Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

Y TY A'R TEULU

News
Cite
Share

Y TY A'R TEULU Regent St., Llundain, Mawrtli 22ain, 1893. <* Y ANWYL CHWAER,— Daeth dy lythyr i law yn brydlon ac yr oedd yn dda genyf glywed fod y tywydd yn Nghymru mor braf. Fe fydd y merched i gyd yn anvr yn edrych am ddillad ffasiynol y gwanwyn ac yr wyf yn anfon i ti dri neu bedwar o ddarluniau i ddangos sut y mae y boneddigesau pena' yn Llundain yn gwisgo y dyddiau hyn. Dyma ddarlun o cape ffasiwn newydd at y gwanwyn wedi ei thrimio a lace du clwfn, efo coler uchel wedi ei addurno a brwydwaitli o jet. Dengys y darlun ucliod y ffasiwn ddiweddaf o waterproof jacket at fyued allan ar geffyl am dro pan fyddo cymylau yn bygwth gwlaw. 0 Wed'yn, wele ddarlun o foneddiges, fel y gwisgai i fyned i drawing-room y Frenhines. Yma, fe geir braslun a wnaed gan un o ferched y siop yma pan fu hi yn Brighton y prydnawn Sadwrn diweddaf. Yr oedd y shirt o liw terra cotta. Yr ydym mor brysur yma fel nad oes genyf amser i ysgrifenu ychwaneg heno. Hwyrach yr wythnos nesaf y bydd genyf air ar ffordd nawydd i ferched enill en bywoliactli. Cofion atoch oil, Dy serchus Chwaer, BRONWEN HUMPHREYS. O.Y.—Mae cyfeilles i mi, sydd wedi gwel'd hysbysiad S. Smith & Co., woollen manu- facturers, Wortley, Leeds, ac wedi anfon atynt am batrymau o ddefnyddiau dresses, &c., yn dyweyd eu bod yn rliai campus dros ben. Prydferth a stylish iawn, meddai hi, yw pobpeth a gafodd. Y mae'r checks gwlan a sidan yn teilyngu ucliel ganmoliaeth. Am wisgo yn hir, ac edrycli yn dda, rhoddir clod angliyffredin i'r Beatrice Cloth a'r St. Hubert Cloth. Maent yn rhad iawn hefyd—am 8s ceir digon o hyd i wneyd dress. Gallwn i dybio y byddai i nwyddau y masnachwyr hyn, ac yn enwedig eu 0 sypynau o remnants—defnyddiol iawn at wneyd dilladau i blant-fod yn wasanaetli- gar iawn i bobl yn y wlad.—B. H. "-=

[No title]