Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Bwrdd y Gol.

News
Cite
Share

Bwrdd y Gol. Rhai rhyfedd yw'r beirdd am greu helynt. Yr wythnos ddiweddaf bu loan Aeron yn danod i Gwyddfryn" nad oedd ei awen yn wreiddiol, a'r wythnos hon dyma "Llewelyn" yn curo ar Fardd yr offis am ei fod wedi andwyo cynyrch ei beiriant barddonol ef. Yn ei adroddiad o hanes priodas Mr. Willington, aeth nifer o wallau i englynion Llewelyn," y rhai a ddylasent fod fel a ganlyn :— CYFARCHIAD PRIODASOL I MR. A MRS. WILLINGTON, CHELSEA. Dau anwyl wedi'u huno-heddyw sydd, 0 serch pur di-ildio Gwelwn drwy y fodrwy fad, Nod o gariad diguro. Willington hoff i'w fonwes-a fynodd Deg feinir ddirodres, Geneth a chalon gynnes Ydyw'n llawn doniau a lies. Willington geir yn llonnach-nag erioed, Bydd gwraig ganddo bellach Mi gana'n fil amgenach, Nodau byw gyda Nesta bach. Heb loes boed hir oes i'w rhan-a bywyd Heb awel aniddan, Ac hefyd uwchlaw y cyfan, Lond ty o glws hoffus blant glan. RHYS MORLAY.—Eich llythyr yn y nesaf. Dim lie y tro hwn. EUROG ac ereill. Bu raid gohirio'r adroddiadau hyd yr wythnos ddyfodol. Hyd hynny byddwch amyneddgar.

Advertising