Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
24 articles on this Page
BAttDDONIAETH.
BAttDDONIAETH. OcbenaWl. Dwys sain trallodus enaid—a lethir Yw'r lwythog ochenaid; Ond egyr nef fendigaid Ei phyrth aur hoff, wrth ei rhaid. AP CLEDWEN.
Ni Waetli i fit tianu na Pheidio.
Ni Waetli i fit tianu na Pheidio. Ni waeth i mi ganu na pheidio— Oferedd yw cwyno o hyd; Ni byddai un gofid i gilio Pe treuliwn tan wylo fy myd; Caf dipyn o gysur wrth ganu, Er canu a'm calon yn drom; Fe gilia fy ngofld a'm cyni- Wrth ganu anghofiaf fy siom. Er cefnu yr oil o'm cyfeillion, A'm gadael mewn cwyjjfion diri', Pryd hyny, er cysur i'm calon, Mae'r Awen yn ffyddlon i mi; Am hyny, mi gana'n ye cwyno, Mi gana'm gofldiaut^n fud, Ni waeth i mi ganu na pheidio, Oferedd yw cwyno o hyd. GLWYSFRYN.
V JUiwfddar Giraldus.
V JUiwfddar Giraldus. Giraldus! hawddgar wylder—adwaenai'i Frwd enaid heb brinder; A'i ddawn hyf dros grefydd Ner, Yn gwynu dan ras Gwiwner. Gloew egyr bri'r golygydd—mor addwyn Bu'n vmroddol deithydd; A'i "Wawr" deg yn gwasgar dydd Yn awyr y "Byd Newydd." Diwvraw gwmni llawen-ac eirioes Ei frawdgarwch addien; Diwyd offeiriad awen, A mawr gawr y Gymraeg wen. Erys ei waith awdurol-a'i hanes Tra ceinion llenyddol; Gloewa'i rwysg tra gwelir ol Yni ei lyfr dadleuol. Llafar beidiawg llyfr bedydd—hynaws Ac hanes gwir grefydd; [gawn, Gwyl wron, bu'n eglurydd- Rhin ei ddawn gorona'i ddydd. Bu enfys Ion tirionaf-am ystlys Ei dymestloedd chwerwaf; Heddyw deil hedd hudolaf, A'i ran yw Ilys difyr Naf. MACHRAETH MON. Llanfaehraeth, Mon.
T Diweddar David Jones (Dewi…
T Diweddar David Jones (Dewi Dawel) Bethesda, Arfon. [Cyflwynedig i'w feibion yn America.] Hir oesa er ar isel-a gwyll bedd Ei ddigoll barch uchel; Bu yni Dewi Dawel, Hynaws wr, yn tanio'i sel. Goleuedig Gymreig wladwr-gonest Ac uniawn fasnachwr, Pery'i fawl, y puraf wr Oedd ddoniol ymddyddanwr. Diwyrder mewn awdurdod-oedd beunydd Heb weniaith mursendod; Bethesda eglura glod Puredd cyngorwr parod. Dilychwin wr o rinwedd-yn undeb Diwendid anwyledd; Mae'i Iwybrau dan wobrau'i hedd, A gwynion flodeu'i geinedd. Dwfn ei sel dros feib chwareli-Arfon Yn eu hirfaith gyni; Dirodres frwd wrhydri, Ei gain oes edmygwn ni. Ei gudeg fri a godir-tra golud Tir Gwalia ddadleuir; Ei wych haeddiant ni chuddir Yn ngauaf dwfn angof dir. MACHRAETH MON. Llanfaehraeth, Mon.
-'.----Brinley a Myfanwy.
Brinley a Myfanwy. [Anwyliaid bychain Mr. a Mrs. William Thomas, Hazelwood, Pittsburg, Pa.] Fel blodau gardd y bywyd, Yn harddu llwybrau'r byd, Gan lwytho yr awelon iach A'u harogl per o hyd, Bu Brinley a Myfanwy, Dau flodyn tlws eu gwedd, Yn harddu llwybrau'r teulu lion A llawn aroglau hedd. Ond awel glyn marwolaeth A chwythodd drostynt hwy, A gwywo wnaeth y blodau hyn, A'u lie nid edwyn mwy; Mor wag yw gardd y teulu, A'i thegwch oil yn brudd, Ac adgof am y blodau gawn Yn ddagrau ar bob grudd. Mae hiraeth lon'd y galon Yn myd y fam a'r tad, Ac hiraeth yn eu dylyn sydd Ar hyd rhodfeydd y wlad; Myfanwy dlos ei gwyneb, Fel gwyneb angel hedd, A Brinley bach a'i nefol wen Ond ow! maent yn y bedd. Ond er mor chwith eu colli, Ac er mor wag yw'r ty, Mae'r ddau, medd angel bywyd gwyn, Yn nghartref Salem fry, Yn sanctaidd berarogli Ar hyd ei glan rodfeydd, _o Gan harddu yn ngoleuni Duw Ei dwyfol olygfeydd. Pittsburg, Pa., J. M. F.
Marwolaeth Fy Chwaer Mrs.…
Marwolaeth Fy Chwaer Mrs. Sarah Jones, 253 Monroe Street, Chicago, 111. Canfyddem gymylau marwolaeth, O amgylch fy chwaer yn tewhau, A theimlem fod tymor ein halaeth 0 herwydd ei cholli'n nesau; Fe ofnem y gwaethaf, ond gwyddem Fod gobaith ei henaid yn Nuw, Yr elai i'r Nefol Gaersalem, O'r adfyd i'r gwynfyd i fyw. Fy chwaer, O! fy chwaer, daeth y cenad A'r wys yn ei law i dy dy; Cest weled ar ddydd d'ymddatodiad Ddirgelwch y dyffryn oer, du; 0 Sarah, pa fodd ymdarewaist Yn nghanol dyeithriaid y glyn? Wrth groesi yn nghwmni pwy treuliaist Dy amser? 0 dywed im' hyn. A gefaist i'th arwain trwy'r afon Y Gwr fu ar bren Calfari? A gefaist y Haw fu dan hoelion I'th gynal rhag ymchwydd ei lli? A ydoedd dy briod yn dysgwyl Am danat tu arall i'r don? A ydoedd y saint yn eu preswyl Yn chwareu telynau yn lion? Tawelwch nodweddai dy rodiad Trwy ddyrys droadau y byd; Ti guddiaist dy nerth a'th ddylanwad, Ond eto'n eu harfer 'run pryd; Dy fryd ydoedd lawn o'r ysbrydol, Ti weithiaist dy gyfran mewn hedd; Ond heddyw dystawrwydd angerddol Yw'r eiddot, dystawrwydd y bedd. Ti gefnaist ar fyd y gofidiau, Wyt heddyw yn heinyf a lion; A ninau adewaist mewn dagrau A hiraeth i lethu y fron; Os gwag yw dy sedd yn y capel, A'th gadair yn wag yn y ty, A'th gorff yn y beddrod bach tawel, Mae'th ysbryd yn llanw sedd fry. Cyn hir, O! fy chwaer, fe gaf finau Yr alwad i groesi y don; Caf deimlo arch-Iymion bicellau Oer angeu'n trywanu fy mron; Caf weled dirgelwch marwolaeth, Caf wybod cyfrinach y bedd; Ac os caf y ddwyfol fugeiIiaeth Cyfrifaf y cyfan yn wledd. West Pullman, 111. DEUDRAETH.
[No title]
—Dywedir fod yn Ffrainc 1,302,400 o wyr ieuanc dan 30 oed a dibriod. Y canlyniad yw fod yno lawer iawn o hen ferched.
GLANAU'R TAWELFOR.
GLANAU'R TAWELFOR. Y Cynwrf yu Nghylch yr Aur—Dargaiifydd- iadau Newyddion—Yr Ymfadiaetli i Alaska. Oakland, Calif., Awst 18.—Er pan yr- ais y llith o'r blaen i'r "Drych" yn nghylch aur y Klondyke, mae Californ- ia, wedi lleihau cryn dipyn ar ang- erddoldeb yr ymgeiswyr am yr aur yn Alaska. Daeth y newydd yma tua'r lOfed cyfisol am ddargan- fyddiadau pocedi o aur pur yn Sir Trinity, i'r Gogledd oddiyma, rhyw ddau can milldir, nes creu rhuthrgyrch yno; ac erbyn hyn mae llawer o rai oeddynt a'u gwynebau tua'r Klondyke am auafu yma. Cafodd dau frawd o hyd i boced o aur pur, gwerth dros $40,000, a daeth- ant ag ef i 'Frisco i'r mint. Wrth gwrs, cafodd y newyddiaduron hyd i'r ddau, a mawr fu eu trallod tra yma. Yr oedd hanes y lie y cawsant ef a phob manyl- ion, yn nghyd a'u lluniau ynddynt dran- aeth; ac wrth gwrs yr oedd pawb yn ei gwadnu hi i Trinity Co. Gan fod hon yn Sir fynyddig ac anghysbell, a dim trens o fewn 60 milldir yr oedd y stage coaches a'r livery men wrth eu bodd; ac y maent hyd yn hyn yn methu myn'd a haner y bobl. Nid y ddau a nodwyd yw'r unig rai ffortunus. Mae y newydd* ion yn gwella bob dydd, a heddyw ceir math o Klondyke yn Bear Creek, Fresno Co., nes mae "Bryaniaid California" wedi dystewi a myn'd yn fud wrth glyw- ed eymaint am y peth melyn. Mae rhai a aethant i fyny i Dyea gyd- a'r llongau cyntaf yn dychwelyd. gan ddweyd fod o 400 i 500 yn cyraedd yno a Skaguay yn dyddiol, a phan oeddynt yn ymadael yr oedd tua 5000 ar y lan yn dysgwyl am yr Indiaid fel packers, i fyned a hwy a'u nwyddau dros y Chil- cot Pass. Nid oeddynt yn credu yr a'i eu chwarter drosodd eleni. Mae y pap- yrau a phawb yn anog pobl i aros hyd y gwanwyn; ond myn'd maent bob dydd. Gwelais yr agerfad "North Fork" yn cychwyn heddyw yn llwythog o feibion a merched—mwy o ferched nag a welais yn y llongau eraill. Ar fynediad pob agerfad i Alaska, mae miloedd yn tynu i'r wharf i'w gweled yn cychwyn. Cym- aint yw y dyddordeb fel yr oedd dros ddeng mil yr wythnos o'r blaen wedi cyrchu i weled y llong yn cychwyn. Dygwydda llawer o bethau rhyfedd iawn yma y dyddiau hyn. Yr oedd cym- ydog i'r ysgrifenydd ar y wharf yr wythtios ddiweddaf gydag eiddigedd yn gwylio y ffarwelio, ac yn ei ymyl yr oedd mam a mab—y fam yn ymbilio ar- ni i beidio myned. Gan droi at fy nghymydog gofynai y mab a oedd arno eisiau myned i'r Klondyke. "Oes," meddai, "Wel, dyma i chwi docyn; ac mae yna werth mil o supplies ar y bwrdd." Synodd y creadur gymaint nes anghofiodd ddiolch ac aeth ar y bwrdd; ac aeth y fam a'r mab gartref. Ryw- fodd cafodd y dyn postal card ac anfon- odd air i'r wraig ei fod ar y ffordd i'r Klondyke, ond yr anfonai yn mhellach. Gobeithio y bydd lwc yn ei ddylyn yr holl ffordd ac y daw yn ol yn llwythog o'r peth melyn.—R. J. RHYBUDD 0 SEATTLE WASIL Seattle, Wash., Awst 12.—Yr wyf yn dymuno rhoi gair o gyngor i'r rhai sydd yn bwriadu myned i'r Klondyke yn nghanol y cyffro presenol. Gwell fydd iddynt beidio cychwyn ar yr adeg hon. Mae tua phedair mil yn gwersyllu ar od- re y White Pass yn Dyea, yn nghyd a miloedd o dunelli o nwyddau-y cyfan wedi eu blockadio ar y daith. Nid teb- yg y cyraedda yr haner Dawson City y flwyddyn hon. Mae yn rhy ddiw'eddar yn y flwyddyn i wneyd y trip, ac felly bydd yn rhaid iddynt wersyllu ar y ffordd, ac aros hyd y gwanwyn. Cyr- aeddir pen y daith yr un mor fuan wrth gychwyn yn y Gwanwyn. Y mae cwm- ni yr agerfadau wedi ychwanegu at y cyfleusderau, eto nid oes lie i'r haner sydd yn dyfod o bob cyfeiriad. Ym- adawodd yr agerfad "Eliza Anderson" ar y 10fed a chant a haner o deithwyr ar y bwrdd i St. Michels, a chymor ag- erfad arall hwy i fyny'r Yukon i Dawson City, 2000 o filldiroedd. Yr oedd amryw Gymry arni. Y gred yw na chyraeddant Dawson City cyn y goddiweddir hwy gan y rhew, ac felly bydd yn rhaid idd- ynt auafu In yr afon hyd mis Mai nesaf.—Thomas W. Davies.
NODYN 0 GAERGTBI.
NODYN 0 GAERGTBI. Oyraeddiad John Parry Edwards o Utica i'w Hen Ardat. Caergybi, Awst 14.—Gyda boddhad neillduol y cofnodwn laniad ein cyfaill twymgalon John Parry Edwards o Utica eto yn ol yn yr Hen Wlad, wedi chwar- ter canrif o ymdeithio yn ngwlad yr lanci. Dywenydd i'n calon ei weled yn edrych mor gryf ac iach, a'i wyneb rhad- lan dan fyrdd o wenau ,fel pe na buasai yr un cwmwl wedi dyhuddo awyrgylch ei fodolaeth er pan adawodd "Gymru lan, gwlad y gan." Deallwn nad ydoedd bechgyn cyhyrog y "byd tudraw" ddim ar y blaen i J. P. E. mewn dim, a bod ei linyn mesur yn ddigon o hyd i ben hiraf unrhyw Americanydd. Llawer o adgofion sydd am ei droion diniwed cyn ei ymadawiad a Mon, y rhai oeddynt yn llawn asbri bachgenaidd ac yn ol y darllenaf ei lygaid, mae eto'n fyw i'r pethau a fu. Mae y Monwysion yn enwedig yn ardal Caergybi, yn falch o'i weled mor hoyw a hoenus, a deallaf fod ei groesaw yn mhob man y mae'n galw, yn ddiball a llawer o'i hen ffrind- ia yn falch o'i gwmni dyddan. Er fod haul ei oes wedi myned dros yr anterth, edrycha yn ddigon cryf i redeg eto yrfa hir. Eiddunwn iddo bob daioni tra yr erys yn ein plith, a gobeithio y gwrendy rai o'r amryfal geisiadau wneir ato am iddo aros. Cynygir iddo amryw contracts pwysig yn Porthmadog a Ler- pwl, ond ei lais yw mai arosiad byr fydd iddo yma, gan fod rhai anwyl a hoff iddo wedieu daearu draw. Credwn y -bydd yn dda gan lawer wybod fod ein cyfaill o'r tu clud i'r clawdd o ran peth- au y bywyd hwn. Mae'n edrych felly; boed felly hyd fedd.-Cofnodydd. ♦ » »
Advertising
Ni Fyddwn Heb Dr. Hand's foil* Onr*. Memphis, N. V., Tach 11, '95.—'Tfcp El-nl Merti cine Co.—"Blinid ein hab.-i. 4 mis oed. gan y cr.oi ?wynt er pan ane?id hi. Er i ni rodrti prawf ar taver o bethau ni cbafodd ym wared eps rhodd-: iddi Dr. Hand's Colic Cure. Fellsch. ri Ni Fyddwn Heb Dr. Hand's foil* Onr*. Memphis, N. V., Tacb 11, '95.—'Tfcp H«nd Merti cine Co.—"Blinid ein hab.-i. 4 mis oed. gan y cr.oi ?wynt er pan ane?id hi. Er i ni rodrti prawf ar lav'er 0 bethau ni cbafodd ym wared eps rhodd-: iddi Dr. Hand's Colic Cure. Fellsch. ri ar un cyfrif heb v C^lic On re vn ein tv — Mrs. D 9- Back Dr Hand's Colic Cure a Dr. Hand's Remedies for Children. 25e. Gan yr holl gyffer wyr. G. Back Dr Hand's Colic Cure a Dr. Hand's Remedies for Children. 25e. Gan yr holl gyffer wyr.
"Rhydd i Bob Meddwl ei Faru,…
"Rhydd i Bob Meddwl ei Faru, ac i Bob Barn ei Llafar." Pwyllgor Eisteddfod Cansford. Mri. Gol: Yr oedd yn dda genyf o galon ti weled yn crybwyll yn y "Dryeh" am, bwyllgor ac Eisteddfod Lansford. Mae y pwyllgor yn fyw, end yn hollol ddifyvvyd; yr unig reswm sydd ganddynt ydyw arafwch masnach, ac y mae arian mewn llaw hefyd. Bydd hwn yn He ardderchog i gynal Eisteddfod yn y man, gan y bydd y cerbydau trydanol yn rhedeg trwy y lie yn fuan. Boed i ni eto gwrdd er clod, Fel Pwyllgor a'r Eisteddfod, Mae y IIywydd yn ol ei swydd, Yn llawn o'r tan gor-awydd. Lansford, Pa. TREMYDD.
Ai 6»ir Hjri?
Ai 6»ir Hjri? Mri. Gol: Dywed G. Idris Griffiths yn ei ysgrif yn y "Drych" am Awst 12, fod llywodraeth Prydain yn trwyddedu put- einiaid ac yn eu cofrestru er gwasanaeth ei milwyr. Carasem yn fawr i chwi neu ryw un o'ch gohebwyr sydd yn gyfar- wydd yn nghyfreithiau Prydain roddi eglurhad ar hyn, gan y cyhuddir y "Sen- edd" a'r esgobion," &c., o gymeradwyo weithred. Y mae rhyw fath o gyfraith arolygol mewn grym yn Ffrainc o gwledydd eraill ar y cyfandir, ac yn In- dia, yn mhlith y milwyr, a'r amcan yw diogelu cymdeithas rhag y elwyfau er- chyll sydd yn gysylltiedig ag anllad- rwydd; ond er fod meddygon a gwyr sydd yn ceisio trefnu y moddion goreu i atal heintiau yn eu gwahanol ffyrdd yn cymeradwyo rhyw ddull o arolygu a meddyginiaethu gwrthrychau yr anllad- wst, gwrthw.ynebir hwy gan grefyddwyr ac eraill, ac haerir fod diogelwch y tros- eddwr yn anogaeth iddo bechu. Yr wyt yn ameu a oes y fath gyfraith mewn bod yn Mhrydain. DIDYMUS.
AMRYWION 0 CHICAGO.
AMRYWION 0 CHICAGO. GAN D. R. WILLIAMS. Chicago, Awst 23.—Y Sabboth diwedd- af, ar ei dychweliad o'r gorllewin, preg- ethodd y Parch. R. Ellis Williams, Llun- dain, y bore a'r hwyr yn Hebron, ac yn Vanburen Hall Auditorium yn v pryd- nawn. Dechreuwyd oedfa y prydnawn gan y Parch. R. Humphreys; ac un yr hwyr gan y Parch Bismark Davies. Cawsom Sabboth rhagorol, pregethau grymus ac effeithiol, cynulleidfaoedd mawrion trwy'r dydd; yr oedd yn Sab- both o Gymanfa yn mhob ystyr. Yn ol tystiolaeth Mr. Williams ni chlywodd "Aberystwyth" (Dr. Parry) yn cael ei chanu gystal erioed. Cawsom ddeuawd- au nos Sul gan Louise Evans a'i chwaer yn swynol iawn. Da genym fod y Parch. Robert Henry Jones yn rhoddi y fath foddlonrwydd i eglwys y South Side, trwy ei wasanaeth iddynt yn adeg ei vacation. Mae swn yn y gwynt eu bod yn parotoi i gael cyf- arfod ymadawol iddo o hyn i ben pyth- efnos. Bydd yn myned i Ripon i orphen ei gwrs addysgol; y mae ganddo flwydd- yn eto i aros yno. Yr oedd y Parch. J. LI. Davies, M. A.,) Bethania, yn gwasanaethu yn eg- lwys y S. Side nos Sul diweddaf, yn pregethu ac yn gweinyddu yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Pai-han yn bur wael mae John Jones, (Lerpwl,) ac hefyd Hugh R. Williams, 222 80th St., South Chicago-y diweddaf yn anobeithiol o fyw yn hir. Bum yno ddoe yn talu ymweliad ag ef; da oedd ei weled yn teimlo mor dawel, yn tystio y buasai yn dda ganddo gael byw am ryw ychydig er mwyn y wraig a'r unig fab, ond ei fod yn eithaf tawel, ac yn barod i ymostwng i ewyllys ei Dad nefol. Bydd ein gweinidog, y Parch. John C. Jones, yn dychwelyd o'i vacation yr wythnos hon. Da oedd genym weled Mrs. D. E. Pritchard, Humboldt Park, y Sabboth diweddaf yn edrych mor dda, ar ol bod yn mwynhau awelon iachus bryniau Wisconsin. Dydd Gwener gad- awodd y boneddwr ieuanc William J. Parry ein dinas am ei vacation yn New York ac amryw leoedd eraill, yn enwed- ig ei hen gartref, Fair Haven, Vt. Da genyf ddeall ei fod yn sefyll yn uchel yn ngolwg y masnachwyr llwyddianus Schlesinger & Mayer. Llwyddiant iddo. I
DIFREINIO AKLOUAU EGLWYSIG.I
DIFREINIO AKLOUAU EGLWYSIG. Am Eu Hod yn Chwenych Mwynhau Cyfar- fod Gwetidio Cymraeg yu Hytrach na PregetH Seisneg. Ymddangosodd yr ysgrif ganlynol yn yr "Indicator," un o newyddiaduron Seisnig Youngstown, Ohio, Awst 23ain: "Difreiniwyd chwech o aelodau eglwys Gynulleidfaol Gymreig Elm St., nos Sab- both diweddaf, am eu bod yn gwrthod gwrandaw ar bregeth Seisnig a dradd- odir unwaith yn y mis gan eu gweinid- og, y Parch. J. B. Davies, a myned i Gir- ard i gydweddio a'u brodyr yno. Deallir mai eglwys Gynulleidfaol sydd yno hef- yd, ac mai hen aelodau eglwys Elm St. a'i cychwynodd hi; a cheir cyfarfodydd hwyliog pan gyferfydd yr hen gyfeillion i gydweddio. Y mae y chwech aelod a ddifreiniwyd yn rhai o aelodau hynaf a mwyaf gweithgar yr eglwys, ac nid oes chwech arall yn yr eglwys yn fwy ffyddlon yn nghyiaryfodydd yr eglwys. Eu henwau ydynt: William B. James, David J. Hughes, Evan D. Jenkins, Edward Ed- wards, David Howells, William Harris. Pan y darfu i'r eglwys benderfynu cael un bregeth Seisnig yn y mis gwrthwyn- ebasant hyny yn benderfynol, am fod yr eglwys hon wedi anfon aelodau allan i godi capel Plymouth, a bod eisiau cyn- orthwy ar yr eglwys hono yn awr, a dys- gwylia y Cymry Cymreig hyn i'r aelod- au Seisnig fyned yno i'w cynorthwyo yn bresenol yn lie aflonyddu ar y gwasan- aeth Cymreig. Nid oedd yr un bregeth Seisnig wedi ei thraddodiyn yr eglwys er pan adeiladwyd capel Plymouth hyd nes y daeth y Parch. Mr. Davies yn weinid- og yma ddwy flynedd yn ol; ac nid oes un dosbarth Seisnig yn yr Ysgol Sab- bothol yn bresenol. Nid rhyfedd i en- eidiau Cymreig y chwe Cymry hyn a llawer chwech arall heblaw liwy gynyrfu a pheidio gwrandaw ar bregeth Seisnig, pan ystyriwn nad oes chwech yn yr eg- lwys nad ydynt yn deali Cymraeg. Dywedir gan frodyr oedd yno mai y Parch. J. B. Davies oedd Ilywydd y cyf- arfod, ac mai efe gododd yr achos o flaen y gynulleidfa. Cynygiwyd gwell- iant i ohirio'r achos hyd nes byddai y cyhuddedigion yno yn bersonol, ac er i'r gwelliant gael ei eilio gwrthododd y llywydd ei roddi i bleidlais y gynull- eidfa. Cynygiwyd gan John M. Jones ac eiliwyd gan Robert Price a William Ed- wards fod y chwech brawd i gael ei di- freinio. Ac er na phleidleisiodd deg o aelodau y gynulleidfa dyfarnwyd fod y brodyr wedi eu difreinio. Yr oedd y gweinidog yn ei hwyliau goreu yn rhoddi yr emyn hwnw allan i ddiweddu: "Praise God from whom all blessings flow." Felly terfynwyd y cyfarfod rhyfedd. I +—+
[No title]
IEIR Y WLAD.-Mae pob aelod o'r wlad eang hon yn gweithio tuag at gyn- yddu cyfoeth—hyd yn nod yr ieir! Ych- ydig o ddynion sydd yn dychymvgu y cymorth yw ieir i'r wlad mewn ystyr ananol. Dodwyir 750,000,000 dwsin o wyau i'r farchnad bob blwyddyn, ac yn ol 16c y dwsin cyraeddant y cyfanswm o$120,000,000. Yn ychwanegol at hyn telir$3,000,000 am wyau i Loegr, Ffrainc a Bulgium yn flynyddol. Telir hefyd i Canada tua $2,000,000 y flwyddyn, heb- law swm mawr am ieir a chywion.
Cynesa Draed Oerion.
Cynesa Draed Oerion. Cyn i chwi wisgro eich eseidisTi cbaf ron rab- ysgydwc* ]'cb pseidian iBsf Allan's Foot- Ease, powdwr at y drawl. Ef-mwytha eich cvrn a snpna y chwyf" c'rh traed. Mse Allen's F.ase vxi cynesa traed oer, ac yn gwnpyd esgid- iau trymion yn etniTytb. Gofynwch heddyw Fcb cyfferwr. ner. eich eegidydd. am fivf ttaid 25c. o Allen's Foot-Ease. Simnl yr RHAD. Cyfeir- ier -Allen 8 Olmsted, Le Roy. N. Y.
V Lili
V Lili Oleulan dyner Lili-wyl goron Ddeil gariad mewn tlysni; Haul enwog ei oleuni Gylcha em o'i hamgylch bi. D. D. THOMAS. wibedyu. Heidiog hyf halog filyn- a wyr werth Yr ha' yw gwibedyn; Gydag afler gler y glyn A'i dylwyth fyrdd yn dylyn. Randolph, Wis. IDRIS Y LLWYN.
X jrdrtiad yr Eut "Chapin…
X jrdrtiad yr Eut "Chapin Mri. Go]: Credir yn gyffredin mai o darddiad Ffrengig mae yr enw Chapin- enw sydd yn dra chyffredin mewn rhan- au o'r wlad hon; ond ameua rhai o hon- ynt hyn, a chredant mai o haniad Cym- reig y maent. A wna rhai o ddarllen- wyr y "Drych" roddi cymorth, drwy ateb os adnabyddant ryw deulu neu berson Cymreig o'r enw Chapin? Y mae genyf ryw gof niwliog o weled yr enw yn mhlith enwau Cymry sydd yn y rhan ogleddol o'r wlad. Nid oes elw nac add- ewid o elw yn gysylltiol a hyn. Nid oes ychwaith unrhyw etifeddiaeth yn aros i neb. Dim ond cywreinrwydd i wybod haniad a dechreuad yr enw. Y mae cof- nodiaeth gyflawn a chywir o'r teuluoedd Chapiniaid er glaniad eu teidiau yn y wlad yn neehreu y 17eg ganrif. Mae amrai o'r enw yn adnabyddus yn y wlad mewn gwahanol alwedigaethau, ac y mae rhai yn sier mai o'r Ffrancod yr haniasanv ac y maent yn ymffrostio yn hyny. Gcbeithia eraill o honynt mai y wlad fynyddig, "Gwlad y Gaij,gwlad yr Eisteddfod, yw gwlad*eu cyndeidiau. Yr eiddoch, D.' J. EVANS. Athens, O.
Die y Pab.
Die y Pab. Mae Die Shon Dafydd yn o gas Am Seisnigeiddio mbddion gras; Nis gellir mwyach goncro'r ddraig Ond ag esisiau'r Saesonaeg! Yn Youngstown aeth Die yn o ddrwg, Ar rai o'r Cymry trodd ei wg; A rhoddodd arnynt bob sarhad Am gynal "cwrdd bach" yn Girhad. Dywedai'r rhai'n a chadarn lais Nad yw yr Arglwydd Dduw yn Sais; A thorwyd chwech o'r saint i ffwrdd Am ddal mai Cymro yw'r Ty Cwrdd! Y LLEIAF O'R SAINT. Youngstown, O.
,Addolwyr y vaesoliaeg-
Addolwyr y vaesoliaeg- Mri. Gol: Un o'r pethau mwyaf chwerthingar i mi ydyw clywed rhai o'n pobl ieuainc yn dweyd fod ein hiaith yn un afrwydd i'w dysgu, ac yn un rwydd i'w hangofio, pan y mae y bob! yna wedi cael eu magu a'u meithrin ar aelwydydd Cymreig, a'u rhieni a'u perthynasau yn methu siarad dim ond y Gymraeg. Onid yw yn wrthun meddwl am deulu y byddo y rhieni yn gallu siarad dim ond y Gymraeg a'r plant yn methu siarad dim ond y Saes- neg? Mae megys Twr Babel yn y teulu yna; ae mae ymwasgariad o angenrheid- rwydd i gymeryd lie mewn teulu o'r fath. A ydyw yn bosibl fod teuluoedd o'r fath yn bodoli? Os ydyw, mentraf ddweyd mai pobl ddidalent iawn ydynt. "O," meddent, "mae cynifer o lyth- yrenau dwbl yn yr iaith Gymraeg, ac y maent yn anhawdd i'w parablu." Cyd- nabyddwn yn rhwydd fod amryw o rai dwbwl megys ch, dd, ft, jig, U, ph, th; ond y maent yn yr iaith ac yn cario eu seiniau priodol yn mhob gair. Cyfadd- efwn nad oes llythyrenau dwbl yn yr iaith Saesneg, hyn yw yn y wyddor (alphabet), ond y maent yn seinio dwy lythyren, er engraifft, ill yn "thrifty," ng yn "strong," 11 yn "call," pit yn "photography," gg yn "egg," &c. Y rheswm dros hynyna yw tlodi a gwendid yr egwyddor (alphabet); nas gallant oddef llythyrenau dwbl. Credant eu bod yn sarhad ar yr iaith, ond pan bydd eis- ieu Ilythyrenau dwbl benthycant hwy oddiar y Gymraeg, ac y maent yn ben- thyea yn ami. Mae y Saesneg, yn debyg iawn i ambell deulu tlawd-beunydd a byth yn benthyca oddiar eu cymydogion. Mae y Saesneg yn rhy dlawd i gadw stock ar law, gan hyny rhaid benthyca. Nid yn gyffredin y cewch neb i gyfaddef eu bed yn perthyn i ddyn tlawd, a di- dalent a diwerth mewn cymdeithas; ond os bydd dyn yn gyfoethog, yn dalentog, neu wedi cyflawni gwrhydri rywbryd, mae dynion ar flaenau eu traed yn un- ion, ac yn bloeddio fod y dyn yna yn perthyn iddynt hwy-fod llinach y dyn yna a'u llinach hwythau wedi deilliaw o Adda. Eithr yn hollol groes i hyny y maent gyda'r iaith a anwylant-yr "iaith fain" a thlawd; ond dinystriwyd y Gyi iraeg—yr un gyfoethocaf a mwyaf bardf'onol a rhamantus! Gallwn ddweyd gyda llawer o briodoldeb mai y Gymraeg yw Vanderbiil yr ieitboedd; ac fel y canodd brawd englyn i'r Saes- onaeg: "Iaith fain i eithafion yw—iaith wir Hen iaith oer digyfryw; fdlawd, Iaith y ci, y gath, y cyw, Iaith y dude a'i fath ydyw." CYMRO I'R CARN, Youngstown, O.
(>na HSifl Oes He irtweh
(>na HSifl Oes He irtweh "Yn ofeiy" medd Idriswyn, "y gofyn- wyd yn Eisteddfod Casnewydd 'A oes Heddwch,' ac yr atebwyd 'Oes'; yn ofer y gwsiniwyd y cledd ac yr offrymwyd gweddi'r Orsedd; y mae y march coc-h wedi ei ollwng yn rhydd ac yn carlamu yn ffyrnig ar hyd y wlad a'i farchogwr yn dal y cleddyf noeth yn ei law yn fyg.. ythiol. Mae y camorion-hyny yw, y rhai siomedig o honynt—wedi troi i udo ac i ysgyrnygu danedd, a dywedant yn blaen eu bod wedi cael cam, yr hyn sydd yr un peth a dweyd na wyr y beirniaid ddim beth yw canu corawl, neu eu bod wedi gwneyd anghyfiawnder yn wirfodd- ol. I bob dyn synwyrol a diragfarn, y mae y naill a'r llall yn anmhosibl. Y mae galluoedd y tri boneddwr, Syr A. C. Mackenzie, Emlyn Evans a Proff. Mac- farren, oedd yn beirniadu yn y brif gys- tadleuaeth gorawl, uwchlaw ameuaeth; profa eu gweithiau hyny; ac y mae eu cymeriadau yn gyfryw na fuasent byth yn ymostwng i'r fath fryntwaith-y maent uwchlaw ameuaeth. Ychydig flynyddau yn ol, cwynid yn erbyn beirniaid Cymreig; nid oeddynt yn ddigon dysgedig, a theflid awgrym- iadau nad oeddynt yn rhydd o fod yn gwneyd ffafrau; a chrochlefai y corau mawr am gael Saeson-proffeswyr a doctoriaid ac awdwyr bydglodus. Er mwyn eu boddio, bu raid i bwyllgor pob Eisteddfod ddiweddar, fach a mawr, gyf- logi beirniaid Seisnig, a thalu iddynt gymaint bedair gwaith a'r beirniaid Cymreig am eu gwasanaeth. Beth yw'r canlyniad? Nid oes un mymryn mwy o foddlonrwydd; yn wir, y mae'r anfodd- ogrwydd yn fwy nag erioed. Rhoddodd pwyllgor Casnewydd ddau Sais ac un Cymro i feirniadu y prif ddarn, i foddio y corau, wrth gwrs. Gadawyd David Jenkins, Mus. Bac., allan, er ei fod yn awdwr un o'r darnau a genid; ond y mae mwy o gwyno ar ol yr Eisteddfod hon nag ar ol un arall yn y blynyddoedd diweddaf hyn. Cafodd y corau yr hyn oedd arnynt eisieu-Saeson i'w clorianu, a mwy yr helynt yn awr na chynt o clan y Cymry. A'u gwaedd yn awr ydyw am gael arweinwyr Seisnig am nad yw'r cyfansoddwyr yn gwybod digon am ganu corawl i feirniadu a bod eu safon yn wahanol i farnu rhagoriaeth. Ond credaf na ddaw y feddyginiaeth o'r cyf- eiriad hwnw ychwaith; ond odid na bydd safon yr arweinyddion Seisnig rywbeth yn debyg i safon cyfansoddwyr dysgedig; os ydyw y cystadleuaethau corawl i barhau yn ein Heisteddfodau a heddwch ar ol hyny, rhaid i'r corau foddloni ar feirniaid Cymreig a rhoddi pob ffydd ynddynt. Y mae gan yr ar. weinydd waith mawr o'i flaen pan yn dysgu cor erbyn cystadleuaeth; y mae y llafur a'r pryder yn fawr; ond dylai gofio nad oes ond un i enfU y wobr, a bod gorchwyl y beirniaid yn un an- hawdd ac yn gosod rhwymedigaeth drom arno. Ac o bydd gan y naill a'r Hall ffydd yn eu gilydd fe ysgafnheir eu gwaith, dileir eu pryder, a bydd hedd- wch yn teyrnasu."
PICNIC Y CVMRY 0 SUMMtT CO.,…
PICNIC Y CVMRY 0 SUMMtT CO., O. Akron, 0., Awst 24.-Cynaliodd Cymry Swydd Summit eu picnic dan nawdd Cymrodorion Akron eleni yn Randolph Park ddydd Sadwrn. Llywydd y dydd oedd Hon. Anthony Howells, Masillon. Cyn canol dydd yr oedd torf fawr wedi dod yn nghyd o Thomastown, Hame- town, Sherman, Wadsworth ac Akron, nes gwneyd y Park yn fywyd i gyd o'r iaith Gymraeg. Wedi i bawb wneyd tegweh a'u cyrff a throi y llestri o'r neilldu, awd i'r neuadd er cael vmborth i'r meddwl. Teg yw dweyd ei fod mewn bias. Wedi galw y cyfarfod i drefn caw- som araeth ragorol gan y llywydd How- ells ar Gymru, Cymro a Chymraeg, a derbyniwyd hi gyda tharanau o gymer- a.dwyaeth. Canlynwyd ef ag anerchiad barddonol gan Eilianydd, Sherman. Canodd y Cymrodorion Glee Club am- ryw ddarnau yn swynol dan arweiniaaM. Thomas, Cuyahoga Falls, yn herwvdd i'r arweinydd arferol, Ben Evans, fethu bod yn bresenol. Yr oedd y tenor bvd- enwog Harry Evan Williams yn bres- enol, ond yn analluog i ganu gan anwyd trwm. DiweddAvyd trwy ganu "Hen wlad W, fy nhadau," Gwilym Jones yn canu y solc,-Un Oedd Yno.
GOMER, ALLEN CO , OHIO.
GOMER, ALLEN CO OHIO. Marwolaeth Miss Mary Owen o'r Darfoded- igaeth-Teulu Profedigat thus. GAN EDWARD WILLIAMS. Gomer, 0., Awst 25.—Boneddiges wedi cyfarfod a phrofedigaethau chwerwon ar ei thaith trwy y byd yma ydyw Mrs. Hannah Owens o'r gymydogaetb. hon. Gwraig ydyw hi i'r diweddar Richard Owens, a fu farw oddeutu tair blynedd yn ol, gan adael Mrs. Owens yn weddw a thri o blant yn amddifaid-Lizzie, Martha a Mary, y ddwy gyntaf yn briod ac yn byw yn Venedocia, Swydd Van- wert. Cydymdeimlir yn fawr a Mrs. Owens yn ei threialon a'i gofidiau o golli gwr tyner, llafurus a darbodus gyda'r byd hwn a'r nesaf, ac hefyd golli dau fachgen wedi tyfu i fyny yn Idynion gweithgar, crefyddoi a da, a lied agos i'w gilydd. Oddeutu dwy flynedd yn ol symudodd Mrs. Owens a'i merch Mary i Venedccia i ymyl ei dwy ferch, ond symudasant yn ol i Gomer yn mis Ebrill diweddaf i aros gyda'i mab yn nghyf- raith, Thomas Rees. Yr oedd iechyd Mary wedi dechreu gwaelu, ac arwydd- ion yn ymddangos fod yr hen glefyd r twyllodrus ac angeuol y darfodedigaeth, wedi ymaflyd yn ddi-ollwng yn ei chyf- ansoddiad tra yn lodes ieuanc brydferth a defnyddiol. Tybiais pan yn ymddydd- an a hi rywbryd yn mis Mehefin ei bod wedi troi i wella, ond croes i hyny bu hi. Clywais iddi waethygu ar ol hyny hyd ddydd ei marwolaeth. Bore Sad- wrn, Awst 14eg, ehedodd ei hysbryd ym- aith yn dawel i'r nefol wlad. Yr oedd- ym bob amser yn cyfrif hon yn lodes ieuanc o ysbryd crefyddol pur. Dygwyd ei gweddillion i gapel Gomer, i fyned trwy y seremoni angladdol, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. D. I. Jones, Middlepoint, a gweinidog yr eglwys Seisnig yn Venedocia. Cyn iddo d dech- reu caawyd darn priodol i'r amgylchiad, yna dechreuwyd trwy weddi gan y Parch. Mr. Evans, Racine; can, y cor. Cyn i Mr. Jones ddechreu pregethu darllenodd nodyn yn cynwys penderfyn- iadau Cymdeithas Ymdrechol Pobl Ieuane eglwys Salem, Venedocia. Wrth i'r gweinidog ieuanc eu darllen i'r gyn- ulleidfa credwn iddynt ddisgyn yn fodd- haol ar deimladau pawb. Heb fanylu, dengys y penderfyniadau fod Mary Owen fel aelod o'r gymdeithas uchod wedi byw y Cristion, ac wedi bod yn ysgrifenyddes y gymdeithas am dymor, ac yn aelod o wahanol bwyllgorau, ac wedi rhoi bodd- lonrwydd eyffredinol; ac i goroni y cwbl yr ydym yn edrych i fyny ati yn ddynes ieuanc o gymeriad dilychwin. Mawr deimlwn ein colled o herwydd colli un mor anwyl o'n plith. Mae pobl Vene- docia i'w canmol yn fawr am ddyfod all- an yn Iluosog a thaclus i dalu y gymwyn- as olaf i weddillion Mary Owens, a'r gweinidog ieuanc am bregethu mor eff- eithiol yn yr iaith Seisnig.
ISAFON MESUR A GWERTH.
SAFON MESUR A GWERTH. Athrawiaetfiau Gau yn Nghylch Arian a C!i ft iaethau Cyfoethog-Apelmd at y Gweithwyr. GAN G. è; (r ilFFiTHS AIaHBLE COL. Mri. Gol: Ar ol darllen newyddiadur- on y Dwyram fe'm tueddwyd i anfon un ysgrif eto i'r "Drych." Yr wyf yn synu fod neb yn y Talaethau Unedig yn gor- fcleddu am fod y metel gwyn yn myned i lawr. Pa fodd yr effeithia ar fasnach y wlad? Nid cwestiwn i'r rhyddfathwyr ya unig ydyw hwn, ond cwestiwn pwys- ig i'r wlad yn gyffredinol. Yn awr. rhoddaf v ffeithiau ollaen darllenwyr y Drych" a gadawaf iddynt farnu dros- tynt eu hunain. Mae yn ffaith yn mysg economists er dyddiau Aristotle mai creadur yn cael ei wneyd gan gyfraith ydyw arian; ac felly y gwnaeth ein tadau Americanaidd 412^4 grains c arian yn werth one hundred cents, a'r un modd 25.8 grains of gold yn werth one hundred cents, a'r ddau yr un modd yn "legal tender for all debts pri- vate and public,"—yr un modd ag y gwnaed 60 pwys yn fwsiel a 3 troedfedd yn llathen. Ond nid allasant ddweyd mai yr un bris fyddai bwsiel o wenith, na llathen o frethyn bob dydd, felly nis galiasant ddweyd mai yr un werth fydd- ai y ddolar bob dydd, ond y byddai yn "one hundred cents for all time" fel mae un yn fwsiel a'r llall yn llathen—"sup- ply and demand" sydd yn rheoli eu gwerth. Yn ngwlad y safon arian mae v ddol- ar arian yn un werth heddyw ag oedd gan mlynedd yn ol; ond yn ngwlad saf- on aur, nid ydyw yn werth haner eym- aint ag ydoedd 25 mlynedd yn ol, am y rheswm nad ydyw yn legal tender uwch- law pum dolar mewn un taliad. Yn awr, yr ydym ni yn cystadlu yn yr un farch- nad a phobl y safon arian, ac felly, ti weli, ddarllenydd, eu bod hwy yn cael am eu nwyddau fwy na chymaint ddwy- waith ag ydym ni yn ei gael. Os ydym ni yn cael 80 cents y bwsiel am wenith, maent hwy yn cael dwy ddolar. Pa beth fyddai yn haws i'r gwledydd hyny, os y gallant gael cropiau llawn, fel ydynt yn arfer gael, nag iddynt werthu eu gwen- ith yn marchnadoedd Ewrop am ddolar y bwsiel, a gwneyd elw arno? Deuai hyny a phris y gwenith yn ngwlad y safon aur fel America i lawr i 52 cents y bwsiel. Ha, dyna lie mae yr esgid yn gwasgu, gyfaill. Y gystadleuaeth hon sydd wedi ac yn Iladd ffarmwriaeth yn America heddyw. Dyma sydd wedi gwneyd 360,000 o dramps heb gartref o un math, a dyma yr achos o'r tylodi a'r caledi presenol; ac os na symudir y drwg hwn, nid ydyw yr amser caled ond dechreu. Gall y Gwerinwyr rioeddio faint a fynont, am fod y gwenith wedi codi ychydig sentiau, ond ni feiddiant wadu mai newyn yn India a diffyg crop- iau yn America ddeheuol ydyw yr achos o hyny; ac felly ein cystadleuwyr yn Ilai. Gosodwyd y ffaith hon o flaen y Parlia- ment Prydeinig gaiL-Mr. Smith Flint, ac ni cheisiodd yr un aelod ei wrthbrofi; rhoddwyd yr un ffaith o flaen yr Im- perial Commission yn Russia ac ni -cheisiodd neb ei gwadu, na'i gwrtbbrofi, end addefodd yr oil ei ddilysrwydd. Ac mae pob economist yn y byd heddyw yn addef mai dyma yr achos o'r prisiau isel; nid oes neb ond y speculator ar Wall Street ac ar Lombard Street yn ceisio ei gwadu. Felly nid ydym yn rhyfeddu ei bod wedi costio iddynt$20,- 000,000 i brynu newyddiaduron y wlad i gefnogi y ffiloreg dwyllodrus. Yr ydym yn cael Mr. Gage, Ysgrifen- ydd y Trysorlys, yn myned trwy ein trefydd iymddyddan a'r bankers a'u galw hwy yn "business men." Ai tybed mai y bankers ydyw yr unig "business men" yn y wlad? Pa faint fwy o business man ydyw y dyn sydd yn rhoddi ben- thyg dolar na'r dyn sydd yn gweithio i'w henill? Pa hawl sydd gan y banker i ddweyd ei fod yn gwybod mwy am werth y ddolar wrth roddi ei benthyg na'r gwerthwr sydd yn gweithio yn gal- ed i'w henill? Caffai Mr. Gage lawer mwy o wir addysg mewn economy pe yr ai i ymgyngori a'r miloedd strikers sydd yn ymladd am ddigon o fwyd i gadw corff ac enaid wrth eu gilydd. Arferai y Gwerinwyr ddweyd fod gweinyddiaeth Cleveland yn rhanu ang- en un rhwng naw, ond mae yn ym- ddangos fod y Gwerinwyr o dan ddyl- anwad Gage a Hanna, am fyned gam yn bellach, a rhanu angen un rhwng deunaw! Mae yn dda genyf weled un- debau llafur mor unol am eu hiawnder- au, a'u bod yn ymddwyn mor foneddig- aidd. Mae yn hawdd gweled ar ba ochr i'r ffens y mae yr Anarchiaid. Y Trusts a'r Combinations ydyw anarchiaid y wlad, ac nid ei gweithwyr. Gobeithio, boys, y byddwch yr un mor unol wrth yr etholflwch, canys dyna y lift i ddar- ostwag ein gorthrymwyr. Pe buasech wedi pleidleisio yn iawn yr hydref di- weddaf gallasai miliwn o honoch ddyfod i'r Mynyddoedd Creigiog, a chael gwaith a chyflog da am dano; a gallasai y ffarmwr gael dwy ddolar y bwsiel am ei wenith, ac felly buasai ffarmwriaeth yn fusnes proffidiol. Aethai hyn a'r oil o'r trefydd i'r wlad, a buasai y wlad mewn trefn. Wrth v ffarmwyr a'r mwnwvr mae y wlad yn dysgwyl am ei llwyddiant, ac nid wrth y bankers. Y ffarmwyr a'r mwnwyr yn mhob gwlad sydd yn pen- derfynu ei "balance of trade," ac nid ei bancwyr. Nis gallent hwy ei setlo am chwe mis. Felly y ffarmwr a'r mwn- wyr ydyw y "business men" mwyaf pwysig i bob gwlad. Pan ffaela y ffarm a'r mwnglawdd ni fydd eisiau y bancer; ac onid wyt ti bellach. ddarllenydd, yn barnu ei bod yn amser i gymdeithas af- ael yn ngwar y dynion hyn, a dweyd wrthynt am feindio eu busnes eu hun- ain? Mae gwareiddiad yn mhob oes wedi tyfu o'r bobl ac nid o'r bancwyr a'r Feudal Lords. Oddi lawr tuag fyny mae cvmdeithas yn adeiladu, ac nid oddifyny. Nid at y cyfoethogion chwaith y daeth Crist i sefydlu ei deyrn- as, ond at y bobl gyffredin, a thrueni na fuasai ei weision y dyddiau hyn o'r un egwyddor,yn lie rhedeg ar ol y duw Mamon. Bydd gan hanesyddiaeth gol- ofn dda o'u hanes am yr hydref diwedd- af. Gobeithio y cofiant eiriau eu Meistr o hyn alllaji-fod pob dyn yn gyfartal o flaen Duw a'r gyfraith. I