Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

Yr Argyfwng Masnachol yn Mlaenau…

News
Cite
Share

Yr Argyfwng Masnachol yn Mlaenau Ffestiniog. EI EFFAITH AR YR ACHOSION WESLEYAIDD. Y CHWARELWYR SYDD AR WASGAR. GAIR AT YR EGLWYSI. 1 [GAN HAFODFA-B j Y mae yn hysbys i bawb o ddarllen- wyr y GWYLIEDYDD fod ardal Blaenau Ffestiniog y dyddiau presenol, mewa cyfyngder mawr oherwydd iselder mas- nach yn y lie. Y mae amser wedi bod, a hynny heb fod yn mhell iawn yn ol, pan ag yr oedd y gymydogaeth hon yn llawer gwell allan nag ydyw ar hyn o bryd. Y mae safon cyflog wedi bod yn llawer uwch yn y chwarel nag a ydyw ar hyn o bryd. Beth amser yn 01 yr oedd dynion yn cael cyflogau da am eu liafur, ac yn meddu ar gartrefi clyd a chysurus. Pob peth mewn byd ac eglwys yn ymddangos yn hynod flodeuog, ac yn wir, yr oedd hyd yn oed masnach y lIe y pryd hyny yn ymddangos fel pe byddai am fywiogi yn ychwaneg, ond yn sydyn, rywfodd, daeth tro ar bethau. Dechreuodd olwynion masnach droi fel arall. Yr hyn oedd yn ymddangos yn flodeuog yn dangns arwyddion eu bod yn dechreu gwywo. Y cyflogau yn y chwareli. Cwmwl du yn hofran uwch- ben pobpeth, fel erbyn y dyddiau presenol y mae pethau wedi myned mor ddrwg, a rhagolygon y dyfodol wedi myned mor dywyll, nes y mae llawer yn ofni ac yn pryderu llawer am eu dyfodol Yn wir, y maent wedi myned mor ddrwg nes y'mae rhai chwareli yn y cwm- pasoedd wedi en hatal i weithio yn gyfangwbl, ac y mae un chwarel (y fwyaf yn y lie) yn gweithio dim ond pedwar diwrnod yn yr wythnos yn lie chwech. Gwelir felly fod yr ardal mewn argyfwng masnachol difrifol, ac yr ydym yn ofni fod llawer yn ein plith yn dioddef, ond er cymaint yr argyfwng. ac er cymaint y dioddef, credwn fod rhai yn ein plith (ac y mae yn dda genyrn allu credu hyny) yn cyd- nabod mai O'r Arglwydd y mae hyn oll," a pharod ydynl i ddyweyd yn rghanol eu helyntion a'u blinderau, Yr Arglwydd a roddodd a'r Arglwydd a ddygodJ yinaith bendigedig fyddo enw yr Arglwydd. Nid ein hamcan yn yr ysgrif hen 0 ydyw ceisio olrhain beth sydd yn cyfrif am yr argyfwng hwn, nac ychwaith ceisio dangos pa fodd y deuwn allan c hono, oblegid ni pherthyn hyny ddim i ni, ond ein hamcan, foneddigion, ydyw rhoddi i'ch darllenwyr hanes y gylch- J daith, a'r safie yr ydym ynddi yn ol fel y mae pethau yn ymddangos i ni ar hyn o bryd a chyda Haw, teg ydyw dyweyd mai cyffelyb ydyw gyda phob en wad crefyddol yn y lie, i'r hyn ydyw B)'d'r enwad Wesleyaidd. Canlyniad naturiol yr argyfwng pres- enol yd} w y ffaith fod llawer 0 ymfudo yn cymeryd lie. Y mae llattfgr, ys- ywaeth, o hen ardalwyr plwyf Ffestiniog yn trigianu heddyw mewn ardaloedd nad oeddynt, ddwy flynedd yn ol, erioed wedi bwriadu symud i'r cyfryw leoedd. Y mae canoedd wedi ymfudo i'r America, ac i Ddeheudir Cymru. Y mae rhai ugeiniau wedi myned i weithfeydd yn Ngogledd Lloegr, a llawer wedi ymfudo i wahanol wledydd yjbyd, llavver, yn ol pob tebyg, byth i oQychwelyd. Wrth gerdded ein heolydd ar nosweithiau y mae yn chwith i ni eu gweled mor wag o bobl i'r hyn oeddynt beth amser yn ol, hyd yn oed ar nos Sadwrn, y noson fwyaf poblogaidd yn yr wythnos mewn ardal weithfaol. Fel un sydd wedi ei eni a'i fagu yn Mlaenau Ffestiniog, gallaf ddyweyd nad wyf erioed wedi gweled gymaint o dai gweigion yn yr ardal, yr hyn a brofa yn amlwg i mi fod y dirwasgiad masnachol i'w deimlo yn drwm yma, ac os na ddaw rhyw adfywiad yn fuan iawn ofnaf y bydd llawer iawn ychwaneg o dai gweigion yma, oblegid swn ymfudo a glywir yn mhob cwr o'r ardal. Gan fod cymaint yn ymadael oddiyma y mae holl eglwysi y gwahanol enwadau yn y cylch yn llawer llai o ran eu rhif. t Gwyddom am un eglwys yn y lie sydd wedi rhoddi allan oddeutu pedwar ugain o docynau aelodaeth yn ystod y flwyddyn hon. Gwyddom am eglwysi eraill yn mhlith pob enwad wedi rhoddi bron yn agos gymaint. Gwelsom un boreu gymaint a thri a thriugain o bobl yn cychwyn gyda'u gilydd i'r America. Gwelsom ddeg-ar-hugain lawer gwaith. Un boreu aeth gymaint a thri-ar-ddeg a thriugain i lawr am Ddeheudir Cymru. Y mae ugeiniau wedi eu dilyn. Y mae lluaws -wedi myned i Ogledd Lloegr, a'r mwyafrif o'r rhai hyn wedi ymsef- ydlu yn swydd Durham. Yn wir, clywsom gan un o Ddeheudir Cymru fod yn Nhonypandy un heol lie yr oedd cymaint a thri-ar-ddeg o deuluoedd o'r ardal hon yn byw yn gysurus ynddi. Os yw felly mewn un heol yn ardal Tony- pandy, pa faint allal y niter fad mewn heol- ydd o ardaloedd eraill. Gofid i'n calon ydyw ein bod yn gorfod dyweyd hyn, ond rhaid addef ffeithiau er y cwbl i gyd. Y mae symudiadau fel hyn yn golled mawr i'r aidal yn mhot ystyr, a digalon i'r eithaf ydyw cychwyn unryw symudiad dyngarol a da o dan yr am- gylchiadau presenol. Yr ieuenctyd ydyw y mwyaf. if o'r rhai sydd yn ym- fudo, ac wrth weled cymaint o bobl ieuainc yn ymfudo anhawdd ydyw dyweyd beth ddaw o ddyfodol yr ardal, ac o na allem ddyweyd gyda'r sicrwydd llawnaf: Fe ddaw yr haul eto ar fryn, Nid yw byn ond cawod." Yr ydym wedi cyfeirio yn yr ysgrif hen at y symudiadau sydd yn cymeryd lie yma, ac at y colledion sydd yn cael ei deimlo yma, ond o bawb sydd yn teimlo oddiwrth y colledion, credwn mai yr eglwysi sydd yn teimlo fwyaf. Yr ydym eisoes wedi dywtyd pa faint ydyw y niier tebygol sydd yn ymadael o'r gwahanol eglwysi, a chofier mai nid aelodau oer a difater oeddynt na, yr oedd v mwyafrif o honynt yn aelodau defnyddiol a gweithgar yn yr eglwysi y perthynant iddynt, a chan mai cyffelyb ydyw y symudiadau yn y gwahanol eglwysi yn mhlith pob enwad, gallwn gy.eino at un eglwys yn ein cylchdaith fel engraifft o'r hyn ydyw yn mhlith eglwysi eraill. Cyteiriwn at eglwys Soar, yr hon sydd wedi ei sefydlu yn rhanbarth y Rhiw. Dyma yr eglwys ieuengaf yn mhlith eglwysi Wesleyaid y gylchdaith ac yn wir, dyma yr eglwys ieuengaf yn mhlith holl eglwysi yr ardal perthynol i bob enwad. Nid oes eto bedair blynedd er pan y rhoddodd ein Cyfundeb ei .< throed i lawr yn y rhanbarth, a phan y gwnaethom hyn, bu raid i ni gael benthyg ysgoldy Glan-y-pwll i gynal y gwahanol foddianau. Pan sefydlwyd yr ) eglwys, nid oeddym wedi sicrhau tir i adeiladu capel arno. Hefyd nid oedd ond rhyw dair ar hugain o aelodau yn cychwyn yr achos yn y rhanbarth Erbyn hyn yr ydym wedi sicrhau tir ac wedi adeiladu capel teilwng o honom fel enwad. Yn ychwanegol at hyn, gwelsom yr eglwys, yr hon nad oedd ond tair a'r hugain pan yn cael ei sefydlu, wedi cynyddu i fod dros gant a deg mewn nifer, yr hyn a brofa yn amlwg fod yr eglwys hon wedi bod yn gweithio o ddifrif gydag achos yr Arglwydd o ¡ adeg ei chychwyniad. Y mae yr eglwys yn llawer iawn llai mewn rhif heddyw, J a hyny i'w briodoli, i fesur helaeth iawn, I, i'r dirwasgiad presenol sydd yn y lie ac er meyn chwareu teg a'r cyfryw, dylem ddyweyd fod y mwyafiif o honynt yn aelodau gweithgar yn y lie. Yr oedd amryw o honynt yn gweithio yn rhagorol gyda'r plant, a byddai yn werth myned i'r "Band of Hope" ei gael gweled y dull rhagorol oedd ganddynt i addysgu y plant. Yr oedd eraill o honynt yn was- anaethgar gyda'r canu. Gwyddom am ddwy eglwys sydd heddyw yn yr ardal heb arweinydd y gan, a chyda'r eglwys fechan y cyfeiriwyd ati yr oedd un o'r brodyr yn un o arweinyddion yn y lie. Llawer o athrawon sydd wedi ymadael o eglwys Soar, y rhai oedd ar eu goreu yn ceisio hyfforddi y dosbarth- iadau oedd dan eu gofal. Yr oedd eraill I a honynt yn fedrus iawn gyda chyfrifon, a chwith iawn yw gweled eu lleoedd yn wag yn ycyfeiriadau hyn. Yn awr, nid yw eglwys Soar ond un engraifft o'r hyn sydd wedi cymeryd lie yn mhlith pob enwad. Y syndod yw, fod yr eglwysi yn gallu ymgynai cystal yn yr argyfwng presenol. Yn ychwanegol at hyn eto, y mae llawer o ddosbarthiadau darllen wedi eu chwalu, a hyny, am nad oes yna ddigon yn presenoli eu hunain i'w gynal, ond y mae dosbarth darllen hyd yn hyn yn cael gynal yn Soar, a da genym allu dyweyd fod y dosbarth hwn wedi rhoddi i eglwysi eraill, erbyn hyn rai dynion ag y bydd o I fantais i bawb droi yn eu mhysg ar gyfrif yr hyn a wyddant. Fel y sylwyd I yn barod, nid yw eglwys Soar ond un engraifft o blith y lluaws. Yn awr, ar ol sylwi ar amgylchiadau ein hardal mewn gwahanol agweddau, yr ydym mewn safle i ganfod y fath golled y mae ein hardal wedi gael yn < mhob ystyry dyddiau presenol. Credaf yn sicf naa Wyf yri dyweyd gormod 1 wrth ddyweyd fod llawer yn dioddef yma ar hyn o bryd. Hyderwn yn fawr, y bydd gwawr yn tori yn fuan iawn, er enyn ynom obaith am amser gwell i ddyfod. Credwn pe byddai i ryw wawr don a chwalu y cwmwl sydd yn hofran uwchben y dyddiau hyn, y caem weled yr ardal eto ar ei mantais yn mhob ystyr, ac y byddai yr hyn sydd wedi troi yn golled, yn cael ei droi yn enill. Cyn terfynu ein hysgrif foneddigion carem wneyd un apel ar ran y rhai sydd wedi ymadael o'n plith, at holl eglwysi Cymru yn mhlith pob enwad trwy gyfrwng eich papur. Credaf, ar sail yr hyn wyf wedi ei weled fy hunain, fod y GWYLIEDYDD yn cael ei ddarllen gan lawer aelod perthynol i enwad arall, y cyfryw rai o bosibl yn cael ei weled gan Wesleyaid sydd yn lletya gyda hwynt. Y mae llawer o'r rhai sydd wedi symud oddiyma yn ddychweledigion y Diwygiad grymus diweddaf a ymledodd dros y wlad yn bur gyflredinol, ac y mae lie i ofni nad yw y rhai hyn mor gryf i wrth- sefyll temtasiynau oddicartref ag oedd- ynt cyn ymadael oddiyno. Gwyddom oil fod temtasiynau aneirif, y fath na ddychmygwyd erioed am danynt, yn dyfod i gyfarfod a dyn ieuanc pan oddi- cartref, ac y mae yn rhaid gwrthwynebu y cyfryw demtasiynau mewn modd per.derfynol iawn. Hefyd y mae yn rhaid i'r dyn ieuanc, pan oddi cartref, gael cynorthwy yr eglwys ddyeithr y digwydd iddo ymaelodi ynddi, a'n hapel ninnau ar ran ein dynion a'n merched ieuainc ydyw, am i'r eglwysi trwy y wlad wneyd yn fawr o'r rhai sydd yn dy- fod attynt. Y mae lluaws o honynt, er yn wan mewn un ystyr i agoshau at bobl ddyeithr, eto, yn alluog o ran eu meddwl, a gallant fod ogynorthwy mawr ac yn golofnau cryfion i gario gwaith yr Arglwydd yn ei flaen yn y cyfryw leoedd. A gawn ni yn Mlaenau Ffestiniog a'r cymydogaethau cylchynol weddio ar ran y rhai sydd wedi ein gadael, am iddynt gael nerth i ddal yn y ileoedd dyeithr, ac am iddynt gael nerth i orchfygu pob anhawsder a ddichon ddyfod i'w cyfarfod ? Yn sicr, fe ddylem wneyd, a thra yn gofyn am i'r eglwysi yn y cylchoedd hyn wneyd, credwn mai nid gormod ydyw gofyn i holl eglwysi y wlad agoshau at yr rhai sydd yn dyfod attynt, fel y bydd iddynt deimlo, er yn ddyeithr. yn hollol gartrefol yn eu plith. Credwn ond iddynt wneyd hyn, na chanfyddant yn fuan iawn fod I dynion a merched rhagorol wedi dyfod i'w plith, ac os daw amgylchiadau ein hardal (ac yr ydym yn gnbeithio y deu- ant yn fuan iawn) i'r fath ystad fel ag i ganiatau iddynt ddyfod yn ol, y cawn eu gweled y pryd hyny yn ddigon gwrol, ac yn meddu ar benderfyniadau cadarn i wrthsefyll pob anhawster a ddaw i'w cyfarfod. Wrth derfynu yr ysgrif hon, a chyf- lwyno fy apel ar ran fy nghyfeillion, dymunf Dduw yn rhwydd iddynt yn eu lleoedd newyddion i wneyd llawer o ddaioni, ac i fod yn wasanaethgar yn eu cylchoedd, ac y cawn ddarllen am, a gweled llawer o ffrwyth yn deilliaw o'u liafur. Os byth y deuant yn ol i'r ardal hon gallant fod yn sicr y bydd yma yn mhob man y croesaw mw-yaf iddynt. Hyderaf, foneddigion, y bydd i'r ysgrif hon fod yn symbyliad i gael y cyfeilnon dyeithr a'r eglwysi yn nes at eu gilydd, ac i'w cael i fod yn ddefnyddiol gydag achos yr Arglwydd yn y cyfryw leoedd, ac ond iddi fod felly bydd amcan eich gohebydd wedi ei gyrhaedd. Pared yr Arglwydd iddi fod telly yw dymuniad [ IHAFCDFAB.

Y SENEDD=DYMOR.

-oo--I Nodion Golygyddol.I

"Yn Llefaru Eto,"

RAISULI AND THE KAID.I

BLACKPOOL LUNACY BLUNDER.

DOCTOR MURDERED BY PATIENT-

COUNTRY MANSION STRIPPED.

SINGER FOUND SHOT.

---iBURGLARS AND WIDOW.

" A FATAL OVERDOSE

AUGUST'S RAIN RECORD.

BOOKMAKER FINED AT EPSOM.

HOP - PICKING TRAGEDY.

SOLDIER'S CURIOUS FREAK.

PROPOSED POLICE DECORATION.

TRAGIC END TO A SAILING TRIP.

BOAT CAPSIZED AT BRIGHTON.