Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

DYNOETHIAD 0 HAERIADAU I RADICALAIDD-

News
Cite
Share

DYNOETHIAD 0 HAERIADAU I RADICALAIDD- Y 1SERTHYNAS SYDD RHWNG RADiCAMAETH A PHABYDDIAETH DEI8EBATJ ETHOLIADOL <xALWAY, WIGTOWN—D!NAS DURHAM. FONEDDIGIONJ-—T)a genyf weled plaid y ■eaethfrydwyr yn dyfod allan fel y maent yn y dyddiati hyn. Buont yn hir iawnyn hnd-ddenu y wlad trwy swyny gair rhyddid a'r enw Rhyddfrydwyr, Gan fod pob dyn yn hoffi rhyddid, nid rhyfedd fod eynifer o ddyn ion nad oedd ganddynt lqw, er o gyfleus- derau i enill gwybodaeth am lywod-ddysg, yn bleidwyr i'r sawl oedd a'r enw yna arnynt. Y mae llawer mewn enw. Dywed y Sais na byddai waeth lladd ci ar un- waith, na rhoi enw drwg iddo. Yr un j modd gyda dynion; os cyll neb dyn §i air da, anhawdd fydd iddo el adenill, ac os ca neb enw drwg anhawdd fydd iddo gael ymwared oddiwrtho. Boed euog, boed ddieuog, efe fydd wedi gwneud pob drwg yn ei ardaL Y mae tueddiad mewn enw i lynu yn dyn ofnadwy. Ehaid wrth lawer o weithredoedd i'w symmud ymaith. Felly y mae wedi bod gyda'r blaid a elwir yn Rhyddfrydwyr. Cyndyn iawn fu dyn- ion i gredu y gallai neb a ymgyfenwant ar yr enw cyssegredig hwn fod yn euog o geisio caethiwo i'r eithaf. Gwnaeth yr enw fwy dros boblogrwydd y blaid na dim arall. Dywedai dynion fel hyn: Os ydych chwi am ryddid, felly ninau. Yr ydym ni am ryddid, ac am hyny fe'ch cef- nogwn." Ond erbyn hyn edrychir yn ddyfnach na'r gwyneb. Y mae dyddiau ymddangosiadau arwynebol wedi eu rhifo; ac y mae tynged y rhai arwynebol yn cael ei selio. Canys po mwyaf yr amlygir gweithrediadau y blaid hon, pellaf yn y byd y gwelir eu bod oddiwrth yr hyn a honant. Y mae y sawl a fyddent yn arfer u cymmeryd ar eu gair yn dechreu eu hammeu. Deuant i ofyn am brawfion, ac i chwilio i ddilysrwydd eu haeriadau, ac y maent yn dechreu canfod mai nid perffaith ryddid yw yr hyn a broffesant wedi'r owbl, Mewn gweithrediad nid yw eu begwyddor ddim amgen na chaniattad i ddyn goleddu yr un syniadau a hwy, eithr os meiddia-os rhyfyga neb fod yn ddigon annibynol i roddi d:atganiac1 i farn na fo yn cyttuno a'u cred hwy, parod ydynt i'w ferthyru. 0 dan y gocbl y mae yn guddiedig yr yspryd mwyaf cul, rhag- larnllyd, ac erlidgar sy'n bossibl meddwl am dano. Y maent yn erlid trwy bob atodd a allant) ie pe meiddient lladdent a ilarpient y sawl fo'n gwahaniaethu oddi- wrthynt, gan mor orphwyllog ydynt. Yeddyhech wrth glywed yr ymffrostwyr yn cega, nad oes yr un dyn o egwyddor yn bod y tu allan i gylch eu plaid hwy. Tra y tybiant fod neb o'u tu, y mae efe yn bob peth ganddynt—yn ddyn goleu, dysg- edig, a gwybodus ond os rhyfyga ffurfio barn ar unrhyw bwngc a fo'n groes i'r farn gul Radicalaidd, bydd ar unwaith yn cael ei drawsffurfio-yn ddyn anonest, di- egwyddor, dwl, anwybodus, ac ynfyd. Ac y mae hyn yn dysgu mai gefeilliaid ydyw egwyddorion RADICALIAETH A PHABYDDIAETH. Y mae y naill cystal a'r Hall yn gweith- redu ar honiad o anffaeledigrwydd. Nid all v naill na'r Hall ddim cyfeiliorni yn nhyb eu diofrydwyr. Y mae arweinwyr y Eadicaliaid fel cynnifer o Babau anffael- edig condemniant yn ddidrugaredd bawb sy'n gwabaniaethu oddiwrthynt. Ysgym- munent, pe medrent, bob dyn o feddwl annibynol—bob un sy'n ddigon gwrol i sefyll dros ryddid i bob meddwl ei farn, ac i bob barn ei llafar." Os nad eir gyda hwy byddis wedi gwerthu egwyddorion a bradychu achos. Pa beth yw hyn, ond dweud nad oes gan ddyn ddim hawl i famu drosto ei hun ? Nad oes ganddo ddim hawl i goleddu y syniadau a fyno am fatterion politicaidd? Honi y maent y dylai cydwybod pob etbolwr gael ei chloi i fyny ag allwedd Radicaliaeth, ac nad Des dim i fyned i mewn yno ond yr hyn a ganiatteir ac a gymmeradwyir gan yr arweinwyr anffaeledig. Egwyddor ffug-ryddid Rhufain sydd ganddynt. Nid rhyfedd gan hyny eu bod hwy a'r Pabyddion yn cydweithredu mor hwylus. Cyffelyb egwyddorion sy'n rboi ysgogiad a bywyd yn y naill a'r llall ac yn hyn canfyddwn wirio ydywediadfod "dau eithafion yn eyd- gyfarfod." Yn ol tystiolaeth yr Herald bach "y mae dealltwriaeth y wlad hon wedi pylu yn ddirfawr er y flwyddyn 1868 Yr unig eithriad ydyw yr Iwer- ddon, lie y cafodd y Radicaliaid enill clir o bedair eisteddle yn yr etholiad cyffred- inol diweddaf. Oddiwrth hyn rhaid casglu mai y Pabyddion yw yr unig rai sydd wedi myned yn fwy goleuedig, canys hwynthwy yn unig fu yn foddion i chwyddo nifer yr aelodau Radicalaidd yn yr Ynys Werdd A pha fath rai ydynt ? Rhai eitbafol dros ben—y Pabyddion mwyaf penboeth a dallbleidiol—rhai am ddarnio yr ymherodraeth—rhai am lywod- raeth gartrefol, h.y., am senedd Wyddelig o Babyddion yn Dublin Dyma yr unig rai o fewn y deyroas sydd a'u dealltwr- idoth wedi ymagor, oblegid dyma yr unig rai a barasant ychwanegiad at nifer y ijaai a ymgyfenwant yn Rhyddlrydwyr. | 'I Colli tir Aawr a wnaeth y blaid yn mhob rhan arall o'r deyrnas, ac am hyny yr oedd dealltwriaeth pawb ond y Pabydd- ion wedi pylu llawer iawn yn ol barn yr Herald bach. Ond dymunwn ofyn ai dyma mewn gwirioiiedd efMth deddf- wriaeth I'yfedd Mr Gladstone yn ystod y pum' mlynedd (liweddaf ? Ai peri i holl ddealltwriaeth y wlad "bylu llawer yr oedd ? Onid oedd yr holl ymdrafod yn nghylch Deddf Addysg a sefydliad Byrddau Ysgol yn cynnyrchu dim gwell effaith na phylu dealltwriaeth y wlad ? Dyma gyfaddefiadgalantR fod holl ddy- ¡ lanwad y wasg Ryddfrydol-" y llythyrau I galluog a'r erthyglau arweiniol talentog a I grymus "yn niweidio gallu dealltwr- iaethol y wlad Nid oes neb ond y Pab- yddion yn myned yn fwy goleu, am nad oes neb ond hwynt-hwy wedi sefyll yn fiyddlon o blaid Radicaliaeth. Nid oes neb ond hwy yn chwyddo y rhestr, ac am hyny, neb ond hwy yn deilwng a chym- mwys i ddysgu i Gymru pa blaid i gym- meradwyo Nid oes neb ond Pabyddion yn addas i'ch arwain mewn matterion gwladol! Gwelwch i ba dir y mae ar- weinwyr y blaid Radicalaidd am eich tywys, ac ymgroeswch. Peidiwch a ohymmeryd eich dallu ganddynt mwyach. Dyma gyngrair y dylid sylwi arno. Ac yn ngwyneb hyn, pa ryfedd i offeiriad Pab- yddol yn Nghaernarfon-y dref lie y cyhoeddir yr egwyddorion dinystriol yna —gymmeryd arno mewn cyfrwystra Jesuitaidd mai Eglwys Luegr oedd cy- feilles Pabyddiaeth. Ei ddyben oedd cael gan Ymneilltuwyr ymuno a'r Pabydd- ion, ac ymfyddino yn erbyn yr Eglwys hon. Dyma a ddywedodd Archesgob Pabaidd yn ddivy e&d,,tr If we can only overthrow the citadel, we can easily clear the rubbish." Os y gallwn ni unwaith ddymchwelyd y gaerfa, buan y gallwn glirio y rhwbel. Unwaith, meddai, y galient dynu i lawr Eglwys Loogr-yr hon oedd fel caerfa gadarn i lirotestan- iaeth-nid hir y buasent cyn goresgyn yr holl sectau Ymileillturl y rhai a gydmarai i rwbal. Gwyr y Pabyddion yn dda nas gallant dynu yr Eglwys i lawr heb iddynt gael cynnorthwy yr Ymneilltuwyr ac am nyny ceisiant ddallu a dychrynu Yinnoill- tuwyr trwy geisio peri coelio mai Pabydd- iaeth yw pob arwydd o fywyd adnewyddol a gaufvddir yn yr Eglwys. A pho mwyaf y llwyddant i wneud hyn, uwchaf yn y jbyd y chwarddant am ben gwiriondeb yr Ymneulltuwyr diniwaid yn eu coelio. Ceisiant ddinystr Eglwys Loegr er mwyn parottoi y fiforda i ddinystrio y cyfundebau Ymneilltuol. Nid oes yr un ammheuaeth nad hyn yw eu bwriad. Ac y mae genym brawfion diammheuol eu bod cyn hyn wedi anfon dynion yn bwrpasol i fysg llawer o sectau, pa rai a gymmerent arnynt fod yn perthyn i'r sectau hyny, ond oeddynt mewn gwirionedd wedi eu hanfon i hyrwyddo trwy ddichellion cyf- rwysddrwg amcanion y Babaeth, ac yn derbyn llythyrau maddeuant gan yr an- ffaeledig Dad o Rufain am eu rhagrith a'u twyll bwriadol. Nid oedd gwahaniaeth pa foddion a arferid os gellid cyrhaedd yr amcan. Yr oedd y dyben mewn golwg, sef llwyddiant yr achos, yn cyfiawnhau I defnyddiad o'r moddion mwyaf ysgeler. Gwaith tebyg i'r hyn a annogid gan Mr J. Owen a Morgrugyn Machno. Amlwg yw ynte y gellir edrych ar y Eadicaliaid a'r Pabyddion fel gefeilliaid. I Peth arall sy'n dangos mawr gulni meddwl yw haeru nad all yr un YMNEILLDUWYR FOD YN GEIDWADWR Os y proffesa, yn Nghymru, egwyddorion Ceidwadol, bradychwr fydd-un wedi ym- werthu-un yn cynffona. Ond mewn sobrwydd, onid yw hyn yn ddigywilydd- dra penffol ? Pwy a roddes hawl iddynt hwy farnu meddyliau a bwriadau dynion ? Pwy a roddes allu iddynt i fesur a threiddio i ddirgel amcanion y galon ? Ond. fel hyn y condemniant rai o Ymneill- duwyr mwyaf parchus y wlad-rhai a orbwysant eu gwrthwynebwyr filoedd o weithiau yn nghlorian cymdeithas—rhai sydd mae'n ddiau yn llawn mor gydwy- bodol a neb o'u difriwyr; ie rhai sydd yn llawer mwy dysgedig a phrofiadol yn mhob modd na'r sawl a'u condemniant. Y mae bychander y meddwl Radicalaidd yn d'od i'r amlwg yma. Nid yw ond yr un peth a phe dywedasai y Ceidwadwyr na ddichon yr un Eglwyswr fod yn Rydd- frydwr cydwybodol. Pe yr haerid hyn, gwelwch gynnifer a gondemnid Cynnifer sydd o'r Rhyddfrydwyr cymmedrol yn Eglwyswyr selog; ac mor deneu yr elai y blaid pe y cauid allan o honi bob aelod seneddol sy'n Eglwyswr Nid ydynt mae'n debyg wedi annghofio mai Eglwyswr yw Mr Gladstone eu penaetl-r-ac nlaiEglwys- wyr yw mwyafrif aelodau Rhyddfrydig Cymru. Os yw Eglwyswyr gan hyny yn I y caniattau i'r naill y Hall ryddid i broffesu Ceidwadaeth neu Eyddlrydiaeth fel y gwelont fod yn oreu—pob un yn dewis ei blaid yn ol tueddiad ei feddwl, paham nad all y Eadicaliaid ganiattau yr un rhyddid i Ymneillduwyr ? Hyd nes y dysgant wneuthur hyn, byddant yn hollol ahlieiiwng o'r enw Rhyddfrydwyr, A phaiiam y mae angen am iddynt gyhoeddi ¡ eu hanathema boneddigaidd (?) uwch ben p rhai na fynnant gaethiwo eu meddyliau, ond a hawliant rydd-yniarferiad diymyr- aeth o\\ hawlfraiiit fel dinasyddion? Gwelwii etto mor annghyson ydynt yn hyn yma. Dyvvedant nad oes a wnelo crefydd a gwladwriaeth; ac ar yr un pryd gosodent, pe gallent, grefydd yr Ymneill- duwyr fel arwyddair ei blaid Ei grefydd, meddant, sydd i bennodi ei blaid-dylai ei grefydd a'i blaid bolitioaidd fod yn anwahanadwy! OB Ymneiliduwr, yna, Ehyddfrydwrac i'r gwrthwyneb, mae'n debyg, os Rhyddfrydwr, yna Ymiicillduwr. Os Eglwyswr yna Ceidwadwr o ran ei blaid; ac os Ceidwadwr, yna Eglwyswr o ran ei grefydd. I hyn y mae addysg Radicaliaid y dyddiau hyn yn arwain. Pe cerid eu cyilghorion i weitlirediad rhoddid terfyn ar ymgyrch pleidiau poli- ticaidd, a delai yn ysgarmes barhaus rhwng gwahanol bleidiau crefyddol; byddai diwedd ar ymladdau gwladwr- iaethol a dechreu ar flinion a dibaid gwerylon crefyddol. I hyn y ceisir ein I harwain ac y mae i'r etliolwyr bender- fynu pa un a hoffant sefyllfa fel yna yo .1 well na'r un bresennol a'i peidio. Methais a chael hamdden yr wytlmos ddiweddaf i sylwi ar y deisebait etholiadol, ond wele i chwi yn y llythyr hwn dippyn o'r helynt. Y mae Rhyddfrydwr (mewn enw) wedi ei ddiseddu yn GALWAÝ. Yma yr oedd yr offeiriaid Pabaidd wedi arferyd eu holl ddylanwad ar yr etholwyr Rhyddfrydig a goleuedig ('?). Dywedasent nad oedd yr etholwyr i ddisgwyl y safeut; hwy wrth eu gwely angeu, os na safeiit I hwythaudros ddyn yr offeiriaid, Acfewydd- och gymmaint o effaith a gaffai bygyth- ion fel yna ar Babyddion. Fel hyn gellid prynu un o'u sacramentau am bleidlais Condemniodd y Barnwr yr offeiriaid hyn yn arw; ac y mae of am ddwyii achwyn yn erbyn dau o honynt ger bron Ty y Cyffredin, sef, eu bod yn euog 0 H ddylanwadu yn annheg a bwgwth." Peth arall dychrynllyd a gyflawnwyd oedd cigyddion Rhyddfrydig (?) yn myned oddi- amgylch ar ddydd yr etholiad gan chwyfio eu cyllyll o gwmpas eu pennau, a dychrynu dynion rhag iddynt bleidleisio yn erbyn dyn yr offeiriaid. Dywedodd y Barnwr y dymunai ef siarad yn barchus am y rhai hyn hyd nes yr elai allan o'r c!ref I" Dyma i chwi ddichellion os myn- weh-rhai gwerth eu galw yn ddichellion. I ba le y mae "purdeb" ac egwyddor-1 ion y blaid oleuedig (?) wedi myned ? Penderfynodd y Barnwr nad ellid mewn un ystyr alw yr etholia-d yn etholiad rhydd," ac am hyny collai y Rhyddfryd- wr (?) ei eisteddle, a byddai raid iddo dalu oostau yr archwiliad. Nid rhyw lawer iawn o lawenydd fuaswn i yn meddwl, sydd yn cael ei gynnyrchu yn mynwesau dar- llenwyr y Faner a'r Herald Bach, gan ddynoethiad o ddichellion Radicalaidd," a chwymp eu haelodau y naill ar ol y Hall. Ond etto mynnent i ni gredu mai y cyfryw ydyw yr unig rai o fewn y wlad nad yw eu dealltwriaeth wedi pylu llawer iawn." Os goleu fel yna geisir ac a ganmolir, yr wyf fi yn medclwl mai o'r ilyngelyn tali a brwmstan y rhaid ei gyrchu. Y mae yna ddiseddiad arall wedi cymmeryd lie; a'r tro hwn Ceidwadwr sydd wedi colli. Yn WIGTOWN ydigwyddodd. Ond yma nid arno ef yr oed(I y bai; wedi methu cael digon o bleidwyr yr oedd. Yn yr etholiad clarfu i'r Swyddog dychweliadol roi i mewn rai papyrau pleidleisio a ystyrid yn amheus-pa un a oeddynt wedi eu marcio yn iawn a'i peidio. Trwy hyn barnwyd fod gan y Ceidwadwr fwyafrif o un bleidlais, a chyhoeddwyd mai efe a etholwyd. Ond wedi i'r papyr- au gael eu hail agor, a'u chwilio a'u profi ger bron y Barnwr penderiynwyd fod gan y Rhyddfrydwyr fwyafrif o um. Y mae y boneddwr hwnw, modd bynag, wedi ei ddyrchafu yn Farnwr, ac o ganlyniad y mae yr eisteddle yn wag; a bydd raid ail ymladd am dani. Rhyddfrydwr a ddy- chwelid yno cyn yr etholiad diweddaf; ond gobeithio mai nid felly y bydd rhag- llaw. Agos iawn i'w gilydd oedd y ddwy- blaid yn Chwefror;' nid oedd yno ond braidd droi y fantol. Nid llawer o ddi- chellion a welir yna, ai e ? Deil i'w gyferbynu yn ffafriol iawn a Rhyddfryd- wr (?) Galway, oni wna ? Deiseb arall a brofwyd oedd yr un yn erbyn y ddau aelod Rhyddfrydig dros ddinas DURHAM. Yn y prawf hwn ceisiai y Rhyddfrydwyr osgoi condemniad trwy ymegni) i ym- wrthod a'u goruchwylwyr. Yr oedd y llwgrwobrwyaeth yn rhy amlwg i'w wada, ac am hyny gwnaed ymgais i brofi nad oedd y rhai a fuont yn euog o'i gyflawni I ddim yn s1.vyddog1011 i'r aelodau Rhydd- frydig. Fodd bynag, trees yr ymgais yn fethiant hollcl. Methasant wrthod eym* deithas a'u goruchwylwyr. Yr oedd y I Barnwr yu. rhy graff i'w ddallu a'u hvs- trywiau. Yr oedd yno dystiolaethau di- gonol i roddi boddlonrwydd iddo fod y ddau cyhuddedig yu oruchwylwyr pen. "r nodedig—fod un o honynt wedi rhoi punt i ddyn am ei bleidlais, ac wedi tretio greiij trwy awdurdodi tafarnwr i'w cyfiewni ii, "ciwrw rhacl" ac a, chyfnerthion i'r cylla-fod y Hall hefyd yn euog o lwgr- wobrwyo! Yma y gwelir nad ydynt yn rhy urddasol i gymmeryd gwasanaeth tafarnwyr pan ganfyddant y gwnelai hyny beri llwyddiant i'w hachos. Yn Arfon nid allant gitel geiriau rhy gryfion i gon- nNv demnio dylanwad y tafarnwyr; ond feallai, pe y buasai y gwyr yma yn debyg i dafarnwyr Durham—yn rhai a gy- northwyent yr achos Radicalaidd am gael cwrw i'w ranu—y clywid eu canmol lawn cymmaint ag y goganid hwy yn awr. Nid eu galwedigaeth, ond y ffaith i aniryw o honynt bleidio Ceidwadwr yw eu trosedd yma; canys gwyddom fod ty tafarn yn eithaf Committee Room" pan ddi- gwyddai y gwesty-wr fod yn Radical! Ac os daeth cymmaint i'r goleu yn Durham, mae yn fwy na thebyg fod llawer yn rhagor wedi ei gyflawni. Dyfarnwyd yr etholiad yn ofer. Trwy hyn cyll DAU RYDDFRYDWR yn ychwaneg eu heisteddleoedd; a rhaid iddynt dalu costau yr ymchwiliad! Yr oedd un o'r eisteddleoedd hyn wedi ei hennill oddiar y Ceidwadwyr, a chanfyddir yn awr pa fodd yr ennillwyd hi. Ac nid rhyw lawer o glod sydd i neb a all ddringo yn aelod Seneddol trwy lwgrwobrwyj Gdbeithio y bydd Cydwybodau Radicaliaid Cymru yn peri iddynt o hyn allan, roddi y cyfrwy ar y ceffyl iawn—a chondemnio y sawl sy'n haeddu condemniad, yn lie beio y Toryaid, yn erbyn pa rai nid ydyiit yn alluog i gael yr un gwir achwyniad. T. G.

LLITH LLYGADOG.

" LLAWLYFR Y BUGAIL."

[No title]