Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
19 articles on this Page
Advertising
MYSBYSIADA U am Brisiau Rhesym PL Anfomr am da Tsierau, ANFONER -1KIAN HEWN POST OF :?ICS ORDER, REGISTERED LETTER, NET siewn DRAFT AR Nsrw YORK, TALADWJ I'B PEBOiiENOG- THOMAS J. -QfSiFFiTHS, r-BYOE OFFICE, UTICA. N. 1". fmerp ar Gomisiwn DAVID W LEWIS & CO., J11 db 179 CHAMBERS ST., NEW YORK [Rhwng Washington a GRSSNWICH Siz.) Fmenyn NEWYDD- Lioi wedi ei lladd, &C^ AR 3M-TH ar Gomisi-SM, Anfonir arian mor S^U 42 7 GVERTHIR FEWY- FIHL'WCH .JX lllrJs. D. W. LEWIS & 00. .DR. D. H ROBERTS a udyrnnna iiys D bysu ei fed wedi symud ei swyddia i 326 GENESEE STREET, UTICA, N. Y. HJwchben Store John O. Jones & Son.] Preawylfod-346 Genesee ST. JOUST PUBLISHED-Four New Songs <J by EDWARD BROOME. '•MEADOW-SWEET" (Soprano or Tenor) 61c »T)BimrooD'' (Mezzo-Soprano) w»c "RECONCILED" (Contralto or Baritone). 40c "SWEETHEART, GOOD NIGHT" (Baritone,- dedicated to and sung by Mr. Ffrangcon Davies 60c Order fiom—^ Q EVANS. Youngatown, O. Or the Coroposer-EDW ARD BROOME, Doiglas Church, Montreal, Canada. BUCKNELL UNIVERSITY JOHN HOWARD HARRIS, PRESIDENT. Comprises a College with four courses, lead- ing to degrees in Art, Phiiosophv and science: Academy for Young Feu and Soys: ka<*ies Institute, a refined boarding school; school of Music with graduating courses. For catalogue address— Wni. c. Gretzinger, Registrar, Lewisburg.Pa. KEYSTONE ACADEMY, FACTORYVILLE, PA. A refined school for both sexes. Modern con- venienoies. Experienced teachers. Prepares for college, business and teaching, o-raduater-i pupils in music Twenty-ninth year wi.J begm August 31, l £ Si. For illustrated catalogues ^REV. ELK AN AH HULLEY. A. M., Principal. GALE COLLEGE GAJLESVILLE. WIS. Re*. 8. James Junes, M. A., Ph. D., President. IS ITS FORTIETH YEAR. ART in all its branches;- Music, vocal, instru- mental, composition; NORMAL, embracing busi- ness, book-keeping, typewriting, short hand, teaching; THE ACADEMY, preparing for Gale or any other college, or giving a fair classisal edu- cation; THE COLLEGE offers four courses; THE POST GRADUATE DEPARTMENT offers four cour- scs in advanced work. < -<. For particulars in any branch of study write to the President. CERDDORIAETH NEWYDD. JESUS IS PASSING BY ^LTJ;/o?es THE STRONGHOLD J- B. Lodwick NOTHING BUT LEAVES J. Rodgers NOTHING BUT LEAVES J. Rodgers i. Yr oil am 10 cent. Am 15c. mewn stamps au- fonir yr hen donau "Diadem," "Crugybar," "St. Garmon" a "Dinystr Newydd," gyda r darnau newyddiou uchod, i unrhyw gyfeirlad. J. B. LODWICK, Youngstown, Ohio. .41
[No title]
Tua blwyddyn yn 01 ymddangosai W. J. Bryan fel pe yn nghanol yr ystorm boliticaidd; ond y mae ymddygiad yr ar- ian a'r gwenith wedi newid y maes yn hollol, fel y mae W. J. B. bellach ar yr ymyl. Bydd allan o'r cylch yn gyfan- gwbl cyn bo hir, oddieithr iddo newid ei safle a'i hobi. Os yw am gymeryd rhan yn mrwydr 1900, bydd yn rhaid iddo ddychwelyd i'r orymdaith. Ymddengys rhai pethau yn mywyd
[No title]
W. J. Bryan yn debyg i eiddo Jacob. Ar ol ymrafael ag Esau ffodd Jacob i Meso- potamia at ei ewythr; ac ar ol colli yr Arlywyddiaeth bwriada W. J. Bryan ymweled a Mexico, gwlad yr arian rhydd. Ar y ffordd yno synem ni fawr glywed iddo gael breuddwyd ac iddo weled rbywbeth tebyg i ysgol Jacob, ar hyd yr hon y gwelai y gwenith yn es- gyn a'r arian yn disgyn!
[No title]
Hona rhai newyddiaduron fod Mr. Powderly yn myned i wneyd gwyrthiau tua phorthladd New York yn y gwaith o rwystro anarchistiaid. i mewn i'r wlad. Y mae hyn yn coffa i ni y Gwyddel yn dysgwyl dyfodiad y flwydd- yn newydd, ac aeth heibio cyn i Pat wybod hyny. Coeliai efe y buasai gor- ymdaith a seindorf bres yn ei rhag- flaenu. Yr un modd y bydd hi gyda Powderly.
[No title]
Yn ddiweddar traethodd y xjlefarydd Reed y geiriau sylweddol a ganlyn, ac y maent yn werth i'r wlad eu mabwys- iadu fel cyngor a wna ies iddi: "Yr ydym wedi dysgu drwy brofiad mai y pwnc penaf yw cadw dynion wrth eu gwaith. Un ffordd sydd i wneyd gwlad yn llwyddianus, sef cadw y bobl oil wrth eu gwaith." Y cynllun yn ddiw- eddar yw mis o waith a dau o sefyll allan, ac ymrafaelio yn nghylch cyflog, &c,. &c. Rhowch i ni fwy o waith a llai o bolitics.
[No title]
i mae y ffigyrau canlynol yn synu, cynyrfu, ac hyd yn nod ffyrnigo amryw newyddiaduron y dyddiau hyn, ac y maent, yn ddiau, yn werth i'w myfyrio. Yn ol adroddiad swydd y blwydd-dal- iadau, yr oedd rnif y tal-dderbynwyr ar Mehefin 30, yn 983,528. Cura hyn bob cyfrif blaenorol, a'r gwyn yw fod y der- bynwyr yn amlhau fel y mae y milwyr yn marw. Yn y flwyddyn 1865, blwydd- yn olaf y rhyfel, rhif y tal-dderbynwyr oedd 85,986. Y flwyddyn ganlynol yr oedd yn 126,722. Cyraeddwyd y rhif o 207,495 yn 1871. Yn 1873 cyraeddodd y cyfanrif 238,411, ac yn y flwyddyn ddyl- ynol Euddodd yn ol i 236,241. Yn y tair ddylynol suddodd yn ol eto i 232,137, 232,101 a 223,998. Wedi hyny cynydd- odd eto, gan godi yn 1883 i 303,658; yn 1887, i 406,007, ac yn 1890 i 537,944. Yn 'I 1891 cododd i 676,160; yn 1892, i 876,- 06S; ac yn 1893, i 966,012. Y dysgwyl- iad yw y bydd yn filiwn mewn blwydd- yn neu ddwy!
-----BEXCYDD CYNILO.
BEXCYDD CYNILO. Bwriada y Seneddwr Mason ddwyn mesur o flaen y Gydgyngorfa y tymor nesaf i sefydlu bencydd cynilo o eiddo y llywodraeth; ac arweinia hyn ni i synu na wnaed hyn yn gynarach. Y maent mewn arferiad yn Mhrydain Fawr er ys liawer dydd, a phroflad pawb yn gyff- redinol yw eu bod yn gymelliad i gyn- iledd, yn mhlith y dosbarth gweithiol. Peth aiiiiwg iawn yn y wlad hon yw y cyfleusderau aneirif i wario a gwas- traffu! Mor lluosog yw y eymellion i fyw yn afradlon, a chyn lleied wneir i wrthweithio y duedd i wastraffu! Dysg- ir plant o'u mebyd i wario ac afradu, ac -y mae or braidd yn anmhosibl i'r dos- barth gweithiol feddwl am gynilo dim, gan y denir hwy ar bob Haw i ymadael a'r ychydig arian a wnant. Pan fyddo yr amser yn llwyddianus gwerir a gwas- treffir y cwbl; pan ddaw adegau o brin- der dyoddefir y canlyniadau heb ddysgu gwers o gwbl. Byddai beneydd cysyllt- iedig a'r llythyrdai ar hyd a lied y wlad, a chredyd ac awdurdod y llywodraeth y tu cefn iddynt, yn sicr o greu ymddir- iedaeth yn mhlith y werin a'u cymell hefyd gydag amser i roi ychydig weddill eu henillion yn nghadw erbyn y dydd gwlawog. Byddai yn foddion hefyd i wrthweithio y gogwydd at afradu sydd yn y wlad.
----SWYDDAU GWLADOL
SWYDDAU GWLADOL Dywedir fod yr Arlywydd yn bwriadu diwygio cryn lawer ar y gwasanaeth gwladol, ac i bob dyn a synwyr yn ei ben mae digon o le i wella. Mae yn syndod meddwl, lawer pryd, yr ynfyd- rwydd fedr ffynu yn mhlith dynion. Y mae llawer o bobl ddoeth yn y byd o ran damcaniaeth; ond ychydig iawn sydd mewn ymarferiad ac mewn gwirionedd. Rhyfedd hefyd fel y dyoddefa y llywod- raeth i gyflyrau ac afreoleidd-dra bar- hau na chaniateid am un dydd mewn gweithiau cyhoeddus neu sefydliadau masnachol. lr unig reswm, yn ddiau, am hyny, yw fod pobl yn gyffredin yn cyfrif y llywodraeth ac eiddo y bobl yn ddim amgenach na chelain. Anrhaith ac ysbail, onide, yw swydd? Treisir y swydd gan y swyddog. At alwedigaethau, fel rheol gyffredin, codir a dysgyblir dynion, ac ni feddylid am roddi teilwriaeth i grydd, neu gerdd- oriaeth i dincer, ond gwneir hyn yn y cylch politicaidd-gosodir dynion hollol dibrofiad mewn swyddau. Wedi y delo dyn dipyn yn gyfarwydd a'i waith teflir ef allan, a throir y swydd eto o fod yn waith i fod yn anrhaith ac yn ysbail. Ni wneir hyn gan neb ond gan y llywod- raeth. Y mae goruchwyliaethau eraill yn llawer rhy ddoeth i ddylyn esiampl y llywodraeth. Un o'r bendithion mwyaf ddeuai i'r wlad byth fyddai sefydliad dynion teilwng yn eu swyddau, a dilead athrawiaeth yr ysbail o'r tir. Nid gwer- iniaeth yw rhoddi swydd i bob aelod anheilwng or werin, eithr dewis dyn da a defnyddiol a wna les cyffredinol i'r bobl.
-----YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL
YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL Y mae yr wyl fawr bellach yn mhlith y pethau a fu, ond gellir dweyd fod ei choffadwriaeth yn fendigedig mewn Ilawer ystyr. Y mae yr hen sefydliad yn llwyddo ac yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn ar rai llinellau, ac y mae yn gwywo a gwaethygu ar eraill. Yn yr hen eisteddfodau nid oedd namyn barddoni a thipyn o ganu, nid oedd ond rhyw fath o ymgasgliad beirdd a Ilen- orion ar raddfa ddigon diniwed a di- lewyrch, ond erbyn heddyw y mae fel y pren mwstard wedi tyfu yn goeden genedlaethol eang, gangenog, a digon o le ynddi i adar y nefoedd, sef y corau bendigedig, nythu a gwefreiddio maes Cymru, a Lloegr hefyd. Pe na wnai yr Eisteddfod ddim amgen na dadblygu corau Cymreig, cyraeddai nod uchel ac amcan defnyddiol. Nis gellir cydmaru am fynyd redegfeydd Epsom, rhedeg- feydd cychod y Prifysgolion, a champau anifeilaidd o'r fath a difyrweh Cymry yn gwrando canu corawl bendigedig, fel a glywyd yn (Jasnewydd. Dyma, yn ddiau, y wledd gerddorol gorawl uwch- af a gogoneddusaf y byd bach hwn. Y mae rhyw adnoddau cerddorol dihys- bydd yn nghalon Lymru; y mae mwy o gan yn Nghymru nag sydd o aur yn Clondak. Purion peth oedd myned a'r Eistedd- fod Genedlaethol i Sir Fynwy. Y gred yw ei bod hi, fel Ilawer,/wedi myned at y Saeson, ond dangosodd yr Eisteddfod mai calon Cymraes sydd yn ei mynwes beth bynag yw y wisg sydd am dani, a pha eiriau bynag sydd ar ei thafod. Dangosodd cor Pontypwl aé Abersychan fod Mynwy yn rhan o for can Cymru. Nid daearyddiaeth sydd yn penderfynu hyd a lied Cymru, ond moryddiaeth. Lie bynag y clywir "mor can" Cymru yno y mae hithau. Peth angenrheidiol arau yw gwneyd yr Eisteddfod yn famaeth celf a gwydd- oniaeth. Yr ydym fel cenedl ar hyd yr oesau wedi cyfyngu ein hunain yn or- modol i ganu a barddoni, ac i hyny hef- yd fel "hwyl" yn hytrach nag fel "celf." Yr ydym wedi gwastraffu mwy o amser i fwyta ffrwyth yr awen (fel y mae) nag i ddiwyllio a gwellhau y cynyrch. Yr ydym wedi talu llawer rmvy 0 sylw i gynauafu nag i hau awen. Yr ydym hefyd wedi sefyll mwy dros gyflawnder o ryw fath, na chael symiau rhesymol o'r mathau goreu. Y mae yr Eisteuuiod yn addaw cynydd gwybodaeth, diwyll- iant, a pherffeithrwydd celfydd, yr hyn y mae ein beirdd a'n cerddorion yn sefyll mewn gwir angen o honynt. Y mae genym ddigon o asbri, eisieu mwy o drefn celf arno sydd.
-----MICHAEL ANGIOLILLQ.
MICHAEL ANGIOLILLQ. Nis gellir danod i Ysbaen ei bod yn araf yn cosbi. Daliwyd, profwyd, a-ded- frydwyd Michael Angiolillo, llofrudd Canovas, o fewn wythnos i gyflawniad y weithred. Saethwyd yr Arlywydd Gar- field Gorph. 2, a bu farw Medi 19. Ni chychwynodd prawf Guiteau cyn lon- awr canlynol, ac yr oedd yn agos i flwyddyn wedi myned heibio cyn i'r* gosb ddylyn. Y mae cosb yn araf iawn yn y Talaethau; y mae yn ddigon araf i beri i ddyn goelio fod yn gas gan y bobl weinyddu cyfiawnder at rai math- au o droseddwyr. Dedfrydwyd y llofrudd i farw drwy y "garrotte"—ffordd Ysbaen a'i thiriog- aethau o ladd troseddwr. Yr hen ffordd oedd gosod y troseddwr ar gadair a'i gefn ar bost, a'i glymu wrtho, rhoddi cortyn am ei wddf a'i dynhau drwy droi ffon ar war y truan hyd nes y'i tagid. Wedi hyny mabwysiadwyd coler neu aerwy a hoel dro y tu ol sydd wrth ei throelli yn tynhau yr aerwy a threidd- io i mewn i fwydyn y gwegil ac yn ach- osi marwolaeth ddisyfyd. Gwnai y chwil-Iyswyr drugaredd a phechaduriaid hereticaidd yn eu dydd hwy drwy dagu yn y modd hwn cyn llosgi. Os y cyf- lawnir y gwaith, yn anneheuig achosir arteithiau ofnadwy i'r dyoddefydd, a rhoddir engreifftiau o drueiniaid yn dewis eu llosgi yn fyw yn hytrach na chael eu tagu yn y modd barbaraidd hwn. Anfedrus a bwngleraidd yw Ys. baen mewn llawer o bethau heblaw di- enyddio. Tebyg mai ei barn yw fod y gosb a ddefnyddir gan "wyr Duw," y Chwil-lys, yn debyg i fod yn agos i ber- ffeithrwydd, ac nad oes lie i wella ami.
------C YSTADLE UAETH
C YSTADLE UAETH Golyga rhai pobl mai braint fendig- edig iawn yw rhyddid cystadleuaeth, heb feddwl am fynyd mai un o amcan- ion penaf iiyvvodraetli yw rhwystro ac agweddu gweithrediad y fath egwyddor andwyol. Y mae ysbryd cystadleuol wedi drygu llawer ar y wlad hon, ac y mae, yn ddiau, mor gyfrifol a dim am gyflwr gresyri^ pethau yn bresenol. Eithaf canlyniad cystadleuaeth rydd yw y ffurfiau erchyllaf ar urais a gormes. Er engraifft: dyma ddau waith yn cys- tadlu a'u gilydd am fanteision masnach beth yw y cynllun a'r cyfryngau a fab- wysiedir? Gostyngant brisoecid dan eu gilydd er mwyn cadw ar y blaen, y naill yn tori ar y Hall, hyd y llethir y rhai sydd yn gweithio iddynt i'r llwch. Nid ydym yn gwybod am ddim fedr andwyo gwlad a diraddio ei phobl yn gynt i anifeiliaid na chystadleuaeth rydd. Di- wedd cystadleuaeth yw gormes a chyf- yngder. Nid yw y clymbleidiau sydd yn ein plith ond un o'i ffrwythau mwyaf naturiol; ac un o negeseuau mwyaf ben- dithiol deddf werinol yw amudiffyn y gwan rhag- y cryf a'r gormesgar. Nid cystadleuaeth yw egwyddor cymdeith- as, eithr cyfiawnder. Gwelir etfeithiau cystadleuaeth yn mhlith y gweithwyr a llafurwyr cyff- redin'. Ar y ddaear a than y ddaear y gwelir cystadleuaeth anystyriol yn am- ddifadu y gweithwyr o freintiau gwerth- fawr-yn lie fod pethau yn cydweithio yn hamddenol, ceir pob dyn, fel gwa- hanfodyn, mewn brwydr a'i gyd-ddyn yn ei ochr, yn ceisio cael y goreu arno, ac wrth hyny o ymddygiad, yn y pen draw, yn andwyo ei hawliau a'i freint- iau ei hun yn ogystal ag eiddo ei gym- ydog.
------U WCHFEIRNIA DA ETH,
U WCHFEIRNIA DA ETH, I'r gwrandawyr cyffredin, sef y rhai a wrandawant a'u teimlad annysgedig, a'u deall anniwylliedig, yr oedd y canu cor- awl yn Eisteddfod Genedlaethol Casne- wydd yn fwynhad digymysg ac yn ys- brydoliaeth a gorfoledd. Yn ddiameu, yr oedd y canu goreu, ac eifeithiolaf, ef- allai, a glywyd erioed. Y mae cryn la- wer o wahaniaeth rhwng barnu a'r serchiadau a manylu a'r deall beirniad- ol; ac er y gall fod canu neillduol o saf- on y beirniad manwl a chraffus i raddau mwy neu lai yn anghywir ac anmher- ffaith, eto fel cyfanwaith yn ei effaith a'i ddylanwad ar gyfrif ei naturioldeb a'i ysbryd, digon priodol yw ei ystyried yn fendigedig. Y mae yn ffaith, weithiau, I y medr anmherffeithrwydd ychwanegu at brydferthwch a swyn pethau os y byddant yn feddianol ar gyfoeth o ys- brydolrwydd; felly y mae perygl mewn gosod gormod pwys ar fan-bethau a chywrain hanfodion a neillduolion cel- fyddydol. Y mae yn bosibl gwneyd cerddoriaeth yn rhy beirianol, a thram- gwyddo ei hysbrydoliaeth, yr hyn yw ei gwir ogoniant. Y mae cerddoriaeth ya mhlith y Cymry ar yr iawn ffordd, a dylid bod yn ofalus i beidio ei thaflu oddiar y ffordd na'i thramgwyddo. Yn ei feirniadaeth ar y brif gystadleu- aeth gorawl yn Nghasnewydd dangosai Syr A. C. Mackenzie gryn ddoethineb yn ei olygialau a'i ddyfarniad, a dylai ar- weinyddion corawl dalu sylw manwl iddynt. 0 .ran yr ysbrydol o hono yr oedd ef a'i gyd-feirniaid wedi eu synu a'u swyno gan y canu bendigedig; ond fel rhai cyfarwydd a chelf cerddoriaeth teimlent fod rhai o'r corau yn gwneyd defnydd gormodol o'r ysbrydol, yr hyn a alwai Mackenzie yn "nerth." Yr oedd efe a'i gyd-feirniaid wedi ymdrechu rhag cael eu dwyn ymaith gan ysbryd, gan "rym" y canu, oblegid yr oedd canu rhai or corau fel tymestl, yn cludo pob- peth oedd yn rhydd ac heb ei sicrhau gyda hi. Dengys hyd yn nod sylw an- ffafriol y beirniaid fod y corau hyn yn feddianol ar y prif beth, sef bywyd, a'r oil sydd yn angenrheidiol yw ei ddofi ychydig gan law celf. Y mae yn llawer gwell dofi ysbryd na chyffroi peth marw a diegni. Dyma y march sydd wedi ei ddofi a'i ffrwyno-mor hardd! Y mae y "nerth" y cyfeiria y beirniad ato yn nod- weddiadol o Wyllt Walia. Nid drwy ddamwain na mympwy y gelwir Cymru yn "for o gan." Teimlai y gwrandawyr a'r beirniaid wirionedd hyn pan y rhuai y gerdd o enau plant y wlad, megys mor o gan o dan chwyth chwa ysbrydoliaeth a'r tonau anweledig, ond clywedig, yn golchi dros galonau pawb, gan ymluch- io hyd yn nod dros dyrau beirniadaeth! Ni chondemniai Mackensie hyn-tebyg na chlywodd ddim o'i gyffelyb o'r blaen —ond dymunai gael mwy o reol celf a choethder diwylliant yn y llanw aruth- rol. Cafodd hyd yn nod hyn hefyd yn nghor Pontypool ac Abersychan. Caf- odd y grym a'r gras, y llanw a'r trai, y gwawl a'r gwyll, yr awen a'r ewyn, a'r iliwiau prydferth yn chwareu ar frigau y tonau. I ni o bell nid yw o nemawr bwys pa gor eniilodd y wobr a'r clod, ond ei en- ill yn deg. Dywedir fod gormod o bleidgarwch a chulni ysbryd yn rheoli rhai o'r^corau—mai nid anrhydedd Cym- ru sydd mewn golwg, eithr clod a bri yr arweinydd y cor. Cymru ddylai fod mewn golwg—eiddo y fam yw dawn y plant, a dylai y plant wneyd eu goreu i dalu Hog iddi hi. Yr ydym yn teimlo yn ddedwydd, nid am i gor Pontypwl ac Abersychan wneyd mor gampus, ond am fod hyny yn ogoniant i Gymru.
-0 LLAFUIL A MASNACH.
-0 LLAFUIL A MASNACH. —Dydd Iau cyraeddodd y gwenith hyd at $1.00 1-4 y bwsiel; ac yn marchnad Llundain gwerthir arian am y pris isel- af erioed, set 24c. yr wns; yr hyn oedd yn gwneyd gwerth arian dolar yn 40c. Pe y dywedasid chwe mis yn ol y codai y gwenith i ddolar y bwsiel cyfrifesid dyn yn orphwyllog. Y Tarn gyffredin oedd y buasai y gwenith a'r arian yn suddo gyda'u gilydd i gyfyngder ofn- adwy; ond y mae llawer o wir yn yr hen ddywediad mai yr hyn na ddys- gwylir a ddygwydda. -Dywed un o newyddiaduron St. Louis fod y symiau canlynol wedi eu gwneyd gan fasnachwyr anturiaethus lleol ar godiad pris y gwenith: William G. Haarstwick,$200,000; Ben Barnes, $150,000; D. R. Francis, $100,000; Cor- win H. Spencer, $100.000; W. L. Green a'i Gwm., $100,000; C. B. White, $75,- 000; ac eraill $50,000. —Daw yr hysbysiad o Idaho Springs, Col., fod yr arian-glawdd Lu Martine wedi ei gau, a'r gweithwyr wedi eu hat- al. Dywedai y goruchwyliwr Hauchet "fod yr arian wedi myned mor isel fel nas gellid gweithio arian ac enill dim wrth hyny." Y mae yn un o'r gweith- iau arian mwyaf yn y Dalaeth. Amcan y cwmni yn awr yw troi i weithio aur. Bwriada yr arian-gloddiau eraill i fyny yn mhen uchaf Sir Clear Creek wneyd yr un model, set cau i fyny a thcoi at aur -Cyfrifon allforion yn ystod GOT- phenaf sydd fel y canlyn: Cotwm, if. 438,516; olewau mwnawl,$5,132,815, bwydydd, yn cynwys da a moch,$15,459,- 460. Gwelir cynydd mawr yn allforiad indrawn, set 12,405,466 o fwsieli ar gyfar 7,000,000 yn ystod yr un mis yn 1896. I fyny hyd ddiwedd Gorphenaf yn 189*3, yr oedd y cyfanswm yn 84,056,612; yn 1897, yn 115,600,159 o fwsteli. Dangosir cynydd mawr hefyd mewn rhyg. Yn ysod y saith mis yn diweddu Gorphen- af 30, 1896, y cyfanswm oedd 1,251,158; yn ystod yr un cyfnod y flwyddyn hon, yn 4,893,779 o fwsieli. —Yn ol adroddiadau y Trysordy y mae llongau Prydain Fawr yn cludo 57 y cant o nwyddau y Talaethau Unedig, o'i dadforion yn ogystal a'i hallforion. Cyfartalwch y dadforion a gludir sydd fel y canlyn: Prydain, 55; Ffrainc, 5; Germani, 13; gwledydd eraill, 11. O'r allforione.iii chluda llestri y Talaethau ond 8 y rant, cenedloedd eraill yn cludo 92 y cant. Cluda Prydain Fawr 68 y cant. -Bydd enwd gwenith Canada y flwyddyn hon yn 50,000,000 o fwsieli, neu 10,000,000 yn fwy na'r flwyddyn ddiweddaf. Y mae y cynydd, gan mwy- af, yn Manitoba. Niweidiwyd y enwd yn fawr yn Ontario gan y gwlaw. Y mae ticynach o hono eisoes yn egino, ac yn gwerthu o'r herwydd yn rhatach na gwenith da. —Dywedir fod A. J. Moxham, llyw- ydd cwmni dur Johnson, Lorain, 0, yr hwn sydd yn awr yn Lloegr, wedi der- byn archebion am 20,000 o dunelli o reiliau at reilffordd drydanol yn y Werddon. Hon, yn ddiau, yw yr archeb fwyaf o reiliau at ddybenion ffyrdd trydanol a gafwyd erioed yn y wlad hon o wlad bell, ac y mae yn ddyeithr pan yr ystyriom ei bod yn myned i ym- yl drws Lloegr. Ni fydd y cludiad ond $3 o'r gweithiau i'r Werddon. Rhodd- odd cwmni Johnson bris iselach i mewn nag un cwmni arall yn y wlad hon yn ogystal ag yri Lloegr.
[No title]
-Y mae James B. Angell, gweinidog newydd y Talaethau i Twrci wedi cyr- aedd Constantinople. —Oddigerth i rywbeth gymeryd He yn fuan i rwystro gostyngiad yn ngwerth arian bydd yn rhatach nag alcan! —Ymadawodd saith o lestri o Phila- delphia am Loegr yr wythnos cyn y ddiweddaf yn cynwys 630,709 o fwsieli o wenith. —Dywed H. M. Neil, yr ystadegydd nodedig o New Orleans, y bydd enwd y cotwm yn debyg o gyraedd 10,000,000 o sachbynau y flwyddyn hon.
NODUhN" PK:1^0N0Iv.
NODUhN" PK:1^0N0Iv. Hysbysir ni fod Gale College, Gales- ville, Wis., wedi sicrhau gwasanaeth. T. J. Da vies, Mus. Bac., Scranton, yn Di- rector y Conservatory of Music yno. Cyfeiriad Aneurin Fardd o hyn i ddi- wedd y flwyddyn fydd 451 Greene Ave., Brooklyn, N. Y.; ac yno y dylid anfon pob gohebiaeth ato. j Nos Sul, pleidleisiodd eglwys Gynull- 1 eidfaol 11th Street, New Yrork, yn UEH I frydol dros roddi galwad i'r Parch. W. 1 frydol dros roddi galwad i'r Parch. W. 1 Tudwel Williams, Slatington, i'w bug- eilio. Casglodd eglwysi y Parch. David Ed- wards, Lake Crystal, Minn., Sul Awst 15, y swm anrhydeddus o $83.40, er cynorth- wyo y genadaeth ar Fryniau Cassia, yn ngwyneb y golled alaethus ar eiddo ach- oswyd gan y ddaeargryn ddiweddar. Dysgwylir y Parch. J. E. Griffiths, gweinidog y Bedyddwyr yn Calfaria, Sciwen, i lanio yr wythnos hon. Gwelir llythyrau canmoliaeth iddo mewn colofn arall. Ei gyhoeddiadau Sabbothol am y mis cyntaf sydd fel y canlyn: Awst 29, Wilkesbarre: Medi 5, Edwardsdale; 12, Mahanoy City; 19, Hyde Park; 26, Prov- idence. Rhydd papyrau Ohio ganmoliaeth 4 uchel i'r Proff. 0. H. Evans, Marysville.1 fel arweinydd cerddorol yn gystal ag fel athraw llwycldianus; a theimla pobl Marysville yn falch iawn oblegid budd- ugoliaeth ei gor yn Eisteddfod Lancas- ter, hanes yr hon a welir mewn colofn arall. Ei gyfansoddiad ef—"The Birth- day of Freedom," oedd un o'r darnau f cystadleuol. Cafodd ef a'i gorgroesawiad | brwdfrydig ar eu cyraeddiad adref o faes y frwydr. Tra yr oedd R. R. Williams yn teithio trwy ardal Wild Rose, Wis., torodd y cerbyd a chafodd ef a "Dafydd Morgan" godwm cas. Derbyniodd Mr. Williams beth anaf, ond gallodd fyned i Milwau- kee, lie y mae yn gwella yn rhagorol. Oddiyno aar ymweliad a Chymry Ra- cine a Waukesha. Bwriada Pritchard Morgan, A. S., dalu ymweliad eto a China yn yr hydref. Ymddengys ei fod ef a Li Hung Chang wedi myned yn gyfeillion mynwesol ar ol y daith ddiweddaf a wnaeth yno. Wrth ddarllen y feirniadaeth ar arwr- gerddi y Goron, "Arthur y Ford Gron," yn Eisteddfod Casnewydd,' dywedodd Dyfed ei fod ef ac Elfed yn unfarn mat yr eiddo "Glan y Wysg," (Parch. T. Mafonwy Davies) oedd yr oreu, ond fod Ceulanydd yn methu cytuno a hwy. Dy- wedir mai yr ail yn y gystadleuaeth oedd Llew Llwyfo. "Svln a melusder," medd y "Cymro," "yw nodwedd Iberaidd pregethwyr y De —pertrwydd a gwreichion; nerth ac ar- afwch athronyddol yw nodwedd gwyr y Gogledd. Mewn geiriau eraill, tan shaf- ins a tban glo." Hanes doniol sydd yn Nghofiant new- ydd-gyhoeddedig y Parch. David Davies, Bermo, am yrhenwefnidog poblogaidd yn claddu ei bregethau yn yr ardd. Ymddengys nad yw'r cantwr poblog- aidd Emlyn Davies, R. A. M., yn myned i Australia gyda Chwmni Operaidd Miss Amy Sherwin, fel yr hysbyswyd, obleg- id fod amodau yn y cytundeb nas gallai'r « Cymro mwynlais gytuno a hwy. | Dywed y "Record of the Times" fod eg- lwys Wesleyaidd Gymreig Wilkesbarre, Pa., wedi cael adnewyddiad pwysig dan weinidogaeth ei bugail newydd, y Parch. H. P. Morgan, yr hwn sydd yn fab i Thomas a Jane Morgan, Pontrydygroes, Sir Aberteifi, lie y ganwyd ef 30 mlynedd .1 yn ol. Adnabyddir ei briod-gynt Miss Ashton o Carno, wrth yr enw "Sister Margaret;" a phriodete Mr. Morgan la- wer o'i lwyddiant fel efengylwr yn Pont- ypridd i'w hymdrechion hi. Daw hi a'i phlentyn drosodd y mis nesaf. Pittston, Pa., Awst 20.—Yn nghystad- leuaeth ein papyr dyddiol, Miss .Tones. aelod o gor y Bedyddwyr Seisnig, gafodd fwyaf o bleidleisiau, sef 13,819, i fyned i'r Coleg. Pob llwydd iddi. Bu y Parch Henry Varley, y diwygiwr o Lundain.yn pregethu yma, i gynulleidfaoedd mawr- ion, a chyda dylanwad; a hwvliodd am ei gartref ar y lOfed. Bwriada ddych- welyd eto yn fuan; ac hefyd fyned i Awstralia. Mae ei bamphledi, "The Atonement," "Lecture to Boys and Pa- rents," Trust in the Living Father," &c., yn werth eu darllen.-Rhydwen. Scranton, Pa., Awst 23.-Dydd Iau, claddwyd David T. Jones, North Main Ave., o gapel y Tabernacl, y Parchn. D. P. Jones ac E. R. Lewis yn gweinyddu. Bore Sadwrn, bu farw Percy, baohgen 4 blwydd oed Gwilym Cadle, er galar mawr i'r teulu dvddan. Heddyw, cladd- wyd William Jenkins, yr hwn fu farw tra ar ymweliad a'i fodryb, Mrs. Daniel M. Jones, 146 S. Garfield Ave. Ei aflech- yd oedd y darfodedigaeth. Traddodwyd ei bregeth angladdol gan y Parch. D. P. Jones. Bangor, Wis., Awst 20.-Cafodd y Parch. H. M. Pugh, D. D., fath o lewyg pan yn gorphen pregethu yn Oshkosh, Wis., Sul Mehefin 13-effaith gor-lafur; a chyngorodd y meddyg ef i gymeryd ychydig wythnosau o seibiant. Erbyn hyn mae wedi ei adferu i'w iechyd ar- ferol a bwriada gychwyn am faes ei lafur yn Lime Spring, Iowa, ddechreu Medi. Bu John Holland, goruchwyliwr ffyddlon y Drych, yn lied wael ei iech- yd; ond teimla yn llawer gwell a hyderir y ca lwyr adferiad yn fuan. Mae y Parch. H. W. Griffith o Goleg Ripon yn gwasanaethu eglwysi y cylch am nifer o Sabbothau.-G. Lansford, Pa., Awst 20.—Yn ddiwedd- ar dewisodd yr hen fam eglwys Anni- bynol Thomas D. Rees, (Serenydd), Tho- mas Evans o Abercarn a'r didwyll Barch. Thomas Corris Davies yn ddi- aconiaid, gan fod y swyddogion presenol yn hen ac wedi dal pwys a gwres y dydd er's blynyddau. Mae Mr. Davies yn bregethwr poblogaidd, er yn gorfod gweithio yn y lofa bob dydd, ac felly yn llafurio dan anfanteision. Mae perffaith dangnefedd yn yr eglwys hon, dan wein- idogaeth y Parch. F. Teilo Evans,—G. Ddu. Chicago, III., Awst 19.-Mae yr hen ddiacon athronyddol a thra adnabyddus John Jones (Lerpwl) yn bur wael y dyddiau hyn,ond hyderir yn fawr nad yw yn anadferadwy. Mae Mrs. Jones hefyd yn gystuddiol. Gall y nefoedd
[No title]
Y mae yr amgylchiad a ganlyn yn an- rhydedi raawr i Brydain. Rai blynydd- oedd yn ol penodwyd Syr Garnet Wol- seley yn Gadlywydd y fyddin yn lIe y Due o Gaergrawnt. Fel y mae yn hys- bys y mae Syr Garnet yn sal iawn ac yn anhebyg o fyw yn hir, felly rhaid enwi liewn ,vroI oedd oedd blys raawr e1 ei mab ei hun i'r n fethiant ami. Y j n gailu bod yn frwd- ond y mae yti &ofalu es yn o lew.
[No title]
Parha amgylchiadau streic y glowyr mewn. cyflwr dyrys, ac ychydig o argoel sydd air ymryddhad. Ychydig obaith sydd hefyd am heddweh ar delerau an- rhydeddus i'r naill ochr fel y llall. Mor bell ag y gellir gweled yn awr, rhyw fath o frwydr am y trechaf yw; a thebyg wedi yr elo yr oil heibio y byddys yn yr un cyflwr ag yn flaenorol i'r anghydfod. Byddai yn fendith annhraethol pe y gellid canolbwyntio ymdrechion a thynu ystor y cwmni i lawr, a mynu pwysdy teg wrth bob glofa. Ofnwn fod gan y glowyr ormod o damaid y tro hwn. Rhagorach cynllun yw cydweled yn nghylch rhyw un pwnc ar y tro, a mynu hwnw, ac yna symud yn mlaen at eraill yn ddylynol. Nid ydym ychwaith yn coelio y gellir gwneyd fawr daioni pan y mae y ddwy ochr yn gwersyllu yn er- byn eu gilydd, ac yn benderfynol o orch- fygu y naill y llall. Ar ol y frwydr y mae dyfod i delerau rheswm a chyfiawn- der.
rR ORNEST HIR-DD Y8 G WYLI…
rR ORNEST HIR-DD Y8 G WYLI ED TO. Un o'r dygwyddiadau mwyaf digrif y flwyddyn hon oedd yr ornest rhwng y Tywysog Henri o Orleans a'r Due o Turin. Yr oedd amcan yr ornest yn c-hwerthinus, oblegid ymladdid er dang- os pa tin a yw yr Italiaid fel cenedl yn llwfriaid ai nid ydynt. Yr oedd enw cenedl gyfan yn ymddibynu ar gleddyf- au y ddau goegyn tywysogaidd!! Ym- laddwyd hi ddydd Sul yr wythnos ddiw- eddaf, yn Bois de Marecheaux, ychydig filldiroedd allan o ddinas Paris, Ffrainc, mor gynar a phump o'r gloch y bore. Yr oedd yno amryw law feddygon yn gweini ar glwyfau y ddau; ac y mae hanes ymddygiad y gornestwyr a'r llaw- feddygon yn benod ddifyrus. Yn y man y crafid y naill neu y llall neidiai y llaw- feddygon ato, ac os na fyddai y toriad wedi treiddio i'r "is-groen" gadewid i'r ornest fyned yn mlaen. Ymladdai y Due a'i fenyg ar ei ddwylaw, a Henri a dwy- law noethion. Clwyfwyd y Due yn ddrwg yn ei faneg, a chollodrl un o'i fot- ymau oddiar ei glun, ac anafwyd y Tyw- ysog Henri yn ddrwg yn mynwes ei grys!! Ffynai llawenydd mawr yn Itali wedi clywed y newydd am fuddugoliaeth y Due, ac y mae pryder mawr drwy holl Ffrainc berthynas i adferiad crys Hen- ri. Camgymeriad oedd myned a llaw- feddygon i'r ornest—teilwriaid ddylasai fod yno!
LLYWOTREFN MAMON.
LLYWOTREFN MAMON. Mae Ile i ofni yr a llywodraeth yn ddim amgenach na changen o fasnach cyn bo hir. Ymddengys fod gwlad Groeg wedi methu yn ddiweddar, nid yn unig yn ei hymdrech a Twrci, eithr hef- yd wedi methu yn arianol, wedi myned yn ddwfn i ddyled newidwyr arian Ew- rop; ac mewn canlyniad y mae Germani wedi cyfiwyno cynygiad o flaen cyngerdd y galluoedd sydd yn golygu dim mwy na llai na chymeryd meddiant o'r wlad, fel y rhwymir dyledwr cyffredin, a rheoli ei busnes hyd y telir y ffyrling eithaf, pa hyd bynag y byddo hyny. Dengys hyn fel y mae yr egwyddor fusnesol.fasnacholyn dyfod i mewn i afaelu yn mhob peth yr oes hon. Gwel pob dyn sydd a llygad yn ei ben mai nid cyfiawnder a lies y bobl sydd yn rheoli llywodraethau y ddaear, eithr lies a llwyddiant y llyw- iawdwyr a'r dosbarth hwnw sydd yn eu cynal a'i harian. Mae Groeg mewn cyf- lwr gresynus yn ol pob hanes, ond y prif a'r unig bwnc yn awr ac i barhau am dymor yw, pa fodd i gael y "pwys cnawd" allan o honi. Nid yw Germani na chyngerdd y galluoedd yn ystyried dim o gyflwr Groeg yn ei phertbynas ag egwyddorion cyfiawnder a thegwch; ni chymerir i'r galon o gwbl ei hawliau a'i breintiau fel chwaer yn nheulu y gwled- ydd, eithr edrychir arni fel maes i gyn- yrchu enwd o drethoedd i dalu Hog i'r newidwyr arian. Darostyngir y cyfan i reolau busnes, hau arian a medi yr elw; ac ni ystyrir hawliau y werin ond ychydig. Hawdd yw canfod mai dyma bwnc mawr y dyfodol. Yn fuan bydd gwlad fel ystorfa neu weithfa, -a rhedir y cyf- an yn ol egwyddorion masnach. Y mae yn syn meddwl lawer pryd pan y,cyfyd anghydfod a therfysg yn mhlith plant llafur yn y fath fodd busnesol yn unig y eyfeirir at y dygwyddiad fel rhywbeth yn andwyo rhifyddiaeth elw y meistri a dyrysu cyfrifon yr arweinwyr. Yn ami ni sonir o gwbl am gysylltiadau moesol a iawnol y drafodaeth. Oni fydd Groeg bellach fel caethferch wedi ei rhwymo a chadwynau aur?