Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

YMTLOjST Y FFORDD.

News
Cite
Share

YMTLOjST Y FFORDD. Nos Sadwm, Mai 16eg. :Nrn oedd genyf wythnos i heno amser i ysgrifenu dim, ac nid oedd ynof ysbryd i Wneyd pe buasai genyf amser. Taflwyd arnaf yn annysgwyliadwy hollol faich trwm I 0 gyfrifoldeb raawr, ac y mae wedi bod yn gwasgu arnaf trwy yr wythnos. Nid yr Auercbiad yw yr unig gyfrifoldeb; ond y tnae eistedd yn y gadair am oriau i lywyddu cynadleddau niawrion, ac ymddangos mewn gwahanol gynulliadau pwysig yn rhyw fath ? gynrychiolydd, a hyn oil yn mysg dyeithr- laId gan mwyaf, ac mewn iaith estronol, Wedi bod i mi yn faich mawr. Teimlais ryw yoiwared dirfawr -lieithiwr pan ddaeth yr eisteddiad olaf i derfyniad. Aeth llwyth trwm oddiar fy ysgwydd ac er fod Eistedd- lad yr Hydref eto o'm blaen, eto y mae yn fhywbetli i gael yr wythnos hon drosodd. •«iae y cydymdeimlad trwyadl y mae pawb ^edi ei ddangos yn galondid mawr i mi; a Chan na allaf vsgrifenu yn bersoool at y Uuaws cyfeillion sydd wedi aufon ataf eu dyinuniadau caredig, cymeraf y cyfle hwh i ddiolcb yn gynes iudyut oil. Esgusoderffi am gyfeirio at fater o natur mor bersonol; ond yr wyf wedi myned i deimlo nad oes genyf fawr iawn o beth au o natur bersonol, oiid fod broi-i bob peth a bertbyo i mi yn perthyn i'm boll gyfeillion hefyd. Nis gallaf ddatgan y loes a deimlais pan fynegwyd i mi yn gynil prydnawn ddydd f /"a> gan uu Qa fynai ddolurio fy nheirnlad, iod TANYMARIAN WEDI MARW! Yr hen ^y^aill unplyg a gonest! Gadawodd adwy lydan ar ei ol. Dyma rwygiad ar ^■ygiad. Pa becbod mawr a bechodd ein ■*ienwad sydd yn peri fod ein eewri fel hyn yn ryrthio ? Ai tybed fod cwyn rbwng yr ■^•'glwydd a ni ? Nid wyf yma am gynyg rhoddi banes bywyd y Parch E. Stephen, na Rwiieyd unrhyw olrheiniad i neillduolion ei leadvvl a'i gymeriad ond yn sicr yr oedd yu un o dywysogion y bobl. Meddai ar athrylith naturiol cryf iawn nid at gerdd- oriaetb yn unig, er mai yn hyny yr oedd yn fwyaf nodedig, oblegid mai at byiiy yn benaf y cyflwynodd ei feddwl; ond yr oedd ynddo hefyd allu naturiol, pe wedi ei wr- teithio, at gangenau ereill a enillasai iddo le uebel. Cefais achlysur i gyfeirio fwy nag Utiwaith, yn nglyn a rhyw ysgrifau o'i eiddo, at ei fedr lleayddol Ychydig a geid a all- y n asai gyfansoddi mewn priod-ddall m wy Cyrnreig, ac yr oedd ganddo allu nodedig i t, 7 daflu ysbryd a bywyd i bob petb a wnai. Ond cerddor a phregethwr ydoedd uwcblaw Pob peth arall. Ni ryfygaf osod fy marn arno fel cerddor, ond fel pregethwr yr oedd yn un o feistriaid y gynulleidfa. Ni adaw- odd ar ei ol neb yn nieddu mwy o'r dawn Cymreig a wnaeth y pwlpud yn allu yn ein gwlad. Nid mewn dehongliaeth fanwl ar gysylltiadau ei destyn y rhagorai, nac mewn yoiresymiad cywrain o'r athrawiaeth a ddygai ger bron, eithr yn hytrach mewn traethiad hya* dl, gyda gwres. angerddol, o hen wirioneddau gogoneddus yr Efengyl, Iles bod calonau y gwrandawyr yn llosgi, ac ¡ yn ami eu teimladau wedi eu llwyr orchfygu. Yr oedd ei lais dwfn, lleddf, yn taro llinyn- au tyneraf y galon a phan y newidiai ef i'r lion a'r bywiog, yr oedd fel can cariad un hyfrydlais yn canu yn dda," ac yn goglais holl deimladau y natur ddynol. Yr oedd wedi ei wneyd at gyfarfodydd mawr ac uchelwyliau ei wlad, a bydd gwagle mawr o'i golli. Nid llawer o'r fath ddynion mae yr Arglwydd yn ei roddi i wlad, er o bosibl fod ein gwlad ni, yn ol ei maint, wedi ei bendithio a nifer luosocach ohonynt nag un wlad arall. Ond ere a fu farw I Yr oedd wedi cael ymosodiad rai blynyddoedd yn ol, ac ofnid am dano y pryd hwnw ond adferwyd ef yn lied dda, er o bosibl nad i'w north blaenorol. Daeth ailymosodiad yn gynar y flwyddyn hono, a. lledaenwyd y gair unwaith ei fod wedi marw; ac yr oedd ei feddygon ar y pryd yn barnu mai gobaith gwanoedd am ei adferiad o leiaf, os adferid ef, na ddeuai y peth a ft]. Ofnais pan welais ef ddydd Mawrth y Pasg nad oedd gobaith cryf am dano, er y teimlai ef ei hun yn obeithiol iawn, a siriolodd yn fawr wedi tipyn o ym- ddyddan; eto yr oedd arafwch ei wellhad, a'r ffaith ei fod weithiau yn well ac weithiau yn waetb, yn peri llawer o bryder i'r rhai oedd yn ei wyiio, er i'r diwedd dd'od yn an- uysgwyliadwy i bawb. Gallesid cyfrif hefyd o ran cryfder cyfansoddiad ar iddo fyw lawer o flvnyddoedd ond disgynodd i fedd cyn bod yn 60 oed Buasai yn dda genyf fod gyda'r dyrfa fawr o wýr bucheddol a ddyg- asent Stephan i'w gladdu" yn mynwent neillduoclig Bethlehem ddoe. Buasai yn dda genyf o barch i'w goffadwriaeth ef, yn gystal ag er mwyn dangos fy nghydym- deimlad a'i weddw sydd wedi ei gadael yn unig a galarus, a'i blant sydd wedi eu gad- ael yn amddifad o un o'r tadau tyneraf aeth erioed i fedd ond yr oedd yr amgylchiadttu yr oeddwn wedi fy rhwymo ganddynt yn gwfieyd hyny yn an in bosibl. Mae yn chwith genyf feddwl na cbaf weled ei wyneb ef mwyach ac y mae y mynycb ymadawiadau hyn yn codi ryw hiraeth ynwyf am y wlad i'r bon.y mae fy hen gyfeillion wedi blaenu. Treuliais yr wythnos hon yn LIundain jn mwynhau CYFAEFODYDD MAI. Ni cbyfeiriaf o gwbl at Gyfarfodydd yr Undeb Cynulleidfaol. Gadawaf i rywrai ereill i wneyd byny y waith bon. Cefais gyfarfod y Gymdeithas Ddirwestol Gynull- eidfaol, a cbyfarfodydd y Cymdeithasau Cenadol Cartrefol a Thratror, a chyfarfod mawr Cymdeithas RhydJhad Crefydd ac yr oedd pob un ohonynt yn llwyddiant bollol. Ni welais gyfarfod mor lluosog o gwbl yn ngltn a'r Gy mdeithas Ddirwestol a'r un a gafwyd yn y City Temple nos Lun. a Z, Yr oedd llawr y capel eang yn orlawn, a llawer ar yr oriel. Syr Edward Baines oedd y eadpirydd-hen aiwr ar faes dirwest-ac yn mysg yr areitbwyr yr oedd Mr Samuel Morley, Mr Handel Cossham, a Mr Ossian Davies; a ckafodd ein cydwladwr doniol dderbyniad mor garedig, a gwraudawiad mor gymeradwyol gan y dorf fawr a neb ohonynt. Araeth Dr Fairburn oedd araeth y noson yn nghyfarfod y Genadaeth. Gax. trefol, ond rywfodd nid yw hawliau y gymdeithas hon eto yn cael eu cydnabod gan yr eglwysi. Mae cyfarfod blynyddol y Gymdeithas Genadol yn Exeter Hall yn dal yn ei boblogrwydd. Yr oedd yno eleni dri Chymro yn siarad, sef Dr Bevan y Parch M. Phillips, cenadwr o India; a'r Parch Richard Roberts, gweinidog i'r Wesleyaid. Cafodd y ddau fiaenaf awr oreu y cyfarfod, a gwnaetbant eu gwaith i bwrpas ond gwth- iwyd yr olaf i awr olaf y cyfarfod, fel yr oedd yn anhawdd iddo daflu ei bun yn drwyadl iddo, a'r dorf yn dechreu an- esmwytbo, ar ol bod yno am fwy na thair awr. Mae eisieu rhyw drefn o raniad amser yn y cyfarfodydd byn, fel na byddo y rhai olaf yn cael eu taflu i anfantais. Mae cyllid y gymdeithas ar ol i gyfarfod y gofynion, ac nis gellir parhau y gwaith oddieithr i'r eglwysi yinhelaethu mewn baelioni. Rboddir canmoliaeth anarferol i'r bregeth genadol eleni, yr bon a draddodwyd gan y Parcb R. Glover, gweinidog i'r Bedyddwyr yn Bryste. Yn nghyfarfod Cymdeithas Rhyddbad Crefydd yn nghapel Mr Spurgeon, gwnaeth Syr Robert Cunliffe gyflawn degwch ag acbos Dadgysylltiad yn Nghymru, a gwnaeth y Parch A. Oliver, o Glasgow, yn gyffelyb ag achos Ysgotland; ond araeth Mr Spurgeon oedd yn ysgubo pobpeth o'i blaen. Yr oedd yn arabedd byw o'r dechreu i'r diwedd, a rhoddai ffurf boblogaidd hollol i'r dadleuon dros Ddadgysylltiad. Eglur yw fod. achos Ysgotland a Chymru wedi dyfod yn gwestiynau y dyfodol uniongyrchol, ac nas gellir na'u troi beibio na'u gohirio. Gwelid ysbryd y bobl yn y cyfarfodydd byn. Nis gallaf gyfeirio atynt yn mbellacb. Ond y mae un peth nas gallaf fyned beibio heb ei grybwyll, sef yr aflonyddwch a'r anesmwythder sydd yn y cyfarfodydd. Mae hyny yn tynu yn fawr oddiwrth eu heffeith- iolaeth. Dichon fod eu meithder yn cyfrif mewn rball fawr am hyny, ond y mae befyd lawer yn cyrchu iddynt nas gallant eistedd yn llonydd am ddwy awr. Maent fel pe byddai rhyw ^nesmwythder yn eu besgyrn, ac y mae cryn nifer o weinidogion felly, ac y mae arnaf ofn mai trwy eu harferion y maent wedi dwyn eu hunain i'r cyflwr bwnw. Byddai yn ychwanegiad mawr at weddusder y cyfarfodydd hyn, ac yn sicr at eu dylanwad er daioni, pe byddai llai o fyned a dyfqcl ynddynt, ac i bawb, wedi iddo gvmeryd ei le, i aros yno hyd y diwedd, oni bydd rbyw angenrhaid am iddynt fyned. Mae hyn wedi tynu fy sylw, ac wedi peri peth blinder i mi lawer gwaith; ond gosod- wyd fi eleni mewn safle i weled y peth yn fwy amlwg, fel y mae ei wrtbuni yn llawer mwy. Nid ydym ninau yn ein cynulliadau Cymreig yn gwbl rydd oddiwrth hyn, ond vr ydym yn mhell o fod yn euog i'r un graddau ag eu gwelir mewn cynulliadau Seisonig. Wedi y draul i fyned iddynt, da y gwna pob un i fynu a allo o ddaioni ynddynt Lladmerydd.

[No title]