Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
CLEFYD Y MOR
News
Cite
Share
CLEFYD Y MOR UN diwrnod, yr haf diweddaf, diwrnod tawel a liyfryd, tynwyd sylw teithwyr ar fwrdd un o'r agerlongau a groesant rhwng Dublin a Chaergybi at foneddiges ieuanc brydferth a thrwsiadus, yr hon oedd yn sal iawn gan glefyd y mor. Cymerwyd hi yn sal gyda i'r llong gychwyn, a thrwy nad oedd neb ond hi yn sal ar y llong tynai sylw mawr. Yn ccrddcd yn ol a blaen ar y dec yr oedd boneddwr parchus yr olwg arno, ac wrth weled y bobl yn ymdyru o gwmpas y ferch ieuanc, aetli yno i edrych beth oedd y mater. Wedi ymwtliio i ganol y dorf, gofynodd, Clefyd y mor sydd ami ? Ie, syr," atebai rhywun. Gwelid y boneddwr yn chwilio ei bocedi, ac o'r diwedd, tynodd allan flwch bychan, tebyg i flwch pils, ac meddai wrth yr edrycliwyr, Yn ffodus iawn y mae genyf feddygin- iaetli anffaeledig ar gyfer y salwch atgas yma. Os bydd i rai olionocli ofyn i'r fereh ieuanc yna gymeryd y pils hyn yrwan, bydd yn holliach cyn pen y cliwarter awr. Mae yn ddrwg genyf drosti, druan, pwy bynag ydyw y niae yn bur sal, mi welaf." Darfu i ryw foneddiges garedig a ddaliai ben y ferch ieuanc sal gymeryd y boes o law y boneddwr, a rhoddi dwy o'r pils i'r glaf mewn ychydig o ddwfr glan. Safai y teith- wyr o gwmpas, yn llawn o awydd gweled a oedd rhyw feddyginiaetli wedi cael ei dar- ganfod o'r diwedd i wella clefyd y mor. Edrychant ar en horiaduron er mwyn gweled a fyddai i'r pils hyny wella y ferch ieuanc o fewn chwarter awr fel yr oedd y dyn wedi dyweyd y gwnant. Cyn pen deng mynyd, yr oedd y ferch ieuanc yn dechreu adfywio; a chyn pen ugain mynyd yr oedd yn holl- iach, yn cerdded o gwmpas ac yn dechreu mwynhau awyr iacli y mor fel y teithwyr ereill, o ba rai nid oedd neb yn sal. Anilygodd y teithwyr syndod a boddhad wedi gweled effeithiolrwydd y fath feddygin- iaeth, ac aeth lluaws ohonynt ar ol y gwr boneddig oedd piau y blychiad pills gan ofyn iddo pa le y gallent hwy gael y feddygin- iaetli, rhag ofn iddynt fod yn sal o glefyd y mor rywbryd yn y dyfodol, ac meddai y boneddwr wrthynt, Yr wyf fi yn teithio dros y cwmni mawr o fferyllwyr sydd yn gwneyd y pelenau hyn, ac yn bur ffodus y mae genyf ryw ddau neu dri dwsin o fiyeheicliau ohonynt yn fy mag i lawr yn y caban." Aeth y teithwyr ar ei ol i'r caban, a bu gwerthu prysur ar y pils am y gweddill o'r fordaith. Gwerthodd y boneddwr werth deng neu ddeuddeg punt ohonynt cyn cyr- liaedd Dublin, ac wrth gwrs, ni bu treial arnynt wedy'n y tro hwnw gan fod y tywydd mor dawel a neb yn sal. Wedi cyrhaedd Dublin, synwyd y teithwyr yn fawr wrth weled y boneddwr a'r ferch ieuanc fu yn sal-y rhai nad oeddynt wedi dangos unrhyw arwydd cyn hyny eu bod wedi gweled eu gilydd erioed o'r blaen-yn myned or agerlong i'r lan yn mreichiau eu gilydd, yn galw cerbyd ac yn gyru ymaith ar ffrwst gyda'u gilydd. Caed allan wedi hyny nad oedd y feddyginiaeth anffaeledig hono yn ddim amgen na phelenau o flawd a dwfr wedi eu cymysgu, ac er eu bod wedi costio i'r teithwyr druain hanner coron y blychiad, nad oedd fwy o rinwedd ynddynt i iachau clefyd y mor, neu unrhyw glefyd arall, nag sydd o rinwedd mewn blawd llif i wnoyd cawl. Sowlrl again, be jaber-sl" ebe'r Gwyddelod yn unllais.
Y WRAIG LENYDDOL
News
Cite
Share
Y WRAIG LENYDDOL Yn oedd gwraig, mewn ardal na raid ei nodi. yn ysgrifenu llytliyr ar gyfer cystadleuaetli. Y testyn ydoedd "lawn ddygiad plant i fyny." Meddai, yn ei thraethawd, Y peth pwysicaf, y petli mwyaf anliebgorol angen- rlieidiol, yn ein hymwneyd a phlant, yw eu dysgu i fod yn eirwir, a cliyn y gallwn wneyd hyn mae yn rhaid i ni fod yn liollol ddidwyll a geirwir tuagatynt yn ein holl ymwneyd & hwy. Rliaid i bobpeth arall roddi ffordd i eirwiredd a didwylledd, yn enwedig o flaen ein plant." Wedi iddi ysgrifenu ei thraethawd mor bell a hynyna, dyma ei bachgen bach yn dod i fewn ac yn dyweyd wrtlii fod Mrs Jones, gwraig y ty nesaf, yn dod i fyny drwy'r ardd at y drws. Nid oedd arni eisieu gweled Mrs Jones ar y pryd, rhag cael ei liaiionyddu ar ei thraethawd, ac meddai wrth Tommy bach, "Does arnaf ddim eisieu iddi ddod i fewn yrwan; dywed wrthi fy mod wedi myn'd oddicartref er's oriau." Yna, wedi yr ymddangosiad yma o eir- wiredd o flaen ei plilentyn, aeth yn mlaen i ysgrifenu ei thraethawd—" Pan y byddwn mewn unrhyw fodd, yn twyllo plentyn, neu yn dyweyd anwiredd wrtlio, byddwn nid yn unig yn gosod esiampl ddrwg o'i flaen, ond hefyd byddwn yn colli ein dylanwad arno."
Y PARROT"
News
Cite
Share
Y PARROT ADERYN rhyfedd yw'r parrot; prin y credai y sawl na wyddant fawr am dano y fatli greadur doniol yw, yn enwedig os bydd wedi cael ei ddysgu i siarad yn weddol dda. Ryw flwyddyn neu ddwy yn ol, mewn arddangosfa adar yn Nghaernarfon, yr oedd yno parrot gwerthfawr, yn mhlith ereill, yn cael ei arddangos. Fel y dynesai y rhai oeddynt i feirniadu yr adar ar gyfer y gwobrau, dyma y parrot liwn yn tanu cip- olwg slei arnynt, yn troi ei ben yn ddoeth- wybodus, ac yn tori allan i floeddio dros yr ystafell, Doed yr Indiaid, doed barbariaid, Doed y negro du ei liw," &c. Torodd yr edrychwyr allan i chwerthin, wrth glywed yr aderyn, y mae yn debyg, yn cyffelybu beirniaid i farbariaid a blacks. Mae yr aderyn hwn yn fyw ac iach eto yn Nghaernarfon, a llawer ystori ddigrif ellid adrodd am dano. Mewn tref arall yr oedd rhyw ddyn wedi cael ei dwyllo wrth brynu parrot, yr hwn ni fedrai siarad yr un gair. Gwelodd y dyn yma y gwerthwr wed'yn ryw dro, a gofynodd iddo paham yr oedd wedi ei dwyllo drwy ddyweyd wrtho y gallai yr aderyn siarad. "Ddywedais i mo hynv, syr," ebai'r gwerthwr; yr hyn ddywedais wrthych oedd fod yr aderyn wedi cael ei ddwyn i fyny yn mhlith dynion dysgedig, ac ei fod yn llawn o athroniaeth a dysg. Wrth gwrs, dydi o ddim yn siaradwr mawr; nid yw geiriau segur yn meddu unrhyw swyn iddo ond y mae yn feddyliwr mawr, syr, yn feddyliwr mawr iawn; mae yn meddwl mwy nag y mae yn garu ddyweyd."
Advertising
Advertising
Cite
Share
SILVER-PLATED SPOONS AND FORKS. POST FHEJ, FROM THE MAKEUS. 50 per cent under Retail- Prices. Old Eng-lish or Fiddle Pattern. Electro-plate 011 Solid Nickel Silver. Ah i Tea Spoons, 3s the half- dozen Dessert Spoons or Forks, 4s 6d half-dozen; Table Spoons or Forks, Cs half-dozen; Or the Complete Set of 30 nieces, 22s. N.B.-—Nickel Spoons and Forks not plated are usually sold at much higher prices. As a Special Offer to the Readers of this Paper, any initials will be put on the articles FlUm OF CHARGE, although the usual price is '2d per letter. State Pattern and Initial required, and enclose Postal Order to STENNING & SEATON, 328, STANSTEAD JtoAD, LONDON, S.E. CYN PRYNU EICH DODREFN, Titer ddyiiiuiiii- ti-iioch YMWELED A MASNACHDY HUGH WILLIAMS, EASTGATE STREET, CAERNARFON. LIe gellir cael y Dowisiad Goreu yn Nghvmru o bob math o Ddodrefn o Wneuthuriad Cartrcf AM Y PRISIAU MWYAF RHESYMOL. FRANCIS'S NEURALGIC CURE, A sure remedy for Neuralgia, .Tic, and Tooth-Ache THE PHARMACY, CARNARVON. Ijl:i and 2/9 Bottles. 2 CARNARVON & DENBIGH HERALD. ESTABLISHED 1831. (English.) Frith y, 2d. Receives the Official Advertisements of four counties; also Government, Legal, and Auction Advertisements, &c. The Times describes this as "the lead- ng paper in the northern half of the Principality." The Manchester Examiner also states that it is "the leading Liberal organ for North Wales.' "The leading Liberal paper in North Wales.Liverpool Evening Express. Publisher—DANIEL REES, Carnarvon