Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

---COLOFN YR ADOLYGYDD.

News
Cite
Share

COLOFN YR ADOLYGYDD. Y Flodeugerdd Newydd.—Cynwysa y gyfrol hon ddetholiad o gywyddau tair canrif-y bedwaredd-ar-ddeg, y bymtheg- fed, a'r unfed-ar-bymtheg. Y detholwr yw Proff. W. J. Gruffydd, Caerdydd. Yr awdwyr, allan o weithiau pa rai y maent wedi eu dethol, yw Gruffydd Grug, Iolo Goch, Madog Benfras, Llywelyn Goch, Si6n Cent, Rhys Goch, Meredydd ap Rhys, Gruffydd Llwyd, Deio ab leuan Ddu, Guto'r Glyn, Dafydd Nanmor, Lewys Glyn Cothi, Dafydd ab Edmwnt, leuan Gethin, Llawdden, Gutyn Owain, Tudur Penllyn, Hywel ap Rheinallt, Tudur Aled, Gruffydd Hiraethog, Lewis Morganwg, Gruffydd ab leuan, Lewis Daron, Wiliam Llyn, a Sion Phylip. Tarewir y darllenydd ar unwaith gan gyfoeth amlwg rhai o'r cywyddau. Cynwysa y gyfrol 250 o dudalenau. Rhoddir deucant i'r cywyddau, a'r haner cant diweddaf i Nodiadau Eglurhaol a Geirfa, y rhai oeddynt wir angenrheidiol, ac a fyddant o wasanaeth mawr i'r darllen wyr. Mantais, yn ddiau, fuasai i'r rhan hono o'r llyfr fod yn helaethach. Da hefyd fuasai braslun byr o fywyd pob un o'r beirdd. Dywed Mr Gruffydd ei fod wedi bwriadu y gyfrol i efrydwyr a beirdd, a bydd yn gaffaeliad mawr iddynt. Y cyhoeddwyr yw y Cwmni Cyhoeddiadol Addysgol, ac ni allesid chwenych gwaith gwell. Y pris yw 5s. Perlau Awen -Tslwyn.-Cynwysayllyfryn hwn ddetholion o rai o brif weithiau y Prif-fardd Islwyn. wedi eu trefnu yn adroddiadau byrion cyfaddas i waith ysgol neu gyfarfodydd llenyddol. Cyhoeddwyd o'r blaen ddetholion o weithiau Islwyn, ond yr oedd lIe hefyd i'r gyfrol fechan hon. Y detholwr yw J. M. Edwards, M.A., ac y mae wedi ychwanegu cyfres o ddar- luniau, nodiadau, a geirfa. Rhydd y dar- luniau i ni olwg ar rai o leoedd hynotaf a phrydferthaf Cymiu, a bydd y nodiadau a'r eirfa yn wasanaethgar iawn i ddarllen- wyr leuainc. Ceir ar y dechreu ddarlun o Islwyn ei hun, a da gan lawer fydd cael hwnw. Nis gall neb lai na bod yn well o ddarllen Islwyn, a da fyddai trwytho pieddyliau ieuenctyd ein cenedl a'i feddyl- iau cryf a glan, ac a'i ysbryd addolgar a dyrchafol. Gobeithiwn y rhoddir derbyn- iad helaeth i'r gyfrol fechan hon. Y mae wedi ei hargraffu yn ddestlus iawn gan Hughes a'i Fab, Gwrecsam, a'i phris yw is 3c. Bibliography of Wales; Ifano Jones, Cart#if. Rhan sydd ger ein bron o waith ttiwy, yn mha un y rhydd Mr Ifano Jones Syfrif manwl o'r Ilyfrau Cymraeg sydd yn Llyfrgell Caerdydd, yn nghyda llyfrau yn Jtteddu dyddordeb i Gymru. Rhan 26ain yw hon, a rhoddir ynddi Title Page pob jjlyfr felly sydd wedi ei ychwanegu at y Wyfrgell enwog hon oddiar ddechreu 1908, **yd yn awr. Cynwysa bedair tudalen ar mewn plyg go fawr. Gallem feddwl cnyhoeddwyd un llyfr yn Nghymru na c»eir manyjipn am dano yraa. Yn ddi- ddadl, bydd y gwaith hwn, erbyn y gor- phenir ef, yn gaffaeliad dirfawr i bob un a gar ei wlad a'i Ilenyddiaeth. Gallem feddwl y parheir i ddwyn rhifynau allan o flwyddyn i flwyddyn. Syniad campus ydyw, ac am swllt y flwyddyn ceir y rhif- ynau yn rhad drwy y post. Anfoner at Ifano, Public Library, Cardiff. Rhos Miar, nctt YFanon Gwsg a Chyf rinach y Bugail.—Y)\vy 'stori fer, eithaf ddyddorol i blant, yw y rhai hyn, wedi eu parotoi gan H. Brython Hughes, a'u cy- hoeddi gan y Cwmni Addysgol, Trade- street, Caerdydd. Bwriadwyd hwynt i gynorthwyo plant i ddarllen Cymraeg. Pris ] 2g. yr un.

------DADGYSYLLTIAD I GYMRU.…

CYMDEITHAS GENADOL LLU NDAIN.

-----B Oa T H Y q E S T .

--------__-NODION 0 RHYiYNI.…