r llithoedd creulon hyn yn rhai ffugiol, a'r diwedd fu i'r newydd- iadur mawr hwn dalu iawn o bum mil o bannoedd i Mr. Parnell am yr anwiredd. Ond gan mai llithoedd wedi eu hysgrifennu gan swyddog i'r llywodraeth ar y pryd oeddent, y mae'n briodol casglu fod yr holl ffeithiau oedd ym meddiant Swyddfa yr Heddgeidwaid a'r Swyddfa Gartrefol o fewn cyrraedd y rhai oeddent yn amddiffyn yr ysgrifau. 0 dan y fath amgylchiad, y syndod ydyw i Mr. Parnell lwyddo fel y gwnaeth, canys nid oes dim mwy damniol nag ymddygiadau bradwrus o'r fath ag oedd yn bosibl ar y pryd. Bydd yn ddyddorol gwylio beth fydd ymddygiad y Blaid Wyddelig ar ol hyn. Mae Syr Robert Anderson yn derbyn blwydd-dal o £400 yn ei neillduedd, a'r cwestiwn yw, a ydyw yn haeddu cael y fath flwydd-dal pan yr addefa iddo dorri y rheolau drwy dros- glwyddo yr hyn a gasglodd pan yn swyddog taledig i'r llywodraeth, i golofnau newydd- iadur dyddiol heb ganiatad yr awdurdodau oedd yn ben arno ? Mae'n amlwg nas gedy y Gwyddelod y mater yn ddisylw, canys os ydyw ymddygiadau o'r fath yn ddichonadwy o dan y gyfundrefn bresennol, yna nid yw bywyd yr un diwygiwr yn ddiogel. Ond <;ael y eel swyddogion trwy'r deyrnas yn wrthwynebol i unrhyw arweinydd, gwaith hawdd iawn ydyw creu tystiolaethau an- wireddus, neu ddamnio unrhyw un drwy gyfres o lythyrau wedi eu seilio ar ychydig ffeithiau a gesglir gan y swyddogion hyn Ond am helynt Mr. W. O'Brien a Mr. D. Lloyd George y mae'r pethau yn dra gwa- hanol. Nid yw o un syndod gennyf fod Mr. O'Brien wedi cael ymgom a'r Canghellwr, canys y mae'n rhaid i'r gwr hwnnw ym- gydnabyddu a gofynion pob plaid ac achos fel ag i osod ei Gyllideb nesaf ar sylfeini priodol. Rhaid i bob Canghellor ddeall beth yw gwrthwynebiadau pob gradd o bobl i unrhyw gynlluniau newydd, ac nid yw o un syndod i mi ei fod wedi cael ymgom a rhai o'r Gwyddelod. Ond pwnc arall hollol ydyw cyhoeddi'r fath ymgom os nad yw'r ddwy ochr yn foddlawn gwneud hynny. Ar ol cael achwynion y cynrychiolwyr o'r tu hwnt i'r sianel nid oedd ond naturiol i'r fath fater gael ei gloriannu yn briodol; a gwaith anfad
Advertising
WELSH BAPTIST CHURCH, CASTLE STREET EAST, OXFORD CIRCUS, W. J t IF GRAND EveningConcert (IN AID OF THE NEW ORGAN FUND), WEDNESDAY EVENING, APRIL 20th, 1910, At the S T, A M It S S HAtt, GREAT PORTLAND STREET (near Queen's Hall). .——»♦ »—■— Artistes:- MISS EDITH EVANS. MISS PHILLYS LETT. ■ MR. THOMAS THOMAS. MR. IVOR FOSTER. Violinist: MISS MARY LAW. Accompanist: Mr. DAVID RICHARDS. THE LONDON WELSH MALE VOICE CHOIR. Conductor: Mr. MERLIN MORGAN. TICKETS-Reserved and Numbered, 5/- and 3/ Reserved, 2/ Admission, 1/—may be had of the following:—Mr. William Evans, 81, Buckingham Palace Road, S.W.; Mr. Abel Davies, 200, Earl's Court Road, S.W.; Mr. John Lewis, 18, Broadway, Wimbledon; and of the Hon. Sees., John Owen, 36, King Street, Camden Town; Arthur Griffith, 15, Pembroke Square, Earl's Court Road, S.W. Doors open at 7.30 p.m. Commence at 8 p.m.
[No title]
Nid yw pwnc Datgysylltiad i gael sylw yr Aelodau Cymreig hyd oni chwblheir y llyfethair ar Dy'r Arglwyddi. Mae Mr. William Jones wedi ei benodi yn fath o ysgrifennydd i'r Chwip Rhyddfrydol. Bydd galw am ei wasanaeth a'i gyngor yn ami ynglyn a phenodi ymgeiswyr ar ran y blaid ar hyd a lied Prydain.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. DIWEDD Y TYMOR.—Yn araf mae tymor y gaeaf yn dirwyn i'r terfyn, a cheir manylion am amryw gyfarfodydd i'n dyddori eto cyn daw gwyliau'r haf. CYNGERDD CASTLE STREET. — Nos Fercher nesaf cynhelir y cyngerdd hwn yn St. James' Hall, ac mae rhaglen nodedig wedi ei threfnu gogyfer a'r noson. Disgwylir cynulliad mawr i gefnogi'r cyfeillion yn eu hymdrech canmoladwy. ST. PADARN. Dydd Iau nesaf agorir eglwys newydd St. Padarn, Holloway, yr hon sydd wedi ei symud o Hornsey Road i adeilad cyfleus a hardd yn agos i'r Nag's Head. Ceir manylion llawn am y trefniadau mewn colofn arall. YR UNDEB.—Fel yr hysbyswyd yn flaen- orol gohiriwyd cyfarfod terfynol yr Undeb hyd nos Iau nesaf, ac mae'r llywydd wedi sicrhau nifer o ddoniau adnabyddus i annerch y cyfarfod yn New Jewin. CYNGERDD Y LLAETHWYR.—Oaf odd Cym- deithas y Llaethwyr gyngerdd dyddorol yn yr Horse Shoe Hotel nos Iau yr wythnos ddiweddaf, pryd yr ymgynullodd tori o gynrychiolwyr y fasnach i fwynhau noson lawen. Llywyddwyd y gweithrediadau gan y Cynghorwr Owen M. Richards, Finsbury, a chefnogwyd ef gan yr Henadur D. Davies (St. Pancras), Mr. E. Rees, Long Lane, ac ereill. Yr oedd rhaglen faith wedi ei threfnu gan ysgrifennydd y Gymdeithas, ac ymhlith y rhai fuont yn canu, &c., oedd Miss Maggie Davies, Shirland Road; Miss Florence Jenkins, Mr. Luther Evans, Mr. W.
TY'R GLEBER.
oedd rhoddi'r hanes, neu unrhyw fanylion ynglyn a'r cyfarfyddiad, hyd nes y byddai hynny yn cael ei wneud yn swyddogol gan y Canghellor ei hun Mae'r adran Gymreig wedi bod yn lied fEyddlon i'w cyhoeddiadau yn y Ty yr wyth- nos hon. Gwir fod amryw o'r adran gyf- reithiol yn gorfod cymeryd eu hedyn ar rai adegau; ond y mae'n hawdd cael cymar iddynt gan arweinwyr yr Wrthblaid, canys y mae llu mawr o wyr y gyfraith ynglyn a'r Blaid Doriaidd hefyd! Ddydd Mercher yr oedd un digwyddiad pwysig yn hanes y blaid. Dyma'r dydd y bu aer ieuanc Llandinam mor ddewr a chym- eryd i'w hun gymhares bywyd, ac yr oedd y briodas yn un o uchel wyliau y cylch cym- deithasol. Ar ol y briodas cymer Mr. David Davies a'i briod rai wythnosau o seibiant ar y Cyfandir, eithr ni fydd ei bleidlais yn golledig, canys y mae cymar iddo o fysg y Toriaid wedi ei sicrhau. Mae Mr. J. D. Rees, o Faldwyn, wedi hynodi ei hun eisoes yn nifer y man holiadau a rydd i wahanol swyddogion y Weinydd- iaeth. A gwaeth na dangos ei anwybodaeth o bethau tramorol, y mae yn niweidio rhai mudiadau ynglyn a'n gwlad fach ni. Onid yw yn bosibl i'r Blaid Gymreig arolygu ychydig ar gwestiynau Mr. Rees fel ag i'w gadw rhag niweidio materion lleol ? Dylai'r Chwip gadw llygad crafE ar hyn o fater.