Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

íJBWNODEB O'R NEWYDDIADURON

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

íJBWNODEB O'R NEWYDDIADURON Ik. Qkyra«ddasant NewYork gyda'r Agerlona- •v i <yny i Ddydd Mawrth,Rhag. 24,1895. QOOLKDD OTMRU. —Ymgrogodd dyn ienanc o'r enw Howell Lewis, yn byw gyda'i ram weddw ar High Street, Rhyl, o herwydd ei fod allan o waith. Ei dad oedd berchenog newyddiadur yn y dref. —Lladdwyd Enoch Rogers, Nant, yn mhwll glo Plas Powis, Coedpoeth, trwy i'r nenfwd syrthio arno. —Mae y T. C. wedi agor capel newydd yn y Drefnewydd. —Dirwywyd William Roberts a Rich ard Dennis, gan ynadon Fflintamgasgln cregin gleision (mussels) dan 2t modfedd o hyd, wedi cael eu rhybuddio yn nghylch hyny nifer o weithiau. -Eleni terfyna yr Henadur W. P. Williams, Caernarfon, ei haner canfed blwydd fel blaenor gyda'r Methodistiaid yn eglwys Moriah. Mae symudiad ar droed yn yr eglwys i'w anrhegu a thysteb. -Tra yr oedd Thomas Salusbury yn dylyn ei orchwyl yn un o fwngloddiau plwm Helygain, syrthiodd swm o graig arno, gan ei niweidio mor dost fel y bu farw yn mhen ychydig fynydau. -Mewn cyfarfod o Fwrdd Ysgol Caer- narfon, dan lywyddiaeth W. G. Thomas, penderfynwyd adeiladu ysgol newydd i enethod a babanod. Amcangyfrif o'r gost ydyw rhwng 5000p. a 6000p. —"Marwolaeth ddamweiniol" oedd y rheithfarn yn y trengholiad ar gorff Mary Edwards, 18 Salop road, Gwrec- sam, yr hwn a losgodd trwy ffrwydrad lamp. —Un diwrnod, derbyniodd Griffith Thomas Owen, Llanrng, niweidiau dif rifol i'w ben trwy daniad pylor cyn ei amser yn chwarel Glynrhonwy, nes ei hyrddio i 15 llath o ddyfnder. —Yn Mhwyllgor Eisteddfod Genedlaeth 01 Llandudno, hysbyswyd fod F. Car wen wedi prynu cantawd fuddugol Dr. Rogers am 40p.; a bod y gwaith o adeil adu pafllion yr Eisteddfod wedi ei osod i Evau Hughes, Llandudno, am 1,060p. Yr oedd rhywnn wedi cynyg fod y pwyll- gor ) n gwueyd cais amawdurdod fren- inol i gynal yr Eisteddfod, ond gosodwyd y syniad hwn o'r neilldu. —Yn ol chweehed adroddiad blynyddol cyfarwyddwyr Chwarel y New Welsh Slate, Ffestiniog, a gyflwynir i'r rhan ddalwyr y mis hwn, ymddengys fo i 6,925 tunell o lechi wedi eu codi yn y chwarel yn ystod y flwyddyn ddiweddaJ o'i gyierbynii a 6,906 tunell y flwyddyn naenorol. Buasai y blaenaf yn llawer mwy oni bai am y rhew yn ystod mis Chwefror, fel ag i atal y gwaith yn gyf- angwbl am y mis. Gwnaed elw o 3,135p. lis. 2c. ar waith y flwyddyn, ond o'r awm hwn bydd angen 461p. 6s. 6c. i dalu y ddyled o'r flwyddyn o'r blaen, a 2,000p tu;?g at dalu llog y debentures, gan adael yn weddill 674p. Is. 8c. i gael ei gario yn mlaen. Argymella y cyfarwyddwyr fod bonus dividend i gael ei dalu i'r cyfran wyr cydweithredol, ac, hefyd, fod y rhandal sydd yn ddyledus ar y rhanddal- iadau breintiedig am y flwyddyn 1893 i .gael eu talu o'r elw uchod mor fuan ag y gellir codi cyfalaf ychwanegol o 4,000p neu ychwaneg. DIFROD MELLT.— Nos Wener, Rhag fyr 16, aeth ystorm fawr o fellt a tharan an dros fynydd Treffynon. Tarawodd mellten Gapel Coffaclwriaethol Cynfaen (W ). yn Calcot, ar y mynydd uwehlaw Treffynon. Maluriwyd yr adeilad, a syrthiodd yn garnedd. Adeiladwyd y capel ar gost fawr oddeutu wyth mlyn edd yn 01 yn goffadwriaeth i'r Parch. J. Hugh Evans (Cynfaen). Yn nhy Owen Thomas, Catch Nant, aeth mellten drwy y simdde i'r ty, gan ei falurio, a thaflu pob peth yn blith draphlith. Syrthiodd Mrs. Thomas i anymwybyddiaeth, a llosgwyd y ddau fachgen oeddynt yn eu gwelyau yn dost yn eu coesau a'u breich iau, ac ofnir y cyll un ei glyw. DAMWAIN ANGEUOL yn FFESTINIOG.— Nos Iau, Rhagfyr 5, pan oedd John Grif fith, Brynbowydd, 54 oed, newydd ddechreu ar ei stem hwyrol, a chyda y gorchwyl o yru lefel yn chwarel ganol Oakeley, aeth ei ebill i hen fondwll, a ffrwydrodd hwnw, gan ei daflu tua phedair llath, a'i ladd yn y fan. Yr oedd ei benglog wedi ei falurio yn ar swydus. a chesglid ei ymenydd dranoeth yn y lefel. Cynaliwyd trengholiad ddydd Sadwrn, pan y dychwelwyd y rheithfarn o "Farwolaeth ddamweiniol."

9BHEUDIR GYMBD.

MAK'WOLAETHAO CYMBU.

BEILEVUE, SCRANTON, PA.

Nelson, Madison Co., N. Y.

[No title]

Y MARCHNADOEDD.I -

AR OL I BAWB FETHU.

Advertising