Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

---YMYLON Y FFOEBD- -

News
Cite
Share

YMYLON Y FFOEBD- Nos Sadwrn, Mehefin 7fed. MAE Cynghor Coleg Bangor erbyn hyn gystal a bod wedi myned trwy y gorchwyl profedigaethus o DDEWIS ATHRAWON. Dichon fod cryn siomedigaeth, a pheth an- foddlonrwydd, o bosibl, na buasai Cymro wedi ei ddewis yn Brifathraw, er fod pawb yn sicrbau fod y boneddwr a ddewiswyd yn mhob modd yn gymhwys i'r swydd, a bod ei dyst-lythyrau yn rhoddi iddo y flaenor- iaeth ar ei holl gydymgeiswyr; ac os felly, nid wyf yn gweled fod dim i'w wneyd ond yr hyn a wnaed. Mae yn naturiol iawn i ni deimlo yn awyddus am i un o'n cenedl ni gael anrhydedd fel hyn, a buasai yn dda genyf pe buasai Cymro ddigon yn mlaen fel na buasai dadl nad iddo ef yr oedd yr an- rhydedd yn deilwng ond mewn cydymgais o'r fath, nid oes dim mor deg a rhoddi y flaenoriaeth i'r cymhwysaf, ac yn sicr hyny yn unig sydd ddyogel. Mae yn bosibl i ni gario ein cenedlgarwch a'n henwadaeth i eithafion, ac y mae arnaf ofn fod rhai cyfeill- ion selog wedi gwneyd hyny yn yr amgylch- iad yma. Annoeth iawn, fel y credaf, oedd cyhoeddi enwau rhai o'r ymgeiswyr trwy y wasg, a pha le y safent yn arhoiiadau eu gwahanol golegau. Diau fod hyny wedi ei wneyd gyda'r amcan o enill ffafr iddynt; ond os cafodd hyny ryw effaith o gwbl, credaf mai i'w hanfantais y bu. Rbaid i mi ddyweyd, pe buaswn ar y Cynghor, y buasai y gorganmol a wnaed trwy y wasg ar rai o'r ymgeiswyr, a'r cymeradwyaethau eithafol a roddwyd gan ereill, yn peri i mi betruso ac amheu ai gwir deilyngdod yr ymgeiswyr oedd yn cyfrif am hyn oil, ac amheu ai nid oedd cyfeillgarwch ac enwadaeth wrth y gwraidd.. Y mae gorganmoliaeth yn ami yn fwy andwyol na difriaeth. Heblaw hyny, nid trwy y wasg y mae penderfynu y fath beth a pha ddyben cynhyrfu a chreu rhag- farnau yn meddyliau pobl nad oes ganddynt lais o gwbl yn y mater. Mae y tanysgrif- wyr wedi ethol Cynghor i benderfynu yr holl bethau hyn, a cher bron y Cynghor hwnw y mae pob ymgeisydd i brofi ei gymhwysder. Yr wyf wedi ei ddyweyd o'r blaen, ac yr wyf yn ei ddyweyd eto, y buasai yn dda genyf pe buasai y Cynghor hwnw yn fwyCymreig o raneinodwedd a'i gydym- deimlad. Nid fod mwy o Gymry arno wyf yn ei feddwl. Mae arno nifer dda o'r cyf- ryw, fel na raid ewyno ond ni wyr y rlian fwyaf ohonynt ond ychydig am Gymru. Nid ydynt erioed wedi ymgymysgu a'r bobl, fel ag i wybod eu syniadau a'u teimladau. Saeson ydynt i bob pwrpas. Nid yw Mr Osborne Morgan mewn gwirionedd yn ddim mwy o Gymro na Mr Rathbone, ac y mae yn amheus genyf a ydyw ei gydymdeimlad mor ddwfn a thrwyadl ag angenion ac am- gylchiadau y genedl. Yr wyf yn enwi y ddau yma am eu bod yn mysg aelodau Z!) blaenaf y Cyngbor, ond yn engreifftiau o lawer dau ereill sydd arno. Nid oes ond nifer fechan o ddynion gwir Gymreig ar y Cynghor, y rhai sydd yn adnabyddus o'r bobl, ac yn gallu myned i mewn yn llwyr i'w teimladau. Dichon nas gallasai fod yn amgen. "Arian da wrandewir" mewn pethau o'r fatb, ac nis gellir gwneyd heb- ddynt; ac y mae yn dda iawn fod y gw^r arianog hyn yn cymeryd y fath ddyddordeb yn addysg eiu gwlad. Y maent yn haeddu pob clod am y symiau mawrion a addawsant yn nghyfarfod diweddaf y Cynghor at ysgoloriaethau, yn ychwanegol at y symiau anrhydeddus a gyfranasant o'r blaen. Nis gellir dysgwyl lai nag i reolaeth y Coleg fyned i fesur mawr i ddwylaw y boneddwyr hyn, y rhai y mae eu haelioni yn rhoddi iddynt ryw hawl i hyny; ond mewn Cynghor nad yw y teimlad cenedlaethol yn gryf, nis gallesid dysgwy] fod rhyw sylw mawr i genedfgarwch yn yr apwyntiadau. A dichon wedi y cwbl mai felly y mae oreu. Nid oes dim mor ddyogel a rhoddi y flaen- oriaeth i deilyngdod, beb adwaen neb yn ol y cnawd. Nis gellir dysgwyl fod iiiferfitwr o'n cenedl ni eto yn gymliwys i'r swyddi ucbaf mewn sefydliadau o'r fath. Y syndod ydyw, yn wyneb ein hanfanteision, fod gen- ym gynifer wedi cyrhaedd safle mor an- rhydeddus a chredwn, gyda'r manteision sydd o flaen ein gw^r ieuainc, y bydd golwg hollol wabanol ar bethau cyn yr ii deng mlynedd arall heibio. Nid ydym yn gofyn dim i'r Cymro ieuanc ond yr un manteision ag a roddir i fechgyn o genedloedd ereill— maes rhydd heb unrhyw ffafr. Byddai yn ddrwg iawn genyf weled Cymro ieuanc talentog a dysgodig yn cael ei gau-allan o unrhyw gadair yn Lloegr am ei fod yn Gymro; a buasai yn ddrwg iawn genyf weled Cymro wedi ei osod yn mhrif gadair Coleg Bangor, heb fod y Cynghor yn unfryd unfarn yn credu mai efe o'r holl ymgeiswyr oedd y cymhwysaf i'r swydd. Nis gallaf yma gyfeirio at yr apwyntiadau ereill, y rhai nad wyf yn sicr a ydynt eto wedi eu cadarn- hau; ond y mae genyf bob hyder yn ngwybodaeth a gonestrwydd y Cynghor y dewisant y personau a farnant hwy gy- mhwysaf er dyogelu effeithiolaeth y Coleg yn gwbl annibynol ar genedl a sect; ac y mae pob dadl wedi barn, a phob ymgais a wneir i gynhyrfu aflonyddwch yn meddwl y cyhoedd yn wrthryfel yn erbyn pob trefn, ac yn waeth nag ofer. Mae gan Mr Morgan Richards, Bangor, ond a adnabyddir yn well wrth yr enw Morgrugyn Machno, lytbyr yn y Liverpool Mercury am heddyw gyda golwg ar gynyg- iad Ficer Bangor i gael Z3 COFADAIL I'R DEON. Mae Mr Morgan yn cynyg cael yr byn a elwir Hostel i'r Eglwys Sefydledig yn ngtyn a Choleg Bangor, i fod yn gofadail i'r Deon, ac yn galw am help pawb, yn Eglwvswyr ac Ymneillduwyr, i'w chodi. Mae mater fel hyn yn un tyner i ysgrifenu arno, ac y mae ynanhawdd gwneyd hyny yn ddidramgwydd pan y mae dynion mor barod i gam-esbonio pob peth a ysgrifenir. Ond gwr pur ddiofn ydyw Mr Morgan Richards, ac ni phetrusa byth a dyweyd yr hyn a gredir ganddo, er y gwyr y bydd trwy hyny yu tynu gwg rbyw- rai arno. Llawn o synwyr ar v cyfan ydyw yr hen ymadrodd, Na ddyweder am y marw ond y da a chreulawn yw y dyn a faedda ddyn yn ei fedd. Beth bynag oedd ei golliadau, gadawer i'w fedd gau am dan- ynt oil. Nis gwn am neb a fu farw ag y mae pawb wedi gwneyd hyny yn fwy Ilwyr a'i goffadwiaeth na'r Deon, druan, a ddaeth i ddiwedd mor anffodus. Tosturi yw y teimlad mwyaf cyffredinol tuag ato ac yr oedd llawer o'r rhai a anghytunent fwyaf ag ef, ac a ddywedasant y geiriau caletaf am dano yn ei fywyd, yn mysg y rhai parotaf i anghofio y cwbl wedi ei farw, a rhoddi yr esboniad tyneraf ar ei ddiwedd gofidus, a thalu y deyrnged ddyledus i'w dalentau a'i alluoedd, a'i wasanaeth i'w oes. Nid yw Mr Richards yn y llytbyr dan sylw yn ceisio tynu oddiwrth deilyngdod y Deon yn y cysylltiadau yr oedd yn gweithio, er fod yn eglur ei fod yn credu fod y ganmoliaeth a roddir iddo yn eitbafol, a dywed yn bendant nad oedd ei wasanaeth yn gyfryw ag i hawlio cofadail genedlaethol; oblegid mai nid ei genedl, ond ei Eglwys yn benaf a wasanaetbid ganddo. Dicbon y bernir ef yn galed am ddyweyd hyn ar yr adeg yma, ond gwelais gyfeiriadau ereill i'r un perwyl gan fwy nag un, ac y mae yn bur sicr fod llawer yn ycbwaneg yn cydymdeimlo a'r un syniadau. Prin y teimla llawer fod y rhwjsg mawr a fu yn nglyn a'i gladdedigaeth, a'r gogoneddiad mawr a wnaed arno mewn rhai cynulliadau, ac yn y pwlpud, a thrwy y wasg-, yn weddus i un wedi myned ymaith o dan yr alllgylcbiadau yr aeth efe. Nid.oes un ddadl nad oedd ei feddwl wedi ei an- mharu, a hyny fisoedd cyn i'r amgylchiad blin gymeryd lie; ond gan iddo dd'od i'r fath ddiwedd, gwell, yn ol barn llawer, pe buasai llai o rwysg wedi bod .yn nglyn a'i gladdu, a llai o sylw cyhoeddus wedi ei wneyd o'r amgylchiad pruddaidd. Barneiit y buasai ei gladdu yn ddystaw a didwrw yn fwy cydweddol a difrifwch yr amgylchiad. Ond daeth y peth mor annysgwyliadwy nes taro pawb a synedigaetb, ac yn nghyffroad y teimlad anghofiwyd pob angbydwelediad ac ymryson, ac ni chofiwyd ond yn unig ei rinweddau, ac i'r cyfryw y rhoddwyd cy- hoeddusrwydd, a hyny, hwyrach, mewn lliw cryfach nag y gwaethid dan amgylchiadau llai cynbyrfus. Nid rhyfedd, gan hyny, fod ambell un fel Mr M. Richards, oedd yn gallu meddianu ei hun, a heb gael ei gario gan deimladau cyffrous, yn galw ar ddynion i ymbwyllo, ac edrych i ba le y maent yn cael eu harwain. Yr wyf fy hun wedi teimlo fod ymadroddion anochelgar wedi eu defnyddio, a rhai pwlpudau a chynadleddau wedi llefaru y buasai yn weddeiddiach iddynt fod yn ddystaw. Yr oedd yn briodol iawn i Gyngbor Coleg Bangor basio pender- fyniad yn nglyn ag ef yn eu cyfarfyddiad cyntiif wedi ei gladdu, gan ei fod yn aelod ohono ac nid oedd mor briodol i neb gynyg penderfyniad ar yr achos a'i hen gymydog a'i gyfaill Mr Herber Evans, ac nis gallasai yntau ei wneyd mewn ymad- roddion mwy tyner a chydymdeimladol nag y gwnaeth. Mae amlygu parch i gofifadwr- iaeth y marw, a datgan cydymdeimlad a'r galarus yn briodol iawn ond y mae o bwys gwneyd hyny mewn ymadroddion a adawa argraff dda ar feddwl y byw. Ofnir gan I lawer fod pethau wedi eu dyweyd o bwlpud.