Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
[No title]
—Wrth sylwi ar feiau pobl eraill y diwygia dyn call ei wallau ei liun. -Os tynir llygad budrchwilen allan, daw ilygad yn ei le trwy dyfiant cyflym.
RHESWM A DATGUDDIAD.
RHESWM A DATGUDDIAD. AT Y PARCH. R. H. EVANS! Barchedig Syr: Maddeuwch i mi am eich cythruddo trwy ddweyd y gwyddwn beth yw eich syn- iadau ar bwnc ein dadl cyn i chwi eu traethu Nid i'ch bychanu chwi na mawrygu fy hun y dywedais hyny. Gwyddoch chwi y gwyr pob darllenwr cylfredin, fod eich holl syniadau ar y pwnc wedi eu traethu lawer gwaith. Pe na ddarllenaswn ddim ond "Simpson's Plea, a thraethawd y Parch. W. Rees ar "grefydd naturiol a dat- guddiedig," buaswn wedi darllen liollswm a sylwedd eich syniadau ar y pwnc. Nid wyf yn honi dim mymryn mwy o wreidd- iolder yn fy sylwadau fy hunan, chwaith; canys y maent oil wedi eu mynegu gan Resymolwyr o'm blaen i. Yr unig wahan- iaeth rhwng eich sylwadau chwi a'r eiddo fi, o ran gwreiddiolder, yw fod yr eiddoch chwi yn adnabyddus iawn i'r Cymry yn gyfffedin, a'r eiddo i yn fwy newydd iddynt. Nid gweddus i wr parchus fel chwi yw colli tymer dda yn nghylch hyn. Gadewch i ni fod yn berffaith foneddig- aidd beth bynag. Os ydwyf islaw sylw pellacli genych, ni ddigiaf; ond ni adawaf i chwi ddianc o faes ein dadl ar hyna bach o esgus; canys y mae y pwnc hwn-Rhes- 10m a Datguddiad—yn un o'r pynciau cref- yddol sydd yn cael. ac i gael sylw penaf yr oes hon. A thra byddo y DRYCII yn can- iatau, yaiff y Cymry wybod rhywbeth am fwy nag un ochr i'r ddadl fawr hon. Mae rhai o ysgollieigion penaf ein hoes—oes, ganoedd o honynt, yn wyddonwyr, athron- yddion, ieithwyr, hynafiaetliwyr, a duwin- yddion yn cymeryd ochr y Rhesymolwyr, ar y pwnc hwn, a'u rliifedi yn cynyddu yn dra chyflym. Ofer hollol yw ceisio cau llygaid ar y ffaith amlwg hon. Ni wna difenwi a cheisio dirmygu yr enwcgion hyn byth eu dystewi. A pha faint bynag islaw eich sylw bach chwi yw sylwadau miniog yr enwogion hyn, goddefwch i mi, anwyl Syr, ddweyd yn barchus wrthych fod yr hen syniadau am oruwch-naturioldeb y Beibl yn dra thebyg o gael eu hysgubo ymaith bron yn llwyr cyn y terfyna y gan- rif hon. Sylwch yn fanwl beth wyf yn ei ddy- weyd. Nid wyf yn dweyd y daw'y Bsibl i anmharch; nid wyf yn meddwl yr am- lieuir ei ddwyfoldeb, nac ysbrydoliaeth ddwyfol eiysgrifenwyr. Nid wyf yn medd- wl am fynyd yceir "ysgrythyrau santaidd" eraill y byd yn rhagorach na'n Beibl ni; canys mae sicrwydd mawr eisoes mai ein Beibl ni yw y rhagoraf o lawer iawn. Ond y peth a amlieuir, ac y dangosir ei ffoledd, yw yr hyn a honwch chwi, a'r hyn na ellwch chwi na neb arall ei brofi byth yw, fod ein Beibl yn anffa'-ledig, ac yn Ilyfr goruwch-naturiol ei gyfansoddiad. Y gwa- haniaeth mawr rhwng y syniadau a bleid- iwch chwi a'r rhai a bleidiaf fi yw hyn: Yr ydych chwi yn credu fod ein Beibl uwch- law gallu rhesjnnol a moesol dynion i'w gyfansoddi a'i ddeall; mai yn oruwch- naturiol, a goruwchddynol y cyfansodd- wyd ef. Yrwyf finau yn tybied mai trwy reswm a natur foesol dyn y daeth y Beibl —mai natur neu allu ysbrydol naturiol dynion a cyfansoddodd y Beibl-fod y Beibl yn brawf o radd uchel o reswm ac ysbrydoldeb y "dynion santaidd" a gyn- yrfwyd i'w ysgrifenu. Yr wyf yn tybied fod y Beibl yn clwyn argraff amlwg o allu mawr rheswm ac ysbrydol feddwl dynion, ac hefyd amlygiadau lawer o ddiffygion, a ffaeledigaetli y cyfryw ddynion. Yr yd- ych chwi yn meddwl mai Duw a gynyrfodd ysgrifenwyr y Beibl i'w ysgrifenu; yr wyf finau yn meddwl hyny; ond Duw yn gweithredu uwchlaw en rheswm, ac yn wyrthiol, feddyliwch chwi; a Duw yn gweithredu trwy "n rheswm, ac yn ol natur y meddwl dynol a olygaf finau. Yr ydych chwi wedi cydmaru rheswm dynol i lygaid y corff, ac yn dweyd na all y llygaid weled heb oleuni. Wel, gwir iawn anwyl Syr; ond ystyriwch, pe byddai y llygaid yn 'fethiant,' pa les yw goleuni mwyna thyw- yllwch iddo? Naturiol yw llygad, a natur- iol yw goleuni iddo. Felly hefyd naturiol yw pob datguddiad i ddyn, n Soniasocli hefyd am gydmariaeth y chart a'r cwmpawd yn debyg i'r Beibl, ac am anallu rheswm i forio heb y cyfryw o New York i Patagonia. Dylech gofio hefyd mai rheswm a wnaethy chart a'r cwmpawd. Ac os deil eich cydmariaeth, felly rheswm a wnaetli y Beibl. Soniasoch hefyd am anallu dyn i ddeall gramadeg heb gymorth y Ilyfr sydd yn dysgu gramadeg. Wel, os yw y gydmariaeth yna yn briodol hefyd, cofier mai y rheswm dynol a wnaetli y llyfrau gramadegol oil!—mai prawf o allu, ac nid o "feddiant," rheswm yw fod gram- adeg i'w gael, a'i fod yn gymorth i ddysgu iawn lefaru. Os tebyg yw y Beibl i'r gramadeg fel cymorth yn y gelfyddyd o siarad, a hyny yn ol rheswm, cofier mai cymorth i reswm cylfredin dynion i ddeall ac ymarfer ysbrydol fuchedd yw y Beibl, ac y gall y Beibl fod mor naturiol ei wneuthuriad a gramadeg. Yr wyf fi yn tybied fod eisiau Beibl i ddysgu ffordd y bywyd i ddynion, fel y mae eisiau llyfrau gramadegol i ddysgu iawn arfer iaitli. Ond rhaid i'r Beibl a'r gramadeg fod yn ol natur, ac nid yn oruwch-naturiol, mewn trefn i fod o les i feddyliau naturiol. Yr ydych yn fy meio am liaeru heb brofi fob Beiblau heblaw ein Beibl ni, a bod llawer o syniadau ardderch- og am Dduw, a bod addysgiadau yn y moesoldeb puraf yn y Beiblau hyny. Wel anwyl Syr, meddwl yi oeddwn i fod dyn deallus a darllengar fel chwi yn gwybod fy mod yn dweyd ygwir am hyny, heb i mi feichio y DRYCII a'r profion a ellir mor hawdd eu rhoddi. Dylech chwi wybod fod llawer o ysgrifeniadau neu "ysgryth- yrau sanctaidd" yn bod, a gyfrifir gan hen genedloedd lawn itnor santaidd, ag y cyf- rifir y Beibl genym ni. A phe darllenech weithiau tebyg i'r eiddo Max Muller, a "Sacred Anthology" Mr. Conway, gwelech mor hawdd fyddai i mi lenwi y DRYCII a dyfyniadau'o Feiblau eraill, yn cynwys y syniadau uchaf am Dduw, ac yn llawn o'r moesoldeb puraf, Digon gwir hefyd yw fod llawer o sothach ffol yn yr ysgrythyrau hyny. Pan ddywedais fod y gwareiddiad goreu wedi bod mewn gwleclydd heb ein Beibl ni, nid y gwareiddiad goreu yn bosibl byth a olygais, canys mae hwnw heb ei gael eto mewn unrhyw wlad, ond y mae yn ffaith amlwg i haneswyr fod y gwareiddiad goreu a fodolai yn y byd mewn llawer oes, wedi bod yn yr Aifft, Groeg a Rhufain, a lle- oedd eraill, pan nad oedd ein Beibl ni yn adnabyddus yno. Amlwg yw fod gradd uchel o wareidd- iad i'w briodoli i lawer o bethau heblaw Beibl. Yr eiddoch yn barchus, Milwaukee, Wis. H. WILLIAMS.
Y PARCH. WM. ROWLANDS.
Y PARCH. WM. ROWLANDS. CORWEN, G. C.—MET. GOT, Yr wyf wedi arfer ag ysgrifenu ychydig fel y gall- af i'r newyddiaduron Cymreig yn Nghymru yn ol fel y bydd amgylchiadau yn galw yn fy nghylch bychan i. Y mae yr amgylch- iad o symudiad y dyn ieuanc da uchod i dir vr "Yankee" at ein cefnder "Jonathan" yn galw arnaf am y waith gyntaf i anfon ychydig i'r DRYcn. Yn un peth, buasai yn dda genyf wybod pa le y mae, fel y gallwn anfon ato yn uniongyrchol ychydig o fy meddwl a'm profiad, a'r hyn a fu ac y sydd, &c. Anfoned ein brawd ei address ataf, fel y gwel isod, a bydd yn dda genyf anfon cymeradwyaeth iddo, wedi ei llaw- nodi gan frodyr a swyddogion cyfrifol, a'i hadwaenant yn dda, a'r rhai a dystiant hyd y dydd hwn eu gofid a'u trallod o her- wydd ei golli o waitli y weinidogaeth Wesleyfddd yn Ngliymru. Wrth ddywedyd hyn, nid wyf yn golygu y gwnai pawb hyny, pe byddai angen. A pha le y mae y gwragygwnai pawb hyny iddo o'r ieu- engaf hyd i fyny at ycadeirydd? Morld liynag, yr wyf yn gwybod fod y Parch. W. Rowlands wedi syrthio i anffawd gyda brodyr a gwragedd, a bod y rhai hyny wedi gallu dylanwadu ar y naill a'r Hall, a'r tryd- ydd, &c. A gwyddoch chwi mae'n debyg, Mr. Gol., fad yn fwy peryglus digio am bell i wraig swyddog mewn eglwys na deuddeg o ddynion da. Dymuniad a gweddi llawer yma ydyw am i law yr Arglwydd fod gydag ef, &c.— Actau 11. 21. Clywais ef yn pregethu yn gampus ar y testyn. A mi a hyderaf nad anghofiaf byth y lies a'r adeiladaeth a dder- byniais i ac eraill, a lluaws o bregethau ar destyr.au eraill hefyd. Gan fod cymeriad moesol a chrefyddel y pregethwr sylwedd- ol hwn' yn dda, bydd yn hyfryd gan luaws yma gael gweled yn y DRYcn, ei fod eto mewn cylcli defnyddiol yn esrlwys lesu Grist. Ydwyf yn serchog-JNO. WILLIAMS, Architect '& Builder, Corwen, North Wales, G. B.
CYNGOR IIEUENCTYD.
CYNGOR IIEUENCTYD. Yr ydym yn cyhoeddi a ganlyn oddi- wrth un o hen ifyddloniaid y DRYCH yn Wales, 0.: "Tymor ieuenctyd yw yr adeg fwyaf manteisiol i gasglu gwybodaeth. Y pryd hwnw mae y cof yn afaelgar, yr ewyllys yn dyner, y serch yn liawdd ei denu, a'r dealt yn fywiog. Eifeithia balch- der a gofalon bydol i wanhau y deall, difEodd y serch a gwneuthur yr ewyllys yn ystyfnig. Gosoder nod uchel o rlaen y meddwl, a defnyddier pob manteision o fewn cyraedd er yingyraedd at y nod hwnw. Pan yn ysgrifenu, gofalwch bob amser am fod yn fyr a cliryno; ac os am ysgrifenu i'r wasg, ceisiwcli enill ff'afr y golygydd, fel os digwydd fod eich ysgrif dipyn yn lledchwith y bydd iddo ei chywiro, a deliwch cliwithau ar y cytle er chwanegu al eich gwybodaeth. Carwn eich gweled oil vn dyfod allan o blaid y DRYCH, yr hwn a ystyriwyf yw y newyddiadur Cymreig goreu yn ein gwlad.—WM. W. JONES.
Y GWIR 0 BRAIDWOOD.
Y GWIR 0 BRAIDWOOD. Ymddangosodd ysgrif mewn papyryn yn ddiweddar, yn llawn twylI a chelwydd o barth y lie hwn. Dywedai y saif y lie hwn oddeutu GO milldir o Chicago aryr Alton & St. Louis R. R., a'i fod yn dybynu yn hollol ar y gweithiau glo ac mai trwch y wythien yw tair troedfedd a chwe' mod- fedd. Gwirbellder y lie o Chicago yw 58 milldir, ac nid yw yn ffaith fod y lie yn dibynu yn gwbl ar y gweithfeydd glo, oblegyd y mae yma ffermydd rhagorof, a gwerthir y cnydau toreithiog i fasnachwyr Chicago a lleoedd eraill. Mae yma hefyd foundry, lumber yard, dwy swyddfa argraffu, yn nghyd a lluaws o stores, a dygir gwahanol gangenau celfyddyd yn mlaen gyda bywiogrwydd. DywTedcdd yn mhellach mal tun. pymtheg cant yw nifer poblogaeth y Her, tra y deng- ys y record eu bod rhwng clxwech a saith mil. Camgymeriad lied dda, onide, mewn He mor fychan? Gellid tybied mai Pabyddion a drigianant yma. gan mwyaf, gan y dywed mai yr elten W yddel- ig a ganfyddir amlycaf yn nglyn ag^ an- sawdd foesol y lie. Nid oes yma ond un eglwys Babyddol gyda thri neu bedwar cant o aelodau, tra y mae yma yn ol ei gyf- addefiad ei hun, bump o gapelau gan en- wadau eraill. Wrtli gyfeirio at nifer y tafarnau yma, ac at y ffiuth fod tri o Gymry yn cymeryd rhan yn y fasnach, awgryma fod y tri hyn yn waeth na'r gweddill, ac mai hwy yw yr achos penaf oanfoesoldeb y lie; ond nid yw hyn yn ffaith, ac nid ydym yn credu ychwaitli fod y dafarn yn fwy o amlygiad o ryfel rhwng nefoedd ac uff ern nag ydyw Iluaws o sefydliadau eraill. Gesyd ef yr holl gyfrifoldeb ar y g werthwyr, ond yn ol athrawiaeth y Beibl y mae llawn cymaint beth bynag o fai ar y prynwyr, yn gym- aint, nad ydynt dan un math o orfodaeth 1 fyned yno, ac ni byddai nemawr berygi i dafarnwyr roddi eu diodydd iddynt yn rhad. Gofaled yr ysgrifenydd hwn o hyn allan ystyried mwy cyn ysgrifenu, a bod yn fwy manwl gyda ei ffeithiau.—MOSES.
W. M. TWEED A'I GYFKEIXHWYK.
W. M. TWEED A'I GYFKEIXHWYK. ANWYL OLYGYDDION: Gofynir ynfynych iawn erpan y mae W. M. Tweed, Ysw., wedi ei ysbrydio ymaith i wlad yr haf, Ai rhyw frad-gynllun o eiddo y pen ceid- wad er hyrwyddo diangfa yr haelgarol Tweed ydoedd, o afael ei gyfreithwyr, drwy ddweyd y byddai rhyw ddirgel ohirio ei aehos hyd nes y cyrhaeddir y "nickel" olaf yn y pwrs? Hefyd in ai'r ff ordd oraf i roddi pen ar y baldordd cyfreithiol fyddai tynhau'r llinynau, drwy gyfrwys ymgolli, ymlitliro o grafangau ei gyfreithwyr, &c. Ai fel hyn y bu rhwng y Pen Ceidwad a W. M. Tweed, Ysw. ? Dyrus-ddwfn ddidaro-a rhithiol yw Cyfreithwyr, rhaid cofio, Eu deiliaid* dr'ow'd o'u dwylo, Clients. I alar tr.vm lawer tro. O'th eirian werth arianol-hawdd daliaf Na fydd dolar dinciol; Nae i law un nicl yn ol, I roi tew ar frawd duwiol. Ha dianc cyn andwyo—'r olygus Aur logell; gwna'n didro, Bhuthr :yrch i anhygyrch ogo' Glyd nen dwll, a wna'th gloi dan do. I'r daitli-gyrchoedd, rhed o'th garehar-Boss Tweed Bas toi yma'r haelgar; A 0 ur rhad. hyn ge's, rhed hen gar Hyw, a dal yn dyn bob dolar. Ilodney, Miss. I. o F.
ATEBIAD I ANNIBYNWU.
ATEBIAD I ANNIBYNWU. WiLLiAMSBURGH, IOWA.—Fy atebiad i'ch gofyniad ydyw mai y Parch. William Wat- kins, Llywydd Cymanfa y Cynulleidfaol- wyr Cymreig yn Iowa a anfonodd gyhoedd- iad yr un y cyfeiriwch ati i eglwysi Iowa. Yr oedd ef wedi bod ar daith yn Wiscon- sin ac yh pregethu yn y lie y cartrefa, ac ar ei gymelliad ef mewn rhan y da.eth yr efengyles i ymweled a ni yn Iowa. Diau ei fod ef yn gwybod am ei chymeradwy- aeth, a chredwyf fod enw Rahel o Fon yn ddigon cyhoeddus. Pe buasui yr enwog Rees, neu John Thomas, Liverpool, Rhys Gwesyn Jones, Utica, Dr. Roberts, Belle- vue, neu Moody a Sankey yn anfon eu cy- hoeddiadau, ni buasai nemawr o son am lythyrau cymeradwyaeth. Ystyriwyf fi fod Rahel o Fon yn deilwng i gael preg- ethu ar ol y goreu o honynt ar ddiwedd cymanfa. Yr oedd fod Mr.Watkins wedijan- fon ei chyhoeddiad yn ddigon o gymerad- wyaeth genym ni yn Williamsburgh. Ond os oes gan Annibynwr rywbeth yn an- trafriol am ei chymeriad, bydded iddo hys- bysu hyny, fel na bo i'r eglwysi agor eu pwlpudau iddi yn rhagor, oblegid disgwyl- iwn hi yma yn fuan eto. Dealled Annibyn- wr nad yw yr unfed-bendeifyniad-ar-ddeg yn son dim am wragedd.—THOMAS A. JONES.
YR AFIACH CHWYDD."
YR AFIACH CHWYDD. Petli cas a gwrthun iawn mewn gwlad Yw'r dyn hunanol, balcli, llawn brad; A dyma sydd yn gwneyd y dyn Yn gasrliyfeddol gan bob un; Mi wn fy mod i, meddai 0, Yn well na neb o fewn y fro, Ond pwy sy'n credu'r gwyntog wr? Neb ond ei hunan bach, bid siwr. A plian bydd dillad rhyw hen ffrind Yn gwaelu ac yn dechreu myn'd, Fe tloeddia'n uchel dros y lie, Gen' i mae brethyn main, on'te. Fe geisia wneyd ei hun yn fawr, Wrth dynu ar ei well i lawr, Er nad oes ganddo ddysg na dawn, A'i ben nid yw yn haner llawn. Diwygia'r adyn mawr dy frol, Dim rhagor o hunanol lol; Y gair efe yn lle'r V fawr, A dyn yr afiacli chwydd i lawr. Nelson, N. Y. PETER D. HUGHES.
AWGRYM TWM 0 DREGARON,
AWGRYM TWM 0 DREGARON, MRI. GOL. Yn y DRYCH am Hhag. 16eg, rhydd rhywun a eilw ei hun "Twm o Dre- garon," hanes cyngerdd a gynaliwyd yn Columbus, Ohio, a clieisia bardduo cymer- iadau rhai personau o herwydd iddynt fe ddio siarad yn erbynrliai petliau a gym- erasant le yn y cyngerdd. Nid wyt am fyned i ddadleu yn bresenol y priodoldeb neu yr anmhriodoldeb o guro dwylaw yn nhy yr Arglwydd, er fy mod yn barod i wneuthur hyny unrhyw amser mewn dull boneddigaidd ac o dan enw priodol. Geilw Twm y personau hyn yn dead heaels gwir- ion a ifug-grefyddol! tra y mae eu gwaith yn sefyll yn erbyn ymddygiadau anheil wng o dy Dduw yn profi mai nid dead heads yd- ynt, ac y maent yn rnhell o deilyngu y ddau ansoddair arall. Geilw hwynt hefyd yn"ddau hurtyn ffug-sancteiddiol, rhag- rithiol a Phariseaidd, gyda sel heb ddim gwybodaeth," a cheisia eubygwthiddye- tawrwydd trwy ddyweyd, "A chofied y ddau hyn os na bydd iddynt ddiwygio, y bydd i'w henwau gael eu cyhoeddi fel y gallo y wlad wybod pwy, a pha beth yd- ynt." Ond dealled Twm mai dyna y cwrs goreu allai gymeryd er dyrchafu cymeriad y ddau frawd. Mac eu cymeriadau y fath fel ag yr edrychir i fyny atynt gan y Cym- ry yn gyffredinol; a phe byddai iddynt gyfnewid, nid diwygiad a fyddai, ond ym- lygriad. I ddiweddu,trhydd Twm gyngor ar fod iddynt dreio gweddio tra y mae pob arwyddion eu bod yn gwybod mwy am y gwaith hwnw nag a wyr ef. Pa beth a gynyrfodd Twm i fabwysiadu y ffugenw a gynierodd? Ai er sarhad ar yr hen bererin duwiol a adnabyddir yn y cylchoedd hyn wrth yr enw Thomas Jones o Dregaron? Os felly, dylai gywilyddio. Columbns, 0. DEIO o DREGARON. I>-
[No title]
—Hysbysir fod bronchitis yn lled gyff- redin yn Llundain yn bresenol, —Dywedir am y diweddar William B. Astor, nad oedd un amser yn arfer tybaco, nac ond ychydig win, er y byddai ar bryd- iau yn rhoddi ciniawau i'w gyfeillion. An- fynych yr arosai allan yn hwyr, ac nid oedd yn arfer mynychu chwareudai. Nid oedd modd ei gynyrfu, ac nid arferai eiriau an- weddaidd, ni ymhyfrydai gyda chwn a gyn- au (efelychir ef yn hyn gan ei ddau fab, ei brif etifeddion), ni chadwai geffylau buan, ac ni byddai byth yn hapchwareu. Nod- weddid ei holl fywyd gan symlrwydd a threfn—ni cheid ganddo i ymyraeth a gwleidyddiaeth, ac ychydig ymddiried oedd ganddo yn nyn mwyaf poblogaidd yr amser. Mewn gair, yr oedd bob amser yn "meindio ei fusnes ei hun."
Tywysogion Cymru.
Tywysogion Cymru. Mm. GOL. Ar ol gorphen cyfansoddi ar gyfer Eisteddfodau'r Nadolig, "cymer- ais yn fy mhen" i gasglu enwan Tywysog- 11 y ion a Breninoedd Cymru Lan Gwlad y Gan; ac os y bydd y rhestr ganlynol o ryw wasanaeth i chwi a'ch darllenwwr, wele hi yn eiddo i chwi; ac os gall rhywun ei gwneyd yn well ac yn llawnach, y mae'r maes o'i tiaen. Yr eiddoch, &c., Utica, N. Y H. G WERFYL JAMES. TYWYSOGION GWYNEDD. Cynedda Wledig yn ei swydd 340 hyd 889 Caswallon Law Goch 389 I' 443 Caswallon Law Hir 443 517 Maelgwyn Gwynedd 517 560 HhuIl ap Maelgwyn 560 586 Beli ap Rhun 586 599 Iago ap Beli 599 603 Canfan ..603 630 Cadwallon 630 676 Cadwaladr 676 703 Idwallwrcli 703 720 Rodrig Molwynog. 720 755 Cynan Tindaethwy 755 817 Merfyn Frych. 817 —— Essyllt —— —— Rhodri Mawr 843 —— Anarawd 877 913 Idwal Foel 913 940 IlywelDdaylaf 940 948 Yn awr rlianwyd y Gogledd trwy ffol- ineb ac uchelgais y tir-feddianwyr, a phen- odwyd dau Dywysog, sef Ieuaf ac Iago. Bu Ieuaf yn ei swydd o'r flwyddyn 948 hyd 966; Iago o'r flwyddyn 949 hyd 972. Dilyn- wyd hwy gan Hywel ap Ieuaf a Iago'r II. Daeth Howell ap Ieuaf i'w swydd yn 972 hyd 984. Iago'r II 975 hyd 979 Cadwallon ap Ieuaf 984 985 Meredydd ap Owain. 985 992 Idwal ap Meurig 990 993 Aeden ap Blegored 1003 1015 Llewelyn ap Sitsyllt 1015 1021 Iago ap Idwal 1021 1037 Gruffiydd ap Llewelyn 1037 1C64 Bleddyn ap Rhiwallon.1064 1068 Bleddyn yr II .1068 1073 Trahaiarn ap Caradog 1073 1076 Gruffydd ap Cynan 1079 1137 Owain Gwynedd 1137 1169 Dafydd ap Owain 1169 1194 Llewelyn ap Iorwerth 1194 1240 Dafydd ap Llewelyn 1240 1240 Owain ap Llewelyn 1246 1254 Llewelyn ap Gruffydd 1254 1282 Dafydd ap Gruffydd 1282 1283 Dyna'r oil sydd a'u hanes ar gael, neu o leiaf, dyna'r oil y llwyddais i gael gafael arnynt. Y mae nodwedd gwerylgar ein cenedl. i'w gweled yn amlwg yn 11 myr-barhad y Tywysogion yn eu swyddau. Dyna warth mwyaf ein cenedi hyd heddyw. Tywysogion Powys a Dinesawr yn y nesaf.—Owerfyl. —Gofyna Grant naw awr o gwsg. —Y mae y llylfaint yn syrthio i gwsg hun-glwyfus yn ystod y gauaf. —Gellir prynu grawnwin (grapes) yn Alicante, Yspaen, am ddimai y pwys. -Fel hyn y cana Cyffdy i'r gwenieithwr: Utganwr teg ei wenau—a'i fawl oil 0 fiaen ein gwynebau; A llacli ei wawd yn llech wau Un cyfnod yn ein cefnau. -Os na bydd gras yn y galon i sanct- eiddio cyfoeth, bydd cyfoeth yn sicr o lygru y galon. —Y mae Duw yn gofyn i ni ei addoli, am mai efe ydyw unig ffynonell ein gwir ddedwyddwch. —Trwy golli cyfoeth, fe gollir llawer; a thrwy golli cyfaill, fe gollir mwy; ond a gollo ei enaid, a gyll y cwbl. -Beth wed'yn ? Gyd a rhwysg wedi'r esgyn—wedi gwawd A gwg yn fy nilyn, Dyma raid—marw wed'yn, Duw a wyr beth wedi liyn. —Coedinor Hen. —Derbyniwyd gwerth 1,006,260 o bunau o hops yn Lloegr y flwyddyn ddiweddaf o wledydd eraill. —Pedair awr y parhaodd ciniaw cy- hoeddus yn y Ty Gwyn yn ddiweddar. —A ganlyn ydyw nifer y dedfrydau a gyfnewidiwyd, neu a faddeuwyd gan wa- lianol Lywodraethwyr er 1860: Fenton, 1866.193 IloSman, 1869.108 Dix, 1873.52 Fenton, 1867.142 Hoffman, 1870.117 Dix, 1874.92 Fenton, 1868.147 Hoffman, 1871.113 Tilden, 1875. t.9 -Wele gyfarchiad bardd i'w gariad: Gwâr, dyner, gariad anwyl-am ddolea Meddylia bob egwyl, 0 gain fun! mae genyf hwyl, A darpariad i'r perwyl. —Y mae arweinyddion y chwareudai Chineaidd yn San Francisco wedi anfon deiseb i erfyn am ddiddymiad y ddeddf sydd yn gofyn ar fod i chwareudai gael eu cau am ddeuddeg o'r glocli. Nid yw cliwareuyddiaetliau Chineaidd yn dybenu yn gyffredin hyd dri yn y boreu os na ddechreuir hwy yn fnan ar ol canol dydd, yr hyn fyddai yn anfanteisiol i'r gweith- wyr. -Fel hyn y cana un o'n derbynwyr wrth dalu yn mlaen am 1876: 'Rwy'n anfon dwy ddolar a haner I dalu am y DRYCH yn ddi-len; Os deuant i'r office yn brydlon, Ni raid i'r hen Bwns gosi'i ben, A d'wedyd, drwg dalwr yw Billi, Fy siomi a ges ynddo fo, Gwell genyf o lawyer yw talu Na gyru'r hen Bwnsyn o'i go." —Cwyna perchenogion y chwareudai yn Paris cblegid amser caled, ond ymddengys y cyrhaedda eu derbyniadau am y flwydd- yn ddiweddaf y swm o$5,000,000 ar gyfer $4,000,000 yn 1873, a $3,740,000 yn 1871, neu fwy nag a dderbyniwyd erioed o'r blaen. -Dyma fel y darfu: i GUTYN ARFON gyfeirio llytliyr y dydd o'r blaen at ei gyf- aill Huw PERIS, Bryn Ooch: At y parod Euqh Paris—i Bryn Cocli, 'Rwy bron cychwyn, megis; Eres yr Sf o ris i ris, Len buraf i Lanberis.
ANNIBYNIAETII NEWY DD-IADUROL.
mygu y gwir? Os gwir hyn, mae new- yddiaduron unochrog achos Mr. Beecher wedi bod yn euog o hono! Ac er mai new- yddiadur yn meddu ar annibyniaeth (liam-: heuol ydyw y DRYCH, ac er fod ei ddarllen- wyr fel petli cySredin yn gwybod hyny, eto nid yw pawb o'i dderbynwyr yn fodd- lawn i gydnabod y gwirionedd, onide ni fuasai cymaint o gwyno ei fod yn unoclir- og ar y pwnc hwn, pan nad oedd ond teg- wch diragritli yn ei holl ymddygiadau o'r dechreu i'r diwedd. Er engraifft, yr ydym yn cofio gweled tair o ysgrifau mewn un rhifyn o'r DRYCII, amser yn ol, ar Mr. Beecher a'i achos-un gan y Parch. Griffith Griffiths, Cincinnati, un arall gan Iago (neu loan) o Efrog Newydd, a'r olaf gan Olyg- ydd y DRYCH ei hun, mewn atebiad i un Mr. Griffiths; ac mae yn ddiau fod y dar- llenydd yn cofio yr amgylchiad, o herwydd ni welsom ddim, er's amser maith, yn dangos rhagoroldeb newyddiadur annibyn- ol, rhagor un enwadol neu bleidiol, yn well na'r amgylchiad dan sylw. Pa argraffiad bynag a adawodd y rhai hyny ar feddyliau y gwahanol ddarllenwyr, rhywbethyn deb- yg i hyn a adawsant ar ein meddwl ni: Ys- grif dda a nerthol ydoedd y gyntaf, yn dangos y brwdfrydedd Cymroaidd yn gys- tal a'r brawdoldeb Cristionogol, a fyrlymai o fynwes Mr. G. at ei gyd-lafurwr yn y weinidogaeth; ac er fod yn amlwg i ni fod y gwr parchedig o Cincinnati wedi darllen achos Mr. B. yn y DRYCH drwy ei spectol enwadol,eto yr oeddem yn caru ei ysgrif, a hyny mae yn debyg am ein bod ni yn cyd- deimlo, fel efe, dros Mr. Beecher. O'r ochr arall, yr oedd ysgrif Iago mor ben- rhydd-eithafol, fel ag i greu cyfogiad!— Profai ei gabldraith i ni nad oedd penglog yr awdwr yn meddu ond ar ychydig o le goruwch ei glustiau, canys er iddo ym- drechu ei oreu i brofi fod nerth asyn ynym- ddangos yn fawr mewn elephant, mae yn rhaid cyfaddef i'w ymdrech droi allan yn fethiant hollol. Yr unig beth a brofodd Iago, i foddlonrwydd, i ni, ydoedd hyn— fod yn rhaid cael pob math o ddynionach i wneyd byd o bobl i fyny. Ond am ysgrif y Golygydd, rhaid yw cyfaddef ei bod yn cynwysgwinegryngystalamel! Nid yw y gwir yn ddymunol bob amser! Fel y gwyr y darllenydd, yr oedd pob ysgrif o duedd Beecheraidd yn dderbyniol gan gyf- eillion Mr. Beecher, a phob ysgrif wrth- Beecheraidd yr un mor dderbyniol gan ei wrthwynebwyr; ac, wrth gwrs, yr oedd ys- grif un ochr yn rhygnu yn arw ar deimlad- au yr ochr arall, a vice versa-, ond pa le mae y dyn na ddywed, yn ei galon, wedi'r cwbl a ysgrifenwyd, mai ysgrifau annibynol Golygydd y DUYCH oedd yn cynwys mwyaf o wir ? Gwelir, gan hyny, fod newyddiadur an- nibynol yn tra rhagori ar un enwadol neu bleidiol, ac fod y DRYCH, fel y cyfryw, yn tra rhagori ar bob newyddiadur Cymreig, o herwydd efe ydyw yr unig un sydd yn meddu ar annibyniaeth gwirioneddol. Y rheswm am hyny yw hyn, nad oes gan ol. ygydd unrhyw newyddiadur enwadol neu bleidiol hawl i feddu ar feddwl annibynol, ond yn unig digon i feirniadu ei wrthwyn- ebytld, nac un ewyllys, ond ewyllys i uf- uddhau, tra mai y gwrthwyneb i hyn sydd wirionedd am Olygydd y DRYCH; a gellir ly priodoli rhagoroldeb yr olaf i onestrwydd a gwybodaeth y darllenwyr, tra mae diffyg y cyntaf i'w briodoli i ragfarn ac anwybod- aeth eu darllenwyr hwythau. Gan nad yw darllenwyr newyddiaduron enwadol a phleidiol yn caru darllen gwirioneddau an- ymunol, ni ysgrifenir dim—gan y credant hwy mai gwell ydyw byw mewn anwybod- aeth a phenfasedd, yn hytrach na chymer- yd eu hyfforddi gan y Golygydd, hwy a gant fyw byth felly o'i ran ef, a hyny o herwydd fod ei fara ac ymenyn yn gor- wedd mewn gwaseiddiwch o'r fath! Ond mae yn sicr fod pob ymddygiad o'r fath yn niweidiol, nid yn unig i ryddid personol, ond hefyd i burdeb swyddogol—ac mae yn rhaid mai ymresymydd gwael arswydus yw y dyn hwnw a gred fod anonestrwydd yn talu mewn gwleidiadaeth neu grefydd! Dywedir mai "diwedd y gan yw y gein- iog," a diwedd y geiniog yw ei gwario; ac mae yn bryd i ninau derfynu. Cyn diw- eddu, dywedwn, pan ddaw y dydd y bydd y Cymry yn arddangos parodrwydd i fedd- wl a barnn drostynt eu hunain, yn lie gad- ael i eraill wneyd hyny drostynt—pan ddeuant i arwyddo tuedd ac awydd i daflu ymaith lyffetlieiriau rhagfarn, yn lie eu gwisgo yn dttWel a dirwgnach-pan ddeu- ant i deimlo yn ddigon cryf a gwrol i dori cadwynau cryfion dall-bleidiaeth, yn lie byw a marw fel cwn wrth raffau-Ye, pan ddaw y dydd i bydd y werinos Gymreig yn dyheu am glywed y "gwir a dim ond y gwir," rhagor egwyddorion rhyw blaid, neu gredo rhyw enwad, bydd newyddiad- uron annibynol yn amlach nag y maent heddyw; a phan ddaw y dydd hwnw, bydd yr hen DDRYCH (bendith ar ei ben), yn lie bod yn wrthrych condemniad (fel y mae gan rai) am ddweyd ei farn yn onest a di- dderbyn wyneb, yn wrthrych gwarogaeth gan bob Cymro a Chymraes, o fewn terfyn- au eang ei gylchrediad! Gwawried yr am- ser gogoneddus. D. C. D.