Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Y CYFARFOD CYHOEDDUS.
News
Cite
Share
Y CYFARFOD CYHOEDDUS. Yr oedd y eyfarfod cyhoeddus i fod yn y Tabernicl am 6.30. Mae y Tabernacl y capel mwyafyn Llanelli, ac yn un o'r rhai mwyaf yn Nghymru, ond er ei helaethrwydd, nid oedd yn agos digon i'r gynulleidfa y noson hono. Awr 0 amser cyn adeg dechreu yr oedd y capel wedi ei lanir yn dyn, a chanoedd lawer yn yr am- gylchoedd yn methu dyfod yn agos i'r drysau. Treuliwyd cryn amser i geisio dyfalu pa fodd i wneyd, ac yr oedd pawb yn edmygu doethineb a thymher dda Mr Thomas, Glandwr, a Mr Johns, Llanelli, yn ceisio dwyn y gynulleidfa i drefn a rhoddi mantais i bawb i wrando yr areithiau. Wedi hir gynyg trefnwyd fod dau areithiwr i fyned i Moriah-capel y Bedyddwyr ger Haw, a'r cyfarfod hwnw i gael ei lywyddu gan Syr John Jones Jenkins, A.S., ac yna i ddychwelycf i'r Tabernacl. Mr H. Richard, A.S., i lywyddu yn y Tabernacl, ac wedi gwran- do dau areithiwr i fyned gyda hwy i Moriah. Cafodd pob areithiwr felly gyfle i draddodi ei araeth ddwywaith yr un noson, a'r unig golled oedd fod y ddau Gadeirydd yn cael elywed yr un dau yn y ddau gapel, ond cafodd y ddwy dorf glywed y pedwar a'r ddau gadeirydd an- rhydeddus hefyd. Boddlonodd pawb i'r drefn hoa fel yr oreu allesid ddyfeisio dan yr am- gylchiadau. Safasom ni yn y Tabernacl hyd y diwedd, er i ni orfod treulio yr holl amser mewn mor o chwys poethedig, a chawsom yn dal un o'r gwleddoedd ardderchocaf a fwynha- odd dyn erioed. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan y Parch T. Evans, Amlwch. Pan gododd Mr H. Richard, A.S., fel Cadeirydd, neidiodd y dorf enfawr ar ei thraed, a derbyniwyd ef gyda'r gymeradwyaeth fwyaf brwdfrydig. Mae yn amheus geoyf a gafodd yr aelod anrhydeddus dderbyniad mwy cynes erioed, ac yr oedd rhywbeth yu ogonedd- usi weled y fath warogaeth yn cael ei thalu i foneddwr sydd wedi gwasanaethu ei genedl a'i wiad mor ffyddlon a hunanymwadol dros gy- nifer o flynyddau, Wedi siarad ychydig yn Gymraeg, a mynegi ei resymau dros draddodi ei sylwadau yn Saesoneg, dywedodd fel y canlyn: — Yr wyf yn cydnabod fy mod mewn ychydig o ddyryswch pa beth i'w ddyweyd ar yr achlysur hwn. Buaswn yn dymuno fad PwyllgoryrUndeb wedi gosod i mi ryw bwnc neillduol fel y maent wedi gwneuthur i'r areithwyr ereill ydynt i gy- meryd rhan gyhoeddus yn y cyfarfodydd byn. Mae testyn o unrhyw natur bob amser yn ddef- nyddiol fel man o ganolfan oddeutu pa un y gall meddyliau dyn ymgasglu, neu fel yn cynwys rhyw flaguryn bychan o argymhelliad wna ymddadblygu dan ddylanwad myfyrdod. Mae yn anhawdd gwneyd araeth am bethau yn gyffredinol. Addefaf pan ddechreuais feddwl am rywbeth i'w ddyweyd yma heno, fy mod yn awyddus, ac ar y cyntaf yn hollol benderfynol i beidio siarad dim ar wleidiad- aeth, am fy mod i raddau wedi blino ar y pwne hwnw, ac yn hiraethu am ddianc o'r awyrgyleh boethedig ydym yn anadlu yn barhaus yn St.
UNDEB YR ANNIBYNWYRI .CYM…
News
Cite
Share
(Paihad o iudalen 7.) Gobeithio y gwaredir ni fel gwlad rhag fod ein colegau uwchraddol y dyddiau presenol yn fagwr- fiiu i heresiaeth, &c. Mae art awchus gwasan- aetbgar yn biiiion peth yn Haw y call, ond yn beryglus yn llaw yr anghall. Felly y mae gydag addysg. Mae yn fanteisiol i'r dyn da—i'r Crist- ion ond gall droi allan yn anfantais, ac yn fell- dith amserol a thragywyddul i'r dyn drwg, oher- wydd rhydd iddo gyfie a gallu i fod yn fwy an- nuwiol. Dylai eglwys Dduw gofio cyngbor y gwr doeth, Hyffordda blentyn yn mhen ei ffordd, a pban heneiddio nid ymedy a hi." Rhaid gofalu am y plant. Fe gofia pleutyn yr hyn a ddysg pan yn blentyn ar ol iddo dyfu yn ddyn, "Nid ymedy a hi." Gobeithio nad ces gwirionedd yn yr hyn a glywir rai prydiau, sef, fod gwybodaeth Feiblaidd dyaion ienainc sydd yn ymgeisio am dderbyniad i'r colegau-y rhai sydd a'i gwynebau ar y weinidogaeth--yn mbell o fod yn foddbaol i'r arbolwyr. Os gwir byn, dylem fel eglwysi ymys- gwyd o'r llwcb, ac ymdrechu gwneyd ein gwaitb. Bydd yn ofynol i'n dynion ieuainc, pan yn dyfod i gyffvrddiad o bosibi a dynion ieuaine o syniadau anffyddol, fod yn rhai cadarn yn eu credo Ysgryth- yrol, yn rhai hyddysg yn Ngair Duw, fel na sigler hwy, na'i denu oddiar yr ben ffordd dda. Bydd cleddyf yr Ysbryd-Gair Dnw yn y galon, yn fwy nerthol na chleddyf dur ynyllaw. Dylem ym- drechu rhoddi i'n myfyrwyr yr addysg oreu—fwy- af uchelraddol sydd yn bosibl, er bod i fyny, cs nad ar -y :blaen; fel ysgolheigion a dynion o unrhyw sefyllfa. ParI y mae addysg fydol (secular) yn cael ei dal o flaen ein brodyr ienainc, dylem wneyd yr 01111 allwn er byrwyddo eu ffordd i'w mwynhau. Yn ddios, mae y weinidogaeth Efengylaidd yn haeddu cael y dalent fwyaf dys- glaer, a'r meddwl mwyaf dysgybledig a diwyll- iedig. Mae adeg wedi bod pan nad allai ein my- fyrwyr gael cvstal manteision addysg ag a g-ynygir y 11 iddynt yn bresenol. Cafodd ein gweinidogion anwyl rai prydiau eu gwawdio fel dynion anwyb- odus. Ma- hwn yn hen syniad wedi byw er yn foreu yn y wlad hyd y 19ag canrif, ond y mae ar fin ei drancedigaeth, a rbaid iddo yn fuan dynu ei draed i'r gwely i farw. Na ddeffroer ef o'i gwsg, ac na chaffed adgyfodiad mwyacb. O'm lhan i, wedi'r cyfan gwell genyf y pregetbwr da, heb fod yn ysgolhaig mawr, na'r pregethwr cyffredin, er yn feddianol ar deitlau. Ond nid oes eisieu eu bysgaru, canys cymhortb yw ag y dylai yr ysgol- haig fod i'r pregetbwr. Bydd treuliau ein myfyr- wyr yn fwy o bosibl yn y dyfodol. Dylem wneyd yr oil a allom er eu cynal ya gysurus, ac yn mbell uwchlaw pryder ac angen. Nid rhyw lawer o gynydd a wna dyn ieuane gyda'i wersi os bydd yr atngylehiadau yn aflonyddu ar ei feddwl. Dylem fod yn garedig iawn i'n myfyrwyr. Buasai yn beth hapus, feddyliwn, pe byddem yn casglu at gynal ein myfyrwyr yn ein colegau, beb forl yn rhaid i'n brodyr ieuainc respectable fyned ar draws y wlad, nac o ddrws i dd) ws fel begeriaid i ofyn ein hewyllys da." Dylem fel eglwysi weddio llawer dros ein myfyrwyr. Cofus genyf fy mod mewn capel yn y Gogledd tua 15 mlynedd yn ol mewn cyfarfod dirwestol. Y mae ar front yr oriel yn y capel hwnw mewn llythyrenau amlwg y geriau, Cofiwch y morwyr." Awgrymai un o'r nreithwyr yn y cyfarfod hwnw, tnai priodol fyddai gosod y frawddeg, Cofiwch y Meddwon," o dan bono. Gyfeillion, ai nid priodol fyddai fod mewn He amlwg yn mhob capel drwy ein gwlad y goiriau, "Cofiweb y myfyrwyr," a gofalu eu cofio yn ein caredigrwydd, ein cyfraniadau, a'n gweddiau. Cymerwyd rhan yn yr ymddyddan ar bapyr Mr Evans gan Syr J. Jones Jenkins, A.S., a Dr Evans, New College, Llundain. Cynygiwyd gan y Parch D. Roberts, "Wrexham, ac eiliwyd gan Mr D. Williams, Training College, Abertawy— Thit this meeting desires to express its hearty thanks to those of the Welsti Members of Parliament who have given assiduous attention to the question of Intermediate Education in Wales deeply regrets that no opportunity was given to the Government to introduce to the House of Commons their Bill on the subject during th's Session, nd trusts that our representatives will spare no vft nt to get a bill, in a torm suited to the reqaiiements of Walos, introduced and pissed-in the next Session of P rliaraont, and that a copy of this resolution be se: t to each of the members. Cynygiodd y Parch J. Miles, Aberystwyth, welliantyn cynwys gadael allan yr adran gyntaf o r penderfyniad fel y darlienwyd ef ar y cyntaf, yr hon a ddiolchai i'r holl aelodau Cymreig am eu gvvasnnaeth gyda Mesur Addysg Canolraddol; a dadl Mr Miles oedd, nad oedd yr holl aelodau wedi bod yn ffyddlon, a bod gonestrwydd yn galw arnom i beidio diolch ond i'r personan oedd wedi gwneJd eu gwaith. Yr oedd yn ddigon amlwg fod nifer fawr yn cydymdeimlo a syniadau gonest a didderbynwyneb Mr Miles. Nid yw hon yn adeg i ganmol ond y teilwng a'r ffyddlon. Eitiwydygweiiiantgany Parch J. M. Ilees, Pentrefoelas. Dywedodd Syr J. J. Jenkins, A.S., fod Mr Henry Richard, A.S., yn teilyngu y gymeradwyaeth uchaf am ei ffyddlondeb gyda'r mesur hwn, beth bynag am y lleill; a phan oedd y cyfarfod yn barod am ddadl, dangosodd y Parch Dr Thomas, Liverpool, gyda ei graffder arferol, pa fodd i gyfuno y ddwy blaid-boddlonodd pawb, a phasiwyd y penderfyniad yn y modd y mae uchod. Gwnaeth Mr Miles wasanaeth mawr trwy godi y cwestiwn i syJw, a diau ar ol hyn y byddwn yn gwylied symudiadau yr Aelodau Seneddol yn fwy parchus. Cynygiodd y Parch W. Nicholson, Liverpool, ac eiliodd y Parch D. M. Jenkins—■ Fod eglwysi Cymreig Llu .d-iin i'w hystyried yn ea perthynas a'r Undeb Cymreig yn Neheudir Cyinru. Dewiswyd y personau canlynol i archwilio y pleidleisiau dros y Cadeirydd, sef y Parchn R. Morgan, St. Clears; D. A. Griffith, Troed- rhiwdalar; J. B. Parry, Llansamlet; a Mr J. T. Williams, Ffestiniog ac yna rhanwyd papyrau i'r tanysgrifwyr er pleidleisio, ac wedi i hyny gael ei wneyd, ac i'r cyfrifwyr fyned o'r neilldu at eu gwaith, aed yn mlaen a gwaith y cyfarfod. LLEOLIAD YR UNDEB Y FLWYDDYN NESAF. Awgrymodd y Parch D. Griffith fod ei eglwys ef yn Dolgellau wedi pasio yn unfrydol i gael yr Undeb y.flwyddyn nesaf, ond ei fod yn deall fod Mr Miles, Aberystwyth, a'r cyfeillion yno yn dra selog am dano, ac felly ei fod yn barod i roddi ffordd. Cynygiodd y Parch D. Roberts, Wrexham, ac eiliodd y Parch J. Evans, Pwllygwlaw- Fod cyfarfod nesaf yr Undeb i fod yn Aberystwyth. Yr oedd Mr Miles, wrth ofyn am dano, yn flaenorol wedi egluro na fuasai yn gyfleus iddynt hwy ei dderbyn hyd ddiwedd mis Mai neu ddechreu Hydref oblegid yr ymwelwyr, ac ymddangosai pawb yn foddlon. Cynygiodd y Parch D. Adams, B.A., Hawen, ac eiliodd y Parch D. Thomas, Llangynidr— Fod y peisonau canlynol yn cael eu dewis yn is. bwylbror i ddarpiru enwau i'w dwyn ger bron y Gynadledd boreu yfory fel aelodau lIewydflion ar Bwyllgor yr Undeb, sef y Parchn R. W. Griffith, Bethel; J. Miles, Aberyatwybh W. I. Morris, Pont- ypridd; H. Jones, Birkenheid; a Mr J. Cadwaladr, Ffestiniog. Crybwyllodd Mr T. Williams, Y.n" fod Mr C. R. Jones, Y.H., ac yntau wedi eu penodi gan Bwyllgor Trysorfa yr Hen Weinidogion i ddwyn y mater i sylw y cyfarfod hwn, a bod Pwyllgor yr Undeb yn garedig iawn wedi caniatau amser iddynt at hyny. Ond yn herwydd fod Cymdeithas Ddarbodol y Gwein- idogion wedi ei chyehwyn mor addawol, a Mr C. ii. Jones yn absenol, yr oedd wedi barnu yn briodol i ohirio y statement a fwriadai wneyd yn ffafr y drysorfa hyd y flwyddyn nesaf; ond dymunai ddyweyd hyn yn awr, nad oedd yn gweled un rhtiswm i'r ddwy gymdeithas fod yn wrthwynebus i'w gilydd, nac yn anfantais y naill i'r Hall. Gallai y ddwy gydweithio yn ddymunol i'r un amcanion, q bod yn dda gan ei galon fod y ddau fudiad oedd yn amcanu mor dda i'r gVlwidogion mewn sefyllfa mor llwyddiaiti d gobeithiol. CiFLWYN,1 CENABWjR I SYLW. Cyflwynwyd y Parch Maurice Phillips, cenadwr o India, i sylw y cyfarfod. Derbyn- iodd y ( aadledi efgyd rteimladaumwyaf cynes. I1 le Mr Phillips yn enedigol o Llan- boidy, sit Gaerfyrddin, ac yn frawd i'r Parch J. L. Ph ps, Bedford Chapel, Llundain. Derbyniwyd ef yn aelod yn Siloa, Aberdar, gan y Parch D. Price, ac yno y dechreuodd bregethu. Cafodd ei addysg yn Bedford. Cafodd ei urddo yn Narberth, Awst 14eg, 1861, ac aeth allan i'r India yn Medi y flwyddyn hono, lie mae wedi llafurio gyda Ilwyddiant mawr. Cysegra lawer o'i amser i bregethu 'teithiul, ac y mae wedi enill enwogrwydd mawr yn y eymeriad hwnw. Gallem feddwl wrth ei anerchiad bywiog a tbanllyd ei fod wedi cael ei gymhwyso gan natur a gras at y gwaith. Cariodd ei sylwadau ddylanwad mawr. CADEIRYDD Y FLWYDDYN DDYFODOL. Gyda fod Mr Phillips yn gorpheu siarad' mynegodd y Parch R. Morgan, St. Clears, dros yr archwilwyr, mai y Parch Owen Thomas, Brynmair, sir Aberteifi, oedd wedi cael y nifer fwyaf o bleidleisiau i fyned i'r Gadair ac yna cynygiodd y Parch Dr Thomas, Liverpool, ac eiliodd y Parch Dr Rees, Abertawy- Fod y Parch Owen Thomas, Brynmair, yn cael ei driewis yn nnfrydol yn Gatieirydd yr Undeb am y flwyddyn nesaf. Cydsyniwyd a hyn yn y modd mwyaf calonoj. Gwnaeth Mr Thomas ei hun sylw byr a phwrpasol, ac yr oedd yn olygfa i'w chofio i weled y Cadeirydd a Mr Thomas yn ysgwyd dwylaw, canys yr oeddynt ill dau wedi bod ynweinidogion yr un eglwys, a llawer o gysylltiadau tyner wedi ffynu cydrhyngddynt. Wylai y ddau, ac yr oedd y gynulleidfa yn orlawn o gydymdeimlad trwyddi. Gorpienwyd trwy weddi gan y Parch W. Evans, Iberaeron.