Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

MORGAN HOWELL YN RHO I CYFEILLACH…

News
Cite
Share

MORGAN HOWELL YN RHO I CYFEILLACH AR DAN. Dyna fy llygaid yn taro ar y nodiad sydd mewn llaw fer am Whitmonday, May 20 (1850)." Dyma fo Had a holiday to- day. P [fy ngwraig, dealler] and I went to Seiat fawr in Bedford Street in a car. Morgan Howell set the whole society in a blaze." Cyn cael allan feddwl y cofnodiad hwn rhaid cael esponiad, a manylu tipyn. I mi, yn awr hyd yn oed ar ol dros ddwy flynedd ar bymtheg a deugain o amser, y mae y nodiad yn cynyrchu teimladau byw iawn. Wel, gair o esponiad, i ddechreu, ar y tri gair "in a car," y rhai a allant ym- ddangos yn rhai dibwys iawn i'w dodi mewn dyddlyfr ond y maent yn adgofio i mi un o bethau hynod y dyddiau gynt. Rhaid cofio fod y Llungwyn yn un o ddyddiau mawr- yn uchel wyl-Oymry yr Hen Gorff," yn Liverpool, y dyddiau hynny. Byddai dillad newyddion a boneti crand yn cael eu dwyn allan, a hynny i'r fath raddau fel y byddai rhai o'r hen frodyr crefyddol yn gofidio yn fawr o'r herwydd, ac yn rhybuddio yr ystlen deg rhag balchder ar y fath achlysur. Yr wyf yn cofio yr hen frawd J. G. mewn cyfar- fod i weddio am fendith ar Gymanfa y Sul- gwyn, yn taer erfyn ar i'r chwiorydd gael eu delfro i ddymuno mwy am dywalltiad o'r Ysbryd Glan nag am wisgoedd gwychion, ac am i'w trwsiad fod nid yr un oddiallan," neu "wisgiad dillad," ond cuddiedig ddyn y galon;" a chariwyd ef ymaith gymaint gan ei ddymuniad taer fel yr oedd yn anhawdd iawn peidio chwerthin wrth weled yr hen wr diniwed yn troi oddiwrth annerch yr Orsedd fry i annerch y chwiorydd eu hunain, y rhai oeddent ar ei law dde, ar y meinciau gyda'u gilydd, ac yn agor ei lygad i edrych arnynt ac yn dweyd :— "Ferched bach anwyl, peidiwch a meddwl cymaint am eich boneti newydd a'r ribannau aml-liwiau: gweddiwch am yr Ysbryd Glan:" ac ar ol eu cyfarch felly am yspaid, yn cau ei lygaid ac yn troi drachefn i gyf- arch yr Orsedd. Ond nid gwisgoedd hardd oedd yr unig demtasiwn i wneud arddangos- iad gorwych adeg y Sassiwn. Pan fyddai y Seiat fawr ddydd Llun yn bur bell oddiwrth lawer, byddai yn rhaid llogi car, wrth gwrs, os oeddem am fod yn respectable. Gwyddai pob cabbi yn Liverpool yn dda am y big Welsh meeting" ar y dydd Llun ar ol y Sul- gwyn; a chan ein bod ni—ie yr oeddwn i wedi dod yn ni-yn byw yn eithafoedd Everton, yr oedd yn rhaid ini fyned "ina car," fel pobl ereill, wrth gwrs. Dyna'r esponiad ar y geiriau "in a car." Ond y mae yr esponiad ar y rhan arall o'r nodiad yn fwy pwysig o lawer, ac yn werth ymhelaethu ychydig arno; a cheisiaf wneud, oblegid y mae yn haeddu. Wel, dyma'r hanes Wedi ini gyrraedd hen gapel Bedford Street, cawsom le yn yr oriel-tu ol i'r pulpud. Yr oedd yr olygfa, o'r fan honno, ar y gynulleidfa anferth yn eu gwisgoedd goreu, yn dariawiadol iawn a thra phrydferth. Carwn i'r darllenydd ddod gyda mi, o ran ei feddwl, i'r Seiat fawr hono oblegid troes allan yn un o'r cyfarfodydd hynotaf mewn ystyr llawer iawn mwy sylweddol y bum ynddo erioed. Y Parch. Henry Rees oedd yn y gadair. Ym- drinid, ym mysg pethau ereill, am yr angen- rheidrwydd am dywalltiad o'r Ysbryd Glan. Yr oedd y Dr. Lewis Edwards, Roger Edwards, a llu o enwogion ereill, yn y set fawr; a rhai o honynt wedi siarad yn dda, ond dim cynhyrfiad neillduol. Yr oedd MORGAN HOWELL yn eistedd ar law dde Mr. Rees, a'i ben bron rhwng ei liniau, fel un wedi anghofio pa le yr ydoedd. Cyn hir dyma'r cadeirydd hybarch yn galw arno i siarad. Ychydig o ddarllenwyr yr ysgrif hon, mae'n debyg, sydd yn cofio Morgan Howell: dyn tal, main, esgyrniog ydoedd, gyda breichiau hirion, y rhai a ledai weithiau fel dwy aden. Bu agos imi ddweyd-fel dwy aden angel; ac, o ran hynny, yr oedd golwg angylaidd arno. Yn ei anerchiad cyfeiriodd at rai sylwadau a glywsai gan Mr. Rees mewn pregeth ac adroddodd ei eiriau; a chan droi ato gofynodd-" Ynte, syr, fel yna y 'wedsoch chi?" Ac yna, gan estyn ei freichiau hirion allan, d'wedodd fod yr Ys- bryd Glan yn sicr o gael ei dywallt eto, fel ar ddydd, y Pentecost; ac aeth dros y pennill- O'er the gloomy hills of darkness," yn Saesoneg, gyda rhyw eneiniad anghyd- marol. Yna troes i'r Gyinraeg, gan adrodd y geiriau— Dros y bryniau tywyll, niwliog," gyda dylanwad digyffelyb. Tra yn myned dros y pennill y gwiriwyd, ac y caed esponiad ar, y geiriau yn fy nodiad-" Set the whole seiat in a blaze."—(O'r Geninen" am Orphennaf.)

YR HAUL.

Y " Geninen " am Orphennaf.

Advertising