Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
NOD I OX rJUiSOXOL.
NOD I OX rJUiSOXOL. Mas un arall o enwogion Cymru yn ei fedd-y Parch. HUGH OWEN (.Meilir,) Periglor parchus, Llanerchymedd. Bu farw prydnawn dydd Nadolig, ar ol dioddef cystudd am oddeutu dau fis. Yr ydoedd yn ysgolliaig rhagorol, mewn amryw ieitli- oedd, yn fardd nid anenwog, ac yn feirniad y "I manwi a cliyfiawn. Yr oedd bob amser yn bleidiwr gwresog yr Eisteddfodau, ac wedi rhoddi ei bresenoldeb yn yr lioll Eis- teddfodau Cenedlaethol, o'r un a gynal- iwyd yn yr Aberffraw yn y flwyddyn 1849, hyd Eisteddfod Freiniol Bangor, 1874, ac yn gwisgo yr urdd o arclidderwydd, gan wasanaefliu yr orsedd mewn sel ac urddas mawr. Nid ydyw yn un gormodiaith yn- om ddy weyd fod ei enw parch us yn deilwng o'i ddathlu gan bob tafod Cymreig drwy Gymru oil, ac America hefyd. Cawn fod y Proffeswr MAX MTJLLER wedi cael cynygiad o Broffeswriaetli Goleg- awl yn FJorence, am y cyflog ticliaf a gyn- yghvyd o'r blaen i un proffeswr yn Itali. Ymae y Parch. LL. EDWARDS, o Aber- ystwyth, wedi cymeryd y gradd o M. A. yn Oxford. Er nad oes arlioliid yn angen- rheidiol i gael y radd hon ar ol y B. A., eto mae yn bwysig ei chymeryd, gan ei bod yn rhoddi bawl i bleidleisio dros aelod Sen- eddol. Gwelwn hefyd fod enw Mr. GRIF- FITH ELLIS (Bootle), o Goleg Baliol. Ox- ford, vii Rliestr yr honors men, yn y Final Classical School. Yr arholiad hwn, medd- ir, yw yr arholiad caletaf yn ybyd am radd- au. a da genym longyfarch y Cymro ar ei safie anrhydeddus. Ymgyfarfu nifer o gvfeillion yr Arch- dderwydd MYFYR MORGANWG, yn y Butch- ers' Arms, Pontypridd, y noson o'r blaen i gyflwyno i'r hen batriarch y swm o Ct40, 12s., a gasglesid iddo, fel arwydd o barch a cliydnabyddiaeth o'i wybodaeth henaf- iaethol. Cymerwyd y gadair gan Dewi Haran, ac yr oedd yn bresenol Mr. Owen, Ash Hall, Cowbridge, Mr. T. James, o'r Royal Academy, Mr. E. James, Mr. Rey- Holds, Merthyr, Mr. O. Morgan, ac eraill. Gwaharddwyd i Mr. CUMMTNGS, ysgol- feistr yn Rlios-llanerclirugog, gan Gyngor Addvsg Llundain i bregetliu athrawiaeth- au Wesleyaidd, nac athrawiaethau unrhyw enwad arall mewn ysgolion ar y Sabboth, ar y dybiaeth na ddylai unrhyw swyddog yn derbyn grants o arian y cyhoedd siarad drosunrhyw athrawiaethau neillduol. Dywed y Dydd fod yr Eglwys yn Nghym- ru wedi colli un o'i ser dysgleiriaf yn mar- wolacth y Parch. CANON JONES, Llandwr- og, yr hwn a gafodd fyw i'r oedran teg o 81 mlwydd. Ynei ddydd yr oedd "Jones Llanfihangel," a "Jones Vaynor" yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd Cymru. Un o "feibion y daran" ydoedd, ond yr oedd yn feddyliwr mawr hefyd; ac, eithrio yr hen batriarch, y Parch. David Parry, vicer Defynog (gynt "Parry Llywelyn,") nid oedd neb yn yr Eglwys mor boblogaidd a'r Parch. Canon Jones. Huw IOAN o Council Bluffs, Iowa, a ys- grifena: Trwy ryw angliaffael, ni chyr- liaeddodd fy Hir a Thoddaid, sef "Bedd- argraff i'r" diweddar Barch. HOWELL POWELL," law y beirniad Islwyn. Felly yr wyf yn ei aD fon i'r DHYCH, ac os bernir ef yn deilwng, rhodder ef ar fedd y gwr parchedig gyda'r llall:" I Dyma fedd gwron o'r dewrion dorwyd, I lawr o'i fawredd nef fllwr fwriwyd; Cristion ffyddlon o galon ei gwelwyd, Sef Howeil Powell dawel a diwyd; TIll o'i rai anwyl gan Ton arweinwyd. Draw o'i garcbar ac adre a gyrchwyd: 0 fyd o wagedd fe'i dygwyd—o'r ian I nef a'i doniau efe ordeiniwyd.—Iluw loan. Pan y mae cymaint o son am y diweddar fardd CYNDDELW, y mae yn dwyn i'n cof yn naturiol y Cynddelw gwreiddiol, oddi- wrth yr hwn y cafodd y diweddar Cyn- ddelw ei ffugenw. Y mae yn sicr fod Cynddelw hen yn mysg y cynfeirdd, ac yn enwog hefyd, yn eu plith. Yr oedd yn byw rhwng y flwyddyn 1150 a 1200, ac o lierwydd maintioli ei gorff a'i daldra, gelwid ef Cynddelw y Prydydd Mawr. Fel y canlyn yr anercha R. W. Morris, "West Bangor, Pa., y BARDD CUDD: Brydydd glan, o pwy yth hanwyd,-dywed? 'Does dewin na phrophwyd 'N abl i ro'i'm wybod p'le'r wyd, Na pha oed, na phwy ydwyd. Medda Boston nifer o ddynion, y rhai ■ar gyfrif y trethi mawr a delir ganddynt, a ellir ystyried yn gyfoethog. Gwneir y tal- iadau mwyaf ar ystad y SEARS a'r Fifty Associates. Yna daw yr ardrethiadau a ganlyn: Moses Williams, $2,531,400; H. Hollis Hunnewell,$1,716,000; John A. Lowell, $1,405,400; William Minot, leu., $1,183,600; James Parker, .$1,095,500; Frederick R. Sears,$1,262,200; Henry R. ITnoo0?8, ^1-032,500; Arioch Wentwarth, fnA ri00; .William W. Tucker,$1,181,- Francis Adams i'r swm o$856,000. Mae y nodedig Dr. CUMMING wedi pro- fEwydo unwaith eto am ddiwedd ybyd, i ddigwydd y tro hwn yn Medi nesaf Un cysur yw, y cawn amser i orphen gyda'r Arddangosfa Ganmlwyddol, oml bydd vn yddoi?r ai" Gm hetholiad Arlyw Cyrhaeddodd y Parch. OWEN GRIFFITHS <Giraldus,) adref i Utica yn ddiogel, ar ol taith gysurus yn y sefydliadau gorlle'winol Y-mae ganddo rai "Adgofion" i'w cvhoprini yn y rhifynau dyfodol o'r DRYCH. Dywedir fod y Milwriad OWEN LEWIS WILLIAMS, Craig-y-don, Sir Fon, yr hwn -sydd yn awr yn ngosgordd Tywysog Cymru I yn yr India, wedi ei benodi, ar ei ddych- weliad, i aros yn yr Aipht er trefnu a dis- gyblu y Marchlu Aiphtaidd. Yn y flwyddyn 1862, daetli EYAN ELLIS (Afaon), o Lundain i America; a'r gair di- weddaf a gaed od iiwrtlio oedd yn Mai, 1869. A wyr rhywun rywbeth o'i hanes? Dylid hysbysu mai mab ydyw i Griffith Ellis, Tanymarian, Bettws-y-coed. REMSEN, N. Y.-Nos Sadwrn yr 8fed cyfisol, cafwyd cyngerdd o'r fatli oreu yn y ddinas lion gan Proff. W. A. Powell, Scranton. Cynorthwywyd ef gan gorbu id- ugol Eisteddfod UtiCA, dan arweiniad Mr. GrifTith E. Jones. Ofer amcanu darlunio y boddhad a roddodd y naill a'r Hall i'r gyn- ulleidfa Er fod yr ystafell yn orlawn, eto gallwn sicrhau pan ddaw y Proff. Powell i'r ardal hon y tro nesaf, v caiff lawer mwy o gynulleidfa. Bendith ar ei ben, medd— It. A.
MARWOLAETH SETH LLOYD.
MARWOLAETH SETH LLOYD. Am haner awr wedi deg nos Sadwrn, y 15fed cyfisol, bu farw SETii LLOYD o'r Cambrian Inn, conglau heolydd Broad- way a Liberty, Utica, ar ol pum' diwrnod o salwch, yn 56 mlwydd, 7 mis a 22 o ddydd- iau o oed. Cymer yr angladd le am un ar ddeg boreu dydd Iau, y 20fed, o'i anedd-dy diweddar. Rhoddir gwahoddiad cyfired- inol i'r cyfeillion a'r cymydogioniroddi eu presenoldeb. Gweinyddir yn yr angladd gan y Parchn. H. Humphreys, William D. Williams ac H. Gwerfyl James.
GB YB WTLLIQJSF LLENYDD OL,…
GB YB WTLLIQJSF LLENYDD OL, d G. Yn y Drysorfa am Ionawr, ceir dar- lun hynod gywir o'r Parch. ROGER ED- WARDS, ei golygydd galluog a chymeradwy. Yn yr Atlctntic Monthly am Mawrth, un o gyhoeddiadau Seisnig galluocaf y wlad hon, byddgan y Parch. ERASMUS W. JONES erthygl ar y Cymry a'u Sefydliadau yn y Talaethau Unedig, yr hoa, fel y credwn, a egyr lygaid yr Americaniaid at bwysig- rwydd yr elfen Gymreig yn y Weriniaeth. Y mae Pwyllgor Eisteddfod Wis- consin yn parotoi yn brysur i ddethol Tes- tynau ar gyfer y Calan nesaf, y rhai a gy- hoeddir yn fuan yn y DRYCH. "A ydyw Cymreigyddion Utica yn meddwl business sydd gwestiwn a ofynir gan lawer; a'r hwn, mae'n debyg, a atebir cyn hir. .Arswyded y byd Cymreig! Y mae y Parch. EBENEZER T. JONES, Plainfield, wedi cylioeddi yn ddifloesgni fod pob Eis- teddfod Genedlaethol yn felldith i gym- (leitlias-yn fwy o niwed nag o les, o her- wydcl fod rhai pobl yn meddwi ar ol myn- ed i'r dinasoedd. Yn ol logic benbawd y gwr hwn. dylid siarad hefyd yn erbyn Cym- I y anfaoedd Eglwysig, a phob cynulliadau poblogaidd. WILLIAM ROBERTS (Gwilym Eryri), Porthmadoc, a enillodd Gadair y Gordof- igion yn Liverpool, y Nadolig; sef, am Awdl Goffadwriaethol am y Prif Feirdd Cymreig o Aneurin Gwawdrydd hyd Nic- ander-gwobr lOp. a chadair. Trodd yr Eisteddfod allan yn llwyddiant, ac yr oedd tua 3000 o Gymry yn bresenol yn y cyng- erdd hwyrol. .Sylwer fod GWENTYDD FARDD wedi gostwng y pris am y Cardiau at wasanaeth yr Ysgol Sul, o 45 cents i 30 cents. Englyn i'r "Feillionen "—anheilwng 0$2 o wobr, medd Cefni: Y Feillionen wna fy iloni-gan roi Gwên rad wrth arogli; Seren haf, lliw'n hasur ni Gariadus gywir ydi.- Y Wenynen. Anheilwng arall, yn ol yr un beirn- iad: Ar dd61 a bryn mae'r ddalen—a'i harogl Yn beraidd fel Eden; Anadl ein haf-adliw nen Yw llanerch y Feillionen.— Telynog. Y mae lOAN LLECH yn methu yn lan a deall paham y mae Mahonoy yn hawlio yr Eisteddfod Ganolbarthol nesaf; "rhaid ail ystyried y mater," medd ef, "onide mae yn debyg y cynelir Eisteddfod yr un diwr- nod yn Shenandoah. Cytunwch, lenorion, yn ddioed. .Hysbysa Mrs. PERRY WILLIAMS, Cambria, Wis., fod ganddi stoc dda o lyfr- au Cymraeg ar law-llyfrau Gee, Hughes, &c. .Yn Eisteddfod y Gordofigion, Liver- pool, derbyniwyd Madame EDITH WYNNE AGABEG mewn gorfoledd mawr, a chyf- lwynodd Llew Llwyfo Avet Agabeg, Ysw., ei gwr talentog, i sylw y gwyddfodolion, gan edliw iddo ei fod wedi Iladrata un o emau puraf a gwerthfawrocaf Gwlad y ?i-r^ilaUT r^r ^I1-. James Sauvage a • Vil-' i' yn anarferol o boblog- aidd fel cantorion, er eu bod yn y dref yn fynych. Cafodd Megan Mon, Mrs. Jones Williams gwraig yr Alltwen, a Mrs. Kate Wynne Mathiason ran helaeth o glodforedd yr eisteddfodwyr am eu pathos cerddorol. \\Arif?n swyddogol, anfonwyd gwertli$584 950 o lyfrau o'r Talaethau Un- 6C lg 1874-75- Anfonwyd gwerth$95,678 l Loegr. .Dymuna y Parch. G. GRIFFITHS, Cincinnati, ar y brodyr drwy swyddi On- eida, Madison a Lewis, sydd wedi cael ni- fer o Gofiant y Parch. JAMES DAVIES i'w gwerthu, i anfon y tai i Mr. T. J. GRIF- FITHS, yr Argraffydd, Swyddfa y DRYCH mor gynted ag y byddo yn gyfleus iddynt.' Ond pawb o Dalaethau eraill i anfon iddo ef ei hun i Newport, Ky. Hysbysir ni fod Cymdeithas Athron- 01 Hyde Park, nos Sadwrn diweddaf, wedi pasio penderfyniad i anog y brodyr yn Phil- adelphia i fyned yn mlaen gyda'u paroto- adau tuag at gynal yr EISTEDDFOD GENEDL- AETIIOL.
[No title]
CARBONDALE, PA.—"Hyd nes y gwelwyf yn dda" oedd fy addewid ddiweddaf i roddi gair o'r lie hwn. Araf iawn y symuda olwynion y ceir glo yma—haner amser, os gwelwch yn dda, yw hi drwyddi draw.- Garw o beth fod cymaint yn ymddibynu ar y car glo am eu bywoliaeth. Y mae trefn y Rhod wedi bod yn rhoddi tipyn o ochr i mi yn y peth hwn. Y mke un peth yn fy mlino (?) mewn cysylltial a'm scrip diw- eddaf, sef i mi roddi gwafw yn mherfedd- ion rhai o dylwyth selog\Shon Gorff, am yr Wyl De, ac am i mi dd\v;eyd y gwir am hyny. Cymer yn mhen rhai tots i ymosod ar bersonau diniwed, a ystyrrant hwy fod yn euog o'r scrip hwnw. 1I\T1- yma nid ydynt wedi digwydd taro ar y dyn iawn— bydd yn well iddynt fod yn sicr ar bwy y gosodant eu bysedd. Nid oes dim i'r DHYCH i'w golli ddiwrth y bobl yma. Cymer Trallodyn y bai i gyd, dim ond iddynt gael allan pwy yw hwnw. Dyna'r pwnc. Yr eiddoch—Trallodyn. |
G WEI THFAOL—MA SNA CIIOL.
G WEI THFAOL—MA SNA CIIOL. —Rhoddir ar ddeall yn awr fod yr ang- hydfod rhwng Canada a British Columbia wedi ei derfynu; ac y dechreuir gweithio ar y ff ordd haiarn o'r Canada i'r Tawelfor yn y gwanwyn nesaf. Bernir y bydd i hyn greu adnewyddiad buan mewn masnach yn y Tiriogaethau Prydeinig. -ilIac y Caulkers yn sefyll allan am uwch cyflogau yn New York, ac mae y llong-adeiladwyr wedi rhoddi ar ddeall iddynt na chodir y cyflog o'r swm y pen- derfynwyd arno, pan ddechreuwyd sefyll allan. —Yr oedd amryw o lofeydd Pennsylvan- ia i ail ddecbreu gweithio ddydd Llun, yn ol yr hen brisiau. — Cynyrchwyd 2,100,000 o dunelli o haiarn pig yn y Talaethau Unedig yn 1875 —llai o 600,000 o dunelli nag yn 1874. Defnyddiwyd llai o pig iron yn 1875 nag mewn un flwyddyn er 1871. -Gohebydd o Wheatland, Pa., a ysgrif- ena: Ionawr 13eg oedd ddydd ag y dis- gwyliai canoedd o bobl dlodion am dano yn bryderus, set dydd arwerthiant yr lioll weitlifeydd perthynol i'r lie. Ond cawsom ein siomi y waith hon eto. Ni chynyg- iwyd ond$150,000 am danynt, neu tua chwarter eu gwerth; felly gohiriwyd yr arwerthiant hyd Ebrill 13eg. A bellach nid oes genym ond ymlwybro goreu y gallwn trwy'r niwl tew. mewn gobaith am gwmwl goleu y pryd hwnw." —Araf iawn yw y gweithfeydd yn Frost burgh, Md., heb obaith am adfywiad hyd nes agorir y gamlas. Ond y mae y John- son mines wedi cychwyn, gan roddi ycliyd- ig o waith i breswylwyr tai y cwmni, i aros amser gwell.-Gohebydd. —Ymddengys fod caledi mawr yn ffynu yn mhlith gweithwyr haiarn Gogleddbarth JLloegr, yn gymaint a bod llawer o'r gweith- feydd wedi eu cau i fyny dros amser, ac eraill yn debyg o gael eu cau i fyny. Dy- wedir fod llawer o deuluoedd eisoes yn dioddef eisiau—heb ymborth na thân, a hyny ar yr adeg fwyaf anffafriol o'r flwyddyn. Priodol iawn yn ngwyneb yr amgylchiadau presenol y gofyna Baner aa Amserau Gymru—"Pa bryd y cymer gweith wyr wers oddiwrth y trallodion sydd yn dyfod i'w cyfarfod? Tra yr oedd y gweith- ydd yn fywiog, a'r cyflogau yn uchel, yr oedd llawer o'r gweithwyr hyn yn gwas- traffu eu harian ar ddiodydd meddwol, heb feddwl am wneyd un ddarpariaeth erbyn "y dydd drwg;" ac 6 ganlyniad, y maent yn awr yn gorfod byw ar eluseu. A'r un peth a ellid ddweyd am lawer o haiarn- weithwyr a mwnwyr America, o ran hyny. MONSON, MAINE.—Ychydig ydyw nifer y Cymry yma yn awr-amryw wedi myned i roddi tro i wlad eu Tadau, &c. Drwg genyf ddweyd mai marwaidd iawn yw y fasnach lechi er's blynyddoedd bellach, a gwan iawn yw y rhagolygon yn y dyfodol. Mae yma amryw heblaw fy hun heb gael yr un sent am ein llafnr er's chwe' mis. Dy- munwn i fechgyn y chwareli beidio dyfod yma yn awr, am nad oes yma ddim gwaith i'w gael. Yr ydym wedi gorfod lielpu amryw i fyned oddiyma yn barod i leoedd craill i ymofyn gwaith chwarelwyr.
AT BAWBY PERTIIYN IDD YNT.
AT BAWBY PERTIIYN IDD YNT. .DARLITHIAU RHAD! Dywenydd gen ym liysbysu Cymry Utica, o bob enwad, fod y Parch. H. GWERFYL JAMES yn myn- ed i draddodi y gyntaf o gyfres o ddarlith- iau rhad nos Fawrth nesaf (Ion. 25ain) yn nsdiapel y B. ar Broad way. Ei destyn fydd M Yr Oesau Tywyll" {Dark.Ages). Nis gall- esid meddwl am destyn mwy dyddorol, a sicr yw fod Gwerfyl yn abl i wneyd cyf- iawnder ag ef. Disgwyliwn y bydd yr ad- eilad yn orlawn. Cynelir Cyfarfod Llenyddol yn add- oldy yr Annibynwyr, Utica, nos Iau, Ion. 20fed. Mynediad i mewn-10c. .Cofied Cymry Remsen am Ddonation y Parch. R. TROGWY EVANS, yn ei anedd, Ionawr 20fed. Y mae y Pencerdd AUBREY POWELL wedi cyraedd adref yn iach a diogel i Scran- ton, a dymuna dalu ei ddiolchgarwch gwresocaf i Gymry Swyddi Oneida a Nel- son am y derbvniad brwdfrydigaroddwyd iddo, a'r caredigrwydd a ddangoswyd tuag ato pan yn rhoddi cyngherddau yn eu plitli. DWYFOR, bardd Cadeiriol Eistedd- fod Pittston, Pa., yn anfon anerch at y CYMRO BRITH: ANWYL GYMRAWD! Goddefwch i mi ddiolch yn serchog i chwi am eicli trafferth gvda Chadair Pitts- ton, trwy ei hanfon i swyddfa y DRYCH, yn nghyd a'r arian a'r bag prydferth, y rhai a dderbyniais trwy law J. C. ROBERTS yn ddiogel. By the way, anfon- ais air at Cyw Ionawr i'w roddi i chwi ddydd yr Eis- teddfod, os y buaswu yn fuddugol, nad oeddion yn credu yn ?/ ffug-gadair, a fy mod yn gwrthod y cad- eirio yn fy enw. Ai ni chawsoch ef? Diolch yn fawr i chwi am eich trafferth; mae yr arian yn dder- byniol, ond yr oedd y gadair wedi tori ei hosgeiriau cyn cyraedd! Ai tybed fod y breci" wedi dyfod o hyd iddi cyn cyraedd yma? Yr eiddoch byth-Dwy- for, Utica, N. Y. .Donation pertliynol i eglwys y Bed- yddwyr, Utica, nos Iau, Ionawr 27ain. OIl u.
[No title]
PITTSBURGH, Pa.—Efonodio Aneurin.- Daeth y bardd iddi o'r diwedd. Gwyr llawer o ymgeiswyr trwy broflad mai curwr didrugaredd yw Aneurin, ond erbyn hyn y mae ef wedi gorfod teimlo pwys y ffon. Pan y meddyliwn i hyn ddigwydd tua chymydogaeth Eisteddfod y Nadolig, nid ydym yn synu cymaint; eto synwn i radd- au, oblegid nid ydym yn cofio gweled un- rhyw Eisteddfod yn fwy tawel a liedd- ychol. Cymer dd yr amgylchiad pwysig hwn le yn nhy T. W. Davies, Ysw., U. S. Collector, ar y Third Ave. Allan fynychaf y ffonodir; ond defnyddiwyd y ffon y tro hwn yn mharlwr preswylfan Mr. a Mrs. Da- vies, a hyny yn mhresenoldeb dynion o fri ac en- wogrwydd. Enwau y rhai oeddent yn bresenol yd- ynt y canlynol: YrAnrhydeddusM.-S. Humphreys, H. J. Thomas, Ysw., Mr. Davies, tad T. W. D., Evan Jones, Ysw., David Lloyd, Ysw., Proff. J. W. Par- son Price, Ednyfed, Parch. M. Wright, D. Llovd Jones, Ysw., R. Roberts, Ysw., y Wasg, &c. Yn nghanol heddwch a mwyniant, cododd Proff. Price i fyny gan edliwio rhai pethau pigog i Aneurin. Ed- rychai arno mor llym agyr edrycharganwranniben, a rhoddodd gosfa mewn geiriau i'r bardd mewn modd meietrolgar. Ni wyddis o'r blaen fod unrhyw anghydwelediad yn bod rhwng y cerddor a'r bardd, ond amlwg i'r rhai oeddent yn bresenol, oddiwrth lygaid ffiamllyd, geiriau llymion, a modd trydanol y Proff., nad oedd y curo ond megys dcchren. Gal- wodd y beirniad a'r cerddor ar yr Anrhydeddus M. S. Humphreys i geryddu Aneurin am ei ymddygiad- au fel bardd. Cododd y Cymro urddasol i fyny, ac a gwen nefolaldd ar ei wynebpryd gwridgoch, dech- reuodd ganmol y bardd, soniodd am ei wrhydri, can- molodd ei erthyglau campus ar Lenyddiaeth y Cym- ry, traethodd ar ei ymdrechion gyda phob peth gwir Gymreig, adgofiodd y genedl trwy y gwvddfodolion o'i rhwymau i'w gydnabod am ei lafur clodadwy, ac fel arddangosiad o')i parch i Aneurin Fardd cyfiwyn- odd iddo ffon ardderchog, yr hon a wasanaethodd ar y pryd fel allwedd i eiriau gwresog Proff. Price.— Ebonwydden o'r goraf, ac aur o'r puraf a wnacfliaiit i fyny y ffon hon". Amlygodd Aneurin ei ddiolch- garwch iddynt mewn model tImeT h a clouiol, ae yn glimax ar y cyfan dywedudd: "I cannot say any- more, for this has beaten every tiling ont: or me." Ar ol hyn cafwyd areithiau doniol a ciianciiou fwyn- ol. Yr oedd yn bresenol delyn ysbleuydd, a violin- cello ardderchog yn cael eu chwareu ar droiou gan fysedd cywrain. Cafwyd cyfarfod hynod bleserus, ac nid yn fuan yr anghofir noson y 27ain o Ragfyr, 1875. Canodd Proff. Price yn ardderchog. Anrheg- wyd ni a chanenon Saesonaeg ac Italaidd yn rhagor- ol gan Mrs. T. W. Davies. "Melus moes eto." Pwy na hoffai ffon?- Un Oedd Yno. -110
LLAWER MEWN YCIIYDIG.
LLAWER MEWN YCIIYDIG. —Hysbysir fod Trysorydd Talaetli Geor- gia, o'r enw Jones, wedi lladrata$291,000 o arian y bobl; ac mae y Llywodraethwr wedi rhoddi cyfraith ar y meichiau am y swm. —Yn Evansville, Indiana, ar y 6ed cy- fisol, cymerwyd Byron Brigham i fyny o herwydd twyll mewn cysylltiad a'r Whis- key Ring, a chynyrfodd hyny ef yn y fath fodd fel y bu farw yn y fan. —Rhoddir ar ddeall fod dinas New Or- leans mewn dyled yn y swm 0 $21,000,000. Costiodd gwasanaeth yr heddgeidwaid y flwyddyn ddiweddaf ,$490,000. —Cynygiwydmesuryn Nedclfwrfa Ohio, ar yr lleg cyfisol, i roddi dirwy o haner cant o ddoleri ar bob un a gymero enw Duw yn ofer. -Syrthiodd un John White, yn Chicago, yr wythnos ddiweddaf, i gerwyn o waed berwedig; a chyn cael y corlf allan, yr oedd braidd yr oil o'r cnawd wedi berwi i ffwrdd oddiwrth yr esgyrn! —Ar y 12fed cyfisol cymerodd Capten Josiah Briggs, Coxsackie, N. Y., ei briod a'i blentyn i'w gerbyd, i'r dyben o groesi yr afon Hudson ar y rliew fel arfer, a phan oeddynt tua'r canol torodd y rhew a bodd- odd y tri, a'r cefIyl hefyd! -Ni bu priod Andrew Johnson fyw yn hir ar ei ol. Bu farw yn Greenville, Tenn., ddydd Sadwrn. —Cynelir y Gynadledd Werinol Genedl- aethol nesaf i ddewis ymgeiswyr am yr Ar- lywyddiaeth a'r Is-Arlywyddiaeth, yn Cin- cinnati, Meliefin 14eg Yna dechreua y frwydr fawr. —Trwy waith Mr. Beecher yn protestio yn erbyn i eglwysi Dr. Storrs a Dr. Bud- dington gymeryd rhan yn y "Mutual Coun- I zY cil," sef y Cyngor Eglwysig, er penderfynu y materion mewn dadl rhwng Mrs. Moul- ton ag eglwys Plymouth, y mae y cynygiad yn syrthio i'rllawr. Y mae eglwysi Storrs a Buddington y rhai blaenaf perthynol i'r enwad yn Brooklyn, ond y mae y syniad wedi myned ar led fod eu bugeiliaidyn credu yn euogrwydd Mr. Beecher, a dyna mae'n debyg sail y "protest." -Rhoddodd y Llywodraethwr Tilden faddeuant cyflawn i'r personau canlynol yr wythnos ddiweddaf: David Todd, bacligen a anfonwyd i Sing Sing am saith mlynedd, am dJ-losgiad. Caed allan ei fod yn ddi- euog. Charles Mason, ar y cyhuddiad o wenwyno ei wraig. Gwasanaethodd saith mlynedd, a clianfyddwyd ei fod yn ddi- euog. William Kellcher, oedd i wasan- aethu 15 mlynedd, a brofwyd yn awr yn ddieuog. Hefyd rhyddhawyd John A, Ross a Horace Levarich, o herwydd cy- ffelyb resymau. -Mae y Post Feistr James, New York, wedi cyhoeddi yr adroddiad canlynol am y llythyrdy. Mae yn y ddinas 12 o Stations, lie y derbynir llythyrau; 973 o flycliau yn yr heolydd; 429 o bersonau yn cario llyth- yrau. Cariwyd y flwyddyn ddiweddaf 63,164,776 o lythyrau a chardiau; 7,891,571 o newyddiaduron; casglwyd 62 057,571 o lythyrau; 15.175,664 o newyddiaduron; rhoddwyd 82,423,123 o lythyrau, cardiau a newyddiaduron yn y Post, o'r tu allan i'r Llythyrdy Cyffredinol. Cofrestrwyd 56,- 398 o lythyrau yn y Station; derbyniwyd $846,817.28 am y money orders, a thalwyd allan $663,295.18. —Mae yn ninas New York 6,804 o gerti cyhoeddus i gludo nwyddau o'r naill fan i'r llall. Hefyd y mae yno 894 o gerbydau cauedig, pedair olwyn, yn sefyll mewn gwahanol leoedd i gludo teithwyr, a phob un yn meddu ei "Number" ei hun, a rhestr o reolau pris y cludiad. Heblaw y cerbydau a nodwyd, y mae yno 740 o ger- bydau neillduol lieb "Number" arnynt, nad ydynt yn sefyll mewn gorsafau penod- edig, a phenderfynir pris y cludiad drwy gytundeb. MINERAL POINT, WIs.-Mae y tywydd ar hyn o bryd fel pe byddai yn ddechreu Eb- rill. Deallwn fod yr hen frawd John Jones (B.), o Picatonica, yn bwriadu cael math o donation, er codi arian at dalu dyled ei gap- el. Hyderwn y gwna Cymry Dodgeville, Ridgeway a Garrison Grove, eu goreu pan ddaw yr adeg. Mae Mr. Jones yn teilyngu ein cynorthwy, gan ei fod bob amser yn ffyddlawn gyda yr achos, ac wedi bod o wasanaeth mawr i ni y Cymry fel meddyg esgyrn, yn yr hyn y mae yn rhagori ar holl feddygon yr ardaloedd yma. Bydded i ni ddangos ein parch iddo, drwy fod yn bresenol yn y donation.—II. Ilughes. ASPINWALL, NEB-Da;nwain Angeuol- Taflwyd y gymydogaethhon yn ddiweddari gryn gyffro, gan y newydd fod William Lewis, mab i John a Margaret Lewis o'r lie hwn, wedi cyfarfod a'i ddiwedd drwy i gareg syrthio arno tra yn gweithio mewn gwaith glo yn Oskaloosa, Iowa. Nid oedd ond tua chwech wythnos er pan ymadaw- odd oddicartref. Dangoswyd pob caredig- rwydd tuag ato yn yr amgylchiad gan Gym- ly ry Iowa, a theimla' ei rieni yn dra diolch- gar i bawb yno am a wnaethant. Yr oedd yn fachgen ieuanc serchog, a gair da iddo gan bawb, ac hefyd yu aelod ffyddlawn yn yr Ysgol Sal.—Galarior. RADNOR, OHIo-Traddodwyd darlith ar "Freuddwydion" yn nghapel y Cynulleid- fawyr, y 29ain o'r mis diweddaf, gan y Parch. D. JONES, Gomer, O.-testyn na ddarlithtr arno yn gyffredin, er fod breudd- wydion yn ymwybyddiaeth berthvnol i'r rhan fwyaf o ddynolryw. Triniwyd y pwnc yn ei wahanol arweddau gyda manyl- der a medr neillduol; ond ar yr un pryd gyda dyddordeb boddhaus. Ilofifem roddi crynodeb o'rddarlith, ond rhag cymeryd i fyny ofod, ymataliwn gyda dweyd i'r dar- lithydd seilio ei yrnresviniad ar y gredin- iaeth, nad yw y meddwl un amser yn cysgu, yr hyn a ategwyd ganddo trwy lawer o brofion, a gyd-ddilynwydgydag ar- gyhoeddiad o gywirdeb ei syniad. Addaw- wn i bwy bynag a wrendy y ddarlith ben- igamp hon wledd o'r fath fwyaf flasus. Aed i mewn trwy dal, a chawd cynulliad da.—Gwrandawr.
PR YDADY FA WB
PR YDADY FA WB LLI;NDAIN, Ionawr fod chwe' chant o wehyddion Macclesfield wedi eu taflu allan o waith o herwydd an liytun-ieb rhwng y meistri ac ysgrifenydd utideb y gwehyddion. Mae sefyll allan wedi cymeryd lie eto yn mhlith glowyr Gogledd Cymru. Mae anghydwelediad hefyd yn bodoli rhwng cymdeithasau y gweithwyr a'r meistri haiarn yn Kent, ac ofnir y cymer cload allan Ie, yr hyn a daflai 70,000 o ddynion allan o waith. EISTEDDFOD GORDOFIGION LIVERPOOL. Y mae yr Eisteddfod hon ynhen sefydl- iad bellach, wedi ei chychwyn er ys tua deuddeng mlynedd. Cynaliwyd hi y Nad- olig diweddaf yn yr Amphitheatre, yn Liverpool, dan lywyddiaeth E. Samuelson, Ysw.; Llew Llwyfo yn arweinydi. Enill- wyd cadair y Gordofigion, yn ngliyd a I gwobr o £ 10 am yr Awdl GolTawdwriaeth- ol am y "Prif feirdd Cymreig o Aneurin Gwawdrydd hyd Nicander," gan W. Roberts, Porthmadoc. Pedr Mostyn gaf- odd y wobr o £ 4 4s. a tlilws am gyfieithu i'r Saesoneg ran o waith Nicander ar 'Gym eriad Rhufain, gan y Cymry dan Brennus." Dyfarnwyd y wobr o dair gini a tlilws am y Rhiangerdd i'r Parch. J. Cadfan Davies; a'r buddugol ar y Chwe Hir a Thoddaid am y diweddar Barch. Lot Hughes ydoedd y Parch. B. Jones, Coedpoeth. Enillodd Mr. Adolphus Thomas y wobr o £10 a tlilws am y Rhamant; a Glan Menai yd- oedd y buddugol ar y traethawd ar Gymer- iadau hynod y Pwlpud Cymreig yn ystod yr haner cyntaf o'r 19eg ganrif, gwobr pum gini a thiws. Enillwyd v gwobrau am ddatgann gan Eos Bach, Mr. David Wil- liams, Miss E. Jones, Miss Roberts, a Mr. D. Williams a'i gor. Cafwyd cyngerdd ardderchog yn yr hwyr. Bernir fod dros dair mil o Gymry yn bresenol yn ystod yr Eisteddfod a'r cyngerdd.
•- FFRAINC.
FFRAINC. PARIS, Ionawr 17.—Ymae Ffrainc mewn sefyllfa hynod gynyrfus gyda golwg ar yr etlioliadau cyffredinol ydynt yn cael eu cynal yno. Dydd Sul yr 16eg, etholwyd dirprwywyr drwy yr oil o'r wlad, gwaith y rhai fydd ethol Seneddwyr. Mae yr Ar- lywydd MacMahon wedi cylioeddi proclam- asiwn yn galw ar yr etliolwyr i d,'ewis per- sonau a wnant gydweithredu ag ef i gynal i fyny heddwch, a threfn. Dengys yniwed o newid y ffurflywodraeth bresenol cyn rhoddi prawf tegarni. Dywed M. Defaure, y gweinidog cyfiawnder, nad yw Deddf newydd y wasg wedi ei bwriadu i atal rhyddid dadleuaeth gylioeddus, ond yn unig er atal ymosodiadau ffyrn;g ar y cyf- ansoddiad, a chyngora heddynadon i beid- io vmgymeryd ag erledigaethau politic- aidd.
Y GWRTHRYFEL YN SPAEN. ,N
Y GWRTHRYFEL YN SPAEN. ,N MADRID, lonawr 17.—Mae parotoadau ar gyfer yr etholiadau yn caal eu dwyn yn mlaen. Rhoddwyd caniatad gan v Llyw- odraeth i gynal cyfarfo iydd cyhoexldns yn ffafr Castellaar a gwerinwyr node fig eraill, ac atafaelwyd copiau o broclamasiwn a gy- hocndwyd gan nifer o esgobion yn dynodi ymgeiswyr i'r Cortes fel yn annuwiol os byddant yn pleidio rhyddid crefyddol. Dywertir fod y Cadfridog Moriones we i llwyddo i gymeryd bryniau Arrazaine oidi- ar y Carlistiaid. Ceisiai y Times Llun- dain ddangos fod Spaen yn gyfrifol am y niweidiau a wneir i longau Prydeinig yn y porthladdoedd gan gyflegrau y Carlistiaid, ond dadleuir nas gall Spaen wneuthur mwy na chospi y troseddwyr.
Y GHWYLDROAD YN TWRCl.
Y GHWYLDROAD YN TWRCl. CONSTANTINOPLE, Ionawr 17.—Y mae cynllun Count Andrassy, prif weininldog Awstria, or rhoddi terfyn ar y chwyldroad, wedi derbyn cefnogaetii Iiwsiaa Lloegr, ac y mae yn barod i gael ei roddi o flaen y Porte. Ei brif nodweddion ydynt sefydl- iad cydraddoldeb crefyddol, cyfncwidiad yn y gyfundiefn dretliiadol, a chaniatau i Gristionogion wasanaetliu yn y llysoedd.— Dywedir fod Awstria yn parotoi at gymer- yd meddiant o Bosnia os na bydd i'r Porte gydsyaio a'r cynllun. Dywed y Cadfrid- og Twrciaidd yn Herzegovina fod tawel- wch wedi ei adsefydlu, oddieithr mewn ychydig leoedd ar derfynau Montenegro. a y
YMERODRAETII GERMAN!
YMERODRAETII GERMAN! BERLIN, Ionawr lG.- Ymddeng:ys fod yr erledigaethau eglwysig wedi cael." eu hatal ar hyn o bryd, a dywedir fo j Bismarck yn awyddus am ddyfod i.delerau a'r Vatican. Mae y Yatican wedi hysbysu rhai o'r pre- laiiaid ar I)a delerau y gall esgobion Prwsia ymostwng i gyfreithiau Palle:
Y WLAD FA GYMREIG.
Y WLAD FA GYMREIG. Dywed gohebydd i Faner ae Amserau Cymru iddo dderbyn llythyr oddiwrth Se- nor Francisco Sorrome, Swycdog Ymfud- 01 y Llywodraeth Arianaid i, yn (4 Jeffrey Square, St., Mary Axe, Lon on), yn amgau hefyd gyfarwyddyd ei lywodr- aeth iddo, dyddiedig Buenos Ayres," Tach. 14, i anfon allan yn rhad heb oedi 500 o ymfudwyr Cymreig yn deall amaethydd- iaeth, neu alwedigaethau defnyd :101 er- aill, a'u bwriad i anfon allan 40,000 yn chwanegol yn ystod y pedair blynedd nes- af, ac i roddi anifeiliaid ac offer, yn gystal a thir iddynt ar draul y Llywodracthf ar yr amod fod iddynt dalu yn mhen wyth mlyn- edd yr arian a dreuliwyd arnynt, trwy dalu y bumed ran y bedwaredd flwyddyn, a'r burned bob blwyddyn hyd yrwythfed, pan fyddyr oil wedi talu. Dywed fod gan- ddynt ymddiried mawr yn y Cymry, ac yn awyddus i'w gweled yn myned yno nad oes ond y Cymry i gael y rhagorfreintiau hyn, a bod y Llywodraeth bresenol yn Buenos Ayres wedi gwneyd mwy dros y Wladfa mewn ychydig lisoedd, nag a wnaeth y flaenorol mewn deng mlynedd. Bydd y Llywodraeth yn sicrhau cynalhfeth iddynt dros dymor, hyd nes y cant gnwd o'r tir. —Ad roddi" fod Llywodraeth yr Aipht yn ceisio gwerthu ei rheilffyrdd i arian- soddwyr Prydeinig. —Mae dcuddeg o ddinasocdd yn Sonora, Mexico, wedi datgan eu hunain yn ffafriol i'r Crdfndog gwrthryfelgar, Servia. ^—Dywe i telegram o Cairo fod yr Aipht- iaid wedi bedyn dra llwyddianus yn ddiw- eddar yn Abyssynia, a'u bod wedi cymeryd tri o swyddogion Prydeinig oeddynt yn ngwasanaeth yr Abyssiniaid, yn garchar- orion.
Y XLIV G YD G YNG OEFA.
yr unig Seneddwr presenol a bleidleisiodd yn erbyn dwyn cyhaddgwyn yn erbyn Mr. Johnson. ARIAN BATHOL AC ARIAN PAPYR. Dydd Litin diweddaf gwnaeth y Democratiaid yn y Ty ymgais i ddiddymu y ddeddf a basiwyd yn 1875, 1 benodi amser adferiad arian caledion a rliwystro argraffu rhagor o arian papyr. Amcan y Democrat- iaid, wrth gynyg diddymiad y ddeddf anodwyd, oedd cael y ffordd yn rhydd i chwyddo yr arian papyr i swm annherfynoi, a thrwy hyny barhau yr amser caled presenol. Pan ddaeth y cynygiad i bleidlais, cafodd ei orchfygu drwy 158 yn erbyn 112. Ymun- odd y Democratiaid mwyaf profiadol gyda'r Gwerin- wyr i nellub y wlad rhag myned yn bankrupt. -4'"